Agenda and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun LL15 1YN
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: |
|
DATGAN CYSYLLTIAD Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy’n rhagfarnu ag unrhyw fater a nodwyd fel un i’w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Datganodd y Cynghorwyr Brian Blakeley ac Ellie Chard gysylltiad personol ag
Eitem 3 (Cwestiwn a ofynnwyd gan y Cynghorydd Arwel Roberts) gan eu bod yn
Llywodraethwyr yn Ysgol Tir Morfa, y Rhyl. Datganodd y
Cynghorydd Gwyneth Kensler gysylltiad personol ag eitem 3 gan ei bod yn
gyn-Gadeirydd y Llywodraethwyr yn Ysgol Plas Brondyffryn. Datganodd y
Cynghorydd Gwyneth Kensler gysylltiad personol gydag eitem 6 hefyd gan ei bod
ar lys Prifysgol Bangor. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim eitemau brys. Datganodd y Cynghorwyr Brian
Blakeley ac Ellie Chard gysylltiad personol â’r cwestiwn gan eu bod yn
Llywodraethwyr yn Ysgol Tir Morfa, y Rhyl. Datganodd y
Cynghorydd Gwyneth Kensler gysylltiad personol â’r cwestiwn gan ei bod yn
gyn-Gadeirydd y Llywodraethwyr yn Ysgol Plas Brondyffryn. Ar y pwynt hwn,
gofynnodd y Cynghorydd Arwel Roberts gwestiwn: Beth yw’r
trefniadau ar gyfer darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg yn Ysgol Tir Morfa ac
Ysgol Plas Brondyffryn? Ymateb gan Aelod
Arweiniol Addysg, Plant a Phobl Ifanc, y Cynghorydd Huw Hilditch Roberts: Mae anghenion
plant Ysgol Tir Morfa ac Ysgol Plas Brondyffryn yn unigol ac mae gan nifer o’r
disgyblion anawsterau cyfathrebu sylweddol ac yn dibynnu ar gymorth gweledol
i'w cynorthwyo. Mae’r ddwy ysgol yn
gwneud eu gorau i gefnogi drwy gyfrwng y Gymraeg fel y bo'n briodol. Fodd bynnag, ar draws y rhanbarth,
cydnabyddir bod angen gwneud mwy o waith. O ganlyniad i hyn mae GwE wedi
sefydlu Grŵp Tasg a Gorffen o dan Grŵp Strategol y Gymraeg, i
ystyried hyn ar draws yr holl ysgolion arbennig yn y gogledd, a bydd hyn yn
atgyfnerthu'r cynnig ar draws y rhanbarth cyfan yn y pendraw. |
|
DYDDIADUR Y CADEIRYDD PDF 213 KB Nodi ymrwymiadau
dinesig a ymgymerwyd gan Gadeirydd y Cyngor (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd rhestr o
ddigwyddiadau dinesig a fynychwyd gan y Cadeirydd ar gyfer y cyfnod rhwng 16
Mai 2018 a 24 Mehefin 2018 wedi’i dosbarthu cyn y cyfarfod. Nododd y Cadeirydd y bu’n gyfnod
prysur ac un o’r uchafbwyntiau oedd mynychu Diwrnod y Lluoedd Arfog yn
Llandudno a fu’n llwyddiant mawr. PENDERFYNWYD derbyn
y rhestr o ymrwymiadau dinesig a fynychwyd gan y Cadeirydd. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod blynyddol y Cyngor a gynhaliwyd ar 15 Mai 2018, a chyfarfod arbennig y
Cyngor a gynhaliwyd ar 11 Mehefin 2018 (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion
cyfarfod y Cyngor Llawn a gynhaliwyd ar 15 Mai 2018. Materion yn Codi: Tudalen 12 –
Mynegodd y Cynghorydd Huw Jones ei ddiolch i bawb a gefnogodd ei Rybudd o
Gynnig (Eitem 10) ynglŷn â grantiau gwisg ysgol. Roedd
Llywodraeth Cymru wedi penderfynu y byddai grantiau ar gael yn awr. Tudalen 14 –
Mynegodd y Cynghorydd Mabon ap Gwynfor ei bryderon ynglŷn ag eitem 12
(Rhybudd o gynnig ynglŷn â: Kingdom
Security) gan y gwnaed penderfyniad i atgyfeirio’r mater i’r pwyllgor craffu
ond yng nghyfarfod y Cabinet yn ddiweddar, nododd y Deilydd Portffolio y gwnaed
penderfyniad eisoes i beidio ag adnewyddu contract Kingdom Security. Mynegodd bryder unwaith eto gan ei fod yn
credu bod hyn yn dwyn anfri ar y Cyngor gan na ddilynwyd y prosesau cywir. Ymatebodd yr
Aelod Arweiniol, y Cynghorydd Tony Thomas ei fod wedi cyflwyno datganiad i’r
holl Gynghorwyr gydag ymddiheuriad a nododd bod y broses yn eglur ar gyfer
trafodaethau diwedd contract ym mis Tachwedd. Eglurodd y
Swyddog Monitro bod y mater wedi’i drafod gan y Pwyllgor Craffu ym mis Mehefin
2018 ac y byddai cynigion llawn yn cael eu cyflwyno i'r Cabinet ym mis Medi
2018. Ni fyddai'r mater yn cael ei atgyfeirio yn ôl i'r Cyngor gan ei fod yn
benderfyniad Cabinet. PENDERFYNWYD yn
amodol ar yr uchod, cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Mai 2018
fel cofnod cywir a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi. |
|
GWELEDIGAETH A STRATEGAETH DWF AR GYFER ECONOMI GOGLEDD CYMRU: CYTUNDEB LLYWODRAETHU PDF 280 KB Ystyried
adroddiad gan Bennaeth y Gyfraith, Adnoddau Dynol a’r Gwasanaethau Democrataidd
(copi ynghlwm) i geisio cymeradwyaeth y Cyngor ar y Cytundeb Llywodraethu. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Ar y pwynt hwn,
datganodd y Cynghorydd Gwyneth Kensler gysylltiad personol gan ei bod ar lys Prifysgol Bangor. Cyflwynodd yr
Arweinydd, y Cynghorydd Hugh Evans, adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) i
geisio cymeradwyaeth y Cyngor ar gyfer Cytundeb Llywodraethu o ran y trefniadau
anweithredol. Roedd
Gweledigaeth Twf Economi Gogledd Cymru wedi’i mabwysiadu ym mis Medi 2016 gan y
Cabinet a gan bob Cabinet yn y pum Awdurdod Lleol arall yn y rhanbarth. Cymeradwyodd y
Cabinet delerau’r Cytundeb Llywodraethu yn y cyfarfod ar 26 Mehefin 2018 ar
gyfer y rhannau oedd yn ymwneud â threfniadau gweithredol ac argymell bod y
Cyngor yn cymeradwyo'r trefniadau anweithredol. Roedd model cydbwyllgor statudol
wedi’i fabwysiadu fel yr un a ffefrir ar gyfer llywodraethu gwaith ar y Cynnig.
Aelodau’r pwyllgor oedd chwe Awdurdod Lleol
Gogledd Cymru, ynghyd â Phrifysgol Bangor, Prifysgol Glyndŵr Wrecsam,
Coleg Cambria a Grŵp Llandrillo Menai (roedd y Prifysgolion a’r Colegau yn
cael eu hadnabod fel "yr Ymgynghorwyr"). Roedd y pwyllgor rhanbarthol wedi mabwysiadu
teitl “Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru”. Roedd gan y Bwrdd
ddau gam i’w rheoli ar gyfer datblygu’r Cynnig. Cam 1 yn arwain at gytuno ar Fargen Dwf
gyda'r Llywodraethau, sef cam paratoi a datblygu’r Cynnig a fyddai parhau tan
ganol 2019. Cam 2 ar ôl cytuno'r cynnig a fyddai'n dechrau o ganol 2019 ac yn
cynnwys cam gweithredu a darparu'r Cynnig. Nodwyd nad oedd
yr adroddiad yn ceisio cyflwyno cynnwys
Cynnig y Fargen Dwf datblygiadol mewn
manylder gan mai ei brif bwrpas oedd cyflwyno Trefniadau Llywodraethu ar gyfer
ei fabwysiadu. Byddai ail Gytundeb Llywodraethu cynhwysfawr yn
cael ei lunio ar gyfer Cam 2. Byddai adroddiad
pellach yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor naill ai ym mis Medi neu fis Hydref 2018
a fyddai’n cynnwys manylion drafft terfynol y cynnig twf i’w adolygu a’i
gydsynio cyn y cam o gyrraedd penawdau'r telerau gyda’r ddwy lywodraeth . Cafwyd
trafodaethau a oedd yn cyfeirio at Gam 2 y Cynnig Twf a gofynnwyd i’r Aelodau
ganolbwyntio ar y manylion yn yr adroddiad sy’n berthnasol i Gam 1. Byddai’r
penderfyniadau pwysicaf ar gyfer chwe Awdurdod Lleol Gogledd Cymru’n cael eu
llunio’n lleol. Yn ystod Cam 1 y
Cynnig, cynigwyd bod cynigion y Bwrdd ar
gyfer y Cynnig yn destun craffu lleol drwy’r pwyllgor craffu priodol ym mhob
cyngor, yn hytrach na chyflwyno rhyw fath o bwyllgor craffu rhanbarthol. Gofynnir i bob
cyngor gyflwyno swm o £50mil a byddai pob Ymgynghorydd yn talu swm o £25mil. Byddai
manylion cyfraniadau ariannol y partïon yn cael eu nodi yng Ngham 2 y Cynnig. Cadarnhawyd bod
ymrwymiad gan Lywodraeth San Steffan a Llywodraeth Cymru i'r Cynnig Twf. PENDERFYNWYD: ·
Nodi a chroesawu cynnydd ar ddatblygiad am
Gynnig Bargen Dwf. ·
Bod y Cyngor yn cymeradwyo'r holl
drefniadau anweithredol a nodwyd yn y Cytundeb Llywodraethu, h.y. trefniadau
craffu. ·
Byddai adroddiad pellach yn cael ei
gyflwyno i’r Cyngor naill ai ym mis Medi neu fis Hydref i’w adolygu a’i gydsynio cyn y cam o gyrraedd
penawdau'r telerau gyda’r ddwy lywodraeth . ·
Rhoddir awdurdod dirprwyol i’r Prif
Weithredwr, Cyfarwyddwr Corfforaethol: Economi a'r Parth Cyhoeddus a Phennaeth
Gwasanaethau’r Gyfraith, AD a Democrataidd, mewn ymgynghoriad â’r Arweinydd, i
gadarnhau telerau’r Cytundeb Llywodraethu’n sylweddol yn unol â'r drafft sydd
ynghlwm â'r adroddiad. ·
Bod y Cyngor yn cymeradwyo cynnwys y trefniadau
gweithredol a gymeradwywyd gan y Cabinet ynghyd â'r trefniadau anweithredol yn
ymwneud â Chraffu yn y Cyfansoddiad. |
|
RHYBUDD O GYNNIG Cyflwynodd y
Cynghorydd Emrys Wynne y Rhybudd o Gynnig canlynol: Mae’r Cyngor hwn yn galw ar y Cyngor Sir i ddangos arweiniad
i weddill Sir Ddinbych drwy ymrwymo i fod yn Sir ddi-blastig ymhen dwy flynedd. Ni fydd y Cyngor yma yn defnyddio eitemau plastig sydd dim
ond yn cael eu defnyddio un-waith (single use plastic). Hefyd yn galw ar y Cyngor i gysylltu â darparwyr nwyddau i’r
Sir yn galw arnynt ystyried eu defnydd o blastig. I ystyried y defnydd o blastig wrth roi cytundeb gwaith i
gwmni allanol. Bydd gwellt plastig yn cael eu heithrio o’r polisi hwn
oherwydd anghenion pobl ag anableddau a thrafferthion llwnc. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd Emrys Wynne y Rhybudd o Gynnig canlynol i’w ystyried gan y Cyngor
Llawn: Mae’r Cyngor hwn
yn galw ar y Cyngor Sir i ddangos arweiniad i weddill Sir Ddinbych drwy ymrwymo
i fod yn sir heb blastig o fewn dwy flynedd. Ni fydd y Cyngor
hwn yn defnyddio plastig defnydd untro. Rydym hefyd yn
galw ar y Cyngor i gysylltu â chyflenwyr nwyddau’r Cyngor, gan alw arnynt i
ystyried eu defnydd o blastig. Ystyried y
defnydd o blastig wrth gontractio i gwmnïau allanol. Ni fydd gwellt
plastig yn cael eu cynnwys yn y polisi oherwydd anghenion pobl gydag anableddau
ac anawsterau llyncu. Mynegodd y Cynghorydd Wynne ei
bryderon a’r rhesymau pam ei fod wedi cyflwyno'r Rhybudd o Gynnig gyda'r
gobaith o dderbyn cefnogaeth drawsbleidiol. Roedd y
Cynghorydd Mabon ap Gwynfor yn eilio’r Rhybudd o Gynnig a gyflwynwyd gan y
Cynghorydd Emrys Wynne. Eglurodd y
Cynghorydd Brian Blakeley bod y Cynghorwyr wedi ymrwymo y byddai'r Rhyl yn
ddi-blastig yn y dyfodol. Yna aeth yn
ei flaen i geisio diwygiad i’r Rhybudd o Gynnig. Gofynnodd bod y Rhybudd o Gynnig yn cynnwys
y defnydd o wellt plastig oherwydd bod busnesau yn defnyddio nifer sylweddol o
wellt plastig gan ychwanegu at y broblem.
Roedd gwellt bioddiraddiadwy ar gael ar gyfer
pobl anabl neu bobl ag anawsterau llyncu. Eiliodd y
Cynghorydd Bob Murray y diwygiad i'r Rhybudd o Gynnig. Eglurodd Pennaeth
Gwasanaethau'r Gyfraith, AD a Democrataidd y byddai'n rhaid pleidleisio ar y
diwygiad cyn y gellir parhau ag unrhyw drafodaethau neu ddiwygiadau pellach. Ar y pwynt hwn, cafwyd pleidlais ar
y diwygiad ac roedd y canlyniadau fel a ganlyn: (i)
O
blaid y diwygiad i gynnwys gwellt plastig – 19 (ii)
Ymatal
- 3 (iii)
Yn
erbyn y diwygiad - 20 Yn dilyn y
bleidlais nodwyd bod y diwygiad a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Brian Blakeley
wedi methu. Ar y pwynt hwn,
cyflwynodd y Cynghorydd Huw Williams ddiwygiad pellach fel a ganlyn: “Rydym yn
cefnogi’r Rhybudd o Gynnig mewn egwyddor ar gyfer lleihau’r defnydd o blastig
ond bod y Pwyllgor Craffu yn gwneud gwaith ar y mater ac yn adrodd yn ôl i’r
Cyngor." Eiliodd y
Cynghorydd Barry Mellor y diwygiad i'r Rhybudd o Gynnig. Ar y pwynt hwn, cafwyd pleidlais ar
y diwygiad ac roedd y canlyniadau fel a ganlyn: (i)
O
blaid y diwygiad bod y Pwyllgor Craffu yn cyflawni rhagor o waith ar y mater
-33 (ii)
Ymatal
- 2 (iii)
Yn
erbyn y diwygiad - 7 Yn dilyn y
bleidlais nodwyd bod y diwygiad a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Huw Williams yn
llwyddiannus. Gan fod y
diwygiad wedi’i basio, yna byddai’n ffurfio'r prif gynnig a chafwyd trafodaeth
cyn y bleidlais. Cytunodd yr aelodau bod y defnydd o
blastig defnydd untro yn broblem ledled y byd, ond yn lleol roedd yn rhaid i’r
cyngor weithredu ac roeddent yn cytuno’n unfrydol y dylid trafod y mater yn y
Pwyllgor Craffu gan ei fod yn ymwneud â chryn dipyn o waith. Ar y pwynt hwn, cafwyd pleidlais ar
y cynnig ac roedd y canlyniadau fel a ganlyn: (i)
O
blaid y prif gynnig fel y’i diwygiwyd – 38 (ii)
Ymatal
- 1 (iii)
Yn
erbyn y diwygiad - 1 Felly: PENDERFYNWYD bod
y Cyngor yn cefnogi lleihau’r defnydd o blastig mewn egwyddor ond yn cyfeirio’r
mater i’r Pwyllgor Craffu i’w ystyried yn fanylach a bod adroddiad pellach yn
cael ei gyflwyno i'r Cyngor. |
|
RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL Y CYNGOR SIR PDF 455 KB To consider the Council’s forward work programme (copy attached). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd
Pennaeth y Gwasanaethau’r Gyfraith, Adnoddau Dynol a Democrataidd Raglen Gwaith
i'r Dyfodol y Cyngor (dosbarthwyd eisoes). Cadarnhawyd y
byddai’r Cynnig Twf yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor Llawn ym mis Medi neu fis
Hydref 2018. Roedd
Hyfforddiant Aelodau wedi’i ychwanegu at raglen waith mis Medi 2018 hefyd. PENDERFYNWYD yn
amodol ar yr uchod, y dylid cymeradwyo a nodi Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y
Cyngor. |
|
DAETH Y CYFARFOD I BEN AM 11.55 A.M. |