Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: SIAMBR Y CYNGOR, NEUADD Y SIR, RHUTHUN LL15 1YN

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

2.

DATGANIADAU O FUDDIANT

Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Glenn Swingler fudd personol yn Eitem 5.

 

Datganodd y Cynghorwyr Cheryl Williams, Ellie Chard, Martyn Holland, Julian Thompson-Hill fuddiannau personol yn Eitem 8 gan eu bod yn aelodau ar y Cydbwyllgor Ymgynghorol Lleol a’r Pwyllgor Iechyd a Diogelwch Corfforaethol. Yn y man hwn, cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd nad oedd angen iddynt ddatgan fudd personol gan fod y Cydbwyllgor Ymgynghorol Lleol yn Bwyllgor o’r Cyngor ac, felly, nid oedd ganddynt fudd i’w ddatgan.

 

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim materion brys.

 

 

Yn y man hwn, rhoddwyd gwybod i’r Aelodau y byddai dau gwestiwn yn cael eu rhoi gerbron fel a ganlyn:

 

(i)            Anfonodd Miss Talulah Thomas o Langollen y cwestiwn canlynol i mewn ond nid oedd hi’n gallu mynychu mewn person. Aeth Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd ymlaen i ddarllen y cwestiwn ar ran Miss Thomas yn ei habsenoldeb:

 

“A wnaiff deilydd perthnasol y portffolio esbonio pa gamau y mae’r Cyngor yn eu cymryd i sicrhau bod y disgyblion yn ysgolion y sir yn derbyn y gofal iechyd meddwl angenrheidiol, a pha gamau sy’n cael eu cymryd i ddynodi unrhyw anhwylderau iechyd meddwl yn ddigon cynnar?”

 

Ymateb yr Aelod Arweiniol dros Addysg, Plant a Phobl Ifanc, y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts:

 

“Saif cyfrifoldeb yr Awdurdod Lleol ar iechyd meddwl gyda CAMHS (Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed). Fodd bynnag, fel Awdurdod, rydym yn cefnogi’r gwaith hwn, gan weithio ochr yn ochr â nhw gyda’n pobl ifanc mewn ysgolion. 

 

Sut ydym yn gwneud hyn? Rydym yn defnyddio PASS (agwedd disgyblion tuag at eu hunain a’r ysgol) i werthuso hunan-barch ac iechyd emosiynol y disgyblion yn yr ysgol a pha gyfleoedd sydd i’r ysgol ymyrryd os oes unrhyw faterion ar y cam hwnnw. Yn ogystal, fel awdurdod, rydym yn darparu hyfforddiant ELSA (Cynorthwyydd Cymorth Emosiynol a Llythrennedd) i gynorthwywyr addysgu mewn ysgolion i gyflawni ymyriadau iechyd emosiynol ar ddisgyblion unigol a grwpiau o ddisgyblion y dynodwyd bod angen y cymorth hwn arnynt. 

 

Gweithia’r Awdurdod gyda CAMHS i hwyluso hyfforddiant i ysgolion, cynnal ymyriadau ar gyfer pethau fel profedigaeth a cholled a “meddwl yn dda, teimlo’n dda” sy’n ymyriad ymddygiadol ar lefel ysgol.

 

Mae’r Awdurdod yn darparu mynediad i’r gwasanaeth seicoleg addysg. Yn ogystal, cynigia’r Awdurdod gwnsela yn yr ysgol yn ein hysgolion uwchradd ac i oedran blwyddyn 6. Mae’r Awdurdod yn darparu gwasanaeth therapiwtig i ddisgyblion. 

 

Gweithia’r Awdurdod yn helaeth gyda CAMHS ar y llwybr atal hunan-anafu  a hunanladdiad i hyfforddi grwpiau a staff ym mhob lleoliad uwchradd. Mae’r hyfforddiant yn darparu protocol clir ar gyfer y staff ysgol hyfforddedig i gysylltu â CAMHS i bob disgybl unigol y dynodir eu bod yn hunan-anafu neu’n hunanleiddiol i risg penodol ac i greu cynlluniau diogelwch a phenderfynu ar y dull o ymyrryd gyda CAMHS.

 

Mae swm aruthrol o waith yn cael ei wneud yn hyn o beth ac rydym yn cydnabod pa mor bwysig yw hi ac rydym yn sicrhau ein bod ni’n rhoi’r plentyn flaenaf bob amser. Os hoffai Ms Thomas ragor o wybodaeth, byddai’r swyddogion a minnau’n hapus i gyfarfod â hi.”

 

 

(ii)          Cododd y Cynghorydd Graham Timms y cwestiwn canlynol:

 

“Allwch chi ddiweddaru’r aelodau ynghylch bwriadau’r Cyngor ar gyfer Band B Ysgolion yr 21ain Ganrif y mae disgwyl iddo ddechrau ym mis Ebrill 2019 o ran ei amserlen a’i gwmpas?”

 

Ymateb yr Aelod Arweiniol dros Addysg, Plant a Phobl Ifanc, y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts:

 

“Bydd Band B -  rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif yn rhedeg am 7 mlynedd o 2019. Yn 2017, cymeradwyodd y Cabinet gyflwyniad Band B i Lywodraeth Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddynt ym mis Tachwedd 2017. Cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg yn Llywodraeth Cymru ym mis Tachwedd, ddiwygiadau i’r gyfundrefn gyllido sy’n cynyddu canran y cyfraniad gan Lywodraeth Cymru, fodd bynnag, bydd y cyfraniad yn parhau’r un fath. Golyga hyn fod rhaglen Sir Ddinbych yn debygol o gael gwerth cyffredinol is na’r rhaglen yn ôl yn 2017. Gofynnwyd i swyddogion ailastudio lle gallai’r gwaith cwmpas gwreiddiol a wnaed gennym gael ei adolygu. 

 

Gwaith dichonoldeb sy’n mynd rhagddo ar hyn o bryd ar astudio adeiladau ysgolion yn ardal Dinbych a’r sector cynradd yn  ...  view the full Cofnodion text for item 3.

4.

DYDDIADUR Y CADEIRYDD pdf eicon PDF 241 KB

Nodi ymrwymiadau dinesig a ymgymerwyd gan Gadeirydd y Cyngor (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dosbarthwyd rhestr o’r ymrwymiadau dinesig a gyflawnwyd gan y Cadeirydd a’r Is-gadeirydd am y cyfnod 25 Ionawr 2019 i 15 Mawrth 2019 cyn y cyfarfod.

 

Tynnodd y Cadeirydd sylw at dri digwyddiad:

(i)            Cinio Elusennol y Cadeirydd

(ii)          Noson Ragarddangos yn Amgueddfa Corwen, ac

(iii)         Agoriad Gwesty Travelodge Glan Môr y Rhyl.

 

Ymddiheurodd yr Is-gadeirydd oherwydd na fynychodd Gyngerdd Elusennol Maer Rhuddlan ar 9 Chwefror 2019 oherwydd salwch.

 

PENDERFYNWYD derbyn rhestr yr ymrwymiadau dinesig a ymgymerwyd gan y Cadeirydd a’r Is-gadeirydd.

 

 

 

5.

COFNODION pdf eicon PDF 355 KB

Derbyn cofnodion cyfarfodydd y Cyngor Sir a gynhaliwyd ar:

 

(i)            29 Ionawr 2019 (copi ynghlwm);

(ii)          19 Chwefror 2019 (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y Cyngor Llawn a gynhaliwyd ar 29 Ionawr 2019 ac 19 Chwefror 2019.

 

Cywirdeb:

 

Datganodd y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies y dylai ddarllen “Awdurdod Tân” ac nid “Bwrdd yr Awdurdod Tân” ar dudalen 12 (Eitem 8).

 

Datganodd y Cynghorydd Davies hefyd fod anghysondeb rhwng fersiwn Cymraeg a Saesneg y cofnodion. Ar dudalen 11, roedd pwynt bwled y fersiwn Saesneg yn dweud “Schools to find 2% cuts was raised....”. Nid oedd y paragraff wedi’i gyfieithu’n llawn yn y fersiwn Gymraeg.

 

Roedd anghysondeb hefyd ar dudalen 10 gan fod pwynt bwled y fersiwn Saesneg “Schools savings of 2% (£1.3 million) yn gywir ond roedd yn datgan (£13miliwn) yn y Gymraeg  a oedd yn anghywir.

 

Materion yn Codi:

 

 

Tudalen 9 (Eitem 6) – Holodd y Cynghorydd Mabon ap Gwynfor ynghylch a fyddai unrhyw gyllid ychwanegol ar gael gan Lywodraeth Cymru? Holodd hefyd petai gan rai adrannau tanwariant, a fyddai’r arian hynny’n cael ei gario ymlaen?

 

Cadarnhaodd yr Aelod Arweiniol dros Gyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol, y Cynghorydd Julian Thompson-Hill y byddai’r papur Alldro Refeniw blynyddol yn cael ei gyflwyno yn y Cabinet ym mis Mehefin 2019 ac y byddai’n delio ag unrhyw danwariant mewn gwasanaethau yn ystod y flwyddyn ariannol hon. Cadarnhaodd hefyd nad oedd unrhyw gyllid ychwanegol sylweddol wedi dod i law.

 

Ar hyn o bryd, datganodd yr Aelod Arweiniol ar gyfer Priffyrdd, Cynllunio a Theithio Cynaliadwy, y Cynghorydd Brian Jones, eu bod wedi gwneud cais am gyllid ychwanegol o fewn ei bortffolio ond iddynt fod yn aflwyddiannus yn y cais.

 

Tudalen 10 – y Cynghorydd Rhys Thomas – ychwanegu £100miliwn i’r gwasanaethau atal digartrefedd – faint ohono fydd yn cael ei glustnodi i Sir Ddinbych? Datganodd y byddai ymateb ysgrifenedig yn iawn.

 

Cadarnhaodd yr Aelod Arweiniol Lles ac Annibyniaeth fod y £100miliwn i Gymru gyfan ac y byddai Sir Ddinbych yn cael dyraniad pro rata trwy’r Grŵp Cefnogi Pobl.

 

Datganodd y Cynghorydd Glenn Swingler fudd personol gan ei fod yn llywodraethwr ysgol.

Tudalen 11 (Eitem 6) – Mynegodd y Cynghorydd Glenn Swingler bryder mewn perthynas â’r toriad o 2% yr oedd disgwyl i ysgolion ei ganfod. Esboniodd y trafferthion y byddai’r ysgolion yn eu cael yn gwneud yr arbediad hwn. Mynegodd ofid hefyd am safon yr addysg i blant petai toriadau pellach yn parhau i gael eu gwneud.

 

Ymatebodd yr Aelod Arweiniol dros Addysg, Plant a Phobl Ifanc yn ystod y blynyddoedd diwethaf fod addysg wedi’i gwarchod, er gwaetha’r toriadau gan Lywodraeth Cymru. Cynhaliwyd cyfathrebiadau gyda Chadeiryddion y Llywodraethwyr a’r Penaethiaid oedd wedi ymroi i ganfod yr arbedion o 2%. Rhoddwyd sicrwydd na fyddai’r toriadau’n andwyol i addysg plant.

 

Tudalen 12 (Eitem 7) – Datganodd y Cynghorydd Rhys Thomas i ddata gael ei ddarparu iddo mewn perthynas ag ymadawyr gofal oedd yn atebol i dalu’r dreth gyngor. Roedd pump ymadawr gofal, dau ohonynt yn byw yn Sir Ddinbych. Gofynnodd y Cynghorydd Thomas a gafwyd unrhyw symudiadau ar raddfa genedlaethol i sicrhau bod ymadawyr gofal yn cael eu heithrio rhag talu’r dreth gyngor. Cadarnhaodd y byddai ymateb ysgrifenedig yn ddigonol.

 

Tudalen 13 (Eitem 9) – Cododd y Cyngorydd Gwyneth Kensler mater effaith botensial Brexit ar economi leol Sir Ddinbych oherwydd y materion yn San Steffan ar hyn o bryd.

 

Rhoddodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts wybod i’r Cyngor y byddai cyllid mewn perthynas ag urddas adeg mislif yn cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru, ond ni wyddai ar hyn o bryd faint o ddyraniad fyddai ar gael i Sir Ddinbych.

 

Tudalen 17 (Etiem 3) – Mynegodd y Cynghorydd Mabon ap Gwynfor ei ddiolchgarwch i Aelod Arweiniol Priffyrdd, Cynllunio a Theithio Cynaliadwy, y Cynghorydd Brian Jones, am anfon ymateb ysgrifenedig at  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

TREFNIADAU AR GYFER ETHOL CADEIRYDD AC IS-GADEIRYDD pdf eicon PDF 271 KB

Ystyried adroddiad gan Bennaeth y Gyfraith, AD a’r Gwasanaethau Democrataidd (copi ynghlwm) sy’n argymell bod y Cyngor yn cytuno i’r Cadeirydd a’r Is-Gadeirydd arfaethedig ar gyfer blwyddyn y cyngor 2019/2020 gael eu hethol yn ffurfiol yng nghyfarfod blynyddol y Cyngor ar 14 Mai 2018.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd yr adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn ceisio cytundeb i Gadeirydd ac Is-gadeirydd arfaethedig y Cyngor Sir ar gyfer blwyddyn 2019/2020 y Cyngor gael eu hethol  yn ffurfiol yng nghyfarfod blynyddol y Cyngor ar 14 Mai 2019.

 

Cadarnhawyd y byddai’r Is-gadeirydd cyfredol, y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies, yn dod yn Gadeirydd ar gyfer blwyddyn 2019/2020 y Cyngor a bydd etholiad ffurfiol y Cadeirydd yn digwydd yn y Cyngor Blynyddol i’w gynnal ar 14 Mai 2019.

 

Ethol Is-gadeirydd:

 

Cynigiodd y Cynghorydd Rhys Thomas y Cynghorydd Arwel Roberts, a eiliwyd gan y Cynghorydd David Williams, i fod yn Is-gadeirydd ar gyfer blwyddyn 2019/2020 y Cyngor.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Joan Butterfield y Cynghorydd Alan James, a eiliwyd gan y Cynghorydd Huw Williams, i fod yn Is-gadeirydd ar gyfer blwyddyn 2019/2020 y Cyngor.

 

Cynhaliwyd ail bleidlais ar gyfer yr Is-gadeirydd arfaethedig.

 

11 pleidlais i’r Cynghorydd Arwel Roberts

28 pleidlais i’r Cynghorydd Alan James

 

Enwebwyd y Cynghorydd Alan James fel yr Is-gadeirydd ar gyfer blwyddyn 2019/2020 y Cyngor.

 

Diolchodd y Cynghorydd James i’r Aelodau am eu cefnogaeth a chafodd ei longyfarch ar ei enwebiad.

 

PENDERFYNWYD bod y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies yn cael ei gynnig yn Gadeirydd a’r Cynghorydd Alan James yn cael ei gynnig yn Is-gadeirydd y Cyngor Sir ar gyfer blwyddyn 2019/2020 y Cyngor a fyddai’n cael eu hethol yn ffurfiol yng nghyfarfod blynyddol y Cyngor ar 14 Mai 2019.

 

 

 

7.

ADOLYGIAD BLYNYDDOL O GYDBWYSEDD GWLEIDYDDOL A PHENODI CADEIRYDDION Y PWYLLGORAU CRAFFU pdf eicon PDF 281 KB

Ystyried adroddiad gan Reolwr y Gwasanaethau Democrataidd (copi ynghlwm) sy’n ceisio penderfyniadau ar faterion sy’n ymwneud â’r Pwyllgor.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol dros Safonau Corfforaethol, y Cynghorydd Mark Young, yr adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) i’r Cyngor ystyried newidiadau mewn cydbwysedd gwleidyddol yn unol â’r gofynion statudol a bod yn ymwybodol o’r ffordd mae trefniadau cadeirio a thâl Craffu’n gweithio.

 

Roedd disgwyl i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd gyfarfod y diwrnod canlynol (29 Mawrth) a chafodd aelodaeth o’r pwyllgor hwnnw ei chynnwys yn Atodiad 2 yr adroddiad.

 

Roedd disgwyl i Adroddiad Blynyddol y Panel Taliadau Annibynnol ar gyflogau’r aelodau ar gyfer 2019/2020 gael ei drafod yng nghyfarfod y Gwasanaethau Democrataidd.

 

Cytunwyd y byddai Arweinwyr y Grwpiau’n cysylltu â’u haelodau ac yna’n cyfarfod gyda Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd gyda’u dewisiadau.

 

PENDERFYNWYD bod:

(i)            Y Cyngor yn ailbenodi’r Cadeirydd ac aelodau’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ar gyfer blwyddyn 2019/2020 y Cyngor fel y gosodwyd yn Atodiad 2 yn amodol ar unrhyw newidiadau a wnaed gan y grwpiau gwleidyddol trwy ymgynghori â’r Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd, a bod

(ii)          Y Cyngor yn nodi’r trefniadau cydbwysedd gwleidyddol er mwyn dyrannu seddau’r pwyllgor.

 

 

8.

CYDBWYLLGOR YMGYNGHORI AR IECHYD A DIOGELWCH A CHYSYLLTIADAU GWEITHWYR pdf eicon PDF 198 KB

Ystyried adroddiad gan Reolwr y Gwasanaethau Democrataidd (copi ynghlwm) sy’n ceisio cymeradwyaeth i sefydlu Pwyllgor newydd a chymeradwyo ei gylch gorchwyl.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol ar gyfer Safonau Corfforaethol, y Cynghorydd Mark Young, yr adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) i ofyn am gymeradwyaeth y Cyngor i greu un pwyllgor ar gyfer Adnoddau Dynol a materion iechyd, diogelwch a lles corfforaethol. Enw arfaethedig y pwyllgor newydd oedd y Cydbwyllgor Ymgynghorol ar gyfer Iechyd a Diogelwch a Chysylltiadau Gweithwyr.

 

Ar hyn o bryd, roedd dau bwyllgor – y Cydbwyllgor Ymgynghorol Lleol a’r Pwyllgor Iechyd, Diogelwch a Lles Corfforaethol. Cafwyd anawsterau parhaus wrth gyflawni cworwm mewn cyfarfodydd gyda llawer yn cael eu cynnal yn anffurfiol yn sgil diffyg cworwm neu oherwydd eu bod wedi’u canslo.

 

Trafodwyd y cynnig i uno’r pwyllgorau ymgynghorol staff presennol ac fe’u cymeradwywyd yn unfrydol mewn cyfarfodydd y Cydbwyllgor Ymgynghorol Lleol a’r Pwyllgor Iechyd, Diogelwch a Lles Corfforaethol ac mewn cyfarfod Adnoddau Dynol ar y Cyd Corfforaethol/Undeb Llafur.

 

Yn y man hwn, diolchodd yr Aelod Arweiniol i’r staff a’r undebau llafur gan fod cryn dipyn o waith wedi mynd i uno’r ddau bwyllgor.

 

PENDERFYNWYD bod y Cyngor yn cymeradwyo:

(i)            Sefydlu’r Cydbwyllgor Ymgynghorol ar gyfer Iechyd a Diogelwch a Chysylltiadau Gweithwyr;

(ii)          Terfynu’r Cydbwyllgor Ymgynghorol Lleol a’r Pwyllgor Iechyd, Diogelwch a Lles Corfforaethol presennol; a’r

(iii)         Cylch gorchwyl ar gyfer y Cydbwyllgor Ymgynghorol ar gyfer Iechyd a Diogelwch a Chysylltiadau Gweithwyr.

 

 

 

9.

CYFLEUSTER GWAREDU DAEAREGOL - PAPUR YMGYNGHORI AR Y GWERTHUSIAD SAFLE pdf eicon PDF 286 KB

Ystyried adroddiad gan Bennaeth y Gyfraith, AD a’r Gwasanaethau Democrataidd (copi ynghlwm) sy’n ceisio barn yr Aelodau am y materion a godwyd yn y papur ymgynghori cyhoeddus.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol ar gyfer Rheoleiddio Tai a’r Amgylchedd, y Cynghorydd Tony Thomas, yr adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) i geisio safbwyntiau’r Aelodau ar y materion a godwyd gan bapur ymgynghori’r cyhoedd er mwyn gellir drafftio ymateb iddo ar ran y Cyngor.

 

Ym mis Mai 2015, yn dilyn adolygiad polisi ac ymgynghoriad cyhoeddus, mabwysiadodd Llywodraeth Cymru bolisi’n cefnogi gwaredu daearegol ar gyfer rheolaeth tymor hir gwastraff ymbelydrol gweithgarwch uwch. Mae gwaredu daearegol yn golygu gosod gwastraff ymbelydrol yn ddwfn o dan y ddaear i sicrhau bod deunyddiau peryglus yn cael eu cadw i ffwrdd wrth bobl a’r amgylchedd trwy ynysu a chynnwys y gwastraff mewn amgylchedd daearegol addas am yr amser angenrheidiol i’r ymbelydredd sy’n gysylltiedig â nhw ostwng yn naturiol.

 

Ar ôl mabwysiadu gwaredu daearegol, ymunodd Llywodraeth Cymru â rhaglen, a ariennir gan Lywodraeth y DU, i geisio cael un cyfleuster gwaredu daearegol ar gyfer gwastraff ymbelydrol gweithgarwch uwch gan Gymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Byddai’r rhaglen yn cael ei chyflawni gan Radioactive Waste Management Ltd (RWM), sef is-gwmni’r Awdurdod Datgomisiynu Niwclear.

 

Polisi Llywodraeth Cymru oedd y gellid ond mynd ar drywydd cyfleuster gwaredu daearegol petai cymuned yn fodlon ei gynnal.

Yn dilyn ymgymgynhoriad pellach ym mis Ionawr 2019, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddatganiad polisi’n gosod yr amlinelliad bras o’r trefniadau ar gyfer gweithio gyda darpar gymunedau cynnal yng Nghymru. Darparodd y polisi ar gyfer Cyllid Buddsoddi Cymunedol. Ar ôl i Bartneriaeth Gymunedol gael ei ffurfio, byddai’n gallu gwneud cais am Gyllid Buddsoddi Cymunedol a fyddai i fyny at £1miliwn y flwyddyn yn ystod rhan gyntaf y broses leoli, gan godi i £2.5 miliwn y flwyddyn mewn ardaloedd sy’n symud i ymchwiliadau manylach fel tyllau turio dwfn i asesu addasrwydd daearegol safle. Gallai’r broses werthuso gymryd hyd at 20 mlynedd, gyda’r cam cyntaf yn cymryd 5 mlynedd a’r ymchwiliadau manylach hyd at 15 mlynedd.

 

Yn ystod y trafodaethau, siaradodd nifer o aelodau yn erbyn ystyried unrhyw gyfleuster o’r fath a’r consensws barn oedd nad oedd cefnogaeth i gael y fath gyfleuster yn Sir Ddinbych.

 

Awgrymwyd, yn ogystal ag anfon ymateb gan Sir Ddinbych yn unig, efallai y gallai ymateb rhanbarthol gael ei goladu a’i anfon. Cadarnhawyd y byddai Awdurdodau Lleol eraill yn cael eu cysylltu â nhw mewn perthynas ag ymateb rhanbarthol ond roedd angen rhoi’r ymateb erbyn 12 Ebrill 2019. 

 

Cadarnhawyd nad oedd unrhyw sylwadau ar y broses ac na fyddai’r Cyngor yn fodlon ymgysylltu yn yr ymgynghoriad o ran sut i werthuso safleoedd.

 

PENDERFYNWYD bod y Cyngor yn ystyried ac yn rhoi sylwadau ar gynnwys y papur ymgynghori oedd yn dwyn y teitl “Gwerthusiad Safle – Sut byddwn yn gwerthuso safleoedd yng Nghymru” ac awdurdodi’r Aelod Arweiniol i gymeradwyo, trwy ymgynghori ag Arweinwyr Grŵp, ymateb ar ran y Cyngor.

 

 

 

10.

CYFLOG UWCH SWYDDOGION pdf eicon PDF 226 KB

Ystyried adroddiad gan y Rheolwr Adnoddau Dynol (copi ynghlwm) i gael cymeradwyaeth i newid tâl Pennaeth Gwasanaethau Priffyrdd a’r Amgylchedd o SLT1 i SLT2.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol dros Gyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol, y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, yr adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) i’r Cyngor gymeradwyo’r newid yng nghyflog y Pennaeth Gwasanaethau Priffyrdd ac Amgylcheddol o SLT1 i SLT2.

 

Cafodd cyflog swydd y Pennaeth Priffyrdd ac Amgylchedd ei ailwerthuso gan KornFerry Hay Group. Hay oedd y cynllun gwerthuso swyddi yr oedd y Cyngor wedi’i fabwysiadu i werthuso swydd pob uwch swyddog.

 

Adolygwyd y wybodaeth gan KornFerry Hay Group ac fe werthuswyd cyfanswm maint y swydd fel 904.  Yr ystod pwyntiau ar gyfer SLT2 oedd 801-1100.  Cyflwynwyd y canlyniad i Banel Cyflog SLT oedd yn cytuno â’r canlyniad fel y manwylwyd yn y cofnodion dyddiedig 26 Medi 2018. 

 

Wedyn, cyflwynwyd y cynnig i Banel Adolygu Annibynnol Cymru i’w ystyried. Atebodd y Panel gan ddatgan eu bod yn hapus â’r wybodaeth a’r dystiolaeth a ddarparwyd.

 

Yn dilyn trafodaeth gryno:

 

PENDERFYNWYD bod y Cyngor Llawn yn cymeradwyo’r newid i lefel cyflog y Pennaeth Gwasanaethau Priffyrdd ac Amgylcheddol o SLT1 i SLT2 yn unol ag ailwerthusiad KornFerry Hay Group.

 

 

 

11.

ADOLYGIAD O'R POLISI TÂL BLYNYDDOL pdf eicon PDF 489 KB

Ystyried adroddiad gan yr Arbenigwr AD – Tâl a Gwobrwyo (copi ynghlwm) sy’n ceisio cytundeb y Cyngor i'r newidiadau i'r Polisi Tâl ar gyfer 2019/20.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol dros Gyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol, y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, yr adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) i geisio cymeradwyaeth y Cyngor o’r newidiadau i Bolisi Tâl 2019/2020 a ddrafftiwyd yn unol â gofynion 38 (1) Deddf Lleoliaeth 2011 ac a ymgorfforodd yr holl drefniadau tâl presennol ar gyfer grwpiau’r gweithlu yn y Cyngor, gan gynnwys Prif Swyddogion a’r gweithwyr isaf o ran cyflog.

 

PENDERFYNWYD bod y Cyngor Llawn yn cytuno’r newidiadau i’r Polisi Tâl ar gyfer 2019/2020.

 

 

 

12.

RHYBUDD O GYNNIG

Rhybudd o Gynnig a gyflwynodd y Cynghorydd Rhys Thomas i'w ystyried gan y Cyngor Llawn:

 

“Mae’r Cyngor hwn yn galw am gefnogaeth ariannol ychwanegol i dargedu ymyrraeth gynnar all rwystro teuluoedd rhag digartrefedd fel opsiwn amgen i’r gwariant uchel sydd ei angen i ddarparu llety dros dro i deuluoedd sydd eisoes yn ddigartref. 

 

Dyfeisio strategaeth a’i chyflwyno i’r Cyngor o fewn 3 mis er mwyn cyflawni’r nod hwn”.

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn y man hwn, datganodd y Cynghorydd Rhys Thomas, y byddai’n tynnu’r Rhybudd o Gynnig a roddwyd gerbron y Cyngor Llawn yn ôl.

 

Cymerodd y cyfle i ddiolch i’r Adran Tai a’r Tîm Digartrefedd am yr holl waith caled a wnaed ganddynt.

 

 

 

13.

RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL Y CYNGOR SIR pdf eicon PDF 329 KB

Ystyried Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cyngor (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd Raglen Gwaith i’r Dyfodol y Cyngor (a ddosbarthwyd yn flaenorol)

 

Canslwyd y cyfarfod oedd i ddigwydd ar 9 Ebrill i ystyried yr CDLl.

 

14 Mai 2019 – Cyngor Blynyddol:

 

·         Cytundeb Llywodraethu 2 Cais Twf y Gogledd – nid yw’n barod felly bydd yn cael ei roi gerbron mewn cyfarfod i’r dyfodol.

 

·         Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau – i’w gohirio tan cyfarfod mis Gorffennaf.

 

·         Bydd yr CDLl yn cael ei gyflwyno yn dilyn y seremoni Ddinesig.

 

·         ADM Hamdden – posibl symud hwn i gyfarfod ar wahân oherwydd na fyddai’r Aelod Arweiniol, y Cynghorydd Bobby Feeley yn gallu mynychu’r Cyngor Blynyddol ar y dyddiad hwnnw oherwydd ei fod i ffwrdd ar wyliau.

 

 

PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, i gymeradwyo a nodi Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cyngor.

 

 

 

 

Clôdd y cyfarfod am 11.55 a.m.