Agenda and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun LL15 1YN
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Dogfennau ychwanegol: |
|
DATGAN CYSYLLTIAD Aelodau i ddatgan
unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu yn y busnes a nodwyd
i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Datganodd y
Cynghorydd Christine Marston gysylltiad personol sy’n rhagfarnu ag Eitem 6 –
Premiwm Treth y Cyngor ar Gartrefi Gwag Hirdymor ac Ail Gartrefi, gan ei bod yn
berchen ar ail gartref. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys
yn unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim eitemau brys. Ar y pwynt hwn,
dywedwyd wrth yr Aelodau y byddai tri chwestiwn yn cael eu cyflwyno fel a
ganlyn: (i)
Cododd
y Cynghorydd Glenn Swingler y cwestiwn canlynol: “Fyddai modd i’r Aelod Arweiniol roi diweddariad i’r Cyngor ar y gwaith
arfaethedig o adeiladu 7 tŷ a 4 fflat fel tai cymdeithasol ar safle
fflatiau Pennant, Stryd Henllan, Dinbych Uchaf, gan egluro pam ei bod yn
ymddangos fod yna oedi pellach?” Ymatebodd y Cynghorydd Tony Thomas, Aelod Arweiniol Tai, Rheoleiddio a’r
Amgylchedd fel a ganlyn: “Cynhaliwyd ymweliadau safle oedd yn cynnwys yr Aelod Arweiniol, swyddogion
a Rheolwr y Rhaglen, Datblygiad Tai.
Rhoddodd Rheolwr y Rhaglen ddiweddariad i’r Aelodau am y sefyllfa
bresennol. Roedd Grŵp Cynefin am
gyflwyno cais cynllunio, ond roedd rhaid cynnal asesiadau pellach i fodloni’r
broses gynllunio”. Nododd y Cynghorydd Glenn Swingler na fu Grŵp Cynefin yn llwyddiannus
yn eu cais i gael cyllid arloesol, ond eu bod wrthi'n gwneud cais am gyllid
pellach gan Lywodraeth Cymru. Gofynnodd
y Cynghorydd Swingler tybed a oedd unrhyw beth y gallai’r Cyngor ei wneud i
helpu Grŵp Cynefin. Ar y pwynt hwn, cadarnhaodd y Cynghorydd Tony Thomas y byddai’n paratoi
ymateb ysgrifenedig i’r Cynghorydd Glenn Swingler maes o law. (ii)
Cododd
y Cynghorydd Mabon ap Gwynfor y cwestiwn canlynol: “Yn dilyn y cyhoeddiad fod Allied Healthcare yn trosglwyddo ei gontractau
gofal i ddarparwyr eraill, beth yw’r sefyllfa yn Sir Ddinbych i bobl oedd yn
derbyn gofal gan Allied Healthcare, a pha gamau mae’r Cyngor wedi’u cymryd i
sicrhau parhad yng ngofal y bobl hyn?” Ymatebodd y Cynghorydd Bobby Feeley, Aelod Arweiniol Lles ac Annibyniaeth
fel a ganlyn: “Mae Allied Healthcare wedi gwerthu eu hasedau busnes i gwmni o’r enw The
Health Care Resource Group. Golyga hyn
bod y rheolwyr a’r staff sy’n gweithio yn Sir Ddinbych ar hyn o bryd yn parhau
yn eu swyddi, gan ddarparu parhad yng ngofal y tri ar ddeg o bobl y maent yn
rhoi cymorth iddynt yn y sir. Mae
profion diwydrwydd dyladwy wedi cael eu cynnal ac mae Arolygiaeth Gofal Cymru
wedi hysbysu’r perchennog newydd am ei gyfrifoldebau i gofrestru gyda nhw. Rydym yn parhau i fonitro’r sefyllfa ac os na
fyddant yn cofrestru, byddwn yn cymryd camau pellach i sicrhau bod anghenion
gofal a chymorth unigolion yn cael eu bodloni’n briodol.” Gofynnod y Cynghorydd Mabon ap Gwynfor am ymateb pellach yn nodi a fyddai
The Health Care Resource Group yn cael eu trwyddedu yng Nghymru. Gofynnodd hefyd a roddwyd ystyriaeth i ddod
â hyn yn ôl yn fewnol yn hytrach na'i roi ar gontract allanol. Cadarnhaodd yr Aelod Arweiniol y byddai’n darparu gwybodaeth bellach pan
fyddai ar gael iddi. (iii)
Cododd
y Cynghorydd Rhys Thomas y cwestiwn canlynol: “Ym mis Medi eleni, anfonwyd llythyr i un o rieni Ysgol Twm o’r Nant yn
gofyn am daliad ôl-ddyledion arian cinio o £13.20. Roedd y llythyr yn bygwth,
os na fyddai’r arian yn cael ei dalu neu becyn cinio yn cael ei ddarparu ar
gyfer y plentyn, y byddai hyn yn cael ei amlygu fel mater amddiffyn plant, ac y
byddai atgyfeiriad yn cael ei wneud ar unwaith i Dîm Plant Gwasanaethau
Cymdeithasol Sir Ddinbych. Mewn
gwirionedd, nid yn uniongyrchol o'r ysgol y daeth y llythyr, ond gan Gyngor Sir
Ddinbych. Ar 27 Tachwedd eleni, anfonwyd llythyr arall yn enw Cyngor Sir Ddinbych i
rai o rieni Ysgol y Parc yn nodi, os na fyddai ôl-ddyledion arian cinio’n cael
eu talu, na fyddai eu plant yn cael cinio Nadolig yr ysgol, hyd yn oed pe baent
yn dod â'r arian ar y diwrnod i dalu amdano. Tybed fyddai modd i’r ... view the full Cofnodion text for item 3. |
|
DYDDIADUR Y CADEIRYDD PDF 209 KB Nodi ymrwymiadau
dinesig a ymgymerwyd gan Gadeirydd y Cyngor (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd rhestr o ddigwyddiadau dinesig a fynychwyd
gan y Cadeirydd a’r Is-gadeirydd ar gyfer y cyfnod rhwng 14 Hydref 2018 a 21
Tachwedd 2018 wedi’i dosbarthu cyn y cyfarfod. Diolchodd y
Cadeirydd i’r holl Aelodau oedd wedi gosod torch flodau ar 11 Tachwedd 2018 a
diolchwyd hefyd i’r Is-gadeirydd a fynychodd ymweliad ysgol i Neuadd y Sir ar
21 Tachwedd 2018. PENDERFYNWYD derbyn
y rhestr o ddigwyddiadau dinesig y bu i’r Cadeirydd a'r Is-gadeirydd eu
mynychu. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Cyngor Sir a gynhaliwyd ar 23 Hydref 2018 (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod y Cyngor Llawn a gynhaliwyd ar 23 Hydref 2018. Cywirdeb –
Tynnodd y Cynghorydd Gwyneth Kensler sylw at Dudalen 1 y cofnodion Saesneg, dan
Eitem 1 – roedd gwall sillafu yn y paragraff ar y ddeiseb, ac fe ddylai
ddarllen fel a ganlyn: “a petition was handed in by Councillor Joan Butterfield
on behalf of ....” yn hytrach na “on behave of...” Materion yn Codi: Tudalen 10 (Eitem
3) – Gofynnodd y Cynghorydd Arwel Roberts i’r Aelod Arweiniol Tai, Rheoleiddio
a’r Amgylchedd beth oedd y sefyllfa gyfredol mewn perthynas â’r Swyddog
Cartrefi Gwag. A benodwyd swyddog, a beth
oedd yr amserlen? Ymatebodd y
Cynghorydd Tony Thomas, yr Aelod Arweiniol, bod y rhaglen ar gyfer cartrefi
gwag ar y trywydd cywir i gyrraedd ei dargedau, ond nad oedd yna swyddog
penodol i ddelio â chartrefi gwag. PENDERFYNWYD yn
amodol ar yr uchod, cadarnhau cofnodion cyfarfod y Cyngor Llawn a gynhaliwyd ar
23 Hydref 2018 fel cofnod cywir a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi. |
|
PREMIWM TRETH Y CYNGOR AR GARTREFI GWAG HIRDYMOR AC AIL GARTREFI PDF 229 KB Ystyried
adroddiad gan Bennaeth Cyllid (copi ynghlwm) i gynyddu ffioedd Treth y Cyngor
ar gartrefi gwag hirdymor ac ail gartrefi o ganlyniad i Ddeddf Tai (Cymru)
2014. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Datganodd y
Cynghorydd Christine Marston gysylltiad personol sy'n rhagfarnu gan ei bod yn
berchen ar ail gartref, a gadawodd Siambr y Cyngor tra trafodwyd yr eitem hon. Cyflwynodd y
Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau
Strategol, yr adroddiad ar Bremiwm Treth y Cyngor ar Gartrefi Gwag Hirdymor ac
Ail Gartrefi (a ddosbarthwyd ymlaen llaw).
O ganlyniad i
Ddeddf Tai (Cymru) 2014, o 1 Ebrill 2017 ymlaen rhoddwyd pwerau i gynghorau yng
Nghymru i godi hyd at 100% yn ychwanegol o Dreth y Cyngor ar gartrefi gwag
hirdymor ac ail gartrefi. Bwriad y ddeddfwriaeth oedd: ·
helpu
ailddefnyddio cartrefi gwag ·
cynyddu'r
cyflenwad o dai fforddiadwy ·
gwella
cynaliadwyedd cymunedau lleol Yng nghyfarfod y
Cyngor Llawn ar 5 Rhagfyr 2017, cytunwyd i ddefnyddio’r pwerau hynny, a
phenderfynwyd ar y canlynol:- ·
Codi
ardoll Treth y Cyngor o 50% yn ychwanegol ar gartrefi gwag hirdymor o fis
Ebrill 2018 ymlaen ·
Codi
ardoll Treth y Cyngor o 50% yn ychwanegol ar ail gartrefi o fis Ebrill 2019
ymlaen (yn ôl y ddeddfwriaeth, rhaid rhoi 12 mis o rybudd am unrhyw newid i
berchnogion ail gartrefi) Ailgyflwynwyd yr
adroddiad ger bron y Cyngor i adolygu'r sefyllfa drwy gydol yr wyth mis
diwethaf. Gwelwyd effaith
weinyddol ar hyd y flwyddyn oedd yn cynnwys: ·
Cynnydd
mewn ymweliadau archwilydd eiddo er mwyn gwahaniaethu rhwng cartrefi gwag ac
ail gartrefi. Nes i’r premiwm gael ei gymhwyso ar gyfer y
ddau ddosbarthiad o eiddo, roedd rhai cartrefi wedi cael eu hailddosbarthu o
fod yn gartrefi gwag i fod yn ail gartrefi yn ystod y flwyddyn, ac ymwelwyd â
nhw fel rhan o'r broses. ·
Gwelwyd cynnydd mewn ymholiadau dros y ffôn i
gychwyn, ond mae hyn bellach wedi sefydlogi. ·
Cafwyd
pump o gwynion Cam 1 er na chafodd yr un ohonynt eu hategu na’u symud ymlaen i
Gam 2. Amlygwyd
ystadegau data o fewn yr adroddiad a ddangosodd leihad yn nifer yr eiddo gwag hirdymor,
er bod y nifer sy’n gymwys i dalu premiwm wedi cynyddu. Gwelwyd hefyd gynnydd yn yr eiddo a ystyriwyd
yn ail gartrefi, sy’n awgrymu rhywfaint o ailddosbarthu eiddo rhwng y
categorïau yn ystod y flwyddyn. Roedd nifer yr
eiddo sy’n gymwys am y premiwm cartrefi gwag hirdymor yn uwch na’r hyn a
ragwelwyd, a chafodd hyn ganlyniad a amcangyfrifwyd ar y sylfaen drethu. Awgrymodd y rhagolygon y byddai’r effaith ar
incwm o Dreth y Cyngor tua £238k mewn blwyddyn lawn, o’i gymharu â’r rhagolwg o
£99k a gyfrifwyd y llynedd. Roedd nifer
yr eiddo sydd bellach yn cael eu hystyried yn ail gartrefi yn uwch na’r
amcangyfrif gwreiddiol. Byddai effaith
hyn ar yr incwm, gan ddefnyddio'r un rhagdybiaethau â Rhagfyr 2017, yn
cynhyrchu tua £158k. Cadarnhawyd bod
tua 90 o dai bellach yn cael eu hailddefnyddio, ond roedd angen dilysiad
pellach o hyn. Ar y pwynt hwn yn
y drafodaeth, cadarnhaodd y Pennaeth Cyllid bod Swyddog Cartrefi Gwag yn cael
ei gyflogi, yn groes i’r datganiad a gafwyd yn gynharach yn y cyfarfod. Yn dilyn
trafodaeth: PENDERFYNWYD y
byddai’r Cyngor yn: (i)
nodi cynnwys yr adroddiad ac yn cadw at y
lefel bresennol o ardoll a gytunwyd, sef 50% yn ychwanegol o bremiwm Treth y
Cyngor ar eiddo gwag hirdymor (ii)
mynd ati i weithredu’r premiwm Treth y Cyngor
ychwanegol o 50% ar ail gartrefi o fis Ebrill 2019 ymlaen, fel y cytunwyd |
|
Ystyried
adroddiad gan Bennaeth Cyllid (copi ynghlwm) i ddarparu gwybodaeth ac ystyried
goblygiadau talu’r Cyflog Byw Go Iawn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd Mark Young, Aelod Arweiniol Safonau Corfforaethol, adroddiad (a
ddosbarthwyd ymlaen llaw) i ddarparu gwybodaeth am ac i ystyried goblygiadau
talu Cyflog Byw Go Iawn (RLW) a dod yn gyflogwr RLW achrededig. Cadarnhaodd yr
Aelod Arweiniol bod gwaith a thrafodaethau yn mynd rhagddynt mewn perthynas â’r
strwythur cyflog diwygiedig o Ebrill 2019 ymlaen, i ymgorffori’r newidiadau a
gyflwynwyd gan y Dyfarniad Cyflog Llywodraeth Leol. Ar y pwynt hwn,
cafwyd gwybodaeth am yr heriau ariannol gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill,
Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol. Byddai ansicrwydd wrth symud ymlaen os byddai
Cyngor Sir Ddinbych yn dod yn gyflogwr RLW achrededig, gan y byddai angen i’r
Cyngor warantu y byddai pob cyflenwr a chontractwr sy'n delio â Sir Ddinbych
hefyd yn cael RLW. Un o’r goblygiadau
mwyaf o ran cost fyddai’r sector gofal, fyddai’n cynyddu o £1 miliwn-£1.5
miliwn, a gallai hyn arwain at gwtogi mewn meysydd gwasanaeth eraill. Ar y pwynt hwn,
cyflwynodd y Cynghorydd Graham Timms ddau ddiwygiad i’r argymhellion. Y diwygiad cyntaf oedd i gyflwyno adroddiad
diweddaru ar RLW i’r Cyngor Llawn ym mis Gorffennaf 2019, ond yn dilyn
trafodaeth, cytunwyd y byddai’r adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor Llawn
ym mis Rhagfyr 2019. EILIWYD y
diwygiadau gan y Cynghorydd Cheryl Williams. Dyma’r
diwygiadau: (i)
Mae
Cyngor Sir Ddinbych yn cytuno y bydd pob gweithiwr, o Ebrill 2019 ymlaen, yn
ennill o leiaf isafswm y cyflog byw go iawn a osodwyd gan y Sefydliad Cyflog
Byw Go Iawn erbyn y mis Ebrill yn dilyn cyhoeddi canlyniad y cyfrifiad
blynyddol newydd. (ii)
Mae
Cyngor Sir Ddinbych hefyd yn cytuno i ofyn i’w swyddogion baratoi adroddiad ar
gyfer y Cyngor Llawn ym mis Rhagfyr 2019, sy’n amlinellu sut y gallai’r Cyngor
symud tuag at y nod o sicrhau fod pawb sy’n gweithio i’r Cyngor, yn
uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, yn cael cyflog byw go iawn o leiaf. Dylai’r adroddiad hwnnw gynnwys costau ac
amcangyfrifon i alluogi'r Cyngor i wneud penderfyniad cytbwys ar y mater. Yn ystod y
drafodaeth codwyd y materion canlynol: ·
Cadarnhawyd,
mewn perthynas â thalu staff, fod y fargen gyflog genedlaethol yn golygu y
byddai’r RLW neu gyfwerth yn cael ei dalu ym mis Ebrill 2019. Yn yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae pen
isaf y raddfa wedi cynyddu o ganran llawer uwch na chyflogau yn uwch i fyny ar
y raddfa gyflog. Mae hyn wedi achosi cywasgiad yn y graddfeydd, sydd wedi golygu cytuno ar
golofn gyflog newydd yn genedlaethol, fyddai’n cychwyn o Ebrill 2019
ymlaen. Roedd trafodaethau’n mynd
rhagddynt gydag undebau o ran y broses o drosglwyddo staff oddi ar y graddfeydd
cyflog presennol i’r graddfeydd cyflog newydd. ·
Byddai’r
mater o warantu talu’r RLW bob amser, fel y soniwyd yn flaenorol, yn achosi
sefyllfa lle byddai’r graddfeydd is yn codi i fod yn hafal i raddfa uwch. Byddai hyn yn achosi anniddigrwydd ymysg staff oherwydd diflaniad y
gwahaniaeth cyflog. ·
O ran
cwmnïau allanol sy'n gweithio i Sir Ddinbych, byddai hyn yn achosi problemau
caffael, gan y byddai angen eu harchwilio a'u monitro. Gellid dod â gwybodaeth mewn perthynas â’r mater hwn yn ôl fel gwybodaeth
bellach. ·
Cadarnhawyd
mai Cyngor Dinas Caerdydd oedd yr unig gyflogwyr RLW achrededig yng Nghymru. Ar y pwynt hwn,
cynhaliwyd pleidlais, a dyma’r canlyniadau: (i)
O
blaid yr argymhellion ynghyd â’r 2 ddiwygiad - 33 (ii)
Ymatal
– 0 (iii)
Yn
erbyn yr argymhellion ynghyd â’r 2 ddiwygiad – 10 Felly: PENDERFYNWYD: (i)
Y byddai’r Cyngor yn nodi goblygiadau cost
tybiedig talu’r Cyflog Byw Go Iawn a dod yn gyflogwr Cyflog Byw Go Iawn (ii) Y byddai’r Cyngor yn cael adroddiad ym mis Rhagfyr 2019 ar argymhelliad y Sefydliad ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|
Ar y pwynt hwn,
cytunodd pawb oedd yn bresennol i newid trefn yr eitemau oedd ar ôl ar y
rhaglen er mwyn y rhai oedd yn mynychu’r cyflwyniad Heart for Arts. |
|
GWOBR HEARTS FOR ARTS Cyflwyniad gan
Samuel West, o Ymgyrch Cenedlaethol Gwobr Hearts for Arts ar gyfer Prosiect Celfyddydau
Gorau gan Awdurdod Lleol sy'n Annog Cydlyniant Cymunedol ar gyfer prosiect
Ymgolli mewn Celf. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn bresennol,
Samuel West, actor, seren ffilmiau, teledu a radio, i gyflwyno gwobr
gelfyddydol fawreddog i Gyngor Sir Ddinbych. Cyflwynodd Samuel
West, Cadeirydd Ymgyrch Genedlaethol y Celfyddydau, Wobr Heart for the Arts i’r
Cyngor, sef gwobr y Prosiect Celfyddydol Awdurdod Lleol Gorau, am annog
cydlyniant cymunedol gyda’i brosiect Ymgolli mewn Celf. Mae Ymgolli mewn
Celf yn brosiect celfyddydau gweledol i bobl sy’n byw gyda dementia a’u
gofalwyr. Nod y prosiect yw archwilio
swyddogaeth y celfyddydau gweledol wrth fynd i’r afael â’r materion a all
effeithio pobl gyda dementia, gan gynnwys ynysiad cymdeithasol, hyder,
cyfathrebu ac ansawdd bywyd. Datblygwyd y
prosiect, a grëwyd gan y Gwasanaeth Celfyddydau, gyda chymorth Cyngor
Celfyddydau Cymru a’r Ganolfan Datblygu Gwasanaethau Dementia ym Mhrifysgol
Bangor a’i brosiect ymchwil, Dementia a’r Dychymyg. Mae dau grŵp yn cael eu cynnal yn Sir
Ddinbych ar hyn o bryd, un yn y Rhyl a’r llall yng Nghanolfan Grefft Rhuthun. Mae gan Samuel,
sy’n fab i’r actorion enwog Timothy West a Prunella Scales, brofiad personol o
dementia gan fod ei fam yn byw gyda’r cyflwr. Nododd Samuel
West fod prosiectau fel Ymgolli mewn Celf yn dod yn fwyfwy pwysig. Wrth i ni fyw’n hirach a dod i arfer â
phroblemau sy’n ymwneud â dementia ac unigrwydd, ein lle ni i gyd yw dathlu’r
pethau hyn a dod â’r gymuned hon ynghyd i’w gwneud yn llai o stigma. Mae’n syniad mor syml ac oherwydd hynny mae’n
bosib ei gyflwyno i fannau eraill. Mae’n
cael ei gyflawni’n dda iawn ac i lefel uchel o gywreinrwydd. Mae’n rhoi amrywiaeth ehangach o wahanol
ffurfiau celf i bobl roi gynnig arnyn nhw.
Mae’n eu galluogi i weithio gydag artistiaid proffesiynol a gwirfoddolwyr
mewn llawer o wahanol ddisgyblaethau.
Nid prosiect ar gyfer y pobl sy’n byw gyda dementia’n unig yw hwn, mae’n
cynnwys eu gofalwyr, eu teuluoedd a’u cymunedau. Nododd y
Cynghorydd Bobby Feeley, Aelod Arweiniol Lles ac Annibyniaeth, gymaint yr oedd
wedi gwirioni cael yr anrhydedd o dderbyn y wobr, gan gydnabod y gwaith anhygoel
sy’n cael ei wneud gyda dementia a’r celfyddydau. Mae gwaith ymchwil wedi dangos fod cymryd
rhan mewn gweithgareddau celf creadigol yn gallu gwella hwyliau a hyder
unigolion, ac yn rhoi mwy o ymdeimlad o berthyn i gymuned iddynt. Roedd yr elfen o
ddod â dwy genhedlaeth ynghyd gydag ysgolion lleol hefyd yn ychwanegiad gwych,
ac roedd pawb oedd yn rhan o hyn yn teimlo boddhad o wybod fod y gwaith hwn wir
yn gwella ansawdd bywyd pawb dan sylw. Bu i’r Aelod
Arweiniol gydnabod gwaith gwych y Gwasanaeth Celfyddydau a thîm creadigol
Ymgolli mewn Celf, a ddyfeisiodd brosiect oedd â buddion iechyd i’r rhai oedd
yn cymryd rhan ynddo, gan ei fod yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i ansawdd
eu bywydau. Diolchodd yr
Aelod Arweiniol a’r Cynghorydd Gwyneth Kensler i Sian Fitzgerald, y Swyddog
Datblygu Celfyddydau Cymunedol, a’i thîm am eu gwaith anhygoel. |
|
ADOLYGIAD ETHOLIADOL SIR DDINBYCH PDF 286 KB Ystyried
adroddiad gan Reolwr y Gwasanaethau Democrataidd (copi ynghlwm) i ddarparu
cynigion drafft Comisiwn Ffiniau a
Democratiaeth Leol Cymru ar gyfer Sir Ddinbych. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd Mark Young, Aelod Arweiniol Safonau Corfforaethol, adroddiad
Adolygiad Etholiadol Sir Ddinbych (a ddosbarthwyd ymlaen llaw), er mwyn rhannu
cynigion drafft Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru ar gyfer Sir
Ddinbych. Roedd Comisiwn
Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (y Comisiwn) wedi cynnal ymgynghoriad yn
2017 ar feini prawf yr adolygiad. Bu i'r
Comisiwn wahodd ymatebion i'w gynigion erbyn 13 Rhagfyr 2018. Roedd y meini
prawf statudol yn cynnwys cydraddoldeb etholiadol (nifer uchaf yr etholwyr i
bob Cynghorydd), hunaniaeth gymunedol a threfniadau llywodraeth leol effeithiol
a hwylus (e.e. wardiau etholiadol cydlynol gyda buddion cyffredin). O fewn Sir
Ddinbych, argymhellodd y Comisiwn gynnydd o 47 i 48 o Gynghorwyr. Byddai’r Cynghorydd ychwanegol yn cael ei
ddarparu ar gyfer ardal De-ddwyrain y Rhyl, yn sgil ei rhannu’n ddwy ward
etholiadol o'r enw Trellewelyn y Rhyl a Tŷ Newydd y Rhyl. Yna, byddai pob ward yn cael ei chynrychioli
gan ddau Gynghorydd. Roedd
Gweithgor o Aelodau a sefydlwyd gydag Arweinwyr y Grwpiau wedi cyfarfod ym mis
Tachwedd 2017 ac Ionawr 2018, ac mae eu hargymhellion i’w gweld yn Atodiad 2 yr
adroddiad. Bu i’r Gweithgor gyfarfod eto ym mis Tachwedd
2018 i adolygu cynigion drafft y Comisiwn, ac mae’r casgliadau i’w gweld yn
Atodiad 3 yr adroddiad. PENDERFYNWYD y
byddai’r Cyngor yn cadarnhau’r ymateb ffurfiol i gynigion drafft y Comisiwn ar gyfer
trefniadau etholiadol Sir Ddinbych. |
|
AROLWG AELODAU YNGHYLCH AMSEROEDD CYFARFODYDD Y CYNGOR PDF 243 KB Ystyried
adroddiad gan Reolwr y Gwasanaethau Democrataidd (copi ynghlwm) i ddarparu
canlyniadau’r Arolwg. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd Mark Young, Aelod Arweiniol Safonau Corfforaethol, yr Arolwg Aelodau
ynghylch Amseroedd Cyfarfodydd y Cyngor (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) er mwyn
rhannu canlyniadau’r Arolwg. Cynhaliwyd arolwg
Aelodau yn ystod misoedd Awst a Medi 2018 i ganfod beth oedd orau ganddynt o
ran amseroedd a lleoliadau cyfarfodydd y Cyngor a Phwyllgorau. Cafwyd cyfanswm o 35 ymateb, oedd yn
cynrychioli 74% o aelodau’r Cyngor. Nododd y
Cynghorydd Paul Penlington fod yr arolwg wedi’i seilio ar Survey Monkey dienw a
oedd yn annemocrataidd, yn ei farn ef, ac roedd y cwestiynau’n rhai arweiniol. Teimlai
nad oedd cyfarfodydd boreol yn Rhuthun yn ffafriol i fwyafrif pobl Sir Ddinbych
oedd eisiau mynychu cyfarfod. Pwyllgor
Cynllunio oedd y cyfarfod roedd aelodau’r cyhoedd yn ei fynychu, am fod
ganddynt ddiddordeb personol fel arfer. Aeth y Cynghorydd
Penlington yn ei flaen i nodi na chafodd cyfarfodydd am 6.30pm eu hawgrymu, ond
bod y Grŵp Tasg a Gorffen wedi bod o blaid o leiaf un cyfarfod Pwyllgor yn
cychwyn am 4.00pm. Cylch gwaith y
Grŵp Tasg a Gorffen oedd adrodd yn ôl i’r Cyngor Llawn, ond roedd wedi
adrodd yn ôl i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd oedd eto, yn ei farn ef, yn
annemocrataidd. Yn olaf, nododd y
Cynghorydd Penlington fod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol wedi’i llunio i
gymwys pobl, a bod angen i’r Cyngor adlewyrchu amrywiaeth yr ardal. I
gloi, credai bod yr arolwg yn annigonol ac yn annemocrataidd ar y cyfan. Teimlai bod y Cyngor yn methu â mynd i’r
afael â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol ac y dylai unrhyw benderfyniadau
a wnaed ar amseroedd cyfarfod fod o ganlyniad i bleidlais ddemocrataidd yn y
Cyngor Llawn. Nododd Pennaeth y
Gwasanaethau Cyfreithiol, AD a Democrataidd bod y Mesur Llywodraeth Leol yn ei
gwneud yn ofynnol arolygu Aelodau ynghylch pryd y byddai orau ganddynt fynychu
cyfarfodydd. Yn arwain at yr etholiadau,
cynhaliwyd sioeau teithiol ledled y sir i ddarpar ymgeiswyr eu mynychu. Byddai goblygiadau cost ynghlwm â chadw
adeiladau ar agor ar gyfer cyfarfodydd gyda’r nos. Ni fyddai cost ychwanegol o
ran staff sy’n cefnogi cyfarfodydd, gan eu bod yn gweithio ar system hyblyg. Yn ystod y
drafodaeth codwyd y materion canlynol: ·
Teimlai
ambell i aelod bod angen rhyw fath o arolwg cyhoeddus i ganfod barn y cyhoedd. ·
Mynegodd
rhai aelodau bryder am gyfarfodydd gyda’r nos, gan y gallai fod yn anniogel i
bobl deithio’n hwyr y nos, yn enwedig ym misoedd y gaeaf. ·
Ni
fyddai aelodau â theuluoedd yn hoffi bod allan mewn cyfarfod gyda’r nos gan y
byddent yn colli allan ar amser teulu gwerthfawr. ·
Roedd
nifer o’r Cynghorwyr hefyd yn Gynghorwyr Tref a Chymuned ac yn Llywodraethwyr
Ysgolion, sydd oll yn cynnal cyfarfodydd gyda’r nos. ·
Mynegodd
nifer o Gynghorwyr eu bod wedi digio gyda’r erthygl a gyhoeddwyd yn ddiweddar
yn y Daily Post, oedd yn cyfeirio at Gynghorwyr fel bod mewn “clwb pobl wedi
ymddeol”. ·
Cadarnhawyd
y gellid cynnal trafodaeth y tu allan i’r cyfarfod i drafod cwestiynau'r arolwg
yn y dyfodol. ·
Diben
y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd oedd cefnogi Aelodau ym mhob maes, ac
roedd yn Bwyllgor statudol oedd yn gallu delio ag adroddiad y Grŵp Tasg a
Gorffen. ·
O ran
cynnwys y cyhoedd, un ffordd yr oedd y cyngor yn mynd i’r afael â’r mater hwn
oedd drwy weddarlledu’r cyfarfodydd. Ar y pwynt hwn,
derbyniodd y Cynghorydd Paul Penlington ganfyddiadau’r Grŵp Tasg a
Gorffen, a chytunodd gyda’r awgrym o gynnal un cyfarfod Pwyllgor am
4.00pm. Cynigiodd mai cyfarfod y
Pwyllgor Cynllunio ddylai gael ei gynnal am 4.00pm. EILIWYD y cynnig gan y
Cynghorydd Emrys Wynne. Nododd y Cynghorydd Joe Welch, yn rhinwedd ei rôl fel Cadeirydd y Pwyllgor Cynllunio, mai’r ... view the full Cofnodion text for item 10. |
|
RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL Y CYNGOR SIR PDF 350 KB Ystyried Rhaglen
Gwaith i’r Dyfodol y Cyngor (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd
Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, AD a Democrataidd Raglen Gwaith i'r
Dyfodol y Cyngor (a ddosbarthwyd ymlaen llaw). Cadarnhawyd bod y
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol wedi cael ei diweddaru ers cyhoeddi pecyn y Rhaglen,
a bod copi wedi cael ei anfon dros e-bost i bob Cynghorydd er gwybodaeth. PENDERFYNWYD –
yn amodol ar yr uchod, y dylid cymeradwyo a nodi Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y
Cyngor. |
|
Daeth y cyfarfod i ben am 12.40 p.m. |