Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Dogfennau ychwanegol:

2.

DATGAN CYSYLLTIAD pdf eicon PDF 197 KB

Yr Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Cheryl Williams gysylltiad personol yn Eitem 5 (Hunan-Asesiad y Cyngor o’i Berfformiad 2021-2022) gan ei bod ar restr aros Un Llwybr Mynediad at Dai.

 

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

 

 

4.

Cofnodion pdf eicon PDF 261 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Cyngor Sir a gynhaliwyd ar 5 Gorffennaf 2022 (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cyngor Llawn a gynhaliwyd ar 5 Gorffennaf 2022.

 

PENDERFYNWYD cadarnhau bod cofnodion cyfarfod y Cyngor Llawn a gynhaliwyd ar 5 Gorffennaf 2022 yn gofnod cywir.

 

 

5.

HUNANASESIAD Y CYNGOR O’I BERFFORMIAD 2021 I 2022 pdf eicon PDF 299 KB

Ystyried adroddiad gan yr Arweinydd Tîm Cynllunio Strategol a Pherfformiad (copi ynghlwm) i ddarparu hunanasesiad y Cyngor o’i berfformiad yn erbyn ei swyddogaethau

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ar y pwynt hwn, datganodd y Cynghorydd Cheryl Williams gysylltiad personol yn yr eitem hon gan ei bod ar restr aros Un Llwybr Mynediad at Dai.

 

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Cyllid Perfformiad ac Asedau Strategol, y Cynghorydd Gwyneth Ellis yr adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol).

 

Fe wnaeth Pennaeth Gwella Busnes a Moderneiddio Dros dro, Nicola Kneale a’r Arweinydd Tîm Cynllunio Strategol a Pherfformiad, Iolo McGregor, grynhoi’r adroddiad i ddarparu dadansoddiad diwedd y flwyddyn o’r cynnydd a’r heriau gydag amcanion perfformiad allweddol ac ymhob un o’r saith maes llywodraethu.  Roedd yr adroddiad hefyd yn rhoi naratif ar weithgarwch y cyngor i gefnogi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth.

 

Yr adroddiad oedd y ddogfen ysgrifenedig statudol gyntaf mewn ymateb i Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, a oedd yn ei gwneud yn ofynnol i’r cyngor lunio hunanasesiad o’i berfformiad yn erbyn ei swyddogaethau.  Roedd yr adroddiad hefyd yn ymateb i ddyletswydd y cyngor o ran monitro cydraddoldeb (o dan y Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a Mesur Cymru 2011, a oedd yn cynnwys y Ddyletswydd economaidd-gymdeithasol), a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

 

Cyflwynwyd 3 dogfen o fewn yr adroddiad:

 

Atodiad 1 - yn cyflwyno’r Crynodeb Gweithredol, a oedd yn ceisio llunio penawdau perfformiad y cyngor yn erbyn ei amcanion.  Roedd y ddogfen hefyd yn cynnwys y saith maes llywodraethu ynghyd â’r heriau a wynebwyd a meysydd ar gyfer gwella.

 

Atodiad 2 - Adroddiad Diweddariad Perfformiad Chwarterol, sef y broses ar gyfer hunanasesu parhaus.

 

Atodiad 3 - adroddiad i grynhoi perfformiad y Cynllun Corfforaethol 2017 i 2022 ar ôl cyrraedd ei flwyddyn olaf.

 

Amcanion Perfformiad o fewn y Cynllun Corfforaethol 2017-2022 oedd:

 

·         Tai

·         Clymu Cymunedau

·         Cymunedau Cryf

·         Yr Amgylchedd a

·         Phobl Ifanc.

 

Y Swyddogaethau Llywodraethu a oedd yn ofynion statudol oedd:

 

·         Cynllunio Corfforaethol

·         Cynllunio Ariannol

·         Rheoli Perfformiad

·         Rheoli Risg

·         Cynllunio’r Gweithlu

·         Asedau a

·         Chaffael.

 

Yn ystod trafodaethau codwyd y pwyntiau canlynol:

·         Cadarnhaodd y Prif Weithredwr er mwyn cynnal yr her wrth fynd ymlaen, byddai angen dull tîm.  Roedd yr UDRh, Swyddogion ac Aelodau’n cydweithio i gyflwyno Cynllun Corfforaethol newydd ym mis Hydref.  Roedd adroddiadau diweddaru rheolaidd yn cael eu cyflwyno mewn cyfarfodydd Craffu, Cabinet a’r Cyngor Llawn i sicrhau cysondeb o ran cyfathrebu.

·         Arolygon - cadarnhawyd yn ystod y cyngor blaenorol, roedd arolygon preswylwyr wedi cael eu cynnal dwywaith y flwyddyn.  Pwrpas yr arolwg oedd canfod sut oedd y cyngor yn perfformio yn erbyn y blaenoriaethau.  Wrth symud ymlaen, byddai arolygon yn cael eu cynnal drwy’r post, arolygon electroneg a chopïau papur ar gael mewn llyfrgelloedd a mannau derbynfa.  Roedd Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau yn rhoi dyletswydd statudol ar y cyngor i gynnal arolwg gyda phreswylwyr bob blwyddyn ynghyd â budd-ddeiliaid eraill.  Roedd yr arolwg nesaf yn cael ei lunio yn Hydref/Tachwedd a fyddai’n rhoi cyfle i’r aelodau annog preswylwyr i’w cwblhau.

·         Codwyd y mater o broblemau recriwtio a chadw staff gofal.  Cadarnhawyd nad oedd y mater y Sir Ddinbych yn unig ond ar draws y wlad.  Roedd Tîm Prosiect wedi cael ei sefydlu yn ddiweddar a chynhaliwyd ffair swyddi i hyrwyddo iechyd a gofal cymdeithasol fel gyrfa. 

 

CYNIGIWYD gan y Cynghorydd Gareth Sandilands, EILIWYD gan y Cynghorydd Cheryl Williams.

 

PENDERFYNWYD fod y Cyngor yn cymeradwyo Hunanasesiad o Berfformiad 2021 i 2022.

 

 

 

 

6.

DATGANIAD POLISI TÂL pdf eicon PDF 276 KB

Ystyried adroddiad gan y Rheolwr AD  ac Arbenigwr Tâl a Gwobrwyo (copi ynghlwm) sy’n ceisio cymeradwyaeth i’r Datganiad Polisi Tâl.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Bennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, AD a Democrataidd y Datganiad Polisi Tâl 2022/23 (dosbarthwyd yn flaenorol) gan nad oedd y Rheolwr AD, Louise Dougal yn gallu mynychu’r cyfarfod.

 

Mae Deddf Lleoliaeth 2011 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol baratoi datganiadau polisi tâl. Mae’n rhaid i'r datganiadau hyn fynegi polisïau’r awdurdod ei hun ar amrywiaeth o faterion sy'n ymwneud â chyflog ei weithlu, yn arbennig ei uwch staff (neu "brif swyddogion"), a’i weithwyr ar y cyflogau isaf. Mae’n rhaid i’r Cyngor gymeradwyo Datganiadau Polisi Tâl bob blwyddyn, a’u cyhoeddi ar y wefan berthnasol.

 

Mae’r Polisi Tâl wedi cael ei ddiweddaru gyda Dyfarniad Tâl 2021/22 gan nad yw 2022/23 wedi ei gytuno eto.

 

Cadarnhawyd bod y pwyntiau tâl yn cael eu gosod yn genedlaethol a bod gan y cyngor ei strwythur graddio a thâl ei hun gyda graddfeydd o fewn y golofn gyflog.  Pennwyd y graddfeydd gan werthusiadau swyddi oedd â chyfres o feini prawf ac yn gwobrwyo pwyntiau i swyddi ar gyfer gofynion gwahanol y swydd.  Roedd cyfanswm y pwyntiau yn gyfystyr â graddfa ar y golofn gyflog genedlaethol.  Y cynllun gwerthuso swyddi oedd y ffordd roedd y cyngor yn sicrhau fod cyflog yn cael ei roi yn gyfartal o ran cydraddoldeb.  Roedd cynrychiolwyr undebau llafur ynghlwm y Panel ar gyfer gwerthuso swyddi.

 

O ran cynnydd mewn cyflog yn flynyddol, roedd y rhain yn cael eu negodi’n genedlaethol drwy’r Cydgyngor Trafod Telerau a pholisi’r Cyngor oedd bod angen cadw at, ac anrhydeddu unrhyw ddyfarniad tâl a gytunwyd yn genedlaethol.

 

O ran Prif Swyddogion, sefydlodd y cyngor Banel Tâl Uwch Arweinyddiaeth a oedd yn gorff wleidyddol gytbwys, gan adolygu strwythur tâl uwch arweinyddiaeth yn 2016.  Ar ôl hynny, roeddent yn adolygu’r strwythur tâl yn flynyddol i weld os oedd yn parhau i fod yn briodol.  Nid oedd y Panel Tâl Uwch Arweinyddiaeth yn gwneud penderfyniadau, dim ond argymhellion ac roedd angen i unrhyw newidiadau gael eu cyflwyno i’r Cyngor Llawn. 

 

CYNIGIWYD gan y Cynghorydd Brian Blakeley, EILIWYD gan y Cynghorydd Huw Williams.

 

PENDERFYNWYD bod y Cyngor yn cytuno ag argymhelliad y Panel Tâl Uwch Arweinyddiaeth o ran newid Polisi Tâl 2022/23 (copi yn Atodiad A).

 

 

7.

ADRODDIAD BLYNYDDOL PWYLLGORAU CRAFFU’R CYNGOR 2021/2022 pdf eicon PDF 230 KB

Ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (copi ynghlwm) i gyflwyno gweithgareddau’r Pwyllgorau Craffu yn ystod 2021/2022

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Hugh Irving Adroddiad Blynyddol Pwyllgorau Craffu’r Cyngor ar gyfer 2021/2022 (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) ar eu gweithgareddau yn ystod 2021/22.

 

Diben llunio’r Adroddiad Blynyddol oedd er mwyn cydymffurfio ag Adran 7.4.4 Cyfansoddiad y Cyngor oedd yn nodi bod yn rhaid i Bwyllgorau Craffu adrodd yn flynyddol i'r Cyngor Llawn am eu gwaith, a gwneud argymhellion ar gyfer eu rhaglenni gwaith at y dyfodol ac ar ddulliau gweithio diwygiedig os yw hynny’n briodol.

 

Cyflwynwyd ffurflenni ceisiadau craffu gan aelodau, swyddogion ac aelodau o’r cyhoedd, a’u rhoi i’r Grŵp Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion Craffu sy’n defnyddio’r meini prawf i benderfynu a yw eitem yn deilwng o sylw pwyllgor craffu.

 

Roedd yr adroddiad yn amlinellu rôl bwysig y Pwyllgorau Craffu o ran cefnogi gwaith y Cyngor i gyflawni ei flaenoriaethau corfforaethol a’r Cynllun Corfforaethol, yn cynnwys monitro darpariaeth y Cynllun yn rheolaidd.

 

Roedd yr adroddiad hefyd yn crynhoi:-

·         Canlyniad yr adolygiad a gyflawnwyd yn dilyn galw penderfyniad y Cabinet i mewn yn ystod y flwyddyn;

·         Y gwaith a gyflawnwyd gan nifer o Weithgorau / Tasg a Gorffen Craffu a adroddwyd i Graffu;

·         Y mathau o waith ychwanegol a gyflawnwyd gan aelodau Craffu.

 

Mae ymgysylltu â’r cyhoedd ac annog preswylwyr i ryngweithio â Chraffu’n parhau i fod yn her.  Un agwedd gadarnhaol oedd bod disgyblion o Ysgol Dinas Brân wedi cysylltu â Chraffu i wneud cais i gymryd rhan mewn trafodaeth ar waredu’r defnydd o blastigion untro o fewn gwasanaeth prydau ysgol.  Yna cyflwynodd craffu bryderon a sylwadau’r Cyngor i’r Cabinet.

 

Fe wnaeth teuluoedd defnyddwyr gwasanaeth hefyd gymryd rhan mewn trafodaethau ar y dewisiadau posibl ar gyfer ailagor gwasanaeth cyfleoedd gwaith Meifod ar gyfer pobl gydag anableddau dysgu yn dilyn y pandemig, a phrofodd hyn i fod yn hynod o gadarnhaol.

 

Diolchodd y Cynghorydd Irving a’r Aelodau eraill i’r Cydlynydd Craffu, Rhian Evans, am ei chefnogaeth a’i gwaith caled drwy gydol y flwyddyn.

 

CYNIGIWYD gan y Cynghorydd Hugh Irving, EILIWYD gan y Cynghorydd Alan James.

 

Cynhaliwyd pleidlais a chytunwyd yn unfrydol y dylid cymeradwyo’r adroddiad.

 

PENDERFYNWYD bod y Cyngor yn ystyried ac yn cymeradwyo Adroddiad Blynyddol y Pwyllgorau Craffu ar gyfer 2021/22

 

 

8.

AMSERLEN BWYLLGORAU 2023 pdf eicon PDF 208 KB

Ystyried adroddiad gan y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd ac Uwch-weinyddwr Pwyllgorau (copi ynghlwm) i gymeradwyo Amserlen Pwyllgor ar gyfer 2023.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd  Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd, Steven Price, yr adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) i alluogi’r Aelodau i gymeradwyo’r amserlen Bwyllgorau ddrafft ar gyfer 2023.

 

Roedd yn ofynnol i'r Cyngor gymeradwyo amserlen ar gyfer 2023 er mwyn gallu cadarnhau trefniadau’r cyfarfodydd a’r adnoddau, cyhoeddi’r amserlen a llenwi dyddiaduron yr Aelodau.

 

Diolchodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd i’r Uwch Swyddog Pwyllgorau Kath Jones, am  baratoi’r amserlen a chysylltu â swyddogion gan fod hyn wedi gofyn am drefnu gofalus iawn.

 

Codwyd y mater o amser y cyfarfodydd gan y teimlwyd fod cyfarfodydd a gynhaliwyd yn ystod y dydd o anfantais i aelodau sy’n gweithio gan fod rhai cyflogwyr yn gyndyn o ryddhau staff i fynychu cyfarfodydd.

 

Cadarnhaodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd y byddai arolwg yn cael ei ddosbarth i holl aelodau ar ddiwedd mis Awst.  Byddai ymgynghoriad 3-4 wythnos gydag aelodau a byddai adroddiad yn cael ei ychwanegu i’r rhaglen gwaith i’r dyfodol mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

CYNIGIWYD gan y Cynghorydd Mark Young, EILIWYD gan y Cynghorydd Alan James.

 

PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, fod y Cyngor yn cymeradwyo'r amserlen bwyllgorau ar gyfer 2023, yn unol ag atodiad 1.

 

 

9.

PENODI CADEIRYDD AC AELOD AR Y PWYLLGOR GWASANAETHAU DEMOCRATAIDD pdf eicon PDF 207 KB

Ystyried adroddiad gan y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd (copi ynghlwm) i benodi Aelodau etholedig ar y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd, Steve Price yr adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) i alluogi’r Cyngor i benodi aelodau etholedig i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a phenodi Cadeirydd y Pwyllgor.

 

Ystyriodd y Cyngor ofynion aelodaeth y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd yn ystod ei Gyfarfod Blynyddol ym Mai. Ar y pryd nid oedd manylion aelodaeth gwleidyddol yn gyflawn ac felly cytunwyd i ddychwelyd ar y Cyngor yn ddiweddarach i gadarnhau penodiadau i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd.

 

Roedd Adran 11 Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 yn gofyn i’r Cyngor penodi Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd. 

 

O dan y Mesur ni fydd mwy nag un aelod o'r Cabinet ar y Pwyllgor (ac ni all fod yr Arweinydd), ond penderfynodd y Cyngor ym mis Mai 2012 y byddai'r aelodaeth yn 11 o gynghorwyr ac ni fyddai'n cynnwys aelod o'r Cabinet.

 

Gofynnwyd am enwebiadau ar gyfer Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd.

 

Enwebodd y Cynghorydd Jon Harland y Cynghorydd Hugh Evans fel Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd, ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Karen Edwards.

 

Roedd 5 sedd wag ar hyn o bryd.  O’r rhain roedd gan y Blaid Lafur hawl i benodi 4 aelod a Phlaid Cymru hawl i benodi 1 aelod.

 

Ar y pwynt hwn, cadarnhaodd y Cynghorydd Elfed Williams y byddai’n cymryd y sedd wag ar ran Plaid Cymru.

 

Nodwyd pe na byddai’r seddi gwag Llafur yn cael eu henwebu heddiw, byddai’r Cyngor yn cymeradwyo’r aelodau a enwebwyd eisoes ym mharagraff 4.4. a dirprwyo’r awdurdod i Arweinydd y Blaid Lafur i enwebu aelodau tu allan i’r cyfarfod.

 

PENDERFYNWYD bod y Cyngor yn cymeradwyo aelodau’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a enwebwyd ac a nodwyd yn yr adroddiad ac yn dirprwyo awdurdod i arweinydd y Blaid Lafur i ddarparu enwau ar gyfer y seddi sydd ar gael i’r Blaid ar y Pwyllgor.

 

 

10.

PENODI AELOD I BANEL HEDDLU A THROSEDD GOGLEDD CYMRU pdf eicon PDF 206 KB

Ystyried adroddiad gan y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd (copi ynghlwm) i benodi Aelod etholedig i Banel Trosedd ac Anhrefn Gogledd Cymru.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd, Steve Price, yr adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) i gadarnhau penodiad aelod etholedig ar y Panel Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru.

 

Roedd pob un o chwe awdurdod lleol Gogledd Cymru’n gallu enwebu aelod neu aelodau i eistedd ar y Panel. Roedd dyraniad y seddi i bob awdurdod yn seiliedig ar gydbwysedd gwleidyddol a dosbarthiad y boblogaeth ar draws Gogledd Cymru gyfan.   Defnyddiwyd y fethodoleg d’hondt i ganfod nifer y seddi ar gyfer pob awdurdod lleol ac i ba grŵp gwleidyddol neu grwpiau oedd yn gymwys.

 

Ar sail poblogaeth, penododd Conwy, Sir y Fflint, Gwynedd a Wrecsam yn 2 aelod yr un a phenododd Sir Ddinbych ac Ynys Môn 1 aelod yr un. Roedd maint prif bleidiau gwleidyddol y cynghorau yng Ngogledd Cymru’n pennu sawl sedd oedd gan bob grŵp neu grwpiau hawl iddynt.

 

Roedd canlyniadau’r etholiadau llywodraeth leol ym Mai wedi arwain at sedd Sir Ddinbych yn cael ei ddyrannu i’r Blaid Lafur.

 

Enwebodd y Cynghorydd Diane King y Cynghorydd Pete Prendergast, ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Brian Blakeley.

 

Ni chafwyd enwebiad arall ac felly:

 

PENDERFYNWYD bod y Cyngor yn penodi’r Cynghorydd Pete Prendergast i fod ar Banel Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru dros gyfnod y Cyngor hwn neu hyd y penodir rhywun arall.

 

 

11.

HAMDDEN SIR DDINBYCH CYFYNGEDIG - PENODI CYFARWYDDWYR pdf eicon PDF 211 KB

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Cyfriethiol, Adrioddau Dynol a Democrataidd (copi ynghlwm) i benodi Cyfarwyddwyr newydd i Hamdden Sir Ddinbych Cyfyngedig.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Jason McLellan yr adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) i friffio aelodau ar gyfansoddiad Bwrdd Cyfarwyddwyr Hamdden Sir Ddinbych Cyf ac i benodi cyfarwyddwyr newydd yn dilyn yr etholiadau llywodraeth leol.

 

Roedd y ddwy swydd ar y Bwrdd i’w llenwi gan Aelodau Arweiniol yn wag ar ôl iddynt ddod i ben ar ôl colli eu rolau yn dilyn yr etholiad. Roedd y rolau Aelod Arweiniol a nodwyd yn yr adroddiad yn adlewyrchu’r ffaith fod yr Aelodau Arweiniol perthnasol wedi cadw’r portffolio Hamdden a phortffolio Addysg.  Felly cynigiwyd y Cynghorwyr Rhys Thomas a Gill German fel Aelodau o Fwrdd y Cyfarwyddwyr.

 

CYNIGIWYD gan y Cynghorydd Mark Young, ac EILIWYD gan y Cynghorydd Cheryl Williams.

 

Roedd un swydd arall i gael ei llenwi ar y Bwrdd gael aelod etholedig nad oedd yn aelod o’r Cabinet. Y Cynghorydd Peter Prendergast oedd yn y swydd ar hyn o bryd. Gofynnwyd i’r Cyngor gadarnhau penodiad yr aelod nad oedd ar y Cabinet ar gyfer y swydd.

 

Enwebodd y Cynghorydd Jason McLellan y Cynghorydd Peter Prendergast, ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Barry Mellor.

 

Enwebodd y Cynghorydd Mark Young y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Andrea Tomlin.

 

Cafwyd pleidlais ac roedd y canlyniadau fel a ganlyn -

Y Cynghorydd Peter Prendergast - 23

Y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts - 16

 

Felly:

 

PENDERFYNWYD bod -

·         Y Cyngor yn penodi’r Cynghorydd Gill German, Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd a’r Cynghorydd Rhys Thomas, Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau i fod yn Gyfarwyddwyr HSDd.

·         Y Cyngor yn cadarnhau penodiad Aelod nad yw ar y Cabinet, y Cynghorydd Peter Prendergast, fel Cyfarwyddwr HSDd.

 

 

 

 

 

12.

PENODI CYNRYCHIOLYDD CYNGHORAU TREF, DINAS A CHYMUNED I'R PWYLLGOR SAFONAU pdf eicon PDF 206 KB

Ystried adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Cyfriethiol, Adrioddau Dynol a Democrataidd (copi ynghlwm) penodi cynrychiolydd Cynghorau Tref, Dinas a Chymuned i’r Pwyllgor Safonau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro, Gary Williams adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) er mwyn i’r Cyngor benodi cynrychiolydd Cyngor Tref, Dinas a Chymuned i’r Pwyllgor Safonau.

 

Ar 24 Mai 2022 cytunodd y Cyngor y dylai swyddogion ymgynghori â Chynghorau Tref, Dinas a Chymuned i ail-benodi’r Cynghorydd Gordon Hughes i wasanaethu fel cynrychiolydd Cyngor Tref, Dinas a Chymuned ar Bwyllgor Safonau’r Cyngor am ail dymor.

 

Cysylltwyd â Chynghorau Tref, Dinas a Chymuned i ofyn am eu barn o ran ail-benodi’r Cynghorydd Hughes. Roedd yr holl ymatebion a dderbyniwyd yn gefnogol o ail-benodi’r Cynghorydd Hughes.

 

CYNIGIWYD gan y Cynghorydd Gwyneth Ellis, EILIWYD gan y Cynghorydd Alan James.

 

PENDERFYNWYD bod y Cyngor yn penodi’r Cynghorydd Gordon Hughes o Gyngor Tref Corwen i fod yn gynrychiolydd Cyngor Tref, Dinas a Chymuned ar y Pwyllgor Safonau am yr ail dymor a’r olaf.

 

 

13.

RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL Y CYNGOR SIR pdf eicon PDF 385 KB

Ystyried Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cyngor (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, AD a Democrataidd Raglen Gwaith i'r Dyfodol y Cyngor, ynghyd â Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol ar gyfer Gweithdai'r Cyngor (a ddosbarthwyd ymlaen llaw).

 

Cadarnhawyd y byddai canlyniadau’r Arolwg i Gynghorwyr o ran amser y cyfarfodydd yn cael eu cyflwyno yn y cyfarfod ym mis Hydref 2022.

 

PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, y dylid cymeradwyo a nodi Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cyngor a Gweithdai’r Cyngor.

 

 

 

DAETH Y CYFARFOD I BEN AM 11.55 A.M.