Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun LL15 1YN

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

2.

DATGAN CYSYLLTIAD

Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Tony Flynn gysylltiad personol yn Eitem 6, Cynllun Amddiffyn Arfordir Dwyrain y Rhyl, gan ei fod yn berchen ar 2 eiddo masnachol a 3 eiddo preswyl yng nghanol Y Rhyl.

 

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim materion brys.

 

Ar y pwynt hwn, dywedwyd wrth Aelodau y byddai cwestiwn yn cael ei gyflwyno fel a ganlyn:-

 

Gofynnodd y Cynghorydd Mabon ap Gwynfor y cwestiwn canlynol:

 

 “Mae tri Chyngor Sir yng Nghymru yn bwriadu dad-fuddsoddi (gwaredu) eu cynlluniau pensiwn o gwmnïau yn gysylltiedig â thanwyddau ffosil. Fel rhan o gynlluniau’r Cyngor a Chymru i fynd i’r afael â newid hinsawdd, pa gynlluniau sydd gan y Cabinet i Gynllun Pensiynau Clwyd ddad-fuddsoddi o gwmnïau yn gysylltiedig â thanwyddau ffosil”?

 

Dyma ymateb y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol:

 

 “Byddai Cyngor Sir Ddinbych, fel corff ar ei ben ei hun, yn rhy fach i gynnal ei gynllun pensiwn ei hun. Felly, rydym yn aelod o Gronfa Bensiynau Clwyd, sydd hefyd yn cynnwys Wrecsam, Sir y Fflint (sy’n gweinyddu’r cynllun) a nifer o Gynghorau Tref a Chymuned llai ynghyd â rhai cyrff gweinyddol eraill. Felly, rydym yn rhan o’r Pwyllgor, fodd bynnag, fe allwn ddylanwadu ar gyfeiriad y Pwyllgor.

 

Mae gennym aelod ar y Pwyllgor sydd yn goruchwylio’r gronfa bensiynau, y Cynghorydd Huw Jones, sydd yn wael ar hyn o bryd, ond rwy'n ymwybodol ei fod yn chwarae rhan weithredol yn y Pwyllgor.

 

Mae gan Gronfa Bensiynau Clwyd strategaeth fuddsoddi sydd yn nodi, yn amodol ar y ddyletswydd sydd ganddi i sicrhau bod rhwymedigaethau pensiynwyr y presennol a’r dyfodol yn cael eu cwrdd, y bydd yn gwneud buddsoddiadau dewisol mewn meysydd amgylcheddol, megis technoleg ac ynni glân, isadeiledd amgylcheddol, coedwigaeth a phethau eraill o’r fath.

 

Caiff y Polisi ei adolygu yn barhaus ac mae’n destun adolygiad strwythur ar hyn o bryd ac mae Ymgynghorwyr Buddsoddi'r Gronfa yn ystyried sut y gallant gynnwys risgiau newid hinsawdd o fewn y strategaeth ddiwygiedig a chyflawni’r hyn sydd angen ei wneud o ran dyletswydd i bensiynwyr.

 

Ar hyn o bryd, mae oddeutu 1.2% o’r gronfa wedi’i buddsoddi mewn tanwyddau ffosil, sydd yn elfen gymharol fychan o’r buddsoddiadau ar y cyfan. Nid yw hyn yn rhywbeth y gallwn ei reoli’n uniongyrchol gan nad yw o fewn ein cylch gwaith, ond byddwn yn parhau i ddylanwadu ar hynny drwy'r strwythur rheoli sydd ar waith.

 

Maent yn mynychu’r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yn lled-reolaidd, felly fe allwn fynd i’r afael â’r mater drwy’r broses honno.

 

Dyna’r sefyllfa gyfreithiol ond y cam cyntaf yw mynd i’r afael â’r ddyletswydd cynhyrchydd i gwrdd â’n rhwymedigaethau i bensiynwyr y presennol a’r dyfodol”.

 

 

 

4.

DYDDIADUR Y CADEIRYDD pdf eicon PDF 116 KB

Nodi ymrwymiadau dinesig a ymgymerwyd gan Gadeirydd y Cyngor (copi ynghlwm).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd rhestr o ddigwyddiadau dinesig a fynychwyd gan y Cadeirydd a’r Is-Gadeirydd ar gyfer y cyfnod rhwng 6 Mehefin 2019 a 17 Awst 2019 wedi’i dosbarthu cyn y cyfarfod.

 

PENDERFYNWYD derbyn y rhestr o ddigwyddiadau dinesig y bu i’r Cadeirydd a'r Is-Gadeirydd eu mynychu.

 

 

5.

COFNODION pdf eicon PDF 337 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Cyngor Sir a gynhaliwyd 2 Gorffennaf 2019 (copi ynghlwm).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cyngor Llawn a gynhaliwyd ar 2 Gorffennaf 2019.

 

Materion yn Codi:

 

Tudalen 8 (eitem 6 (i)) – Mynegodd y Cynghorydd Mabon ap Gwynfor ei siom nad oedd mwy o gymorth ar gael i Gynghorau Cymuned bychain.

 

Tudalen 9 – eitem 6 (ii)) – Cwestiynodd y Cynghorydd Glenn Swingler y diweddariad a roddwyd ar gynnydd yr ail fand o Raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif.

 

Eglurodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts y sefyllfa a bod ymarfer cwmpasu yn mynd rhagddo ond bod rhaid ei gyflwyno i Bwyllgorau amrywiol cyn ei gyflwyno i'r Cyngor Llawn.

 

Tudalen 10 – Rhybudd o Gynnig – Gofynnodd y Cynghorydd Graham Timms am y wybodaeth ddiweddaraf.

 

Cadarnhaodd Pennaeth y Gyfraith, AD a Gwasanaethau Democrataidd bod y grwpiau gwleidyddol wedi cytuno ar aelodaeth y Gweithgor. Roedd dyddiad posibl ar gyfer y cyfarfod cychwynnol, sef 19 Medi 2019, ond byddai’n cysylltu â phob aelod o’r Grŵp cyn y dyddiad hwnnw i gadarnhau.

 

Mynegodd y Cynghorydd Brian Jones ei siom bod un o’r Aelodau a gyflwynodd y Rhybudd o Gynnig wedi gwrthod ei sedd ar y Gweithgor.

 

Tudalen 16 – (eitem 12) – Dywedodd Pennaeth y Gyfraith, AD a Gwasanaethau Democrataidd wrth y Cyngor Llawn nad oedd Cadeirydd nac ychwaith Is-Gadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol ar gael i gyflwyno’r adroddiad, ac felly byddai’n cael ei ohirio tan gyfarfod y Cyngor Llawn ar 15 Hydref 2019.

 

Tudalen 17 (eitem 14) – Cododd y Cynghorydd Rhys Thomas y mater o Weithredu Model Darparu Amgen ar gyfer swyddogaethau a gweithgareddau amrywiol yn gysylltiedig â hamdden yn cael ei symud ar y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol o’r cyfarfod ym mis Medi i’r cyfarfod ar 15 Hydref.

 

Eglurodd Pennaeth y Gyfraith, AD a Gwasanaethau Democrataidd ei fod yn fater dilyniannu a bod rhaid cyflwyno’r eitem yng nghyfarfod y Cabinet ar 24 Medi ac yna yng nghyfarfod y Cyngor Llawn ym mis Hydref.

 

PENDERFYNWYD yn amodol ar yr uchod, cadarnhau cofnodion y cyfarfod Cyngor Llawn a gynhaliwyd ar 2 Gorffennaf 2019 fel cofnod cywir a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi.

 

 

 

6.

CYNLLUN AMDDIFFYN ARFORDIR DWYRAIN Y RHYL pdf eicon PDF 334 KB

Ystyried adroddiad gan y Peiriannydd Risg Llifogydd (copi ynghlwm) ar y cynigion am gynllun amddiffyn arfordir yn nwyrain y Rhyl.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod Arweiniol Gwastraff, Cludiant a’r Amgylchedd adroddiad Cynllun Amddiffyn Arfordir Dwyrain Y Rhyl (a ddosbarthwyd yn flaenorol) i hysbysu’r aelodau am gynllun amddiffyn arfordir arfaethedig yn Nwyrain Y Rhyl a fyddai’n darparu safon briodol o amddiffyniad llifogydd i oddeutu 1,650 eiddo.

 

Nodwyd bod y tebygolrwydd o lifogydd difrifol yn fwy acíwt yn Nwyrain y Rhyl nag unrhyw leoliad arall yn Sir Ddinbych. Dangosodd ymchwiliad i lifogydd 2013 y gallai eiddo ddioddef llifogydd yn ystod digwyddiad 1 mewn 20 mlynedd.

 

Cynllun Amddiffyn Arfordir Dwyrain y Rhyl oedd y cynllun amddiffyn arfordir â’r flaenoriaeth uchaf ar gyfer y Cyngor.  Roedd cost y prosiect wedi’i amcangyfrif yn £27.5 miliwn.

 

Roedd y cynllun i fod i gan ei ariannu yn defnyddio model Menter Benthyca Llywodraeth Leol.  Y gyfradd grant ar gyfer gwaith amddiffyn yr arfordir oedd 75%, felly, byddai’r prosiect yn cael ei ariannu’n llwyr gan y Cyngor, gyda 75% o’r costau yn cael eu had-dalu gan Lywodraeth Cymru dros gyfnod o 25 mlynedd drwy’r Grant Cynnal Refeniw.  Oherwydd maint y cynllun, mae’n debyg y byddai’n rhaid i’r Cyngor fenthyg y mwyafrif o’r arian, er bod £2m o arian cyffredinol wedi’i glustnodi ar gyfer y cynllun.

 

Ni fyddai Llywodraeth Cymru yn ystyried ceisiadau am fwy o grant lle’r oedd costau wedi cynyddu uwchlaw'r swm a gymeradwywyd gan y grant. Er mwyn cyflawni sicrwydd cost digonol ar gyfer cynllun Dwyrain y Rhyl, penderfynwyd caffael camau dylunio ac adeiladu'r cynllun gan ddefnyddio Fframwaith Caffael y Sector Cyhoeddus Scape. Ym mis Awst 2016 gwnaed cytundeb cyflawni gyda'r Partner Fframwaith, Balfour Beatty. O ganlyniad i'r cysylltiad cynnar hwn gan y contractwr, roedd hyder y gellid cyflawni'r cynllun hyd at ei gwblhau o fewn yr amcangyfrif cost cyfredol. 

 

Roedd Fframwaith Scape yn cefnogi defnydd cadwyni cyflenwi lleol.  Rheolwyd hyn trwy “Siarter Cadwyn Gyflenwi” a'i hasesu yn erbyn Dangosyddion Perfformiad Allweddol.  Er enghraifft, dylai o leiaf 40% o wariant y prosiect fod o fewn radiws o 20 milltir a 75% o fewn radiws o 40 milltir.  Roedd Balfour Beatty wedi ymgysylltu'n helaeth ag is-gontractwyr a chyflenwyr lleol, gan ddim ond edrych ymhellach i ffwrdd pan nad oedd adnoddau ar gael yn lleol neu pan nad oeddent yn gallu darparu gwerth am arian.

 

Roedd y cynllun wedi cael ei ystyried yn flaenorol a’i gefnogi gan y Tîm Gweithredol Corfforaethol, y Grŵp Buddsoddi Strategol a’r Cabinet ac fe gynhaliwyd sesiynau galw heibio cyhoeddus ym mis Hydref a mis Tachwedd 2018.

 

Y risg fwyaf sylweddol oedd gysylltiedig â'r prosiect oedd bod telerau benthyciad Llywodraeth Cymru yn arwain at faich refeniw hirdymor (25 mlynedd) i'r Cyngor.

 

Roedd y cynllun arfaethedig yn cynnwys gosod 128,000 tunnell o feini o flaen yr amddiffynfeydd môr presennol, yn ogystal ag amddiffynfa fôr newydd 600m o hyd ger y wal a'r promenâd. Byddai tri phwynt mynediad gwell at y traeth hefyd yn cael eu darparu.   Cynigiwyd y byddai’r gwaith adeiladu yn dechrau ym mis Ebrill 2020 ac yn dod i ben ym mis Rhagfyr 2022.

 

Cafwyd trafodaeth fanwl a chodwyd y pwyntiau canlynol:

·         Mynegwyd pryderon o ran hyd y benthyciad a’r cynnydd posibl i gyfraddau llog. 

Cadarnhawyd y byddai’r gyfradd llog ar y benthyciad yn sefydlog am y cyfnod o 25 mlynedd.

·         Codwyd y risg o’r prosiect yn mynd dros y gyllideb. 

Cadarnhawyd bod llawer iawn o waith wedi cael ei wneud gyda’r contractwr ers dechrau’r trafodaethau ar y prosiect er mwyn ceisio lleihau gorwariant ond ni fyddent byth yn gallu dileu'r risg ariannol. Byddai Bwrdd Prosiect yn cael ei sefydlu i oruchwylio’r cynllun a monitro gwariant. Ar y pwynt hwn, gofynnodd y Cynghorydd Joan Butterfield fod y Cynghorydd Barry Mellor yn cael bod yn aelod o’r  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

ADRODDIAD BLYNYDDOL Y PWYLLGOR LLYWODRAETHU CORFFORAETHOL pdf eicon PDF 244 KB

Ystyried adroddiad gan Bennaeth y Gyfraith, Adnoddau Dynol a’r Gwasanaethau Democrataidd (copi ynghlwm) am waith y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol ar gyfer blwyddyn y cyngor 2018/2019.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gan nad oedd y Cadeirydd nac ychwaith yr Is-Gadeirydd yn gallu mynychu cyfarfod y Cyngor Llawn, cytunwyd i ohirio Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol tan gyfarfod y Cyngor ar 15 Hydref 2019.

 

PENDERFYNWYD bod Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yn cael ei ohirio tan 15 Hydref 2019.

 

 

8.

RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL Y CYNGOR SIR pdf eicon PDF 411 KB

Ystyried Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cyngor (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gyfraith, AD a Gwasanaethau Democrataidd Raglen Gwaith i'r Dyfodol y Cyngor ynghyd â Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol Briffio'r Cyngor (a ddosbarthwyd yn flaenorol).

 

Cadarnhawyd y byddai cyfarfod y Cyngor Arbennig yn cael ei gynnal ar 19 Medi 2019, er mwyn penodi Pennaeth Cyllid newydd.

 

15 Hydref, 2019 – Ychwanegu Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol wedi iddo gael ei ohirio yn y cyfarfod heddiw.

 

PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, y dylid cymeradwyo a nodi Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cyngor  a Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol Briffio'r Cyngor.

 

 

 

 

 

Daeth y cyfarfod i ben am 12.05 p.m.