Agenda and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun LL15 1YN
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Dogfennau ychwanegol: |
|
DATGAN CYSYLLTIAD Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu ag unrhyw
fater a nodwyd yn un i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Fe wnaeth y Cynghorydd Martyn Holland ddatgan cysylltiad personol ag Eitem
11 - Penodi Aelodau Lleyg ac fe ymatalodd rhag pleidleisio. |
|
PENODI CADEIRYDD Y CYNGOR SIR Penodi Cadeirydd
y Cyngor am y flwyddyn 2017/18. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Fe wnaeth y
Cadeirydd a oedd yn ymddeol, y Cynghorydd Ann Davies, wahodd enwebiadau ar
gyfer penodi Cadeirydd y Cyngor Sir ar gyfer 2017/18. Cynigiodd y
Cynghorydd Joan Butterfield y Cynghorydd Peter Prendergast i’w ethol yn
Gadeirydd, gan amlinellu’r rhinweddau personol a’r profiad helaeth y byddai’n
eu cyflwyno i’r swydd. Fe wnaeth y
Cynghorydd Tony Thomas eilio’r cynnig. Cynigiodd y
Cynghorydd Arwel Roberts y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies i’w ethol yn
Gadeirydd, gan amlinellu ei brofiad a'i rinweddau. Fe wnaeth y Cynghorydd Glenn Swingler eilio’r
cynnig. Ar y pwynt hwn,
cynhaliwyd pleidlais gudd. Cyfrifwyd y
pleidleisiau ac roedd y canlyniad fel a ganlyn:- Y Cynghorydd
Meirick Lloyd Davies - 10 Y Cynghorydd Peter
Prendergast - 36 Felly, etholwyd y
Cynghorydd Peter Prendergast yn Gadeirydd y Cyngor ar gyfer y flwyddyn 2017/18. Fe wnaeth y
Cynghorydd sy’n ymddeol roi araith fer, lle myfyriodd ar ei hamser fel
Cadeirydd a thynnodd sylw at rai o'r digwyddiadau niferus mae hi wedi mynd
iddynt dros y 12 mis diwethaf. Diolchodd i’w Chaplan, y Parchedig Brian
Jones, a hefyd i’r cyn-gynghorydd, Win Mullen-James, am ei holl waith caled a
chefnogaeth yn ystod ei blwyddyn fel Is-Gadeirydd. Diolchwyd
hefyd i swyddogion a staff a hefyd i’w merch a’i chydwedd, Mrs Jane Hugo, am ei
gwaith caled a chefnogaeth. Cyflwynodd y
Cadeirydd a oedd yn ymddeol siec am yr arian a godwyd yn ystod ei hamser fel
Cadeirydd, i’w helusennau dethol - cyfanswm £11.028.00:- (i)
Derbyniodd
Eluned Yaxley £5,514 ar ran Hosbis Plant Tŷ Gobaith (ii)
Derbyniodd
Laura Parry £5,514 ar ran Hosbis Sant Cyndeyrn Yna fe wnaeth y
Cadeirydd a oedd yn ymddeol symud ymlaen i gyflwyno rhodd i’w chaplan, y
Parchedig Brian Jones. Fe wnaeth y
Cadeirydd a oedd yn ymddeol ddymuno’r gorau i’r Cadeirydd newydd ar gyfer y
dyfodol, a chyflwyno cadwyn y swydd iddo, ac fe ddilynodd hyn drwy gwblhau ei
Ddatganiad o Dderbyn y Swydd. Fe wnaeth y
Cadeirydd newydd dalu teyrnged i’r gwaith a wnaed gan y Cadeirydd a oedd yn
ymddeol, gan ei chyflwyno â Bathodyn y Cyn Gadeirydd a rhodd ar ran y Cyngor. Caplan y
Cadeirydd newydd am y flwyddyn oedd y Parchedig Stan Walker, a rhoddodd wybod
mai ei elusennau dethol oedd:- (i)
RNLI
(Cangen y Rhyl) (ii)
Hosbis
Sant Cyndeyrn, Llanelwy. Ar y pwynt hwn,
cyflwynodd y Cadeirydd newydd dusw o flodau i Gydwedd y Cadeirydd blaenorol i
ddiolch iddi am gefnogi’r Cadeirydd yn ystod y deuddeg mis diwethaf. Yn olaf,
llongyfarchodd y cynghorwyr newydd a’r rhai a oedd yn dychwelyd am eu
llwyddiant yn yr etholiadau diweddar, gan ddweud ei fod yn edrych ymlaen at
gydweithio gyda nhw dros y flwyddyn i ddod. |
|
PENODI IS-GADEIRYDD Y CYNGOR SIR Penodi Is-Gadeirydd y Cyngor am y flwyddyn 2017/18. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ceisiodd y
Cadeirydd gael enwebiadau ar gyfer penodi Is-Gadeirydd. Cynigodd y
Cynghorydd Martyn Holland y dylid ethol y Cynghorydd Peter Scott yn
Is-gadeirydd y Cyngor ar gyfer 2017/18.
Cyfeiriodd at brofiad y Cynghorydd Scott a nododd y byddai’n Llysgennad
da i’r sir. Eiliwyd yr enwebiad gan y Cynghorydd
Jeanette Chamberlain-Jones. Gan nad oedd
unrhyw enwebiadau pellach, ac yn dilyn pleidlais drwy ddangos dwylo, etholwyd y
Cynghorydd Peter Scott yn unfrydol fel Is-Gadeirydd y Cyngor ar gyfer y
flwyddyn 2017/18. Arwisgwyd y
Cynghorydd Peter Scott gyda chadwyn swydd yr Is-Gadeirydd gan y Cadeirydd, ac
fe ddilynodd hyn gyda Datganiad i Dderbyn y Swydd. Fe wnaeth yr
Is-Gadeirydd newydd enwi ei wraig, Susan Scott, fel ei Gydwedd. Llongyfarchwyd y
Cynghorwyr Peter Prendergast a Peter Scott gan Arweinwyr y Pleidiau ac Aelodau,
am gael eu hethol fel Cadeirydd ac Is-Gadeirydd, yn y drefn honno. |
|
Ar y pwynt hwn (10.45 am) cafwyd toriad. Ailddechreuodd y cyfarfod am 11.10 a.m. |
|
Cyn dechrau,
myfyriodd y Cadeirydd ynghylch y Bomio ym Manceinion yn ddiweddar, a chafwyd un
munud o dawelwch fel arwydd o barch. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim materion
brys. |
|
ETHOL ARWEINYDD Y CYNGOR Ystyried
enwebiadau ar gyfer penodi Arweinydd y Cyngor. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gofynnodd y
Cadeirydd am enwebiadau ar gyfer penodi Arweinydd y Cyngor. Cynigiwyd y
Cynghorwyr Hugh Evans a Huw Hilditch-Roberts gan y Cynghorydd Joe Welch. Eiliodd y
Cynghorydd Bobby Feeley’r cynnig am y Cynghorydd Hugh Evans. Cyfeiriodd at y Cynghorydd Evans fel
Arweinydd rhagorol, gan dynnu sylw at ei gyflawniadau yn ystod y weinyddiaeth
flaenorol, a’i hyder y byddai’n arwain yr awdurdod at lwyddiant pellach. Ar y pwynt hwn,
dymunodd y Cynghorydd Feeley pob lwc i’r Cynghorydd Evans a'r Cynghorydd Hilditch-Roberts,
a dywedodd y byddai Cynghorwyr yn gweithio’n dda gyda phwy bynnag y byddai’n
ennill y bleidlais. Eiliodd y
Cynghorydd Merfyn Parry’r cynnig ar gyfer y Cynghorydd Huw
Hilditch-Roberts. Nododd ei fod yn amser
am newid, gyda’r Chynghorydd Hilditch-Roberts yn ddyn teg, agos atoch, a oedd
yn sicr â’r gallu i fod yn Arweinydd y Cyngor. Gofynnodd y
Cadeirydd i’r Cynghorwyr a oedd wedi’u henwebu, i ddod at y llwyfan yn eu tro a
gwneud cyflwyniad 5 munud. Nododd y
Cynghorydd Hugh Evans ei fod wedi sefyll i fod yn Arweinydd, nid yn unig
oherwydd ei lwyddiannau yn y gorffennol, ond i weithio i gyflawni cynnydd a
gwelliannau i Sir Ddinbych yn y dyfodol.
Amlinellodd ei gyflawniadau yn y gorffennol a beth fyddai ei amcanion at
y dyfodol, a fyddai’n arwain at gymunedau gwell a mwy gwydn. Os byddai’n
cael ei ethol fel Arweinydd, roedd yn cynnig cynnal Uwchgyfarfod Cynghorau
Dinas, Tref a Chymuned yn yr hydref, a byddai’n trefnu cyfarfod gyda phob
arweinydd o’r pleidiau gwleidyddol hefyd, cyn gynted â phosibl. Daeth y
Cynghorydd Evans â’i gyflwyniad i ben drwy roi gwybod y byddai’r Awdurdod yn
wynebu sawl her dros y 5 mlynedd nesaf, ond roedd mewn sefyllfa dda i ddelio
â’r heriau hynny, a byddai’n gweithio i gynnal safle’r Cyngor fel Awdurdod sy’n
perfformio’n dda. Wrth gau ei
anerchiad, rhoddodd y Cynghorydd Evans ychydig o wybodaeth gefndirol bersonol,
yn tynnu sylw at y ffaith y byddai’n creu Cyngor a fyddai’n sefydlog yn
wleidyddol, gyda’r gallu i herio a newid.
Sicrhaodd Aelodau y byddai’n symud y sir yn ei blaen os byddai'n cael ei
ethol yn Arweinydd, a gofynnodd am gefnogaeth Aelodau. Dywedodd y
Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts y byddai gyda dull agored a thryloyw, ac yn
ymgysylltu'n fwy â'r cyhoedd. Amlinellodd y profiad roedd wedi’i gael yn ei
fywyd masnachol a sicrhaodd aelodau y byddai'n rhoi'r amser a'r egni i gael
cyngor sy'n fwy uchelgeisiol i wneud gwahaniaeth. Nododd y byddai ei flaenoriaethu’n cynnwys
strategaeth addysg, iechyd a gofal cymdeithasol, iechyd meddwl, gofalu am bobl
ddiamddiffyn, tai, cefnogi busnesau bach, ac i waith barhau gyda’r Rhyl a
Phrestatyn. Pwysleisiodd y pwysigrwydd o
gyfathrebu gyda chymunedau. Wrth gau ei
anerchiad, tynnodd sylw at y ffaith ei fod yn gyfathrebwr dwyieithog da, ac
roedd yn gallu trafod mewn dull proffesiynol a threfnus. Ei nod oedd gadael ôl-troed cadarnhaol ar
Sir Ddinbych, a gofynnodd am gefnogaeth Aelodau. Yn unol â
Chyfansoddiad y Cyngor, cafwyd pleidlais gudd.
Roedd y Pleidleisiau fel a ganlyn: Y Cynghorydd Hugh
Evans - 30 Y Cynghorydd Huw
Hilditch-Roberts - 16 Cafodd y
Cynghorydd Hugh Evans ei ethol yn Arweinydd y Cyngor. Ar y pwynt hwn,
llongyfarchodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts y Cynghorydd Evans, gan gynnig
ei gefnogaeth lawn iddo. Diolchodd yr Arweinydd i'r Aelodau am eu cefnogaeth a rhoddodd wybod y
byddai'n gweithio'n galed iawn ar eu rhan yn ystod y 5 mlynedd nesaf. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Cyngor Sir a gynhaliwyd 31 Ionawr 2017 a 14 Chwefror 2017 (copi
ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion y Cyngor Llawn a gynhaliwyd ar 31 Ionawr 2017 ac 14 Chwefror 2017. PENDERFYNWYD derbyn
cofnodion y Cyngor Llawn a gynhaliwyd 31 Ionawr 2017 ac 14 Chwefror 2017 fel
cofnod cywir, a'u llofnodi gan y Cadeirydd. |
|
DOGFEN GYFLAWNI FLYNYDDOL 2017/2018 PDF 276 KB Ystyried
adroddiad gan y Tîm Cynllunio Strategol (copi ynghlwm) i gymeradwyo fersiwn
derfynol y Ddogfen Gyflawni Flynyddol. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Pennaeth Gwella Busnes a Moderneiddio’r Ddogfen Gyflawni Flynyddol 2017-2018 (a
ddosbarthwyd yn flaenorol), i Aelodau gymeradwyo’r drafft terfynol o’r Ddogfen,
er mwyn galluogi iddi gael ei chyfieithu a’i chyhoeddi. Roedd Cynllun
Corfforaethol y Cyngor ar gyfer 2012 – 2017 bellach wedi dod i ben, ac roedd
etholiadau Cyngor Sir ym Mai 2017 wedi arwain at dîm newydd o aelodau Etholedig
a fyddai’n ffurfio Cynllun Corfforaethol newydd ar gyfer 2017 – 2022. Roedd
2017 am fod yn flwyddyn o drawsnewid. Roedd y ddogfen
yn cynnwys y cyfnod trawsnewid rhwng Ebrill 2017 a Mawrth 2018 (o fewn y cyfnod
amser hwnnw, byddai’r Cynllun Corfforaethol newydd yn cael ei gyhoeddi) ac
esboniodd sut y byddai cynnydd yn parhau i ddigwydd o ran blaenoriaethau
blaenorol. Roedd y chwe
amcan canlynol wedi’u mabwysiadu:- · Mae Sir Ddinbych yn fan lle bydd pobl iau
am fyw a gweithio ynddo a lle bydd ganddynt y sgiliau i wneud hynny · Mae cymunedau wedi eu cysylltu ac mae
ganddynt fynediad at nwyddau a gwasanaethau lleol, ar-lein neu drwy
gysylltiadau trafnidiaeth da. · I gael amgylchedd deniadol a warchodir
sy'n cefnogi lles cymunedau a ffyniant economaidd · Gall pobl fyw bywydau annibynnol a
chyflawn mewn cymunedau cryf, gofalgar, diogel a gwydn · Mae’r Cyngor a chymunedau yn gweithio
gyda’i gilydd i oresgyn heriau; gan ddyfeisio a darparu datrysiadau ar y cyd. · Digwyddiadau yn dod â phobl at ei gilydd,
gan greu cymunedau gweithgar a helpu busnesau i ffynnu. Cafwyd trafodaeth
a chodwyd y pwyntiau canlynol: · Byddai Gweithdy Uwch Dîm Arweinyddiaeth a
Chynghorwyr i osod blaenoriaethau yn y Cynllun ym mis Gorffennaf. Anogwyd pob Aelod i fynd i’r gweithdy. Felly byddai’n destun ymgynghoriad cyhoeddus
a byddai’r fersiwn terfynol yn cael ei gytuno arno fis Hydref. · O dan Flaenoriaeth 5 – Strydoedd Glân a
Thaclus, rhaglen ailwampio naw cyfleuster cyhoeddus drwy gydol 2017/18, ac fe
holodd aelodau pa gyfleusterau cyhoeddus fyddai’n cael eu hailwampio. Dywedodd y Pennaeth Gwella Busnes a
Moderneiddio y byddai’n cyfeirio’r ymholiad yn ôl at swyddogion, ac yn anfon yr
wybodaeth berthnasol at bob Cynghorydd. · Sir Ddinbych Ddigidol a Band Eang mewn
ardaloedd gwledig. Ni fyddai sawl
gosodiad yn digwydd tan fis Rhagfyr 2017. Mewn ardaloedd gwledig penodol yn
Lloegr maent wedi ymchwilio i ddewisiadau amgen ar gyfer band eang cyflym iawn,
ac a fyddai hynny'n bosibilrwydd i Sir Ddinbych wledig? · Yn dilyn yr Etholiad Cyffredinol 8 Mehefin,
os byddai angen diwygiadau i’r Ddogfen Gyflawni Flynyddol, byddent yn cael eu
cyflwyno yn y Cyngor Llawn 4 Gorffennaf. · Adeiladu tai cyngor – fe fydd cynllun
strategol yn cael ei gyflwyno yn y
Cyngor Llawn yn yr hydref. Y cynllun
oedd adeiladu 200 o dai cyngor yn ystod cyfnod y cyngor hwn. · Mae’r Adran Briffyrdd yn gweithio gyda’r
Grwpiau Ardal Aelodau ynghylch ffyrdd sydd angen gwaith trwsio. Roedd detholiad o’r gweithgareddau ffordd a
oedd wedi’u cynllunio wedi’u hamlinellu yn y ddogfen, i’w cynnal yn 2017/2018 · Byddai rhaglen cynnal a chadw 10 mlynedd
ar gyfer pontydd a strwythurau priffyrdd eraill. · Byddai prosesau
newydd yn cael eu datblygu i reoli Cyllidebau Cefnogi i bobl ddiamddiffyn sydd
angen gofal a chefnogaeth wedi’i rheoli, er mwyn cael mwy o ddewis a rheolaeth. · Codwyd gofal cymdeithasol i’r henoed a’r
rhai nad oeddent yn dda, gan fod y bobl hyn angen help i lenwi ffurflenni
hanfodol ar gyfer cymorth. Byddai hyn yn
cael ei gyfeirio’n ôl at swyddogion. Ailadroddwyd y
byddai’r Cynllun Corfforaethol yn ddogfen fyw a phwysigrwydd cyfranogiad
Aelodau. PENDERFYNWYD bod
yr Aelodau'n cymeradwyo drafft terfynol y Ddogfen Gyflawni Flynyddol er mwyn
galluogi iddi gael ei chyfieithu a'i chyhoeddi. |
|
MAINT A CHYFANSODDIAD Y PWYLLGOR CYNLLUNIO PDF 275 KB Ystyried adroddiad gan y Swyddog Monitro
(copi ynghlwm) am y newidiadau sydd eu hangen i Gyfansoddiad y Cyngor o
ganlyniad i ddeddfwriaeth yn gofyn am newid i faint a chyfansoddiad Pwyllgor
Cynllunio’r Cyngor. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y
Swyddog Monitro’r adroddiad am Faint a Chyfansoddiad y Pwyllgor Cynllunio (a
ddosbarthwyd yn flaenorol), am y newidiadau sydd eu hangen i Gyfansoddiad y
Cyngor o ganlyniad i ddeddfwriaeth yn gofyn am newid i faint a chyfansoddiad
Pwyllgor Cynllunio’r Cyngor. Diwygiodd Deddf
Cynllunio (Cymru) 2015 Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 i roi’r pŵer i
Weinidogion Cymru wneud rheoliadau'n rhagnodi maint a chyfansoddiad Pwyllgor
Cynllunio'r Awdurdod Lleol. Dywedodd
Rheoliadau’r Pwyllgor na all y Pwyllgor Cynllunio gael dim llai nag 11 a dim
mwy na 21 Aelod. Ni ellid cael mwy
nag un Aelod o unrhyw ward benodol ar Bwyllgor Cynllunio. Roedd hyn yn golygu, mewn ward â sawl Aelod,
dim ond un Aelod o’r ward hwnnw fyddai’n cael bod ar Bwyllgor Cynllunio ar unrhyw
un adeg. Fe wnaeth
Gweinidogion Cymru hefyd wneud Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog)
(Cymru) (Diwygiad) 2017 (y Rheoliadau Rheolau Sefydlog), a ddaeth i rym 5
Mai. Roedd y
Rheoliadau Rheolau Sefydlog yn datgan bod yn rhaid i gworwm Pwyllgor Cynllunio
fod o leiaf 50% o gyfanswm yr Aelodau, wedi’i dalgrynnu i’r rhif cyfan agosaf,
ac yn gwahardd defnyddio eilyddion. Byddai methu â
chydymffurfio â’r Rheoliadau Cynllunio’n dirymu trafodion y Pwyllgor Cynllunio. Cytunwyd cael 21
Aelod ar y Pwyllgor Cynllunio. PENDERFYNWYD: (i)
Bod y Cyngor yn cadarnhau maint y Pwyllgor
Cynllunio fel 21 ac yn awdurdodi'r Swyddog Monitro i ddiwygio Cyfansoddiad y
Cyngor yn unol â hynny. (ii)
Bod y Cyngor yn awdurdodi’r Swyddog
Monitro i wneud y diwygiadau hanfodol i Gyfansoddiad y Cyngor i adlewyrchu
gofynion cworwm y Pwyllgor Cynllunio, fel y nodir yn Rheoliadau Awdurdod Lleol
(Rheolau Sefydlog) (Cymru) (Diwygiad) 2017. (iii)
Bod y Cyngor yn cefnogi’r dull a gynigir
yn yr adroddiad ar gyfer penodi Aelodau i’r Pwyllgor Cynllunio o wardiau â sawl
aelod. |
|
ADOLYGIAD BLYNYDDOL O GYDBWYSEDD GWLEIDYDDOL A PHENODI CADEIRYDDION ARCHWILIO PDF 204 KB Ystyried
adroddiad gan Reolwr y Gwasanaethau Democrataidd (copi ynghlwm) yn gofyn am
benderfyniadau ar faterion sy’n ymwneud â’r Pwyllgor. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y
Swyddog Monitro/Pennaeth Gwasanaethau’r Gyfraith, Adnoddau Dynol a Democrataidd
Adolygiad Blynyddol o Gydbwysedd Gwleidyddol ac Adroddiad Penodi Cadeiryddion
Archwilio (a ddosbarthwyd yn flaenorol). Fe wnaeth y
Swyddog Monitro/Pennaeth Gwasanaethau’r Gyfraith, Adnoddau Dynol a Democrataidd
roi gwybod i Aelodau bod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth i gynorthwyo'r
Cyngor a phleidiau gwleidyddol i ddyrannu seddi ar bwyllgorau amrywiol yn unol
â darpariaeth cydbwysedd gwleidyddol statudol Atodlen 12 Deddf Llywodraeth Leol
1972; Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 a Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011. Fe wnaeth y
Swyddog Monitro/Pennaeth Gwasanaethau’r Gyfraith, Adnoddau Dynol a Democrataidd
gadarnhau bod y pleidiau gwleidyddol yn cynnwys y nifer canlynol o aelodau: Ceidwadwyr – 15 Llafur - 13 Annibynnol - 10 Plaid Cymru - 9 Cabinet – 8 Aelod Ceidwadwyr - 3 Llafur - 2 Annibynnol - 2 Plaid Cymru - 1 Nid oedd y Plaid
Lafur yn bwriadu cymryd y 2 sedd ar y Cabinet a byddai’r Arweinydd yn llenwi'r
2 sedd wag honno gyda Chynghorwyr o bleidiau gwleidyddol eraill. Roedd manylion
ynghylch y Pwyllgorau a chyfanswm y seddi “ar gael” a oedd angen eu dosbarthu
ar sail cydbwysedd gwleidyddol, wedi’u cylchredeg i bob Cynghorydd. Roedd y
Mesur yn nodi sut byddai swyddi Cadeiryddion y Pwyllgor Archwilio’n cael eu
dyrannu, gan adlewyrchu sefyllfa o blaid Cadeiryddion Archwilio’n annibynnol ar
arweinyddiaeth y Cyngor, cyn belled ag y bo’n bosibl, ac yn gysylltiedig â
chydbwysedd gwleidyddol. Cododd y
Cynghorydd Arwel Roberts gwestiwn ynghylch pwy oedd wedi dewis cael 8 Aelod ar
y Cabinet. Cadarnhaodd y Swyddog
Monitro/Pennaeth Gwasanaethau’r Gyfraith, Adnoddau Dynol a Democrataidd mai’r
Cyngor oedd wedi gwneud y penderfyniad ynghylch nifer yr Aelodau ar y
Cabinet. Pe byddai nifer yr Aelodau’n
cynyddu, yna byddai angen ei gyflwyno gerbron y Cyngor Llawn er mwyn ei newid. Yr enwebiadau ar
gyfer penodi 2 Aelod i’r Pwyllgor Safonau oedd Andrew Thomas a Paul Penlington. Enwebwyd y
Cynghorydd Alan James i fod yn Gadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd. Ystyriodd y Cyngor yr argymhellion yn yr adroddiad ac yn dilyn trafodaeth
lawn, yn cynnwys ystyriaeth o’r enwebiadau gan Arweinwyr Grŵp ar gyfer
Pwyllgor Safonau a Chadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd:- PENDERFYNWYD:- (i)
Bod y Cyngor yn ystyried y sefyllfa
ddiweddaraf mewn perthynas ag aelodaeth y pleidiau gwleidyddol, y trefniadau
gweithredol (Cabinet) a dyrannu Cadeiryddion Pwyllgor Archwilio; (ii)
Bod y Cyngor yn cytuno ar benodi’r
Cynghorydd Alan James fel Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd. Aelodau o’r Pwyllgor Gwasanaethau
Democrataidd i gael eu hysbysu yn dilyn y Cyngor Llawn ar gyfer y flwyddyn
2017/18 (iii)
Bod y Cyngor yn penodi 2 Gynghorydd i’r
Pwyllgor Safonau – y Cynghorydd Andrew Thomas a’r Cynghorydd Paul Penlington |
|
PENODI AELODAU LLEYG I’R PWYLLGOR LLYWODRAETHU CORFFORAETHOL A’R PWYLLGOR SAFONAU PDF 200 KB Ystyried
adroddiad gan y Dirprwy Swyddog Monitro (copi ynghlwm) ynglŷn â phenodiadau i’r Pwyllgor Safonau a’r
Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol, sydd angen cymeradwyaeth y Cyngor Llawn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Datganodd y
Cynghorydd Martyn Holland gysylltiad personol gan fod Mr Ian Trigger yn byw yn
yr un pentref ac yn Gadeirydd y Blaid Geidwadol. Gofynnodd y Cynghorydd Holland a fyddai modd
cofnodi y byddai’n ymatal rhag pleidleisio ynghylch Mr Ian Trigger. Fe wnaeth y
Swyddog Monitro/Pennaeth Gwasanaethau’r Gyfraith, Adnoddau Dynol a Democrataidd
gyflwyno’r adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol), i'r Cyngor gymeradwyo’r
penodiad parhaus o ddau Aelod lleyg (annibynnol) i'r Pwyllgor Safonau a'r
Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol. Penodiad i’r
Pwyllgor Safonau Mae Rheoliadau’r
Pwyllgor Safonau 2001, fel y’u diwygiwyd, (y Rheoliadau) yn llywodraethu
aelodaeth a thrafodion y Pwyllgor Safonau.
Mae’n rhaid i aelodaeth y Pwyllgor gael aelodau lleyg annibynnol,
Cynghorwyr Sir a chynrychiolaeth o Gynghorau Dinas, Tref a Chymuned. Ni chaiff aelod
lleyg fod ar y Pwyllgor Safonau am fwy na dau gyfnod yn y swydd, o dan y
rheoliadau. Dyma, felly, fyddai cyfnod olaf y penodai arfaethedig, pe bai'n
cael ei ailbenodi. Byddai’r Aelod
sydd wedi’i gynnig i gael ei ailbenodi wedi’i recriwtio drwy hysbyseb cyhoeddus
ac fe’i dewiswyd o blith nifer o ymgeiswyr gan Banel Penodiadau'r Cyngor. Cadarnhawyd y
bydd Mr Ian Trigger yn cael ei benodi i’r Pwyllgor Safonau am gyfnod sy’n dod i
ben ar ddyddiad yr Etholiadau Llywodraeth Leol nesaf yn 2022. Ar y pwynt hwn,
holodd y Cynghorydd Joan Butterfield ynghylch Mr Ian Trigger yn Gadeirydd y
Pwyllgor Safonau oherwydd ei fod yn Gadeirydd y blaid Geidwadol. Fe wnaeth rhai
Aelodau ddangos eu cefnogaeth i Mr Ian Trigger gan ei fod wedi bod yn Gadeirydd
ardderchog. Cafwyd pleidlais
ynghylch a ddylai Mr Ian Trigger barhau i fod yn Gadeirydd y Pwyllgor Safonau: O blaid - 27 Ymatal - 1 Yn erbyn – 6 Penodiad i’r
Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol Mae Mesur
Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (y Mesur), yn mynnu bod yn rhaid i aelodaeth y
Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol gynnwys o leiaf un aelod lleyg. Hysbysebodd y
Cyngor swydd aelod lleyg yn y wasg leol drwy hysbyseb ar y cyd â phedwar
awdurdod arall yng ngogledd Cymru.
Derbyniwyd tri chais am swyddi gwag Cyngor Sir Ddinbych. Dewiswyd yr aelod
lleyg gan aelodau’r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol. Cafwyd pleidlais
i benodi Mr Paul Witham ar y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol: O blaid - 33 Ymatal - 3 Yn erbyn – 4 PENDERFYNWYD: (i)
Penodi Mr Ian Trigger i’r Pwyllgor Safonau
am gyfnod sy’n dod i ben ar ddyddiad yr Etholiadau Llywodraeth Leol nesaf yn
2022 (ii)
Penodi Mr Paul Witham i’r Pwyllgor
Llywodraethu Corfforaethol am gyfnod sy’n dod i ben ar ddyddiad yr Etholiadau
Llywodraeth Leol nesaf yn 2022 |
|
NEWIDIADAU I’R CYFANSODDIAD PDF 244 KB Ystyried adroddiad
gan y Dirprwy Swyddog Monitro (copi ynghlwm) ar y newidiadau arfaethedig sydd
eu hangen i Gyfansoddiad y Cyngor er mwyn ei ddiweddaru a’i gadw’n gyfredol a
pherthnasol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y
Swyddog Monitro’r Diweddariadau ar gyfer Adroddiad y Cyfansoddiad (a
ddosbarthwyd yn flaenorol) i'r Cyngor Llawn gymeradwyo bod y Cyfansoddiad yn
cael ei ddiweddaru. Cadarnhaodd y
Swyddog Monitro fod y Cyfansoddiad yn cael ei adolygu bob blwyddyn. Roedd rhai newidiadau gweithredol gan
Swyddogion wedi golygu bod angen diweddaru cynllun dirprwyo’r Cyfansoddiad. Roedd gwasanaeth
caffael y Cyngor wedi’i drosglwyddo o Gyllid, Asedau a Thai i Wasanaethau’r
Gyfraith, Adnoddau Dynol a Democrataidd. Roedd dau swyddog
o wasanaethau’r gyfraith (un priffyrdd ac un cyfreithiwr eiddo) wedi’u hadleoli
i Swyddfa Caledfryn. Felly roedd angen
gweithredol i ehangu ar yr amrediad o lofnodwyr ag awdurdod, wrth barhau i
gadw’r awdurdod ar lefel ddigon uchel. PENDERFYNWYD bod
y diwygiadau a gynigir gan y Swyddog Monitro’n cael eu mabwysiadu a bod y
Swyddog Monitro’n cael ei awdurdodi i ddiwygio’r Cyfansoddiad yn unol â hynny. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL PANEL ANNIBYNNOL CYMRU AR GYDNABYDDIAETH ARIANNOL 2017/2018 PDF 230 KB I ystyried
adroddiad gan y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd (copi ynghlwm) i gynghori
ynghylch penderfyniadau'r Panel Annibynnol ar Gydnabyddiaeth Ariannol ar gyfer
2017/18 mewn perthynas â thaliadau i aelodau ac aelodau cyfetholedig, ac i
fabwysiadu atodlen o gydnabyddiaeth ariannol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y
Swyddog Monitro Adroddiad Blynyddol y Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth
Ariannol 2017/18 (a ddosbarthwyd yn flaenorol), i wneud Aelodau yn ymwybodol o
benderfyniadau'r Panel ar gyfer 2017/18 mewn perthynas â thaliadau i Aelodau ac
Aelodau Cyfetholedig, ac i fabwysiadu atodlen cydnabyddiaeth ariannol. Eleni roedd y
Panel wedi penderfynu darparu codiad ariannol cymedrol o £100 y flwyddyn i
gyflog sylfaenol bob Cynghorydd. Ar y
pwynt hwn, gofynnodd y Cynghorydd Mabon ap Gwynfor a allai ei godiad cyflog o
£100 fynd at Elusen. Esboniodd y
Swyddog Monitro bod yn rhaid talu’r cyflog sylfaenol i bob Cynghorydd, ond y
galli'r Cynghorydd ap Gwynfor wneud cais ysgrifenedig gan ei fod yn
benderfyniad unigol. Yn dilyn
trafodaeth: PENDERFYNWYD: (i)
Bod y Cyngor yn nodi penderfyniadau’r
Panel ar gyfer 2017/18 mewn perthynas â thalu Cyflogau Sylfaenol a Chyflogau
Uwch a Dinesig a thaliadau i Aelodau cyfetholedig. (ii)
Bod y Cyngor yn mabwysiadu’r atodlen o
gydnabyddiaeth ariannol fel y nodir yn atodiad 1 (sy'n aros heb ei newid o
2016/17 ac eithrio fel yr amlinellir ym mharagraff 4.4 yr adroddiad) ar gyfer
blwyddyn y Cyngor 2017/18. |
|
PENODIAD DROS DRO O AELOD I GYNGOR TREF BODELWYDDAN PDF 194 KB (Papurau i'w dilyn). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y
Swyddog Monitro/Pennaeth Gwasanaethau’r Gyfraith, Adnoddau Dynol a Democrataidd
adroddiad ar Benodiad dros dro o Aelod i Gyngor Tref Bodelwyddan (a
ddosbarthwyd yn flaenorol). Nid oedd gan y
Cyngor Tref nifer digonol o Aelodau yn dilyn yr Etholiadau Llywodraeth Leol
diweddar i allu gweithredu a gwneud penderfyniadau yn gyfreithlon. Roedd gan y Cyngor Sir y pŵer i wneud
penodiad dros dro i’r Cyngor Tref i alluogi iddo weithredu’n gyfreithlon. Roedd y
Cynghorydd Richard Mainon wedi cytuno i dderbyn y penodiad dros dro i Gyngor
Tref Bodelwyddan, i alluogi'r Cyngor Tref i weithredu'n gyfreithlon. PENDERFYNWYD bod
y Cyngor yn awdurdodi gwneud Gorchymyn yn unol ag a91 Deddf Llywodraeth Leol
1972 ar gyfer penodi’r Cynghorydd Richard Mainon dros dro i Gyngor Tref
Bodelwyddan, i alluogi’r Cyngor Tref i weithredu'n gyfreithlon ar yr amodau a
nodir yn y Gorchymyn drafft sydd ynghlwm fel Atodiad 1 i'r adroddiad. |
|
RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL Y CYNGOR SIR PDF 327 KB Ystyried Rhaglen
Gwaith i’r Dyfodol y Cyngor (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y
Swyddog Monitro/Pennaeth Gwasanaethau’r Gyfraith, Adnoddau Dynol a Democrataidd
Raglen Gwaith i'r Dyfodol y Cyngor (a ddosbarthwyd yn flaenorol). Ar y pwynt hwn,
mynegodd y Cynghorydd Barry Mellor y pwysigrwydd o ddod i Sesiynau Briffio’r
Cyngor i Aelodau newydd, yn ogystal â’r Cyngor Llawn. PENDERFYNWYD cymeradwyo
a nodi Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cyngor. |
|
Ar y pwynt hwn,
mynegodd y Cynghorydd Gwyneth Kensler ei diolch i’r Swyddog Etholiadol a'i Dîm
am eu gwaith rhagorol yn ystod yr etholiad diweddar. |
|
Daeth y cyfarfod i ben am 1.25 p.m. |