Agenda and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnodion: Cyflwynwyd
ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr Joan Butterfield, Rachel Flynn,
Tony Hugh, Hugh Irving, Alan James, Melvyn Mile, Glenn Swingler, David Williams
ac Eryl Williams. |
|
DATGAN CYSYLLTIAD Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu ag unrhyw fater a nodwyd yn un i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Ni chafodd unrhyw
gysylltiad ei ddatgan. |
|
GWAHARDD Y WASG A'R CYHOEDD PENDERFYNWYD - Yn unol ag Adran 100A (4) Deddf
Llywodraeth Leol 1972, bod y Wasg a'r Cyhoedd yn cael eu gwahardd o'r cyfarfod
tra bod yr eitem ganlynol o fusnes yn cael ei hystyried, oherwydd ei bod yn
debygol y bydd gwybodaeth eithriedig yn cael ei datgelu (fel y'i diffinnir ym
mharagraff 12 ac 14 o Ran 4, Atodlen 12A y Ddeddf). |
|
PENODI CYFARWYDDWR CORFFORAETHOL: ECONOMI A’R PARTH CYHOEDDUS Cyfweld ymgeiswyr ac ystyried penodi i swydd Cyfarwyddwr Corfforaethol: Economi a Pharth y Cyhoedd. Bydd Panel Penodi Arbennig yn penderfynu ar nifer yr ymgeiswyr i gael eu cyfweld. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Bu i ymgynghorydd recriwtio’r Cyngor adrodd ar y broses recriwtio a gynhaliwyd, a arweiniodd at 30 o geisiadau a rhestr fer o 6 ymgeisydd ar gyfer y broses asesu. Cynghorwyd Aelodau bod Panel Penodiadau Arbennig o gynghorwyr wedi nodi dau ymgeisydd gyda’r potensial i gael eu penodi, ac fe'u gwahoddwyd i fynychu cyfarfod y Cyngor heddiw.
Rhoddodd y ddau ymgeisydd gyflwyniad i’r Cyngor ac ymateb i gyfres o gwestiynau gan yr aelodau; cafodd y ddau ymgeisydd yr un cwestiynau.
Wedi i’r ddau ymgeisydd adael y Siambr, trafododd yr aelodau eu cyflwyniadau, ymatebion i’r cwestiynau a’u perfformiad yn ystod y broses asesu.
PENDERFYNWYD – penodi Graham
Boase i swydd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Economi a’r Parth Cyhoeddus. |