Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: yn Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Dogfennau ychwanegol:

2.

DATGAN CYSYLLTIAD pdf eicon PDF 197 KB

Yr Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

 

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

 

 

4.

Cofnodion pdf eicon PDF 398 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Cyngor Sir a gynhaliwyd ar 24 Mai 2022 (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cyngor Blynyddol a gynhaliwyd ar 24 Mai 2022.

 

PENDERFYNWYD cadarnhau bod cofnodion cyfarfod y Cyngor Blynyddol a gynhaliwyd ar 24 Mai 2022 yn gofnod cywir.

 

5.

RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL Y CYNGOR SIR pdf eicon PDF 336 KB

Ystyried Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cyngor (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, AD a Democrataidd Raglen Gwaith i'r Dyfodol y Cyngor, ynghyd â Rhaglen  Gwaith i'r Dyfodol ar gyfer Sesiynau Briffio'r Cyngor (a ddosbarthwyd ymlaen llaw).

 

PENDERFYNWYD y dylid cymeradwyo a nodi Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cyngor a Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol Sesiynau Briffio'r Cyngor.

 

Gwahardd y wasg a'r cyhoedd

PENDERFYNWYD, yn unol ag Adran 100A(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972 y dylid gwahardd y wasg a'r cyhoedd o'r cyfarfod tra bydd yr eitemau busnes canlynol yn cael eu hystyried oherwydd ei bod yn debygol y bydd gwybodaeth eithriedig (fel y diffinnir ym Mharagraff 12 a 14 Rhan 4 Atodlen 12A y Ddeddf) yn cael ei datgelu.

 

Dogfennau ychwanegol:

6.

PENODI CYFARWYDDWR CORFFORAETHOL: LLYWODRAETHU A BUSNES

Cyfweld ymgeiswyr ac ystyried gwneud penodiad i’r swydd Cyfarwyddwr Corfforaethol: Llywodraethu a Busnes. Bydd nifer yr ymgeiswyr i’w cyfweld yn cael ei bennu gan Banel Penodiadau Arbennig.

 

Cofnodion:

Hysbysodd Arweinydd y Cyngor a'r Rheolwr Gwasanaethau AD yr aelodau o'r Panel Penodiadau Arbennig a gweithgareddau'r ganolfan asesu a ddefnyddiwyd i werthuso'r ymgeiswyr. Roedd y Panel wedi nodi un ymgeisydd a allai fod yn addas i'w benodi ac a oedd felly wedi'i wahodd i fynychu cyfarfod y Cyngor heddiw.

 

Rhoddodd yr ymgeisydd gyflwyniad i’r Cyngor ac ymateb i gyfres o gwestiynau gan yr aelodau.

 

PENDERFYNWYD – penodi Gary Williams i swydd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Llywodraethu a Busnes.

 

 

7.

PENODI CYFARWYDDWR CORFFORAETHOL: ECONOMI A'R AMGYLCHEDD

Cyfweld ymgeiswyr ac ystyried gwneud penodiad i’r swydd Cyfarwyddwr Corfforaethol: Economi a’r Amgylchedd.  Bydd nifer yr ymgeiswyr i’w cyfweld yn cael ei bennu gan Banel Penodiadau Arbennig.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Arweinydd y Cyngor yr eitem hon ac adroddodd fod y Panel Penodiadau Arbennig wedi nodi dau ymgeisydd i'w rhoi ar y rhestr fer a'u gwahodd i fynychu'r Cyngor heddiw.

 

Rhoddodd y ddau ymgeisydd gyflwyniad i’r Cyngor ac ymateb i gyfres o gwestiynau gan yr aelodau; cafodd y ddau ymgeisydd yr un cwestiynau.

 

PENDERFYNWYD – penodi Tony Ward i swydd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Yr Amgylchedd a’r Economi.