Agenda and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun LL15 1YN
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: |
|
DATGAN CYSYLLTIAD Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu ag unrhyw
fater a nodwyd fel un i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd y
Cynghorydd Paul Penlington yn datgan diddordeb personol yn eitem 10 – Penodi
Aelod Dinas, Tref a Chymuned i’r Pwyllgor Safonau. Roedd y
Cynghorydd Meirick Lloyd Davies yn datgan cysylltiad personol ar gyfer y
cwestiwn a godwyd o dan Eitem 3 – materion brys. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim materion
brys. Ar y pwynt hwn
gofynnodd y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies gwestiwn. Yn unol â’r
Cyfansoddiad, roedd y Cynghorydd Davies wedi rhoi dau ddiwrnod clir o rybudd
o’r cwestiwn lle byddai’n derbyn ymateb ond ni chynhelir trafodaeth. Roedd y cwestiwn
a gyflwynwyd fel a ganlyn: Mae’r Adran Priffyrdd o dan y Ddeddf Priffyrdd 1980 yn gyfrifol am sicrhau
bod perchnogion coed, gwrychoedd a thyfiant ar hyd y priffyrdd yn cael ei dorri
yn ôl i ganiatáu i gerddwyr, marchogion ceffylau a thraffig gael mynediad clir,
dirwystr ar ffyrdd y Sir. Derbyniwyd e-bost
clir a dealladwy gan Jon Chapman ar 14 Tachwedd 2017 sy’n amlinellu’r gofynion
rheoleiddio ar ffermwyr a thirfeddianwyr. Felly pam bod y
Cyngor a’r adran uchod yn gwrthod torri a lladd tyfiant gwrychoedd, coed ac ati
sy’n tyfu ar ochr ffyrdd (i waliau Castell Bodelwyddan) a ffermwyr lleol
(Engine Hill) o Ffordd Glascoed, B5381 wrth dai rhif 1-8 Ffordd Glascoed, i
lawr (Engine Hill) er enghraifft? Ymateb gan yr
Aelod Arweiniol Priffyrdd, Cynllunio a Theithio Cynaliadwy, y Cynghorydd Brian
Jones: Mae ein camau ar
gyfer gwrychoedd a choed ar ymyl ffyrdd yn gyson gyda’r camau a amlinellir yn y
gweithdrefnau ar gyfer delio gyda choed a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Archwilio
Cymunedau ar 18 Ionawr 2018. Mae pob
mater yn cael ei asesu yn ei haeddiant ei hun, a'r rheol gyffredinol yw na
fyddwn yn cymryd unrhyw gamau oni bai bod y tyfiant yn cynnwys mater sylweddol
e.e. perygl ar y briffordd. Ni
ystyrir bod y mater penodol hwn yn cynnwys perygl ar hyn o bryd, ac felly ni
chymerir unrhyw gamau ar hyn o bryd. |
|
DYDDIADUR Y CADEIRYDD PDF 197 KB Nodi ymrwymiadau
dinesig a ymgymerwyd gan Gadeirydd y Cyngor (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd rhestr o
ddigwyddiadau dinesig a fynychwyd gan y Cadeirydd ar gyfer y cyfnod rhwng 25
Ionawr 2018 - 10 Chwefror 2018 wedi’i dosbarthu cyn y cyfarfod. PENDERFYNWYD derbyn
y rhestr o ymrwymiadau dinesig a fynychwyd gan y Cadeirydd. |
|
TRETH Y CYNGOR 2018/19 A MATERION CYSYLLTIEDIG PDF 195 KB Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Cyllid (copi'n amgaeedig) i bennu lefelau Treth y
Cyngor ar gyfer 2018/19. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr
Arweinydd, y Cynghorydd Hugh Evans adroddiad Treth y Cyngor 2018/19 a Materion
Cysylltiol (dosbarthwyd yn flaenorol) yn lle’r Cynghorydd Julian Thompson-Hill
nad oedd yn gallu bod yn bresennol oherwydd salwch. Cyfeiriodd y
Cynghorydd Hugh Evans yn benodol at: ·
Brif
nodweddion y gyllideb gafodd ei chymeradwyo ar 30 Ionawr 2018 ·
Sylwadau’r
Prif Swyddog Cyllid ar gryfder yr amcangyfrifon cyllidebol ·
Dadansoddiad
o'r praeseptau gan Gynghorau Dinas, Tref a Chymuned a Chomisiynydd Heddlu a
Throsedd Gogledd Cymru, ac ·
Argymhellion
ar gyfer lefelau Treth y Cyngor ar gyfer 2018/19. ·
Cynnydd
o £1.792miliwn mewn arian i ysgolion a ·
Darparu
£1.5miliwn i gydnabod y pwysau ariannol parhaus sy’n wynebu darpariaeth gofal
cymdeithasol oedolion a phlant. Yn dilyn y
drafodaeth: PENDERFYNWYD bod
y Cyngor yn: (i)
Ei bod yn ofynnol i'r Cyngor Sir, fel yr
Awdurdod Bilio i ystyried y praeseptau a
dderbyniwyd gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gogledd Cymru a'r Cynghorau
Dinas, Tref/Cymuned a datgan lefelau Treth y Cyngor ar gyfer blwyddyn ariannol
2018/19. (ii)
Cymeradwyo'r argymhelliad bod y symiau a gyfrifwyd gan y Cyngor ar gyfer blwyddyn
ariannol 2018/19, yn unol ag Adrannau 32 i 34 (1) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth
Leol 1992 (y Ddeddf) a'r Rheoliadau Addasu Cyfrifiadau Angenrheidiol (Cymru)
2008 fel adran 3 Atodiad A. (iii)
Cymeradwyo’r argymhelliad bod y symiau a gyfrifwyd gan y Cyngor ar gyfer blwyddyn
ariannol 2018/19, yn unol ag Adrannau 34 (2) i 36 (1) o Ddeddf Cyllid
Llywodraeth Leol 1992 (y Ddeddf) fel Atodiad A Adran 4. (iv)
Bod symiau Treth y Cyngor ar gyfer
blwyddyn ariannol 2018/19 ar gyfer pob un o'r
categorïau o anheddau fel y cyflwynir yn Atodiad C a (v)
Bod lefel y gostyngiad ar gyfer Dosbarth
A, B ac C fel y nodir yn Rheoliadau Treth y Cyngor
(Dosbarthau Rhagnodedig ar Anheddau) (Cymru) 2004 yn cael ei gosod ar sero ar
gyfer blwyddyn ariannol 2018/19 gyda'r cafeat bod hyn yn ddibynnol ar ddim
newidiadau i ddeddfwriaeth nac amodau lleol. |
|
CYNLLUN CYFALAF 2017/18 - 2020/21 AC ARGYMHELLION Y GRŴP BUDDSODDI STRATEGOL PDF 311 KB Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Cyllid (copi’n amgaeedig) i ddarparu Cynllun Cyfalaf
diwygiedig i’r Aelodau gan gynnwys diweddariad ar brosiectau mawr a'r Cynllun
Corfforaethol. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr
Arweinydd, y Cynghorydd Hugh Evans yr adroddiad Cynllun Cyfalaf (dosbarthwyd yn
flaenorol) yn lle’r Cynghorydd Julian Thompson-Hill nad oedd yn gallu bod yn
bresennol oherwydd salwch. Rhoddwyd adroddiad i’r Cyngor ar y Cynllun Cyfalaf llawn diwethaf ym mis
Chwefror 2017. Roedd diweddariadau misol
wedi eu rhoi i’r Cabinet. Roedd y Cynllun Cyfalaf amcangyfrifedig bellach yn
£38.5 miliwn. Roedd y Cynllun wedi cael ei ddiweddaru ers adrodd
arno i'r Cabinet ar 23 Ionawr 2018. Arweiniodd y
Pennaeth Cyllid yr Aelodau drwy’r adroddiad. Ymatebodd yr
Arweinydd a’r Pennaeth Cyllid i’r cwestiynau ynglŷn ag amrywiol agweddau
o’r Cynllun Cyfalaf. Roedd
prif feysydd trafod yn canolbwyntio ar y canlynol - Cafodd llifogydd ei godi fel mater a hefyd
ymholiad ynglŷn â'r adroddiad Asesu Llifogydd yr arhoswyd amdano. Cadarnhaodd
y Pennaeth Cyllid y byddai’n holi am yr adroddiad Asesu Llifogydd ar ran yr
Aelodau. ·Cadarnhawyd os byddai’r Awdurdod Lleol yn cwrdd
â’r meini prawf, y byddent yn gallu cael mynediad i Gynllun Benthyciad Canol
Tref a fyddai’n fenthyciad di-log 15 mlynedd gan Lywodraeth Cymru. ·
Byddai
adroddiad Ysgolion yr 21ain Ganrif yn cael ei gyflwyno mewn cyfarfod o’r
Cabinet yn y dyfodol ac o fewn y pecyn byddai yna ymrwymiad i ariannu a
chydnabod yr angen yn y Rhyl am ysgol gynradd newydd ar Ystâd Aberkinsey,
ynghyd â materion eraill a godwyd gan ysgolion yn Sir Ddinbych. Cafodd y mater o leihau terfyn cyflymder ar y ffordd a elwir yn Ffordd Syth Abergele yn Rhuddlan ei godi. Cadarnhaodd yr Aelod Arweiniol Priffyrdd, Cynllunio a Theithio Cynaliadwy bod ffurflen ar gyfer cynnig yn cael ei chyflwyno i’r Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion Archwilio er mwyn i adroddiad gael ei drafod yn y Pwyllgor Archwilio. Mynegodd yr
Aelodau eu diolch i'r Pennaeth Cyllid, Richard Weigh a'i dîm, ynghyd â'r Aelod
Arweiniol, y Cynghorydd Julian Thompson-Hill am eu holl waith caled. PENDERFYNWYD bod: ·
Yr Aelodau yn nodi’r diweddaraf ar elfen
Cynllun Cyfalaf 2018/18 a’r diweddariad ar brosiectau mawr. ·
Yr Aelodau'n cefnogi argymhelliad y
Grŵp Buddsoddi Strategol fel y nodir yn Atodiad 5 a chrynhoir yn Atodiad
6. ·
Yr Aelodau yn cefnogi argymhelliad y
Cabinet i gymeradwyo’r 25k ar gyfer cynnig terfyn cyflymder 40mya Bwlch yr
Oernant fel y manylir yn Atodiad 5 ac sydd wedi ei grynhoi yn Atodiad 6. ·
Aelodau yn cymeradwyo Cynllun Cyfalaf
2018/19. |
|
Ar y pwynt hwn
cytunwyd i amrywio trefn y Rhaglen i gwblhau’r cyflwyniad ar yr eitemau
cyllid. |
|
DATGANIAD STRATEGAETH RHEOLI TRYSORLYS 2018/19 A DANGOSYDDION DARBODUS 2018/19 - 2020/21 PDF 216 KB Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Cyllid (copi yn amgaeedig) i geisio cymeradwyaeth y Cyngor ar gyfer Datganiad Strategol Rheoli Trysorlys 2018/19 a Dangosyddion Darbodus 2018/19 – 2020/21 Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr
Arweinydd, y Cynghorydd Hugh Evans yr adroddiad Datganiad Strategaeth Rheoli’r
Trysorlys 2018/19 a Dangosyddion Darbodus 2018/19 i 2020/21 (dosbarthwyd yn
flaenorol) yn lle’r Cynghorydd Julian Thompson-Hill nad oedd yn gallu bod yn
bresennol oherwydd salwch. Roedd Cod Ymarfer
y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth ar Reoli Trysorlys yn
gofyn i'r Cyngor gymeradwyo'r DSRhT a'r Dangosyddion Darbodus yn flynyddol. Ystyriodd y
Cyngor yr adroddiad ac yn dilyn trafodaeth, mynegodd yr Aelodau eu diolch i'r
Pennaeth Cyllid, Richard Weigh a'i dîm, ynghyd â'r Cynghorydd Julian
Thompson-Hill am eu holl waith caled. PENDERFYNWYD bod
y Cyngor yn: ·
Cymeradwyo Datganiad Strategaeth Rheoli’r
Trysorlys ar gyfer 2018/19 a fanylir yn Atodiad 1 yr adroddiad. ·
Cymeradwyo gosod Dangosyddion Darbodus ar
gyfer 2018/19, 2019/20 a 2020/21 a fanylir yn Atodiad 1 yr adroddiad ·
Cymeradwyo’r Datganiad Darpariaeth Isafswm
Refeniw fel y manylir yn Atodiad 1 Adran 6 yr adroddiad ·
Cadarnhau eu bod wedi darllen, deall ac
wedi ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les, fel y manylir yn Atodiad 2 yr
adroddiad, fel rhan o'i ystyriaethau. |
|
Ar y pwynt hwn (11.40 a.m.) cafwyd egwyl o 20
munud. Ailddechreuodd y cyfarfod am 12.00 canol dydd. |
|
CYNLLUN RHANBARTHOL ASESIAD O BOBLOGAETH GOGLEDD CYMRU PDF 302 KB Ystyried
adroddiad gan y Rheolwr Prosiect Rhanbarthol – Asesiad o Boblogaeth a'r Swyddog
Datblygu Strategol (copi yn amgaeedig) i’r Cyngor gymeradwyo'r Cynllun
Rhanbarthol. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr
Aelod Arweiniol dros Les ac Annibyniaeth, y Cynghorydd Bobby Feeley, adroddiad
Cynllun Rhanbarthol Asesiad Poblogaeth Gogledd Cymru (a oedd wedi ei gylchredeg
yn flaenorol). Roedd rhaid i’r
Awdurdodau Lleol a’r Byrddau Iechyd yn rhanbarth Gogledd Cymru lunio Cyd
Gynllun Ardal 5 mlynedd mewn ymateb i’r asesiad poblogaeth erbyn 1 Ebrill 2018.
Roedd hyn yn ofynnol o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru)
2014 a'r Rheoliadau Gofal a Chymorth (Cynllunio Ardal) (Cymru) 2017. Roedd rhaid i’r
Cynllun ganolbwyntio ar y gwasanaethau integredig a gynlluniwyd mewn ymateb i
bob thema a nodwyd yn yr asesiad poblogaeth. Roedd y cyd
gynlluniau i ddarparu disgrifiad o’r amrywiaeth a'r lefel o wasanaethau a
gynigiwyd eu darparu, neu eu trefnu, i ymateb i'r anghenion gofal a chymorth,
ac anghenion cymorth gofalwyr, a nodwyd yn y cyd adroddiadau asesiadau
poblogaeth. Roedd
ymgynghoriad wedi ei gynnal ar y Cynllun drafft rhwng 11 Awst a 17 Tachwedd
2017. Roedd yr ymgynghoriad wedi ceisio cynnwys cynifer o bobl â phosibl yn y
dasg o ysgrifennu a llunio'r cynllun yn gynnar yn y prosiect. Roedd
canfyddiadau’r ymgynghoriad wedi eu hymgorffori mewn drafft diwygiedig o’r
cynllun ac roedd adroddiad ymgynghori llawn wedi ei gynhyrchu. Ar y pwynt hwn
diolchodd yr Aelod Arweiniol, y Cynghorydd Bobby Feeley, i’r swyddogion am eu
gwaith caled. Cadarnhaodd fod hyn nawr yn sylfaen hynod o gryf, yn arbennig yn
sgil y boblogaeth hŷn gynyddol a phoblogaeth y plant sy'n derbyn gofal. Yn dilyn
trafodaeth: PENDERFYNWYD bod: ·
Aelodau yn cymeradwyo’r Cynllun
Rhanbarthol Asesiad Poblogaeth Gogledd Cymru drafft. ·
Y Pwyllgor yn cadarnhau ei fod wedi
darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o’r Effaith ar Les (Atodiad C) fel rhan
o’i ystyriaethau. |
|
CYNLLUN LLES BWRDD GWASANAETHAU CYHOEDDUS CONWY A SIR DDINBYCH 2018 – 2023 PDF 222 KB Ystyried
adroddiad gan y Rheolwr Tîm Cynllunio Strategol (copi yn amgaeedig) i geisio
cymeradwyaeth y Cyngor ar gyfer Cynllun Lles BGC Conwy a Sir Ddinbych 2018-23. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr Arweinydd, y Cynghorydd Hugh Evans,
Gynllun Lles Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a Sir Ddinbych 2018-2023 (a
oedd wedi ei gylchredeg yn flaenorol). Sefydliad statudol o dan Deddf Llesiant Cenedlaethau'r
Dyfodol (Cymru) 2015 yw’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Roedd drafft cyntaf y cynllun wedi ei gyhoeddi ar
gyfer ymgynghoriad rhwng 30 Hydref 2017 a 22 Ionawr 2018. Roedd y drafft cyntaf
yn cynnwys chwe blaenoriaeth ond yng nghyfarfod Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus
Conwy a Sir Ddinbych ar 29 Ionawr 2018, cafodd y chwe blaenoriaeth eu
hail-drefnu yn dri: (i)
Pobl
– Lles meddyliol da i bob oed (gan gynnwys y 1000 diwrnod cyntaf ac effaith hyn
ar ddyfodol person) (ii)
Cymuned
- Ymrymuso’r Gymuned (gan gynnwys gwydnwch pobl ifanc a phobl hŷn), a (iii)
Lle –
Gwydnwch amgylcheddol. Mae’r themâu hyn yn cyd-fynd â’r blaenoriaethau a
amlinellir yng Nghynllun Corfforaethol Sir Ddinbych. Roedd y Swyddog Cynllunio Strategol a Pherfformiad
wedi mynychu cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Partneriaethau ar 14 Rhagfyr i
gyflwyno’r cynllun drafft a thrafod safbwynt y Pwyllgor ar gwestiynau’r
ymgynghoriad. Ar y pwynt hwn, darllenodd y Cynghorydd Jeanette
Chamberlain-Jones ddatganiad yn ei rôl fel Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio Partneriaethau
oedd fel a ganlyn: Gan mai’r Pwyllgor Archwilio Partneriaethau yw pwyllgor archwilio dynodedig
y Cyngor ar gyfer materion Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, roedd yn un o'r rhai a
ymgynghorwyd ag o’n statudol ar y Cynllun Lles drafft. Ymgynghorwyd â'r
Pwyllgor ar flaenoriaethau a chynnwys Cynllun Lles y Bwrdd Gwasanaethau
Cyhoeddus yn ei gyfarfod ar 14 Rhagfyr 2017. Mae’r pwyntiau a godwyd gan y
Pwyllgor wedi eu nodi mewn atodiad i’r adroddiad a gyflwynir i chi heddiw, ac
mae pob un ohonoch wedi cael cyfle i’w ddarllen. Byddwch yn gweld o'r pwyntiau a godir gan y
Pwyllgor yn y cyfarfod fod: · Aelodau yn cydnabod fod y
Cynllun ei hun yn ddogfen strategol lefel uchel sy’n nodi amcanion a dyheadau’r
Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus am y pum mlynedd nesaf. Byddai ei ddarparu, felly, yn ddibynnol ar gynlluniau darparu
traws-sefydliadol a chydweithio effeithiol gan bob partner; · Cododd aelodau nifer o
bwyntiau yn ymwneud â hyrwyddo gwydnwch ymysg pob grŵp oedran i wella
iechyd a lles (corfforol a meddyliol), lleihau gordewdra ac arwahanrwydd
cymdeithasol ac ati. Mae felly’n ddymunol fod y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus,
yn sgil yr ymarferiad ymgynghori, wedi penderfynu canolbwyntio ar y tri phrif
flaenoriaeth sef: i.
Pobl – Lles meddyliol da i bawb o bob oed (gan gynnwys y 1000 diwrnod
cyntaf ac effaith hyn ar ddyfodol person) ii.
Cymuned - Grymuso’r Gymuned (gan gynnwys gwydnwch pobl ifanc a phobl
hŷn) iii.
Lle – Gwydnwch amgylcheddol gan fod pob un yn gyd-ddibynnol ar ei gilydd, ac yn
cyd-fynd â’i gilydd. Maent hefyd yn
cefnogi ideoleg atal a gweithio mewn partneriaeth effeithiol Deddf Llesiant
Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a
Llesiant (Cymru) 2014 at y diben o fagu gwydnwch a gwella lles. · sefydliadau gwasanaethau cyhoeddus sy’n aelodau o’r
Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus sydd â’r pŵer i weithredu’r blaenoriaethau a
restrir yn y Cynllun Lles, h.y. drwy eu cynlluniau strategol, yma yn Sir
Ddinbych, ein Cynllun Corfforaethol. Roedd yn ddymunol felly i weld fod y themâu yn y Cynllun
Lles terfynol yn cyd-fynd â'n Cynllun Corfforaethol. I lwyddo i ddarparu ein Cynllun
Lles byddai angen i bob sefydliad partner weithio’n effeithiol gyda’i gilydd,
byddai hefyd angen iddynt gael sianelau cyfathrebu clir gyda’i gilydd a gyda
thrigolion. · er mwyn cyflawni ei gyfrifoldebau mewn perthynas â
darparu’r Cynllun, bydd Archwilio yn monitro cynnydd y Bwrdd Gwasanaethau
Cyhoeddus wrth gyflawni’r blaenoriaethau a’r Cynllun. Gan fod gan Sir Ddinbych Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ar y cyd â Chonwy, mae gwaith yn cael ei wneud ar ... view the full Cofnodion text for item 9. |
|
PENODI AELOD CYNGOR DINAS, TREF A CHYMUNED I’R PWYLLGOR SAFONAU PDF 200 KB Ystyried
adroddiad gan y Swyddog Monitro (copi yn amgaeedig) i'r Cyngor gymeradwyo
penodi Aelod Cyngor Dinas, Tref a Chymuned i’r Pwyllgor Safonau. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y
Swyddog Monitro Benodiad aelod Cyngor Dinas, Tref a Chymuned i adroddiad y
Pwyllgor Safonau (a oedd wedi ei gylchredeg yn flaenorol). Mae’r
Rheoliadau’n ei gwneud yn ofynnol i'r Cyngor gyhoeddi hysbyseb ar gyfer swydd
aelod Cyngor Dinas, Tref a Chymuned a sefydlu Panel o uchafswm o bum aelod i
ystyried pob cais a dderbyniwyd a gwneud argymhellion i'r Cyngor ar y
penodiad. Yng nghyfarfod y Panel ar 17
Hydref, penododd y Cyngor y Cynghorwyr Gareth Davies, Richard Mainon a Mark
Young i'r Panel. Roedd tri
ymgeisydd ar gyfer swydd yr aelod Dinas, Tref a Chymuned a chawsant eu cyfweld
gan y Panel ar 19 Ionawr 2018. Y Cynghorydd Gordon Hughes o Gyngor Tref Corwen
a ystyriwyd gan y Panel i fod yr ymgeisydd mwyaf addas ac felly cafodd ei
argymell i'r Cyngor Llawn ar gyfer ei benodi. PENDERFYNWYD fod
y Cynghorydd Gordon Hughes yn cael ei benodi i'r Pwyllgor Safonau am gyfnod
sy’n dod i ben ar ddyddiad yr Etholiadau Llywodraeth Leol nesaf yn 2022. |
|
RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL Y CYNGOR SIR PDF 346 KB Ystyried Rhaglen
Gwaith i’r Dyfodol y Cyngor (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd
Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd Raglen
Gwaith i'r Dyfodol y Cyngor (dosbarthwyd eisoes). Briffio’r Cyngor - 12 Mawrth 2018 - Dileu Dull Cyflogaeth Strategol Sir
Ddinbych. PENDERFYNWYD,
yn amodol ar yr uchod, y dylid cymeradwyo a nodi Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y
Cyngor. |
|
Daeth y cyfarfod i ben am 1.35 p.m. |