Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: via VIDEO CONFERENCE

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb oddi wrth y Cynghorwyr Joan Butterfield a Huw Williams.

 

2.

DATGAN DIDDORDEB pdf eicon PDF 197 KB

Yr Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd datganiadau o gysylltiad personol gan y Cynghorwyr Pete Prendergast, Bobby Feeley a Huw Hilditch Roberts yn Eitem 6, Penodi Cyfarwyddwr – Denbighshire Leisure Limited, gan eu bod oll yn aelodau o’r Bwrdd.

 

Cafwyd datganiadau o gysylltiad personol gan y Cynghorwyr Hugh Irving a Tony Flynn yn Eitem 10, Rhybudd o Gynnig a roddwyd gan y Cynghorydd Paul Penlington, gan eu bod yn Llywodraethwyr Ysgol Uwchradd Prestatyn.

 

Cafwyd datganiad o gysylltiad personol gan y Cynghorydd Rachel Flynn yn Eitem 10, Rhybudd o Gynnig a roddwyd gan y Cynghorydd Paul Penlington, gan ei bod yn gweithio yn Ysgol Uwchradd Prestatyn yn achlysurol.

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim materion brys.

 

Ar y pwynt hwn fe gyflwynodd y Cynghorydd Arwel Roberts Ddeiseb i’r Cyngor Llawn yn ymwneud â Ffordd Abergele yn Rhuddlan. Nododd fod problem wedi bod gyda gyrwyr yn anwybyddu’r terfyn cyflymder ar hyd Ffordd Abergele ac roedd y ddeiseb yn galw am ostwng y terfyn cyflymder o 40 milltir yr awr i 30 milltir yr awr ar hyd y ffordd.  Diolchodd y Cynghorydd Roberts i Gyngor Tref Rhuddlan am brynu dyfais sy’n dangos cyflymder a hefyd i Gyngor Sir Ddinbych am drefnu i leoli’r ddyfais.  Roedd y ddeiseb hefyd yn galw am groesfan i gerddwyr, preswylwyr ac ymwelwyr am resymau diogelwch pan fyddant yn ceisio croesi’r ffordd ac roedd yna angen mawr am fwy o balmentydd is ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn.  Cadarnhaodd y Cynghorydd Roberts y byddai’n trosglwyddo’r ddeiseb i’r swyddogion priffyrdd yn Ninbych.

 

Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, AD a Democrataidd y byddai ymateb yn cael ei anfon i’r Cynghorydd Arwel Roberts o fewn 14 diwrnod wedi i’r ddeiseb gael ei derbyn gan yr adran berthnasol.

 

 

Yn y cyswllt hwn, gofynnodd y Cynghorydd Glenn Swingler gwestiwn:

 

A wnaethpwyd unrhyw gynnydd dros y 4 blynedd anodd ddiwethaf i rwystro a hefyd i gefnogi’r teuluoedd hynny o Sir Ddinbych sydd mewn perygl o gael eu gwneud yn ddigartref, heb fod bai arnynt o gwbl?”

 

Ymateb gan Bobby Feeley, Aelod Arweiniol Lles ac Annibyniaeth – “diolch am eich cwestiwn ac am eich diddordeb parhaus ac empathi tuag at ddigartrefedd.  Fel y dywedwyd gennych, gall unrhyw un gael ei wneud yn ddigartref, heb fod bai arno o gwbl.  Mae cynnydd wedi ei wneud, a gwnaed pob ymdrech i gefnogi teuluoedd sydd mewn perygl o fod yn ddigartref.  Fy uchelgais i yn y pen draw fyddai gweld diwedd ar ddigartrefedd yma yn Sir Ddinbych.  Er bod cynnydd strategol da wedi ei wneud, bydd rhai datrysiadau’n cymryd ychydig yn fwy o amser i gael eu cyflawni’n llawn.  Mae’r blynyddoedd diwethaf wedi bod yn gyfnod anodd, yn enwedig i’r gwasanaeth hwn.  Mae’r pandemig yn bendant wedi cynyddu’r llwyth gwaith, ac mae swyddi gweigion yn parhau i effeithio ar ein gwasanaeth digartrefedd.  Mae gennym strwythur newydd a fydd yn canolbwyntio ar rwystro digartrefedd, ac ’rydym wedi ymgysylltu’n agosach â’r gwasanaeth tai.  Mae gostyngiad wedi bod yn nifer y teuluoedd sy’n cael eu hystyried yn ddigartref.  Mae hyn, yn amlwg, yn rhannol o ganlyniad i Lywodraeth Cymru yn rhwystro achosion o droi allan yn ystod y pandemig.  Ond fel y bydd hyn dod i ben, mae’n debyg iawn y gwelwn bobl yn dod at y gwasanaeth eto.  ’Rydym yn y broses o dendro am gontract ymyrraeth gynnar Grant Cymorth Tai.  Bydd hyn yn golygu cyfryngu, er enghraifft, gyda Landlordiaid, clirio dyledion efallai, cynorthwyo gydag ôl-ddyledion rhent, a chynorthwyo gyda phob math o faterion teuluol eraill.  ’Rydym wedi bod yn cynnal prosiect peilot gyda Civica dros y 12 mis diwethaf, sydd wedi bod yn llwyddiannus ac, mewn gwirionedd, wedi rhwystro 84 o aelwydydd rhag mynd yn ddigartref.  ’Rydym hefyd wedi defnyddio cyllid y rhaglen Grant Cymorth Tai i ddatblygu tîm gweithwyr cefnogi tenantiaeth arbenigol, sydd yn gweithio ledled y sir a’r sector rhentu preifat er mwyn ceisio atal pobl rhag mynd yn ddigartref yn y lle cyntaf.  Lansiwyd grant caledi i denantiaid yn gynharach eleni gan Lywodraeth Cymru er mwyn ceisio cynorthwyo’r rhai sydd mewn ôl-ddyledion.  ’Rydym wedi annog pobl i wneud cais am y grant hwn ond, yn anffodus, nid yw’r niferoedd sydd wedi gwneud cais wedi bod mor uchel â’r disgwyl.  ’Rydym wedi bod yn gweithio hefyd gyda’r gwasanaeth tai a chyda Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig, er mwyn manteisio ar atal dros  ...  view the full Cofnodion text for item 3.

4.

Cofnodion pdf eicon PDF 289 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Cyngor Sir a gynhaliwyd ar 12 Hydref 2021 (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cyngor Llawn a gynhaliwyd ar 12 Hydref 2021.

 

Cywirdeb –

 

Nododd y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies ei fod wedi codi nifer o gwestiynau ond nad oedd ei enw wedi ei nodi gyda’r cwestiynau o fewn y cofnodion.

 

Hefyd diolchodd y Cynghorydd Lloyd Davies i’r Cynghorydd Peter Scott am godi mater Fferm Glan Llyn yn Ward Trefnant.

 

Hefyd gofynnodd y Cynghorydd Lloyd Davies am i’r cofnodion gael eu cywiro gan eu bod yn cyfeirio at falf disgyrchiant, ond ni nodwyd y lleoliad, mae’r falf hon ar afon fach a ddaw o Gefnmeiriadog.

 

Materion yn Codi –

 

Gofynnodd y Cynghorydd Paul Penlington (eitem 6) a gafwyd ymateb gan Lywodraeth y DU.

 

Cadarnhaodd y Cynghorydd Bobby Feeley fod ymateb wedi ei dderbyn ac wedi ei gylchredeg i’r holl Gynghorwyr. Teimlai’r Cynghorydd Feeley fod yr ymateb yn siomedig ac nad oedd yn mynd i’r afael â’r cwestiwn a ofynnwyd ac, felly, teimlai nad oedd wedi bod yn llwyddiannus.

 

Ar y pwynt hwn mynegodd y Cynghorydd Gwyneth Kensler ei diolch i’r holl dimau a oedd wedi gweithio yn ystod Storm Arwen y penwythnos blaenorol.

 

PENDERFYNWYD yn amodol ar yr uchod, cadarnhau cofnodion cyfarfod y Cyngor Llawn a gynhaliwyd ar 12 Hydref 2021 fel cofnod cywir.

 

5.

DIGWYDDIAD LLIFOGYDD 20 IONAWR 2021 - ADRODDIAD YMCHWILIO LLIFOGYDD ADRAN 19 pdf eicon PDF 228 KB

Ystyried adroddiad gan y Peiriannydd Perygl Llifogydd, Wayne Hope, o’r ymchwiliad i’r llifogydd ar 20 Ionawr 2021 (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Gwastraff, Cludiant a'r Amgylchedd, y Cynghorydd Brian Jones, Adroddiad Ymchwiliad i Lifogydd Adran 19 - Llifogydd 20 Ionawr 2021.

 

Ar 20 Ionawr 2021, cafwyd llifogydd helaeth ar draws Sir Ddinbych o ganlyniad i Storm Christoph. Cynhaliodd swyddogion y Cyngor, yn ogystal â swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru a Dŵr Cymru, ymchwiliadau i’r llifogydd yn unol ag Adran 19 y Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr.  Cynhaliwyd yr ymchwiliad er mwyn dod i ddeall y rhesymau pam y digwyddodd y llifogydd, pa mor debygol oedd hi y byddent yn digwydd eto ac i asesu a ellid sefydlu mesurau i leihau llifogydd yn y dyfodol.

 

Prif ffynonellau llifogydd mis Ionawr 2021 oedd yr Afon Clwyd, yr Afon Ystrad a’r Afon Alyn.  Roedd y rhain yn cael eu cyfrif yn brif afonydd, a chyfrifoldeb Cyfoeth Naturiol Cymru oedd cynnal ymchwiliad manwl o bob un o leoliadau’r llifogydd. Roedd pum lleoliad gwahanol wedi’u heffeithio gan lifogydd o brif afonydd. Roedd y rhain yn amrywio o gymunedau mawr fel Rhuthun a Dinbych (Brwcws), i eiddo unigol ynysig o fewn cymunedau Llandyrnog, Llanrhaeadr a Llanarmon yn Iâl.

 

Cafwyd hefyd rywfaint o lifogydd dŵr wyneb lleol yng nghymunedau Llanynys, Llanfair Dyffryn Clwyd, Llanelwy, Bodelwyddan a Dyserth, a chafodd y gymuned olaf honno hefyd lifogydd o’r rhan o’r cwrs dŵr cyffredin a elwir yn Afon Ffyddion. Cyfrifoldeb Cyngor Sir Ddinbych, fel Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol, oedd ymchwilio i’r digwyddiadau.

 

Roedd Adroddiad yr Ymchwiliad eisoes wedi’i gyflwyno i’r Pwyllgor Craffu, ac yn dilyn hynny, roedd y gwaith o fynd drwy’r argymhellion yn mynd rhagddo. 

 

Yn dilyn yr achosion o lifogydd, sefydlwyd Grŵp Tasg a Gorffen Llifogydd a oedd yn cynnwys cynrychiolwyr o Gyngor Sir Ddinbych, Cyfoeth Naturiol Cymru a Dŵr Cymru, ynghyd â chynrychiolwyr o Undeb yr Amaethwyr. Bydd y Grŵp Tasg a Gorffen yn cyflwyno adroddiad ffurfiol i’r Cyngor Llawn cyn Ebrill 2022.

 

Dywedodd y Pennaeth Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol, Tony Ward, wrth yr aelodau bod y Rheolwr Risg ac Asedau, Tim Towers, y Peiriannydd Perygl Llifogydd, Wayne Hope, a chynrychiolydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn bresennol yn y cyfarfod i ateb unrhyw gwestiynau.

 

Yn ystod y trafodaethau, codwyd y pwyntiau canlynol:

·         Mewn perthynas â’r llifogydd yn Stryd y Felin a Stryd Clwyd, Rhuthun, mae lefel y bwnd wedi cael ei godi, ond holodd yr aelodau lleol sut y dylent ymateb os yw llifogydd yn debygol o ddigwydd yn y dyfodol.  Hefyd, a fyddai’n bosib archwilio bod y draeniau’n glir yn fwy rheolaidd nag a wneir ar hyn o bryd, e.e. bob tri mis.   Cadarnhaodd y swyddogion bod adolygiad cynhwysfawr wrthi’n cael ei gynnal mewn perthynas â systemau draenio’r priffyrdd.   Oherwydd amser cynnal yr adolygiad, byddai’n canolbwyntio ar fannau problemus systemau draenio’r priffyrdd.  Gwnaed gwaith gwella i arglawdd Cae Ddol er mwyn codi rhannau penodol o’r arglawdd.  Sefydlwyd Grŵp Llifogydd Partneriaeth ac roedd gwaith ar y gweill gyda Chyngor Tref Rhuthun i sicrhau bod y gymuned yn cael ei chynnwys.

·         Cadarnhawyd bod CNC yn cynnal gwaith modelu er mwyn ymchwilio i lifogydd yn y dyfodol ac effaith y newid yn yr hinsawdd.

·         Codwyd y ffaith na chynhwyswyd Pont Llannerch yn adroddiad yr ymchwiliad i’r llifogydd.  Eglurwyd bod yr ymchwiliad i’r llifogydd wedi canolbwyntio ar eiddo a lle’r oedd perygl i fywydau. Cadarnhaodd y swyddogion hefyd nad oedd gofyn i’r ymchwiliad gynnwys seilwaith, ond bod cynlluniau’n cael eu datblygu i ganfod cyfleoedd am gyllid i ddisodli’r bont.

·         Cadarnhawyd y gallu i wrthsefyll stormydd, gan fod timau wrth gefn ynghyd â chontractwr ar gael i helpu. Roedd gwybodaeth mewn perthynas ag ymateb i stormydd ar gael ar wefan CNC.

·         Roedd ardal  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

PENODI CYFARWYDDWR – HAMDDEN SIR DDINBYCH CYFYNGEDIG pdf eicon PDF 305 KB

Ystyried adroddiad gan Bennaeth Gwasanaethau’r Gyfraith, AD a Democrataidd, Gary Williams, i addasu cyfansoddiad Bwrdd Hamdden Sir Ddinbych Cyfyngedig a phenodi Cyfarwyddwr (copi ynghlwm).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad Penodi Cyfarwyddwr – Denbighshire Leisure Limited (DLL) (a gylchredwyd eisoes) gan Bennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, AD a Democrataidd.

 

Gofynnwyd i’r Cyngor ddiwygio cyfansoddiad Bwrdd DLL a phenodi cyfarwyddwr, yn dilyn ymddiswyddiad Graham Boase o ganlyniad i’w benodiad fel Prif Weithredwr.

 

Argymhellwyd penodi Cyfarwyddwr Corfforaethol: Cymunedau, Nicola Stubbins, yn Gyfarwyddwr DLL.

 

Yn dilyn trafodaeth fer, cynigiwyd cymeradwyo’r argymhelliad gan y Cynghorydd Barry Mellor, ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill.

 

Cymeradwywyd yr argymhelliad yn unfrydol gan yr holl aelodau a oedd yn bresennol.

 

PENDERFYNWYD

(i)            Bod y Cyngor yn cymeradwyo diwygio cyfansoddiad Bwrdd DLL, a

(ii)          Bod y Cyngor yn penderfynu penodi Nicola Stubbins yn gyfarwyddwr ar Denbighshire Leisure Limited.

 

7.

RÔL CEFNOGWR POBL IFANC pdf eicon PDF 222 KB

Ystyried adroddiad gan Bennaeth Gwasanaethau’r Gyfraith, AD a Democrataidd, Gary Williams, i gymeradwyo creu rôl Cefnogwr Pobl ifanc a’r disgrifiad swydd (copi ynghlwm).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu i’r Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, AD a Democrataidd, Gary Williams, gyflwyno adroddiad Rôl Cefnogwr Pobl Ifanc (dosbarthwyd yn flaenorol).

 

Ar 7 Medi 2021 ystyriodd y Cyngor y rhybudd o gynnig canlynol:

 “Bod Cyngor Sir Ddinbych yn penodi Cefnogwr Pobl Ifanc ar gyfer plant a phobl ifanc o bob oed hyd at 18.”

 

Penderfynodd y Cyngor y byddai adroddiad ar y rôl Cefnogwr Pobl Ifanc yn cael ei roi gerbron y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd i ddiffinio'r rôl ac y byddai adroddiad pellach yn cael ei roi gerbron y Cyngor Llawn.  Mae disgrifiad o’r rôl wedi ei baratoi (ynghlwm â'r adroddiad). Mae’r disgrifiad wedi’i ddrafftio i ddilyn yr un ffurf a’r disgrifiadau rôl a fabwysiadwyd ar gyfer y cefnogwyr eraill ac sydd i'w gweld yn atodiadau 1- 4 o'r adroddiad.

 

Cytunodd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd i argymell i’r Cyngor y dylid cael Cefnogwr Pobl Ifanc ac y dylid ei gyflawni gan rywun nad ydynt yn aelod o’r Cabinet. Bu i’r Pwyllgor ystyried y dylai’r diffiniad o unigolyn ifanc gynnwys rhai hyd at 25 oed ac y dylid addasu’r disgrifiad o’r rôl i adlewyrchu hyn.

 

Bu i’r Cynghorydd Hugh Evans gynnig cymeradwyo adroddiad Cefnogwr Pobl Ifanc, ac eiliwyd gan y Cynghorydd Barry Mellor.

 

Cafodd yr argymhelliad ei gymeradwyo’n unfrydol gan bawb oedd yn bresennol.

 

PENDERFYNWYD bod y Cyngor yn creu rôl Cefnogwr Pobl Ifanc yn unol â'r disgrifiad o’r rôl yn Atodiad 5.

 

 

Ar y pwynt hwm (12.15 p.m.) cafwyd egwyl o 20 munud

 

Ailgynullodd y cyfarfod am 12.35 p.m.

 

 

8.

CYNIGION I AELODAU FABWYSIADU FFYRDD NEWYDD O WEITHIO pdf eicon PDF 212 KB

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Gwella Busnes a Moderneiddio, Alan Smith a Phennaeth y Gyfraith, AD a Gwasanaethau Democrataidd, Gary Williams i ystyried cynigion gan Aelodau'r Grŵp Tasg a Gorffen Ffyrdd Newydd o Weithio (copi ynghlwm).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu i’r Aelod Arweiniol dros Gyllid ac Eiddo, y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, gyflwyno'r cynigion i Aelodau i fabwysiadu'r Adroddiad Ffyrdd Newydd o Weithio (dosbarthwyd yn flaenorol).  Roedd yr adroddiad yn un ar y cyd gyda’r Arweinydd, y Cynghorydd Hugh Evans a Phennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, AD a Democrataidd, Gary Williams a'r Pennaeth Gwella Busnes a Moderneiddio, Alan Smith.

 

Mae’r adroddiad yn crynhoi’r cynigion sy’n deillio o waith Grŵp Tasg a Gorffen yr Aelodau ar Ffyrdd Newydd o Weithio, y bwriedir eu gweithredu ar gyfer y Cyngor newydd yn dilyn yr etholiadau ym mis Mai 2022. Ymdrinnir â dwy elfen yn yr adroddiad hwn: Yn gyntaf, sut ddylai Aelodau gynnal cyfarfodydd ac yn ail, pa gyfarpar TGCh sydd arnynt ei angen i wneud hynny.

 

Roedd Protocol Ffyrdd Newydd o Weithio ynghlwm â’r adroddiad fel Atodiad.

 

Cadarnhawyd, yn dilyn yr etholiad ym Mai 2022, y byddai bob Aelod yn cael gliniadur a ffôn symudol.  Ni fydd Ipads bellach yn cael eu defnyddio gan na fyddai’r lefel o gefnogaeth ar eu cyfer bellach yn cael ei darparu.

 

Cadarnhawyd hefyd y byddai’r Cynghorwyr yn gallu gwneud eu rhifau ffôn symudol newydd yn gyhoeddus yn hytrach na rhifau ffôn cartref a fyddai’n well o ran diogelwch.

 

Yn dilyn trafodaethau, cynigiodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill gymeradwyo adroddiad Cynigion i Aelodau Fabwysiadu Ffyrdd Newydd o Weithio, ac eiliwyd gan y Cynghorydd Gwyneth Kensler.

 

Cafwyd pleidlais a chytunwyd yn unfrydol gan yr holl aelodau’n bresennol.

 

PENDERFYNWYD:

(i)            Bod y Cyngor yn cytuno, yn unol ag argymhelliad y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd, ynglŷn â’r dull o gynnal gwahanol fathau o gyfarfodydd ar sail y cynigion a gyflwynir yn yr adroddiad a gyflwynwyd i Grŵp Tasg a Gorffen yr Aelodau ar Ffyrdd Newydd o Weithio ac sydd ynghlwm wrth yr adroddiad hwn yn Atodiad 1.

(ii)          Bod y Cyngor yn cytuno, yn unol ag argymhelliad y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd,  y dylai’r cyfarpar TGCh i'w darparu i Aelodau’r Cyngor newydd fel y nodir yn Adran 2 o’r adroddiad a gyflwynwyd i’r Grŵp Ffyrdd Newydd o Weithio ac sydd ynghlwm wrth yr adroddiad hwn yn Atodiad 1.

(iii)         Bod y Cyngor, yn unol ag argymhelliad y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd,  yn mabwysiadu Protocol ar gyfer cynnal cyfarfodydd hybrid ar yr un telerau i bob pwrpas â’r rhai a nodir yn Atodiad 2 i’r adroddiad hwn.

 

 

Ar y pwynt hwn, diwygiwyd trefn y Rhaglen gan fod yn rhaid i’r Cynghorydd Gwyneth Kensler adael y cyfarfod yn fuan.

 

 

9.

Rhybudd o Gynnig pdf eicon PDF 88 KB

Rhybudd o Gynnig a gyflwynodd y Cynghorydd Gwyneth Kensler i'w ystyried gan y Cyngor Llawn: (copi ynghlwm)

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhybudd o Gynnig a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Gwyneth Kensler i'w ystyried gan y Cyngor Llawn 

 ‘Fod y Cyngor yn creu ac yn penodi Cefnogwr ar gyfer amrywiaeth’

 

Argymhellodd yr Arweinydd, y Cynghorydd Hugh Evans, fod y cynnig i benodi Cefnogwr Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn cael ei roi gerbron y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd er mwyn iddynt edrych ar y rôl mewn mwy o fanylder a dod â hyn yn ôl gerbron y Cyngor Llawn cyn gynted â phosibl fel y gall Cefnogwr i’r rôl gael ei benodi.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Hugh Evans fod penodi Cefnogwr Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd, ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Glenn Swingler.

 

Ar y pwynt hwn, cynigiodd y Cynghorydd Graham Timms fod cwestiwn yn cael ei gyflwyno, eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Gwyneth Kensler.

 

Cafwyd pleidlais a chytunodd yr holl aelodau a oedd yn bresennol yn unfrydol.

 

PENDERFYNWYD fod penodi Cefnogwr Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd er mwyn asesu’r rôl mewn mwy o fanylder ac yna ei ail-gyflwyno i’r Cyngor Llawn cyn gynted â phosibl.

 

10.

Rhybudd o Gynnig pdf eicon PDF 91 KB

Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Joan Batterfield ar ran y Grŵp Llafur i'w ystyried gan y Cyngor Llawn (copi ynghlwm).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Pete Prendergast y Rhybudd o Gynnig yn absenoldeb y Cynghorydd Joan Butterfield.  Cyflwynwyd y Rhybudd o Gynnig yn wreiddiol ar ran y Grŵp Llafur, ar gyfer sylw’r Cyngor Llawn:

 

“Bod y cyngor yn cefnogi galwad i Lywodraeth y DU barhau gyda’r ychwanegiad o £20 yr wythnos i Gredyd Cynhwysol i gefnogi'r rhai agored i niwed ar adeg pan fo costau cynnal tŷ yn cynyddu ac ansicrwydd economaidd.  Bod y cyngor hwn yn ysgrifennu at ein haelodau Seneddol lleol i wahodd cefnogaeth”.

Cadarnhaodd yr Aelod Arweiniol Cyllid ac Eiddo, y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, nad oedd gosod lefelau Credyd Cynhwysol o fewn cylch gwaith yr Awdurdod Lleol na Llywodraeth Cymru, ond mai cyfrifoldeb y Trysorlys oedd hyn.  Roedd llawer o waith wedi’i wneud o ran Diwygio lles a Chredyd Cynhwysol, a oedd wedi’i gyflwyno mewn pwyllgorau Craffu sawl tro.  Roedd y pandemig wedi arwain at gynnydd yn y nifer a oedd yn manteisio ar Gredyd Cynhwysol yn Sir Ddinbych.

Yn yr ymateb cyntaf i’r pandemig, cyflwynodd Llywodraeth y DU nifer o fesurau tymor byr a mesurau dros dro i gefnogi busnesau ac unigolion, a oedd yn cynnwys y cynllun ffyrlo a’r cynnydd i’r credyd cynhwysol y cyfeirir ato yn y Rhybudd o Gynnig.  Daeth cynllun ffyrlo a’r ymgodiad i gredyd cynhwysol i ben tua deufis yn ôl, ac ni fyddai rheswm ymarferol dros alw am ei barhau oherwydd nid yw’n bodoli mewn gwirionedd ar hyn o bryd.  Mae hyn yn amlwg yn fater i’r aelodau o ran sut maen nhw am fynd i’r afael â’r mater.

 

Cynigiwyd y Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Pete Prendergast ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Barry Mellor.

 

Cadarnhaodd y Cynghorydd Glenn Swingler ei gefnogaeth i’r Rhybudd o Gynnig hwn, a chynigiodd ddiwygiad - bod y Cyngor hwn yn ysgrifennu at ein Haelod Seneddol lleol ac Aelodau’r Senedd i wahodd cefnogaeth. 

 

Cadarnhaodd y Cynghorydd Pete Prendergast ei fod yn cytuno y dylid ychwanegu’r diwygiad i’r Rhybudd o Gynnig gwreiddiol.

 

Eiliodd y Cynghorydd Bob Murray y diwygiad i’r Rhybudd o Gynnig.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies ddiwygiad pellach, sef y dylai’r Rhybudd o Gynnig nodi y dylid ailgyflwyno’r swm, nid y dylid parhau ag ef.  Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Barry Mellor.

 

Pleidleisiwyd ar y diwygiad a chytunwyd yn unfrydol arno.

 

Pasiwyd y diwygiad, felly cynhaliwyd pleidlais ar y prif gynnig ac roedd y canlyniad yn unfrydol o blaid y Rhybudd o Gynnig.

 

PENDERFYNWYD bod y cyngor yn cefnogi galwad i Lywodraeth y DU ailgyflwyno’r ychwanegiad o £20 yr wythnos i Gredyd Cynhwysol i gefnogi'r rhai agored i niwed ar adeg pan fo costau cynnal tŷ yn cynyddu ac ansicrwydd economaidd.  Bod y cyngor hwn yn ysgrifennu at ein Haelodau Seneddol lleol ac Aelodau’r Senedd i wahodd cefnogaeth.

 

11.

Rhybudd o Gynnig pdf eicon PDF 93 KB

Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Paul Penlington ar ran y Grŵp Plaid i'w ystyried gan y Cyngor Llawn (copi ynghlwm).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Fe dynnodd y Cynghorydd Paul Penlington y Rhybudd o Gynnig yn ôl gan fod angen iddo gymryd cyngor gan Bennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, AD a Democrataidd ynglŷn â’r ffordd ymlaen ar gyfer y Cynnig.

 

12.

RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL Y CYNGOR SIR pdf eicon PDF 415 KB

Ystyried Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cyngor (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd Raglen Gwaith i'r Dyfodol y Cyngor, ynghyd â Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol ar gyfer Sesiynau Briffio'r Cyngor (a ddosbarthwyd ymlaen llaw).

 

5 Ebrill 2021 – yn y cyfnod cyn yr etholiad ac fe ymgynghorir ynglŷn â ph’run ai a fydd y cyfarfod yn cael ei gynnal.

 

Mae Gweithdy ar y Gyllideb i’w gynnal ar 17 Rhagfyr 2021.

 

PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, y dylid cymeradwyo a nodi Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cyngor a Sesiynau Briffio’r Cyngor.

 

 

Daeth y cyfarfod i ben am 1.50 p.m.