Agenda and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun LL15 1YN
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: |
|
DATGAN CYSYLLTIAD Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu ag unrhyw
fater a nodwyd fel un i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Datganodd y
Cynghorydd Paul Penlington gysylltiad sy'n rhagfarnu ag Eitem 10 – Rhybudd o
Gynnig gan Gwyneth Kensler. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|
DYDDIADUR Y CADEIRYDD PDF 298 KB Nodi ymrwymiadau
dinesig a ymgymerwyd gan Gadeirydd y Cyngor (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd rhestr o
ddigwyddiadau dinesig a fynychwyd gan y Cadeirydd a’r Is-Gadeirydd ar gyfer y
cyfnod rhwng 22 Chwefror 2018 a 23 Mawrth 2018 wedi’i dosbarthu cyn y cyfarfod. PENDERFYNWYD derbyn
y rhestr o ddigwyddiadau dinesig y bu i’r Cadeirydd a'r Is-gadeirydd eu
mynychu. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Cyngor Sir a gynhaliwyd ar 25 Ionawr, 30 Ionawr a 20 Chwefror 2018
(copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfodydd y Cyngor a gynhaliwyd ar 25 Ionawr 2018, 30 Ionawr 2018 a
20 Chwefror 2018 i’w cymeradwyo. PENDERFYNWYD cadarnhau
cofnodion cyfarfod y Cyngor Llawn a gynhaliwyd ar 25 Ionawr 2018, 30 Ionawr
2018 a 20 Chwefror 2018 fel cofnod cywir, a’u llofnodi gan y Cadeirydd. |
|
TREFNIADAU AR GYFER ETHOL CADEIRYDD AC IS-GADEIRYDD PDF 192 KB Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Ad a Democrataidd (copi
ynghlwm) yn argymell bod y Cyngor yn cytuno y bydd y Cadeirydd a’r Is-Gadeirydd
arfaethedig ar gyfer blwyddyn gyngor 2018/2019 yn cael eu hethol yn ffurfiol
yng nghyfarfod blynyddol y Cyngor ar 15 Mai 2018. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y
Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd yr adroddiad
(eisoes wedi'i ddosbarthu) yn ceisio cytundeb ar gyfer Cadeirydd ac
Is-gadeirydd arfaethedig y Cyngor Sir ar gyfer blwyddyn y Cyngor 2018/19 i gael
eu hethol yn ffurfiol yng nghyfarfod blynyddol y Cyngor ar 15 Mai 2018. Cadarnhawyd y
byddai’r Is-Gadeirydd cyfredol, y Cynghorydd Peter Scott yn dod yn Gadeirydd ar
gyfer blwyddyn y Cyngor 2018/19 a byddai'r broses ffurfiol o ethol y Cadeirydd
yn digwydd yn y Cyngor Blynyddol oedd i’w gynnal 15 Mai 2018. Ethol Cadeirydd - Cynigiodd y Cynghorydd Arwel Roberts y Cynghorydd
Meirick Lloyd Davies fel Is-Gadeirydd y Cyngor ar gyfer blwyddyn y Cyngor
2018/19, eiliwyd gan y Cynghorydd Ann Davies. Cynigiodd y
Cynghorydd Joan Butterfield y Cynghorydd Bob Murray fel Is-Gadeirydd ar gyfer
blwyddyn y Cyngor 2018/19, eiliwyd gan y Cynghorydd Brian Blakeley,. Cynhaliwyd
pleidlais gyfrinachol ar gyfer yr Is-Gadeirydd arfaethedig. 22 pleidlais ar
gyfer y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies 20 pleidlais ar
gyfer y Cynghorydd Bob Murray Enwebwyd y
Cynghorydd Meirick Lloyd Davies fel yr Is-Gadeirydd arfaethedig ar gyfer
blwyddyn y Cyngor 2018/18. Diolchodd y
Cynghorydd Davies i Aelodau am eu cefnogaeth a chafodd ei longyfarch ar ei
enwebiad. PENDERFYNWYD Cynnig
y Cynghorydd Peter Scott yn Gadeirydd a'r Cynghorydd Meirick Lloyd Davies yn
Is-gadeirydd y Cyngor Sir ar gyfer blwyddyn y Cyngor 2018/19 i'w hethol yn
ffurfiol yng nghyfarfod blynyddol y Cyngor ar 15 Mai 2018. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL PANEL ANNIBYNNOL CYMRU AR GYDNABYDDIAETH ARIANNOL PDF 239 KB Ystyried
adroddiad gan y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd (copi ynghlwm) i wneud y
Cyngor yn ymwybodol o benderfyniadau'r Panel ar gyfer 2018/19 mewn perthynas â
thaliadau i Aelodau ac Aelodau Cyfetholedig. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd
Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd Adroddiad
Blynyddol y Panel Annibynnol ar Gydnabyddiaeth Ariannol ar gyfer Cymru 2018/19
(eisoes wedi'i gylchredeg), i wneud Aelodau yn ymwybodol o benderfyniadau'r
Panel ar gyfer 2018/19 mewn perthynas â thaliadau i aelodau ac aelodau
cyfetholedig, ac i fabwysiadu atodlen cydnabyddiaeth ariannol. Eleni roedd y
Panel wedi gosod lefel o gydnabyddiaeth ariannol o £13,600 a fyddai’n golygu
cynnydd o £200 bob blwyddyn i gyflog sylfaenol pob Cynghorydd. Nododd y
Cynghorydd Mabon ap Gwynfor nad oedd yn credu y dylid derbyn y codiad oherwydd
y cyfnod ariannol caled a wynebir gan Awdurdodau Lleol, ac y byddai'n
cyfrannu'r cynnydd o £200 i achos da lleol.
Aeth ymlaen i gynnig dwy bleidlais ar wahân ar gyfer y ddau argymhelliad
gan annog Aelodau i wrthod amod 3.2 fel y'i nodir o fewn yr adroddiad. Cafodd y cynnig ei eilio gan y Cynghorydd
Glenn Swingler oedd yn cytuno gyda'i gyd-gynghorydd a chadarnhaodd y byddai ef
hefyd yn cyfrannu’r £200 at achos da lleol. Eglurodd Pennaeth
y Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd bod gwneud taliad i
aelodau unigol yn ofyniad cyfreithiol. Pe
bai’r aelodau unigol yn penderfynu ildio rhan neu’r cyfan o’u cyflog byddai angen
iddynt wneud eu cais yn ysgrifenedig, ac wedi hynny byddai'r adran cyflogau yn
cael gwybod. Cafwyd pleidlais
ar y cais o gymryd y ddau argymhelliad o fewn yr adroddiad fel dwy bleidlais ar
wahân. PLEIDLAIS: O blaid – 10 Ymatal - 2 Yn erbyn – 30 Felly, cymerwyd y
ddwy eitem fel y nodwyd yn yr adroddiad fel un eitem, a: PHENDERFYNWYD bod: (i)
y Cyngor yn nodi penderfyniadau’r Panel ar
gyfer blwyddyn y Cyngor 2018/19 mewn perthynas â thalu Cyflogau Sylfaenol, Uwch
a Dinesig a thaliadau i aelodau cyfetholedig. (ii)
y Cyngor yn mabwysiadu’r atodlen
cydnabyddiaeth ariannol fel y nodir yn atodiad 1 (sydd heb newid ers 2017/18
heblaw fel yr amlinellir ym mharagraff 4.4 yr adroddiad) ar gyfer blwyddyn y
Cyngor 2018/19. |
|
HYFFORDDIANT A DATBLYGU AELODAU PDF 312 KB Ystyried
adroddiad gan y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd (copi ynghlwm) i roi
diweddariad ar faterion hyfforddi aelodau. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y
Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd adroddiad (a gylchredwyd eisoes) i roi
diweddariad ar faterion hyfforddiant aelodau. Roedd adborth
wedi ei dderbyn gan gyn-aelodau yn dilyn etholiadau am yr hyfforddiant oedd
wedi ei ddarparu. Nododd aelodau 2008
nad oedd digon o hyfforddiant, tra roedd aelodau 2012 wedi mynegi bod gormod o
hyfforddiant. O ganlyniad, mae’r
hyfforddiant sydd wedi’i ddarparu ers etholiadau 2017 wedi’i anelu i fod rhywle
yn y canol rhwng y ddwy raglen flaenorol o ran dwyster a chwmpas. Roedd y Cyngor
blaenorol wedi nodi nifer o ofynion hyfforddi gorfodol ac ar hyn o bryd mae dau
o’r cyrsiau hyfforddi gorfodol hynny wedi eu dwyn ymlaen: ·
Cod
Ymddygiad ar gyfer pob aelod, a ·
Hyfforddiant
ar gyfer aelodau’r Pwyllgor Cynllunio. Gofynnwyd i
Aelodau argymell hyfforddiant y gellid ei gynnwys fel cyrsiau hyfforddi
gorfodol. Gofynnwyd i
Aelodau hefyd gyflwyno awgrymiadau o ran sancsiynau am beidio mynychu
hyfforddiant gorfodol. Penderfynodd y Cyngor blaenorol beidio gosod sancsiynau
am beidio mynychu hyfforddiant gorfodol. Yn ystod
trafodaeth, argymhellodd aelodau y dylid cadw’r canlynol fel hyfforddiant
gorfodol: ·
Cod
Ymddygiad ·
Pwyllgor
Cynllunio ·
Pwyllgor
Trwyddedu, ·
Cyllid
Awgrymwyd hefyd y
byddai Rhianta Corfforaethol, Diogelu a Diogelu Data yn gyrsiau hyfforddiant
gorfodol. Canmolodd Aelodau
safon ardderchog yr hyfforddiant mewnol oedd wedi ei ddarparu a diolchwyd i
Bennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd a staff am
eu hymdrech yn hyn o beth. Argymhellwyd y
dylid cyflwyno adroddiad pellach a fyddai’n cynnwys rhestr arfaethedig o
gyrsiau hyfforddi gorfodol a sancsiynau posib. PENDERFYNWYD nodi’r
adroddiad ac y byddai adroddiad pellach yn cael ei gyflwyno o safbwynt
hyfforddiant gorfodol a dewisol a sancsiynau posib am beidio mynychu
hyfforddiant "gorfodol" |
|
DATGANIAD POLISI TÂL 2018/19 PDF 390 KB Ystyried
adroddiad gan yr Arbenigwr Tâl a Gwobrwyo AD (copi ynghlwm) i geisio cytundeb y
Cyngor i'r newidiadau i'r Polisi Tâl ar gyfer 2018/19. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
Arweiniol Cyllid, Perfformiad, ac Asedau Strategol yr adroddiad (a ddosbarthwyd
yn flaenorol). Mae Deddf
Lleoliaeth 2011 yn ei gwneud yn ofynnol i Awdurdodau Lleol baratoi datganiadau
polisi tâl. Mae’n rhaid cymeradwyo
Datganiadau Polisi Tâl gan y Cyngor yn flynyddol a’u cyhoeddi ar y wefan
berthnasol. Mae'r Datganiad
Ar Bolisïau Tâl yn adlewyrchu’r tâl cyfredol ond doedd y dyfarniadau tâl
cenedlaethol ar gyfer 2018/19 heb eu cytuno arnynt eto. Mae'r adran
Polisi Tâl y Prif Swyddog yn adlewyrchu’r tâl cyfredol ond doedd y sefyllfa
genedlaethol ar ddyfarniadau tâl cenedlaethol Prif Swyddogion a Phrif
Weithredwyr ar gyfer 2018/19 heb eu cytuno arnynt eto. Roedd Llywodraeth
Ganolog y DU yn cyflwyno cap o £95,000 ar daliadau gadael y sector cyhoeddus,
ond doedd dim cynnydd wedi bod ar y gwaith hwn ac felly roedd yn dal heb ei
gyflwyno. Ar hyn o bryd mae’n aneglur
sut byddai hyn yn gweithredu yng Nghymru.
Pan fyddwn yn derbyn eglurhad, byddai'r holl bolisïau ar daliadau
diswyddo yng Nghyngor Sir Ddinbych yn cael eu hadolygu fel y bo'n briodol i
ddarparu ar gyfer unrhyw newidiadau perthnasol mewn deddfwriaeth. Roedd Llywodraeth
Ganolog y DU yn cyflwyno deddfwriaeth i alluogi adfer taliadau gadael y sector
cyhoeddus, ond eto doedd dim cynnydd wedi bod ar y gwaith hwn ac felly roedd yn
dal heb ei gyflwyno. Byddai hyn yn berthnasol i weithwyr sy’n
dychwelyd i’r sector cyhoeddus neu is sector o fewn 12 mis o adael, sy’n ennill
dros £80,000 y flwyddyn. Ar hyn o bryd
mae’n aneglur sut byddai hyn yn gweithredu yng Nghymru. Byddai'r holl bolisïau
a thaliadau diswyddo yng Nghyngor Sir Ddinbych yn cael eu hadolygu fel y bo'n
briodol i ddarparu ar gyfer unrhyw newidiadau perthnasol mewn
deddfwriaeth. Cafwyd trafodaeth
bellach a chodwyd y pwyntiau canlynol: ·
Wedi
adolygiad cyflog y Prif Weithredwr, roedd y cyflog pwynt penodol a thâl
perthnasol i berfformiad wedi eu dileu, a graddfa raddol wedi ei rhoi mewn lle.
·
Awgrymwyd
y dylai’r Cyngor dalu cyflog byw “ go iawn” yn hytrach na chyflog byw
“cenedlaethol" ·
Deddf
Lles Cenedlaethau’r Dyfodol - mynegodd y Cynghorydd Graham Timms ei bryderon am
y defnydd o “dâl teg” o fewn yr Asesiad o Effaith ar Les. Yn hytrach na defnyddio’r frawddeg “tâl teg”
awgrymodd y Cynghorydd Timms ddefnyddio’r frawddeg “gall gwella tâl....” fel
geiriad mwy addas. Dywedodd hefyd ei fod
yn anghytuno gyda’r datganiad “drwy weithio, gall rhai gweithwyr ddewis cymryd
yswiriant meddygol preifat”. Ni fyddai
hyn, yn ei farn ef, yn arwain at sir mwy iach. Ar
y pwynt hwn, cytunodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill y byddent yn ystyried
newid y geiriad yn y ddogfen.
Cadarnhaodd hefyd y byddai adroddiad Cyflog Byw Go Iawn yn cael ei
gyflwyno yn y Cyngor Llawn ar 11 Medi 2018. PENDERFYNWYD Bod
y Cyngor Llawn yn cytuno ar y Datganiad ar Bolisïau Tâl ar gyfer 2018/19. |
|
Rhybudd o Gynnig Cyflwynodd y
Cynghorydd Gwyneth Kensler y Rhybudd o Gynnig canlynol i'w ystyried gan y
Cyngor Llawn: “Mae’r Cyngor yn
gwaredu’r modd mae Coleg Llandrillo Menai wedi delio gyda’r bwriad i gau Coleg
Dinbych ac mae’n galw ar Lywodraeth Cymru i ymyrryd.” Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd Gwyneth Kensler y Rhybudd o Gynnig canlynol i'w ystyried gan y
Cyngor Llawn: “Mae’r Cyngor yn gwaredu’r modd mae Coleg
Llandrillo Menai wedi delio gyda’r bwriad i gau Coleg Dinbych ac mae’n galw ar
Lywodraeth Cymru i ymyrryd.” Ar y pwynt hwn,
datganodd y Cynghorydd Paul Penlington gysylltiad sy'n rhagfarnu, gan ei fod yn
cael ei gyflogi mewn Addysg Bellach, ac o ganlyniad i hynny, gadawodd y Siambr.
Mynegodd Aelodau
eu pryderon yn dilyn y cyhoeddiad o’r bwriad i gau Coleg Dinbych. Dywedodd y
Cynghorydd Geraint Lloyd Williams wrth aelodau bod yr AS Chris Ruane a’r AC Ann
Jones wedi mynychu cyfarfod yn dilyn y datganiad am y bwriad i gau. Roedd llawer o staff, defnyddwyr, a'r cyhoedd
o Ddinbych a’r ardal gyfagos yn y cyfarfod.
Roedd Ann Jones wedyn wedi cyfarfod gyda Carwyn Jones a Kirsty
Williams. Yn dilyn y cyfarfod hwnnw,
roedd yr AC wedi derbyn llythyr gan Kirsty Williams. Roedd y Cynghorydd Lloyd Davies wedi bod yn
aros am ganiatâd i gylchredeg y llythyr ac unwaith y byddai’n derbyn caniatâd,
byddai’n gwneud hynny. Roedd yr AC a’r
AS wedi holi am yr Asesiad o'r Effaith ar Les yn ogystal â'r Achos Busnes ond
hyd yma nid oedd y wybodaeth wedi ei derbyn.
Felly roedd y Cynghorydd Lloyd Williams wedi cyflwyno cais Rhyddid
Gwybodaeth am wybodaeth ynglŷn â sut daethpwyd i’r penderfyniad i gau
Coleg Dinbych. Cynigwyd y
Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Gwyneth Kensler ac eiliwyd gan y Cynghorydd
Rhys Thomas, ac wedi pleidlais unfrydol, PENDERFYNWYD cytunwyd
ar y Rhybudd o Gynnig, mae’r Cyngor yn gwaredu’r modd mae Coleg Llandrillo
Menai wedi delio gyda’r bwriad i gau Coleg Dinbych ac mae’n galw ar Lywodraeth
Cymru i ymyrryd, yn unfrydol. |
|
RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL Y CYNGOR SIR PDF 333 KB Ystyried Rhaglen
Gwaith i’r Dyfodol y Cyngor (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd
Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd Raglen
Gwaith i'r Dyfodol y Cyngor (dosbarthwyd eisoes). Cadarnhawyd y
byddai Briffiad y Cyngor oedd i fod i'w gynnal ar 11 Mehefin bellach yn
gyfarfod Cyngor Arbennig er mwyn trafod Papur Gwyrdd yr LGR a byddai gweithdy /
sesiwn briffio yn cael ei drefnu cyn y cyfarfod hwnnw. Cadarnhawyd y
byddai'r eitem - Y Cyflog Byw Go iawn - yn cael ei ychwaneg at Raglen cyfarfod
y Cyngor ym mis Medi. PENDERFYNWYD, yn
amodol ar yr uchod, y dylid cymeradwyo a nodi Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y
Cyngor. |
|
Unrhyw Fusnes Arall Cyn terfynu’r
cyfarfod dywedodd yr Arweinydd mai hwn fyddai’r cyfarfod Cyngor Llawn olaf i
Dr. Mohammed Mehmet, Y Prif Weithredwr.
Myfyriodd yr Arweinydd am amser Dr. Mehmet gyda’r awdurdod a mynegodd ei
werthfawrogiad am ei wasanaeth ffyddlon ac ymroddedig, gan drawsnewid Sir
Ddinbych ac arwain yr awdurdod i fod yn un o’r cynghorau sy’n perfformio ar y
lefel uchaf yng Nghymru. Yn ddiweddar roedd Sir Ddinbych wedi derbyn adroddiad
Estyn da iawn oedd yn cynnwys cyfeiriad at arweiniwyd gwych, oedd eto oherwydd
Dr. Mehmet. Dymunodd Aelodau
yn dda i Dr. Mehmet a’i deulu ar gyfer y dyfodol. Dogfennau ychwanegol: |
|
Daeth y cyfarfod i ben am 1.25pm. |