Agenda and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun LL15 1YN
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDDIHEURIADAU Cofnodion: Cyflwynwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr Peter Evans, Hugh Irving, Alan James, Tina Jones, Geraint Lloyd-Williams, Richard Mainon, Merfyn Parry a Paul Penlington. |
|
DATGANIADAU O FUDDIANT Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu ag unrhyw fater a nodwyd yn un i'w ystyried yn y cyfarfod hwn Cofnodion: Ni chafodd unrhyw
gysylltiad ei ddatgan. |
|
GWAHARDD Y WASG A'R CYHOEDD PENDERFYNWYD - Yn unol ag Adran 100A (4) Deddf
Llywodraeth Leol 1972, bod y Wasg a'r Cyhoedd yn cael eu gwahardd o'r cyfarfod
tra bod yr eitem ganlynol o fusnes yn cael ei hystyried, oherwydd ei bod yn
debygol y bydd gwybodaeth eithriedig yn cael ei datgelu (fel y'i diffinnir ym
mharagraff 12 ac 14 o Ran 4, Atodlen 12A y Ddeddf). |
|
PENODI PRIF WEITHREDWR PDF 496 KB Cyfweld ymgeiswyr ac ystyried penodi i swydd Prif Weithredwr. Bydd Panel Penodi Arbennig yn penderfynu ar nifer yr ymgeiswyr i gael eu cyfweld. Cofnodion: Bu i ymgynghorydd recriwtio’r Cyngor adrodd ar y broses recriwtio a gynhaliwyd, a arweiniodd at nifer fawr o geisiadau a rhestr fer o 6 ymgeisydd ar gyfer y broses asesu. Cynghorwyd Aelodau bod Panel Penodiadau Arbennig o gynghorwyr wedi nodi dau ymgeisydd gyda’r potensial i gael eu penodi, ac fe'u gwahoddwyd i fynychu cyfarfod y Cyngor heddiw.
Rhoddodd y ddau ymgeisydd gyflwyniad i’r Cyngor ac ymateb i gyfres o gwestiynau gan yr aelodau; cafodd y ddau ymgeisydd yr un cwestiynau.
Wedi i’r ddau ymgeisydd adael y Siambr, trafododd yr aelodau eu cyflwyniadau, ymatebion i’r cwestiynau a’u perfformiad yn ystod y broses asesu.
PENDERFYNWYD – penodi Judith
Greenhalgh i swydd Prif Weithredwr Cyngor Sir Ddinbych. |