Rhaglen
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun LL15 1YN
Rhif | Eitem |
---|---|
RHAN 1 – GWAHODDIR Y WASG A’R CYHOEDD I DDOD I’R RHAN HON O’R CYFARFOD |
|
YMDDIHEURIADAU |
|
DATGAN CYSYLLTIAD Aelodau i ddatgan
unrhyw fuddiannau personol neu sy’n rhagfarnu mewn unrhyw fusnes sydd yn cael
eu hystyried yn y cyfarfod hwn. |
|
MATERION BRYS FEL Y’U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau y dylid ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn
unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. |
|
DYDDIADUR Y CADEIRYDD PDF 54 KB Nodi’r
digwyddiadau dinesig sydd gan Gadeirydd y Cyngor (copi yn amgaeedig). |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Cyngor Sir a gynhaliwyd 8 Hydref, 2013 (copi’n amgaeedig). |
|
ARBEDION EFFEITHLONRWYDD Y GWEITHLU PDF 82 KB Ystyried
adroddiad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Uchelgais Economaidd a Chymunedol
(copi’n amgaeedig), i roi diweddariad i’r Cyngor Llawn ar drafodaethau’r
gweithlu, ac yn dilyn canlyniad cadarnhaol i bleidleisiau aelodau’r Undeb
Llafur, i gael cytundeb y Cyngor Llawn i’w weithredu. Dogfennau ychwanegol: |
|
DRAFFT STRATEGAETH UCHELGAIS ECONOMAIDD A CHYMUNEDOL PDF 140 KB Ystyried
adroddiad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Uchelgais Economaidd a Chymunedol
(copi’n amgaeedig), i’r Cyngor gymeradwyo’r Strategaeth Uchelgais Economaidd a
Chymunedol a’r Cynllun Cyflawni. Dogfennau ychwanegol: |
|
DEDDF DELWYR METEL SGRAP 2013 PDF 83 KB Ystyried
adroddiad gan Bennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd a Rheolwr Diogelu’r
Cyhoedd (copi’n amgaeedig), i roi gwybod i’r Cyngor Llawn am ddarpariaethau’r
Ddeddf Delwyr Metel Sgrap 2013, a gofyn i’r Cyngor Llawn gymeradwyo’r pwerau
wedi’u dirprwyo i’r Pwyllgor Trwyddedu glywed sylwadau llafar. Dogfennau ychwanegol: |
|
Rhybudd o Gynnig Ystyried y
Rhybudd o Gynnig canlynol a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Colin Hughes: "Bod y
cyngor hwn yn gwahardd mynediad at wefannau cwmnïau benthyciadau diwrnod cyflog
o lyfrgelloedd, adeiladau a mannau wifi a redir gan y Cyngor, er mwyn gwneud ei
orau glas i sicrhau nad ydyw pobl ddiamddiffyn yn defnyddio cyfleusterau’r
Cyngor i gael mynediad at ffynonellau nad ellir eu fforddio, ac sydd weithiau
yn anghyfrifol, o fenthyca arian. Yn hytrach, bydd y cyngor yn cyfeirio pobl at
undebau credyd a Chyngor ar Bopeth yn y gobaith y bydd cyngor da yn eu tywys yn
well drwy eu problemau ariannol." |
|
RHYBUDD O GYNNIG Ystyried y
Rhybudd o Gynnig canlynol a gyflwynwyd gan y Cynghorwyr Julian Thompson-Hill,
Hugh Irving, Ann Davies, Peter Owen, Martyn Holland a James Davies: “Yn sgil y sylw
cenedlaethol beirniadol diweddar o
Ysbyty Glan Clwyd a’n pryderon ers peth amser am y ffordd y cafodd Bwrdd Iechyd
Prifysgol Betsi Cadwaladr ei redeg, rydym yn galw ar Gadeirydd y Bwrdd a
benodwyd yn ddiweddar i ddod i gyfarfod nesaf y Cyngor Llawn. Hoffem iddo
egluro ei gynlluniau i weddnewid enw’r Bwrdd a’r Gwasanaeth Iechyd yn
gyffredinol ar draws Gogledd Cymru ac yma yn Sir Ddinbych. Rydym hefyd eisiau
iddo ddweud wrthym sut y bydd yn ailadeiladu hyder staff, cleifion a’r cyhoedd
yn ein gwasanaethau iechyd lleol.” |
|
RHYBUDD O GYNNIG Ystyried y
Rhybudd o Gynnig canlynol a gyflwynir gan y Cynghorwyr Gwyneth Kensler ac Arwel
Roberts: “Mae’r Cyngor yn
nodi bydd: ·
Llywodraeth
leol yn cael toriadau sylweddol mewn termau real yn y dyfodol o ganlyniad i
Adolygiad Gwario Llywodraeth San Steffan a’r sgil effeithiau ar gyllideb
Llywodraeth Cymru. ·
Gallai
ymestyn y Dreth Trafodion Ariannol ar gyfranddaliadau i ddosbarthiadau asedau
eraill fel bondiau a deilliadau godi £20bn o refeniw ychwanegol yn y DU y
flwyddyn; ·
Mae o
leiaf 11 gwlad Ewropeaidd gan gynnwys Ffrainc, yr Almaen, yr Eidal a Sbaen yn
symud ymlaen gyda FTT ar gyfranddaliadau, bondiau a deilliadau yr amcangyfrifir
iddynt godi £30bn y flwyddyn. Mae’r Cyngor yn
credu: ·
Gallai
refeniw o'r FTT helpu i drwsio’r difrod a berir gan doriadau i wasanaethau
cyhoeddus; ·
Fel
darparwyr allweddol o wasanaethau lleol a chyflogaeth, mae llywodraeth leol yn
haeddu cael cyfran helaeth o refeniw FTT. Mae’r Cyngor yn
penderfynu y dylai: ·
Llywodraeth
y DU ymestyn yr FTT cyfredol ar gyfranddaliadau i ddosbarthiadau asedau eraill,
fel bondiau neu ddeilliadau, a sicrhau bod y refeniw yn cael ei rannu’n deg i
weinyddiaethau wedi’u datganoli. Mae’r Cyngor yn
penderfynu ymhellach i: ·
Ysgrifennu
at Brif Weinidog y DU, y Dirprwy Brif Weinidog, a Changhellor y Trysorlys, yn
nodi cefnogaeth y cyngor hwn tuag at ymestyn ar FTT.” |
|
RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL Y CYNGOR SIR PDF 130 KB Ystyried rhaglen
gwaith i’r dyfodol y Cyngor (copi’n amgaeedig). |