Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: Gynhadledd Fideo

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnodion:

Cyflwynwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr Mabon ap Gwynfor, Joan Butterfield, Gareth Davies, Alan Hughes ac Anton Sampson.

 

2.

DATGAN CYSYLLTIAD

Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy’n rhagfarnu ag unrhyw fater a nodwyd yn un i’w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Cofnodion:

Ni chafodd unrhyw gysylltiad ei ddatgan.

 

GWAHARDD Y WASG A'R CYHOEDD

PENDERFYNWYD - Yn unol ag Adran 100A(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, bod y Wasg a'r Cyhoedd yn cael eu gwahardd o'r cyfarfod tra bod yr eitem ganlynol o fusnes yn cael ei hystyried, oherwydd ei bod yn debygol y bydd gwybodaeth eithriedig yn cael ei datgelu (fel y'i diffinnir ym mharagraff 12 ac 14 o Ran 4, Atodlen 12A y Ddeddf).

 

3.

PENODI PRIF WEITHREDWR pdf eicon PDF 583 KB

Cyfweld ymgeiswyr ac ystyried penodi i swydd Prif Weithredwr. Bydd Panel Penodi Arbennig yn penderfynu ar nifer yr ymgeiswyr i gael eu cyfweld.

 

 

Cofnodion:

Bu i Arweinydd y Cyngor a swyddogion AD adrodd ar y broses recriwtio a gynhaliwyd a rhoddwyd manylion y broses asesu a'r meini prawf a ddefnyddir gan y Panel Penodiadau Arbennig i sicrhau mai dim ond ymgeiswyr a allai fod yn addas i'w penodi a fyddai'n cael gwahoddiad i fynychu cyfarfod y Cyngor heddiw.

 

Rhoddodd yr ymgeisydd gyflwyniad i'r Cyngor ac ymatebodd i gwestiynau gan yr aelodau. Wedi i’r ymgeisydd adael y cyfarfod, trafododd yr aelodau’r cyflwyniad a'r ymatebion i gwestiynau.

 

PENDERFYNWYD - penodi Graham Boase i swydd Prif Weithredwr Cyngor Sir Ddinbych.