Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: SIAMBR Y CYNGOR, NEUADD Y SIR, RHUTHUN LL15 1YN

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

2.

DATGAN CYSYLLTIAD

Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y Cynghr. Tina Jones a Paul Penlington gysylltiad personol ag eitem 7, sef Cynllun Datblygu Lleol Newydd Sir Ddinbych – Y Strategaeth a Ffefrir Ddrafft.

 

 

 

3.

PENODI CADEIRYDD Y CYNGOR SIR

Penodi Cadeirydd y Cyngor am y flwyddyn 2019/2020.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gofynnodd y Cadeirydd sy’n ymddeol, y Cyng. Peter Scott, am enwebiadau ar gyfer penodi Cadeirydd y Cyngor Sir ar gyfer 2019/2020.

 

Cynigiodd y Cyng. Rhys Thomas y dylid penodi’r Cyng. Meirick Lloyd Davies yn Gadeirydd.

 

Eiliwyd y cynnig hwn gan y Cyng. Ann Davies.

 

Ni chafwyd enwebiadau pellach, ac yn dilyn pleidlais drwy godi dwylo cafodd y Cyng. Meirick Lloyd Davies ei ethol yn unfrydol i fod yn Gadeirydd y Cyngor ar gyfer 2019/2020.

 

Rhoddodd y Cadeirydd sy’n ymddeol araith fer a bu’n adlewyrchu ar ei gyfnod fel Cadeirydd yn ystod y deuddeg mis diwethaf.

 

Diolchodd i’r Cyng. Meirick Lloyd Davies a’i wraig Nesta am eu cefnogaeth yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Diolchwyd hefyd i’r swyddogion a’r staff am eu cefnogaeth ac yn arbennig i Eleri Woolford (Rheolwr Cefnogi a Datblygu Aelodau), Sue License (Cymhorthydd Personol i Bennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd), a Sharon Evans (Cydlynydd Busnes: Swyddfa’r Arweinydd) am eu gwaith a’u cefnogaeth yn ystod ei gyfnod fel Cadeirydd.

 

Roedd y Cadeirydd sy’n ymddeol wedi casglu £14,500 i’w elusen ddewisol, sef Hosbis Sant Cyndeyrn.

 

Derbyniodd Laura Parry y siec ar ran Hosbis Sant Cyndeyrn gan egluro bod yr hosbis ar hyn o bryd yn cynnal prosiect gwerth £3 miliwn i gefnogi mwy o bobl yn y gymuned. Diolchodd am yr holl gefnogaeth a roddwyd a dywedodd y bydd yr arian yn gwneud gwahaniaeth mawr i’r Hosbis.

 

Dymunodd y Cadeirydd sy’n ymddeol yn dda i’r Cadeirydd newydd a chyflwynodd y Gadwyn Swydd iddo. Llofnododd y Cadeirydd newydd y Datganiad Derbyn Swydd.

 

Enwodd y Cadeirydd newydd ei wraig, Nesta Davies, fel ei gydymaith.

 

Elusennau’r Cadeirydd newydd yw:-

·         Breast Cancer UK

·         Prostate Cancer UK

 

 

 

4.

PENODI IS-GADEIRYDD Y CYNGOR SIR

Penodi Is-Gadeirydd y Cyngor am y flwyddyn 2019/20.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gofynnodd y Cadeirydd am enwebiadau ar gyfer Is-Gadeirydd.

 

Cynigiodd y Cyng. Joan Butterfield y dylid penodi’r Cyng. Alan James yn Is-Gadeirydd y Cyngor ar gyfer 2019/2020. Cyfeiriodd at brofiad eang y Cyng. James.

 

Eiliwyd y cynnig gan y Cyng. Barry Mellor.

 

Ni chafwyd enwebiadau pellach, ac yn dilyn pleidlais drwy godi dwylo, cafodd y Cyng. Alan James ei ethol yn unfrydol i fod yn Is-Gadeirydd y Cyngor ar gyfer 2019/2020.

 

Arwisgodd y Cadeirydd y Cyng. Alan James gyda Chadwyn Swydd yr Is-Gadeirydd a llofnododd yr Is-Gadeirydd newydd y Datganiad Derbyn Swydd.

 

Enwodd yr Is-Gadeirydd newydd ei wraig, Win Mullen-James, fel ei gydymaith.

 

Bu i’r Arweinydd, Arweinwyr Grŵp ac Aelodau gydnabod gwaith y Cadeirydd sy'n ymddeol dros y deuddeng mis diwethaf a llongyfarch y Cynghr. Meirick Lloyd Davies ac Alan James ar gael eu hethol yn Gadeirydd ac yn Is-Gadeirydd yn y drefn honno.

 

 

 

Yn y fan hon (10.30 a.m.) cafwyd egwyl o 20 munud.

 

Ailddechreuodd y cyfarfod am 10.50 a.m.

 

 

 

5.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

 

 

6.

COFNODION pdf eicon PDF 413 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Cyngor Sir a gynhaliwyd 28 Mawrth 2019 (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cyngor Llawn ar 28 Mawrth 2019.

 

PENDERFYNWYD cadarnhau cofnodion cyfarfod y Cyngor Llawn a gynhaliwyd ar 28 Mawrth 2019 fel cofnod cywir a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi.

 

 

7.

CYNLLUN DATBLYGU LLEOL NEWYDD SIR DDINBYCH - STRATEGAETH A FFEFRIR DDRAFFT pdf eicon PDF 277 KB

I ystyried adroddiad gan y Rheolwr Cynllunio Strategol a Thai (copi ynghlwm) yn cyflwyno argymhellion gan y Grŵp Cynllunio Strategol a’r Cabinet ynglŷn â Strategaeth Ddrafft a Ffefrir y CDLl Newydd a cheisio cymeradwyaeth i ymgynghori ar y Strategaeth Ddrafft a Ffefrir. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y Cyng. Tina Jones gysylltiad personol gan ei bod yn berchen ar ddarn o dir ym Mhrestatyn.

 

Datganodd y Cyng. Paul Penlington gysylltiad personol gan fod ei fam-yng-nghyfraith yn berchen ar ddarn o dir o fewn y CDLl.

 

Cyflwynodd y Cyng. Brian Jones, Aelod Arweiniol Priffyrdd, Cynllunio a Theithio Cynaliadwy, yr adroddiad (a gylchredwyd ymlaen llaw) sy’n cyflwyno argymhellion y Grŵp Cynllunio Strategol a’r Cabinet ar gyfer y Strategaeth a Ffefrir y CDLl Newydd a cheisiodd dderbyn cymeradwyaeth i ymgynghori ar y Strategaeth Ddrafft.

 

Yn ystod y drafodaeth codwyd y pwyntiau canlynol:

·         Holodd y Cyng. Tony Flynn pam nad yw Cynghorwyr Tref wedi eu hysbysu.

Eglurwyd fod tair sesiwn alw heibio wedi ei chynnal ar gyfer Cynghorau Dinas, Tref a Chymuned er mwyn iddynt gael cyfle i fod yn rhan o’r broses ar gam cynnar. Os yw’r Cyngor yn cymeradwyo’r argymhellion bydd rhagor o ymgysylltu â Chynghorau Dinas, Tref a Chymuned yn ystod y broses ymgynghori.

·         Cadarnhaodd y Cyng. Graham Timms bod yr holl Gynghorwyr Sir a Chynghorwyr Dinas, Tref a Chymuned wedi cael gwybod am y cyfarfodydd a bod Cynghorwyr Sir wedi derbyn dogfennau drwy gydol y broses.

Mynegodd y Cyng. Timms bryder nad oedd yr Aelod Arweiniol, y Cyng. Brian Jones, wedi cefnogi’r proses na’r CDLl ac nad oedd wedi cynnig yr argymhelliad yn ystod cyfarfod y Cabinet.

·         Yn ystod y cyfarfod Cabinet hwn roedd y gweddarlledu wedi stopio oherwydd problem gyda’r ffrwd rhyngrwyd allanol; roedd y broblem hon y tu hwnt i reolaeth y Cyngor ac wedi effeithio ar ardal eang.

·         Cyfeiriwyd at dir at ddibenion diwydiannol a chadarnhawyd y bydd y manylion yn cael eu hystyried mewn mwy o fanylder yn dilyn y cyfnod ymgynghori.

Unwaith eto, eglurwyd mai pwrpas yr adroddiad a gyflwynir i’r Aelodau yw derbyn cymeradwyaeth y Cyngor i ymgynghori ynghylch y strategaeth ddrafft.

·         Soniwyd am yr elfennau a fyddai’n cael eu heffeithio arnynt gan y CDLl:

Ø  Y Gymraeg – ceir polisi iaith a bydd digon o gyfleoedd i graffu ar yr elfen iaith.

Ø  Tai fforddiadwy – ceir diffiniad o dai fforddiadwy ym mharagraffau 8-10. Bydd angen edrych ar bob ardal benodol o fewn y sir er mwyn cael cydbwysedd.

Byddwn yn edrych yn fanylach ar hyn yn ystod cam nesaf y cynllun.

Ø  Cyflogaeth – ceir gofyniad i ganfod beth fyddai’n briodol ymhob lleoliad ac unwaith eto, byddai hynny’n cael sylw ar gam nesaf y cynllun.

·         Siaradodd y Cyng. Richard Mainon am y CDLl blaenorol o gymharu â’r CDLl arfaethedig o ran Bodelwyddan.

Mynegodd ei anfodlonrwydd â’r CDLl arfaethedig.

·         Tai Cymdeithasol – Dywedodd yr Uwch Swyddog Cynllunio fod tai cymdeithasol y tu allan i’w harbenigedd, ond y byddai’n dibynnu ar gyllid gan y Llywodraeth Ganolog a Llywodraeth Cymru.

·         Fel rhan o’r paratoadau i lunio CDLl i’w archwilio gan y cyhoedd, byddai fframwaith monitro effeithiol a phriodol yn cael ei ddatblygu a’i gynnwys o fewn y cynllun a byddai’n ffurfio sail ar gyfer llunio’r Adroddiad Monitro Blynyddol.

Yr Adroddiad Monitro Blynyddol fyddai’r prif ddull ar gyfer mesur ac asesu'r cynnydd wrth weithredu polisïau a chynigion y CDLl Newydd.

·         Defnydd tir – mae’r defnydd gorau o dir brown yn flaenoriaeth.

Mae’r cynllun yn destun gwerthusiadau cynaliadwyedd a rheoliadau cynefinoedd i sicrhau bod yr effaith amgylcheddol cyn lleied â phosibl.

 

Yn y fan hon, gofynnodd y Cyng. Joan Butterfield am bleidlais wedi ei chofnodi.

 

Dywedodd Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, AD a Democrataidd fod yn rhaid i o leiaf un rhan o chwech o’r aelodau sy’n bresennol gytuno i gael pleidlais wedi ei chofnodi. Bu i fwy nag un rhan o chwech o’r aelodau gytuno â’r bleidlais wedi ei chofnodi.

 

Cyn cynnal y  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL Y CYNGOR SIR pdf eicon PDF 499 KB

Ystyried Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cyngor (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, AD a Democrataidd Raglen Gwaith i'r Dyfodol y Cyngor a Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Sesiynau Briffio (a gylchredwyd ymlaen llaw).

 

Cadarnhawyd y bydd cyfarfod arbennig o’r Cyngor yn cael ei gynnal ar 30 Mai 2019 i drafod y Model Darparu Amgen ar gyfer Hamdden.

 

Bydd y sesiwn friffio nesaf i’r Cyngor yn cael ei chynnal ar 3 Mehefin 2019.

 

PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, y dylid cymeradwyo a nodi Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cyngor a’r Sesiynau Briffio.

 

 

 

Daeth y cyfarfod i ben am 12.05 p.m.