Agenda and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun LL15 1YN
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Dogfennau ychwanegol: |
|
DATGANIADAU O FUDDIANT PDF 197 KB Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu ag unrhyw
fater a nodwyd yn un i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafwyd
datganiadau o gysylltiad personol (Eitem 7 - Polisi Cludiant i Ddysgwyr Sir
Ddinbych) eu derbyn gan: Y Cynghorwyr
Emrys Wynne, Mabon ap Gwynfor, Huw Hilditch-Roberts, Cheryl Williams, Paul
Penlington, Martyn Holland, Julian Thompson-Hill, Rachel Flynn, Tony Flynn,
Arwel Roberts, Tina Jones, Gareth Lloyd Davies, Barry Mellor, Geraint Lloyd
Williams, Huw Williams, Anton Sampson, Peter Scott, Merfyn Parry, Joe Welch a
Brian Jones. Cafwyd
datganiadau o gysylltiad personol (Eitem 10 - Polisi Tâl Blynyddol) eu derbyn
gan: Y Cynghorwyr Huw
Hilditch-Roberts ac Ellie Chard. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim materion brys. |
|
DYDDIADUR Y CADEIRYDD PDF 211 KB Nodi ymrwymiadau
dinesig a ymgymerwyd gan Gadeirydd y Cyngor (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd rhestr o ddigwyddiadau dinesig a fynychwyd gan y Cadeirydd a’r
Is-Gadeirydd ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Mehefin 2017 a 30 Mehefin 2017 wedi’i
dosbarthu cyn y cyfarfod. Roedd y Cadeirydd
wedi mynd i nifer o ddigwyddiadau, ond wedi canmol Cyngerdd Lansio'r Ŵyl
yng Nghadeirlan Llanelwy’n enwedig. Roedd yr
Is-Gadeirydd hefyd wedi mynd i nifer o ddigwyddiadau ac wedi canmol Ffair Ardd
Flynyddol y Clybiau Rotari ac Inner Wheel yn Llangollen. PENDERFYNWYD derbyn
y rhestr o ymrwymiadau dinesig y bu i’r Cadeirydd a'r Is-gadeirydd eu mynychu. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Cyngor Blynyddol a gynhaliwyd 23 Mai 2017 (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod y Cyngor Llawn a gynhaliwyd ar 23 Mai 2017. PENDERFYNWYD cadarnhau
cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 23 Mai 2017 fel cofnod cywir, a’u
llofnodi gan y Cadeirydd. |
|
ADRODDIAD GWELLA BLYNYDDOL SWYDDFA ARCHWILIO CYMRU 2016-17 PDF 417 KB Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Gwella Busnes a Moderneiddio (copi ynghlwm) i roi
gwybod i Aelodau am gasgliad a chynigion gwella SAC. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd
cynrychiolydd Swyddfa Archwilio Cymru, Gwilym Bury, Adroddiad Gwella Blynyddol
Swyddfa Archwilio Cymru 2016-17 (a ddosbarthwyd yn flaenorol), i gynghori’r
Cyngor ar gasgliad a chynigion gwella Swyddfa Archwilio Cymru, ac i gael
cefnogaeth y Cyngor o ran ymateb i'r Adroddiad. Yn unol â Mesur Llywodraeth Leol, roedd Swyddfa Archwilio Cymru yn adolygu
cynnydd y Cyngor yn flynyddol tuag at gyflawni ei amcanion a'i ragolygon er
mwyn parhau i wella yn ystod y flwyddyn i ddod. Yn gyffredinol, roedd hwn wedi bod yn adroddiad cadarnhaol iawn, ac nid
oedd unrhyw argymhellion wedi’u cyflwyno.
Fodd bynnag, tynnodd yr adroddiad sylw at chwe “chynnig i wella” i’w
hystyried: (i)
Cryfhau
trefniadau llywodraethu drwy fonitro effaith pob newid arwyddocaol i
wasanaethau yn gyson ac amserol. (ii)
Cryfhau
trefniadau cynllunio ariannol drwy: Ø
Ddatblygu
polisi cynhyrchu incwm / codi tâl Ø
Rhoi
sgôr risg ffurfiol i arbedion yn ôl pa mor gyraeddadwy ydynt a nodi camau
lliniaru cynaliadwy i'r rheiny a ystyrir yn rhai risg uchel. (iii) Cryfhau trefniadau rheoli pobl drwy: Ø
Ddatblygu
dull i sicrhau bod gweithwyr heb fynediad i’r rhyngrwyd, neu fynediad
cyfyngedig ato, yn gallu cael gafael ar wybodaeth AD berthnasol, a Ø
Sicrhau
bod amrywiadau ac anghysondeb wrth gymhwyso polisïau AD yn cael eu hosgoi ar
gyfer gweithwyr rheng flaen nad ydynt mewn swyddfa. (iv) Cryfhau trefniadau rheoli asedau drwy
sicrhau bod camau gweithredu eisoes yn mynd rhagddynt i foderneiddio trefniadau
rheoli asedau corfforaethol i hyrwyddo defnydd mwy effeithlon ac effeithiol o
bortffolio tir ac eiddo'r Cyngor, ac atgyfnerthu ei gyfraniad fel adnodd
strategol. (v) Cryfhau trefniadau TGCh drwy: Ø
Sicrhau
bod y Cyngor yn ymgynghori â’i wasanaeth TGCh ynghylch unrhyw bethau technoleg
a brynir, ar gyfer pryniannau strategol ac arferol, a Ø
Sicrhau
bod arbenigedd TGCh digonol yn cael ei gynnwys mewn camau caffael a gweithredu
sy’n fwy o risg ac ar raddfa fwy. (vi) Cryfhau trefniadau rheoli gwybodaeth drwy: Ø
Sicrhau
bod trefniadau Llywodraethu Gwybodaeth yn bodloni gofynion y safonau
rhyngwladol ac yn cynnwys cynrychiolaeth o bob rhan o’r Cyngor cyfan Ø
Ymestyn
cylch gorchwyl y Grŵp Llywodraethu Gwybodaeth i gynnwys anghenion
gwybodaeth busnes, yn ogystal â'r gofynion i gydymffurfio Ø
Datblygu
Strategaeth Wybodaeth, yn gysylltiedig â strategaethau adnoddau eraill, i
siapio’r defnydd o wybodaeth a sicrhau bod gwybodaeth yn hygyrch yn ôl yr
angen, a Ø
Datblygu
cynlluniau gweithredu tymor hwy i’r System Rheoli Cofnodion a Dogfennau
Electronig, i symud y Cyngor tuag at ei nod o amgylchedd swyddfa di-bapur. Cadarnhaodd yr Aelod Cabinet Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol y diweddariad
gan y Cyngor i’r cynigion ar gyfer gwella, fel a ganlyn: (i)
Roedd
trefniadau cadarn yn eu lle i fonitro newid gwasanaeth. Byddai hyn yn parhau i fod yn rôl arweiniol
i’r broses Archwilio a Herio Gwasanaeth yn enwedig (ii)
Byddai’r
adroddiad yn mynd gerbron y Cabinet erbyn Hydref 2017 yn amlinellu’r cynigion i
gryfhau trefniadau yn y maes hwn. Roedd
system well o sgorio risg y cynlluniau effeithlonrwydd am gael eu mabwysiadu
mewn pryd ar gyfer 2018/19. (iii) O Fedi 2017, byddai mewnrwyd AD ar gael i’r
holl staff drwy'r rhyngrwyd, ac roedd trefniadau gweithio’n hyblyg yn cael eu
hadolygu ar hyn o bryd gyda’r bwriad o gael dull mwy cyson ar draws y Cyngor. (iv) Roedd y Cyngor yn parhau i weithredu gwelliannau i’w brosesau rheoli asedau. Roedd y trefniadau Grŵp Rheoli Asedau newydd wedi’u gweithredu ac yn gweithio’n effeithiol. Roedd y cyfnod ymgynghori ar y Strategaeth Rheoli Asedau wedi dod i ben ym Mai 2017, ac roedd disgwyl y byddai’r strategaeth yn cael ei mabwysiadu yn yr haf. Ochr yn ochr â hyn, roedd cyfres newydd o fesurau perfformiad yn cael ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
Ar y pwynt hwn (11.50 am) cafwyd egwyl o 25 munud. Ailddechreuodd y cyfarfod am 12.15 pm. |
|
POLISI CLUDIANT I DDYSGWYR SIR DDINBYCH PDF 233 KB Ystyried
adroddiad gan Bennaeth Addysg a Gwasanaethau Plant (copi ynghlwm) i roi adborth
yn dilyn ymarfer ymgynghori Polisi Cludiant i Ddysgwyr Sir Ddinbych a
chadarnhau a all mabwysiadu’r Polisi fynd ymlaen i’r cam nesaf gyda’r Cabinet. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr
Aelod Addysg, Plant a Phobl Ifanc adroddiad Polisi Cludiant i Ddysgwyr Sir
Ddinbych (a ddosbarthwyd yn flaenorol), i roi adborth yn dilyn ymgynghoriad ar
Bolisi Cludiant i Ddysgwyr newydd Sir Ddinbych, ac i geisio awdurdod i
fabwysiadu'r Polisi o 1 Medi 2018. Roedd yr
ymgynghoriad wedi’i gynnal gan Gefnogaeth Addysg ac roedd angen cadarnhad i
fabwysiadu’r Polisi i symud ymlaen i'r cam nesaf yn y Cabinet. O’r ymgynghoriad,
roedd 64 o ymatebion wedi dod i law ar-lein, ac 15 ymateb arall wedi dod i law
naill ai drwy’r post, e-bost neu sgwrs. Roedd y Polisi
wedi cael ymateb cadarnhaol gyda nifer o ymatebion yn nodi ei fod yn rhoi mwy o
eglurder ynghylch y fersiwn blaenorol.
Nodwyd bod adnabod cysylltiadau bwydo rhwng ysgolion, a rhoi cludiant am
ddim ar y sail honno, wedi bod yn gam cadarnhaol iawn ac yn cefnogi lles plant. Yn ystod y
drafodaeth codwyd y materion canlynol: ·
Roedd
Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 yn amodi y byddai cludiant am ddim ond
yn cael ei roi i ddysgwyr o oedran ysgol gorfodol os byddai’r pellter o’u
cartref i’w hysgol addas agosaf o leiaf: v
2
filltir i ddisgyblion Ysgol Gynradd v
3
milltir i ddisgyblion Ysgol Uwchradd ·
Yn unol
ag adran 10 Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008, roedd yr Awdurdod yn
hyrwyddo mynediad i addysg cyfrwng Cymraeg drwy roi cludiant dewisol i’r addysg
cyfrwng Cymraeg neu Saesneg addas agosaf, os mai dyma oedd dewis y rhiant /
gofalwr. Byddai hyn yn gymwys hyd yn oed
os nad yr ysgol yna oedd eu hysgol agosaf.
·
Os
oedd yr ysgol cyfrwng Cymraeg neu Saesneg agosaf y tu allan i’r sir, yna byddai
cludiant yn dal i gael ei ddarparu gan yr Awdurdod. Byddai hoff ddewis ond yn cael ei ystyried yn
erbyn ysgolion cyfrwng Cymraeg neu Saesneg.
Byddai’r meini prawf pellter uchod yn dal yn gymwys. ·
Byddai’r
rhiant / gofalwr yn dal i gael yr hawl i apelio os oeddent wedi cael gwrthod
cludiant ysgol am ddim. Byddai angen
anfon yr apêl at yr Awdurdod dim hwyrach nag 20 diwrnod gwaith ar ôl y dyddiad
y cafodd ei wrthod. ·
Roedd
gan yr Awdurdod ddyletswydd gofalu i sicrhau bod plant yn cael eu diogelu ar eu
taith i’r ysgol. Roedd llwybrau peryglus
wedi’u hasesu i sicrhau diogelwch ysgolion. Nododd y Prif
Weithredwr mai’r flaenoriaeth gyntaf fyddai diogelwch y plant. Byddai angen ystyried y gyfraith a byddai'r
gyllideb yn dilyn o hynny. PENDERFYNWYD bod
Aelodau yn: (i)
Cadarnhau eu bod wedi darllen, deall ac ystyried
yr Asesiad o Effaith ar Les fel rhan o’u hystyriaethau, ac (ii)
Wedi ystyried yr wybodaeth a roddwyd, wedi
trafod y broses ymgynghori ac y byddent yn argymell i’r Cabinet y dylid
cymeradwyo’r Polisi. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL PWYLLGORAU ARCHWILIO’R CYNGOR 2016/17 PDF 225 KB Ystyried
adroddiad gan y Cydlynydd Archwilio (copi ynghlwm) er mwyn i’r Cyngor ystyried
Adroddiad Blynyddol y Pwyllgorau Archwilio ar gyfer 2016/17. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts yr adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol), fel
cyn Gadeirydd y Grŵp Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion Archwilio ar gyfer
2016/17. Roedd yr
Adroddiad Blynyddol i gydymffurfio ag Adran 7.4.4 o Gyfansoddiad y Cyngor, a
oedd yn amodi bod yn rhaid i’r Pwyllgorau Archwilio adrodd yn flynyddol gerbron
y Cyngor llawn ar eu gwaith, a gwneud argymhellion ar gyfer rhaglenni gwaith
i'r dyfodol a diwygio dulliau gweithio os oedd yn briodol. Roedd yr
Adroddiad Blynyddol yn dilyn fformat tebyg i'r un a ddefnyddiwyd mewn blynyddoedd
blaenorol. Roedd yn rhoi trosolwg o sut roedd Archwilio
yn gweithredu, y gwaith roedd Archwilio wedi ei wneud i geisio cefnogi'r gwaith
o gyflawni saith blaenoriaeth gorfforaethol y Cyngor, yn ogystal â gwaith arall
a wnaed gan aelodau Archwilio a grwpiau Tasg a Gorffen. Roedd yr
Adroddiad Blynyddol hefyd yn dweud wrth drigolion Sir Ddinbych sut y gallent
gymryd rhan a chyfrannu at y broses Archwilio. Holodd y
Cynghorydd Emrys Wynne pam nad oedd yr adroddiad drafft ar gael yn
Gymraeg. Eglurodd y Swyddog Archwilio, o
fewn y Polisi Iaith Gymraeg, hyd nes y cadarnheir unrhyw ddogfen, roedd yn aros
mewn ffurf drafft ac unwaith y byddai'n cael cymeradwyaeth, byddai’n cael ei
chyfieithu’n syth. Mynegodd y
Cynghorydd Gwyneth Kensler ei diolch i’r Swyddog Archwilio a oedd yn aelod o
staff o ansawdd uchel, ac yn barod iawn i helpu. Diolchodd y
Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts hefyd i’r Swyddog Archwilio am ei chefnogaeth
dros y 5 mlynedd diwethaf. PENDERFYNWYD bod
y Cyngor yn ystyried ac yn nodi Adroddiad Blynyddol y Pwyllgorau Archwilio ar
gyfer 2016/17. |
|
AMSERLEN Y PWYLLGOR 2018 PDF 199 KB Ystyried adroddiad
gan Reolwr y Gwasanaethau Democrataidd (copi ynghlwm) yn gofyn am
benderfyniadau ar faterion sy’n ymwneud â’r Pwyllgor. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd
Pennaeth Gwasanaethau’r Gyfraith, AD a Democrataidd yr adroddiad (a
ddosbarthwyd yn flaenorol), i alluogi Aelodau i gadarnhau'r amserlen Pwyllgorau
ddrafft ar gyfer 2018 a chadarnhau cynrychiolydd ar gyfer Panel Heddlu a
Throsedd Gogledd Cymru. Roedd yn ofynnol
i'r Cyngor gymeradwyo amserlen ar gyfer 2018 yn unol â phenderfyniad y Cyngor i
gynnal amserlen 18 mis, er mwyn galluogi cadarnhau mannau cyfarfod ac adnoddau,
cyhoeddi’r amserlen a llenwi dyddiaduron yr Aelodau. Cadarnhawyd nad
oedd dyddiadau wedi’u pennu ar gyfer cyfarfodydd Grŵp Ardal Aelodau 2018
eto, ac y byddai Pennaeth Gwasanaethau’r Gyfraith, AD a Democrataidd yn
ymgysylltu gydag Aelod Arweiniol yr Iaith Gymraeg i drefnu cyfarfodydd y
Pwyllgor Iaith Gymraeg. Gofynnodd y Cynghorydd Gwyneth Kensler am ddyddiadau’r cyfarfodydd
Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion Archwilio, a chytunwyd y byddai'r dyddiadau'n
cael eu hanfon at bob Cynghorydd. Gofynnodd
Pennaeth Gwasanaethau’r Gyfraith, AD a Democrataidd i’r Cyngor benodi’r
Cynghorydd Hugh Irving i fod ar Banel Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru dros
gyfnod y Cyngor hwn neu hyd y penodir rhywun arall. PENDERFYNWYD: (i)
Bod y Cyngor yn cymeradwyo'r Amserlen
Bwyllgorau ar gyfer 2018, a (ii)
Bod y Cyngor yn penodi’r Cynghorydd Hugh
Irving i fod ar Banel Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru dros gyfnod y Cyngor hwn
neu hyd y penodir rhywun arall. |
|
ADOLYGIAD POLISI TÂL BLYNYDDOL PDF 344 KB Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth AD / Arbenigwr Tâl a Gwobrwyo (copi ynghlwm) i geisio
cytundeb y Cyngor i'r newidiadau i'r Polisi Tâl ar gyfer 2017/18 Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Ar y pwynt hwn,
eglurodd y Pennaeth Gwasanaethau’r Gyfraith, AD a Democrataidd ei fod wedi cael
gwybodaeth y gallai fod cwestiwn ynghylch cydnabyddiaeth ariannol y Prif
Weithredwr, ac ar y pwynt hwn, gadawodd y Prif Weithredwr y Siambr. Cyflwynodd Aelod
Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol, yr adroddiad (a ddosbarthwyd
yn flaenorol). Mae Deddf
Lleoliaeth 2011 yn ei gwneud yn ofynnol i Awdurdodau Lleol baratoi datganiadau
polisi tâl. Mae’n rhaid cymeradwyo
Datganiadau Polisi Tâl gan y Cyngor yn flynyddol a’u cyhoeddi ar y wefan
berthnasol. Roedd y Polisi
Tâl wedi’i ddiweddaru yn unol â'r dyfarniadau tâl cenedlaethol sydd wedi eu
cytuno ar gyfer 2017/18. Cytunwyd ar
gynnydd o 1% yn nhâl Prif Swyddogion ar gyfer 2017/18, a oedd wedi’i gynnwys yn
y Polisi. Roedd Llywodraeth
Ganolog yn cyflwyno cap ar daliadau ymadael sector cyhoeddus, ond ar hyn o
bryd, nid oedd yn glir sut y gallai hyn weithredu yng Nghymru. Wrth gael eglurhad, byddai’r holl bolisïau a
thaliadau diswyddo yng Nghyngor Sir Ddinbych yn cael eu hadolygu fel y bo'n
briodol i ddarparu ar gyfer unrhyw newidiadau perthnasol mewn deddfwriaeth. Roedd Llywodraeth
Ganolog hefyd yn cyflwyno deddfwriaeth i alluogi bod taliadau ymadael sector
cyhoeddus yn cael eu hadennill. Byddai
hyn yn berthnasol i weithwyr sy’n dychwelyd i’r sector cyhoeddus neu is sector
o fewn 12 mis o adael, sy’n ennill dros £80,000 y flwyddyn. Eto, ar hyn o bryd nid oedd yn glir sut y
gall hyn weithredu yng Nghymru. Byddai’r holl bolisïau a thaliadau diswyddo yng
Nghyngor Sir Ddinbych yn cael eu hadolygu fel y bo'n briodol i ddarparu ar
gyfer unrhyw newidiadau perthnasol mewn deddfwriaeth. Cafwyd trafodaeth
bellach a chodwyd y pwyntiau canlynol: ·
Tâl
yn gysylltiedig â pherfformiad – cadarnhawyd mai’r unig aelod o staff i gael
tâl yn gysylltiedig â pherfformiad oedd y Prif Weithredwr. Roedd hyn wedi’i gymhwyso fel rhan o’i
gontract ac wedi’i asesu drwy werthusiad gan banel o Aelodau annibynnol. Fe asesodd y Panel a oedd y Prif Weithredwr
wedi cyflawni ei dargedau perfformiad ai peidio. ·
Awgrymwyd
y dylai’r Cyngor fod yn talu’r cyflog byw “go iawn” yn hytrach na’r cyflog byw
“cenedlaethol”. Roedd hyn yn y gorffennol yn golygu amcangyfrif o £1 miliwn yn
ychwanegol i gostau. Cadarnhawyd, yn
genedlaethol, bod y strwythur tâl am gael ei asesu i gynyddu’r taliadau lefel
is, a byddai rhai opsiynau drafft ar gael ddiwedd y mis. PENDERFYNWYD bod
y Cyngor Llawn yn cytuno ar y newidiadau i'r Polisi Tâl ar gyfer 2017/18 |
|
RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL Y CYNGOR SIR PDF 326 KB Ystyried Rhaglen
Gwaith i’r Dyfodol y Cyngor (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y
Swyddog Monitro/ Pennaeth Gwasanaethau’r Gyfraith, AD a Democrataidd Raglen
Gwaith i'r Dyfodol y Cyngor (a ddosbarthwyd yn flaenorol). Adroddiad
Blynyddol y Pwyllgorau Safonau i’w ychwanegu at gyfarfod 5 Medi 2017. PENDERFYNWYD cymeradwyo
a nodi Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cyngor. |
|
Daeth y cyfarfod i
ben am 1.35 p.m. |