Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: via VIDEO CONFERENCE

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Dogfennau ychwanegol:

2.

DATGANIADAU O FUDDIANT pdf eicon PDF 197 KB

Yr Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

 

 

3.

PENODI CADEIRYDD Y CYNGOR SIR

Penodi Cadeirydd y Cyngor am y flwyddyn 2021/2022.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwahoddodd y Cadeirydd a oedd yn ymddeol, y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies, enwebiadau ar gyfer penodi Cadeirydd y Cyngor Sir ar gyfer blwyddyn gyngor 2021/2022.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Joan Butterfield y dylid ethol y Cynghorydd Alan James yn Gadeirydd.

Eiliodd y Cynghorydd Emrys Wynne y cynnig.

 

Ni chafwyd unrhyw enwebiadau eraill, ac yn dilyn pleidlais, etholwyd y Cynghorydd Alan James yn unfrydol i fod yn Gadeirydd y Cyngor ar gyfer y flwyddyn 2021/2022.

 

Rhoddodd y Cadeirydd oedd yn ymddeol araith fer, a bu’n adfyfyrio ynghylch ei gyfnod yn Gadeirydd yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, ac yn enwedig y 12 mis diwethaf oherwydd COVID-19. 

 

Diolchodd i holl aelodau Cyngor Sir Ddinbych am eu cefnogaeth, eu hamynedd a’u cydweithrediad, ac am yr anrhydedd o gael cynrychioli'r sir o 2019 ymlaen. Nododd ei bod wedi bod yn fraint ac yn anrhydedd cael cynrychioli'r sir fel Cadeirydd y Cyngor Sir ar dri achlysur dros y 25 mlynedd diwethaf.

 

Diolchodd i’w wraig, Nesta, ac i’w deulu am eu cefnogaeth. Diolchwyd hefyd i'r swyddogion, y staff cefnogi a’r cyfieithwyr am eu cefnogaeth yn ystod ei gyfnod yn y Gadair, a diolchodd yn benodol i Eleri Woolford (Rheolwr Cefnogi a Datblygu Aelodau), y ddiweddar Sue License, Sharon Walker, Steve Price a Rhodri Tomos.  Diolchodd i Gary Williams, Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, AD a Democrataidd am ei arweiniad a’i gefnogaeth gyson.  Diolchwyd hefyd i’r Cynghorydd Alan James am ei gefnogaeth a’i gymorth dros y ddwy flynedd diwethaf.  Diolchwyd i’r Parchedig Ddoctor Rhodri Glyn a’r Parchedig Aneurin Owen, ac i’r Cynghorwyr Arwel Roberts, Emrys Wynne ac eraill a fu’n traddodi’r weddi pan oedd angen.

 

 

Roedd y Cadeirydd a oedd yn ymddeol wedi codi cyfanswm o £1000 ar gyfer y ddwy elusen a ddewiswyd ganddo.  Ar y pwynt hwn, darllenodd y Cadeirydd lythyr diolch gan Carol Pritchard Jones o Apêl Canser Gogledd Cymru am y rhodd o £500.    

 

Ymunodd Tina Lew, Prif Weithredwr Prostate Cymru, â’r cyfarfod drwy fideogynadledda er mwyn diolch i’r Cadeirydd am y rhodd o £500.

 

Dymunodd y Cadeirydd a oedd yn ymddeol yn dda i’r Cadeirydd newydd ar gyfer y dyfodol.  Cwblhaodd y Cynghorydd James y Datganiad Derbyn y Swydd.

 

Diolchodd y Cadeirydd newydd i’r Cadeirydd a oedd yn ymddeol a’i wraig am eu holl waith dros y ddwy flynedd diwethaf.

 

Enwodd y Cadeirydd newydd ei wraig, Wyn Mullen James, fel ei gydymaith.

 

Nododd mai’r elusennau yr oedd ef wedi eu dewis oedd:

·         Cymorth Canser Macmillan

·         Criw Bad Achub y Rhyl

 

Yr Hybarch Archddiacon Andy Grimwood fyddai Caplan y Cadeirydd newydd.

 

 

 

4.

PENODI IS-GADEIRYDD Y CYNGOR SIR

Penodi Is-Gadeirydd y Cyngor am y flwyddyn 2021/2022.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gofynnodd y Cadeirydd am enwebiadau ar gyfer swydd yr Is-gadeirydd. 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Martyn Holland enw’r Cynghorydd Christine Marston fel Is-gadeirydd y Cyngor ar gyfer blwyddyn gyngor 2021/2022.  Cyfeiriodd at brofiad helaeth y Cynghorydd Marston. 

 

Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Rhys Thomas.

 

Ni chafwyd unrhyw enwebiadau eraill, ac yn dilyn pleidlais, etholwyd y Cynghorydd Christine Marston yn unfrydol i fod yn Is-gadeirydd y Cyngor ar gyfer blwyddyn gyngor 2021/2022.

 

Cwblhaodd yr Is-gadeirydd y Datganiad Derbyn y Swydd.

 

Talodd yr Arweinydd, Arweinwyr y Grwpiau a’r Aelodau deyrnged i waith y Cadeirydd a oedd yn ymddeol dros y ddwy flynedd diwethaf, a llongyfarchwyd y Cynghorwyr Alan James a Christine Marston ar gael eu hethol yn Gadeirydd ac yn Is-gadeirydd.

 

 

Ar y pwynt hwn (10.35am) cafwyd egwyl o 20 munud.

Ailddechreuodd y cyfarfod am 10.55am.

 

 

 

5.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw faterion brys.

 

Ar y pwynt hwn, llongyfarchodd y Cadeirydd Mabon ap Gwynfor a Gareth Davies ar gael eu hethol i’r Senedd, a chydymdeimlodd â’r rhai eraill a safodd, ond nas etholwyd, yn etholiadau’r Senedd ac etholiadau Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru.

 

 

6.

Cofnodion pdf eicon PDF 256 KB

(a)  Derbyn cofnodion cyfarfod arbennig y Cyngor Sir a gynhaliwyd 15 Mawrth 2021 (copi ynghlwm).

(b)  Derbyn cofnodion cyfarfod y Cyngor Sir a gynhaliwyd 13 Ebrill 2021 (copi ynghlwm).

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cyngor Arbennig a gynhaliwyd ar 15 Mawrth 2021.

 

Cynhaliwyd pleidlais a chytunwyd yn unfrydol fod y cofnodion yn gywir.

 

 

Cyflwynwyd cofnodion y Cyngor Llawn a gynhaliwyd ar 13 Ebrill 2021.

 

Materion yn Codi –

Tudalen 10, Eitem 4 – Cadarnhaodd y Cynghorydd Peter Scott fod Adroddiad Llifogydd Cyfoeth Naturiol Cymru ynghylch llifogydd 2020 bellach ar gael ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru.

 

Cynhaliwyd pleidlais a chytunwyd yn unfrydol fod y cofnodion yn gywir.

 

PENDERFYNWYD derbyn a chadarnhau bod cofnodion cyfarfod y Cyngor Arbennig a gynhaliwyd ar 15 Mawrth 2021, a chyfarfod y Cyngor Llawn a gynhaliwyd ar 13 Ebrill 2021, yn gofnodon cywir.

 

 

7.

Rhybudd o Gynnig pdf eicon PDF 93 KB

Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Brian Jones ar ran Grŵp y Ceidwadwyr Cymreig i'w ystyried gan y Cyngor Llawn (copi ynghlwm).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Martyn Holland y Rhybudd o Gynnig canlynol ar ran Grŵp y Ceidwadwyr Cymreig i’w ystyried gan y Cyngor Llawn.

 

 ‘Mae’r Cyngor hwn yn galw ar Fwrdd y Gyllideb, wrth wneud ei argymhellion i’r Cabinet a’r Cyngor ynghylch dyrannu cyfalaf yn y dyfodol, i roi ystyriaeth lawn i gynyddu dyraniad blynyddol Priffyrdd i £4m y flwyddyn o 2022/23 ymlaen.

 

Yn ychwanegol at hynny, byddem yn gofyn i’r Cyngor gefnogi, fel dyraniad cyntaf, unrhyw gyllid annisgwyl sydd heb ei ddyrannu a dderbyniwyd yn 2021/22 gyda’r bwriad o gynyddu cyllid cyfalaf Priffyrdd ar gyfer 2021/22.’

 

Rhoddodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol, wybod i’r aelodau am y broses o bennu cynlluniau cyfalaf a gwaith Bwrdd y Gyllideb.  Cadarnhaodd y Cynghorydd Thompson-Hill y byddai Bwrdd y Gyllideb yn ystyried Achos Busnes Priffyrdd, a baratowyd yn gyfochrog â gwaith yn ystyried cynigion oedd yn cystadlu yn erbyn ei gilydd.

 

O ran ail ran y Rhybudd o Gynnig, ni ddyrannwyd cyllid ymlaen llaw yn ystod y flwyddyn.

 

Cafwyd trafodaeth bellach, a chodwyd y pwyntiau canlynol:

·         Gofynnodd y Cynghorydd Paul Penlington a oedd y Cynghorydd Brian Jones, Aelod Arweiniol Gwastraff, Cludiant a'r Amgylchedd, wedi bod yn rhan o drafodaethau am gyllid gyda Llywodraeth Cymru yn gynnar yn 2020 gan fod cyllid ychwanegol ar gael ar gyfer priffyrdd, sef £65miliwn ar draws Cymru. 

Cadarnhaodd y Cynghorydd Brian Jones ei fod wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru ond nad oedd wedi derbyn unrhyw ateb.

·         Mynegodd y Cynghorydd Mabon ap Gwynfor ei bryder ynghylch materion yn ymwneud â'r gyllideb, ac eglurodd fod Grŵp Plaid Cymru wedi pleidleisio yn erbyn y gyllideb mewn cyfarfodydd blaenorol.

·         Cadarnhaodd nifer o Aelodau eu bod yn derbyn cwynion cyson ynghylch cyflwr y ffyrdd yn y sir.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Rhys Thomas y dylid cyflwyno’r Rhybudd o Gynnig i Fwrdd y Gyllideb er mwyn galluogi Aelodau i dderbyn mwy o wybodaeth ynghylch y goblygiadau ariannol mewn cyfarfod o’r Cyngor Llawn yn y dyfodol.

 

Eiliwyd cynnig y Cynghorydd Thomas gan y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies.

 

Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, AD a Democrataidd y byddai angen pleidleisio ar y diwygiad gan ei fod wedi’i gynnig a’i eilio. 

 

Cafwyd pleidlais fel a ganlyn:

 

O blaid – 12

Yn erbyn – 25

Ymatal – 3

 

Felly, trechwyd y diwygiad.

 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Graham Timms y dylid rhannu’r Rhybudd o Gynnig yn ddwy adran gan fod rhan gyntaf y Cynnig ar Agenda Bwrdd y Gyllideb ar gyfer mis Mehefin.  Roedd ail ran y Cynnig yn ddibynnol ar a fyddid yn derbyn y cyllid, a phryd.  Nododd y Cynghorydd Timms y byddai ef yn bersonol yn pleidleisio yn erbyn ail ran y Cynnig.

 

Eiliwyd cynnig y Cynghorydd Timms gan y Cynghorydd Mabon ap Gwynfor.

 

Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, AD a Democrataidd y byddai angen pleidleisio ar y diwygiad gan ei fod wedi’i gynnig a’i eilio. 

 

Cafwyd pleidlais fel a ganlyn:

 

O blaid – 20

Yn erbyn – 22

Ymatal – 0

 

Felly, trechwyd y diwygiad.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Martyn Holland y dylid derbyn y Rhybudd o Gynnig, ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Peter Scott.

 

Rhoddodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, AD a Democrataidd wybod i’r aelodau y byddid yn cynnal pleidlais ar y Rhybudd o Gynnig gwreiddiol.

 

Cafwyd pleidlais fel a ganlyn:

 

O blaid – 29

Yn erbyn – 9

Ymatal – 2

 

Felly:

 

PENDERFYNWYD pasio’r Rhybudd o Gynnig.

 

 

 

8.

DATGANIAD POLISI TÂL 2021/22 pdf eicon PDF 276 KB

Ystyried adroddiad gan y Rheolwr AD  ac Arbenigwr Tâl a Gwobrwyo (copi ynghlwm) sy’n ceisio cytundeb y Cyngor i'r newidiadau i'r Polisi Tâl ar gyfer 2021/22.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad, ac Asedau Strategol, y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Adroddiad Datganiad ar Bolisi Tâl (a ddosbarthwyd ymlaen llaw).

 

Diben yr adroddiad oedd ceisio cymeradwyaeth y Cyngor i’r Datganiad ar Bolisi Tâl a ddrafftiwyd yn unol â gofynion 38 (1) Deddf Lleoliaeth 2011 ac a oedd yn ymgorffori’r holl drefniadau tâl presennol ar gyfer y grwpiau gweithlu o fewn y Cyngor, yn cynnwys y Prif Swyddogion a'r gweithwyr ar y cyflogau isaf.

 

Mynegodd y Cynghorydd Mabon ap Gwynfor ei siom fod dau bwynt cyflog o dan y Cyflog Byw Gwirioneddol.

 

Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, AD a Democrataidd fod gwaith yn cael ei wneud ar adroddiad i’r Cyngor ynghylch y Cyflog Byw Gwirioneddol.  Roedd yr adroddiad yn y rhaglen gwaith i’r dyfodol, ond nid oedd dyddiad wedi ei gadarnhau eto. 

 

Roedd llawer o waith angen ei wneud unwaith y byddai’r holl wybodaeth ar gael, a byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor Llawn.

 

Cadarnhaodd Cyfarwyddwr Corfforaethol yr Economi a’r Parth Cyhoeddus fod disgwyl i wybodaeth am yr hawliad tâl am y flwyddyn gael ei rhyddhau ac y byddai hynny’n cael effaith ariannol ar amrywiol gyfrifiadau.

 

Ataliwyd y trafodaethau cyflog cenedlaethol yn ystod ymgyrch etholiad y Senedd, ond roeddent wedi ailddechrau ers hynny.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill fod y Cyngor Llawn yn cymeradwyo’r Polisi Tâl, ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Christine Marston.

 

Pleidleisiwyd a chytunwyd yn unfrydol i dderbyn y Polisi Tâl.

 

PENDERFYNWYD bod y Cyngor Llawn yn cytuno ag argymhelliad y Panel Tâl Uwch Arweinyddiaeth o ran newid y Polisi Tâl ar gyfer 2021/22 (copi yn Atodiad A).

 

 

9.

ADOLYGIAD BLYNYDDOL O GYDBWYSEDD GWLEIDYDDOL A PHENODI CADEIRYDDION Y PWYLLGORAU CRAFFU pdf eicon PDF 211 KB

Ystyried adroddiad gan Reolwr y Gwasanaethau Democrataidd (copi ynghlwm) yn ceisio penderfyniadau ar faterion sy’n ymwneud â’r Pwyllgor.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd, Steve Price, adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) i’r Cyngor i ystyried newidiadau o ran cydbwysedd gwleidyddol yn unol â’r gofynion statudol, a bod yn ymwybodol o sut mae trefniadau cadeirio craffu a thaliadau cydnabyddiaeth yn gweithio.

 

Byddai angen enwebu Cadeirydd o blith y grwpiau Llafur neu Blaid Cymru gan na allai’r Cadeirydd fod yn aelod o grŵp a oedd ar y Cabinet.

 

Enwebwyd y Cynghorydd Bob Murray gan y Cynghorydd Joan Butterfield, Arweinydd y Grŵp Llafur, ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Jeanette Chamberlain-Jones.

 

Ni chafwyd unrhyw enwebiadau eraill.

 

Cynhaliwyd pleidlais, ac etholwyd y Cynghorydd Bob Murray’n unfrydol i fod yn Gadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd.

 

PENDERFYNWYD bod y Cyngor yn:

·         Penodi’r Cynghorydd Bob Murray yn Gadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ar gyfer blwyddyn gyngor 2021/2022, ac yn

·         ystyried y trefniadau cydbwysedd gwleidyddol wrth ddyrannu seddi Pwyllgor.

 

 

10.

ADRODDIAD BLYNYDDOL PWYLLGORAU ARCHWILIO’R CYNGOR 2020/21 pdf eicon PDF 241 KB

Ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (copi ynghlwm) er mwyn i’r Cyngor ystyried Adroddiad Blynyddol y Pwyllgorau Craffu ar gyfer 2020/21.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Graham Timms Adroddiad Blynyddol Pwyllgorau Craffu’r Cyngor ar gyfer 2020/2021 (a gylchredwyd ymlaen llaw) ar eu gweithgareddau yn ystod 2020/2021.

 

Diben llunio’r Adroddiad Blynyddol oedd er mwyn cydymffurfio ag Adran 7.4.4 Cyfansoddiad y Cyngor oedd yn nodi bod yn rhaid i Bwyllgorau Craffu adrodd yn flynyddol i'r Cyngor Llawn am eu gwaith, a gwneud argymhellion ar gyfer eu rhaglenni gwaith at y dyfodol ac ar ddulliau gweithio diwygiedig os yw hynny’n briodol.

 

Cyflwynwyd ffurflenni ceisiadau craffu gan aelodau, swyddogion ac aelodau o’r cyhoedd, a’u rhoi i’r Grŵp Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion Craffu, sy’n defnyddio’r meini prawf i benderfynu a yw eitem yn deilwng o sylw pwyllgor craffu.

 

Roedd yr adroddiad yn amlinellu rôl bwysig y Pwyllgorau Craffu o ran cefnogi gwaith y Cyngor i gyflawni ei flaenoriaethau corfforaethol a’r Cynllun Corfforaethol, yn cynnwys monitro darpariaeth y Cynllun yn rheolaidd.

 

Hefyd yn yr adroddiad blynyddol nodwyd gwybodaeth ynghylch y grwpiau tasg a gorffen sy’n gweithredu dan nawdd Pwyllgorau Craffu’r Cyngor.

 

Roedd yr adroddiad yn cwmpasu’r cyfnod ers pandemig COVID-19.  Gan fod effeithiau’r pandemig yn treiddio i bob agwedd ar fywyd bob dydd roedd gofyn i holl raglenni gwaith y pwyllgorau craffu gael eu hadolygu i werthuso pa mor berthnasol ydynt yn Sir Ddinbych ar ôl y pandemig.

 

Diolchodd y Cynghorydd Timms a’r Aelodau eraill i’r Swyddog Craffu, Rhian Evans, am ei chefnogaeth a’i gwaith caled drwy gydol y flwyddyn.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Graham Timms y dylai'r Aelodau gymeradwyo’r adroddiad, ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Hugh Irving.

 

Cynhaliwyd pleidlais a chytunwyd yn unfrydol i gymeradwyo’r adroddiad.

 

PENDERFYNWYD bod y Cyngor yn ystyried ac yn cymeradwyo Adroddiad Blynyddol y Pwyllgorau Craffu ar gyfer 2020/2021.

 

 

11.

ADRODDIAD BLYNYDDOL Y PWYLLGOR SAFONAU pdf eicon PDF 218 KB

Ystyried adroddiad gan y Swyddog Monitro (copi ynghlwm) i gyflwyno gwaith y pwyllgor a'i ganfyddiadau a’i arsylwadau, i holl Aelodau'r Cyngor fel rhan o ymgyrch y Pwyllgor i wella safonau ymddygiad moesegol ac i gydymffurfio â Chod Ymddygiad yr Aelodau.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) gan Gary Williams, y Swyddog Monitro.

 

Roedd Ian Trigger, Cadeirydd y Pwyllgor Safonau, yn ymddiheuro na allai fod yn bresennol yn y cyfarfod.

 

Gan fod cyfarfodydd wedi eu hatal dros dro yn ystod cyfnod cynnar pandemig COVID-19, roedd yr adroddiad yn cwmpasu’r cyfnod o ddiwedd yr adroddiad blynyddol diwethaf, a gyflwynwyd ym mis Gorffennaf 2019, tan ddiwedd y flwyddyn gyngor gyfredol.  Yn ystod y cyfnod a gwmpesir gan yr adroddiad hwn, cyfarfu’r Pwyllgor ar chwe achlysur.

 

Cytunwyd y byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno bob blwyddyn i’r Cyngor Llawn er mwyn rhoi gwybod i’r aelodau am dueddiadau, materion yn ymwneud â chydymffurfio â Chod Ymddygiad yr Aelodau’n gyffredinol ar draws y sir, a gwaith y Pwyllgor yn codi safonau ymddygiad ar lefel sirol ac ar lefel Cynghorau Tref, Dinas a Chymuned.

 

Prif rôl y Pwyllgor Safonau oedd monitro cydymffurfiaeth â Chod Ymddygiad yr Aelodau.

 

Nodwyd telerau aelodau annibynnol yn yr adroddiad, a nodwyd y byddai ail dymor y Cadeirydd, Ian Trigger, yn y swydd yn dod i ben ar ddyddiad etholiadau Llywodraeth Leol yn 2022.

 

Yn ystod y flwyddyn i ddod, bydd y Pwyllgor yn ystyried gweithredu Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, sy’n cyflwyno dyletswyddau newydd ar gyfer arweinwyr grwpiau gwleidyddol i hyrwyddo a chynnal safonau uchel o ymddygiad gan aelodau eu grwpiau, ac i gydweithredu gyda’r Pwyllgor wrth gyflawni ei swyddogaethau.  Byddai Cylch Gorchwyl y Pwyllgor yn cael ei addasu er mwyn adlewyrchu’r rhwymedigaethau newydd hyn.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies y dylid derbyn yr adroddiad, ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Christine Marston.

 

Cynhaliwyd pleidlais a chytunwyd yn unfrydol y dylid cymeradwyo’r adroddiad.

 

PENDERFYNWYD bod yr aelodau’n derbyn ac yn nodi cynnwys Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau.

 

 

12.

PENODI AELODAU LLEYG Y PWYLLGOR SAFONAU pdf eicon PDF 206 KB

Ystyried adroddiad gan y Swyddog Monitro (copi ynghlwm) I ofyn am gymeradwyaeth I benodiad parhaus dau aelod lleyg (annibynnol).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad ynghylch Penodi Aelodau Lleyg i’r Pwyllgor Safonau (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) gan Gary Williams, y Swyddog Monitro.

 

Roedd angen cymeradwyaeth y Cyngor Llawn er mwyn penodi’r Aelodau Lleyg Annibynnol, Anne Mellor a Julia Hughes.

 

Mae Rheoliadau Pwyllgorau Safonau 2001, fel y’u diwygiwyd, yn llywodraethu aelodaeth a thrafodion y Pwyllgor Safonau.  Nid oes angen i’r Pwyllgor Safonau fod yn wleidyddol gytbwys.

 

Mae’n rhaid i’r Cadeirydd a’r Is-gadeirydd bob amser fod yn aelodau lleyg annibynnol.

 

Dim ond am ddau dymor y gall aelod lleyg annibynnol wasanaethu yn y swydd.  Felly, hwn fyddai tymor olaf yr aelodau lleyg yn y swydd pe baent yn cael eu hailbenodi.

 

Cynigiwyd gan y Cynghorydd Barry Mellor ac eiliwyd gan y Cynghorydd Arwel Roberts.

 

Cynhaliwyd pleidlais a chytunwyd yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD bod:

·         Anne Mellor yn cael ei hailbenodi fel aelod lleyg annibynnol o'r Pwyllgor Safonau am ail dymor a fydd yn dod i ben ar 18 Mai 2022.

·         Julia Hughes yn cael ei hailbenodi fel aelod lleyg annibynnol o'r Pwyllgor Safonau am ail dymor a fydd yn dod i ben ar 18 Mai 2022.

 

 

13.

ADOLYGIAD O RÔL Y PENNAETH GWASANAETH DROS ADDYSG A GWASANAETH PLANT pdf eicon PDF 451 KB

Ystyried adroddiad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Cymunedau (copi ynghlwm) i geisio cymeradwyaeth ar gyfer y newidiadau arfaethedig i strwythur yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth yn dilyn adolygiad o rôl Pennaeth Gwasanaeth Addysg a Phlant.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill Adolygiad o swydd Pennaeth y Gwasanaethau Addysg a Phlant (a ddosbarthwyd ymlaen llaw).

 

Gadawodd Pennaeth y Gwasanaethau Addysg a Phlant ei swydd ar 2 Awst 2020.  Ers hynny, mae trefniadau pontio wedi bod yn eu lle er mwyn i adolygiad gael ei gynnal ynghylch y trefniant mwyaf priodol o ran rheoli’r gwasanaeth yn y dyfodol.  Cwblhawyd yr adolygiad ym mis Ionawr 2021 a chytunwyd mewn egwyddor i gadw un gwasanaeth ond recriwtio dau Bennaeth Gwasanaeth, gydag un yn arbenigo ym maes Addysg a'r llall yn arbenigo mewn Gwasanaethau Plant.

 

Roedd yr adroddiad yn cynnig gwneud newidiadau i strwythur yr Uwch Dîm Rheoli.  Cyflwynwyd a thrafodwyd hyn yn yr Uwch Banel Cydnabyddiaeth Ariannol ar 22 Ebrill 2021.  Dynodwyd y ddwy swydd yn rhai SLT2 ac felly byddai’r cynnig yn cynyddu costau.  Byddai’r cynnydd cyffredinol yn y gyllideb yn oddeutu £60,000.

 

Cynigiwyd gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, ac eiliwyd gan y Cynghorydd Emrys Wynne.

 

Cynhaliwyd pleidlais a chytunwyd yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD bod y Cyngor Llawn, yn unol ag argymhelliad y Panel Uwch Reoli yn cymeradwyo lefel y gydnabyddiaeth ariannol ar gyfer y Pennaeth Addysg a Phennaeth y Gwasanaethau Plant yn unol â’r ailwerthusiad gan Grŵp Kornferry Hay.

 

 

14.

RECRIWTIO PRIF WEITHREDWR 2021 pdf eicon PDF 322 KB

Ystyried adroddiad gan Bennaeth y Gyfraith, AD a Gwasanaethau Democrataidd (copi ynghlwm) i hysbysu aelodau o’r broses recriwtio i’w gyflawni er mwyn recriwtio Prif Weithredwr newydd.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Gary Williams, Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, AD a Democrataidd, Adroddiad Recriwtio Prif Weithredwr 2021 (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) er mwyn ceisio cymeradwyaeth y Cyngor i recriwtio Prif Weithredwr a chytuno ar y dull y dylid ei fabwysiadu yn ystod y broses recriwtio.  Roedd hyn yn cynnwys y pecyn tâl a gynigir.

 

Roedd yn hanfodol cytuno ar y broses recriwtio i lenwi’r swydd hon a’i rhoi ar waith ar fyrder er mwyn sicrhau bod gan yr Awdurdod drefniadau rheoli a llywodraethu cadarn yn eu lle yn dilyn ymadawiad y Prif Weithredwr ar 7 Ebrill 2021.

 

Cyfarfu’r Uwch Banel Tâl ar 22 Ebrill 2021 i adolygu’r pecyn tâl ar gyfer y Prif Weithredwr, a daeth y panel i’r casgliad fod y pecyn tâl yn briodol.

 

Fel rhan o’r broses recriwtio, bydd Panel Penodiadau Arbennig yn cael ei sefydlu i fod yn gyfrifol am lunio rhestr fer o ymgeiswyr i gael eu cyfweld a’u hasesu drwy broses asesu a chyfweliadau.  Bydd rhestr fer o ymgeiswyr addas wedyn yn cael eu cyflwyno i’r Cyngor Llawn, a bydd pob ymgeisydd yn rhoi cyflwyniad 15 munud, a byddir yn cynnal trafodaeth 30 munud gyda phob ymgeisydd.  Bydd y Cyngor Llawn wedyn yn penderfynu pwy y dylid ei benodi.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies y dylid pleidleisio ar argymhellion 3.1 - 3.4 ar wahân, ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Gwyneth Kensler.

 

Cafwyd pleidlais fel a ganlyn:

 

O blaid – 8

Yn erbyn – 18

Ymatal - 1

 

Felly, cytunwyd y dylid pleidleisio un waith ar yr holl argymhellion.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill y dylid derbyn yr adroddiad, ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Bobby Feeley.

 

Cynhaliwyd pleidlais, ac roedd mwyafrif yr aelodau o blaid derbyn yr adroddiad, ac ataliodd un aelod ei bleidlais.

 

PENDERFYNWYD bod y Cyngor yn:

(i)            Cytuno i recriwtio Prif Weithredwr newydd

(ii)          Cytuno ar y pecyn tâl arfaethedig

(iii)         Cytuno ar y pecyn recriwtio

(iv)         Cytuno gyda’r broses recriwtio.

 

 

15.

RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL Y CYNGOR SIR pdf eicon PDF 393 KB

Ystyried Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cyngor (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd Raglen Gwaith i'r Dyfodol y Cyngor (a ddosbarthwyd ymlaen llaw).

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo a nodi Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cyngor.