Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnodion:

Cynghorwyr Michelle Blakeley-Walker, Ellie Chard, Kelly, Gwyneth Ellis, Carol Holliday, David Williams ac Elfed Williams.

 

 

2.

DATGAN CYSYLLTIAD

Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Cofnodion:

Ni chafodd unrhyw gysylltiad ei ddatgan.

 

 

GWAHARDD Y WASG A'R CYHOEDD

PENDERFYNWYD gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitem fusnes ganlynol, dan ddarpariaethau Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol 1972, ar y sail y byddai gwybodaeth eithriedig yn debygol o gael ei datgelu fel y’i diffinnir ym mharagraffau 12 a 14 Rhan 4 Atodlen 12A y Ddeddf.

 

 

3.

PENODI PENNAETH CYLLID AC ARCHWILIO (ADRAN 151)

Cyfweld ymgeiswyr ac ystyried penodi i swydd y Pennaeth Cyllid ac Archwilio. Y Panel Penodiadau Arbennig fydd yn penderfynu ar nifer yr ymgeiswyr.

 

Cofnodion:

Bu i Arweinydd y Cyngor a Phennaeth Dros Dro AD adrodd ar y broses recriwtio a gynhaliwyd ar gyfer y swydd a rhoddwyd manylion ynglŷn â’r Panel Penodiadau Arbennig a gweithgareddau asesu a ddefnyddiwyd i werthuso ymgeiswyr.

 

Roedd y Panel Penodiadau Arbennig wedi nodi un ymgeisydd a allai fod yn addas i'w benodi ac a oedd wedi'i wahodd i fynychu cyfarfod y Cyngor.

 

Rhoddodd yr ymgeisydd gyflwyniad i’r Cyngor ac ymateb i gwestiynau gan aelodau.  Ar ôl i’r ymgeisydd adael y cyfarfod, bu i’r aelodau drafod y cyflwyniad ac ymatebion i gwestiynau.

 

PENDERFYNWYD Penodi Elizabeth Thomas i swydd Pennaeth Cyllid ac Archwilio (Adran 151).

 

Daeth y cyfarfod i ben am 3.00pm.