Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun LL15 1YN

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

2.

DATGAN CYSYLLTIAD pdf eicon PDF 194 KB

Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy’n rhagfarnu yn y busnes a nodwyd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Gwyneth Kensler gysylltiad personol gydag Eitem 7 gan ei bod yn aelod o Greenpeace a Chyfeillion y Ddaear ers 40 o flynyddoedd.

 

Datganodd y Cynghorydd Gwyneth Kensler  gysylltiad personol ag Eitem 9 hefyd  gan ei bod yn ysgrifenyddes i Theatr Twm o’r Nant oherwydd roedd y theatr wedi derbyn cefnogaeth gan hamdden ar gyfer y cynllun ‘Night Out – Noson Allan’ a chymorth gan dîm technegol Theatr y Pafiliwn. Yn ogystal, roedd ei gŵr yn aelod o un o ganolfannau hamdden y Cyngor.

 

Datganodd y Cynghorydd Emrys Wynne gysylltiad personol gydag eitem 9. Mae’n aelod o Gorff Llywodraethu Ysgol Brynhyfryd ac mae’n defnyddio'r cyfleusterau yng Nghanolfan Hamdden Rhuthun yn ystod oriau'r ysgol.

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim materion brys.

 

 

4.

DYDDIADUR Y CADEIRYDD pdf eicon PDF 251 KB

Nodi ymrwymiadau dinesig a ymgymerwyd gan Gadeirydd y Cyngor (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd rhestr o ddigwyddiadau dinesig a fynychwyd gan y Cadeirydd a’r Is-Gadeirydd ar gyfer y cyfnod rhwng 22 Mawrth 2019 a 25 Mai 2019 wedi’i dosbarthu cyn y cyfarfod.

 

PENDERFYNWYD derbyn y rhestr o ymrwymiadau dinesig a fynychwyd gan y Cadeirydd a'r Is-gadeirydd.

 

 

5.

COFNODION pdf eicon PDF 232 KB

Derbyn cofnodion:

 

(i) Cyfarfod Blynyddol y Cyngor a gynhaliwyd ar y 14eg Mai 2019 (copi ynghlwm), a

(ii) Cyfarfod arbenning y Cyngor a gynhaliwyd ar y 30ain Mai 2019 (copi ynghlwm)

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cyngor Blynyddol a gynhaliwyd ar 14 Mai 2019.

 

Materion yn Codi:

 

Tudalen 12 (Eitem 7) – Holodd y Cynghorydd Mabon ap Gwynfor am y sefyllfa bresennol ynglŷn â’r CDLl yn dilyn ailstrwythuro’r Cabinet.

 

Cadarnhaodd yr Arweinydd, y Cynghorydd Hugh Evans bod trafodaethau ar y gweill o ran pwy ddylai fod yn aelodau o’r Grŵp Cynllunio Strategol.

 

PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, cadarnhau cofnodion cyfarfod y Cyngor Blynyddol a gynhaliwyd ar 14 Mai 2019 fel cofnod cywir a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi.

 

 

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cyngor Arbennig a gynhaliwyd ar 30 Mai 2019.

 

Materion yn Codi:

 

Tudalen 17 (Eitem 4) – Holodd y Cynghorydd Gwyneth Kensler a oedd yn ofynnol ailstrwythuro’r staff sy’n parhau i weithio gyda’r Cyngor.

 

Cadarnhaodd y Prif Weithredwr ei bod yn ofynnol gan y byddai newid yn y rheolwyr ar gyfer y staff sy’n parhau i weithio ar gyfer y cyngor.

 

PENDERFYNWYD yn amodol ar yr uchod, cadarnhau cofnodion cyfarfod y Cyngor Arbennig a gynhaliwyd ar 30 Mai 2019 fel cofnod cywir a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi.

 

 

6.

CWESTIWN GAN Y CYHOEDD

Mae Ms Gwyneth Ellis, Cynwyd, wedi cyflwyno’r cwestiwn canlynol:

 

“A yw’r Cyngor yn cydnabod y Siarter rhwng cynghorau dinas, tref a chymuned Sir Ddinbych a Chyngor Sir Ddinbych, ac yn  ymdrechu i gydweithio gyda’r cynghorau lleol yn unol â’r Siarter hwnnw?”

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ar y pwynt hwn, dywedwyd wrth yr Aelodau y byddai tri chwestiwn yn cael eu cyflwyno fel a ganlyn:

 

(i)            Cyflwynodd Ms Gwyneth Ellis o Gynwyd y cwestiwn canlynol:

 

“A yw’r Cyngor yn cydnabod y Siarter rhwng Cynghorau Dinas, Tref a Chymuned Sir Ddinbych a Chyngor Sir Ddinbych ac yn ymdrechu i gydweithredu gyda'r cynghorau lleol yn unol â'r Siarter honno?"

 

Ymateb gan Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau, y Cynghorydd Tony Thomas:

 

“Rwyf wedi cysylltu'r wythnos ddiwethaf gyda'r aelod lleol ar gyfer Cynwyd ac rwy’n aros am ateb ond byddaf yn cysylltu â Chyngor Cymuned Cynwyd cyn gynted ag y byddaf wedi derbyn ateb.”

 

Yna, gofynnodd Ms Ellis gwestiwn atodol:

 

“Roeddwn i, fel Is-gadeirydd Cyngor Cymuned Cynwyd, wedi anfon e-bost at y Cynghorydd Richard Mainon, gan mai ei bortffolio ef ydoedd ar y pryd, ond nid oeddwn wedi derbyn ymateb.   Yn yr e-bost roeddwn yn gofyn am gefnogaeth gan y Cyngor Sir, oherwydd nad ydym ni fel Cyngor Cymuned, wedi llwyddo i gyflogi Clerc newydd.   Rydym wedi bod yn ceisio gwneud ers tair blynedd yn awr ac nid oes unrhyw un yn dangos diddordeb yn y rôl.   Mae’n ei gwneud bron yn amhosibl i ni weithredu’n effeithiol.

 

Hoffwn ofyn i’r Cyngor, yn y Siarter, mae paragraff 6.1 yn nodi bod y Cyngor Cymuned yn dibynnu ar gefnogaeth broffesiynol gan eraill yn benodol, rydym yn dibynnu ar waith Clerc proffesiynol a rhywun i ofalu am ein gwefan.

 

 Hoffwn ofyn yn unol â 6.1.2 y Siarter, a fyddai’r Cyngor Sir yn darparu cefnogaeth ymarferol i ni, i benodi Clerc newydd, a nes y byddwn yn penodi Clerc newydd eu bod yn sicrhau bod y cyfrifon yn cael eu cadw'n gywir a'n cynghori ar faterion cyfreithiol a gweithdrefnol, i gymryd cofnodion a gosod rhaglenni a chyhoeddi'r cofnodion hynny i'r mannau priodol gan gynnwys ar y we ac i gynnal y wefan.

 

Ymatebodd y Cynghorydd Thomas i'r cwestiwn atodol fel a ganlyn:

 

“Byddaf yn cysylltu â’r Prif Swyddog ynglŷn â hyn ac yn ymateb i chi’n fuan”.

 

 

(ii)          Cyflwynodd y Cynghorydd Rhys Thomas y cwestiwn canlynol ar ran y Cynghorydd Glenn Swingler a oedd yn methu â bod yn y cyfarfod:

 

“A oes modd i’r Aelod Arweiniol ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf o ran cynnydd ar ail fand rhaglen ysgolion y 21ain ganrif? Ar pa gam y gallwn ddisgwyl amlinelliad manwl o'r ysgolion newydd neu adnewyddu ysgolion".

 

Ymateb gan y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, Aelod Cabinet Arweiniol Addysg, Gwasanaethau Plant ac Ymgysylltu â’r Cyhoedd:

 

“Fe gyfeiriaf yn ôl at yr hyn a ddywedais ym mis Mawrth 2019. Bydd gan y Cyngor Llawn gynigion cwmpas a fydd yn cael eu cyflawni a'u cyflwyno ym mis Medi 2019. Rydym yn parhau i fod ar y trywydd cywir i gyflawni hynny.   Bydd yn cael ei rannu gyda’r Cyngor yn gyntaf cyn i ni ymgynghori gyda’r ysgolion unigol yr effeithir arnynt yn yr ardal benodol”.

 

 

(iii)         Cododd y Cynghorydd Rhys Thomas y cwestiwn canlynol:

 

“Cyhoeddodd Llywodraeth Cynulliad Cymru ei gyllideb atodol ar 18 Mehefin 2019. Mae’n ymddangos y bydd oddeutu £20 miliwn o arian newydd ar gael i awdurdodau lleol Cymru.   Bydd y gyllideb yn cael ei thrafod gan Gynulliad Cymru ar 9 Gorffennaf 2019. A oes modd i chi ddweud wrthym a oes gan Sir Ddinbych gynlluniau yn eu lle o ran sut y byddem yn defnyddio ein cyfran o'r arian ychwanegol a pha wasanaethau'r cyngor sy'n debygol o elwa o hynny?"

 

Dyma ymateb y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol:

 

“er eglurder, roedd y cyhoeddiad ar 18 Mehefin 2019 yn gyllid cyfalaf ychwanegol o £85 miliwn ar draws Cymru.  Roedd yr £85 miliwn  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

RHYBUDD O GYNNIG pdf eicon PDF 218 KB

Rhybudd o Gynnig a gyflwynodd y Cynghorwyr Graham Timms, Mabon ap Gwynfor a Joseph Welch i'w ystyried gan y Cyngor (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ar y pwynt hwn, datganodd y Cynghorydd Gwyneth Kensler gysylltiad personol gan ei bod yn aelod o Greenpeace a Chyfeillion y Ddaear ers 40 o flynyddoedd.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Graham Timms y Rhybudd o Gynnig canlynol ar ei ran ei hun, y Cynghorydd Mabon ap Gwynfor a’r Cynghorydd Joe Welch i'w ystyried gan y Cyngor Llawn:

 

“Rydym yn wynebu Argyfwng Hinsawdd ac Ecolegol.  

 

Y gred ar draws y byd yw bod newid hinsawdd yn achosi perygl sylweddol i’n hiechyd, economi a’r amgylchedd ac yn bygwth lles cenedlaethau’r dyfodol.

 

Mae tystiolaeth wyddonol yn nodi'n glir fod gennym lai na 11 mlynedd i atal newid hinsawdd trychinebus.  At hynny, eleni mae gennym y dystiolaeth amlycaf erioed fod colled bioamrywiaeth yn cynyddu a bod hyn yn bygwth systemau cynnal bywyd y blaned yr ydym oll yn dibynnu arnynt.

 

Mae natur yn dirywio’n ddifrifol, mae ein bioamrywiaeth a’n pridd yn dirywio neu’n cael eu diraddio.   Rydym yn cynnal ein bywydau ein hunain, tra’n lleihau gallu cenedlaethau’r dyfodol i gynnal eu bywydau hefyd.   Nid yw hyn yn etifeddiaeth ddigonol i'w adael ar gyfer ein plant a’n wyrion a wyresau.

 

Mae dyfodol dynol ryw yn dibynnu ar arweinwyr dewr a mentrus heddiw i wneud y newidiadau gofynnol i ddiogelu’r amgylchedd, ar gyfer ein dyfodol ni a chenedlaethau sydd i ddod.

 

Bod Cyngor Sir Ddinbych yn:

 

·         Datgan argyfwng hinsawdd ac ecolegol ar unwaith

·         Ymrwymo i sicrhau bod yr awdurdod yn ddi-garbon net erbyn 2030 fan bellaf.

·         Sefydlu grŵp tasg a gorffen i lunio cynllun clir o fewn 6 mis i gyflawni’r uchod, gan gynnwys dulliau o wella bioamrywiaeth yn Sir Ddinbych.

·         Galw ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i ddarparu cymorth ac adnoddau i’n galluogi i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr a gwella bioamrywiaeth.

·         Gweithio gyda phartneriaid ar draws y sector cyhoeddus, preifat a’r trydydd sector i gynorthwyo i ddatrys yr argyfwng hinsawdd ac ecolegol hwn.

 

Cafwyd trafodaeth hynod o gadarnhaol gyda chefnogaeth unfrydol ar gyfer y Rhybudd o Gynnig.

 

Nodwyd bod y Cynllun Corfforaethol yn cynnwys targed i leihau allyriadau carbon o 15% erbyn 2022. Roedd nifer o brosiectau wedi’u cynnal i leihau allyriadau carbon ac amddiffyn yr amgylchedd yn y sir. 

 

Roedd Llywodraeth Cymru wedi datgan argyfwng hinsawdd ac wedi gosod targed bod y sector cyhoeddus yng Nghymru yn garbon niwtral erbyn 2030.

 

Felly, yn dilyn y bleidlais

 

PENDERFYNWYD bod y Rhybudd o Gynnig bod Cyngor Sir Ddinbych yn:

·         Datgan argyfwng hinsawdd ac ecolegol ar unwaith

·         Ymrwymo i sicrhau bod yr awdurdod yn ddi-garbon net erbyn 2030 fan bellaf.

·         Sefydlu grŵp tasg a gorffen i lunio cynllun clir o fewn 6  (chwe) mis i gyflawni’r uchod, gan gynnwys dulliau o wella bioamrywiaeth yn Sir Ddinbych.

·         Galw ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i ddarparu cymorth ac adnoddau i’n galluogi i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr a gwella bioamrywiaeth; a

·         Gweithio gyda phartneriaid ar draws y sector cyhoeddus, preifat a’r trydydd sector i gynorthwyo i ddatrys yr argyfwng hinsawdd ac ecolegol hwn.

yn cael ei gytuno’n unfrydol gan y Cyngor.

 

 

 

 

 

8.

NEWIDIADAU I'R UWCH GYFLOGAU 2019 pdf eicon PDF 254 KB

Ystyried adroddiad gan y Rheolwr AD (copi ynghlwm). Mae’r adroddiad yn ymwneud â newidiadau arfaethedig i dâl pedwar Pennaeth Gwasanaeth a fydd yn ofynnol i hwyluso'r Model Darparu Amgen Hamdden.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol, y Cynghorydd Julian Thompson-Hill adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ar gyfer y Cyngor i gytuno ar y newidiadau arfaethedig i gyflog pedwar Pennaeth Gwasanaeth a fyddai'n ofynnol i hwyluso Cwmni Masnach Hamdden yr Awdurdod Lleol a gytunwyd gan y Cyngor Llawn ar 30 Mai 2019. Byddai'r newidiadau'n cael eu gweithredu ar ôl gweithredu Cwmni Masnach Hamdden yr Awdurdod Lleol (LATC).

 

Roedd sefydlu’r LATC yn creu cyfle i asesu dosbarthiad cyfrifoldebau ar draws meysydd gwasanaeth y Cyngor gyda’r nod o rannu'r rhain ymysg y Penaethiaid Gwasanaeth sy’n weddill.   Byddai hyn yn darparu arbedion o oddeutu £800,000 ar gyfer y Cyngor.

 

Gadawodd Pennaeth Cyllid y Cyngor ar ddiwedd mis Mehefin 2019 a byddai angen cytundeb bod cyflog y swydd yn cael ei hysbysebu gan adlewyrchu'r raddfa a'r dyletswyddau diwygiedig.

 

Roedd yr ailstrwythuro a nodwyd yn caniatáu dileu swydd Pennaeth Cyfleusterau, Asedau a Thai ac yn creu cyfle i wella synergedd rhwng rhai meysydd gwasanaeth allweddol.

 

 Roedd rhesymau’r gwerthusiadau wedi'u darparu gan Kornferry Hay ac roedd y bedair swydd wedi sgorio dros 800 pwynt.   Yn unol â’r strwythur graddio, fel y cytunwyd gan y Cyngor Llawn ar 10 Mai 2016, fel rhan o adolygiad gwreiddiol yr Uwch Arweinyddiaeth, roedd unrhyw swyddi a oedd yn sgorio dros 800 yn derbyn cyflog SLT 2.   Felly, byddai’r ddau Bennaeth Gwasanaeth a oedd wedi sgorio llai na 800 ac yn derbyn cyflog SLT 1 yn cynyddu i SLT 2.

 

Roedd y swyddi hefyd wedi’u trafod gan Banel Tâl SLT a oedd wedi cytuno ag asesiad Kornferry Hay.

 

 Yn unol â’r broses, roedd y cynnig wedi’i gyflwyno i Banel Adolygu Annibynnol Cymru i'w ystyried.   Roeddent wedi ymateb gan nodi eu bod yn fodlon gyda’r wybodaeth a’r dystiolaeth a ddarparwyd. 

 

Yn dilyn trafodaethau, gofynnodd y Cynghorydd Joan Butterfield am egwyl i drafod gydag aelodau’r grŵp Llafur.   Cytunwyd ar hyn gan bawb oedd yn bresennol yn y cyfarfod.

 

Ar yr adeg hon (11.15 a.m.) cafwyd egwyl o 20 munud.

 

Ailddechreuodd y cyfarfod am 11.35am.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd yr argymhelliad.  Felly, yn dilyn y bleidlais

 

 PENDERFYNWYD bod y Cyngor Llawn yn cytuno ag argymhellion Panel Tâl Arweinyddiaeth Uwch ar gyfer yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth.

 

 

 

9.

CYFLWYNO MODEL DARPARU AMGEN (MDA) AR GYFER AMRYWIOL WEITHGAREDDAU / SWYDDOGAETHAU CYSYLLTIEDIG Â HAMDDEN pdf eicon PDF 379 KB

 Ystyried adroddiad ar y cyd gan y Cynghorwyr Bobby Feeley, Aelod Cabinet Arweiniol dros Les ac Annibyniaeth, a Julian Thompson-Hill, Aelod Cabinet Arweiniol dros Gyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) i gael cymeradwyaeth y Cyngor i'r Erthyglau o Gymdeithas drafft a Chytundeb Aelodau fel y'u nodir yn Atodiadau'r adroddiad hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ar y pwynt hwn, datganodd y Cynghorydd Gwyneth Kensler  gysylltiad personol gan ei bod yn ysgrifenyddes i Theatr Twm o’r Nant oherwydd roedd y theatr wedi derbyn cefnogaeth gan hamdden ar gyfer y cynllun ‘Night Out – Noson Allan’ a chymorth gan dîm technegol Theatr y Pafiliwn. Yn ogystal, roedd ei gŵr yn aelod o un o ganolfannau hamdden y Cyngor.

 

Datganodd y Cynghorydd Emrys Wynne gysylltiad personol.  Mae’n aelod o Gorff Llywodraethu Ysgol Brynhyfryd ac mae’n defnyddio'r cyfleusterau yng Nghanolfan Hamdden Rhuthun yn ystod oriau'r ysgol.

 

 

Cyflwynodd Aelod Arweiniol Lles ac Annibyniaeth, y Cynghorydd Bobby Feeley yr adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) i dderbyn cymeradwyaeth y Cyngor ar gyfer drafft Erthyglau Cymdeithas a Chytundeb Aelodau mewn perthynas â Chwmni Masnachu Cyfyngedig drwy Warant nad er elw yr Awdurdod Lleol  fel model darparu amgen (ADM) ar gyfer darparu amrywiaeth o weithgareddau a swyddogaethau hamdden.   

 

Roedd y Cyngor a’r Cabinet wedi cytuno i gefnogi creu Cwmni Masnachu Cyfyngedig drwy Warant yr Awdurdod Lleol ar 30 Mai a 25 Mehefin yn y drefn honno.   Dogfen gyfansoddiadol cwmni cyfyngedig drwy warant yw ei Erthyglau Cymdeithas sydd wedi’i gofrestru ar gyfer archwiliad cyhoeddus yn Nhŷ’r Cwmnïau (Erthyglau).   Yr hyn a gynigwyd oedd mabwysiadu Erthyglau oedd yn seiliedig ar yr Erthyglau Enghreifftiol, gan gynnwys newidiadau yn benodol i ofynion y Dull Darparu Amgen, er mwyn gwarchod y Cyngor a rhoi rheolaeth iddo dros y cwmni.  Yn ogystal â’r Erthyglau, roedd yr adroddiad yn sôn am Gytundeb Aelodau rhwng y Cyngor a’r Dull Darparu Amgen a oedd yn amlinellu nifer o faterion nad oeddent wedi’u cynnwys yn yr Erthyglau.

 

Arweiniodd Pennaeth y Gyfraith, AD a’r Gwasanaethau Democrataidd  yr Aelodau drwy’r swyddogaethau pennaf a nodwyd yn yr Erthyglau a’r telerau a bennwyd yn y Cytundeb Aelodau.  Byddai angen awdurdod dirprwyedig er mwyn cadarnhau dogfennau.

 

Yn ystod y drafodaeth, eglurodd Pennaeth y Gyfraith, AD a Gwasanaethau Democrataidd:

·         yn ogystal â chyflwyno’r cyfrifon yn ffurfiol ddwywaith y flwyddyn, byddai’r Cyngor yn monitro er mwyn sicrhau tryloywder o ran perfformiad ariannol;

·         Byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor Llawn ym mis Medi, yn ceisio cadarnhad o aelodaeth Bwrdd y Cyfarwyddwyr, gan ei fod yn ymwneud â chyfansoddiad y cwmni newydd.

·         Byddai gofyniad i’r Cwmni fabwysiadu holl bolisïau a gweithdrefnau’r Cyngor.   

Byddai hyn yn cynnwys bod y Cwmni’n cydymffurfio â pholisi Cymraeg y Cyngor.

 

PENDERFYNWYD:

(i)            Bod y Cyngor yn cymeradwyo’r Erthyglau Cymdeithas a Chytundeb Aelodau drafft fel y nodwyd yn Atodiadau'r adroddiad hwn mewn perthynas â Chwmni Masnachu Cyfyngedig drwy Warant yr Awdurdod Lleol nad yw er elw;

(ii)          Bod y Cyngor yn awdurdodi Bwrdd Prosiect ADM mewn ymgynghoriad â’r Aelod Arweiniol ar gyfer Lles ac Annibyniaeth ac Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol i gytuno ar eiriad terfynol y dogfennau a nodwyd yn (i) uchod.

 

10.

ADRODDIAD BLYNYDDOL Y PWYLLGOR SAFONAU pdf eicon PDF 228 KB

Ystyried adroddiad gan y Swyddog Monitro (copi ynglwm) i gyflwyno adroddiad blynyddol ar waith y Pwyllgor a'i ganfyddiadau a'i arsylwadau, i holl Aelodau'r Cyngor fel rhan o ymdrech y Pwyllgor i wella safonau ymddygiad moesegol a chydymffurfiaeth â'r Cod Ymddygiad Aelodau

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Ian Trigger, Cadeirydd y Pwyllgor Safonau, yr Adroddiad Blynyddol (a ddosbarthwyd yn flaenorol).

 

Hwn oedd pedwerydd Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau i’r Cyngor Llawn ac roedd yn ymwneud â blynyddoedd calendr 2017 a 2018.   Cytunwyd y byddai Cadeirydd y Pwyllgor Safonau yn cyflwyno adroddiad yn flynyddol i'r Cyngor Llawn i hysbysu'r Aelodau ynglŷn â thueddiadau, materion mewn perthynas â chydymffurfiaeth gyda Chod Ymddygiad yr Aelodau’n gyffredinol ar draws y sir ac ar waith y Pwyllgor i gymell safonau ymddygiad ar lefel Sirol ac ar lefel Cynghorau Tref, Dinas a Chymuned.   Nid oedd yn bosibl cyflwyno adroddiad y llynedd, felly, roedd yr adroddiad yn ymdrin â chyfnod o ddwy flynedd.

 

Prif rôl y Pwyllgor Safonau oedd monitro cydymffurfiaeth â Chod Ymddygiad yr Aelodau.  Roedd yr holl Aelodau’n ymwybodol bod eu Cod yn seiliedig ar egwyddorion y dylai’r Aelodau ymddwyn yn unol â nhw yn seiliedig ar 7 Egwyddor Bywyd Cyhoeddus Nolan ond yng Nghymru roedd 10 Egwyddor oedd wedi’u nodi yn yr adroddiad.

 

Roedd y Pwyllgor Safonau yn cynnwys 2 Gynghorydd Sir, 4 Aelod Annibynnol (cyfetholedig), ac 1 Aelod o Gyngor Cymuned.   Nid yw'r rhan fwyaf o'r Aelodau yn cael eu hethol, ond yn cael eu recriwtio o aelodau o'r cyhoedd yn unol â gofynion y ddeddfwriaeth Safonau yng Nghymru.

 

Roedd aelodau’r Pwyllgor Safonau yn mynychu Cynghorau Dinas, Tref a Chymuned i arsylwi ymddygiad ac effeithiolrwydd cyffredinol y cyfarfodydd.   Yna rhoddir adborth yn y Pwyllgor Safonau.  

 

Presenoldeb ar ran y Cyngor yn Fforwm Pwyllgor Safonau Gogledd Cymru (y Fforwm).   Roedd y Fforwm yn cynnwys chwe Chyngor Gogledd Cymru, ynghyd â Pharc Cenedlaethol Eryri a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.   Roedd y Fforwm yn cyfarfod i drafod buddion cyffredin ac roedd yr Ombwdsmon yn mynychu o bryd i’w gilydd.   Roedd Ceredigion a Phowys ac Awdurdod Tân ac Achub Gorllewin y Canolbarth wedi ymuno â'r Fforwm yn ddiweddar.

 

Diolchodd Mr Trigger i'r Swyddog Monitro a'r Dirprwy Swyddog Monitro am eu gwaith caled ar gyfer y Pwyllgor Safonau ac am gynnal digwyddiadau hyfforddi hanfodol.   

 

Ar y pwynt hwn, mynegodd y Cadeirydd ei ddiolch i Mr Ian Trigger am ei ymrwymiad i'r gwaith fel Cadeirydd ac i aelodau'r Pwyllgor Safonau am eu gwaith.   Diolchodd hefyd i’r Swyddog Monitro a’r Dirprwy Swyddog Monitro.

 

PENDERFYNWYD bod yr aelodau’n derbyn ac yn nodi cynnwys Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau.

 

 

 

11.

ADOLYGIAD PERFFORMIAD BLYNYDDOL 2018 - 19 pdf eicon PDF 276 KB

Ystyried adroddiad gan Arweinydd y Tîm Cynllunio Strategol a Pherfformiad (copi ynghlwm) i gymeradwyo’r Adolygiad Perfformiad Blynyddol 2018-19.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol, y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, yr Adroddiad Adolygu Perfformiad Blynyddol (a ddosbarthwyd yn flaenorol) i'w gymeradwyo, yr oedd yn ofynnol i'r Cyngor ei gyhoeddi erbyn 31 Hydref bob blwyddyn o dan Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009. 

 

Roedd newidiadau diweddar yn y dulliau adrodd wedi arwain at y ddogfen dan sylw, yn ogystal â’r wybodaeth ddiweddaraf am chwarter 4 a’r Ddogfen Gyflawni Flynyddol, a gyflwynid ar wahân fel arfer.  Byddai mesuryddion cenedlaethol yn cael eu hadrodd ar wahân pan fyddent ar gael.

 

Roedd yr Adolygiad Perfformiad Blynyddol hefyd yn cynnwys astudiaethau achos ac enghreifftiau o gynnydd yn erbyn ein blaenoriaethau corfforaethol o bortffolio ehangach y Cyngor.  Roedd hyn yn cydnabod bod gwasanaethau yn gwneud gwaith pwysig y tu allan i'r Cynllun Corfforaethol sydd o fudd i drigolion.

 

Esboniodd Rheolwr y Tîm Cynllunio Strategol bod y ddogfen yn dangos mor dda oedd y cynnydd a’r hyn a gyflawnwyd hyd yn hyn, ond roedd hefyd yn adlewyrchu ar y cyfleoedd i wella a chymryd camau gweithredu priodol.

 

 Arweiniodd y Cyngor drwy’r adroddiad a darparu gwybodaeth fanwl am y cynnydd a wnaed yn erbyn pob blaenoriaeth gorfforaethol.   

 

Roedd y pum blaenoriaeth fel a ganlyn:

·         Tai – Mae pawb yn cael eu cefnogi i fyw mewn cartrefi sy’n bodloni eu hanghenion;

·         Clymu Cymunedau - Mae cymunedau wedi’u cysylltu ac mae ganddynt fynediad at nwyddau a gwasanaethau lleol, ar-lein a thrwy gysylltiadau cludiant da;

·         Cymunedau gwydn - mae’r Cyngor yn gweithio gyda phobl a chymunedau i gynyddu annibyniaeth a chadernid;

·         Amgylchedd - mae’r amgylchedd yn ddeniadol ac wedi ei warchod, gan gefnogi lles a ffyniant economaidd; a

·         Pobl ifanc - man lle bydd pobl iau am fyw a gweithio ynddo, a bod ganddynt y sgiliau i wneud hynny.

 

Wrth drafod, codwyd y materion canlynol:

·         Roedd arolwg gofalwyr ar y gweill ac fe gadarnhawyd y byddai'r data sy'n cael ei gasglu'n cael ei ddefnyddio i lunio'r strategaeth er mwyn nodi anghenion ac i sicrhau y gellir cynllunio'r gwasanaeth priodol i gefnogi gofalwyr yn y dyfodol.

·          Cadarnhawyd mai Sir Ddinbych oedd y cyngor cyntaf yng Nghymru i ddefnyddio chwynladdwr heb lyswenwyn y gellir ei nodi drwy'r strategaeth amgylcheddol.

·         Cadarnhawyd bod Pennaeth Addysg a Gwasanaethau Plant wedi bod yn cyfathrebu gyda phobl ifanc yn y sir i gael eu barn am gyfleoedd swyddi ac ati.

·         Gallai problemau godi o derfynu’r ffurflen gais ar bapur ar gyfer bathodynnau glas.  

Roedd yn rhaid cyflwyno ceisiadau ar-lein.   Byddai’n rhaid i rai ymgeiswyr ddefnyddio'r gwasanaethau llyfrgell i gyflwyno cais, ond nid oedd gan bob llyfrgell staff arbenigol i gynorthwyo.   Cadarnhaodd y Prif Weithredwr y byddai'n rhannu'r pryder gyda'r adran berthnasol.

·         Roedd menter digartrefedd ar waith ac roedd gofalwyr ifanc yn cael cymorth i ganfod tai.  

Holwyd a oedd mynediad hawdd i lwybr at yr ysgol dai.   Cadarnhaodd Rheolwr Tîm Cynllunio Strategol y byddai’n siarad gyda’r adran berthnasol ac yn rhannu'r wybodaeth gyda'r aelodau er gwybodaeth.

 

Canmolodd y Prif Weithredwr y gwaith i gyflawni’r Cynllun Corfforaethol a mynegi ei hyder y byddai’r Cynllun Corfforaethol o fudd i breswylwyr y sir.

 

Canmolodd y Cadeirydd y gwaith a wnaed a diolchodd i Nicola Kneale, y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Alan Smith ac Iolo McGregor am eu gwaith ar y Cynllun Corfforaethol.

 

PENDERFYNWYD- yn amodol ar unrhyw newidiadau cytunedig, bod y Cyngor yn cymeradwyo Adolygiad Perfformiad Blynyddol 2018-19.

 

 

 

12.

ADRODDIAD BLYNYDDOL Y PWYLLGOR LLYWODRAETHU pdf eicon PDF 251 KB

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd (copi ynghlwm) ar waith y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2018/19.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Oherwydd cyfyngiadau amser a'r posibilrwydd na fyddai cworwm i'r cyfarfod, cytunwyd y dylid gohirio Adroddiad Blynyddol Llywodraethu Corfforaethol i gyfarfod y Cyngor ar 10 Medi 2019.

 

PENDERFYNWYD bod Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yn cael ei ohirio tan 10 Medi 2019.

 

 

 

13.

AMSERLEN Y PWYLLGORAU 2020 pdf eicon PDF 271 KB

Ystyried adroddiad gan y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd a’r Gweinyddwr Pwyllgorau (copi ynghlwm) i gymeradwyo’r amserlen bwyllgorau ar gyfer 2020.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Gwasanaethau Corfforaethol a Chyfeiriad Strategol, y Cynghorydd Richard Mainon, yr adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) i alluogi’r Aelodau i gymeradwyo amserlen ddrafft y Pwyllgor ar gyfer 2020.

 

Roedd yn ofynnol i'r Cyngor gymeradwyo amserlen ar gyfer 2020 yn unol â phenderfyniad y Cyngor i gynnal amserlen 18 mis er mwyn galluogi cadarnhau mannau cyfarfod ac adnoddau, cyhoeddi’r amserlen a llenwi dyddiaduron yr Aelodau.

 

Cafwyd trafodaeth fer a mynegodd y Cynghorydd Paul Penlington ei siom i nodi nad oedd dim cyfarfodydd min nos wedi eu trefnu.

 

Diolchodd y  Cynghorydd Mainon i Kath Jones, Gweinyddwr Pwyllgorau am baratoi’r amserlen a chysylltu gyda swyddogion gan fod angen trefnu’n ofalus iawn.

 

Mynegodd y Cynghorydd Gwyneth Kensler a’r aelodau eraill eu diolch i Bennaeth y Gyfraith, AD a Gwasanaethau Democrataidd, y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd a’i dîm am eu holl ymdrechion a gwaith caled.

 

PENDERFYNWYD bod y Cyngor yn cymeradwyo'r amserlen bwyllgorau ddrafft ar gyfer 2020.

 

 

 

14.

RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL Y CYNGOR SIR pdf eicon PDF 484 KB

Ystyried Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cyngor (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gyfraith, AD a Gwasanaethau Democrataidd Raglen Gwaith i'r Dyfodol y Cyngor ynghyd â Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol Briffio'r Cyngor (a ddosbarthwyd yn flaenorol).

 

Cadarnhawyd bod eitemau ychwanegol yn cael eu hychwanegu at gyfarfod y Cyngor Llawn ar 10 Medi 2019 fel a ganlyn:

 

·         Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol

·         Cynllun Amddiffyn Arfordir Dwyrain y Rhyl

 

PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, y dylid cymeradwyo a nodi Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cyngor  a Briffio’r Cyngor.

 

 

 

 

Daeth y cyfarfod i ben am 1.30pm