Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: the Council Chamber, County Hall, Ruthin and via Video Conference

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

Ar ran yr aelodau, rhoddodd yr Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd ei llongyfarchiadau i’r Cynghorydd Kelly Clewett a oedd wedi ennill gwobr fawreddog ac wedi’i henwi yn Hyrwyddwr Menywod mewn Iechyd a Gofal Gwobrau Womenspire Chwarae Teg. Diolchodd i’r Cynghorydd Clewett am ei hymroddiad a’i gwaith caled yn sector Gofal Cymdeithasol yn enwedig yn ystod pandemig Covid. Fe wnaeth yr holl aelodau ei llongyfarch drwy roi cymeradwyaeth iddi.

 

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr David Williams a Huw Williams.

 

 

2.

DATGANIADAU O GYSYLLTIAD pdf eicon PDF 197 KB

Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu ragfarnus mewn unrhyw fusnes a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafodd unrhyw gysylltiad ei ddatgan.

 

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol ag Adran 100B(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol, 1972.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Darparodd y Cadeirydd fanylion i’r aelodau am y digwyddiadau yr oedd o neu’r Is-Gadeirydd wedi’u mynychu ers mis Mai 2022.

 

Cyfeiriwyd at y canlynol:

 

·         Y digwyddiad cyntaf a fynychwyd gan y Cadeirydd oedd Eisteddfod yr Urdd.

·         Nodwyd presenoldeb mewn digwyddiad Eiriolaeth ar ddiwedd mis Mehefin.

·         Cynhaliwyd ymweliadau ag ysgolion yn ystod mis Gorffennaf.

·         Cynhaliwyd seremoni ragorol i ailenwi’r bad achub yn y Rhyl.

·         Mynychwyd pum digwyddiad cofio er cof am y diweddar Frenhines Elizabeth II (cafwyd 30 eiliad o dawelwch er cof amdani).

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Is-Gadeirydd am fynychu’r digwyddiadau hyn pan nad oedd ar gael.

 

 

 

4.

Cofnodion pdf eicon PDF 381 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Cyngor Sir a gynhaliwyd ar 19 Gorffennaf 2022 (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cyngor Llawn a gynhaliwyd ar 19 Gorffennaf 2022.

 

Cywirdeb - Ni chodwyd unrhyw fater.

 

Materion yn codi –

 

Tudalen 11 (eitem 8 - Amserlen y Pwyllgor) - gofynnodd y Cynghorydd Gareth Sandilands am y wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn ag amser cyfarfodydd. Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Llywodraethu a Busnes bod adroddiad wedi cael ei gyflwyno i’r pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ar ddiwedd mis Medi a oedd yn darparu manylion arolwg a oedd yn pennu dewis yr aelodau o ran amseroedd cyfarfodydd.

 

PENDERFYNWYD cadarnhau bod cofnodion cyfarfod y Cyngor Llawn a gynhaliwyd ar 19 Gorffennaf 2022 yn gofnod cywir.

 

 

5.

CYNLLUN CORFFORAETHOL CYNGOR SIR DDINBYCH 2022 - 2027 pdf eicon PDF 311 KB

Derbyn adroddiad gan y Cyd-Bennaeth Gwella Busnes a Moderneiddio Dros Dro (copi ynghlwm) i gymeradwyo drafft terfynol Cynllun Corfforaethol 2022 – 2027.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Polisi, Cydraddoldeb a Strategaeth Gorfforaethol yr adroddiad Cynllun Corfforaethol 2022-2027 (a ddosbarthwyd ymlaen llaw).

 

Diolchwyd i bawb a oedd wedi bod yn rhan o lunio’r Cynllun Corfforaethol newydd arfaethedig. Roedd ymgynghoriadau eang ac amrywiol wedi cael eu cynnal. Diolchwyd hefyd i’r holl bleidiau gwleidyddol am eu sylwadau cadarnhaol ac adeiladol i helpu i fireinio’r cynllun.

 

Roedd yn ofyniad statudol bod Awdurdodau Lleol yn cyhoeddi Amcanion Lles, Amcanion Cydraddoldeb, ac yn nodi meysydd ar gyfer Gwelliant Sefydliadol. Roedd Cynllun Corfforaethol Sir Ddinbych2022-27 yn cyflawni hyn i gyd.

 

Roedd y cynllun drafft yn amlinellu’r blaenoriaethau a’r weledigaeth o’r hyn yr oedd y Cabinet, gyda chefnogaeth y Cyngor, yn anelu i’w gyflawni dros y 5 mlynedd nesaf.

Roedd yr addewidion allweddol yr oedd yr Awdurdod Lleol wedi ymrwymo i’w cyflawni yn y Cynllun wedi’u trefnu mewn themâu. Roeddent yn bwysig am eu bod naill ai:

 

·         Angen cyllid cyfalaf / refeniw sylweddol e.e. ffyrdd ac ysgolion newydd (ond nid oes angen cyllid ychwanegol ar bopeth);

·         Angen newid diwylliannol / sefydliadol sylweddol e.e. i fod yn Sir Ddinbych lle mae’r Iaith Gymraeg a Diwylliant Cymru yn ffynnu, a / neu

·         Yn effeithio ar y sir gyfan e.e. sefydlu isadeiledd gwefru cerbydau trydan.

 

Roedd y Cynllun Corfforaethol yn ddogfen bwysig i ddangos gweledigaeth ar y cyd y byddwn i gyd yn gweithio tuag ati gyda’n gilydd. Roedd y cynllun yn canolbwyntio ar wella lles cymunedau a thrigolion Sir Ddinbych drwy greu amodau da yn y gymuned. Roedd hefyd yn canolbwyntio ar ansawdd y gwasanaethau a oedd yn cael eu cynnig i’r rhai hynny a oedd angen cymorth.

 

Roedd y cynllun wedi cael ei rannu i naw thema allweddol a byddai pob un ohonynt yn cael eu dyrannu i Aelodau Cabinet er mwyn eu goruchwylio. Roedd pob thema yn disgrifio’r amcanion rydym yn gobeithio eu cyflawni dros y 5 mlynedd nesaf. Roedd y blaenoriaethau a amlinellwyd yn y Cynllun Corfforaethol wedi cael eu llunio drwy broses fanwl a chlir o gasglu a dadansoddi tystiolaeth ac ymgynghoriad manwl gyda chymunedau.

 

Nid oedd y Cynllun Corfforaethol yn cynrychioli holl fusnes y Cyngor ac ni fwriadwyd iddo wneud hynny. Roedd llawer iawn o waith pwysig yn cael ei wneud y tu allan i gwmpas y cynllun.

Nod y cynllun yw bod yn hyblyg gydag unrhyw newidiadau angenrheidiol yn cael eu hadrodd i’r Cyngor.

 

Wrth drafod, codwyd y materion canlynol:

·         Pe bai’r cynllun yn cael ei gymeradwyo, byddai gwaith ymchwil yn cael ei gynnal i nodi’r gwaith a fyddai angen ei wneud i gyflawni pob un o’r addewidion. Ar y cam hwnnw byddai swyddogion a’r Aelod Arweiniol yn gallu nodi beth oedd modd ei gyflawni a phryd o ystyried yr adnoddau, amser a chyllid sydd ar gael.

·         Yn ystod yr amser a gymerwyd i ddatblygu’r Cynllun Corfforaethol drafft, roedd y sefyllfa ariannol wedi dirywio. Roedd y rhagolwg ariannol ar gyfer y ddwy flynedd nesaf wedi newid ers dechrau’r flwyddyn. Roedd diweddariad Cyllid i gael ei gyflwyno yng Ngweithdy nesaf y Cyngor a fyddai’n rhoi manylion am y newidiadau. Byddai trafodaethau ag aelodau am newidiadau a chynlluniau arbed mewn perthynas â’r gyllideb yn cael eu cynnal unwaith i ffigyrau’r gyllideb gael eu cyhoeddi.

·         Roedd nifer o’r prosiectau a oedd wedi’u cynnwys yn y cynllun eisoes wedi cael eu cymeradwyo neu wrthi’n cael eu cymeradwyo ac wedi’u cynnwys yn y gyllideb.

·         Fel awdurdod, nid oedd benthyca at ddibenion buddsoddi yn cael ei awdurdodi.

·         Roedd teithio llesol a defnyddio llwybrau cerdded a llwybrau beicio yn cael eu hannog o dan thema rhif 5 y cynllun.

·         Bu i oddeutu 1300 ymateb yn ystod y cyfnodau ymgynghori. Roedd gwaith i annog  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

Ar y pwynt hwn (11.32am) cafwyd egwyl o 15 munud.

 

Ailddechreuodd y cyfarfod am 11.48am.

 

6.

PENODI CADEIRYDD Y PWYLLGOR GWASANAETHAU DEMOCRATAIDD pdf eicon PDF 205 KB

Derbyn adroddiad gan y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd (copi ynghlwm) i benodi Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ceisiwyd enwebiadau i benodi aelod yn Gadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd.

 

Cadarnhaodd y Swyddog Monitro nad oedd Cadeirydd y Pwyllgor yn cael bod yn aelod o blaid gwleidyddol a oedd yn cael ei chynrychioli ar y Cabinet.

 

Bu i’r Cynghorydd Peter Scott enwebu’r Cynghorydd Martyn Hogg yn Gadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ar gyfer blwyddyn 2022/23 y Cyngor, ac fe eiliwyd y cynnig hwn gan y Cynghorydd Julie Matthews.

 

Ni chafwyd unrhyw enwebiadau eraill.

 

Felly,

 

PENDERFYNWYD penodi’r Cynghorydd Martyn Hogg yn Gadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ar gyfer blwyddyn 2022/23 y Cyngor.

 

 

7.

PENODI AELOD LLEYG I'R PWYLLGOR SAFONAU pdf eicon PDF 202 KB

Derbyn adroddiad gan y Dirprwy Swyddog Monitro (copi ynghlwm) i benodi Aelod Lleyg i Bwyllgor Safonau’r Cyngor am gyfnod o flwyddyn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro’r adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llawn), yn atgoffa’r aelodau bod proses recriwtio agored wedi cael ei chynnal i recriwtio aelodau lleyg i’r Pwyllgor Safonau.

 

Roedd y Cyngor eisoes wedi enwebu panel penodiadau arbennig y Pwyllgor Safonau. Roedd y panel yn cynnwys y Cynghorwyr Sir Bobby Feeley, Peter Scott ac Arwel Roberts, ynghyd â’r Cynghorydd Cymuned Gordon Hughes a chynrychiolydd annibynnol  Noela Jones, i gyfweld darpar aelodau lleyg ar gyfer y sedd wag ar Bwyllgor Safonau’r Cyngor.

 

Bu i’r panel argymell i’r Cyngor Llawn y dylid penodi Mr Samuel Jones yn aelod o Bwyllgor Safonau’r Cyngor.

 

Cynigodd y Cynghorydd Arwel Roberts y dylid penodi Mr Samuel Jones fel aelod lleyg i’r Pwyllgor Safonau, ac eiliwyd y cynnig hwn gan y Cynghorydd Peter Scott.

Roedd yr holl aelodau yn gytûn.

 

Felly,

 

PENDERFYNWYD y dylid penodi Mr Samuel Jones fel Aelod Lleyg i Bwyllgor Safonau Sir Ddinbych.

 

 

 

Ar y pwynt hwn cytunwyd i amrywio trefn y rhaglen.

 

8.

ADRODDIAD AR SEFYDLOGRWYDD Y FARCHNAD YNG NGOGLEDD CYMRU - ADRODDIAD DRAFFT 2022 pdf eicon PDF 235 KB

Derbyn adroddiad gan Ann Lloyd / Rhiain Morrlle (copi ynghlwm) i geisio cefnogaeth y Cyngor i gymeradwyo Adroddiad Sefydlogrwydd Marchnad Gogledd Cymru

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol yr adroddiad ar Sefydlogrwydd y Farchnad Gogledd Cymru (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) ynghyd â’r Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd.

 

Roedd Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn rhoi dyletswydd newydd ar awdurdodau lleol a byrddau iechyd i lunio asesiad ar y cyd o ddigonolrwydd a chynaladwyedd y farchnad gofal cymdeithasol. Roedd yr adroddiad wedi cael

ei gynhyrchu gan Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru ac roedd yn ystyried y canfyddiadau o Asesiad o Anghenion Poblogaeth Gogledd Cymru 2022.

 

Roedd yr adroddiad yn asesu digonolrwydd gofal a chymorth o ran bodloni’r anghenion a’r galw am ofal cymdeithasol, fel y nodir yn yr asesiad o anghenion y boblogaeth a sefydlogrwydd y farchnad ar gyfer gwasanaethau a reoleiddir.

Nod yr adroddiad oedd cynorthwyo’r rhanbarth i gomisiynu a chefnogi darparwyr gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn effeithiol i ateb y galw gan y boblogaeth. Byddai’r adroddiad yn sail i gynlluniau a phenderfyniadau yn y dyfodol.

 

Cymeradwywyd yr adroddiad gan y Pwyllgor Craffu Perfformiad ar 14 Gorffennaf 2022.

 

Dangoswyd yn yr adroddiad yr heriau a wynebwyd gan ofal cymdeithasol nid yn unig yn Sir Ddinbych ond ar draws Cymru Gyfan. Byddai gwasanaethau Sir Ddinbych yn parhau i weithio’n galed i gynnig cefnogaeth i unigolion, teuluoedd a phlant lle bo angen.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Gwasanaethau Cymorth Cymunedol dros dro  fod gan Gyngor Sir Ddinbych fewnbwn sylweddol fel awdurdod lleol wrth greu’r adroddiad.

 

Wrth drafod, codwyd y materion canlynol:

·         Roedd Bwthyn y Ddôl yn dîm amlddisgyblaethol yn gweithio gyda phlant ar draws Sir Ddinbych a Chonwy. Nod y tîm yw darparu ymyrraeth ddwys i blant ar ffiniau gofal gyda’r bwriad o gefnogi’r teulu cyfan. Roedd canolfan asesu hefyd yn cael ei hadeiladu i gynnig cefnogaeth a seibiant i deuluoedd a phobl ifanc  Bydd yn caniatáu i’r plant aros yn lleol yn ystod y gefnogaeth i’r teulu.

·         Caiff unigolion eu hasesu mewn ysbytai ar adegau gwahanol, gwneir hyn weithiau cyn i unigolyn gael ei ryddhau o’r ysbyty. Roedd cydweithio agos gyda chydweithwyr iechyd i alluogi unigolion i fynd adref cyn gynted â phosibl yn parhau. Roedd angen sefydlu’r pecyn gofal neu sefydliad cywir ar gyfer yr unigolyn cyn iddynt gael eu rhyddhau o’r ysbyty.

·         Mae nyrsys ardal yn cael hyfforddiant i roi I.V. yn y gymuned, ond pwysleisiwyd mai dim ond math penodol o wrthfiotig oedd nyrsys ardal yn cael ei ddarparu.

·         Roedd pryderon ynglŷn â recriwtio a chadw staff yn fater parhaus. Pwysleisiwyd bod hwn yn bryder cenedlaethol ac nid yn Sir Ddinbych yn unig. Sawl ffordd arloesol i annog unigolion i ymuno â’r tîm gofal cymdeithasol.

·         Roedd cydweithio agos gyda’r bwrdd iechyd i sefydlu unrhyw anghenion gofal yn parhau pan roedd unigolion yn gadael yr ysbyty.

Cafwyd cynnig gan y Cynghorydd Bobby Feeley, wedi’i eilio gan y Cynghorydd Brian Blakely.

 

PENDERFYNWYD:

·         Bod yr Aelodau’n cymeradwyo Adroddiad ar Sefydlogrwydd y Farchnad Gogledd Cymru 2022; a

·         Bod yr Aelodau’n cadarnhau eu bod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Gydraddoldeb fel rhan o’u hystyriaethau.

 

 

 

 

9.

RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL Y CYNGOR SIR pdf eicon PDF 234 KB

Ystyried rhaglen waith i’r dyfodol y Cyngor (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Llywodraethu a Busnes, Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cyngor ynghyd â Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol Gweithdy’r Cyngor (a ddosbarthwyd ymlaen llaw).

 

Cadarnhawyd y byddai cynlluniau amddiffyn arfordir Canol y Rhyl a Phrestatyn, canlyniadau o’r arolwg Aelodau ynglŷn ag amser cyfarfodydd a chymeradwyaeth y cynllun deiseb yn cael eu cyflwyno yn y cyfarfod ym mis Rhagfyr 2022.

 

Atgoffwyd yr Aelodau y byddai Gweithdy’r Cyngor yn cael ei gynnal ar 24 Hydref i drafod adolygiad y Tîm Arwain Strategol.

 

Trefnwyd bod hyfforddiant Cod Ymddygiad yn cael ei gynnal ar ôl y cyfarfod yn Siambr y Cyngor, Rhuthun i’r Aelodau nad oeddent wedi cael yr hyfforddiant o’r blaen.

 

Nodwyd bod Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol Gweithdy’r Cyngor wedi cael ei chynnwys yn y pecyn. Roedd yn rhestru’r adroddiadau a awgrymir i’r aelodau eu trafod. Anogwyd yr Aelodau i adrodd unrhyw argymhellion a awgrymir yn ôl i swyddogion.

 

Atgoffwyd yr Aelodau bod cyfarfodydd Cyngor Sir yn gorff sy’n gwneud penderfyniadau, ac felly dylai eitemau sy’n gofyn am benderfyniad gael eu cyflwyno gerbron yr aelodau i’w trafod a’u penderfynu.

Trefnwyd Gweithdai’r Cyngor i roi cyfle i’r aelodau gael cyd-destun a thrafodaeth fanwl ar y pwnc perthnasol. 

 

PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, y dylid cymeradwyo a nodi Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cyngor a Gweithdy’r Cyngor.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 12.25 p.m.

Dogfennau ychwanegol: