Agenda and draft minutes
Lleoliad: via WebEx
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau |
|
DATGANIADAU O FUDDIANT PDF 197 KB Yr Aelodau i
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Ni ddatganwyd
unrhyw gysylltiad. |
|
PENODI CADEIRYDD AC IS-GADEIRYDD Y CYNGOR SIR Oherwydd ymateb coronafeirws mae Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo
deddfwriaeth frys yn galluogi cynghorau i ohirio’r cyfarfod blynyddol. Mewn
cydnabyddiaeth o’r anawsterau a achoswyd gan gyfarfodydd o bell fod deddfwriaeth
frys hefyd yn caniatáu i Gynghorau ymestyn cyfnod swyddogion hyd fis Mai 2021
os bydd angen. Cynigir, gyda’u cytundeb, y dylai’r Cadeirydd a’r Is-Gadeirydd
barhau mewn swydd hyd fis Mai 2021 pan ddylai fod yn bosib cynnal cyfarfod
blynyddol gyda’r lefel o seremoni briodol. Byddai hyn yn caniatáu i’r deiliaid swydd newydd gael blwyddyn lawn mewn swydd pan obeithir
y bydd amgylchiadau yn caniatáu cynnal digwyddiadau dinesig. Cofnodion: Oherwydd yr ymateb i’r coronafeirws, pasiodd Llywodraeth Cymru
ddeddfwriaeth frys i alluogi cynghorau i ohirio’r cyfarfod blynyddol. Er mwyn
cydnabod yr anawsterau a achoswyd gan gyfarfodydd o bell, roedd y ddeddfwriaeth
frys hefyd yn caniatáu i Gynghorau ymestyn cyfnod dal swyddi tan fis Mai 2021
os dymunir. CYNIGWYD gan y Cynghorydd Gwyneth Kensler ac
EILIWYD gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill. Cymerwyd pleidlais a chytunwyd yn unfrydol i ymestyn deiliadaeth swydd Cadeirydd
ac Is-gadeirydd y Cyngor hyd fis Mai 2021. PENDERFYNWYD
ymestyn deiliadaeth swydd Cadeirydd ac Is-gadeirydd y
Cyngor hyd fis Mai 2021. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion
brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Dim eitemau brys. Cwestiwn gan y
Cynghorydd Mabon ap Gwynfor: Sut mae’r Awdurdod Lleol yn
ymateb i’r wybodaeth ddiweddaraf a dderbynnir bob dydd ynglŷn â COVID
gan y Tîm Arwain Strategol? Ymatebodd y Prif Weithredwr –
Rydym yn derbyn adroddiadau dyddiol gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ôl ardal a
chyfraddau heintio a chanran canlyniadau cadarnhaol profion. Cesglir gwybodaeth hefyd drwy’r tîm olrhain
cysylltiadau ac olrhain y cysylltiadau rheiny.
Y broblem yw fod y data yn hynod sensitif ac wedi dod gan swyddogion
gwarchod y cyhoedd ac Iechyd y Cyhoedd, ac maen nhw’n edrych ar unrhyw lefydd
gyda chyfraddau uchel a pha gamau y dylid eu cymryd. Rydym hefyd yn defnyddio mapiau
crynhoad Iechyd Cyhoeddus Cymru. Byddwn yn rhoi gwybod i aelodau
ynglŷn ag unrhyw glystyrau. Cynghorydd Mabon ap Gwynfor –
fyddwch chi’n ystyried rhyddhau unrhyw ffigurau yn lleol i ni fesul Ward? Mae llai o bobl bellach yn cadw at y rheolau
gan nad ydynt yn gweld rhesymeg yn y rheolau. Faint o ran oedd gan yr Awdurdod
Lleol yn y clo sirol? Dyna pam mae
tryloywder yn allweddol. Prif Weithredwr – nid oes
ardaloedd lleol â chyfraddau uchel ac mae’r achosion mewn ysgolion yn
dangos hynny. Bydd yn sicr o gymorth
cael mapiau crynhoad i’w rhannu. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Cyngor Sir a gynhaliwyd ar 25 Chwefror 2020 (copi ynghlwm). Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion y Cyngor Llawn a gynhaliwyd ar 25 Chwefror 2020. Materion sy’n Codi - Tudalen 13 – Eitem 7 Datganiad Strategaeth
Rheoli Trysorlys 2020/2021 a Dangosyddion Darbodus 2020/2021 - 2022/2023 –
gofynnodd y Cynghorydd Paul Penlington am restrau o’r banciau cysylltiedig. CYNIGIODD y Cynghorydd Alan James
dderbyn y cofnodion, EILWYD gan y Cynghorydd Merfyn Parry. Pleidleisiwyd a
chytunwyd yn unfrydol i dderbyn y cofnodion. PENDERFYNWYD, yn
amodol ar yr uchod, cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 25 Chwefror
2020 fel cofnod cywir. |
|
TACLO NEWID HINSAWDD AC ECOLEGOL MEWN GWNEUD PENDERFYNIAD Y CYNGOR PDF 213 KB Derbyn adroddiad
gan y Rheolwr Rhaglen Newid Hinsawdd
ar y diwygiadau arfaethedig i Gyfansoddiad y Cyngor i gefnogi'r Cyngor i ystyried mynd i'r afael
â newid yn yr hinsawdd ac ecolegol wrth wneud
penderfyniadau (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Aelod Arweiniol Gwastraff, Cludiant a'r Amgylchedd, y Cynghorydd
Brian Jones, adroddiad ar Fynd i'r Afael â Newid Hinsawdd a Newid Ecolegol Wrth
Wneud Penderfyniadau. Mae’r adroddiad yn amlinellu’r diwygiadau arfaethedig i Gyfansoddiad y
Cyngor a’r a’r prosesau a’r dogfennau ategol, ynghyd â llinell amser ar gyfer
gwneud y newidiadau hynny os caent eu cymeradwyo gan y Cyngor, gan gynnwys
cynnal Hyfforddiant Llythrennedd Carbon. Roedd y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol ac Archwilio wedi ystyried y
cynigion hyn ar 9 Medi 2020 a chytuno’n unfrydol y dylid cyflwyno'r
argymhellion i’r Cyngor eu cymeradwyo. Yn dilyn ymgynghori gyda’r Swyddog Monitro, cynigir newid Adran 13.2 o’r
Cyfansoddiad - Egwyddorion Gwneud Penderfyniadau. Cynigir ychwanegu pwynt bwled canlynol dan “Bydd holl benderfyniadau'r Cyngor yn cael
eu gwneud yn unol â'r egwyddorion canlynol": “gan ystyried trechu newid hinsawdd ac ecolegol”. Mae manylion
llawn y newid ar gael yn Atodiad C. Roedd nifer o aelodau wedi dweud y dylai’r Adran Gynllunio ystyried newid
hinsawdd a newid ecolegol wrth ystyried ceisiadau cynllunio. Eglurodd y Swyddog Monitro bod yr adroddiad
yn cyfeirio at gynnwys “ystyried” yn y cyfansoddiad ond y gall y gyfraith ddiystyru
hwnnw. Nid oes unrhyw wybodaeth wedi dod
i law gan Lywodraeth Cymru o ran canllawiau cynllunio cenedlaethol. Roedd yr aelodau yn croesawu’r adroddiad gan ddiolch i Helen Vaughan-Evans,
Rheolwr y Rhaglen Newid
Hinsawdd, a’i thîm am eu holl waith hyd yma ar y mater. Hefyd, diolchodd y Prif Weithredwr i’r staff sydd wedi gweithio ar y
prosiect. Dywedwyd wrth yr aelodau, os
caiff yr adroddiad ei gymeradwy, mai Cyngor Sir Ddinbych fyddai’r Awdurdod
Lleol cyntaf yng Nghymru i wneud hyn. Cadarnhaodd Rheolwr y Rhaglen Newid Hinsawdd y bydd yn mynd i gyfarfod
Grŵp CDLl. Dywedodd yr Arweinydd nad yw’r adroddiad yn rhoi sylw i bartneriaid gwaith
a bod cryn dipyn o waith i’w wneud eto. CYNIGIODD y Cynghorydd Brian Mellor y dylid cymeradwyo’r adroddiad ac
EILIWYD hynny gan y Cynghorydd Brian Blakeley. Cafwyd pleidlais a chytunwyd yn unfrydol i gymeradwyo’r adroddiad. PENDERFYNWYD y byddai’r Cyngor yn: (a) Cymeradwyo i newid Adran 13.2 Cyfansoddiad
y Cyngor - Egwyddorion Gwneud Penderfyniadau i gynnwys pwynt bwled ychwanegol
dan “Bydd holl benderfyniadau'r Cyngor yn
cael eu gwneud yn unol â'r egwyddorion canlynol" sef: “gan ystyried trechu newid hinsawdd ac
ecolegol”. (b) Cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac
ystyried yr Asesiad o’r Effaith ar Les
(Atodiad A o’r adroddiad) fel rhan o’i ystyriaethau. |
|
ADOLYGU PERFFORMIAD BLYNYDDOL 2019 I 2020 PDF 215 KB Ystyried adroddiad
oddi wrth y Rheolwr Tîm Cynllunio
Strategol a’r Arweinydd Tîm Cynllunio
Strategol a Pherfformiad i ddarparu gwybodaeth ynghylch cynnydd y Cyngor wrth gyflawni
canlyniadau’r Cynllun Corfforaethol fel y saif pethau ar
chwarter 4, 2019 i 2020 a chwarter
1, 2020 i 2021 (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol, y Cynghorydd Julian
Thompson-Hill yr Adroddiad Adolygu Perfformiad Blynyddol 2019 i 2020 (a
ddosbarthwyd yn flaenorol) i'w gymeradwyo yr oedd yn ofynnol i'r Cyngor ei gyhoeddi
erbyn 31 Hydref bob blwyddyn o dan Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009. Yn 2019,
cyhoeddwyd yr adroddiad ym mis Gorffennaf ac roedd yn cynnwys ein diweddariad
chwarter 4 ar y Cynllun Corfforaethol. Fodd bynnag, oherwydd yr aflonyddwch a
achoswyd gan Covid-19, cafwyd oedi gyda’r adroddiad hwn, felly mae bellach yn
cynnwys chwarter 1 lle mae’r wybodaeth ar gael, ac yn ceisio dangos yn benodol
sut mae’r cyngor wedi cynnal gwasanaethau allweddol, a mwy, er budd ein
trigolion yn ystod y pandemig. Roedd yr
Adolygiad Perfformiad Blynyddol hefyd yn cynnwys astudiaethau achos ac
enghreifftiau o gynnydd yn erbyn ein blaenoriaethau corfforaethol o bortffolio
ehangach y Cyngor. Roedd hyn yn
cydnabod bod gwasanaethau yn gwneud gwaith pwysig y tu allan i'r Cynllun
Corfforaethol sydd o fudd i drigolion. Eglurodd y
Rheolwr Tîm Cynllunio Strategol, er gwaethaf Covid-19, parhaodd y Cyngor i
wneud cynnydd da gyda’i flaenoriaethau gan nodi’r hyblygrwydd sylweddol yn y
modd roedd prosiectau a gwasanaethau wedi addasu i newid. Bu ychydig o oedi gyda rhai amserlenni, ond
ar y cyfan, roedd prosiectau ar y trywydd iawn i gyflawni manteision i
gymunedau. Arweiniodd y Cyngor drwy’r adroddiad a darparu
gwybodaeth fanwl am y cynnydd a wnaed yn erbyn pob blaenoriaeth gorfforaethol. Roedd y pum
blaenoriaeth fel a ganlyn: ·
Tai – Mae pawb yn cael eu cefnogi i fyw mewn cartrefi
sy’n bodloni eu hanghenion; ·
Clymu Cymunedau - Mae cymunedau wedi’u cysylltu ac mae ganddynt
fynediad at nwyddau a gwasanaethau lleol, ar-lein a thrwy gysylltiadau cludiant
da; ·
Cymunedau gwydn - mae’r Cyngor yn gweithio gyda phobl a
chymunedau i gynyddu annibyniaeth a chadernid; ·
Amgylchedd - mae’r amgylchedd yn ddeniadol ac wedi ei
warchod, gan gefnogi lles a ffyniant economaidd; a ·
Pobl ifanc - man lle bydd pobl iau am fyw a gweithio
ynddo, a bod ganddynt y sgiliau i wneud hynny. Wrth drafod,
codwyd y materion canlynol: ·
Isadeiledd
Digidol a phroblemau mynediad i 4G – Cadarnhaodd y Prif Weithredwr bod
problemau cysylltedd yn bodoli mewn rhai ardaloedd gwledig. Bydd Bargen Dwf
Gogledd Cymru yn edrych ar gysylltiad digidol.
Roedd Swyddog Digidol Sir Ddinbych wedi gweithio gyda chymunedau i roi
cymaint o wybodaeth â phosibl iddynt.
Roedd cysylltiad digidol yn rhan o flaenoriaethau’r Cyngor. ·
Trafodion
ar-lein – o ran y preswylwyr nad oedd â mynediad at gyfleusterau ar-lein, yn
enwedig pobl ddiamddiffyn a’r henoed, roedd llyfrgelloedd a siopau un alwad a
chanolfannau galw wedi gallu cynorthwyo’r preswylwyr hynny. ·
Ffyrdd
– Roedd Covid wedi cael effaith sylweddol ar grynodeb y sir o waith
atgyweirio. Roedd gwaith wedi gallu
ailddechrau ar atgyweirio ac roedd meysydd yn cael eu blaenoriaethu. ·
Cadarnhawyd
y penodwyd Swyddog Rhostiroedd ers tân Llantysilio ac maent yn gweithio gyda
Cyfoeth Naturiol Cymru a pherchnogion tir. ·
Gofal preswyl - codwyd cwestiynau am ba mor hir roedd
preswylwyr mewn cartrefi preswyl, ac a fu yna gynnydd mewn marwolaethau yn sgil
Covid. Cadarnhawyd
bod gofal preswyl wedi cael ei fonitro ac roedd gwybodaeth ar gael ynghylch pam
fod preswylwyr wedi eu derbyn a pham eu bod wedi gadael. Roedd rhai preswylwyr wedi marw ac roedd rhai
eraill wedi cael eu symud i gael lefel uwch o ofal. Cynigiwyd gofal amgen i nifer o
breswylwyr. Bu cynnydd mewn marwolaethau
mewn cartref ac yn y gymuned yn sgil Covid. · Cymunedau Cryf – Roedd gwirfoddolwyr yn y sir wedi bod yn gymorth mawr yn ystod pandemig Covid a chadarnhaodd swyddogion y byddant yn cysylltu â phob banc bwyd yn y sir i gael gwybod ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|
Ar y pwynt hwn (12.25 p.m.) cafwyd
egwyl o 15 munud. Ailymgynnull y cyfarfod am 12.40
p.m. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL PWYLLGORAU CRAFFU'R CYNGOR 2019/2020 PDF 231 KB Ystyried
adroddiad gan y Cydlynydd Craffu i'r Cyngor ystyried yr Adroddiad Blynyddol ar
Bwyllgorau Craffu 2019/2020 (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd Graham Timms Adroddiad Blynyddol Pwyllgorau Craffu’r Cyngor 2019/20
(a gylchredwyd ymlaen llaw) ar eu gweithgareddau yn ystod 2019/20. Ar y pwynt hwn, talodd y Cynghorydd Timms deyrnged i’r diweddar Gynghorydd
Huw Jones a oedd wedi bod yn Gadeirydd ar y Pwyllgor Craffu
Perfformiad. Roedd wedi gwneud cyfraniad enfawr, nid yn unig i’r Pwyllgor Craffu
Perfformiad ond i’r Cyngor cyfan a byddai colled fawr ar ei ôl. Roedd yr Adroddiad Blynyddol i gydymffurfio ag Adran 7.4.4 o Gyfansoddiad y
Cyngor a oedd yn nodi bod yn rhaid i Bwyllgorau Craffu adrodd yn flynyddol i'r
Cyngor Llawn am eu gwaith gydag argymhellion ar gyfer eu rhaglenni gwaith at y
dyfodol ac ar ddulliau gweithio diwygiedig os yw hynny’n briodol. Cyflwynwyd
ffurflenni ceisiadau craffu gan aelodau, swyddogion ac aelodau o’r cyhoedd, a’u
rhoi i’r Grŵp Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion Craffu sy’n defnyddio’r
meini prawf i benderfynu a yw eitem yn deilwng o sylw pwyllgor craffu. Roedd yr adroddiad yn amlinellu rôl bwysig y Pwyllgorau Craffu o ran
cefnogi gwaith y Cyngor i ddarparu ei flaenoriaethau corfforaethol a’r Cynllun
Corfforaethol, gan gynnwys monitro darpariaeth y Cynllun yn rheolaidd. Hefyd yn yr
adroddiad blynyddol nodwyd gwybodaeth ar y grwpiau tasg a gorffen/gweithgorau
sy’n gweithredu dan nawdd Pwyllgorau Craffu’r Cyngor. Dim ond unwaith
oedd Cyd-bwyllgor Trosolwg a Chraffu y BGC wedi cyfarfod yn ffurfiol ac roedd
yr ail gyfarfod wedi bod heb gworwm. Conwy oedd i Gadeirio’r Cyd-bwyllgor am
ddwy flynedd ac yna byddai’r rôl yn cael ei throsglwyddo i Sir Ddinbych. Roedd
trefnu cyfarfodydd wedi bod yn anodd. Ar y pwynt hwn, diolchodd
y Cynghorydd Jeanette Chamberlain-Jones i Is-Gadeirydd y Pwyllgor Craffu
Cymunedau, y Cynghorydd Emrys Wynne am ei waith a’i gefnogaeth. Bachodd y Cynghorydd Huw
Irving ar y cyfle i nodi mai pleser a braint oedd bod yn Is-Gadeirydd i’r
diweddar Huw Jones ar y Pwyllgor Craffu Perfformiad. Mynegodd y
Cynghorydd Timms ac Aelodau eraill eu diolch i’r Swyddog Craffu, Rhian Evans, am
ei chefnogaeth a’i gwaith campus drwy gydol y flwyddyn. CYNIGIODD y
Cynghorydd Graham Timms y dylid cymeradwyo’r adroddiad, EILIWYD hyn gan y
Cynghorydd Hugh Irving. Cafwyd pleidlais
ac fe gytunwyd yn unfrydol i gymeradwyo’r adroddiad. PENDERFYNWYD bod
y Cyngor yn ystyried ac yn nodi Adroddiad Blynyddol y Pwyllgorau Craffu ar
gyfer 2019/20. |
|
ADOLYGIAD BLYNYDDOL O GYDBWYSEDD GWLEIDYDDOL A PHENODI CADEIRYDDION Y PWYLLGORAU CRAFFU PDF 213 KB Ystyried
adroddiad gan Reolwr y Gwasanaethau Democrataidd sy’n ceisio penderfyniadau ar
faterion sy’n ymwneud â’r Pwyllgor (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod
Arweiniol ar gyfer Gwasanaethau Corfforaethol a Chyfeiriad Strategol, y
Cynghorydd Richard Mainon, yr adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) i’r
Cyngor i ystyried newidiadau mewn cydbwysedd gwleidyddol yn unol â’r gofynion
statudol a bod yn ymwybodol o sut mae trefniadau cadeirio a thaliadau
cydnabyddiaeth yn gweithio. Bydd y Pwyllgor
Gwasanaethau Democrataidd wedi ystyried adroddiad tebyg yn ei gyfarfod ar 2
Hydref a chaiff sylwadau perthnasol eu hadrodd yn ôl i'r Cyngor llawn.
Ymgynghorir â'r grwpiau gwleidyddol ar aelodaeth pwyllgorau a materion
cydbwysedd gwleidyddol pryd bynnag y bydd materion yn codi, er enghraifft i
lenwi swyddi gwag ar bwyllgorau. CYNIGIWYD gan y
Cynghorydd Richard Mainon i gymeradwyo’r adroddiad, EILIWYD gan y Cynghorydd Christine
Marston. Cynhaliwyd
pleidlais a chytunwyd yn unfrydol i gymeradwyo’r adroddiad. PENDERFYNWYD bod
y Cyngor yn: (i)
ail-benodi cadeirydd ac aelodaeth y Pwyllgor
Gwasanaethau Democrataidd ar gyfer blwyddyn 2020 / 2021 y Cyngor; (ii)
ystyried y trefniadau cydbwysedd gwleidyddol ar
gyfer dyrannu seddi pwyllgor. |
|
AMSERLEN Y PWYLLGORAU 2021 PDF 207 KB Ystyried adroddiad
gan y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd a’r Gweinyddwr Pwyllgorau i gymeradwyo’r amserlen bwyllgorau ar gyfer 2021 (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd Richard Mainon, Aelod Arweiniol dros Wasanaethau Corfforaethol a
Chyfeiriad Strategol yr adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) i alluogi
Aelodau i gymeradwyo amserlen ddrafft y Pwyllgorau ar gyfer 2021. Fel arfer byddai’r amserlen ar gyfer y flwyddyn ganlynol wedi cael ei chymeradwyo’n gynt er mwyn cadw at amserlen 18 mis. Oedwyd hyn oherwydd pandemig coronafeirws COVID-19 a arweiniodd at ohirio cyfarfodydd y Cyngor. Roedd yn
ofynnol i'r Cyngor gymeradwyo amserlen ar gyfer 2021 yn unol â phenderfyniad y
Cyngor i gynnal amserlen 18 mis er mwyn galluogi cadarnhau mannau cyfarfod ac
adnoddau, cyhoeddi’r amserlen a llenwi dyddiaduron yr Aelodau. Cafwyd
trafodaeth a mynegodd y Cynghorydd Paul Penlington ei siom i nodi nad oedd dim
cyfarfodydd min nos wedi eu trefnu.
Gofynnodd hefyd pam nad oedd cyfarfodydd wedi eu trefnu yn ystod
gwyliau’r ysgol. Eglurodd y
Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd bod arolwg wedi ei chynnal gyda’r Cynghorwyr
ar ddechrau eu tymor ac roedd y mwyafrif yn cytuno gydag amseroedd y
cyfarfodydd. Diolchodd y
Cynghorydd Mainon i Kath Jones, Gweinyddwr Pwyllgorau am baratoi’r amserlen a
chysylltu gyda swyddogion gan fod angen trefnu’n ofalus iawn. CYNIGIWYD gan y
Cynghorydd Richard Mainon i gymeradwyo’r adroddiad, EILIWYD gan y Cynghorydd
Alan James. Cynhaliwyd
pleidlais ac roedd y mwyafrif o aelodau o blaid yr adroddiad a phleidleisiodd
un aelod yn erbyn. PENDERFYNWYD bod y Cyngor yn cymeradwyo'r amserlen bwyllgorau ddrafft ar gyfer 2021. |
|
Y Cyngor I ystyried
Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Huw
Hilditch-Roberts (copi ynghlwm). Cofnodion: Rhybudd o Gynnig a
gyflwynodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts i'w ystyried gan y Cyngor Llawn: ‘Bod y
Cyngor hwn yn cefnogi’r ddeiseb ganlynol wedi’i rhoi ar y wefan deisebau
seneddol: Ar gyfer y flwyddyn gyntaf mae’n rhaid i yrwyr
ifanc fod wedi gosod blwch du yn eu car cyn y gallan nhw yrru. Ar ben hynny,
dim ond un teithiwr y dylen nhw gario, a rhaid i’r unigolyn hynny fod yn yrrwr
profiadol. Byddai’r newidiadau hyn yn lleihau’r cyfanswm o farwolaethau mewn
damweiniau ffordd yn sylweddol ac yn annog pobl i yrru’n fwy diogel.’ Mynegodd pob aelod eu
cefnogaeth i'r Rhybudd o Gynnig. Cynhaliwyd pleidlais a
chytunwyd yn unfrydol i gymeradwyo'r Rhybudd o Gynnig. PENDERFYNWYD bod y Cyngor hwn yn cefnogi’r ddeiseb ganlynol wedi’i
rhoi ar y wefan deisebau seneddol: Ar gyfer y flwyddyn gyntaf mae’n rhaid i yrwyr ifanc fod wedi gosod blwch
du yn eu car cyn y gallan nhw yrru. Ar ben hynny, dim ond un teithiwr y dylen
nhw gario, a rhaid i’r unigolyn hynny fod yn yrrwr profiadol. Byddai’r
newidiadau hyn yn lleihau’r cyfanswm o farwolaethau mewn damweiniau ffordd yn
sylweddol ac yn annog pobl i yrru’n fwy diogel. |
|
Y Cyngor I ystyried
Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Joe Welch (copi ynghlwm). Cofnodion: Rhybudd o Gynnig a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Paul
Penlington i'w ystyried gan y Cyngor Llawn: “Yn unol ag ymrwymiad yr awdurdod i amddiffyn
ein hamgylchedd naturiol, o heddiw ymlaen, bydd holl ddatblygiadau adeiladu
cynghorau yn ymgorffori priffyrdd draenogod ac yn sicrhau eu bod yn cael eu
gwarchod. I'w gyflawni drwy; ddefnyddio
gwrychoedd brodorol yn unig fel ffiniau lle bynnag y bo hynny'n ymarferol, a
defnyddio planhigion brodorol mewn unrhyw dirlunio. Bydd unrhyw ffiniau waliau
solet neu ffensys angenrheidiol yn ymgorffori twneli draenogod ar lefel y
ddaear. Yn ogystal, bydd yr awdurdod yn annog
datblygwyr preifat i fabwysiadu'r un arfer.” Yn dilyn trafodaethau, cytunwyd i gyfeirio'r Rhybudd o Gynnig at CCA. Cynhaliwyd pleidlais a chytunwyd yn unfrydol i gyfeirio'r Rhybudd o Gynnig
at CCA. PENDERFYNWYD bod
y Cyngor llawn yn cefnogi'r Rhybudd o Gynnig i'w gyflwyno i'r Grŵp
Canllawiau Cynllunio Atodol. |
|
Y Cyngor I ystyried Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Paul Penlington (copi ynghlwm). Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd Mark Young yr Hysbysiad o Gynnig canlynol ar ran y Grŵp
Annibynnol i'w ystyried gan y Cyngor Llawn: Bod Cyngor Sir
Ddinbych yn: (i)
cydnabod ymdrechion y cyngor i leihau allyriadau
nwyon tŷ gwydr a hyrwyddo ynni adnewyddadwy; (ii)
cydnabod hefyd: ·
bod y
costau rhedeg a sefydlu ariannol sylweddol sydd ynghlwm â gwerthu trydan
adnewyddadwy a gynhyrchir yn lleol i gwsmeriaid lleol yn golygu ei fod yn
amhosibl i gynhyrchwyr trydan adnewyddadwy lleol wneud hynny, ·
y
byddai gwneud y costau ariannol hyn yn gymesur â graddfa gweithrediad y
cyflenwr trydan adnewyddadwy yn galluogi ac yn annog busnesau lleol newydd, neu
gynghorau, i ddarparu trydan adnewyddadwy a gynhyrchir yn lleol yn uniongyrchol
i gwsmeriaid lleol, ac ·
y
gellir defnyddio’r refeniw a dderbynnir gan ddarparwyr trydan adnewyddadwy
lleol newydd i wella’r economi, gwasanaethau a chyfleusterau lleol yn ogystal â
lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr lleol; (iii)
yn unol â hyn, penderfynu cefnogi'r Ddeddf
Drydan Lleol, a gefnogir gan 187 o Aelodau Seneddol, a fyddai, os caiff ei
wneud yn gyfraith, yn sefydlu Hawl i Gyflenwad Lleol a fyddai'n hyrwyddo
cwmnïau a chydweithrediadau cyflenwi trydan adnewyddadwy lleol drwy wneud y
costau rhedeg a sefydlu sydd ynghlwm â gwerthu trydan adnewyddadwy i gwsmeriaid
lleol yn gymesur â maint gweithrediad y cyflenwad; a (iv)
phenderfynu hefyd i: ·
roi
gwybod i’r cyfryngau lleol am y penderfyniad hwn, ·
ysgrifennu at Aelodau Seneddol lleol yn gofyn
iddynt gefnogi'r Ddeddf, ac ·
ysgrifennu at drefnwyr yr ymgyrch am y Ddeddf, Power for People, (8
Delancey Passage, Camden, London NW1 7NN neu info@powerforpeole.org.uk) yn mynegi ei gefnogaeth. Cynhaliwyd pleidlais
a chytunwyd yn unfrydol i gymeradwyo'r Rhybudd o Gynnig. PENDERFYNWYD
bod y Cyngor llawn yn cefnogi'r Rhybudd o Gynnig - (i)
cydnabod ymdrechion y cyngor i leihau
allyriadau nwyon tŷ gwydr a hyrwyddo ynni adnewyddadwy; (ii)
cydnabod hefyd: ·
bod y
costau rhedeg a sefydlu ariannol sylweddol sydd ynghlwm â gwerthu trydan
adnewyddadwy a gynhyrchir yn lleol i gwsmeriaid lleol yn golygu ei fod yn
amhosibl i gynhyrchwyr trydan adnewyddadwy lleol wneud hynny, ·
y
byddai gwneud y costau ariannol hyn yn gymesur â graddfa gweithrediad y
cyflenwr trydan adnewyddadwy yn galluogi ac yn annog busnesau lleol newydd, neu
gynghorau, i ddarparu trydan adnewyddadwy a gynhyrchir yn lleol yn uniongyrchol
i gwsmeriaid lleol, ac ·
y
gellir defnyddio’r refeniw a dderbynnir gan ddarparwyr trydan adnewyddadwy
lleol newydd i wella’r economi, gwasanaethau a chyfleusterau lleol yn ogystal â
lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr lleol; (iii)
yn unol â hyn, penderfynu cefnogi'r Ddeddf
Drydan Lleol, a gefnogir gan 187 o Aelodau Seneddol, a fyddai, os caiff ei
wneud yn gyfraith, yn sefydlu Hawl i Gyflenwad Lleol a fyddai'n hyrwyddo
cwmnïau a chydweithrediadau cyflenwi trydan adnewyddadwy lleol drwy wneud y
costau rhedeg a sefydlu sydd ynghlwm â gwerthu trydan adnewyddadwy i gwsmeriaid
lleol yn gymesur â maint gweithrediad y cyflenwad; a (iv)
phenderfynu hefyd i: ·
roi
gwybod i’r cyfryngau lleol am y penderfyniad hwn, ·
ysgrifennu at Aelodau Seneddol lleol yn gofyn
iddynt gefnogi'r Ddeddf, ac ·
ysgrifennu at drefnwyr yr ymgyrch am y Ddeddf, Power for People, (8 Delancey
Passage, Camden, London NW1 7NN neu info@powerforpeole.org.uk) yn mynegi ei gefnogaeth. |
|
RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL Y CYNGOR SIR PDF 378 KB Ystried Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cyngor (copi ynghlwm). Cofnodion: Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, AD a Democrataidd Raglen
Waith Ymlaen y Cyngor (a gylchredwyd yn flaenorol). PENDERFYNWYD
y dylid cymeradwyo a nodi Rhaglen Ymlaen y Cyngor. |
|
Daeth y Cyfarfod i ben
am 1.50 p.m. |