Agenda and draft minutes
Lleoliad: via Zoom
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Dogfennau ychwanegol: |
|
Yr Aelodau i
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Datganodd y
Cynghorydd Meirick Lloyd Davies gysylltiad personol yn eitem 5, Cyllideb
2021/22 – Cynigion Terfynol gan ei fod ar Fwrdd yr Awdurdod Tân. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys
yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim materion
brys. Ar y pwynt hwn, ar ran y Cyngor Llawn, gwnaeth y
Cadeirydd longyfarch Ann Jones, Aelod o’r Senedd a Chyn-gynghorydd gyda Sir
Ddinbych, ar ennill OBE. Cwestiwn a
ofynnwyd gan Ceri Mair Davies ar ran Cyfeillion y Ddaear Rhuthun: “A all Cyngor Sir Ddinbych ddarparu rhestr
lawn o’r holl eiddo, tir, ystafelloedd ac asedau mae Cynghorau Sir a Thref Sir Ddinbych yn berchen arnyn nhw ac
sydd ar hyn o bryd yn cael eu tanddefnyddio neu heb eu meddiannu? A all Cyngor Sir
Ddinbych amlinellu beth yn union yw’r broses a ddefnyddir wrth Drosglwyddo
Asedau Cymunedol a beth yw’r cylch gwaith ar gyfer sefydliadau sy’n gymwys i
wneud cais? (byddem yn hapus i dderbyn copi o’r ddogfen hon ar ôl y cyfarfod os
hoffech chi ein rhoi mewn cysylltiad â’r adran a’r bobl sy’n gyfrifol am hyn)” Dyma ymateb y Cynghorydd
Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol: “Gellir darparu rhestr o
eiddo gwag yn ein portffolio eiddo a rhestr gyfredol o eiddo gwag yn y
portffolio masnachol. <0} Dywed ein Strategaeth Asedau na ddylid cadw unrhyw
adeilad nac eiddo nad oes eu hangen at ein dibenion gweithredol neu fasnachol. Adeiladau Cynghorau Tref a Chymuned – ni allwn
ddarparu’r rhain gan nad yw’r data gennym.
Mae data ar gael am asedau Cyngor Sir Ddinbych yn unig. Tanddefnyddio o ran portffolio swyddfeydd – rydym
yn ymwybodol o'r lleoliadau gwag sydd gennym ac rydym wedi bod yn gweithio gyda
phartneriaid. Mae’r GIG a’r Crwner yn
gweithio yn Neuadd y Sir ac rydym yn y broses o symud grwpiau eraill i Neuadd y
Sir hefyd. Mae’r holl adeiladau’n cael
eu tanddefnyddio ar hyn o bryd oherwydd Covid a newidiadau i batrymau gwaith
dros y 12 mis diwethaf. Bydd hyn cael ei
ailasesu pan fyddwn yn dychwelyd i ryw fath o normalrwydd. O ran y portffolio Masnachol, sy’n cynnwys pethau
fel ffermydd ac unedau diwydiannol, mae’r rhain yn cael eu rhedeg fel eiddo
masnachol sy’n creu incwm. Mae’r gyfradd
feddiannu yn uchel. Ail gwestiwn yn ymwneud â pholisïau – nid oes polisi ffurfiol wedi’i
fabwysiadu ar gyfer hyn. Ymdrinnir â nhw
fesul achos, gan gydweithio â Chynghorau Tref a Chymuned a grwpiau lleol. Fel arfer, bydd sefydliadau’n cysylltu â’r
Cyngor i brynu eiddo. Bydd yn seiliedig
ar gynllun busnes i esbonio sut defnyddir yr adeiladau, gwaith cynnal a chadw a
chostau rhedeg ac fe’u gwneir fel arfer ar drosglwyddiad hirdymor. Rydym yn mynd drwy broses gyflawn i sicrhau bod
pobl wedi gwneud cais gyda chaniatâd gwaredu’r Ddeddf Llywodraeth Leol, yn
ogystal â phroses fewnol i lunio penderfyniadau. Rhoddodd y
Cynghorydd Brian Jones, Aelod Arweiniol Gwastraff, Cludiant a’r Amgylchedd,
ddatganiad am y llifogydd diweddar fel a ganlyn: “Roedd y
llifogydd a welwyd yn dilyn storm Christophe yr wythnos diwethaf wedi achosi
llawer o ddinistr i'r rhai yr effeithiwyd arnynt a hoffem fynegi ein cydymdeimlad
â'r rhai hynny sy'n cychwyn ar y daith hir i ailadeiladu eu bywydau. Rwyf wedi ymweld â nifer o’r ardaloedd a gafodd
lifogydd a'r wythnos nesaf byddaf yn ymweld ag ardaloedd gwledig a gafodd
lifogydd. Hoffwn dalu teyrnged i staff y priffyrdd a weithiodd
oriau maith i baratoi ar gyfer y llifogydd ac, mewn rhai achosion, y cynghorwyr
a phawb arall a fu’n ymwneud â’r gwaith. Mae angen i ni edrych ar yr hyn y gallwn ei wneud
fel awdurdod lleol a’r ffordd orau i ddiogelu cymunedau wrth symud ymlaen. Yn un o gyfarfodydd y Pwyllgor Craffu yn ddiweddar, soniwyd am gael Grŵp Tasg a Gorffen i edrych ar ardaloedd llifogydd. Rydym eisoes wedi cael cytundeb y bydd Cyfoeth Naturiol Cymru a ... view the full Cofnodion text for item 3. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Cyngor Sir a gynhaliwyd ar 8 Rhagfyr 2020 (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion y Cyngor Llawn a gynhaliwyd ar 26 Ionawr 2021. CYNIGIODD y
Cynghorydd Alan James y dylid derbyn y cofnodion, EILIWYD gan Ann Davies. Cynhaliwyd
pleidlais a chytunodd mwyafrif yr Aelodau i dderbyn y cofnodion, gydag un Aelod
yn pleidleisio yn ei erbyn. PENDERFYNWYD bod cofnodion
cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 26 Ionawr 2021 yn gofnod cywir. |
|
CYLLIDEB 2021/2022 – CYNIGION TERFYNOL PDF 237 KB Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Cyllid ac Eiddo (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Ar y pwynt hwn, datganodd y Cynghorydd Meirick
Lloyd Davies gysylltiad personol gan ei fod yn aelod o Fwrdd yr Awdurdod Tân. Cyflwynodd y
Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau
Strategol, adroddiad Cyllideb 2021-22 – Cynigion Terfynol (a ddosbarthwyd
ymlaen llaw). Mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i'r Cyngor bennu cyllideb fantoledig y gellir
ei chyflawni cyn dechrau pob blwyddyn ariannol a gosod lefel Treth y Cyngor er
mwyn caniatáu i filiau gael eu hanfon at breswylwyr. Derbyniodd y Cyngor y Setliad Drafft Llywodraeth
Leol ar gyfer 2021/22 ar 21 Rhagfyr ac arweiniodd at setliad cadarnhaol o +3.6%
o’i gymharu â chyfartaledd Cymru sef 3.8%.
Disgwylir y Setliad Terfynol ar 2 Mawrth ond mae Llywodraeth Cymru wedi
nodi na fydd llawer o newidiadau o gwbl. Fel rhan o’r setliad roedd yna 'drosglwyddiadau i
mewn' o £1.280m a oedd wedi eu trosglwyddo i’r meysydd gwasanaeth perthnasol
fel yn y blynyddoedd blaenorol: ·
Grant
Cyflog Athrawon 2020/21 - £0.135m ·
Y
Rhaglen Rheoli Risgiau Arfordirol £1.145m Mae’r cynigion terfynol i gydbwyso cyllideb
2021/22 wedi eu dangos yn y Cynllun Ariannol Tymor Canolig yn Atodiad 1. Y prif
feysydd o ran twf a phwysau yw: ·
Pwysau
tâl o £0.870m ·
Chwyddiant prisiau ac ynni £250,000 ·
Ardoll y Gwasanaeth Tân o £162,000 ·
Lwfans ar gyfer cynnydd yn y Cynllun Gostyngiadau
Treth y Cyngor o £350,000. ·
Pwysau chwyddiant ysgolion yn cael eu cydnabod yn
swm o £1.205m ·
Buddsoddiad ysgolion mewn Anghenion Dysgu
Ychwanegol £1.192m ·
Buddsoddiad ysgolion yng nghynaliadwyedd ysgolion
bach £161,000 ·
Pwysau demograffig ysgolion o £718,000 ·
£2.4m i gydnabod pwysau’r galw a’r rhagolygon ym
maes Gwasanaethau Cymorth Cymunedol fel rhan o strategaeth hirdymor y cyngor i
reoli cyllidebau gofal. ·
£0.750m i gydnabod y pwysau presennol ym maes
Addysg a Gwasanaethau Plant sy’n ymwneud â Lleoliadau y Tu Allan i’r Sir ac
Adennill. ·
Mae'r pwysau o £250,000 ym maes Gwasanaethau
Gwastraff wedi ei gydnabod yn seiliedig ar amcangyfrifon o bwysau yn ystod y
flwyddyn. ·
Effaith penderfyniadau blaenorol gan y
Cyngor/Cabinet (e.e. Cynllun Llifogydd y Rhyl, Bwrdd Uchelgais Economaidd
Gogledd Cymru): £0.276m ·
Pwysau o £389,000 am fuddsoddi yn y Targed
Di-garbon sydd ei angen er mwyn cyrraedd y targed ar gyfer 2030 a gytunwyd gan
y Cyngor. ·
Buddsoddiad o £250,000 ym mhroblem y Clefyd Coed
Ynn. Byddai hyn yn gwneud taliad untro parhaol a nodwyd yng nghyllideb y llynedd. ·
Yn sgil graddfa'r pwysau, a’r ffaith nad yw effaith
Covid a Brexit wedi eu datrys, mae £683,000 o arian at raid wedi ei gynnwys. Cyfanswm y pwysau a nodwyd uchod yw £9.903m. Mae
effaith defnyddio £685,000 o arian yn 20/21 (a gafodd yr effaith o ohirio’r
angen i nodi arbedion yn unig) yn golygu bod cyfanswm y diffyg yn £10.588m.
Byddai angen setliad drafft o tua 8% er mwyn ariannu’r pwysau hyn i gyd. Mae’r
setliad net +3.6% yn cynhyrchu £5.42m o refeniw ychwanegol, gan adael bwlch
cyllido o £5.167m. Mae’r eitemau
canlynol wedi eu cynnwys yn y cynigion er mwyn cau’r bwlch hwnnw: ·
Mae
Cyllidebau Incwm Ffioedd a Thaliadau wedi bod yn destun chwyddiant yn unol â’r
polisi Ffioedd a Thaliadau a gytunwyd, sy’n gweld cynnydd o £0.462m mewn incwm allanol. ·
Mae
arbedion effeithlonrwydd gweithredol sy’n gyfanswm o £690,000 wedi eu nodi yn
bennaf gan wasanaethau drwy gydol y flwyddyn ac o fewn cyfrifoldeb a
ddirprwywyd i Benaethiaid Gwasanaeth mewn ymgynghoriad ag Aelodau Arweiniol. ·
Mae
arbedion o £0.781m hefyd wedi eu nodi sy’n newid darpariaeth gwasanaeth mewn
ryw ffordd a chawsant eu rhannu mewn manylder gyda'r Cabinet a'r Cyngor yn
sesiynau briffio mis Rhagfyr. · 1% (£0.733m) Targed effeithlonrwydd ysgolion o Gyllidebau Dirprwyedig Ysgolion. Gan fod cyllidebau ysgolion wedi eu datganoli, y cyrff llywodraethu fydd yn penderfynu sut ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
CYNLLUN GOSTYNGIADAU TRETH Y CYNGOR 2021/2022 PDF 233 KB Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Cyllid ac Eiddo (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr
Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol, y Cynghorydd Julian
Thompson-Hill, adroddiad Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor 2021/2022 (a
ddosbarthwyd ymlaen llaw). Roedd Deddf
Diwygio Lles 2012 yn cynnwys darpariaethau i ddiddymu budd-dal treth y cyngor
ar ei ffurf bresennol ar draws y DU. Ar 31 Mawrth 2013 daeth budd-dal treth y
cyngor i ben a throsglwyddwyd y cyfrifoldeb dros ddarparu cefnogaeth ar gyfer
treth y cyngor, a'r cyllid sy'n gysylltiedig â hynny, i Lywodraeth Cymru. Mae
Llywodraeth Cymru, mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol yng Nghymru, wedi
cyflwyno cynllun newydd i ddarparu cymorth treth y cyngor a fabwysiadwyd gan y
Cyngor ym mis Ionawr 2013. Roedd Llywodraeth Cymru wedi cwblhau’r ddwy set o
reoliadau ar 2 Rhagfyr 2019, ac roedd angen mabwysiadu’r Cynlluniau
Gostyngiadau Treth y Cyngor newydd a Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig (Cymru)
2013 a diwygiadau i Reoliadau 2020 erbyn 31 Ionawr 2021. Cynigiodd y
Cynghorydd Julian Thompson-Hill y dylid derbyn adroddiad Cynllun Gostyngiadau
Treth y Cyngor 2021/2022, eiliwyd gan y Cynghorydd Martyn Holland. Cynhaliwyd
pleidlais a chytunwyd yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad. PENDERFYNWYD y byddai’r Aelodau yn: ·
mabwysiadu Cynlluniau Gostyngiadau Treth y Cyngor a
Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013, a Rheoliadau Cynlluniau
Gostyngiadau Treth y Cyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Cymru)
(Diwygiad) 2021, o ran blwyddyn ariannol 2021/22. ·
cymeradwyo elfennau dewisol y cynllun, a ddangosir
yn adran 4.4, ar gyfer blwyddyn ariannol 2021/22. |
|
Ar y pwynt hwn (11.25am)
cafwyd egwyl o 20 munud. Ailddechreuodd y cyfarfod am
11.45am. |
|
CYFLOG BYW GWIRIONEDDOL PDF 237 KB Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Cyllid ac Eiddo a’r Arbenigwr Cyflog a’r Arbenigwr
Tâl a Gwobrwyon (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau
Strategol, adroddiad y Cyflog Byw Gwirioneddol (a ddosbarthwyd ymlaen llaw). Gwnaeth y Cyngor
Sir ystyried goblygiadau talu'r Cyflog Byw Gwirioneddol yn Rhagfyr 2018 yn wreiddiol
ac yna yn Ionawr 2020 yn dilyn y trafodaethau tâl cenedlaethol. Yna gofynnodd y Cyngor am adroddiad pellach
yn Ionawr 2021 i ystyried y sefyllfa bresennol ac, os oedd gwahaniaeth rhwng y
Dyfarniad Cyflog Cenedlaethol a'r Cyflog Byw Gwirioneddol, a ddylid talu’r
Cyflog Byw Gwirioneddol i’w staff yn y flwyddyn ariannol nesaf. Ceir dwy lefel o
gyflog byw. Y Cyflog Byw Cenedlaethol a osodir gan y Llywodraeth ac sy’n
ofynnol i bob cyflogwr ei dalu yn ôl y gyfraith, a’r Cyflog Byw Gwirioneddol
sy’n cael ei asesu a’i osod gan Sefydliad y Cyflog Byw Gwirioneddol ym mis
Tachwedd bob blwyddyn. Roedd y
dyfarniadau cyflog diweddar ym maes llywodraeth leol wedi ceisio sicrhau y
byddai’r graddau cyflog isaf yn cael eu talu’n uwch na chyfradd y cyflog byw
gwirioneddol. Mae cynnydd pellach yn lefel y cyflog byw gwirioneddol wedi
golygu bod Gradd 1 a phwynt isaf Gradd 2 o dan y gyfradd honno. Mae gan y
Cyngor ar hyn o bryd 725 aelod o staff sy’n derbyn cyflog is na lefel bresennol
y cyflog byw gwirioneddol. Roedd gan gyflogwyr chwe mis ar ôl y cyhoeddiad ym
mis Tachwedd i weithredu'r cynnydd yn lefel y cyflog byw gwirioneddol, a chan
ystyried sefyllfa ariannol ehangach y Cyngor yn sgil Covid, byddai’n gosod
pwysau ychwanegol pe bai’n cael ei roi ar waith eleni. Felly, nodwyd y byddai’n fanteisiol i
ddefnyddio’r cyfnod chwe mis a’i roi ar waith yn y flwyddyn ariannol nesaf, gan
ystyried y dyfarniad cyflog cenedlaethol. Yn dilyn trafodaeth fer, cynigiodd y Cynghorydd
Graham Timms argymhellion pellach fel a ganlyn: (i)
Ôl-ddyddio
swm y Cyflog Byw Gwirioneddol i Ebrill 2020 i’r rhai a fethodd yn y fargen
gyflogau ddiwethaf, ar gost o tua £17,000 y flwyddyn (ii)
Ym
mlwyddyn ariannol 2021/2022 bod Cyngor Sir Ddinbych yn talu'r Cyflog Byw
Gwirioneddol fel y’i gosodwyd ym mis Tachwedd 2020 i’r holl staff a fyddai’n is
nag ef a byddai hynny’n costio £37,500. (iii)
Cynnig
bod yr Aelod Arweiniol Cyllid yn dod ag adroddiad i'r Cyngor gyda chostau a map
cynllun o sut gallai'r Cyngor fod yn Gyflogwr Achrededig y Cyflog Byw
Gwirioneddol. Cynigiodd y Cynghorydd Graham Timms yr
argymhellion ychwanegol, eiliwyd gan y Cynghorydd Barry Mellor. Esboniodd y Rheolwr Adnoddau Dynol Strategol y
gallai’r ail argymhelliad godi problemau rhwng Graddau gan y byddai'n effeithio
ar berthynoledd cyflogau a gallai greu goblygiadau posibl o ran cyflogau
cyfartal. Byddai'n rhaid gwneud gwaith i asesu'r risg i'r Cyngor cyn cytuno ar
hyn. Cytunodd yr Aelodau fod angen i'r swyddogion
gyfrifo beth fyddai'r goblygiadau ariannol yn 2021/2022 a fyddai'n dibynnu ar
ddyfarniadau cyflog, y gellid dod i gytundeb yn eu cylch yn ystod y cyfnod
hwnnw, neu beidio. Felly, cytunwyd y dylid cynnal pleidlais ar y ddau
argymhelliad canlynol: (i)
Holl
weithwyr y cyngor i dderbyn y cyflog byw gwirioneddol ar gyfer blwyddyn
ariannol 2020/2021 a fyddai’n golygu ôl-ddyddio cyflog y rhai sydd ar bwynt 1 y
golofn gyflog sy’n derbyn £9.25 yr awr, i fyny i £9.30 yr awr, a byddai hyn yn
costio £17,500, a (ii)
Bod
yr Aelod Arweiniol yn dod ag adroddiad yn ôl i'r Cyngor gyda chostau a map
cynllun o sut gallai'r Cyngor ddod yn gyflogwr achrededig y cyflog byw
gwirioneddol. Gwnaeth y Cynghorwyr Graham Timms a Barry Mellor,
y cynigydd a’r eilydd gwreiddiol, gytuno ar hyn. Cynhaliwyd pleidlais ar y diwygiad i’r
argymhelliad a chytunwyd arno yn unfrydol. Felly, ar ôl cytuno ar y diwygiad, ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|
Cyflwynodd y
Cynghorydd Glenn Swingler y Rhybudd o Gynnig i'w ystyried gan y Cyngor Llawn
(copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd Glenn Swingler y Rhybudd o Gynnig canlynol ar ran Grŵp Plaid ar
gyfer sylw’r Cyngor Llawn: Bod Cyngor Sir Ddinbych
yn: Galw am ohirio dyddiad
y penderfyniad ar y bwriad i ailstrwythuro’r Gwasanaeth Digartrefedd a cholli 9
swydd o 1 Chwefror 2021 nes bydd un o Bwyllgorau Craffu y cyngor wedi
archwilio’r rhesymau dros y gwaith ailstrwythuro mewnol sylweddol hwn sydd wedi
ei gynnig. Yn dilyn trafodaeth,
cadarnhaodd y Cynghorydd Glenn Swingler y byddai’n
tynnu’r Rhybudd o Gynnig yn ei ôl. |
|
RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL Y CYNGOR SIR PDF 323 KB Ystyried Rhaglen
Gwaith i’r Dyfodol y Cyngor (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd
Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd raglen
gwaith i'r dyfodol y Cyngor (a ddosbarthwyd ymlaen llaw). Cyfarfodydd i’w
cadarnhau yn y dyfodol: (i)
Cyflogwr
Achrededig y Cyflog Byw Gwirioneddol (ii)
Llifogydd
– Adroddiad yr Ymchwiliad PENDERFYNWYD, yn amodol ar
yr uchod, y dylid cymeradwyo a nodi rhaglen gwaith i'r dyfodol y Cyngor. |
|
Daeth y cyfarfod i ben am 1.10pm. |