Agenda and draft minutes
Lleoliad: SIAMBR Y CYNGOR, NEUADD Y SIR, RHUTHUN LL15 1YN
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
Agorwyd y
cyfarfod gan Bennaeth Gwasanaethau’r Gyfraith, AD a Democrataidd gydag eglurhad
bod y Cadeirydd, y Cynghorydd Gwyneth Kensler, ar wyliau. Yn
anffodus, nid oedd yr Is-gadeirydd, y Cynghorydd Ann Davies, yn gallu dod i'r
cyfarfod gan ei bod yn sâl. Cynigiodd y
Cynghorydd Arwel Roberts y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies yn Gadeirydd ar
gyfer y cyfarfod, a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Bill Cowie. Cynhaliwyd
pleidlais drwy godi dwylo, a chytunwyd yn unfrydol y dylai’r Cynghorydd Meirick
Lloyd Davies fod yn Gadeirydd ar gyfer cyfarfod y Cyngor Llawn. Diolchodd y
Cynghorydd Lloyd Davies i bawb am y fraint o fod yn Gadeirydd a chroesawodd
bawb i'r cyfarfod. |
|
Ymddiheuriadau Dogfennau ychwanegol: |
|
DATGANIADAU O FUDDIANT Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Datganodd y
Cynghorydd Meirick Lloyd Davies gysylltiad personol yn eitem 7, Strategaeth Dai
Ddrafft Sir Ddinbych. Datganodd y
Cynghorydd Cheryl Williams gysylltiad personol yn eitem 7 - Strategaeth Dai
Ddrafft Sir Ddinbych ac Eitem 8 – Polisi Tai Cymunedol. |
|
MATERION BRYS FEL Y CYTUNWYD ARNYNT GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim Materion Brys. |
|
Yn y fan hon,
talodd y Cynghorydd Huw Jones deyrnged i'r pump o bobl a oedd wedi colli eu
bywydau yng Nghorwen yn ddiweddar.
Anfonwyd meddyliau at
deithiwr un o'r ceir a oedd yn hynod o sâl yn ysbyty Stoke hefyd. Cydymdeimlwyd
â theuluoedd a chyfeillion yr holl bobl
sy'n ymwneud â’r rhai a anafwyd ac a fu farw. Mynegodd
y Cynghorydd Jones ei ddiolch i'r holl Gynghorwyr, Swyddogion ac aelodau'r
cyhoedd o bob rhan o Gymru a oedd wedi anfon eu dymuniadau da i gymuned Corwen
ar yr adeg eithriadol o drist hwn. Mynegodd y
Cadeirydd, y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies, gydymdeimlad dwysaf y Cyngor i
bawb a oedd yn rhan o’r digwyddiad a chafwyd munud o dawelwch fel teyrnged i'r
rhai a oedd wedi colli eu bywydau. Yn dilyn y munud
o dawelwch, hysbyswyd yr aelodau bod y Cynghorydd Ian Armstrong yn sâl yn yr
ysbyty ar hyn o bryd, a dymunwyd yn dda i’r Cynghorydd Armstrong a'i deulu. |
|
DYDDIADUR Y CADEIRYDD PDF 184 KB Nodi'r
ymrwymiadau dinesig a gynhaliwyd gan Gadeirydd y Cyngor (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd rhestr o ddigwyddiadau dinesig a fynychwyd gan y Cadeirydd a’r
Is-Gadeirydd ar gyfer y cyfnod rhwng 15 Hydref 2015 a 13 Tachwedd 2015 wedi’i
dosbarthu cyn y cyfarfod. PENDERFYNWYD derbyn
y rhestr o ymrwymiadau dinesig a fynychwyd gan y Cadeirydd a'r Is-gadeirydd. |
|
I dderbyn
cofnodion cyfarfod y Cyngor Sir a gynhaliwyd ar 7 Hydref 2015 a 20 Hydref 2015
(copïau ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 7 Hydref 2015. Tudalen 12 –
Cyfeiriodd y Cynghorydd Alice Jones at y cais gan Brif Weithredwr Dros Dro
BIPBC am unrhyw dystiolaeth o ofal gwael. Cadarnhawyd
y byddai unrhyw wybodaeth am dystiolaeth yn cael ei rhoi naill ai i’r Prif
Weithredwr neu i Bennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, AD a Democrataidd, ac y
byddent yn pasio'r wybodaeth ymlaen i'r Prif Weithredwr Dros Dro ar ei rhan. Yna, gofynnodd y
Cynghorydd Jones am gasgliad i’r cyfarfod ar 7 Hydref, 2015. Eglurodd y Prif
Weithredwr ei fod wedi crynhoi ar ddiwedd y cyfarfod fel a ganlyn: ·
Cyfeirio'r mater o
ofal sylfaenol ym Mhrestatyn at y Pwyllgor Craffu ym mis Chwefror 2015 ·
Pryder
yr aelodau ynghylch Ysbyty Brenhinol Alexandra yn Y Rhyl. Cadarnhaodd
y Prif Weithredwr ei fod wedi mynychu cyfarfod gyda Phrif Weithredwr Dros Dro
BIPBC a swyddogion, ac roedd wedi cael sicrwydd bod BIPBC yn ymrwymedig i
adeiladu'r ysbyty yn Y Rhyl o hyd.
Roedd y Bwrdd Iechyd yn
ailystyried y posibilrwydd o ddarpariaeth ac wedi cytuno i gyfarfod eto â'r
Prif Weithredwr a'r Cyfarwyddwr Corfforaethol: Cymunedau cyn gwyliau'r Nadolig. ·
Roedd
yr Aelodau wedi cael gwybod am HASCAS (Gwasanaeth Ymgynghori Iechyd a Gofal
Cymdeithasol) ac yn disgwyl am adroddiad gan y Gwasanaeth yn gynnar yn 2016.
Byddai'r Prif Weithredwr yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf gan Brif Weithredwr
Dros Dro BIPBC yn y cyfarfod cyn y Nadolig. o
Byddai'r
wybodaeth yn cael ei rhannu gyda Grŵp Aelodau Ardal y Rhyl ac yna ei
chyflwyno mewn Pwyllgor Craffu. Gofynnodd y Cynghorydd Alice Jones i’r
wybodaeth gael ei rhannu gyda holl Grwpiau Ardal yr Aelodau. Cadarnhaodd
y Cadeirydd y caiff yr wybodaeth ei rhoi i holl Grwpiau Ardal yr Aelodau. Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 20 Hydref 2015. PENDERFYNWYD yn
amodol ar yr uchod, cadarnhau cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 7 Medi
2015 a 20 Hydref 2015 fel cofnod cywir a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi. |
|
CYLLIDEB 2016/17 – NEWYDDION DIWEDDARAF PDF 321 KB I ystyried
adroddiad (copi i ddilyn) i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa'r gyllideb
diweddaraf ar gyfer 2016/17 Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr
Aelod Arweiniol dros Gyllid ac Asedau, y Cynghorydd Julian Thompson-Hill,
adroddiad y gyllideb ar gyfer 2016/2017 (a ddosbarthwyd yn flaenorol). Nododd yr adroddiad y sefyllfa
ddiweddaraf o ran darparu cyllideb refeniw 2016/2017 a thynnodd sylw at y
mesurau sy’n cael eu cymryd yn rhan o Gam 5 y broses gyllideb dwy flynedd
bresennol. Tynnodd yr adroddiad sylw hefyd at y buddsoddiad y
gwnaeth y cyngor mewn seilwaith allweddol a gwelliannau ledled y sir dros
gyfnod parhaus o ostyngiadau mewn cyllid. Roedd
yr adroddiad hefyd yn amlinellu sut roedd strategaeth cyllideb y cyngor wedi
diogelu gwasanaethau allweddol tra'n rheoli sefyllfa ariannol heriol. Roedd Llywodraeth
Cymru i fod i gyhoeddi ei gyllideb ar 8 Rhagfyr gyda Setliad Dros Dro
Llywodraeth Leol yn dilyn ar 9 Rhagfyr.
Byddai hyn yn gwneud y
sefyllfa ariannu ar gyfer 2016/17 yn fwy eglur. Byddai
cyhoeddi Setliad Dros Dro yn cynnwys prif ffigur, ond efallai na chaiff effaith
newidiadau i ffrydiau cyllid grant refeniw eu cyhoeddi ar yr un pryd. Byddai cyhoeddi
Setliad Llywodraeth Leol yn hwyr yn golygu efallai y bydd angen addasu amserlen
y gyllideb. Roedd yn rhaid i'r Cyngor bennu ei gyllideb mewn
pryd er mwyn caniatáu ar gyfer cynhyrchu a dosbarthu biliau Treth y Cyngor ym
mis Mawrth 2016. Yn dibynnu ar lefel y Setliad Dros Dro, roedd yn debygol y
gall fod angen cyfarfod ychwanegol o'r Cyngor Llawn i gwblhau'r gyllideb ym mis
Chwefror 2016. O ystyried lefel
o ansicrwydd ynghylch y setliad refeniw, canolbwyntiodd gweithdai cyllideb
diweddar i aelodau ar ystod o gynigion y bydd angen eu gweithredu efallai yn
2016/2017. Er mwyn cynnal momentwm a chyfyngu ar risgiau ar ddiwedd y broses,
fe eglurwyd y byddai set o fesurau yn cael eu cyflwyno i’r cyngor er gwybodaeth
ym mis Rhagfyr er mwyn gallu nodi effaith y gyllideb. Ni fu cyfeiriad
clir ynghylch a fyddai cyfarwyddebau i ddiogelu ysgolion a chyllidebau eraill. Ers
2011 bu addewid gweinidogol i amddiffyn cyllidebau ysgolion yng Nghymru. Er
mwyn cydymffurfio â'r addewid i ‘amddiffyn’ cyllidebau ysgolion, dylai'r cyngor
fod wedi cynyddu'r cyllid i ysgolion o £3.4m dros y pedair blynedd diwethaf. Yn
wir, roedd cyllid ysgolion yn Sir Ddinbych wedi cynyddu o £6.3m. Cafwyd trafodaeth
bellach a chodwyd y pwyntiau canlynol: ·
Roedd
y Pwyllgor Craffu wedi codi mater adolygiad a chyllid Ysgol Rhuthun ynghylch
dwy ysgol newydd a oedd i'w hadeiladu.
Yr hyn a ddaeth i'r amlwg yn
ddiweddar oedd bod dogfen newydd wedi ei pharatoi ar gyfer Llywodraeth Cymru a
oedd yn awgrymu y dylai’r holl gynlluniau (Ysgol y 21ain Ganrif,
Adolygiad Rhuthun, ac Ysgol Ffydd) yn cael eu cynnwys fel un pecyn. Byddai'r
cynllun yn cael ei ariannu 50% gan Gyngor Sir Ddinbych a 50% gan Lywodraeth
Cymru. Disgwylir cael ychwanegiad o £6m gan Lywodraeth
Cymru tuag at y pecyn. Cadarnhaodd Cadeirydd y Pwyllgor Craffu
Cymunedau ei fod wedi ysgrifennu at Aelodau'r Cynulliad ynglŷn â materion
ysgol. ·
Cytundeb
Menter Cyllid Preifat – cafwyd llongyfarchiadau yn dilyn terfynu'r Cytundeb
Menter Cyllid Preifat. Disgwyliwyd camau cadarnhaol ar gyfer
dyfodol yr adeiladau. ·
Gwnaethpwyd
cais am gyflwyniad cliriach o'r ffigurau i gynnwys manylion am ddadansoddiad,
benthyca a ffigurau pellach ar gyfer cronfeydd wrth gefn. Cytunodd
yr holl aelodau i'r cais am gynllun mwy manwl. ·
Byddai'r
setliad ar gyfer cyllideb 2016/2017 gan Lywodraeth Cymru ar gyfer un flwyddyn
yn unig. Cafwyd sicrwydd bod disgwyl setliadau tair blynedd
yn ar ôl y flwyddyn honno. PENDERFYNWYD
bod Aelodau’r Cyngor: - (i)
yn nodi'r cynnydd
a wnaed wrth gyflwyno cyllideb 2016/2017 a'r camau arfaethedig i gwblhau'r
broses. (ii) nodi nad yw’r rhan fwyaf o arbedion a wnaed hyd yn hyn yn y broses gyllideb ddwy flynedd wedi ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
DRAFFT O STRATEGAETH TAI SIR DDINBYCH PDF 208 KB Ystyried
adroddiad gan y Rheolwr Cynllunio Datblygu a Pholisi (copi ynghlwm) i ofyn am
gymeradwyaeth yr Aelodau i fabwysiadu drafft o Strategaeth Tai Sir Ddinbych ac
i gymeradwyo'r Cynllun Gweithredu sy'n cyd-fynd. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr
Aelod Arweiniol dros Foderneiddio a Thai, y Cynghorydd Barbara Smith, yr
Adroddiad Drafft ar Strategaeth Dai Sir Ddinbych (a ddosbarthwyd yn flaenorol)
i geisio cymeradwyaeth yr Aelodau i fabwysiadu'r Strategaeth Dai Ddrafft a
chymeradwyo'r Cynllun Gweithredu cyfatebol. Ar y pwynt hwn,
diolchodd yr Aelod Arweiniol i bawb a oedd wedi gweithio ar y Strategaeth Dai
Ddrafft, gan gynnwys Angela Loftus a’i Thîm, ynghyd ag Aelodau’r Grwpiau Tasg a
Gorffen. Roedd cynnwys y
Strategaeth Dai a'r Cynllun Gweithredu Drafft yn cynrychioli uchafbwynt yr
ymgynghoriad â phartneriaid, gwaith gyda swyddogion ar draws y Cyngor a mewnbwn
gan Aelodau. Roedd mynediad at
dai o ansawdd da yn flaenoriaeth gorfforaethol allweddol a byddai datblygu
Strategaeth Dai glir a chadarn yn darparu'r fframwaith ar gyfer holl
swyddogaethau perthnasol y Cyngor i fynd i'r afael â'r flaenoriaeth yn
llwyddiannus. Bwriad y Strategaeth Dai oedd darparu datganiad
clir o weledigaeth a nodau’r Cyngor ar gyfer tai yn y Sir am y pum mlynedd
nesaf. Roedd y
weledigaeth strategol fel a ganlyn: - “Mae pawb yn cael
ei gefnogi gyda balchder i fyw mewn cartrefi sy'n diwallu eu hanghenion, o fewn
y cymunedau bywiog a chynaliadwy y mae'n uchelgais gan Sir Ddinbych eu creu.” O fewn y
Strategaeth, i sicrhau cysondeb, roedd saith egwyddor lleol: - ·
Cefnogi’r
Economi Lleol – drwy adeiladu tai ac adfywio ·
Lleihau
anghydraddoldebau – drwy geisio sicrhau bod cartrefi priodol ar gael i bawb a
bod pobl fregus yn cael eu cefnogi ·
Ymgysylltu
a chynnwys – gyda phartneriaid i helpu i ddarparu cartrefi priodol ar y cyd a
gweithio gyda thrigolion i adfywio eu cymdogaethau ·
Cynaliadwyedd -
cefnogi marchnad dai gynaliadwy a sicrhau cymunedau cynaliadwy ·
Yr
iaith Gymraeg a diwylliant – ystyried datblygiadau newydd, a’u hybu ·
Monitro
ac adolygu – paratoir adolygiad blynyddol i amlinellu cynnydd ac unrhyw
newidiadau i gamau y cytunwyd arnynt ·
Canolbwyntio
ar ganlyniadau – bydd y strategaeth yn canolbwyntio ar ddarparu’r canlyniadau a
nodwyd. Bu i’r
Strategaeth nodi pum "thema" a oedd yn feysydd blaenoriaeth i’w rhoi
ar waith, ac roedd y rhain yn ffurfio craidd y Strategaeth. Y
pum thema oedd: - ·
Mwy o
gartrefi i ddiwallu'r angen a’r galw lleol ·
Creu
cyflenwad o gartrefi fforddiadwy ·
Sicrhau
cartrefi diogel ac iach ·
Cartrefi
a chymorth i bobl ddiamddiffyn, a ·
Hyrwyddo
a chefnogi cymunedau Cafwyd trafodaeth
ddwys a chodwyd y pwyntiau canlynol:- ·
Pa
mor gyraeddadwy yw dyddiadau targed.
Roedd rhai o'r camau eisoes
ar y gweill ac roedd rhai bron wedi’u cyflawni. Roedd
y camau i’w hadolygu a byddai sylw’n cael eu rhoi iddynt pe bai posibilrwydd
i’r llinell amser lithro. ·
Roedd
nifer o gamau gweithredu o dan Thema 2 - Tai Fforddiadwy. Roedd
swyddogion yn sôn am dai cyngor a thai cymdeithasol i gyd yn cael eu grwpio
gyda'i gilydd. Roedd yr Aelodau Arweiniol i fod yn gyfrifol am y
Cynllun Gweithredu a byddai'n cael ei ddwyn i gyfrif. Awgrymwyd
y dylai unrhyw faterion nad oedd yn cael eu cyflwyno gan unrhyw Aelod yn cael
eu rhoi gerbron Pwyllgor Craffu. ·
O ran
Cam Gweithredu 2.10, gofynnodd y Cynghorydd Jason McLellan bod " cynllun
busnes yn cael ei ddatblygu er mwyn sicrhau bod mwy o dai Cyngor yn cael eu
darparu" – bydd yr wybodaeth ddiweddaraf yn cael ei rhoi i'r Cyngor ym mis
Ebrill 2016. ·
Hyrwyddo
iaith a diwylliant Cymru – os bydd unrhyw gais dros faint penodol, byddai'n
ofynnol i'r datblygwr gyflwyno Asesiad Effaith ar yr Iaith Gymraeg. Byddai'r
Strategaeth Dai Ddrafft ei hun, unwaith y bydd wedi’i chymeradwyo, yn cael ei
chyfieithu a'i chyhoeddi yn y Gymraeg hefyd. ·
Y
niferoedd presennol ar y rhestr aros am dai oedd: - Ø
1915
o geisiadau cyffredinol Ø 264 o ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|
POLISI TAI CYMUNEDOL - DIWEDDARIADAU AR GYFER CYMERADWYO PDF 179 KB Ystyried
adroddiad gan y Swyddog Arweiniol, Tai Cymunedol (copi ynghlwm) i ofyn am
gymeradwyaeth yr Aelodau i adolygu'r polisïau canlynol: (i)
Polisi
Dyrannu (ii)
Polisi
Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, a (iii)
Pholisi
Tenantiaeth Rhagarweiniol. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr
Aelod Arweiniol dros Foderneiddio a Thai, y Cynghorydd Barbara Smith, yr
adroddiad ar Bolisi Tai Cymunedol (a ddosbarthwyd eisoes) i geisio
cymeradwyaeth yr Aelodau i adolygu'r polisïau canlynol: (i)
Polisi
Dyraniadau (ii)
Polisi
Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, a (iii)
Polisi
Tenantiaeth Rhagarweiniol. Polisi
Dyraniadau Roedd y polisi
Dyraniadau angen ei adolygu a’i ddiweddaru i adlewyrchu deddfwriaeth newydd a
chod ymarfer newydd a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru. Er bod y polisïau
a ddiweddarwyd yn sicrhau ein bod yn cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, bu
i’r Cabinet gymeradwyo mabwysiadu SARTH (Un Llwybr Mynediad at Dai) ar 14
Ionawr, 2014, a oedd yn cynnwys symud oddi wrth y system dyrannu pwyntiau
presennol at system "bandio" angen am dai. Roedd
y polisi hwn felly yn fesur dros dro i sicrhau cydymffurfiaeth â'r
rhwymedigaethau cyfreithiol hyd nes y gweithredir SARTH yn Sir Ddinbych. Polisi
Ymddygiad Gwrthgymdeithasol Roedd y polisi
hwn wedi cael ei ddiweddaru i adlewyrchu cyflwyno'r Ddeddf Ymddygiad
Gwrthgymdeithasol a Phlismona 2014. Nid oedd unrhyw newidiadau sylfaenol i
ddelio ag ymddygiad niwsans, fodd bynnag roedd atebion cyfreithiol cyffredin
fel y Gorchymyn ymddygiad gwrthgymdeithasol (ASBO) wedi'u disodli. Cafodd
y polisi ei ddiweddaru i adlewyrchu'r newidiadau a gellid ystyried yr holl
bwerau fel rhan o'r gweithgareddau gorfodi. Polisi
Tenantiaeth Rhagarweiniol Roedd y Polisi
Tenantiaeth Rhagarweiniol wedi cael ei ysgrifennu gyda chymorth Cyfreithwyr
Whiteheads er mwyn gwella eglurder y Polisi a'r weithdrefn gyfredol; tra’n
sicrhau cydymffurfiaeth â deddfwriaeth. PENDERFYNWYD bod
y Cyngor yn cymeradwyo'r polisïau canlynol: (i)
Polisi Dyraniadau (ii)
Polisi Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, a (iii)
Polisi Tenantiaeth Rhagarweiniol. |
|
IS-DDEDDFAU CERBYDAU HACNI DIWYGIEDIG ARFAETHEDIG PDF 115 KB I ystyried
adroddiad gan Reolwr Gwarchod y Cyhoedd (copi ynghlwm) i ofyn am gymeradwyaeth
yr Aelodau i'r is-ddeddfau diwygiedig mewn perthynas â cerbydau Hacni. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
Arweiniol y Parth Cyhoeddus, y Cynghorydd David Smith, yr adroddiad Diwygiedig
Arfaethedig ar Is-ddeddfau Cerbydau Hacni (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ar
gyfer cymeradwyaeth yr Aelodau. Y rheswm am yr
adroddiad oedd ceisio mabwysiadu is-ddeddfau diwygiedig a chyfredol i sicrhau
dull teg, tryloyw a chyson wrth benderfynu ar unrhyw faterion gorfodi cerbyd hacni. Y rheswm dros
ddod â’r adroddiad i’r Cyngor Llawn oedd bod gwneud is-ddeddfau o dan a68 o
Ddeddf Cymalau Heddlu Tref 1847 yn swyddogaeth y Cyngor (yn hytrach na
swyddogaeth Weithredol) o dan y Rheoliadau Trefniadau Gweithrediaeth Awdurdodau
Lleol (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Cymru) 2007. PENDERFYNWYD:- (i)
Bod aelodau wedi cytuno i fabwysiadu Is-ddeddfau
Enghreifftiol yr Adran Drafnidiaeth, fel y nodir yn Atodiad 1
i'r adroddiad hwn. (ii)
Cytuno i ganiatáu i Swyddogion anfon yr
Is-ddeddfau Enghreifftiol i Lywodraeth Cynulliad Cymru i'w cadarnhau. |
|
RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL Y CYNGOR SIR PDF 300 KB Ystyried rhaglen
gwaith i’r dyfodol y Cyngor (copi
ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd
Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd Raglen
Gwaith i'r Dyfodol y Cyngor (dosbarthwyd eisoes). Mis Ionawr 2016 -
ad-drefnu Llywodraeth Leol - gofynnwyd am hyn gan y Cynghorydd Jason McLellan. Mis Ebrill 2016 -
Ychwanegu adroddiad pellach ar elfen o strategaeth dai fel y cytunwyd yn
gynharach yn y cyfarfod. Datblygu cynllun busnes er mwyn sicrhau
bod mwy o dai cyngor yn cael eu darparu - gofynnwyd am hyn gan y Cynghorydd
Jason McLellan. PENDERFYNWYD yn
amodol ar yr uchod y dylid cymeradwyo a nodi Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y
Cyngor. |
|
Daeth y cyfarfod i ben am 12.30 pm. |