Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: VIA VIDEO CONFERENCE

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Dogfennau ychwanegol:

2.

DATGANIADAU O FUDDIANT pdf eicon PDF 197 KB

Yr Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ar y pwynt hwn, gadawodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd y cyfarfod.

 

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad.

 

3.

ADOLYGU STRWYTHUR YR UWCH ARWEINYDDIAETH pdf eicon PDF 217 KB

Ystyried adroddiad gan y Prif Weithredwr ar gyfeiriad strategol y Cyngor yn y dyfodol, yn cynnwys cynnig i ailstrwythuro Uwch Dîm Arweinyddiaeth y Cyngor (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr, Graham Boase adroddiad Adolygu’r Strwythur Uwch Arweinyddiaeth.

 

Roedd ailstrwythuro’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth yn cynnwys creu swydd Cyfarwyddwr Corfforaethol ychwanegol (sef Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cefnogi). Eglurwyd bod angen penderfyniad ffurfiol gan y Cyngor i greu swydd uwch reolwr newydd ar y lefel hon.

 

Amlygodd yr adroddiad ailstrwythuro ddull dau gam gan bwysleisio’r diffyg difrifol o gapasiti uwch reoli ac arweinyddiaeth sydd ei angen er mwyn ymdrin â’r heriau y byddai’r Awdurdod Lleol yn eu hwynebu yn y dyfodol.  

 

Roedd cyfarfod o Banel Tâl Uwch Dîm Arweinyddiaeth Aelodau, dan gadeiryddiaeth y Cynghorydd Julian Thompson-Hill wedi cael ei gynnal ar 14 Chwefror 2022. Roedd y Rheolwr AD wedi rhoi gwybod i’r Panel am yr asesiad annibynnol a gynhaliwyd gan Kornferry Hay, ar radd swydd arfaethedig newydd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cefnogi.   Roedd gradd y swydd newydd wedi’i werthuso yn seiliedig ar Uwch Dîm Arweinyddiaeth 3 (£107,374 - £110,670) ac ni fyddai unrhyw newid i werthusiadau’r ddau Gyfarwyddwr Corfforaethol presennol. Roedd y Panel Cydnabyddiaeth wedi cefnogi’r ailstrwythuro a gynigiwyd.

 

Cadarnhaodd yr Arweinydd, y Cynghorydd Hugh Evans, y gofynnwyd iddo, pan benodwyd Graham Boase fel Prif Weithredwr ym mis Awst 2021, i fyfyrio ar anghenion y Cyngor, uchelgais y Cyngor a’r strwythur i gyflawni’r uchelgais honno.    Oherwydd y pwysau a welwyd dros y 12 mis diwethaf, roedd pwysau wedi bod ar gapasiti a phwrpas yr ailstrwythuro oedd lleddfu rhai ohonynt. 

 

CYNIGIODD y Cynghorydd Julian Thompson-Hill gymeradwyo adroddiad Ailstrwythuro’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth, ac EILIODD y Cynghorydd Hugh Evans.

 

Ar y pwynt hwn, gofynnodd y Cynghorydd Gwyneth Ellis i aelodau bleidleisio yn erbyn y cynnig. Yn ei barn ni, nid oedd yr ailstrwythuro arfaethedig yn cynnig y gwerth gorau am arian, yn enwedig yn yr argyfwng ariannol presennol oedd y preswylwyr yn ei wynebu.  

 

Roedd yr adroddiad yn disgrifio’r strwythur presennol ond nid oedd dadansoddiad o berfformiad presennol y Cyngor a sut oedd disgwyl iddo wella yn y dyfodol.    Byddai dadansoddiad o’r fath yn caniatáu i Gynghorwyr nodi anfanteision y strwythur presennol a sut fyddai’r strwythur newydd o fantais. Dywedodd y Cynghorydd Ellis hefyd nad oedd yr adroddiad yn rhoi dadansoddiad manwl o gost yr ailstrwythuro. Dywedodd hefyd na allai Cynghorwyr farnu a fyddai’r cynllun yn llwyddiant ai peidio pe bai’n cael ei roi ar waith gan nad oedd targedau i farnu yn eu herbyn. Cytunodd y Cynghorydd Ellis y byddai’n anodd iawn diffinio manteision ailstrwythuro ond nid yn amhosibl. Cadarnhaodd y Cynghorydd Ellis nad oedd yn erbyn yr ailstrwythuro fel y cyfryw, ond byddai’n well ganddi weld dadansoddiad llawn o’r costau a manteision y disgwylir.

 

CYNIGIODD y Cynghorydd Gwyneth Ellis bleidleisio yn erbyn yr adroddiad Ailstrwythuro Uwch Arweinyddiaeth, ac EILIODD y Cynghorydd Glenn Swingler.

 

Cafwyd trafodaeth fanwl, a chodwyd y pwyntiau canlynol:

·         Eglurwyd bod angen yr ailstrwythuro ac os na fyddai’n gwella dyfodol yr Awdurdod Lleol, yn sicr byddai’r Prif Weithredwr yn cael ei ddwyn i gyfrif.

·         Cadarnhawyd bod pob aelod o’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth yn cytuno â’r ailstrwythuro ac mai’r Prif Weithredwr fyddai’n cael ei ddwyn i gyfrif.

·         Nid oedd y strwythur presennol yn galluogi’r Tîm Gweithredol Corfforaethol ddarparu’r arweinyddiaeth strategol briodol. Roedd angen y capasiti ychwanegol i’r Awdurdod allu cyflawni pob agenda heriol a drafodwyd yn ystod y cyfarfod.

·         Cadarnhaodd y Cynghorwyr Glenn Swingler a Paul Penlington eu bod yn cytuno â’r Cynghorydd Gwyneth Ellis gan annog aelodau i bleidleisio yn erbyn yr ailstrwythuro arfaethedig.

 

 

 

Cafwyd pleidlais ac roedd y canlyniad fel a ganlyn:

 

O blaid yr Ailstrwythuro - 27

Yn erbyn – 6

Ymatal – 1

 

Felly,

 

PENDERFYNWYD:

·         Bod y Cyngor yn cymeradwyo creu swydd Cyfarwyddwr Corfforaethol newydd, sef Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cefnogi;

·         Bod y Cyngor yn derbyn  ...  view the full Cofnodion text for item 3.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 3.15 p.m.