Agenda and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun LL15 1YN a thrwy gynhadledd fideo
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
TEYRNGED I’R CYN GYNGHORYDD SIR, GARETH ROWLANDS Talodd Is-gadeirydd y Cyngor, y Cynghorydd Arwel Roberts,
deyrnged i’r diweddar cyn Gynghorydd Sir a’i gyd-Gynghorydd Tref Rhuddlan,
Gareth Rowlands. Dan arweiniad Cadeirydd
y Cyngor, cafwyd munud o dawelwch. Dogfennau ychwanegol: |
|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Geraint Lloyd Williams ac Elfed Williams. |
|
DATGANIADAU O FUDDIANT Aelodau i ddatgan
unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy’n peri rhagfarn yn gysylltiedig ag
unrhyw fater sydd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafodd unrhyw gysylltiad ei ddatgan. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion
brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Caniataodd y Cadeirydd i’r Cynghorydd Chris Evans rannu’r
llwyddiant a’r ymgysylltiad rhagorol a welodd yn ystod ei ymweliad â’r ffair
swyddi yn y Rhyl y diwrnod cynt. Ategodd
yr Arweinydd a’r Dirprwy Arweinydd at ei sylwadau. Dywedodd y Cadeirydd fod dau gwestiwn wedi dod i
law. Cyfeiriodd y Cynghorydd Terry Mendies at y swyddi
swyddogion gorfodi cynllunio gwag a gofynnodd p’un a oedd y Cyngor yn mynd
ati’n weithredol i geisio recriwtio dau swyddog gorfodi cynllunio ar hyn o
bryd? Ymatebodd y Cynghorydd Alan James, Aelod Cabinet
Arweiniol Datblygu Lleol a Chynllunio gan gyfeirio at adroddiad a ystyriwyd gan
y Pwyllgor Craffu Cymunedau ym mis Rhagfyr 2024 a oedd yn cynnwys nifer o
achosion a gofnodwyd fel rhai a oedd yn destun ymchwiliad, a oedd yn oddeutu
590, ac roedd y ffigwr presennol yn debyg hefyd, a thynnodd sylw hefyd at
adnoddau staffio a oedd yn cynnwys y ddwy swydd gorfodi. Fodd bynnag, yn ogystal â’r ddwy swydd lawn
amser, roedd y Cyngor wedi gallu sicrhau dwy rôl Swyddog Gwella drwy’r Gronfa
Ffyniant Gyffredin, a lluniwyd y rolau hyn i ganolbwyntio ar faterion
amgylcheddol ac adfywio canol trefi.
Amlinellodd y Cynghorydd James yr anawsterau a brofwyd o ran recriwtio
staff gorfodi priodol a bod y Cyngor yn ailystyried y meini prawf hanfodol ar
gyfer y swyddi hyn ar hyn o bryd er mwyn recriwtio staff gorfodi newydd. Gofynnodd y Cynghorydd Mendies a fyddai modd i staff
cynllunio cyfredol gefnogi’r gweithgareddau gorfodi hyn yn ystod y cyfnod
heriol hwn o ran recriwtio? Eglurodd y
Cynghorydd James fod y tîm yn ystyried gwahanol ffyrdd i helpu â’r problemau
gorfodi ar hyn o bryd a rhoddodd sicrwydd fod gwaith yn mynd rhagddo. Ychwanegodd y Cynghorydd McLellan hefyd fod
gorfodaeth cynllunio’n flaenoriaeth. Gofynnodd y Cynghorydd Brian Jones am wybodaeth ar y
dyddiad agor dros dro ar gyfer cyfleuster newydd Marchnad y Frenhines, ynghyd â
faint o fusnesau a oedd wedi llofnodi cytundeb tenantiaeth gyfreithiol i weithredu
o adeilad newydd Marchnad y Frenhines? Soniodd y Cynghorydd McLellan am gynnydd y gwaith
paratoadol ar y safle a nododd eu bod yn gobeithio agor yr adeilad ddechrau’r
haf. Ychwanegodd fod 140 o fasnachwyr
wedi dangos diddordeb ac y byddai cytundebau ffurfiol yn cael eu trafod yr
wythnos hon. Nododd y Cyfarwyddwr
Corfforaethol - Economi a’r Amgylchedd y byddai’r Cyngor mewn sefyllfa i wahodd
aelodau i ymweld â’r Farchnad yn fuan. |
|
Derbyn cofnodion cyfarfod y Cyngor Sir a gynhaliwyd 28 Ionawr 2025 ((copi ynghlwm)). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 28
Ionawr 2025 (a ddosbarthwyd yn flaenorol). Ymatebodd yr Arweinydd i ymholiad gan y Cynghorydd Will
Price a chadarnhaodd yr amserlenni ar gyfer y broses fynegi diddordeb mewn
perthynas â Sinema Vue yn y Rhyl, a chadarnhaodd y byddai adroddiad diweddaru’n
cael ei gyflwyno i Grŵp Ardal Aelodau’r Rhyl. PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar
28 Ionawr 2025 a chadarnhau eu bod yn gywir. |
|
CYLLIDEB Y CYNGOR 2025/26 Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Cyllid ar Archwilio (copi ynghlwm) sy’n nodi’r
cynigion i osod cyllideb gytbwys ar gyfer 2025/26. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Gwyneth Ellis, yr Aelod Arweiniol
Cyllid Perfformiad ac Asedau Strategol, a’r Pennaeth Cyllid ac Archwilio
adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ar Gyllideb y Cyngor 2025 / 2026. Rhoddwyd gwybod i aelodau fod y Cyngor wedi derbyn
Setliad Dros Dro ar gyfer 2025/26 ar 11 Rhagfyr 2024, a oedd yn gynnydd o
£14.427 miliwn neu 7% mewn arian parod o gymharu â lefel y cyllid a gafwyd
ddechrau 2024-25. Roedd Llywodraeth Cymru wedi llunio tablau fel bod modd cymharu
lefelau cyllid 2024/25 a 2025/26 ar draws Cynghorau Cymru. Roedd canran cynnydd
Sir Ddinbych yn 4.6%, sy’n is na’r gymhariaeth mewn arian parod a geir uchod
oherwydd bod cyllid ychwanegol i gwrdd â chostau cyflogau a phensiynau wedi’i
ddarparu yn ystod y flwyddyn ac roedd
Llywodraeth Cymru wedi cynnwys hynny yn y gymhariaeth a ddefnyddir ar
gyfer 2024/25. Mae cynnydd Sir Ddinbych yn cymharu’n ffafriol gyda
chyfartaledd Cymru o 4.3% ac mae’n dilyn cynnydd yn nifer y disgyblion a data
prydau ysgol am ddim a ddefnyddir i ddosbarthu cyllid i ysgolion. Eglurodd y Cynghorydd Ellis mai nod heddiw oedd cyflwyno
cyllideb gytbwys a rhoddodd wybod bod y broses o osod cyllideb gytbwys wedi bod
yn heriol, gyda gwaith yn dechrau flwyddyn yn ôl yn syth ar ôl gosod cyllideb
2023/24. Rhoddodd wybod bod awdurdodau
lleol ar draws y wlad hefyd yn profi’r heriau ariannol yn Sir Ddinbych. Yn ogystal â hynny, nododd y Cynghorydd
Ellis: ·
bod y gyllideb a gyflwynwyd heddiw’n wahanol i’r
gyllideb a drafodwyd yn y Cyngor llawn ym mis Tachwedd 2024, gan fod Sir
Ddinbych wedi derbyn mwy o gyllid na’r disgwyl gan Lywodraeth Cymru. Fodd
bynnag, nid oedd y cynnydd yn y setliad yn ddigon i fantoli’r gyllideb heb i’r
Cyngor wneud arbedion eraill a chynyddu lefelau treth y Cyngor. ·
Roedd cyllideb ddrafft y Cyngor wedi cynyddu am
sawl rheswm, gan gynnwys chwyddiant cyflogau, y costau ychwanegol sy’n
gysylltiedig â chyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr a’r galw cynyddol ar
wasanaethau rheng flaen statudol hanfodol.
Roedd y galw am wasanaethau’n dal i gynyddu ac
roedd natur yr anghenion hefyd wedi mynd yn fwy cymhleth mewn meysydd fel
Addysg a Gwasanaethau Plant a Gofal Cymdeithasol i Oedolion. ·
Er mwyn gosod cyllideb gytbwys, roedd y cyfraniad
mwyaf wedi dod gan setliad ariannol Llywodraeth Cymru, gyda’r gweddill yn dod
gan arbedion a chynnydd mewn Treth y Cyngor, roedd yr adroddiad i’r Cyngor heddiw’n cynnig £4,2 miliwn o
arbedion a chynnydd yn nhreth y Cyngor yn gyfystyr â £5.2 miliwn. Roedd y cynnydd o 5.3% yn nhreth y Cyngor yn
ogystal â’r 0.7% sy’n ofynnol ar gyfer yr Awdurdod Tân ac Achub yn dod â’r
ffigwr i 6%. ·
Roedd y cynigion arbedion yn canolbwyntio ar
arbedion effeithlonrwydd a chynyddu incwm yn unol â’r polisi ffioedd a
thaliadau, ac arbedion ym mhrosiectau trawsnewidiol y Cyngor. ·
Roedd Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor ar gael i
helpu’r rhai mwyaf diamddiffyn. ·
Nid oedd y gyllideb a gyflwynwyd wedi rhagweld
unrhyw incwm ychwanegol a allai gael ei gynhyrchu yn hwyrach yn y flwyddyn gan
y llywodraeth i ariannu’r cynnydd mewn cyfraniadau yswiriant gwladol. Cyfeiriodd y Pennaeth Cyllid ac Archwilio aelodau at y
Cynllun Ariannol Tymor Canolig yn atodiad un, a oedd yn cynnwys cynigion ar
gyfer gosod cyllideb gytbwys heddiw a’r pwysau cyllidebol sydd wedi arwain at y
lefel ofynnol o arbedion. Rhoddwyd gwybod i aelodau am y goblygiadau cyllidebol ar gyfer ysgolion, gan gynnwys gwobrau tâl athrawon a staff nad ydynt yn athrawon, cynnydd yng nghyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr a phwysau chwyddiannol eraill. Rhoddodd y Pennaeth Cyllid ac Archwilio wybod bod y rhain wedi arwain at ddyrannu £5.2 miliwn i ysgolion a oedd yn gyfystyr ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
TRETH Y CYNGOR 2025/26 A MATERION CYSYLLTIEDIG Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Cyllid ac Archwilio (copi ynghlwm) i bennu lefelau
Treth y Cyngor ar gyfer 2025/26. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol
Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol a’r Pennaeth Cyllid ac Archwilio
adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) i helpu’r Cyngor i wneud penderfyniadau
i sicrhau fod Treth y Cyngor a materion cysylltiedig yn gyfreithiol ddilys. Cytunodd Aelodau i gynnal pleidlais. O blaid y cynnig: Y Cynghorwyr Blakely-Walker, Butterfield,
Chamberlain-Jones, Chard, Clewett, Davies, Ellis, Elson, Chris Evans, Hugh
Evans, Justine Evans, Feeley, Harland, Heaton, Hilditch-Roberts, Hogg,
Holliday, Hughes, Irving, James, Brian Jones, Delyth Jones, Keddie, King,
Matthews, May, McLellan, Mellor, Mendies, Metri, Parry, Price, Roberts,
Sampson, Sandilands, Scott, Thomas, Cheryl Williams, Wynne ac Young. Yn erbyn y cynnig: Dim. Bu i’r canlynol ymatal rhag pleidleisio: Dim. PENDERFYNWYD: (i) Bod y Cyngor Sir, fel yr Awdurdod Bilio, wedi
ystyried y praeseptau a dderbyniwyd gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd
Cymru a’r Cynghorau Tref a Chymuned ac yn cyhoeddi lefelau Treth y Cyngor ar
gyfer blwyddyn ariannol 2025/26. Bod y symiau y mae’r Cyngor wedi’u cyfrifo ar gyfer
blwyddyn ariannol 2025/26, yn unol ag Adrannau 32 i 34(1) o Ddeddf Cyllid
Llywodraeth Leol 1992 (y Ddeddf) a Rheoliadau Addasu Cyfrifiadau Angenrheidiol
(Cymru) 2008 fel y’u cyflwynir yn Atodiad A, adran 3. (iii) Bod y symiau y mae’r Cyngor wedi’u cyfrifo ar gyfer
blwyddyn ariannol 2025/26, yn unol ag Adrannau 34(2) i 36(1) o Ddeddf Cyllid
Llywodraeth Leol 1992 (y Ddeddf) fel y’u cyflwynir yn Atodiad A, adran 4. (iv) Bod symiau Treth y Cyngor ar gyfer blwyddyn ariannol
2025/26 ar gyfer pob un o'r categorïau o anheddau fel y’u cyflwynir yn Atodiad
C. (v) Y pennir lefel y gostyngiad
ar gyfer Dosbarthiadau A, B a C fel y rhagnodir yn Rheoliadau Treth y Cyngor
(Dosbarthau Rhagnodedig ar Anheddau) (Cymru) 2004 yn sero ar gyfer blwyddyn
ariannol 2025/26 ar yr amod na fydd unrhyw newidiadau mewn deddfwriaeth neu’r
amgylchiadau’n lleol. |
|
DIWEDDARU RHEOLAU'R WEITHDREFN GONTRACTAU Ystyried
adroddiad gan y Rheolwr Caffael Cydweithredol a Fframwaith (copi ynghlwm) i
ddarparu gwybodaeth ynghylch diweddariadau i Reolau’r Weithdrefn Gontractau i
gyd-fynd â Deddf Caffael 2023. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Julie Matthews, Dirprwy
Arweinydd ac Aelod Arweiniol Polisi, Cydraddoldeb a Strategaeth Gorfforaethol
adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ynglŷn â’r diweddariadau i Reolau’r
Weithdrefn Gontractau er mwyn cyd-fynd â’r Ddeddf Gaffael 2023. Ychwanegodd y Cynghorydd
Matthews nad oedd y diweddariad yn effeithio ar, nac yn newid y Strategaeth
Gaffael bresennol, roedd yn ddiweddariad tymor byr gan y byddai Rheolau'r Weithdrefn
Gontractau yn cael eu hadolygu ymhellach yn ddiweddarach eleni yn barod ar
gyfer gweithredu Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru),
a ragwelir ddiwedd 2025 neu ar ddechrau 2026, yr union ddyddiad i’w gadarnhau
gan Lywodraeth Cymru. Rhoddodd Pennaeth y
Gwasanaethau Cymorth Corfforaethol: Pobl
grynodeb i aelodau y byddai’r paratoadau ar gyfer Deddf Partneriaeth
Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) yn arwain at adolygiad llawer mwy
cynhwysol o reolau'r weithdrefn gontractau ac yn debygol o arwain at newidiadau
sylweddol iddynt. Eglurodd fod Sir
Ddinbych wedi gweithio gyda’r awdurdodau lleol eraill yng ngogledd Cymru i
sicrhau cysondeb ar draws y rhanbarth, a’r bwriad oedd parhau â’r dull
cydweithredol hwnnw ar gyfer yr adolygiad manylach. Penderfynwyd bod y Cyngor yn
cydnabod y newidiadau i Reolau'r Weithdrefn Gontractau er mwyn parhau â phroses
gaffael sy’n cydymffurfio, a diwygio’r Cyfansoddiad i fabwysiadu’r Rheolau
newydd hynny. |
|
ASESIAD PERFFORMIAD PANEL CYNGOR SIR DDINBYCH - ADRODDIAD AC YMATEB Ystyried
adroddiad gan Reolwr Mewnwelediad, Strategaeth a Chyflawni (copi ynghlwm) yn
gofyn i’r Cyngor gymeradwyo’r datganiadau ymateb a’r Cynllun Gweithredu. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Gwyneth
Ellis, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol, adroddiad (a
ddosbarthwyd ymlaen llaw) ar Asesiad Perfformiad Panel Cyngor Sir Ddinbych a’r
ymateb. Rhoddodd y Cynghorydd Ellis
wybod bod Asesiadau Perfformiad Panel y Cyngor yn ofyniad statudol newydd, i’w
cwblhau unwaith bob tymor gwleidyddol.
Asesiad Perfformiad Panel Sir Ddinbych oedd y cyntaf o’r asesiadau hyn i
gael ei gwblhau yng Nghymru. Rhoddodd y
Cynghorydd Ellis grynodeb o’r asesiad a’i ddefnyddioldeb fel offeryn cymharu,
roedd yn ymarfer amrywiol ac ystyriwyd yr adroddiad a’r cynllun gweithredu gan
y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a’r Cabinet cyn iddynt gael eu hystyried
gan y Cyngor. Amlinellodd fod yr Asesiad
Perfformiad Panel yn cynnwys canfyddiadau sylweddol, a’i fod yn gadarnhaol am y
Cyngor ac yn cydnabod cyfraniadau arbennig staff y Cyngor yn ystod cyfnodau
heriol. Hoffai’r Cynghorydd Ellis
gofnodi ei diolch i weithwyr Sir Ddinbych am eu gwasanaeth ymroddedig. Cyfeiriodd Pennaeth y
Gwasanaeth Cymorth Corfforaethol - Perfformiad, Digidol ac Asedau (PGCC: PDA)
aelodau at adroddiad yr Asesiad Perfformiad Panel yn atodiad 1, y datganiadau
ymateb statudol ym mharagraffau 4.7 a 4.8 yn yr adroddiad eglurhaol i’r Cyngor
a’r Cynllun Gweithredu yn atodiad 2 sy’n cynnwys y camau y byddai’r Cyngor yn
eu cymryd mewn ymateb i argymhellion adroddiad yr Asesiad Perfformiad
Panel. Cydnabyddodd y PGCC: PDA y
cyfraniadau a wnaed gan staff Sir Ddinbych hefyd. Rhoddwyd gwybod i Aelodau mai’r ymateb a
gynigir ar gyfer y Cyngor oedd derbyn pob un o argymhellion yr Asesiad
Perfformiad Panel a oedd wedi nodi Sir Ddinbych fel Cyngor a gaiff ei redeg yn
dda. Roedd y drafodaeth a ddilynwyd
gan aelodau’n cynnwys y pwyntiau canlynol: ·
Roedd y broses asesu
wedi cael ei chynnal gan bobl annibynnol gymwys iawn. ·
Barn rhai Cynghorwyr a
oedd yn cwestiynu p’un a oedd yr Asesiad yn adlewyrchu’r heriau a brofwyd gan y
Cyngor a’r preswylwyr yn ddiweddar mewn perthynas â’r gwasanaeth casglu newydd
a lefel y cwynion a dderbyniwyd o ganlyniad. ·
Ar y lefel wleidyddol,
ni ymddengys bod y cynnig o ddiffyg hyder yn arweinydd y Cyngor wedi’i gynnwys
yn yr Asesiad, ond nodwyd y gwaith maes a ddigwyddodd yn ystod yr un wythnos. ·
Roedd yr Asesiad yn
ystyried cadernid corfforaethol a’r darlun ehangach. ·
Roedd ymateb y Cyngor yn
awgrymu y byddai rhagor o wybodaeth am dystiolaeth y Panel Asesu a arweiniodd
at yr argymhellion yn ddefnyddiol. ·
Cwblhawyd yr Asesiad yn
ystod cyfnod anodd i’r Cyngor ac roedd canfyddiadau’r Panel yn nodi
arweinyddiaeth gadarn. ·
Roedd adroddiad yr
Asesiad yn cynnwys mân wallau ffeithiol am y Cyngor a oedd yn rhannol o
ganlyniad i’r amser a oedd wedi mynd heibio rhwng y gwaith maes / dadansoddiad
dogfennol a’r adroddiad canfyddiadau. Rhoddodd y PGCC: PDA wybod i
aelodau fod y cylch statudol ar gyfer Asesiadau Perfformiad y Panel yn
canolbwyntio ar lywodraethu corfforaethol, rheoli risgiau a rheolaeth ariannol,
yn hytrach na materion gweithredol. Yn
ogystal â hynny, un offeryn yn fframwaith rheoli perfformiad ehangach y Cyngor
oedd yr Asesiadau Perfformiad Panel, ac roedd y fframwaith hwnnw’n cynnwys
mesurau, dangosyddion perfformiad, cwynion a dderbyniwyd, safbwynt y defnyddiwr
gwasanaeth a oedd yn canolbwyntio ar faterion gweithredol a byddai’r rhain i
gyd yn cael eu hadlewyrchu yn adroddiad perfformiad blynyddol y Cyngor ym mis
Gorffennaf. PENDERFYNWYD
bod y Cyngor yn: (i) nodi a chroesawu’r
Adroddiad ynghylch yr Asesiad Perfformiad Panel (Atodiad 1). (ii) Cymeradwyo’r ymateb i’r
Asesiad Perfformiad Panel, sef: 1) y datganiadau ymateb (Adran 4.7 a 4.8); a 2)
y Cynllun Gweithredu (Atodiad 2). |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL Y PWYLLGOR SAFONAU Ystyried
adroddiad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol Llywodraethu a Busnes (copi ynghlwm)
i gyflwyno gwaith y Pwyllgor a’i ganfyddiadau a’i arsylwadau. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyfeiriodd y Cynghorydd Bobby Feeley at gais blaenorol yr
oedd hi wedi’i wneud i gynnwys adroddiad blynyddol y Pwyllgor Safonau yn gynnar
ar y rhaglen. Roedd y Swyddog Monitro’n
cydnabod y pwynt a rhoddodd wybod fod trefn y rhaglen yn ddibynnol ar
bwysigrwydd yr eitemau cyllidebol a’r eitemau eraill ar y rhaglen. Cyflwynodd y Swyddog Monitro Gadeirydd annibynnol
Pwyllgor Safonau’r Cyngor, Julie Hughes, i’r Cyngor. Nododd y Swyddog Monitro mai hwn oedd yr
adroddiad blynyddol olaf i gael ei gyflwyno gan Ms Hughes gan y byddai ei
chyfnod yn y swydd yn dod i ben ym mis Mai eleni, ac roedd ar y Swyddog Monitro
eisiau diolch am y gwaith rhagorol yr oedd hi wedi’i gyflawni fel cadeirydd y
pwyllgor. Roedd cyflwyniad Ms Hughes i’r aelodau’n cynnwys y
pwyntiau canlynol: ·
Roedd cyfnod yr aelod annibynnol ac Is-gadeirydd y
Pwyllgor Safonau, Anne Mellor, yn ei swydd hefyd yn dod i ben. ·
Rôl aelodau’r Pwyllgor Safonau o ran arsylwi
cyfarfodydd sir, tref a chymuned a darparu adborth cefnogol. ·
Rôl ganolog y Pwyllgor o ran trefniadau cod
ymddygiad yr aelodau, er mwyn darparu sicrwydd i’r cyhoedd yn ogystal â diogelu
Cynghorwyr. ·
Roedd y nifer isel o geisiadau ar gyfer goddefebau
(ar gyfer aelodau â chysylltiad sy’n rhagfarnu mewn unrhyw fusnes a gynhelir)
yn peri pryder i’r Pwyllgor Safonau, a gofynnodd Ms Hughes i Gynghorwyr Sir helpu
i godi ymwybyddiaeth. ·
Dyletswyddau arweinwyr grwpiau gwleidyddol i gymryd
camau rhesymol i hyrwyddo a chynnal safonau ymddygiad da a chydweithio â’r
Pwyllgor Safonau o ran hynny. Roedd y
Pwyllgor yn fodlon fod bob arweinydd grŵp wedi cydymffurfio â’u
dyletswyddau ac roedd Ms Hughes yn gobeithio y gellid cynnal hyn i’r dyfodol. ·
Diweddariad ar nifer y cwynion a ragwelir gan
Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru dros y flwyddyn ddiwethaf. Cyfrannodd Aelodau at y materion canlynol: ·
Roedd Aelodau’n ddiolchgar am y gwaith yr oedd Ms
Hughes a’i chydweithwyr yn y Pwyllgor Safonau wedi’i wneud. ·
Eglurwyd y weithdrefn recriwtio i lenwi swyddi’r
ddau aelod annibynnol a oedd yn gorffen yn y swydd. ·
Yr heriau ychwanegol o ran cadeirio a chefnogi
cyfarfodydd hybrid. ·
Roedd yn debyg bod yr amser yr oedd swyddfa’r
Ombwdsmon yn ei dreulio’n ymdrin â chwynion yn rhy hir ac yn ychwanegu at y
straen a deimlwyd gan bobl a oedd yn cyflwyno cwynion neu’n destun cwyn. Cadarnhaodd Ms Hughes fod swyddfa’r Ombwdsmon
yn wynebu cynnydd yn eu llwyth gwaith, yn arbennig o ran cwynion y sector
iechyd ac achosion o gwynion yn ôl ac ymlaen.
Roedd yr Ombwdsmon felly’n hyrwyddo’r buddion o fesurau datrys lleol
effeithiol lle bo hynny’n briodol. PENDERFYNWYD - bod y Cyngor derbyn ac yn nodi cynnwys
Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau ar gyfer 2024. |
|
RHAGLEN WAITH Y CYNGOR SIR Ystyried rhaglen
waith y Cyngor (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Monitro raglen waith y Cyngor (a
ddosbarthwyd yn flaenorol) a rhoddodd wybod i aelodau mai cyfarfod nesaf y
Cyngor fyddai’r Cyfarfod Blynyddol lle byddai Cadeirydd ac Is-gadeirydd newydd
yn cael eu hethol. Cyfeiriodd hefyd at
raglen Gweithdai’r Cyngor a oedd ynghlwm â’r adroddiad. Nododd Aelodau’r Rhaglen Gwaith. |