Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: via Video Conference

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Dogfennau ychwanegol:

Ar y pwynt hwn talodd y Cadeirydd, y Cynghorydd Alan James, deyrnged i’r cyn Gynghorydd, Lloyd Williams a fu farw’n ddiweddar. Soniodd y Cynghorydd James am ymroddiad y Cynghorydd Williams i’r cyngor a’i waith caled. Cynhaliwyd myfyrdod tawel er parch.

 

Fe dalodd y Cynghorydd Gwyneth Kensler deyrnged hefyd i Nancy Fletcher Williams a fu farw ar 3 Ionawr 2022 a oedd yn gyn Gynghorydd a fu'n cynrychioli'r Rhyl.

 

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANT pdf eicon PDF 197 KB

Yr Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw faterion brys.

 

 

Cwestiwn i’r Cyngor Llawn gan y Cynghorydd Rhys Thomas

“Cyhoeddodd Llywodraeth y DU ym mis Rhagfyr eu bod am lacio rheolau mewnfudo ar gyfer gweithwyr gofal tramor. Yna cyhoeddodd yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol y byddai’r mesurau hyn yn dod i rym yn gynnar y flwyddyn nesaf ac yn gweithredu am 12 mis.

 

Rydym ni oll yn ymwybodol o’r diffyg sylweddol o weithwyr gofal yn Sir Ddinbych, felly a yw’r Aelod Arweiniol yn ymwybodol o’r newidiadau hyn ac a ydynt wedi dod i rym yn lleol”?

 

Ymateb gan yr Aelod Arweiniol, y Cynghorydd Bobby Feeley:

 

Rydym yn ymwybodol o’r newidiadau hyn sydd i’w croesawu. Yn lleol yma yn Sir Ddinbych, rydym hefyd yn ymwybodol o’r dyfarniad newydd ac yn cefnogi darparwyr sy’n awyddus i wneud y mwyaf o gyfleoedd i recriwtio gweithwyr gofal yn unol â llacio rheolau mewnfudo gan Lywodraeth y DU. Yn wir, cyhoeddwyd ym mis Rhagfyr y bydd gweithwyr gofal, cymorthyddion gofal a gweithwyr gofal cartref yn gymwys ar gyfer fisa iechyd a gofal am gyfnod o 12 mis. Golyga hyn y byddwn yn gallu recriwtio gweithwyr gofal ychwanegol er mwyn hybu gweithlu gofal cymdeithasol i oedolion a ddylai ei gwneud yn haws ac yn fwy sydyn i gyflogwyr gofal cymdeithasol recriwtio gweithwyr cymwys er mwyn llenwi’r bylchau. 

 

Mae pandemig y coronafeirws wedi amlygu ystod o brinder staff yn y sector gofal cymdeithasol, gan roi pwysau ar y gweithlu presennol er gwaethaf ymdrechion anhygoel a diflino staff gofal cymdeithasol. Er fy mod yn siŵr bod fy llythyr i’r Prif Weinidog a anfonwyd ar eich rhan wedi helpu rhywfaint, mae’n rhaid dweud fod y newidiadau i’r ddeddfwriaeth hefyd yn dilyn argymhelliad gan y Pwyllgor Cynghori ar Ymfudo i wneud gweithwyr gofal a gofalwyr cartref yn gymwys ar gyfer fisa Iechyd a Gofal ac i ychwanegu’r alwedigaeth i’r rhestr galwedigaethau gweithwyr medrus. Ar y pryd, roedd yr ymateb gan Lywodraeth y DU a rannais gyda chwi oll yn eithaf siomedig, ond yn fuan wedyn mae’n ymddangos ein bod wedi derbyn y canlyniad roeddem ei eisiau.  Yn amlwg, ni fydd hyn yn datrys y broblem dros nos, ond mi fydd o gymorth, ac rwy’n ddiolchgar iawn am hynny. 

 

 

 

4.

Cofnodion pdf eicon PDF 332 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Cyngor Sir a gynhaliwyd ar 7 Rhagfyr 2021 (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cyngor Llawn ar 7 Rhagfyr 2021.

 

Cywirdeb

 

Eitem 9 – Rhybudd o Gynnig – nododd y Cynghorydd Gwyneth Kensler y dylai ddweud “Cynigiodd y Cynghorydd Graham Timms fod y cwestiwn yn cael ei roi”.

 

Materion yn Codi

 

Y Cynghorydd Arwel Roberts – Deiseb ynglŷn â: Ffordd Abergele, Rhuddlan.  Roedd ymateb wedi ei dderbyn ond nid yr un yr oeddwn ei eisiau.  Gobeithio y byddant yn ail ystyried y sefyllfa gan fod pobl ag anableddau yn byw ar hyd y ffordd honno ac mae’n rhaid iddynt deithio’n bell dim ond i groesi’r ffordd honno.  Mae’n rhaid i ni gofio am bobl sy’n llai ffodus na ni ein hunain sydd mewn cadeiriau olwyn ac felly, gobeithio, fe fydd y Cyngor Sir a Swyddogion yn edrych ar y mater eto.

 

PENDERFYNWYD yn amodol ar yr uchod, cadarnhau cofnodion cyfarfod y Cyngor Llawn a gynhaliwyd ar 7 Rhagfyr 2021 fel cofnod cywir.

 

 

5.

CYLLIDEB 2022/23 - CYNIGION TERFYNOL<0} pdf eicon PDF 267 KB

Ystried adroddiad gan y Pennaeth Cyllid ac Eiddo (copi ynghlwm)

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol, y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, adroddiad y Gyllideb 2022/23 – Cynigion Terfynol (a ddosbarthwyd eisoes).

 

Roedd yn ofynnol yn ôl y gyfraith i'r Cyngor bennu cyllideb gytbwys y gellir ei chyflawni cyn dechrau pob blwyddyn ariannol a gosod lefel Treth y Cyngor i ganiatáu i filiau gael eu hanfon at breswylwyr.

 

Derbyniodd y cyngor y Setliad Llywodraeth Leol Drafft ar gyfer 2022/23 ar 21 Rhagfyr ac arweiniodd at setliad cadarnhaol o 9.2% a oedd yn cymharu â'r cyfartaledd o 9.4% i Gymru. Disgwyliwyd y Setliad Terfynol ar 1 Mawrth ond mae Llywodraeth Cymru (LlC) wedi nodi na fydd yna lawer o newidiadau.

 

O fewn y ffigwr a gyhoeddwyd nododd Llywodraeth Cymru bod nifer o gyfrifoldebau newydd, nad oes gan bob un ohonynt symiau canlyniadol clir yn y data.  Mae’r disgwyliadau sydd angen eu hariannu yn cynnwys y canlynol:

·         Yr holl godiadau cyflog ar gyfer swyddi addysgu a swyddi nad ydynt yn rhai addysgu, sydd wedi'u cynnwys yn y Grant Cynnal Refeniw;

·         Y cyfrifoldeb i dalu’r Cyflog Byw Gwirioneddol i’n Gofal Cymdeithasol ein hunain a Gofal Cymdeithasol y sector preifat.

·         Y costau gweithredol craidd mewn cysylltiad â'r Cydbwyllgor Corfforedig newydd; a

·         Lliniaru ar gyfer y ffaith y bydd y Gronfa Caledi Covid yn dod i ben o ddiwedd y flwyddyn ariannol bresennol.

 

Mae setliad drafft LlC yn cynnwys codiadau setliad cyfartalog dangosol o 3.5% ar gyfer 2023/24 a 2.4% ar gyfer 2024/25 (ffigyrau amcangyfrifedig CSDd fyddai 3.3% a 2.2%).  Er y caiff hyn ei groesawu o safbwynt cynllunio, mae'n dangos y bydd angen gwneud penderfyniadau anodd dros y blynyddoedd nesaf.

 

Fel rhan o’r setliad roedd yna “drosglwyddiadau i mewn” o £0.275m sydd wedi eu trosglwyddo i’r meysydd gwasanaeth perthnasol fel yn y blynyddoedd blaenorol:

·         Ffioedd Clwyd ar gyfer Ailgylchu Gwastraff Rhanbarthol £0.109m

·         Grant Gweithlu Gofal Cymdeithasol: £0.166m.

 

Roedd y cynigion terfynol i fantoli cyllideb 2022/23 yn cael eu dangos yn y Cynllun Ariannol Tymor Canolig yn Atodiad 1.

 

Roedd y pwysau a nodwyd yn creu cyfanswm o £17.628m.  Byddai angen setliad drafft o tua 11% er mwyn ariannu’r pwysau hyn i gyd.  Roedd y setliad net +9.2% yn cynhyrchu refeniw ychwanegol o £15.005m gan adael bwlch cyllido o £2.623m.  Roedd yr eitemau canlynol wedi eu cynnwys yn y cynigion er mwyn pontio’r bwlch:

·         Roedd Cyllidebau Incwm Ffioedd a Thaliadau wedi bod yn destun chwyddiant yn unol â’r polisi Ffioedd a Thaliadau a gytunwyd a oedd yn cynyddu incwm allanol o £0.120m;

·         Roedd arbedion effeithlonrwydd gweithredol o £0.634m wedi'u nodi a oedd o fewn cyfrifoldeb dirprwyedig y Pennaeth Gwasanaeth mewn ymgynghoriad ag Aelodau Arweiniol (gweler Atodiad 2 yr adroddiad am grynodeb fesul categori);

·         Ni ofynnwyd am unrhyw arbedion gan y Gwasanaethau Cymorth Cymunedol nac Ysgolion.

·         Argymhellwyd bod Treth y Cyngor yn cynyddu o 2.95% a fydd, ynghyd â mân newidiadau i Sylfaen  Treth y Cyngor, yn creu refeniw ychwanegol o £1.869m. 

Roedd hyn yn cymharu â chynnydd y flwyddyn flaenorol o 43.8% a 4.3% y flwyddyn cyn hynny.

 

 

Cadarnhaodd Swyddog Adran 151 fod gwaith wedi ei wneud gydag Awdurdodau Lleol eraill yng Nghymru ar gyfer ymagwedd ar y cyd a CLlLC mewn perthynas â dyraniad ar gyfer cyflog a’r Cyflog Byw Gwirioneddol mewn lleoliadau Gofal Cymdeithasol.  Nododd y Swyddog Adran 151 hyn i sicrhau aelodau mewn perthynas â’r ffigyrau o fewn yr adroddiad.

 

Mynegodd y Cynghorydd Paul Penlington bryder pe byddai treth y cyngor yn cael ei godi o 2.95% a chododd y pwynt fod tua £14m y flwyddyn ar gyfer gwasanaethu benthyciadau ar gyfer prosiectau’r cyngor. Hefyd cyfeiriodd y Cynghorydd Penlington at ymarfer sganio'r gorwel ar gyfer gwaith cyfalaf a holodd ynglŷn  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

CYNLLUN GOSTYNGIADAU TRETH Y CYNGOR 2022/23 pdf eicon PDF 235 KB

Ystried adroddiad gan y Pennaeth Cyllid ac Eiddo (copi ynghlwm)

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol, y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, yr adroddiad ar Gynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor 2022/2023 (a ddosbarthwyd eisoes).

 

CYNIGIODD y Cynghorydd Julian Thompson-Hill i dderbyn Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor 2022/2023, EILIWYD hyn gan y Cynghorydd Peter Scott.

 

Cynhaliwyd pleidlais dros zoom a chytunwyd yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD bod,

·         Aelodau yn mabwysiadu'r Cynlluniau Gostyngiadau Treth y Cyngor a’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013, a’r Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau Treth y Cyngor (Gofynion Rhagnodedig a Chynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygiad) 2022 o ran blwyddyn ariannol 2022/23.

·         Aelodau yn cymeradwyo’r elfennau dewisol o’r cynllun, a ddangosir yn adran 4.4, ar gyfer blwyddyn ariannol 2022/23.

 

 

 

AR Y PWYNT HWN (11.55 A.M.) CAFWYD EGWYL O 20 MUNUD

AILDDECHREUODD Y CYFARFOD AM 12.15 P.M.

 

 

7.

Rhybudd o Gynnig pdf eicon PDF 93 KB

Rhybudd o Gynnig a gyflwynodd y Cynghorydd Brian Jones i’w ystyried gan y Cyngor Llawn (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Tynnodd y Cynghorydd Brian Jones y Rhybudd o Gynnig yn ôl.

 

 

8.

Rhybudd o Gynnig pdf eicon PDF 88 KB

Rhybudd o Gynnig a gyflwynodd y Cynghorydd Paul Penlington i’w ystyried gan y Cyngor Llawn (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Paul Penlington y Rhybudd o Gynnig i'w ystyried gan y Cyngor Llawn:-

 

“Fod y cyngor hwn yn rhoi’r dasg i swyddogion i geisio cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru er mwyn ariannu ailadeiladu Ysgol Uwchradd Prestatyn yn llawn".

 

Ar y pwynt hwn fe hysbysodd y Cynghorydd Penlington aelodau ei fod yn dymuno diwygio ychydig ar eiriad y Rhybudd o Gynnig.

 

Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, AD a Democrataidd y byddai hyn yn dderbyniol.

 

Darllenodd y Cynghorydd Penlington y gwelliant fel a ganlyn-

 

“Mae’r Cyngor hwn yn rhoi’r dasg i swyddogion i geisio cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru er mwyn ariannu ailadeiladu Ysgol Uwchradd Prestatyn yn llwyr, wedi ei seilio ar ddyluniadau cynharach a luniwyd ar gyfer rhaglen Ysgolion yr 21ain ganrif a oedd yn moderneiddio i ddiwallu anghenion presennol disgyblion uwchradd Prestatyn a'n datganiad argyfwng newid hinsawdd a newid ecolegol".

 

CYNIGIODD y Cynghorydd Penlington y Rhybudd o Gynnig, EILIWYD hyn gan y Cynghorydd Glenn Swingler.

 

Eglurodd yr Aelod Arweiniol Addysg, Gwasanaethau Plant ac Ymgysylltu â’r Cyhoedd, y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts mai’r weithdrefn sydd mewn grym oedd bod y Bwrdd Moderneiddio Addysg yn asesu cyflwr yr holl ysgolion yn Sir Ddinbych ac mai dyma'r broses oedd wedi bod mewn grym ers y 14 mlynedd diwethaf.  Roedd dros £2m wedi ei wario ar Ysgol Uwchradd Prestatyn i fynd i’r afael ag ardaloedd brys ac roedd hyn wedi cynnwys adnewyddu labordai, uwchraddio’r system wresogi, ffenestri newydd, toiledau newydd ayb. Byddai’r costau adeiladu safonol ar gyfer ysgol gyfan gwbl newydd ynghyd â chostau carbon net oddeutu £55m.  Felly byddai cost yr astudiaeth ddichonoldeb ei hun yn £850,000.  Cadarnhaodd yr Aelod Arweiniol nad oedd yn ymwybodol o gynlluniau a oedd wedi eu llunio ar gyfer adeilad newydd i Ysgol Uwchradd Prestatyn nac astudiaeth ddichonoldeb yn 2017. Byddai’n cadarnhau gyda swyddogion.

 

Nododd y Cynghorydd Hilditch-Roberts o ran y ffordd ymlaen, gan ystyried y symiau yr oedd hyn yn ei olygu, ei bod yn bwysig fod gan y cyngor broses i bennu’r drefn flaenoriaeth o ran buddsoddi mewn adeiladau ysgolion.  Mae’r broses yn seiliedig ar dystiolaeth, gan ystyried anghenion priodol yr holl ysgolion i sicrhau yr ymdrinnir â’r rhai sy’n wynebu’r angen mwyaf yn gyntaf. Cynhaliwyd arolwg cyflwr cynhwysfawr o’r holl ysgolion er mwyn nodi’r ysgolion oedd angen gwelliannau. Cynhaliwyd yr arolwg cyn cyflwyno cynigion Ysgolion yr 21ain Ganrif Band B i Lywodraeth Cymru a oedd wedi eu cyflwyno i’r Cabinet a’r Pwyllgor Craffu ar sawl achlysur.  Cafodd yr arolwg hwn ei ystyried gan y Bwrdd Moderneiddio Addysg a darparwyd gwybodaeth seiliedig ar dystiolaeth y gallent ei defnyddio i argymell trefn flaenoriaeth ysgolion a oedd angen gwaith. 

 

CYNIGIODD y Cynghorydd Hilditch-Roberts welliant yng ngoleuni’r Rhybudd o Gynnig fod y Bwrdd Moderneiddio Addysg yn cael cais i adolygu arolygon cyflwr yr holl ysgolion i weld a oeddent wedi eu newid yn sylweddol i gyflwr yr ystâd ysgol a fyddai’n codi'r cwestiwn a yw trefn flaenoriaeth gyfredol yr ysgolion yn parhau yn gyfredol a chywir.  Fe allai canlyniad yr adolygiad hwn gael ei adrodd i’r Cabinet yn ogystal ag unrhyw argymhellion allai fod gan y Bwrdd Moderneiddio Addysg o ganlyniad.   

 

EILIODD y Cynghorydd Jeanette Chamberlain-Jones y gwelliant a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts.

 

Eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, AD a Democrataidd y dylai trafodaeth ddigwydd ar y gwelliant a phe byddai’r gwelliant yn cael ei dderbyn yna byddai hynny’n dod yn Rhybudd o Gynnig a byddai pleidlais ar hynny fel y Rhybudd o Gynnig gwreiddiol.  Os na chytunir ar y gwelliant byddai aelodau’n cyfeirio'n ôl at y Rhybudd o Gynnig fel y cafodd ei gyflwyno gan y Cynghorydd Penlington.

 

Cefnogodd y Cynghorydd Paul Penlington  ...  view the full Cofnodion text for item 8.

9.

Rhybudd o Gynnig pdf eicon PDF 87 KB

Rhybudd o Gynnig a gyflwynodd y Cynghorydd Tony Flynn i’w ystyried gan y Cyngor Llawn (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Tynnodd y Cynghorydd Tony Flynn ei Rybudd o Gynnig yn ôl.

 

 

10.

Rhybudd o Gynnig pdf eicon PDF 170 KB

Rhybudd o Gynnig a gyflwynodd y Cynghorydd Rachel Flynn i’w ystyried gan y Cyngor Llawn (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Rachel Flynn y Rhybudd o Gynnig i'w ystyried gan y Cyngor Llawn:-

 

Nododd y Cynghorydd Flynn fod y Rhybudd o Gynnig wedi ei gyflwyno ar ran Grŵp Trawsbleidiol y Merched o’r Grŵp Merched mewn Gwleidyddiaeth.

 

 

 “Rydym ni’n gofyn am i Gyngor Sir Ddinbych gymryd safbwynt mwy pendant gyda'i bolisi a’i weithdrefnau achwyniad. Yng ngoleuni'r ddeddf amrywiaeth a chydraddoldeb a ddiweddarwyd, rydym ni’n gofyn i’r cyngor ffurfio gweithdrefn fewnol newydd i sicrhau y gellir dwyn ymddygiad cynghorwyr i gyfrif. 

 

Rydym hefyd yn gofyn i’r cyngor adolygu ei bolisïau a’i weithdrefnau ar gyfer adolygu cwynion yn ymwneud â bwlio ac aflonyddu, yn ymwneud â Chynghorwyr, Swyddogion ac eraill boed yn rhithiol, corfforol neu ar y cyfryngau cymdeithasol.

 

Argymhelliad

1. Fod y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd yn edrych ar y broses gwyno gyfredol i sicrhau ei fod yn addas i'r diben.

2. Fod y cyngor yn creu gweithgor amrywiaeth a moeseg i archwilio sut mae’r cyngor yn diogelu a hyrwyddo amrywiaeth a moeseg dda yng Nghymru, gan gynnwys ymwybyddiaeth o sut mae merched yn dal i gael eu trin yn anghyfartal ac effeithiau casineb at ferched a gwahaniaethu rhywiol ar ferched. 

3. Ein bod yn fwy pendant fel cyngor o ran mynd i’r afael ag ymddygiad annerbyniol mewn unrhyw fforwm cyngor Cymuned, Tref neu Sir.”

 

CYNIGIODD y Cynghorydd Rachel Flynn y Rhybudd o Gynnig, EILIWYD hynny gan y Cynghorydd Barry Mellor.

 

Ymatebodd yr Arweinydd, y Cynghorydd Hugh Evans, drwy ddiolch i'r Cynghorydd Flynn am ddod â'r Rhybudd o Gynnig ymlaen. Fel Aelod Arweiniol Cydraddoldeb ac Arweinydd y Cyngor roedd yn ymrwymedig i sicrhau fod y Cyngor yn ymdrechu yn barhaus i osod Cydraddoldeb yn greiddiol i’r holl waith a gaiff ei wneud.  Roedd y Cyngor yn ymrwymedig i amrywiaeth ac roedd wedi gwneud datganiad ym Medi 2021 i ymrwymo i ddod yn gyngor amrywiol a byddai’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd, yn ddiweddarach yr wythnos hon, yn ystyried cynllun gweithredu drafft yn ymwneud â rhai o’r rhwystrau i gymryd rhan mewn democratiaeth leol. Yn nhermau anghydfod rhwng aelodau, byddai dyletswydd gyfreithiol newydd ar Arweinwyr Grŵp yn dod i rym yn dilyn yr etholiadau ym mis Mai i hyrwyddo a chynnal safonau uchel o ran ymddygiad ymhlith eu Grwpiau. 

 

Hefyd, roedd Adolygiad annibynnol Penn yn ddiweddar o’r fframwaith moesegol yng Nghymru wedi adrodd i Lywodraeth Cymru ac wedi gwneud argymhellion yn ymwneud â’r defnydd o gwmpasiad o brosesau datrysiad lleol.  Roedd disgwyl ymateb y Llywodraeth i’r Adolygiad, a manylion unrhyw gynigion i newid canllawiau a/neu ddeddfwriaeth o ganlyniad.

 

Ymatebodd y Cynghorydd Hugh Evans i’r argymhellion a gâi eu cynnwys o fewn y Rhybudd o Gynnig fel a ganlyn -

 

1.       Mae’r argymhelliad hwn yn cyfeirio at y broses datrysiad lleol a ddefnyddir i geisio datrys materion rhwng aelodau o’r Cyngor Sir ar sail anffurfiol heb yr angen i gynnwys yr Ombwdsmon. 

Cytunodd y Cynghorydd Evans y dylai fod yna adolygiad o’r broses.  CYNIGIODD y Cynghorydd Evans fod Gweithgor o aelodau'n cael ei sefydlu i ymgymryd ag adolygiad o waith gyda'r Pwyllgor Safonau a'r Swyddog Monitro i ddatblygu proses addas yng nghyd-destun y ddyletswydd newydd y cyfeiriodd ato, ac unrhyw newidiadau a gyflwynwyd o ganlyniad i Adolygiad Penn.

2.       Roedd gan y Cyngor, ar un adeg, Grŵp Cydraddoldeb a ddiddymwyd fel rhan o raglen i brif ffrydio materion cydraddoldeb. 

Fodd bynnag, mae yna waith parhaus yn cael ei wneud gan y tîm Gwella Busnes a Moderneiddio i ystyried sefydlu Grŵp Cydraddoldeb a chynigiodd y Cynghorydd Evans y dylai'r gwaith barhau ac y dylid ystyried unrhyw orgyffwrdd rhwng materion cydraddoldeb a'r fframwaith moesegol. 

3.       Byddai’r Cyngor yn darparu cefnogaeth, hyfforddiant ac  ...  view the full Cofnodion text for item 10.

11.

CEFNOGWR POBL IFANC pdf eicon PDF 205 KB

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd (copi ynghlwm) i geisio penodi Cefnogwr Pobl Ifanc.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, AD a Democrataidd adroddiad Penodi Cefnogwr Pobl Ifanc (a ddosbarthwyd eisoes).

 

Ar 7 Rhagfyr 2021 penderfynodd y Cyngor greu rôl Cefnogwr Pobl Ifanc yn unol â'r disgrifiad o’r rôl sydd wedi ei atodi fel Atodiad 1.

 

Ceisiwyd enwebiadau gan y grwpiau gwleidyddol fel y gallai’r Cyngor ethol aelod i’w benodi fel Cefnogwr Pobl Ifanc.

 

Enwebodd y Cynghorydd Joan Butterfield y Cynghorydd Cheryl Williams, ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Brian Blakeley.

 

Enwebodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill y Cynghorydd Rachel Flynn, ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Peter Scott.

 

Cynhaliwyd pleidlais dros zoom ac roedd y canlyniadau fel a ganlyn -

 

Y Cynghorydd Cheryl Williams - 19

Y Cynghorydd Rachel Flynn - 15

 

Felly,

 

PENDERFYNWYD penodi’r Cynghorydd Cheryl Williams fel Cefnogwr Pobl Ifanc.

 

 

12.

RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL Y CYNGOR SIR pdf eicon PDF 410 KB

Ystyried Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cyngor (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, AD a Democrataidd Raglen Gwaith i'r Dyfodol y Cyngor, ynghyd â Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol ar gyfer Sesiynau Briffio'r Cyngor (a ddosbarthwyd eisoes).

 

Nodwyd ei bod yn arfer arferol i beidio â chynnal Cyngor Llawn yn ystod y cyfnod cyn yr etholiad a oedd i ddechrau ar 18 Mawrth ac, felly, byddai cyfarfod y Cyngor a oedd i gael ei gynnal ar 5 Ebrill yn cael ei ganslo.

 

14 Mawrth 2022 – roedd Cyngor Arbennig a sesiwn Briffio’r Cyngor i’w cynnal.

 

PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, y dylid cymeradwyo a nodi Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cyngor a Sesiynau Briffio’r Cyngor.

 

 

 

DAETH Y CYFARFOD I BEN AM 1.15 P.M.