Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: SIAMBR Y CYNGOR, NEUADD Y SIR, RHUTHUN LL15 1YN

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

2.

DATGAN CYSYLLTIAD

Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy’n rhagfarnu yn y busnes a nodwyd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

 

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim eitemau brys.

 

Ar y pwynt hwn, dywedwyd wrth yr Aelodau y byddai tri chwestiwn yn cael eu cyflwyno fel a ganlyn:

 

(i)            Mae Mrs Pauline Wheeler o Gorwen yn gofyn y cwestiwn canlynol:

 

“A oes modd i’r Aelod Arweiniol egluro’r polisi o ran cludiant i’r ysgol ar gyfer plant ac oedolion ifanc epileptig sydd angen meddyginiaeth achub yn Sir Ddinbych?”

 

Ymateb gan Aelod Arweiniol Priffyrdd, Cynllunio a Theithio Cynaliadwy, y Cyng. Brian Jones:

 

“Mae gan y Cyngor bolisi Cludiant i Ddysgwyr a gyhoeddir ar wefan Cyngor Sir Ddinbych. Mae Adran 3 o’r polisi yn ymdrin â threfniadau yn ôl disgresiwn ac mae Adran 3.10 yn caniatáu i'r Pennaeth Addysg a Gwasanaethau Plant wneud penderfyniad yn ôl disgresiwn am resymau meddygol. Felly, mae’r polisi yn golygu y gellir gwerthuso pob achos yn ôl amgylchiadau penodol ac anghenion meddygol pob plentyn. Gellir defnyddio disgresiwn, yn seiliedig ar dystiolaeth o angen meddygol.”

 

Yna, gofynnodd Mrs Wheeler gwestiwn atodol:

 

“Beth a nodir yn benodol am feddyginiaeth achub ar gyfer epilepsi?”

 

Dywedodd y Cyng. Brian Jones y byddai’n anfon ymateb manwl at Mrs Wheeler o fewn 7 diwrnod.

 

 

(ii)          Gofynnodd y Cyng. Glenn Swingler y cwestiwn canlynol:

 

“A oes modd i’r Aelod Arweiniol ddarparu cyngor ar a fydd Cyngor Sir Ddinbych, ar ddiwedd mis Mawrth, yn atal gwestai ar lan môr y Rhyl rhag derbyn teuluoedd digartref mewn argyfwng?”

 

Dyma ymateb y Cyng. Bobby Feeley, Aelod Arweiniol Lles ac Annibyniaeth:

 

“Mae’n ddyletswydd ar y Cyngor, dan Ddeddf Tai Cymru 2014, i ddarparu llety brys a thros dro i unigolion a theuluoedd sy’n bodloni meini prawf digartrefedd y Ddeddf. Fel y gwyddoch fel aelodau, mae llety o’r fath yn cael ei gynnig yn y Rhyl, yn aml mewn gwestai a sefydliadau gwely a brecwast, ac mae hynny yn cael effaith bosibl ar raglenni twristiaeth ac adfywio economaidd y dref. Rydym oll yn gwybod faint o arian rydym ni wedi’i wario ar adfywio’r Rhyl. Ar hyn o bryd mae yna 100 o aelwydydd mewn llety brys a thros dro, 58 ohonynt yn y Rhyl.

 

Ym mis Ionawr roedd dau westy ar lan y môr wedi’u llenwi gan aelwydydd digartref, sy’n groes i’w caniatâd cynllunio.

 

Mae Gwasanaethau Cymorth Cymunedol yn gweithio’n agos gyda Chynllunio a Gwarchod y Cyhoedd a Chyfleusterau, Tai ac Asedau i edrych ar lety amgen, gan gynnwys datblygu darpariaeth mewn rhannau eraill o Sir Ddinbych er mwyn peidio â symud teuluoedd o’u cymunedau a’u hysgolion a’u mannau gweithio. Er mwyn hwyluso hyn mae’r Gwasanaethau Cymorth Cymunedol yn ceisio darparu darpariaeth amgen i aelwydydd sy’n byw yn un o’r gwestai erbyn diwedd mis Mawrth, a helpu'r perchnogion gysylltu â chydweithwyr adfywio economaidd i dderbyn cefnogaeth i gystadlu’n well yn y farchnad westai.

 

Hoffaf ychwanegu, bod Tîm Digartrefedd Sir Ddinbych yn gweithio’n galed iawn ar atal digartrefedd ond, yn amlwg, mae hynny’n cymryd amser. Mae gennym ni gynllun gweithredu gwych. Mae gennym ni Strategaeth Digartrefedd ac rydym ni’n ceisio, ar gyfer y dyfodol, lleihau’r angen am ddarpariaeth ar gyfer pobl ddigartref.

 

Mae deddfwriaeth y llywodraeth, beth bynnag a fo, pa un ai yw’n credyd cynhwysol neu bobl dan 35 ond yn gallu talu cap o £35. Mae hyn oll wedi effeithio ar y sefyllfa o ran digartrefedd, sydd i’w weld ar draws Cymru, nid yn Sir Ddinbych yn unig.

 

Dyna’r darlun mawr, ond gobeithiaf eich bod yn deall fy mod wedi ateb y cwestiwn y gorau gallaf.

 

Yn amlwg, mae gwesty sy’n llawn o bobl ddigartref yn mynd yn groes i ddarpariaethau’r caniatâd cynllunio a gafwyd.”

 

Diolchodd y Cyng. Glenn Swingler i’r Aelod Arweiniol am ei hymateb a chytunodd bod gan y Tîm Atal Digartrefedd waith  ...  view the full Cofnodion text for item 3.

4.

CYDBWYSEDD GWLEIDYDDOL YN Y CABINET pdf eicon PDF 358 KB

Ystyried adroddiad gan Bennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, AD a Democrataidd (copi'n amgaeedig) am gymhwysiad cydbwysedd gwleidyddol i gyfansoddiad y Cabinet.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyng. Barry Mellor, Cadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol, adroddiad (a gylchredwyd ymlaen llaw) yn ymwneud â chydbwysedd gwleidyddol yng nghyfansoddiad y Cabinet.

 

Ar 23 Hydref 2018 cymeradwyodd y Cyngor gynnig i ofyn i’r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol ystyried dewisiadau a chyflwyno adroddiad i'r Cyngor Llawn ar 19 Chwefror 2019. Diben yr adroddiad yw amlinellu sut y gellid newid y cyfansoddiad i ddileu'r gofyniad am gydbwysedd gwleidyddol yn y Cabinet.

 

Ar 23 Ionawr 2019 ystyriodd y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol y dewisiadau ar gyfer cyfansoddiad y Cabinet. Argymhellodd y Pwyllgor y dylid dileu’r gofyniad am gydbwysedd gwleidyddol yn y Cabinet a mabwysiadu model “arweinydd cryf” sy’n caniatáu i’r Arweinydd benodi a diswyddo aelodau’r Cabinet.

 

Yn y fan hon, gofynnodd y Cyng. Joan Butterfield am bleidlais wedi’i chofnodi.

 

Dywedodd Pennaeth y Gyfraith, AD a’r Gwasanaethau Democrataidd bod yn rhaid i un rhan o chwech o’r aelodau sy’n bresennol gytuno i gael pleidlais wedi’i chofnodi. Bu i fwy nag un rhan o chwech o’r aelodau gytuno â’r bleidlais wedi’i chofnodi.

 

Yn ystod trafodaeth codwyd y pwyntiau canlynol:

·         Dywedwyd mai Cabinet Sir Ddinbych yw’r unig gabinet yng Nghymru gyda chydbwysedd gwleidyddol.

Mae’r system yn gweithio’n dda a Chyngor Sir Ddinbych yw’r cyngor gorau ers pedair blynedd ac, os nad y cyngor gorau, yn y chwartel uchaf.

·         Ar hyn o bryd mae pob plaid wleidyddol yn gallu bod yn rhan o’r Cabinet ond, os cytunir ar y cynnig, gellir eithrio rhai grwpiau o’r Cabinet.

·         Nid yw aelodau dwy blaid wleidyddol yn rhan o'r Cabinet gan nad yw eu gwleidyddiaeth genedlaethol yn cymeradwyo hynny

·         Soniwyd am nifer yr aelodau sydd wedi bod yn bresennol yn y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol.

Er bod gan y Pwyllgor gworwm, mae’r niferoedd yn lleihau.

·         Pwysleisiwyd bod ansawdd yr arweinyddiaeth ar y Cabinet yn hollbwysig a bod gan Sir Ddinbych Arweinydd cryf.

·         Mae’r aelodau yn gweithio’n dda gyda’i gilydd ac yn gwneud eu gorau i ddarparu gwasanaethau i drigolion Sir Ddinbych.

·         Dod â Sir Ddinbych yn unol â chynghorau eraill Cymru oedd nod yr Hysbysiad o Gynnig gwreiddiol a chadarnhawyd y byddai’r Grŵp Llafur yn parhau i wrthod seddi ar y Cabinet os tynnir y cydbwysedd gwleidyddol.

 

Dywedodd yr Arweinydd bod y Cabinet wedi gweithio’n dda ers 10/11 o flynyddoedd, ac nad oes unrhyw reswm i newid pethau i gyd-fynd â’r 21 Awdurdodau Lleol arall. Mae’r ffordd y mae’r Cabinet yn gweithio yn beth da i’r holl gynghorwyr, nid i aelodau'r Cabinet yn unig. Ceir risgiau posibl pe byddai’r cydbwysedd gwleidyddol yn diflannu oherwydd byddai modd i rai grwpiau gymryd yr awenau, gan leihau’r angen am weithdai a gweithgorau, yn hytrach na chydweithio. Byddai ofn y byddai gwleidyddiaeth genedlaethol yn bwysicach na gwleidyddiaeth leol, a all ddifrodi’r cyngor lleol gyda ffocws cymunedol yn dod yn ffocws cenedlaethol.

 

Mae pob unigolyn o fewn y cyngor presennol yn gallu gwneud penderfyniadau. Mae Sir Ddinbych yn Awdurdod Lleol sy’n darparu gwasanaethau lleol i’r gymuned leol. Ceir diwylliant o fewn Sir Ddinbych sy’n canolbwyntio ar atebolrwydd, tryloywder a gonestrwydd. Os yw grŵp yn cael ei ddylanwadu gan wleidyddiaeth genedlaethol, byddai’r diwylliant yn newid. Mae’n rhaid canolbwyntio ar y gymuned.

 

Meddai’r Arweinydd:-

·         Nid oedd yn gallu cefnogi eithrio grwpiau gwleidyddol

·         Ni ddylai’r cyngor golli’r ffocws ar ein cymunedau

·         Nid yw’n gweld hyn fel newid er gwell

 

Ar y pwynt hwn (11.05 a.m.) cafwyd egwyl o 10 munud er mwyn i grwpiau gwleidyddol drafod y bleidlais.

 

Ailddechreuodd y cyfarfod am 11.15 a.m.

 

Cafwyd pleidlais wedi’i chofnodi, fel a ganlyn:

 

O blaid dileu cydbwysedd gwleidyddol y Cabinet – y Cynghr. Mabon ap Gwynfor, Brian Blakeley, Joan Butterfield, Jeanette Chamberlain-Jones, Ellie Chard, Meirick Lloyd Davies, Alan  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

ADOLYGIAD BLYNYDDOL O’R CYFANSODDIAD pdf eicon PDF 274 KB

Ystyried adroddiad gan Bennaeth y Gyfraith, Adnoddau Dynol a Gwasanaethau Democrataidd (copi’n amgaeedig) i adolygu darpariaethau’r Cyfansoddiad.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gyfraith, AD a Gwasanaethau Democrataidd adroddiad ar yr Adolygiad Blynyddol o’r Cyfansoddiad (a gylchredwyd ymlaen llaw).

 

Gofynnir i’r Pwyllgor, fel rhan o'i gylch gorchwyl, i fonitro ac adolygu Cyfansoddiad y Cyngor. Mae’r diwygiadau sydd eu hangen yn ystyried penderfyniadau’r Cyngor a’r Cabinet ac unrhyw newid deddfwriaethol neu weithredol sydd wedi digwydd ers yr adolygiad diwethaf.

 

Soniodd Pennaeth y Gyfraith, AD a Gwasanaethau Democrataidd am y newidiadau sydd wedi’u gwneud a’u hadrodd.

 

Mae cyfansoddiad modern ac addas i'r diben yn rhoi sicrwydd ar lywodraethu a gwneud penderfyniadau, ymddygiad moesegol, ac yn caniatáu i'r cyhoedd a thrydydd partïon weld pwy yw'r gwneuthurwr penderfyniadau cyfrifol ar faterion sy'n effeithio arnynt, gan gefnogi'r Cyngor i gyflawni ei flaenoriaethau corfforaethol.

 

Yn dilyn trafodaeth fer:

 

PENDERFYNWYD –

(i)            Bod yr Aelodau yn nodi ac yn cymeradwyo’r newidiadau i’r Cyfansoddiad a amlinellir yn Atodiad 1.

(ii)          Bod yr Aelodau yn cymeradwyo’r cylch gorchwyl diwygiedig ar gyfer Llywodraethu Corfforaethol fel yr amlinellir yn Atodiad 2.

 

 

 

6.

ADOLYGIAD CYFLOG Y CYDGYNGOR CENEDLAETHOL (NJC) 2018-20 pdf eicon PDF 332 KB

Ystyried adroddiad gan Rheolwr y Gwasanaethau AD (copi'n amgaeedig) I gymeradwyo Adolygiad Cyflog yr NJC 2018-20.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod Arweiniol Safonau Corfforaethol, y Cyng. Mark Young, yr adroddiad (a gylchredwyd ymlaen llaw) yn ymwneud â Chytundeb Cyflog yr NJC ar gyfer 2018-20 a’r cynigion o ran sut y dylid ei weithredu gan y Cyngor.

 

Mae Cytundeb Cyflog yr NJC yn gofyn i ni fabwysiadu colofn gyflog newydd y mae angen i'r Cyngor Llawn gytuno arni.

 

Mae gwaith wedi’i wneud gan yr Undebau Llafur a’r cyflogwyr. Maent wedi ystyried y ffordd orau i symud staff i’r colofn gyflog newydd. Dewis 2 – dyfarnu’r cynyddiad blynyddol ar y colofn gyflog bresennol ac yna symud i’r colofn gyflog newydd – yw’r dewis gorau. Mae cynnig ffurfiol y grŵp wedi’i gyflwyno i’r CBYLl ar 6 Chwefror 2019, a oedd yn argymell bod y Cyngor Llawn yn mabwysiadu’r dewis hwn.

 

Croesawodd y Grŵp Llafur yr adolygiad cyflog newydd oherwydd y byddai gweithwyr Sir Ddinbych yn ennill cyflog byw neu uwch. Maent hefyd yn dymuno cael adroddiad arall yn ddiweddarach yn y flwyddyn ar gyflog byw go iawn ar gyfer is-gontractwyr.

 

Diolchodd yr Aelodau i Reolwr y Gwasanaethau AD, ei thîm a’r Undebau Llafur am eu gwaith.

 

PENDERFYNWYD:

(i)            Bod y Cyngor yn dyfarnu’r codiad cyflog blynyddol sy’n dyledus i staff ar yr hen strwythur cyflog ac yn cymhathu â’r strwythur cyflog newydd ar 1 Ebrill 2019.

(ii)          Tynnu 2 bwynt isaf Graddfa 5 (SCP 8 a 9) a 2 bwynt isaf Graddfa 6 (SCP 15 ac 16).

(iii)         Bod y Cyngor yn cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les fel rhan o’i ystyriaethau.

 

 

 

 

 

 

 

7.

TRETH Y CYNGOR 2019/20 A MATERION CYSYLLTIEDIG pdf eicon PDF 273 KB

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Cyllid (copi'n amgaeedig) i bennu lefelau Treth y Cyngor ar gyfer 2019/20.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Cyllid Perfformiad ac Asedau Strategol, y Cyng. Julian Thompson-Hill, adroddiad (a gylchredwyd ymlaen llaw) i osod lefelau Treth y Cyngor 2019/20.

 

Cyfeiriodd y Cyng. Thompson-Hill at y canlynol yn benodol:

·         Brif nodweddion y gyllideb a gymeradwywyd ar 29 Ionawr 2018

·         Sylwadau’r Prif Swyddog Cyllid ar gryfder yr amcangyfrifon cyllidebol

·         Dadansoddiad o'r praeseptau gan Gynghorau Dinas, Tref a Chymuned a Chomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru

·         Argymhellion ar gyfer lefelau Treth y Cyngor 2019/120

·         Cynnydd o £1.085 miliwn mewn arian i ysgolion

·         Darparu £2 filiwn i gydnabod y pwysau ariannol parhaus sy’n wynebu darpariaeth gofal cymdeithasol oedolion a phlant

 

Soniwyd am y mater o daliad Treth y Cyngor gan blant sy'n derbyn gofal a rhoddwyd gwybod i’r Aelodau nad yw'r mater yn briodol ar gyfer y cyfarfod presennol ac y byddai Hysbysiad o Gynnig nei gais i drafod y mater mewn pwyllgor craffu yn fwy priodol.

 

Yn dilyn y drafodaeth:

 

PENDERFYNWYD bod y Cyngor yn:

(i)            Nodi ei bod yn ofynnol i'r Cyngor Sir, fel yr Awdurdod Bilio, ystyried y praeseptau a dderbyniwyd gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru a'r Cynghorau Tref/Cymuned a chyhoeddi lefelau Treth y Cyngor ar gyfer blwyddyn ariannol 2019/20.

(ii)          Cymeradwyo'r argymhelliad bod y symiau a gyfrifwyd gan y Cyngor ar gyfer blwyddyn ariannol 2019/20, yn unol ag Adrannau 32 i 34 (1) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (y Ddeddf) a'r Rheoliadau Addasu Cyfrifiadau Angenrheidiol (Cymru) 2008, fod fel y nodwyd adran 3 Atodiad A.

(iii)         Cymeradwyo’r argymhelliad bod y symiau a gyfrifwyd gan y Cyngor ar gyfer blwyddyn ariannol 2019/20, yn unol ag Adrannau 34 (2) i 36 (1) Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (y Ddeddf), fod fel y nodwyd yn Adran 4 Atodiad A.

(iv)         Bod symiau Treth y Cyngor ar gyfer blwyddyn ariannol 2019/20 ar gyfer pob un o'r categorïau o anheddau fel y’u cyflwynir yn Atodiad C.

(v)          Bod lefel y gostyngiad ar gyfer Dosbarth A, B ac C fel a nodir yn Rheoliadau Treth y Cyngor (Dosbarthau Rhagnodedig ar Anheddau) (Cymru) 2004 yn cael ei gosod ar sero ar gyfer blwyddyn ariannol 2019/20 gyda'r cafeat bod hyn yn ddibynnol ar nad oes newidiadau i ddeddfwriaeth nac amodau lleol.

 

 

 

8.

CYNLLUN CYFALAF 2018/19 - 2021/22 AC ARGYMHELLION Y GRWP BUDDSODDI STRATEGOL pdf eicon PDF 308 KB

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Cyllid (copi’n amgaeedig) i ddarparu Cynllun Cyfalaf diwygiedig i’r Aelodau gan gynnwys diweddariad ar brosiectau mawr a'r Cynllun Corfforaethol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol, y Cyng. Julian Thompson-Hill, yr adroddiad (a gylchredwyd ymlaen llaw) i ddarparu’r Cynllun Cyfalaf diweddaraf i’r Aelodau ynghyd â ddiweddariad ar brosiectau mawr a'r Cynllun Corfforaethol.

 

Rhoddwyd adroddiad i’r Cyngor ar y Cynllun Cyfalaf llawn ym mis Chwefror 2018. Mae diweddariadau misol wedi’u rhoi i’r Cabinet. Roedd y Cynllun Cyfalaf amcangyfrifedig bellach yn £54.27 miliwn. Mae’r Cynllun wedi’i ddiweddaru ers adrodd arno i'r Cabinet ar 22 Ionawr 2019.

 

Arweiniodd y Cyng. Thompson-Hill yr Aelodau drwy'r adroddiad.

 

Ymatebodd yr Arweinydd a’r Pennaeth Cyllid i’r cwestiynau ynglŷn ag amrywiol agweddau o’r Cynllun Cyfalaf. Roedd prif feysydd trafod yn canolbwyntio ar y canlynol:

·         Cododd y Cyng. Mabon ap Gwynfor fater am gynnal a chadw Pont y Ddraig, y Rhyl, a gofynnodd am sicrwydd na fyddai hyn yn digwydd eto.

Cadarnhaodd y Cyng. Joan Butterfield bod Bwrdd wedi’i sefydlu i ddelio gyda phob agwedd ar y bont.

Cadarnhaodd y Prif Weithredwr bod y bont yn brosiect unigryw a bod yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth wedi comisiynu adroddiad “gwersi a ddysgwyd” i sicrhau y bydd y broses yn cael ei defnyddio ar gyfer bob prosiect yn y dyfodol.

·         Model buddsoddiadau cydfuddiannol – pa ystyriaethau sydd wedi’u gwneud?

Mae’r Cyngor wedi ystyried hyn fel rhan o’r drafodaeth Band B ar gyfer Ysgolion yr 21ain Ganrif. Y penderfyniad oedd peidio â chymryd rhan gan fod y cynllun yn debyg i gynllun ariannu preifat.

·         Cadarnhawyd bod system rheoli prosiectau (VERTO) ar waith i sicrhau bod popeth yn gyfredol.

Mae yna hefyd nifer o Reolwyr Prosiect. Mae goblygiadau refeniw cynlluniau’r Cabinet yn cael eu hasesu’n rheolaidd.

 

Yn dilyn trafodaeth:

 

PENDERFYNWYD:

(i)            Bod yr Aelodau yn nodi’r sefyllfa ddiweddaraf ar elfen 2018/19 y Cynllun Cyfalaf a’r diweddariad ar brosiectau mawr.

(ii)          Bod yr Aelodau'n cefnogi argymhelliad y Grŵp Buddsoddi Strategol fel y nodir yn Atodiad 5 a chrynhoir yn Atodiad 6.

(iii)         Bod yr Aelodau yn cymeradwyo Cynllun Cyfalaf 2019/20.

(iv)         Members approve the Capital Strategy Report for 2019/20 as detailed in Appendix 7

 

 

 

9.

DATGANIAD STRATEGAETH RHEOLI TRYSORLYS 2019/20 A DANGOSYDDION DARBODUS 2019/20 - 2021/22 pdf eicon PDF 216 KB

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Cyllid (copi’n amgaeedig) i geisio cymeradwyaeth y Cyngor ar gyfer Datganiad Strategol Rheoli Trysorlys 2019/20 a Dangosyddion Darbodus 2019/20 – 2021/22

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol, y Cyng. Julian Thompson-Hill, adroddiad (a gylchredwyd ymlaen llaw) i’r Cyngor gymeradwyo Datganiad Strategaeth Rheoli Trysorlys 2019/20 A Dangosyddion Darbodus 2019/20 - 2021/22.

 

Mae Cod Ymarfer y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth ar Reoli Trysorlys yn gofyn i'r Cyngor gymeradwyo'r Datganiad uchod a'r Dangosyddion Darbodus yn flynyddol.

 

Cafwyd ymholiad yn ystod y drafodaeth gan y Cyng. Huw Jones o ran pam mai Natwest yw banc y Cyngor gan eu bod nhw’n cau canghennau lleol ac a ddylai’r Cyngor fancio gyda sefydliad sy’n cefnogi’r sir.

 

Dywedodd y Pennaeth Cyllid bod y contract gyda Natwest am dair blynedd arall. Nid yw cau canghennau lleol yn effeithio ar fancio corfforaethol. Pwysleisiodd hefyd nad yw pob banc yn derbyn busnes Awdurdodau Lleol. O’r gwaith ymchwil sydd wedi’i wneud, mae’r rhaglen cau banciau yn un cyffredinol ac wedi’i gwahanu oddi wrth ofynion corfforaethol.

 

Gofynnodd y Cyng. Merfyn Parry am eglurhad manwl ynghylch pam bod y Cyngor wedi llofnodi contract gyda banc am dair blynedd oherwydd, yn ei farn ef, y dylai'r Cyngor gael ei weld yn cefnogi banciau o fewn y sir.

 

Cadarnhawyd y byddai eglurhad manwl yn cael ei anfon at y cynghorwyr.

 

Yn dilyn y drafodaeth, diolchodd yr Aelodau i’r Pennaeth Cyllid, Richard Weigh a'i dîm, ynghyd â'r Cyng. Julian Thompson-Hill am eu holl waith caled.

 

PENDERFYNWYD bod y Cyngor yn:

(i)            Cymeradwyo Datganiad Strategaeth Rheoli Trysorlys 2019/20 a fanylir yn Atodiad 1 yr adroddiad.

(ii)          Cymeradwyo gosod Dangosyddion Darbodus ar gyfer 2019/20, 2020/21 a 2021/22 a fanylir yn Atodiad 1 yr adroddiad.

(iii)         Cymeradwyo’r Datganiad Darpariaeth Isafswm Refeniw fel y manylir yn Adran 6 Atodiad 1 yr adroddiad.

(iv)         Cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les, fel y manylir yn Atodiad 2 yr adroddiad, fel rhan o'i ystyriaethau.

 

 

 

10.

RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL Y CYNGOR SIR pdf eicon PDF 335 KB

Ystyried Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cyngor (copi i ddilyn).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gyfraith, AD a Gwasanaethau Democrataidd Raglen Gwaith i'r Dyfodol y Cyngor (a gylchredwyd ymlaen llaw).

 

Cadarnhawyd bod newidiadau wedi’u gwneud i gyfarfodydd 28 Mawrth 2019 a 9 Ebrill 2019 fel a ganlyn:

 

28 Mawrth 2019

·         Cyflog Uwch Swyddogion

·         Adolygiad Blynyddol o Gydbwysedd Gwleidyddol

·         Adroddiad Blynyddol Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol

·         Trefniadau ar gyfer ethol Cadeirydd ac Is-gadeirydd

·         CBYLl a’r Pwyllgor Iechyd, Diogelwch a Lles Corfforaethol

 

9 Ebrill 2019

·         Cynllun Datblygu Lleol

 

14 Mai 2019

·         Mae adroddiad blynyddol y Pwyllgor Safonau wedi’i symud o gyfarfod 28 Mawrth i gyfarfod 14 Mai 2019.

 

2 Gorffennaf 2019

·         Mae Amserlen Pwyllgorau 2020 wedi’i symud o gyfarfod 14 Mai i gyfarfod 2 Gorffennaf 2019

 

Cadarnhaodd Pennaeth y Gyfraith, AD a Gwasanaethau Democrataidd y bydd sesiwn friffio i Aelodau yn cael ei chynnal ar 13 Mawrth 2019 ac y bydd sesiwn friffio nesaf y Cyngor yn cael ei chynnal ar 18 Mawrth 2019.

 

PENDERFYNWYD yn amodol ar yr uchod, y dylid cymeradwyo a nodi Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cyngor.

 

 

 

 

Daeth y cyfarfod i ben am 12.35 p.m.