Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: via VIDEO CONFERENCE

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Dogfennau ychwanegol:

2.

DATGANIADAU O FUDDIANT pdf eicon PDF 197 KB

Yr Aelodau I ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy’n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

 

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

 

 

4.

Cofnodion pdf eicon PDF 296 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Congor Sir a gynhaliwyd 7 Medi 2021 (copi ynghlwm).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cyngor Llawn a gynhaliwyd ar 7 Medi 2021.

 

PENDERFYNWYD cadarnhau bod cofnodion cyfarfod y Cyngor Llawn a gynhaliwyd ar 7 Medi 2021 yn gofnod cywir.

 

 

5.

DIGWYDDIAD LLIFOGYDD 9 CHWEFROR 2020 - ADRODDIAD YMCHWILIO I LIFOGYDD ADRAN 19 pdf eicon PDF 229 KB

Ystyried adroddiad gan y Peiriannydd Perygl Llifogydd, Wayne Hope, o’r ymchwiliad i’r llifogydd ar 9 Chwefror 2020 (copi ynghlwm)

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Gwastraff, Cludiant a'r Amgylchedd, y Cynghorydd Brian Jones Adroddiad Ymchwilio i Lifogydd Adran 19 ar Ddigwyddiad Llifogydd 9 Chwefror 2020.

 

Ar 9 Chwefror 2020, cafwyd llifogydd helaeth ar draws Sir Ddinbych o ganlyniad i Storm Ciara. Ers hynny, mae swyddogion y Cyngor, yn ogystal â swyddogion o Gyfoeth Naturiol Cymru a Dŵr Cymru, wedi cynnal ymchwiliadau i’r llifogydd er mwyn deall y rhesymau pam y digwyddodd y llifogydd, y tebygolrwydd y bydd yn digwydd eto ac i asesu p’un a ellir rhoi mesurau ar waith i leihau llifogydd yn y dyfodol.

 

Dechreuodd Keith Ivens o Gyfoeth Naturiol Cymru gyda’r ymholiadau a godwyd am Lanelwy. Cadarnhaodd fod yr hyn a ddigwyddodd ym mis Chwefror 2020 wedi bod yn ddigwyddiad eithafol. Roedd yr amddiffynfeydd newydd wedi cael eu hadeiladu a’u cynllunio ar safon amddiffyn 1 mewn 100 mlynedd yn cynnwys caniatáu ar gyfer newid hinsawdd. Yr hyn a welwyd yn y dadansoddiad o’r digwyddiad yn Atodiad B oedd dadansoddiad hydrolegol o’r digwyddiadau oherwydd Storm Ciara.

 

Amcangyfrifwyd bod Storm Ciara yn ddigwyddiad 1 mewn 250 / 1 mewn 300 mlynedd ar ei gwaethaf. Yn syth ar ôl y digwyddiad, holwyd pam bod gorlifo wedi digwydd mewn un lleoliad penodol. Cynhaliwyd trafodaethau helaeth gyda’r cynllunwyr ynghyd â modelu eang ar ôl y digwyddiad i ddeall beth oedd wedi digwydd yn y lleoliad hwn. Roedd hyn wedi’i ddatrys gyda’r cynllunwyr ac arweiniodd at y gwaith sy’n cael ei wneud ar hyn o bryd yn Llanelwy. Roedd gan gymuned Llanelwy amddiffyniad da iawn ac roedd 370 eiddo wedi cael eu hamddiffyn, a fyddai wedi cael llifogydd fel arall.   

 

Methiant recordydd lefel dŵr yn Llanelwy dan yr A55. Y math o offer a osodwyd yn y lleoliad hwnnw oedd trawsddygiadur pwysedd oedd â therfyn uchaf ac isaf, ond roedd wedi pasio’r terfyn uchaf. Roedd y trawsddygiadur pwysedd yn dal yn ei le ond bellach roedd sensor lefel uwchsonig ychwanegol yn wynebu am i lawr wedi ei osod ar Bont Spring Gardens oedd yn galluogi Cyfoeth Naturiol Cymru fonitro lefelau’r dŵr ac a oedd yn bwydo i’r model rhagamcanu llifogydd ar gyfer Afon Elwy.

 

Amddiffyn cymunedau gwledig - Edrychwyd ar ardal Wigfair a Ffordd Dinbych Isaf fel rhan o gynllun Llanelwy i benderfynu a ellid cynnwys rhai o’r eiddo ar hyd yr ardal honno yn y cynllun. Ar yr adeg honno, penderfynwyd na ellid cynnwys yr eiddo gan y byddai’n gwneud y cynllun yn aneconomaidd, ac felly ni ellid mynd â hyn y ei flaen.   Cynigiwyd a rhoddwyd amddiffyniad ar lefel eiddo i nifer o’r eiddo.  

 

Roedd marc cwestiwn ynglŷn ag adolygu amlinellau mapiau llifogydd yn yr ardaloedd hynny. Dros y 12/18 mis diwethaf, roedd Cyfoeth Naturiol Cymru wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i adolygu, diweddaru a newid yr hen fapiau llifogydd oedd ar gael a rhyddhawyd mapiau llifogydd newydd o’r enw Asesiad Risg Llifogydd Cymru yn gynharach eleni oedd yn edrych ar yr holl lifogydd o ddŵr wyneb, llifogydd o afonydd, llifogydd heblaw’r prif afonydd i gyd mewn un lle. 

 

Roedd amddiffyniad ar lefel eiddo yn argymhelliad 1-5 mlynedd Cyfoeth Naturiol Cymru. Roedd peilot amddiffyn ar lefel eiddo wedi cael ei gynnal yn ardal Llanfair TH.  Byddai canlyniadau’r peilot yn cael eu hasesu ac yna byddai’n edrych ar gymunedau bychan gwledig na fyddai’n elwa o gynllun mwy a hefyd ar ddewisiadau eraill, amddiffyn ar lefel eiddo yn un ohonynt.  

 

Yn anorfod, roedd hi bob amser yn anodd mewn cymunedau bach mwy gwledig i gyflawni’r manteision o ran costau i gynllunio a delio â chynllun mwy, a dyna pam y cynhaliodd Cyfoeth Naturiol Cymru asesiad o ddewisiadau  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

Rhybudd o Gynnig pdf eicon PDF 93 KB

Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Paul Penlington ar ran y Grŵp Plaid i’w ystyried gan y Cyngor Llawn (copi ynghlwm).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Paul Penlington ar ran Grŵp Plaid Cymru y Rhybudd o Gynnig canlynol ar gyfer sylw’r Cyngor Llawn:

 

‘Er mwyn lleihau prinder staff, ac i sicrhau bod ein dinasyddion mwyaf bregus yn cael gofal priodol, bod y Cyngor hwn yn ysgrifennu at lywodraeth y DU i ofyn i weithwyr gofal cymdeithasol gael eu dynodi ar frys fel gweithwyr medrus fel eu bod yn bodloni gofynion mynediad y system mewnfudo ôl-Brexit sy’n seiliedig ar bwyntiau, a gyflwynwyd yn Ionawr 2021.’

 

Ymatebodd yr Aelod Arweiniol Lles ac Annibyniaeth, y Cynghorydd Bobby Feeley. Diolchodd y Cynghorydd Feeley i Grŵp Plaid Cymru am gyflwyno’r Rhybudd o Gynnig i’r Cyngor Llawn gan ei fod yn tynnu sylw at y prinder dybryd o weithwyr gofal cymdeithasol. Roedd y ddeddfwriaeth y cyfeiriwyd ati yn rhwystr arall eto i ychwanegu at recriwtio a chadw staff gofal cymdeithasol ar yr adeg hon, nid dim ond yn Sir Ddinbych  ond ledled Cymru a’r DU. 

 

Mynegodd y Cynghorydd Feeley ddicter nad oedd gweithwyr gofal cymdeithasol wedi eu dynodi fel gweithwyr medrus ac o’r herwydd nad oeddent yn bodloni gofynion mynediad y system mewnfudo ôl-Brexit sy’n seiliedig ar bwyntiau, a gyflwynwyd yn Ionawr 2021 ac a gyfeiriwyd ati yn y Rhybudd o Gynnig. 

 

Roedd y Rhybudd o Gynnig wedi rhoi cyfle i’r Cynghorydd Feeley roi gwybod i aelodau am y gwaith caled oedd wedi digwydd yn y cefndir cyn gynted ag y cyhoeddwyd bwriadau’r Llywodraeth.  Hyd yn oed yn 2019 bu Cabinet a Swyddogion  Cyngor Sir Ddinbych yn cynnal trafodaethau â Llywodraeth Cymru a’r Swyddfa Gartref  am hyn. 

 

Drwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru, cyfrannodd Cyngor Sir Ddinbych at ymateb polisi Conffederasiwn GIG Cymru i system mewnfudo’n seiliedig ar sgiliau Llywodraeth y DU, sef y Papur Gwyn, a’i gymeradwyo ym mis Medi 2019.  Amlygodd yr adroddiad y byddai’r deddfau newydd yn cael effaith negyddol ar y gweithlu gofal cymdeithasol, oedd eisoes wedi profi prinder difrifol ac anawsterau recriwtio staff newydd.   Cadarnhaodd y Cynghorydd Feeley y byddai’n rhannu’r adroddiad â’r holl aelodau yn dilyn cyfarfod y Cyngor Llawn.

 

Hefyd, roedd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol, Nicola Stubbins, yn ei rôl fel Llywydd Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru ar y pryd wedi cyhoeddi datganiad i’r wasg ym mis Medi y llynedd yn galw am i weithwyr gofal gael eu cynnwys ar y rhestr o alwedigaethau lle’r oedd prinder. Eto, cadarnhaodd y Cynghorydd Feeley y byddai’n rhannu copi o’r datganiad i’r wasg â’r holl aelodau yn dilyn cyfarfod y Cyngor Llawn.

 

Er gwaetha’r holl ymdrechion hyn, cafodd y system mewnfudo newydd ei chyflwyno heb ddynodi’r gweithlu gofal cymdeithasol fel gweithwyr medrus ac nid wyf yn obeithiol y bydd y ffaith bod Sir Ddinbych  ar ei phen ei hun yn galw ar Lywodraeth y DU yn cael yr effaith a ddymunir.

 

Rhoddodd y Cynghorydd Feeley sicrwydd i’r Cyngor Llawn bod Cyngor Sir Ddinbych, drwy Swyddogion  ac Aelodau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a San Steffan ar y mater mwy o sut i gael system gofal cymdeithasol oedd yn urddasol a chynaliadwy a chydnabu rôl werthfawr pawb oedd yn gweithio yn y sector.  

 

Cynigiodd y Cynghorydd Paul Penlington y Rhybudd o Gynnig ac eiliwyd gan y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies.

 

Ar y pwynt hwn, gofynnodd y Cynghorydd Paul Penlington am bleidlais wedi’i chofnodi. Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd fod angen i bum aelod oedd yn bresennol gefnogi pleidlais wedi’i chofnodi. Cododd 6 aelod eu dwylo i gefnogi pleidlais wedi’i chofnodi.

 

Cynhaliwyd y bleidlais ac roedd y canlyniad fel a ganlyn:

 

O BLAID – Y Cynghorwyr Brian Blakeley, Joan Butterfield, Ellie Chard, Ann Davies, Meirick Lloyd  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL Y CYNGOR SIR pdf eicon PDF 415 KB

Ystyried Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cyngor (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, AD a Democrataidd Raglen Gwaith i'r Dyfodol y Cyngor, ynghyd â Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol ar gyfer Sesiynau Briffio'r Cyngor (a ddosbarthwyd ymlaen llaw).

 

7 Rhagfyr 2021 - 

(i)            Asesiad o Anghenion y Boblogaeth

(ii)           Cefnogwr Pobl Ifanc

(iii)          Ffyrdd Newydd o Weithio

 

8 Tachwedd 2021 - Sesiwn Briffio’r Cyngor yn cael ei chynnal

 

Sesiwn Briffio ychwanegol i’w chynnal ym mis Tachwedd, dyddiad i’w gadarnhau.

 

25 Ionawr 2022 - Adroddiad gosod y gyllideb

22 Chwefror 2022 - Materion Treth y Cyngor i gyhoeddi biliau treth y cyngor

 

PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, y dylid cymeradwyo a nodi Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cyngor a Sesiynau Briffio’r Cyngor.