Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Chris Evans, Raj Metri, Huw Williams a Brian Jones.

 

 

2.

DATGAN CYSYLLTIAD pdf eicon PDF 197 KB

Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu sy’n rhagfarnu mewn unrhyw fusnes a nodwyd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

 

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, gael eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw fater brys.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Mark Young y cwestiwn canlynol -

 

Bydd pawb wedi gweld y stori newyddion sydd wedi codi gwrychyn:  Y Rhyl - Cyrchfan gwyliau yng Nghymru wedi cael ei enwi ymysg un o’r ardaloedd gwaethaf o ran llygredd carthion arfordirol yn y DU.

 

Mae data newydd wedi datgelu i ba raddau y mae afonydd, camlesi a’r môr a chyrff eraill wedi cael eu llygru gan gwmnïau dŵr.

 

Yn anffodus mae’r Rhyl yn Sir Ddinbych, Gogledd Cymru wedi’i gynnwys yn y rhestr ar gyfer y 10 gwaethaf yn y DU.

 

Pa waith sy’n cael ei wneud gan ein hawdurdod lleol i weithio gyda Chyfoeth Naturiol Cymru i sicrhau fod gennym gynllun wedi’i gytuno arno gyda Dŵr Cymru sy’n newid y sefyllfa dorcalonnus hon?

 

Diolchodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant i’r Cynghorydd Young am ei gwestiwn gan ymateb er bod ansawdd dŵr a llygredd yn bryder go iawn gall y penawdau hyn fod yn gamarweiniol. Dywedodd y Cynghorydd Mellor fod asesiad o’r adroddiad newyddion hwn yn cynnwys yr holl ollyngiadau carthion yn sgil stormydd yn nalgylch yr Afon Clwyd a fyddai yn y pendraw yn llifo i’r môr yn Y Rhyl.  Fodd bynnag, roedd gollyngiadau ymhellach i fyny yn y dalgylch yn cael llai o effaith ar y Rhyl oherwydd oedi bacteriol.   Cynghorodd fod y rhan fwyaf o ollyngiadau yn yr asesiad yn uwch i fyny yn y dalgylch lle'r oedd yr effaith ar draeth y Rhyl yn fechan iawn, ac er gwaetha’r penawdau, roedd statws ansawdd nofio yn y Rhyl yn ddigonol yn hytrach na gwael.  

 

Amlinellodd y Cynghorydd Mellor fod y trefniadau carthion gorlif storm hefyd yn gweithio i amddiffyn eiddo mewn tywydd gwlyb iawn a mesurau i leihau llygredd.  Adroddodd fod y Cyngor yn gweithio’n agos gyda Chyfoeth Naturiol Cymru a Dŵr Cymru a budd-ddeiliaid eraill i fynd i’r afael â phroblemau yn ymwneud â safon dŵr.  Cynghorodd y Cynghorydd Mellor fod ymdrechion yn parhau gyda’r nod o wella statws ansawdd dŵr y Rhyl o ddigonol i dda; ac yn bwysicach na hynny i sicrhau fod y statws ddim yn gostwng o ddigonol i wael.

 

Ymatebodd y Cynghorydd Mark Young gan dynnu sylw at statws Baner Las Prestatyn ac mai dyma ddylai fod y nod ar gyfer y Rhyl. 

 

Ar y pwynt hwn tynnodd yr Arweinydd, y Cynghorydd Jason McLellan sylw at gyhoeddiad yn ymwneud â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

 

Adroddodd ei fod ef, Prif Weithredwr y Cyngor ac arweinydd a phrif weithredwyr cynghorau eraill, wedi cael cyfarfod brys gydag Eluned Morgan, Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru ynglŷn â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC).  Cynhaliwyd y cyfarfod ar ôl cyhoeddi’r adroddiad yr wythnos ddiwethaf gan Archwilio Cymru i Fwrdd Gweithredol BIPBC a’r pryderon ynglŷn â’r pryder am gamweithrediadau’r Bwrdd ac Uwch Arweinwyr BIPBC a chadarnhawyd bod BIPBC wedi dychwelyd i fesurau arbennig.  Adroddodd yr Arweinydd mai Cadeirydd newydd y Bwrdd oedd Dyfed Edwards, cyn Arweinydd Cyngor Gwynedd.   Adroddodd yr Arweinydd mai’r flaenoriaeth wrth symud ymlaen oedd cyflogi Prif Weithredwr parhaol ac fe ychwanegodd fod cynnwys adroddiad Archwilio Cymru yn frawychus a bod preswylwyr yn haeddu gwell. 

 

Gorffennodd yr Arweinydd ei ddatganiad drwy gadarnhau y byddai’r Cyngor Sir yn gweithio i gefnogi BIPBC ac y byddai aelodau’r Cyngor yn cael eu hysbysu o unrhyw ddatblygiadau.

 

 

4.

DYDDIADUR Y CADEIRYDD pdf eicon PDF 182 KB

Nodi ymrwymiadau dinesig a ymgymerwyd gan Gadeirydd y Cyngor (copi ynghlwm).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd, y Cynghorydd Arwel Roberts ei ddyddiadur o ddigwyddiadau.

 

Ar y pwynt hwn fe gyflwynodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, gardiau post o ganlyniadau’r gystadleuaeth Y Dyfodol.  Cafodd cyflwyniad ei ddangos i’r holl Aelodau.   Bu 350 o enwebiadau allan o 16 o ysgolion.   Darllenwyd y rhestr o’r buddugwyr i’r aelodau.   Dyma bawb oedd yn bresennol yn diolch i’r plant ysgol a gymerodd rhan a’u llongyfarch am eu ceisiadau buddugol.

 

Cyflwynodd y Cydlynydd Cyfoethogi Cwricwlwm yr ymgeisydd buddugol yn y gystadleuaeth “yr hyn sy’n eich gwneud yn hapus” a gafodd ei gynnal yn ddiweddar.   Yr unigolyn buddugol oedd disgybl yn Ysgol Y Parc.   Unwaith eto, dyma bawb yn llongyfarch yr unigolyn buddugol. 

 

 

5.

COFNODION pdf eicon PDF 288 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Cyngor Sir a gynhaliwyd 31 Ionawr 2023 (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y Cyngor Llawn a gynhaliwyd ar 31 Ionawr 2023.

 

Eitem 5 - Cyllideb 2023/24 – Cynigion Terfynol Gofynnodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts pam nad oedd ei gwestiwn i’r Aelod Arweiniol Cyllid, y Cynghorydd Gwyneth Ellis, heb gael ei gynnwys yn y cofnodion.  Roedd ei gwestiwn yn berthnasol i gyfarfod y Cyngor yn Ionawr 2022 lle adroddwyd fod y Cynghorydd Ellis wedi pleidleisio o blaid diwygiad a gynigwyd gan gyn-aelod o’i grŵp gwleidyddol am godiad o 0% mewn Treth y Cyngor. 

 

Ymatebodd y Swyddog Monitro, Gary Williams, fod y cofnodion ddim yn adroddiad gair-am-air o’r cyfarfod,

 

Cynigodd y Cynghorydd Emrys Wynne, ac eiliwyd gan y Cynghorydd Julie Matthews, fod y cofnodion ar gyfer y cyfarfod a gynhaliwyd ar 31 Ionawr 2023 yn cael eu cymeradwyo.

 

PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 31 Ionawr 2023 a chadarnhau eu bod yn gywir.

 

 

6.

TRETH Y CYNGOR 23/24 A MATERION CYSYLLTIEDIG pdf eicon PDF 206 KB

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Cyllid ac Eiddo (copi ynghlwm).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol, y Cynghorydd Gwyneth Ellis, adroddiad Treth y Cyngor 2023/2024 a Materion Cysylltiedig (a ddosbarthwyd yn flaenorol).

 

Wrth fabwysiadu penderfyniadau cyfarfod cyllideb y Cyngor ar 31 Ionawr 2023, mae angen i'r Cyngor wneud penderfyniadau ychwanegol mewn ffurf benodol i sicrhau bod Treth y Cyngor a’i materion cysylltiedig yn gyfreithiol ddilys.

 

Ychwanegodd y Pennaeth Cyllid ac Archwilio ei grynodeb yntau ar faterion a godwyd yn yr adroddiad.

 

Tynnodd y Cynghorydd Hugh Irving sylw at y cynnydd ym mhraesept Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, ond roedd yn bryderus fod Prestatyn, sef y dref fwyaf yn Sir Ddinbych, heb Orsaf Heddlu.   Ar y pwynt hwn, dyma’r Swyddog Monitro yn argymell bod Rhybudd o Gynnig yn cael ei gyflwyno i drafod y mater mewn cyfarfod yn y dyfodol am nad oedd yn gwbl berthnasol i osod lefelau Treth y Cyngor. 

 

Cytunodd y Cynghorydd Irving gyda’r awgrym hwn gan annog aelodau arweiniol a swyddogion yn bresennol yn y cyfarfod hwn i gefnogi ymdrechion i sicrhau presenoldeb parhaol gan yr Heddlu ym Mhrestatyn.

 

CYNIGODD y Cynghorydd Gwyneth Ellis yr argymhellion ar gyfer Treth y Cyngor 23/24 a’r adroddiad Materion Cysylltiedig, ac EILIWYD hynny gan y Cynghorydd Mark Young.

 

PENDERFYNWYD

 

(i)            bod y Cyngor Sir, fel yr Awdurdod Bilio, wedi ystyried y praeseptau a dderbyniwyd gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru a'r Cynghorau Tref/Cymuned a chyhoeddi lefelau Treth y Cyngor ar gyfer blwyddyn ariannol 2023/24;

(ii)          bod y symiau a gyfrifwyd gan y Cyngor ar gyfer blwyddyn ariannol 2023/24, yn unol ag Adrannau 32 i 34 (1) Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (y Ddeddf) a'r Rheoliadau Addasu Cyfrifiadau Angenrheidiol (Cymru) 2008 fel ag y maent yn adran 3 Atodiad A;

(iii)         bod y symiau a gyfrifwyd gan y Cyngor ar gyfer blwyddyn ariannol 2023/24, yn unol ag Adrannau 34 (2) i 36 (1) Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (y Ddeddf) fel ag y maent yn adran 4 Atodiad A;

(iv)         bod symiau Treth y Cyngor ar gyfer blwyddyn ariannol 2023/24 ar gyfer pob un o'r categorïau o anheddau fel a’u cyflwynir yn Atodiad C; a

(v)          bod lefel y gostyngiad ar gyfer Dosbarth A, B a C fel y nodir yn Rheoliadau Treth y Cyngor (Dosbarthau Rhagnodedig ar Anheddau) (Cymru) 2004 yn cael ei osod ar sero ar gyfer blwyddyn ariannol 2023/24 gyda'r cafeat bod hyn yn ddibynnol ar ddim newidiadau i ddeddfwriaeth nac amodau lleol.

 

 

7.

CYNLLUN CYFALAF 2022/23 – 2025/26 AC ARGYMHELLION BWRDD Y GYLLIDEB – CYFALAF pdf eicon PDF 313 KB

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Cyllid ac Eiddo (copi ynghlwm).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Cyllid Perfformiad ac Asedau Strategol, y Cynghorydd Gwyneth Ellis y Cynllun Cyfalaf 2022/23 - 2025/26 ac adroddiad Argymhellion y Bwrdd Cyllideb - Cyfalaf (a ddosbarthwyd yn flaenorol).

 

Darparwyd Cynllun Cyfalaf diwygiedig i’r aelodau gan gynnwys diweddariad ar brosiectau mawr a'r cynllun corfforaethol.   Mae’r adroddiad hwn hefyd yn cynnwys Adroddiad Strategaeth Gyfalaf ar gyfer 2023/24.  Mae’n darparu trosolwg lefel uchel, byr a chynhwysfawr i’r holl aelodau o sut mae gwariant cyfalaf, ariannu cyfalaf a gweithgaredd rheoli trysorlys yn cyfrannu at ddarpariaeth gwasanaethau’r Cyngor.

 

Cafwyd crynodeb o’r adroddiad gan y Pennaeth Cyllid ac Eiddo gan dynnu sylw at y prif bwyntiau.

 

Yn ystod trafodaeth codwyd y pwyntiau canlynol:

 

·                    Tudalen 41, Rhaglen Gyfalaf - Llety Safle Sipsiwn a Theithwyr.  Gofynnodd y Cynghorydd Peter Scott beth oedd bwriad cynnwys y cyllid dichonoldeb yn y cynllun cyfalaf. Cadarnhaodd y Pennaeth Cyllid ac Archwilio fod y dyraniad yn syml yn gwneud cyllid ar gael pe bai prosesau a phenderfyniadau’r Cyngor ar lety safle sipsiwn a theithwyr ei angen.

·                    Holodd y Cynghorydd Terry Mendies pam fod Hamdden Sir Ddinbych Cyf ddim yn ymddangos yn y Cynllun Cyfalaf, ac fe adroddodd ar ei ymdrechion i sicrhau mwy o wybodaeth ar y rôl, gweithgareddau a’r buddsoddi yn Hamdden Sir Ddinbych Cyf. Cadarnhaodd y Swyddog Monitro fod sesiwn briffio ar Hamdden Sir Ddinbych yn cael ei drefnu ar gyfer aelodau. 

Cafwyd crynodeb gan Bennaeth Cyllid ac Archwilio ar gyllideb a threfniadau cyfrifyddu Hamdden Sir Ddinbych, er enghraifft yn y cyllidebau a gynhaliwyd gan y Cyngor ar gyfer atgyweirio a chynnal a chadw.  Tynnodd sylw fod y cyllid rheoli craidd a Chytundeb Lefel Gwasanaeth a dalwyd i Hamdden Sir Ddinbych wedi dod i gyfanswm o £2 miliwn a heb gynyddu ers sefydlu’r cwmni. Mae’r cwmni yn eiddo llawn y Cyngor.  Mae hynny’n golygu bod y cwmni wedi amsugno’r pwysau ariannol dros y tair blynedd ddiwethaf.  

·                     Wrth ymateb i ymholiad y Cynghorydd Butterfield, cadarnhawyd fod y cyllid ar gyfer y cribyn traeth a’r peiriant cael gwared ar gwm cnoi wedi dod bron iawn yn gyfan gwbl o ffynonellau allanol a bod cyllid llety Dechrau’n Deg wedi dod gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y gwaith adeiladu i alluogi mwy o lefydd Dechrau’n Deg.

·                     Wrth ymateb i ymholiad ynglŷn â pham fod y ffigurau yn Atodiad 3 yn ymddangos mor uchel fe gynghorwyd yr aelodau fod Atodiad 3 yn cynnwys dim ond y costau gros a gafwyd ond nid oedd yn dangos incwm o gyllid grant, felly roedd y ffrydiau incwm a gwariant yn yr adroddiad hwn yn cael eu dangos ar wahân. Cynghorwyd Aelodau fod Atodiad 1 o’r adroddiad yn rhoi crynodeb lefel uchel o’r cynllun cyfalaf.

·                     Cadarnhaodd y Cynghorydd Gill German wrth y Cynghorydd Mark Young fod y gyllideb a ddyrannwyd ar gyfer ysgol (Ysgol Plas Brondyffryn) yn sicrhau fod cyllid ar gael beth bynnag y byddai’r Cyngor yn bwriadu ei wneud, ac y byddai modd cario’r swm ymlaen i flynyddoedd ariannol yn y dyfodol pe bai angen gwneud hynny.  Cadarnhaodd y Pennaeth Cyllid ac Archwilio mai dyma’r achos hefyd ar gyfer dyraniad tuag at Ddatblygiad Pafiliwn Corwen.  O ran Ysgol Plas Brondyffryn, anogodd y Cynghorydd Rhys Thomas i’r Cyngor fod yn ofalus yn ei ddefnydd o derminoleg wrth ddisgrifio cynnydd, gan fod defnyddio ‘gweithredu’ wedi cael ei gamddehongli gan rai i olygu cynnydd gyda dechrau ar y gwaith adeiladu. Ychwanegodd yr Aelod Arweiniol, y Cynghorydd German fod datganiadau cyhoeddus am Ysgol Plas Brondyffryn wedi eu cymeradwyo i gynrychioli’r sefyllfa go iawn.

 

CYNIGODD y Cynghorydd Gwyneth Ellis argymhellion y Cynllun Cyfalaf 2022/23 - 2025/26 ac Argymhellion y Bwrdd Cyllideb  - adroddiad Cyfalaf, EILIWYD gan y Cynghorydd Peter  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

AR Y PWYNT HWN (11.55AM) CAFWYD EGWYL AM 15 MUNUD.

 

AILDDECHREUODD Y CYFARFOD AM 12.10 PM.

 

 

Yn y fan hon, cytunodd y Cadeirydd i amrywio trefn y ddwy eitem nesaf o fusnes.

 

 

8.

CYNLLUN LLES BGC CONWY A SIR DDINBYCH 2023 I 2028 pdf eicon PDF 236 KB

Ystyried adroddiad gan Arweinydd Tîm Cynllunio Strategol a Pherfformiad (copi ynghlwm) 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd, y Cynghorydd Jason McLellan Gynllun Lles 2023 i 2028 Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a Sir Ddinbych  (wedi’i ddosbarthu’n flaenorol) i gael penderfyniad gan y Cyngor i gefnogi’r Cynllun Lles statudol hwn fel partner o Fwrdd Gwasanaeth Cyhoeddus Conwy a Sir Ddinbych.

 

Cafwyd trosolwg o’r adroddiad gan Nicola Kneale, Pennaeth Dros Dro Gwella Busnes a Moderneiddio ac Arweinydd Tîm Cynllunio a Pherfformiad Strategol, Iolo McGregor.

 

Yn 2015 sefydlwyd Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) ar gyfer pob ardal awdurdod lleol yng Nghymru fel rhan o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru).  Mae’r Ddeddf yn gosod gofyniad statudol ar bob BGC i gynhyrchu Cynllun Lles lleol ar gyfer eu hardal sy’n cynnwys sut y maen nhw’n bwriadu gwella lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol eu hardal.

 

Mae’r Cynllun Lles BGC wedi cael ei ddatblygu ar y cyd â chynllun Corfforaethol y Cyngor.

 

Yn dilyn trafodaeth fer, fe GYNIGODD yr Arweinydd, y Cynghorydd Jason McLellan i dderbyn Cynllun Lles 2023 i 2028 Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a Sir Ddinbych gyda’r Cynghorydd Gareth Sandilands yn EILIO.

 

PENDERFYNWYD bod y Cyngor yn -

 

(i)            Nodi Cynllun Lles y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus wedi’i gynnwys yn atodiad 1 (yn arbennig cyd-destun Cynllun Corfforaethol y Cyngor ei hun) a rhoi ei gymeradwyaeth a’i gefnogaeth ar gyfer y cynllun; a

(ii)          chadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o’r Effaith ar Les (Atodiad 2) fel rhan o’i ystyriaethau.

 

 

9.

DATGANIAD STRATEGAETH RHEOLI’R TRYSORLYS 2023/24 A DANGOSYDDION DARBODUS 2023/24 I 2025/25 (ATODIAD 1) pdf eicon PDF 228 KB

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Cyllid ac Eiddo (copi ynghlwm).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol, y Cynghorydd Gwyneth Ellis, y Datganiad Strategaeth Rheoli’r Trysorlys (DSRhT) 2023/2024 ac adroddiad Dangosyddion Darbodus 2023/2024 i 2025/2026 (atodiad 1) (wedi’i ddosbarthu’n flaenorol).

 

Cynghorodd y Pennaeth Cyllid ac Archwilio ei fod yn adroddiad blynyddol ac un sydd hefyd yn cael ei gyflwyno i Bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio.  Mae'r DSRhT (Atodiad 1) yn dangos sut byddai’r Cyngor yn rheoli ei fuddsoddiadau a'i fenthyciadau ar gyfer y flwyddyn i ddod ac yn gosod polisïau ar gyfer gweithredu swyddogaeth rheoli’r trysorlys.  Adroddodd hefyd fod y sesiwn hyfforddiant a gynhaliwyd ar gyfer aelodau ar y pwnc hwn wedi derbyn ymateb da.

 

CYNIGODD y Cynghorydd Gwyneth Ellis i dderbyn y Datganiad Strategaeth Rheoli’r Trysorlys 2023/24 a’r adroddiad Dangosyddion Darbodus 2023/24 i 2025/26 (Atodiad 1), EILIWYD gan y Cynghorydd Carol Holliday.

 

PENDERFYNWYD bod y Cyngor yn -

 

(i)            Cymeradwyo Datganiad Strategaeth Rheoli Trysorlys 2023/24 (atodiad 1);

(ii)          Cymeradwyo’r gwaith o osod Dangosyddion Darbodus ar gyfer 2023/2024, 2024/2025 a 2025/2026 (Atodiad 1 Ychwanegiad A);

(iii)         Cymeradwyo'r Datganiad Darpariaeth Isafswm Refeniw (Atodiad 1 Adran 6); a

(iv)         Chadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o’r Effaith ar Les (Atodiad 2) fel rhan o’i ystyriaethau.

 

 

10.

RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL Y CYNGOR SIR pdf eicon PDF 401 KB

Ystyried Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cyngor (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Llywodraethu a Busnes, Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cyngor ynghyd â Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol Gweithdy’r Cyngor (a ddosbarthwyd ymlaen llaw).

 

Cynghorodd y Cyfarwyddwr mai’r cyfarfod Cyngor nesaf fydd y Cyfarfod Blynyddol o’r Cyngor sydd wedi’i drefnu ar gyfer 9 Mai 2023.   Gofynnwyd i Arweinwyr Grŵp ddarparu enwebiadau ar gyfer rôl Is-gadeirydd y Cyngor gogyfer y flwyddyn ddinesig 2023/24.

 

Wrth ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Yr Amgylchedd a’r Economi fod yr eitemau Gwastraff a Phriffyrdd ar Raglen Gwaith i’r Dyfodol yn cael eu cyfnewid fel bod y diweddariad ar Gynnal a Chadw Priffyrdd yn cael ei gyflwyno yng nghyfarfod 16 Mai 2023 ac y byddai’r eitem Model Gwastraff yn cael ei gyflwyno yng nghyfarfod 5 Rhagfyr 2023.

 

Cynghorodd y Prif Weithredwr yr aelodau fod yr eitemau wedi’u rhestru ar Weithdy rhaglen gwaith i’r dyfodol y Cyngor wedi derbyn sylw yn rheolaidd er mwyn eu dyrannu nhw i sesiynau gweithdy priodol.

 

PENDERFYNWYD y dylid cymeradwyo a nodi’r Cyngor a’r Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cyngor.

 

 

DAETH Y CYFARFOD I BEN AM 12.52 PM.