Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: via VIDEO CONFERENCE

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Dogfennau ychwanegol:

2.

DATGANIADAU O FUDDIANT pdf eicon PDF 197 KB

Yr Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad.

 

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw faterion brys.

 

 

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD PAUL PENLINGTON -

 

 “Yn dilyn tynnu milwyr y DU o Affganistan, a allwch ddweud wrthym faint o ffoaduriaid unigol dilynol rydym yn bendant yn eu cymryd yn Sir Ddinbych a phryd fyddant yn cyrraedd?"

 

Ymateb gan y Cynghorydd Bobby Feeley, Aelod Arweiniol Lles ac Annibyniaeth – “rydym yn meddwl am y sawl a effeithiwyd gan y digwyddiadau trasig diweddar yn Affganistan, gan gynnwys y sawl sy’n byw yma, cyn filwyr, cyfieithwyr a ffoaduriaid eraill sy'n pryderu am aelodau o'u teulu gartref.

Rydym i gyd wedi gwylio mewn ofn wrth i ddigwyddiadau ddatblygu yn Affganistan dros y misoedd diwethaf, gan achosi gymaint o ansicrwydd i’w phobl.

 

Gallaf gadarnhau bod aelodau’r Cabinet wedi trafod y sefyllfa o ran ffoaduriaid o Affganistan ddoe, ac wedi cytuno y dylai Sir Ddinbych gynyddu ein hymrwymiadau presennol drwy'r Cynllun Adsefydlu Byd-eang i ddeg teulu. Bydd hyn yn ein galluogi i gynnig tai a chefnogaeth i bum teulu o Affganistan ar hyn o bryd, er mae'n bosib iawn y caiff ei ymestyn os yw'r sefyllfa a'r cynllun yn parhau ar ôl y flwyddyn gyntaf. Mae hyn yn ychwanegol i’r ymrwymiad presennol i gefnogi pum teulu y flwyddyn dan Raglen Ffoaduriaid o Syria a Byd-eang y cytunwyd arni rhai blynyddoedd yn ôl. 

Mae un teulu o Affganistan eisoes wedi ei dderbyn ac wedi ymgartrefu yn Sir Ddinbych dros y bythefnos ddiwethaf. 

 

Mae llety yn cael ei gyflenwi ledled y sir, yn y sector rhentu preifat i ddechrau, yn unol â’r rhaglen ffoaduriaid gyfredol, ac rydym eisoes wedi cael nifer o gynigion o ran llety ystafelloedd sengl i dai 5 ystafell wely. Er ein bod yn croesawu cynigion o ran llety, ni fydd yn bosib o hyd eu defnyddio, oherwydd anghenion teuluoedd unigol. 

 

Yn anffodus, nid yw Sir Ddinbych yn gallu derbyn cynigion o ran celfi, dillad, teganau ac ati, ond rydym yn gweithio ar y cyd gyda sefydliadau eraill a fydd yn ceisio dod o hyd i ffyrdd effeithiol o ddefnyddio’r cynigion caredig hyn o gymorth.

 

Mae’r Swyddfa Gartref wedi cyhoeddi rhaglen ariannu blwyddyn o hyd ar gyfer cynllun Affganistan, er mwyn i Awdurdodau Lleol ddarparu cefnogaeth o ran addysg a swyddi. Yn ychwanegol at hynny, maent wedi nodi ymrwymiad parhaus i gefnogi costau tai. Mae’r cyllid yn debyg i beth a dderbyniwyd gan y Cyngor i'r Cynllun Unigolion Diamddiffyn o Syria, a bydd aelodau'n ymwybodol ein bod wedi ei ddefnyddio'n llwyddiannus i gefnogi 22 teulu dros y pum mlynedd diwethaf i gael tai ac addysg, gyda thri unigolyn nawr yn gweithio ac un yn ymgeisio am eu trwydded yrru HGV. Maent wedi cael eu cefnogi gan Fentor penodol yn Sir Ddinbych yn Gweithio, a ariannwyd gan y cynllun. 

 

Mae aelodau’r Cabinet yn falch o allu cefnogi teuluoedd o Affganistan yn unol â’r dymuniad yng Nghymru i gael ei gweld fel noddfa i sicrhau y gall teuluoedd integreiddio o fewn cymunedau Cymraeg o'u diwrnod cyntaf yma.

 

Fe fyddwn yn gwneud popeth y gallwn i roi tai priodol a chroeso cynnes fel y bydd ein cymdogion newydd yn dod yn rhan bwysig o’n cymuned, fel y mae cynifer wedi ei wneud yn y gorffennol. 

 

O wybod y sefyllfa o ran tai, bydd hyn yn sicr yn dasg anodd, ond yn un yr ydym yn llwyr fwriadu ei chyflawni.

 

Mae pob Awdurdod Lleol yng Nghymru yn chwarae ei ran mewn cefnogi’r Rhaglen Adleoli a Chynorthwyo Affganiaid a, thra bod yr ymrwymiad hwn mewn perthynas â Sir Ddinbych, rydym yn gweithio’n rhanbarthol ac ar lefel strategol i rannu gwybodaeth a chymorth fel bo’n briodol.”

 

 

4.

Cofnodion pdf eicon PDF 294 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Cyngor Sir a gynhaliwyd 6 Gorffennaf 2021 a/ac 22 Gorffennaf 2021 (copi ynghlwm).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cyngor Llawn a gynhaliwyd ar 6 Gorffennaf 2021.

 

PENDERFYNWYD cadarnhau bod cofnodion cyfarfod y Cyngor Llawn a gynhaliwyd ar 6 Gorffennaf 2021 yn gofnod cywir.

 

 

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cyngor Arbennig a gynhaliwyd ar 22 Gorffennaf 2021.

 

PENDERFYNWYD cadarnhau bod cofnodion y Cyfarfod Arbennig a gynhaliwyd ar 22 Gorffennaf 2021 yn gofnod cywir.

 

 

5.

AMRYWIAETH MEWN DEMOCRATIAETH pdf eicon PDF 229 KB

Ystyried adroddiad gan Bennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, AD a Democrataidd (copi ynghlwm), i hysbysu Aelodau ynghylch Rhaglen Amrywiaeth mewn Gwasanaethau Democrataidd CLlLC.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd, y Cynghorydd Hugh Evans, yr adroddiad Amrywiaeth mewn Democratiaeth (a gylchredwyd yn flaenorol) i dynnu sylw aelodau at Raglen Amrywiaeth mewn Democratiaeth CLlLC a’r camau gweithredu a gymeradwywyd gan Gyngor CLlLC, ynghyd â chais i bob Cyngor yng Nghymru ymrwymo i fod yn ‘Gynghorau Amrywiol’.

Roedd gan CLlLC Raglen Amrywiaeth mewn Democratiaeth uchelgeisiol i geisio sicrhau bod siambrau cynghorau yn fwy cynrychioliadol o’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu. Roeddent wedi bod yn ystyried ffyrdd o sicrhau mwy o amrywiaeth ar ôl etholiadau llywodraeth leol mis Mai 2022.

 

Ym mis Medi 2018, cytunodd Cyngor CLlLC i gymryd camau i gynyddu cydraddoldeb rhywiol ac amrywiaeth mewn Cynghorau cyn etholiadau 2022. Roedd hyn er mwyn cydnabod y diffyg amrywiaeth sydd yng Nghynghorau Cymru. Sefydlwyd gweithgor trawsbleidiol er mwyn edrych ar dangynrychiolaeth ehangach mewn democratiaeth. Mewn cyfarfod arbennig a gynhaliwyd ym mis Mawrth eleni, cafodd Cyngor CLlLC adroddiad gan y gweithgor trawsbleidiol hwnnw gyda chynigion wedi’u cynllunio i gyflawni newid sylweddol mewn amrywiaeth ar ôl etholiadau 2022.

 

Cytunodd Cyngor CLlLC yn unfrydol bod angen ymdrech unedig ar y cyd ar draws teulu llywodraeth leol a phleidiau gwleidyddol. O ganlyniad i’r cyfarfod hwnnw, anfonwyd llythyr at bob Awdurdod Lleol yng Nghymru, wedi’i lofnodi gan bob un o arweinwyr y grwpiau gwleidyddol a gaiff eu cynrychioli ar Gyngor CLlLC. Mae copi o’r llythyr hwnnw wedi ei atodi fel Atodiad 2 i’r adroddiad a gylchredwyd yn flaenorol.

 

Ceisiwyd ymrwymiad i’r datganiad canlynol:

 

Mae’r Cyngor hwn yn ymrwymo i fod yn Gyngor Amrywiol.

 

Rydym yn cytuno i:

 

·         Ddarparu ymrwymiad cyhoeddus clir i wella amrywiaeth mewn democratiaeth

·         Arddangos diwylliant agored a chroesawgar i bawb, gan hyrwyddo’r safonau uchaf o ymddygiad

·         Gosod Cynllun Gweithredu Cyngor Amrywiol lleol cyn etholiadau lleol 2022. Arddangos ymrwymiad i ddyletswydd gofal ar gyfer Cynghorwyr.

·         Darparu hyblygrwydd ym musnes y cyngor drwy adolygu ein trefniadau ymarferol ar gyfer cynnal cyfarfodydd

·         Sicrhau fod yr holl aelodau yn ymwybodol o’r lwfansau a’r cyflogau y mae ganddynt hawl iddynt, yn arbennig unrhyw ad-daliadau am gostau gofal, fel bod yr holl aelodau yn derbyn ad-daliadau teg am eu gwaith ac nad yw rôl yr aelod yn gyfyngedig i’r rhai a all ei fforddio.

 

Os yw’r datganiad i’w gymeradwyo, byddai adroddiad mwy manwl yn cael ei gyflwyno i Bwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd i ddatblygu Cynllun Gweithredu Cyngor Amrywiol cyn etholiadau llywodraeth leol 2022.

 

Yn ystod trafodaethau codwyd y pwyntiau canlynol:

 

·         Cododd y Cynghorydd Tony Thomas y mater ei fod yn y gorffennol o gael ei enwebu i fod yn Gynghorydd wedi gorfod ymddiswyddo o'i swydd fel athro. 

Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, AD a Democrataidd fod CLlLC wedi bod yn edrych ar yr agwedd honno o’r broses enwebu.

·         Cododd y Cynghorydd Bobby Feeley fater  y cydbwysedd rhwng y rhywiau yng Nghyngor Sir Ddinbych. 

Roedd 14 o’r Cynghorwyr yn fenywod, roedd 1 aelod o’r Cabinet yn fenyw a dim ond un Cadeirydd o’r amrywiol bwyllgorau oedd yn fenyw. Roedd hyn yn gofyn am newid diwylliannol gan, yn ei barn hi, nid oedd llawer o fenywod yn gweld eu hunain mewn gwleidyddiaeth. O ran cynghorwyr hŷn, roedden nhw yn dod â llawer o brofiad i’r rôl felly byddai cyngor amrywiol yn fwy priodol.

·         Nodwyd fod cyfarfodydd wedi bod yn cael eu cynnal o bell o ganlyniad i covid. 

Byddai cyfarfodydd o bell yn rhoi cyfle i fwy o bobl sefyll, gan na fyddai'n cymryd amser i deithio i ac o fannau cyfarfod. Roedd hyn yn hynod o fuddiol os oedd unigolyn sy'n gweithio yn dymuno sefyll fel cynghorydd yn y dyfodol.

·         Codwyd mater camdriniaeth i gynghorwyr gan aelodau o’r cyhoedd, yn arbennig cynghorwyr benywaidd. 

Ni fyddai hyn yn  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

Rhybudd o Gynnig pdf eicon PDF 88 KB

Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Rachel Flynn ar ran Grŵp y Ceidwadwyr Cymreig i'w ystyried gan y Cyngor Llawn (copi ynghlwm).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Tony Thomas y Rhybudd o Gynnig canlynol ar ran Grŵp y Ceidwadwyr Cymreig i’w ystyried gan y Cyngor Llawn:

 

“Bod Cyngor Sir Ddinbych yn penodi Cefnogwr Pobl Ifanc ar gyfer pawb o dan ddeunaw oed.”

 

Yn ystod trafodaethau trylwyr gofynnwyd beth fyddai rôl Cefnogwr Pobl Ifanc. Awgrymwyd cyfeirio rôl y Cefnogwr Pobl Ifanc at Bwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd i ddiffinio’r rôl ac yna cyflwyno adroddiad arall i’r Cyngor Llawn yn y dyfodol.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Tony Thomas y gwelliant fod y Rhybudd o Gynnig yn cael ei gyflwyno i Bwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd i ddiffinio’r rôl a bod adroddiad arall yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor Llawn, ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Martyn Holland.

 

Cynhaliwyd pleidlais a phleidleisiodd y mwyafrif o aelodau o blaid, gydag un aelod yn pleidleisio yn erbyn y gwelliant.

 

PENDERFYNWYD fod adroddiad ar rôl y Cefnogwr Pobl Ifanc yn cael ei gyflwyno i Bwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd i ddiffinio’r rôl a bod adroddiad arall yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor Llawn.

 

 

7.

RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL Y CYNGOR SIR pdf eicon PDF 419 KB

Ystyried Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cyngor (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, AD a Democrataidd Raglen Gwaith i'r Dyfodol y Cyngor, ynghyd â Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol ar gyfer Sesiynau Briffio'r Cyngor (a ddosbarthwyd ymlaen llaw).

 

·         Gweithdy ar y Cyflog Byw Gwirioneddol i’w gynnal yr wythnos ganlynol

·         Gweithdy i’w drefnu cyn diwedd Medi 2021 yn ymwneud â’r ymgynghoriad cyfredol gan Lywodraeth Cymru ar Ganllawiau Statudol ar gyfer Cyd Bwyllgorau Corfforaethol. 

Dyddiad y gweithdy i’w gadarnhau.

 

PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, y dylid cymeradwyo a nodi Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cyngor a Sesiynau Briffio’r Cyngor.

 

 

 

 

DAETH Y CYFARFOD I BEN AM 11.36 A.M.