Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun LL15 1YN

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

Gweithredodd y Cynghorydd Peter Scott (Is-Gadeirydd) fel Cadeirydd y cyfarfod yn absenoldeb y Cadeirydd, y Cynghorydd Peter Prendergast.

 

 

 

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

2.

DATGAN CYSYLLTIAD

Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu ag unrhyw fater a nodwyd fel un i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim cysylltiadau i’w datgan.

 

 

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Rhybudd o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim materion brys.

 

Yn y fan hon, talodd Cynghorwyr deyrnged i gyn Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Sir Ddinbych, Meirion Hughes, a fu farw yn ei gartref ddydd Sul yn dilyn salwch byr. Meirion, a oedd yn byw yn Rhuddlan, oedd Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol cyntaf Sir Ddinbych ym 1996. Yna daeth yn Gyfarwyddwr Corfforaethol, y Dirprwy Brif Weithredwr, ac yna'n Brif Weithredwr Dros Dro cyn ymddeol o'r Cyngor. Roedd wedi cynorthwyo'r Cyngor gyda'r ymgynghoriad cyhoeddus ar ddyfodol gwasanaethau mewnol trwy gadeirio'r cyfarfodydd ymgynghori a hefyd bu’n chwarae rhan amlwg fel Cadeirydd Cefndy Enterprises. Yn ystod y teyrngedau dywedodd y Cynghorwyr y byddai colled ar ei ôl a byddai'n cael ei gofio am ei broffesiynoldeb a'i gefnogaeth i'r Cyngor.

 

 

4.

DYDDIADUR Y CADEIRYDD pdf eicon PDF 222 KB

Nodi ymrwymiadau dinesig a ymgymerwyd gan Gadeirydd y Cyngor (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dosbarthwyd rhestr o ddigwyddiadau dinesig a fynychwyd gan y Cadeirydd a’r Is-Gadeirydd yn y cyfnod 6 Hydref 2017 – 25 Tachwedd 2017 cyn y cyfarfod.

 

Talodd y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies deyrnged i Gadeirydd Hosbis Sant Cyndeyrn, Trefor Jones CVO CBE, a oedd yn ymddeol. Roedd Cadeirydd y Cyngor wedi mynychu cinio ymddeol ar gyfer Mr Jones yn Llanelwy.

 

PENDERFYNWYD derbyn y rhestr o ddigwyddiadau dinesig a fynychwyd gan y Cadeirydd a’r Is-Gadeirydd.

 

 

5.

COFNODION pdf eicon PDF 250 KB

I dderbyn cofnodion:

 

(i)              Cyfarfod arbennig y Cyngor Sir a gynhaliwyd ar 26 Medi 2017 (copi ynghlwm); a

(ii)             Chyfarfod y Cyngor Sir a gynhaliwyd ar 17 Hydref 2017 (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod o’r Cyngor Arbennig a gynhaliwyd ar 26 Medi 2017 a’r Cyngor Llawn a gynhaliwyd ar 17 Hydref 2017.

 

Beirniadodd y Cynghorwyr Arwel Roberts a Meirick Lloyd Davies safon cyfieithu’r cofnodion o’r Saesneg i’r Gymraeg.

 

Eglurodd y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd mai’r Gwasanaeth Cyfieithu yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Conwy oedd yn cyfieithu’r dogfennau. Cadarnhaodd bod yr holl staff cyfieithu yn gyfieithwyr cymwys ond byddai’r mater yn cael ei godi gyda Chonwy gan y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd.

 

Yn dilyn pleidlais unfrydol:

 

PENDERFYNWYD cadarnhau cofnodion y:

(i)              Cyngor Arbennig a gynhaliwyd ar 26 Medi 2017, a’r

(ii)             Cyngor Llawn a gynhaliwyd ar 17 Hydref 2017

fel cofnod cywir a’u llofnodi felly gan y Cadeirydd.

 

 

6.

GWEITHREDU PREMIWM TRETH CYNGOR AR GARTREFI GWAG HIRDYMOR AC AIL GARTREFI pdf eicon PDF 230 KB

I ystyried adroddiad gan y Pennaeth Cyllid a’r Rheolwr Cymorth Busnes (copi ynghlwm) ar gyfer Aelodau i benderfynu p’un ai i godi ffi Premiwm Treth Cyngor ar dai gwag hirdymor ac ail gartrefi.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol dros Gyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol yr adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) i hysbysu aelodau o'r pwerau newydd oedd gan Awdurdodau Lleol yng Nghymru i gynyddu taliadau Treth y Cyngor ar gartrefi gwag hirdymor ac ail gartrefi o ganlyniad i Ddeddf Tai ( Cymru) 2014.

 

O 1 Ebrill 2017, rhoddwyd pwerau i gynghorau yng Nghymru godi tâl ychwanegol ar berchnogion tai hyd o at 100% o Dreth y Cyngor ar gartrefi gwag hirdymor ac ail gartrefi. Roedd y pwerau hyn wedi'u dirprwyo trwy Ddeddf Tai (Cymru) 2014.

 

Roedd yn ofynnol i Awdurdodau Lleol gael y taliadau wedi’u dilysu gan y Cyngor Llawn un flwyddyn cyn gweithredu hyn ar gyfer ail gartrefi. Fodd bynnag, ar gyfer cartrefi gwag hirdymor, yr unig ofyniad fyddai bod yn rhaid i'r eiddo fod wedi bod yn wag am o leiaf blwyddyn lawn cyn codi tâl.

 

Bwriadwyd i’r nodau a gafodd eu datgan yn y ddeddfwriaeth fod fel cyfarpar:

·       Ar gyfer Awdurdodau Lleol i helpu dod â thai gwag yn ôl i ddefnydd

·       I gynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy

·       I wella cynaladwyedd cymunedau lleol.

 

Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus rhwng 16 Tachwedd 2016 a 14 Rhagfyr 2016, lle cafwyd cyfanswm o 49 o ymatebion. Roedd yr adborth cyffredinol o'r ymgynghoriad wedi bod yn gefnogol i godi tâl ar ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor.

 

Er y byddai codi tâl premiwm ar yr eiddo yn creu arian ychwanegol, y prif symbylydd i Lywodraeth Cymru wrth gyflwyno'r ddeddfwriaeth oedd helpu Awdurdodau Lleol i:

·       Ddod â chartrefi gwag hirdymor yn ôl i ddefnydd i ddarparu cartrefi diogel a fforddiadwy, a

·       Chefnogi Awdurdodau Lleol i gynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy a gwella cynaladwyedd cymunedau lleol.

 

Roedd eithriadau i'r Premiwm Treth Cyngor ar gartrefi gwag hirdymor ac ail gartrefi wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.

 

Yn ystod y drafodaeth, cynigiwyd gan y Cynghorydd Glen Swingler, Grŵp Plaid Cymru, ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Mabon ap Gwynfor, bod y premiwm ar gartrefi gwag hirdymor ac ail gartrefi'n 100% ac nid 50% fel yr argymhellwyd yn yr adroddiad.

 

Eglurodd yr Aelod Arweiniol dros Gyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol y byddai codi 50% yn gyson ag Awdurdodau Lleol cyfagos ac y byddai adolygiad o weithredu’r premiwm Treth y Cyngor hefyd yn digwydd ym mis Medi 2018.

 

Cadarnhawyd y byddai Awdurdodau Lleol yn cael eu hannog i ddefnyddio unrhyw refeniw ychwanegol a gynhyrchwyd i helpu i ddiwallu anghenion tai lleol, yn unol â bwriadau polisi'r premiymau. Ni ellid neilltuo incwm Treth y Cyngor ar gyfer ardal benodol, ond byddai'n cael ei ychwanegu at elfen Tai y Cynllun Corfforaethol.

 

Mynegodd y Cynghorydd Graham Timms ei bryder ynghylch canran y bobl a ymatebodd i'r ymgynghoriad. Gofynnodd a oedd yn ofyniad statudol i ymgynghori ac a oedd yr ymatebion yn ganlyniadol. 

 

Cadarnhawyd ei bod yn ofyniad statudol i ymgynghori a theimlwyd y byddai'r lefel 50% yn rhoi cymhelliad i ddod ag eiddo yn ôl i ddefnydd preswyl.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Joan Butterfield am ohiriad byr o'r cyfarfod i'r Grŵp Llafur ystyried y ddau opsiwn o godi premiwm o naill ai 50% neu 100%.

 

Cytunwyd gan bawb yn bresennol i ohirio er mwyn i’r Grwpiau gynnal trafodaeth fer cyn mynd ymlaen â gweddill y cyfarfod.

 

Ar y pwynt hwn (11.00 a.m.) bu gohiriad o 15 munud i'r cyfarfod.

 

Ailddechreuodd y cyfarfod am 11.15 a.m.

 

Rhoddodd yr Aelod Arweiniol, y Cynghorydd Julian Thompson-Hill grynodeb o’r drafodaeth ac eglurodd ei bod wedi bod yn un hynod ddiddorol a chadarnhaol.

 

Roedd yr argymhelliad o fewn yr adroddiad wedi bod am gyfradd premiwm o 50% ond cyflwynwyd gwelliant gan y Cynghorydd Glen Swingler  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

CYNLLUN DATBLYGU LLEOL SIR DDINBYCH: ADRODDIAD ADOLYGU DRAFFT, CYTUNDEB CYFLAWNI CDLL DRAFFT NEWYDD AC ADRODDIAD CWMPASU ARFARNIAD O GYNALIADWYEDD - CYMERADWYO DOGFENNAU TERFYNOL I'W CYFLWYNO I LYWODRAETH CYMRU pdf eicon PDF 260 KB

I ystyried adroddiad gan y Rheolwr Cynllunio Strategol a Thai (copi ynghlwm) i’r Cyngor i gymeradwyo'r dogfennau ar gyfer eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd yr adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) er mwyn rhoi amlinelliad i'r Aelodau o ganlyniadau'r ymgynghoriad cyhoeddus ar yr Adroddiad Adolygu CDLl drafft, Cytundeb Cyflawni CDLl Drafft Newydd ac Adroddiad Cwmpasu Arfarniad o Gynaliadwyedd. Amlygodd yr adroddiad hefyd y materion allweddol a godwyd yn ystod yr ymgynghoriad ac unrhyw ddiwygiadau dilynol i'r dogfennau.

 

Cafodd CDLl Sir Ddinbych ei fabwysiadu ar 4 Mehefin 2013 ac roedd Llywodraeth Cymru wedi cynghori dylai adolygiad gael ei gynnal o'r CDLl yn 2017 er mwyn bodloni'r gofyniad deddfwriaethol. 

 

Bu ystod o ddeddfau newydd a diwygiedig a ddaeth i rym ers mabwysiadu CDLl Sir Ddinbych yn 2013. Y rhai mwyaf amlwg oedd Deddf Lles Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf Cynllunio (Cymru) 2015. Byddai angen adolygu’r CDLl gan ystyried cydymffurfiaeth â deddfwriaeth sylfaenol a gallai fod angen newidiadau i adlewyrchu'r ddeddfwriaeth a'r canllawiau cyfredol.

 

Yn dilyn cymeradwyaeth i ymgynghori trwy benderfyniad Dirprwyedig Aelod Arweiniol a gyhoeddwyd ar 7 Awst 2017, cynhaliwyd ymgynghoriad o 9 wythnos rhwng 21 Awst 2017 a 20 Hydref 2017. Cafwyd cyfanswm o 23 o ymatebion, gan gynnwys sylwadau gan Cyfoeth Naturiol Cymru, Anwyl Construction a thrigolion Sir Ddinbych. Roedd yr holl sylwadau wedi'u cofnodi. Roedd y materion allweddol a godwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd yn flaenorol.

 

Roedd y dogfennau wedi'u hystyried yn y Pwyllgor Cynllunio ar 15 Tachwedd 2017 a oedd wedi tynnu sylw at yr holl newidiadau, ac argymhellwyd i'w cymeradwyo gan y Cyngor Llawn i'w cyflwyno i Lywodraeth Cymru.

 

Yn dilyn trafodaeth, eglurwyd bod yr adroddiad a gyflwynwyd i'r Cyngor Llawn er mwyn cael cymeradwyaeth i gychwyn y broses. Nid oedd yr adroddiad a gyflwynwyd ar gyfer diwygiadau i safleoedd na'r hyn y dylid ei gynnwys ai peidio o fewn y CDLl. Roedd ar gyfer ddechrau'r broses, sefydlu'r Pwyllgor CDLl ym mis Ionawr 2018 ac i'w gyflwyno yn y Cyngor Llawn yn y Flwyddyn Newydd.

 

Cynhaliwyd pleidlais a dyma’r canlyniad:

 

PENDERFYNWYD:

3.1           Bod y Cyngor yn cymeradwyo'r dogfennau canlynol fel y'u diwygiwyd i'w cyflwyno i Lywodraeth Cymru:

Dogfen

 

Statws

o   Adolygiad Adolygu’r CdLl ac Atodiadau dilynol:

 

I’w gyflwyno i Lywodraeth Cymru

o   Atodiad A Papur gwybodaeth Parchu Gwahanolrwydd

 

I’w gyflwyno i Lywodraeth Cymru

o   Atodiad B Papur gwybodaeth Adeiladu Cymunedau Cynaliadwy

 

I’w gyflwyno i Lywodraeth Cymru

o   Atodiad C Papur gwybodaeth Hyrwyddo Economi Gynaliadwy

 

I’w gyflwyno i Lywodraeth Cymru

o   Atodiad D Papur gwybodaeth Gwerthuso ein Hamgylchedd

 

I’w gyflwyno i Lywodraeth Cymru

o   Atodiad E Papur gwybodaeth Cyflawni Hygyrchedd Cynaliadwy

 

I’w gyflwyno i Lywodraeth Cymru

o   Atodiad F Adroddiad Cwmpasu Cynaliadwyedd

 

I’w gyflwyno i Lywodraeth Cymru

o   Atodiad G Gwerthusiad Rheoliadau Cynefinoedd

 

I’w gyflwyno i Lywodraeth Cymru

o   Atodiad H Cytundeb Darparu ar gyfer CDLl newydd

 

I’w gyflwyno i Lywodraeth Cymru

o   Atodiad 1 Adrodd yn ôl ar yr Ymgynghoriad

 

Er gwybodaeth yn unig

 

3.2     Bod y Pwyllgor yn cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad Effaith ar Les fel rhan o'i ystyriaethau.

 

 

Ar y pwynt hwn (12.15 p.m.) roedd egwyl o 20 munud

 

Ailddechreuodd y cyfarfod am 12.35.

 

 

 

8.

RECRIWTIO PRIF WEITHREDWR pdf eicon PDF 200 KB

I ystyried adroddiad gan Bennaeth Gwasanaethau’r Gyfraith, AD a Democrataidd (copi ynghlwm) i geisio cymeradwyaeth y Cyngor i recriwtio i rôl y Prif Weithredwr a chytuno ar y dull i’w gymryd yn y broses recriwtio.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ar y pwynt hwn, gadawodd y Prif Weithredwr Siambr y Cyngor.

 

Cyflwynodd yr Arweinydd, y Cynghorydd Hugh Evans, Adroddiad Recriwtio'r Prif Weithredwr (a ddosbarthwyd yn flaenorol). 

 

Eglurodd y Cynghorydd Evans mai rôl y Cyngor oedd penodi Pennaeth Gwasanaethau Taledig ar gyfer Sir Ddinbych ac roedd cael y Prif Weithredwr cywir yn allweddol i gyflwyno enw da Sir Ddinbych, y diwylliant cywir o wneud penderfyniadau, cefnogi a datblygu staff i berfformio i'w potensial a diogelu swyddogion i wneud y penderfyniadau cywir. Pwysleisiodd wrth yr Aelodau mai hwn oedd un o'r penderfyniadau pwysicaf y byddent yn ei wneud i ddenu'r ymgeiswyr gorau i fod yn Brif Weithredwr Sir Ddinbych.

 

Cadarnhaodd y Dirprwy Arweinydd, y Cynghorydd Julian Thompson-Hill i'r Aelodau ei fod wedi gwasanaethu fel Cadeirydd Panel Cydnabyddiaeth Sir Ddinbych a oedd yn grŵp gwleidyddol gytbwys o Aelodau. Cyfarfu'r Panel Cydnabyddiaeth ar 7 Tachwedd 2017 i ystyried pecyn cydnabyddiaeth arfaethedig ar gyfer y Prif Weithredwr newydd a oedd bellach wedi’i argymell i'r Cyngor i'w gymeradwyo.

 

Darparodd y pecyn cyflog arfaethedig radd gynyddol o dri phwynt gyda'r trefniadau Cyflog sy'n gysylltiedig â Pherfformiad (PRP) presennol yn cael eu dileu. Byddai codiad cyflog cynyddol yn cael ei ddyfarnu yn seiliedig ar gwblhau'r gwasanaeth perthnasol.

 

Ar y cyfan, byddai'r pecyn yn darparu arbediad dros dair blynedd o £35,548 yn erbyn y cyfanswm cyflog cyfredol (gan gynnwys PRP). Roedd rhan o'r broses yn mynnu bod y cynnig yn cael ei ystyried gan Banel Cydnabyddiaeth Annibynnol Cymru (IRP). Roedd yr IRP wedi cyfarfod ar 16 Tachwedd 2017 i ystyried y cynnig a gyflwynwyd ac roeddent yn cytuno'n llawn â'r newidiadau arfaethedig.

 

Eglurodd y Rheolwr Gwasanaethau Adnoddau Dynol y broses recriwtio i'r Aelodau. 

 

Yn unol â Rheoliadau Diwygiedig Rheolau Sefydlog (Cymru) 2014, roedd gofyn bod swyddi â chyflogau o fwy na £100k, a oedd yn para 12 mis neu fwy, yn cael eu hysbysebu'n allanol.

 

Rhan o'r broses fyddai sefydlu Panel Penodiadau Arbennig. Byddai'r Panel yn cynnwys 7 aelod gwleidyddol gytbwys, dan gadeiryddiaeth yr Arweinydd ac yn cynnwys uchafswm o 2 Aelod Cabinet arall.

 

Byddai ymgyrch Recriwtio Prif Weithredwr yn cael ei reoli'n fewnol gan y Rheolwr Gwasanaethau Adnoddau Dynol gydag arbenigwr allanol yn cael ei ddefnyddio i ymgymryd â chwiliad gweithredol, a chefnogi'r broses llunio rhestr fer, asesu a phenodi. Y costau disgwyliedig ar gyfer yr arbenigwr allanol fyddai oddeutu £14,000 - £20,000. Byddai hyn yn cynnwys cost hysbysebion yn y cyfryngau, profion arbenigol posibl a pharatoi a dadansoddi asesiadau. Byddai'r broses ar gyfer dewis yr arbenigwr allanol yn cael ei wneud trwy dendr ffurfiol. Roedd yr amserlenni ar gyfer y broses wedi'u cynnwys yn yr adroddiad.   

 

Yn ystod y drafodaeth, codwyd y pwyntiau canlynol:

·       Mynegodd Grŵp Plaid Cymru eu pryder ynghylch y cyflog a gynigiwyd yn yr adroddiad oherwydd y ffaith byddai yna ddyfodol o galedi a thoriadau, cynnydd yn nhreth y cyngor a 12% o weithwyr yn ennill llai na'r "cyflog byw go iawn". 

·       Mynegodd Aelodau'r Grŵp Ceidwadol eu pryder nad oedd y cyflog a argymhellwyd yn yr adroddiad yn ddigon i ddenu ymgeisydd o’r safon sydd ei angen i arwain y Cyngor drwy'r blynyddoedd anodd sydd i ddod.

·       Nodwyd mai'r ymgeisydd gorau ar gyfer y swydd gyda'r sgiliau i gadw Sir Ddinbych yn Awdurdod Lleol sy'n perfformio'n uchel oedd y flaenoriaeth ac os oedd y penodedig yn siarad Cymraeg byddai'n fonws, ond roedd y Cyngor wedi ffynnu yn ystod y 10 mlynedd diwethaf gyda Phrif Weithredwr di-Gymraeg a oedd wedi sicrhau bod buddsoddiad wedi bod yn yr iaith Gymraeg.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Mabon ap Gwynfor ddiwygiad i'r argymhelliad o gyflog cychwynnol o £117k gyda chynnydd i £119k a £121k, eiliwyd hyn  ...  view the full Cofnodion text for item 8.

9.

RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL Y CYNGOR SIR pdf eicon PDF 359 KB

Ystyried Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cyngor (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd Raglen Gwaith i’r Dyfodol y Cyngor i'r Cyngor (a ddosbarthwyd yn flaenorol).

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo a nodi Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cyngor.

 

 

 

 

Daeth y cyfarfod i ben am 2.10 p.m.