Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: via VIDEO CONFERENCE

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Dogfennau ychwanegol:

2.

DATGANIADAU O FUDDIANT pdf eicon PDF 197 KB

Yr Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Cheryl Williams gysylltiad personol ag eitem 5 – Adolygiad Perfformiad Blynyddol – am ei bod yn rhentu eiddo sy’n perthyn i’r cyngor.

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim eitemau brys.

 

 

(a)  Cwestiwn gan y Cynghorydd Paul Penlington:

 

Gofynnwyd i ni feddwl am gynigion i’w cyflwyno i Gronfa Codi’r Gwastad Llywodraeth San Steffan ar 25 Mehefin, cyn y dyddiad cau, sef dydd Gwener 2 Gorffennaf.  Gan fod y dyddiad cau wedi mynd heibio, allwch chi ddweud wrthym faint o gynigion a gafwyd a gan pa Aelodau,  manylion pob cynnig a beth fydd y broses rŵan ar gyfer ystyried pa gynigion fydd yn cael eu datblygu i’w cyflwyno i’r Gronfa Leol?

 

Ymateb yr Arweinydd, y Cynghorydd Hugh Evans:

 

Anfonwyd e-bost at y Grwpiau Aelodau Ardal (GAA)  sydd o fewn Etholaeth AS Dyffryn Clwyd a Gorllewin Clwyd sef GAA Elwy, y Rhyl, Prestatyn, Dinbych a Rhuthun.

 

Gofynnwyd i’r aelodau lenwi ffurflen yn nodi rhai syniadau cychwynnol am brosiectau i’w trafod gydag AS yr etholaeth honno y gellid o bosibl eu hystyried i’w cynnwys yn y cais Codi’r Gwastad.

 

Derbyniwyd ymatebion gan 5 aelod yn awgrymu amrywiaeth o brosiectau, yn cynnwys ailddatblygu adeiladau Canol Tref ac adeiladau mewn cymunedau gwledig.   

 

Bydd y syniadau ar gyfer y prosiect yn cael eu trafod gyda’r AS, a bydd cyfle i drafod syniadau prosiect yr aelodau yn ogystal ag awgrymiadau gan yr AS a swyddogion yn fwy manwl yng nghyfarfodydd y GAA ym mis Gorffennaf. 

 

Bydd ceisiadau yn y dyfodol, yn cynnwys yr holl brosiectau, yn gofyn am gefnogaeth yr AS.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Paul Penlington gwestiwn atodol:

 

Mae’n rhaid clustnodi’r £20 miliwn ar gyfer prosiectau y gellir eu cyflawni erbyn Mawrth 2024, sef ychydig cyn yr etholiad cyffredinol nesaf.   Nid yw hirhoedledd y cyllid hwn yn hysbys gan gan nad yw wedi ei nodi eto, sydd yn gwneud cynllunio'n iawn ar ei gyfer yn anodd dros ben.  Mae’r amserlen ar gyfer ceisiadau yn ddychrynllyd o dyn a bydd unrhyw geisiadau am gyllid a gyflwynir yn cael eu cymeradwyo yn y pen-draw gan yr AS lleol ac nid Cynghorwyr Sir.  Gan nad oes wybod beth ddaw yn y dyfodol a democratiaeth wedi mynd i San Steffan, mae Gwasanaethau CSDd ac Aelodau Lleol rŵan yn gorfod sgrialu dros benderfyniadau ariannu lleol ar gyfer eu hardaloedd eu hunain.

 

A fydd y gronfa Codi’r Gwastad hon yn cefnogi’r Cynllun Corfforaethol sydd dan drafodaeth ar hyn o bryd a'r Fargen Twf Gogledd Cymru ehangach?

 

Ymateb pellach gan yr Arweinydd, y Cynghorydd Hugh Evans:

 

Mae’r £20m fesul etholaeth felly mae Dyffryn Clwyd yn etholaeth un AS a Gorllewin Clwyd rhwng Conwy a Sir Ddinbych.

 

Mae hyn yn ffordd newydd o weithio i ni yn Sir Ddinbych.  Mae’n her cwrdd â’r terfynau amser gan eu bod yn hynod o dyn fel y dywedwyd eisoes ac roedd yn sialens fawr i ni  gyflwyno cais De Clwyd erbyn mis Mehefin.  Wedi dweud hynny, pa un a ydym yn cytuno a’i peidio, mae posibilrwydd yma o fuddsoddiad yn ein hawdurdod ni a’r unig ffordd y gallwn ddefnyddio'r gronfa Codi'r Gwastad yw drwy groesawu'r cyfle a gweithio gyda'r ddau AS perthnasol a cheisio dyfeisio prosiectau sy'n ffitio ein cymunedau. 

 

Dyna pam yr wyf yn teimlo ei bod yn bwysig i ni greu proses ar gyfer ymgysylltu â’r ddau AS ac Aelodau i feddwl am brosiectau sy’n cyd-fynd â'u dyheadau ond yn fwy pwysig, yn cyd-fynd â’n dyheadau ni ar gyfer yr ardal hefyd.

 

Yr hyn sy’n bwysig yw y byddwn yn creu proses lle bydd ASau yn ymgysylltu â Chynghorwyr i ddatblygu prosiectau sy’n plesio’r ASau ond sydd hefyd yn ein plesio ni.  Mae hyn yn bwysig dros ben ac mae’r ddau AS wedi cytuno i ddod i’r GAA ym mis Gorffennaf i drafod hyn.

 

Mae’r potensial i wella ein cymunedau  drwy’r gronfa  ...  view the full Cofnodion text for item 3.

4.

Cofnodion pdf eicon PDF 329 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Cyngor Sir a gynhaliwyd 18 Mai 2021 (copi i ddilyn).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cyngor Llawn a gynhaliwyd ar 18 Mai 2021.

 

PENDERFYNWYD cadarnhau bod cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 18 Mai 2021 yn gofnod cywir.

 

 

5.

ADOLYGIAD PERFFORMIAD BLYNYDDOL 2020/2021 pdf eicon PDF 215 KB

Ystyried adroddiad gan y Rheolwr Tîm Cynllunio Strategol ac Arweinydd y Tîm Cynllunio Strategol a Pherfformiad (copi ynghlwm) I gymeradwyo’r Adolygiad Performiad Blynyddol 2020 2021

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Perfformiad ac Asedau Strategol, y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, yr adroddiad (a ddosbarthwyd eisoes) yn nodi’r dadansoddiad chwarterol a diwedd blwyddyn ac amlygodd brosiectau a chamau gweithredu penodol i’w darparu yn 2021-2022.

 

Rhoddwyd gwybodaeth ynglŷn â chynnydd y Cyngor o safbwynt darparu deilliannau’r Cynllun Corfforaethol yn chwarter 4 2020-2021, gan ddiwallu’r ddyletswydd statudol i gyhoeddi adroddiad blynyddol ar berfformiad erbyn Hydref 31 dan Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009.

 

Roedd yr Adolygiad Perfformiad Blynyddol (APB) wedi’i ehangu i gyfuno nifer o adroddiadau a arferent fod ar  wahân yn un ddogfen, gan ddiwallu rhwymedigaethau'r cyngor dan sawl darn o ddeddfwriaeth yn cynnwys Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.  

 

Am y tro cyntaf roedd yr APB yn cynnwys pennod 'beilot’ newydd i fodloni’r angen i hunanasesu dan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021. Gan dynnu ar dystiolaeth a gyhoeddwyd a oedd ar gael o ffynonellau mewnol ac allanol ac edrych ar ddata a gytunwyd gan Uwch Reolwyr, roedd y bennod yn rhoi darlun ehangach o’r cyd-destun yr oedd y cyngor yn gweithredu ynddo wrth gyflawni ei amcanion perfformiad. Roedd hefyd yn ceisio dynodi unrhyw weithredoedd allweddol a fyddai’n gwella perfformiad wrth symud ymlaen.

 

Rhoddodd Rheolwr y Tîm Cynllunio Strategol grynodeb o gynnydd yn erbyn y blaenoriaethau a rhoddodd Arweinydd y Tîm Cynllunio Strategol a Pherfformiad drosolwg o adran iechyd corfforaethol newydd yr adroddiad er mwyn bodloni’r angen i hunanasesu o dan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.

 

Ystyriodd y Cyngor yr APR ac roedd y prif feysydd trafod yn ymwneud â’r canlynol -

·         Credyd Cynhwysol – bu cynnydd yn nifer y bobl sy’n derbyn Credyd Cynhwysol dros y 12 mis blaenorol ac wrth i’r trefniant ffyrlo ddod i ben, bydd yr effaith yn cael ei fonitro. 

Mae CSDd, CAP a’r Adran Gwaith a Phensiynau i gyd yn mynd ati’n rhagweithiol i sicrhau y byddai cymorth ar gael, yn enwedig i helpu plant a theuluoedd.  Dywedodd y Swyddogion wrth yr Aelodau y byddai’r Cynllun Corfforaethol newydd yn rhoi blaenoriaeth i dlodi plant.

·         Diweithdra Ieuenctid – mae Sir Ddinbych yn gweithio ar TRAC ac ADTRAC o safbwynt diweithdra ieuenctid. 

I gael grantiau rhaid darparu adroddiadau gyda gwybodaeth fanwl.  Mae cymorth yn cael ei gynnig i gynorthwyo â diweithdra ieuenctid.  Cadarnhawyd y gellid darparu adroddiadau chwarterol ar gyfer yr Aelodau neu fel arall eu cyflwyno i’r Pwyllgor Craffu i edrych arnynt mewn mwy o fanylder.

·         Yn ystod Covid mae gwaith yn Sir Ddinbych wedi’i addasu a rheolau a deddfwriaeth newydd wedi’u sefydlu. 

Mae’n debyg na wnaiff pethau ddychwelyd i’r drefn cyn y pandemig.  Mae cynllun adfer manwl wedi’i lunio a gobeithir gwella darpariaeth gwasanaethau.  Mae cymunedau wedi dangos gwydnwch aruthrol yn ystod anawsterau’r pandemig.

·         Codwyd materion digidol ond cadarnhawyd mai BT Openreach sy’n gyffredinol gyfrifol am y materion hyn a bod CSDd mewn trafodaethau â nhw. 

 

CYNIGIODD y Cynghorydd Julian Thompson-Hill bod yr adroddiad yn cael ei gymeradwyo a chafodd y cynnig ei EILIO gan y Cynghorydd Bobby Feeley.

 

Cynhaliwyd pleidlais a chytunwyd yn unfrydol i gymeradwyo’r adroddiad.

 

PENDERFYNWYD - yn amodol ar unrhyw newidiadau cytunedig, bod y Cyngor yn cymeradwyo Adolygiad Perfformiad Blynyddol 2020-2021.

 

 

6.

AMSERLEN BWYLLGORAU 2022 pdf eicon PDF 206 KB

Ystyried adroddiad gan y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd a’r Gweinyddwr Pwyllgorau (copi ynghlwm) I gymeradwyo’r amserlen bwyllgorau ar gyfer 2022.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd  Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd, Steven Price, yr adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) i alluogi’r Aelodau i gymeradwyo’r amserlen Bwyllgorau ddrafft ar gyfer 2022.

 

Mae'n ofynnol i'r Cyngor gymeradwyo amserlen ar gyfer 2022 er mwyn gallu cadarnhau trefniadau’r cyfarfodydd a’r adnoddau, cyhoeddi’r amserlen a llenwi dyddiaduron yr Aelodau.

 

Diolchodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd i’w gydweithiwr Kath Jones, Swyddog Pwyllgorau, am  baratoi’r amserlen a chysylltu â swyddogion gan fod hyn wedi gofyn am drefnu gofalus iawn.

 

CYNIGIWYD GAN y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies, EILIWYD gan y Cynghorydd Jeanette Chamberlain Jones.

 

Cynhaliwyd pleidlais a chytunwyd yn unfrydol i gymeradwyo’r adroddiad.

 

PENDERFYNWYD bod y Cyngor yn cymeradwyo'r amserlen bwyllgorau ddrafft ar gyfer 2022.

 

 

7.

RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL Y CYNGOR SIR pdf eicon PDF 388 KB

Ystyried Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cyngor (copi ynghlwm).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, AD a Democrataidd Raglen Gwaith i'r Dyfodol y Cyngor, ynghyd â Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol ar gyfer Sesiynau Briffio'r Cyngor (a ddosbarthwyd ymlaen llaw).

 

Roedd Cyfarfod Cyngor Arbennig wedi’i drefnu ar gyfer 22 Gorffennaf 2021 ar gyfer recriwtio Prif Weithredwr newydd.

 

Mae gweithdai'n cael eu trefnu ar gyfer y Gyllideb a Chyflog Byw Gwirioneddol.

 

PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, y dylid cymeradwyo a nodi Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cyngor a Sesiynau Briffio’r Cyngor.

 

 

 

 

Daeth y cyfarfod i ben am 11.51am.