Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun LL15 1YN a thrwy gynhadledd fideo

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

TEYRNGED I’R CYN GYNGHORYDD HUGH IRVING

Cyfeiriodd y Cadeirydd, y Cynghorydd Peter Scott, at farwolaeth ddiweddar y cynghorydd sir Hugh Irving a gwahoddodd arweinwyr y grwpiau gwleidyddol i annerch y Cyngor.

 

Talodd Arweinwyr y Grwpiau eu teyrngedau i ymroddiad hirsefydlog a gwaith caled y Cynghorydd Irving i’w gymuned ym Mhrestatyn ac i Sir Ddinbych, am ei effeithiolrwydd fel cynghorydd, ac am ymddwyn mewn modd parchus a chwrtais bob amser.

 

Safodd y Cyngor mewn tawelwch fel arwydd o barch.

 

Dogfennau ychwanegol:

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr Joan Butterfield, Ann Davies, Jon Harland, Geraint Lloyd-Williams, Raj Metri, David Williams ac Elfed Williams.

 

 

2.

DATGAN CYSYLLTIAD pdf eicon PDF 199 KB

Aelodau i ddatgan unrhyw fuddiannau personol neu ragfarnus mewn unrhyw fusnes a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorwyr Hugh Evans, Merfyn Parry, Huw Williams ac Eryl Williams gysylltiad personol ag eitem 11, Rhybudd o Gynnig, mewn perthynas â’u cysylltiad â’r diwydiant ffermio.

 

 

 

3.

DYDDIADUR Y CADEIRYDD pdf eicon PDF 57 KB

Nodi ymrwymiadau dinesig a ymgymerwyd gan Gadeirydd y Cyngor (copi ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Tynnodd y Cadeirydd sylw at rai digwyddiadau dinesig yr oedd wedi ymgymryd â nhw yn ystod ei gyfnod fel Cadeirydd y Cyngor.

 

 

4.

PENODI CADEIRYDD Y CYNGOR

Penodi Cadeirydd y Cyngor ar gyfer blwyddyn ddinesig 2025-26.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Diolchodd y Cadeirydd sy'n gadael, y Cynghorydd Peter Scott, i'w ferch Elaine Morris a'i wyresau Elizabeth a Faye Williams a oedd wedi bod yn gymheiriaid iddo ar ei ddyletswyddau dinesig. Cyflwynwyd blodau i ddiolch i’r cymheiriaid a’r Rheolwr Cymorth Busnes, Eleri Woolford, am ei gwaith yn trefnu’r rhaglen ddigwyddiadau ac ymweliadau dinesig.

 

Cyflwynodd y Cadeirydd siec o’i gronfa elusennol i Dr Ghazala, Rheolwr Codi Arian i Hosbis Sant Cyndeyrn. Diolchodd Dr Ghazala i’r Cadeirydd am y rhodd ac amlinellodd y gwasanaethau a ddarperir gan yr hosbis a’r ymrwymiad ariannol sy’n angenrheidiol i gefnogi gwaith yr hosbis. Gwahoddodd Dr Ghazala aelodau’r Cyngor i ymweld â’r hosbis.

 

Cyhoeddodd y Cadeirydd bod ei gronfa elusennol wedi codi arian trwy gyngherddau elusennol ar gyfer elusen y lluoedd arfog. Bydd yr elusen sy’n derbyn yr arian yn cael eu hysbysu’n fuan.

 

Gofynnodd y Cadeirydd am enwebiadau ar gyfer ymgeiswyr ar gyfer rôl Cadeirydd y Cyngor ar gyfer blwyddyn y cyngor 2025 – 2026.

 

Cynigodd y Cynghorydd Delyth Jones y Cynghorydd Arwel Roberts i fod yn Gadeirydd nesaf y Cyngor, ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Jason McLellan.

 

Ni chafwyd unrhyw enwebiadau pellach a chadarnhaodd yr aelodau a oedd yn bresennol eu cymeradwyaeth.

 

Talodd y Cadeirydd newydd, y Cynghorydd Roberts, deyrnged i’r Cadeirydd sy’n gadael, y Cynghorydd Scott, am ei gyfnod llwyddiannus a’i synnwyr digrifwch  a oedd wedi helpu’r Cyngor i gyd-drafod materion anodd yn ystod ei gyfnod estynedig yn y swydd.

 

Dywedodd y Cadeirydd newydd mai ei gymar fyddai ei wraig, Awen Roberts. Byddai’n codi arian at elusen Hosbis Sant Cyndeyrn ac at gefnogi teuluoedd a fyddai fel arall yn cael anhawster ariannol cymryd rhan mewn gwersylloedd a gweithgareddau’r Urdd.

 

PENDERFYNWYD - ethol y Cynghorydd Arwel Roberts yn Gadeirydd Cyngor Sir Ddinbych ar gyfer blwyddyn y cyngor 2025-2026.

 

 

5.

PENODI IS-GADEIRYDD Y CYNGOR

Penodi Is-Gadeirydd y Cyngor ar gyfer blwyddyn ddinesig 2025-26.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gofynnodd y Cadeirydd am enwebiadau ar gyfer ymgeiswyr ar gyfer rôl Is-gadeirydd y Cyngor ar gyfer blwyddyn y cyngor 2025 – 2026.

 

Cynigodd y Cynghorydd Hugh Evans y Cynghorydd Bobby Feeley i fod yn Is-gadeirydd nesaf y Cyngor, ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Andrea Tomlin.

 

Ni chafwyd unrhyw enwebiadau pellach a chadarnhaodd yr aelodau a oedd yn bresennol eu cymeradwyaeth.

 

Diolchodd Is-gadeirydd newydd y Cyngor, y Cynghorydd Feeley, i’r Cadeirydd blaenorol, y Cynghorydd Scott a dymunodd y gorau i’r Cadeirydd newydd, y Cynghorydd Roberts. Cymar y Cynghorydd Feeley fyddai ei gŵr.

 

PENDERFYNWYD - ethol y Cynghorydd Bobby Feeley yn Is-gadeirydd Cyngor Sir Ddinbych ar gyfer blwyddyn y cyngor 2025-2026.

 

Cyhoeddodd y Cadeirydd y byddai egwyl fer.

 

 

6.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol ag Adran 100B(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol, 1972.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cytunodd y Cadeirydd i gais gan Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd McLellan, i dalu teyrnged i'r cerddor a'r codwr arian elusennol Mike Peters, a fu farw'n ddiweddar.

 

Talodd y Cynghorydd McLellan deyrnged i gyflawniadau cerddorol byd-eang Mike Peters a nododd sut yr oedd Gogledd Cymru, a Dyserth, Prestatyn a'r Rhyl yn enwedig (lle rhoddodd Mike Peters ei berfformiadau cerddorol byw cyntaf), bob amser yn ganolog iddo. Nododd y Cynghorydd McLellan gyfraniadau Mr Peters at fywyd, iaith a diwylliant Cymru ac at ei waith codi arian elusennol ar gyfer Sefydliad Love Hope Strength, gyda’r nod o godi arian ac ymwybyddiaeth er budd pobl â chanser a lwcemia.

 

Mynegodd y Cynghorydd McLellan ei gydymdeimlad â gwraig Mr Peters, Jules, a'r teulu.

 

Cymeradwyodd y Cadeirydd sylwadau’r Arweinydd.

 

 

7.

COFNODION pdf eicon PDF 280 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Cyngor Sir a gynhaliwyd ar 20 Chwefror 2025 (copi i ddilyn) a chyfarfod Arbennig y Cyngor Sir a gynhaliwyd ar 26 Mawrth 2025 (copi ynghlwm).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 20 Chwefror 2025 a chyfarfod arbennig y Cyngor a gynhaliwyd ar 26 Mawrth 2025.

 

Materion yn codi:  Cyfarfod Arbennig y Cyngor - 26 Mawrth 2025

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Mendies at awgrym yr oedd wedi’i wneud yn y cyfarfod arbennig y gallai fod wedi bod yn ddoeth i’r cyngor sir fenthyca’r cyllid ar gyfer cynllun busnes arfaethedig Hamdden Sir Ddinbych Cyfyngedig (HSDd), ac awgrymodd gwpl o gwmnïau ariannol neu fasnachol posibl fel Shawbrook a Bluestone. Dywedodd y Cynghorydd Mendies fod ymateb a wnaed gan Reolwr Gyfarwyddwr HSDd yn ystod y cyfarfod, sef bod Bluestone yn gwmni prydlesu, yn anghywir, a bod Bluestone mewn gwirionedd yn gwmni masnachol. Nododd y Cynghorydd Mendies nad oedd y drafodaeth hon wedi’i chynnwys yn y cofnodion.

 

Dywedodd y Swyddog Monitro nad oedd y cofnodion yn gofnod gair am air o'r trafodion ond y gellid nodi'r pwyntiau hyn pe bai'r aelodau yn dymuno i’r cofnodion gyfeirio atynt.

 

Dywedodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts ei fod o’r farn nad oedd y cofnodion yn adlewyrchu’n ddigonol ochrau cadarnhaol y ddadl, megis y trefniadau ar gyfer cyfranddalwyr lle byddai cyfranddaliadau’n aros gyda’r cwmni pe bai cyfranddaliwr yn gadael y cwmni. Dywedodd nad gwerthu HSDd oedd y penderfyniad a wnaed ac yn hytrach ei fod yn benderfyniad ‘mewn egwyddor’, a theimlai ei bod yn bwysig nodi hynny yn y cofnodion er gwybodaeth i’r cyhoedd oherwydd bod y drafodaeth ei hun wedi digwydd yn Rhan 2 (sesiwn gaeedig). Cyfeiriodd hefyd at y gefnogaeth a roddodd yr Arweinydd (yn amodol ar drafodaethau undebau llafur), y tîm uwch arweinyddiaeth a mwyafrif yr aelodau i’r cynigion, ond condemniodd y Cynghorydd Hilditch-Roberts rannu gwybodaeth gyfrinachol yn y cyfryngau a dywedodd fod hynny wedi arwain at golli ymddiriedaeth yn y Cynghorwyr a niweidio enw da'r Cyngor. Ychwanegodd y byddai'n fuddiol nodi bod y Cyngor wedi arfer rheoli contractau drwy gytundebau lefel gwasanaeth gan fod hyn wedi bod yn rhan o'r ddadl.

 

Nododd y Swyddog Monitro y pwyntiau a wnaed a dywedodd fod y drafodaeth wedi bod yn un anodd ei chofnodi oherwydd ei bod yn cwmpasu trafodaeth Rhan 2, felly'r nod oedd bod mor dryloyw â phosibl i'r cyhoedd, heb ddatgelu gwybodaeth eithriedig. Bu’n rhaid darparu cofnod mwy llawn nag oedd yn arferol ar gyfer trafodaeth Rhan 2 er mwyn cyflawni'r cydbwysedd hwn.

 

Cyfeiriodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd McLellan, at ei ymholiad ynghylch y rheswm pam roedd aelod o staff, a oedd hefyd yn gynrychiolydd undeb llafur Unsain, wedi teimlo'r angen i adael yr ystafell gyfarfod unwaith y symudodd y cyfarfod i Ran 2. Teimlai’r Arweinydd y dylai’r drafodaeth a’r ffaith y byddai’n well ganddo petai’r aelod staff wedi aros yn y cyfarfod, fod wedi’u nodi gan eu bod yn gysylltiedig â’r pwyntiau a wnaeth am bwysigrwydd telerau ac amodau staff ac ymgysylltu â’r undebau llafur.

 

Wrth ymateb i ymholiadau gan y Cynghorydd Merfyn Parry, eglurodd y Swyddog Monitro, hyd yn oed yn ystod trafodaeth Rhan 2, y dylai'r Cyngor fod mor dryloyw â phosibl ynghylch y trafodion heb ddatgelu gwybodaeth eithriedig. O ran pleidlais wedi’i chofnodi, nid oedd y ffordd y pleidleisiodd yr aelodau yn wybodaeth eithriedig felly pe bai aelodau'n penderfynu cael pleidlais wedi’i chofnodi yn ystod eitem Rhan 2, byddai'n rhaid cofnodi'r ffordd y pleidleisiodd pob aelod yn y cofnodion. O ran datgelu gwybodaeth i'r cyhoedd ar ôl y cyfarfod, roedd y Swyddog Monitro o'r farn nad oedd o gymorth i wybodaeth a rennir fel un gyfrinachol gael ei rhyddhau heb awdurdod priodol gan y gallai hyn fod yn niweidiol i’r ffordd y mae’r Cyngor yn gweithio. Eglurwyd na fyddai popeth mewn trafodaeth Rhan 2 yn  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

DATGANIAD POLISI TÂL 2025/26 pdf eicon PDF 245 KB

Derbyn adroddiad gan yr arbenigwr Tâl a Thaliadau (copi ynghlwm), i geisio cymeradwyaeth i'r Datganiad Polisi Tâl am 2025/26 sydd ynghlwm.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Arweinydd a'r Aelod Arweiniol Polisi, Cydraddoldeb a Strategaeth Gorfforaethol, y Cynghorydd Julie Matthews, adroddiad ar y Datganiad Polisi Tâl 2025 / 2026 (dosbarthwyd ymlaen llaw).

 

Dywedodd y Cynghorydd Matthews fod y Cyngor wedi ymrwymo i dryloywder yn ei bolisi tâl ar gyfer graddfa pob aelod o staff. Roedd Deddf Lleoliaeth 2011 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol baratoi datganiadau polisi tâl. Dywedwyd wrth yr aelodau bod yn rhaid i’r datganiadau egluro polisi’r awdurdod dan sylw ynglŷn ag amryw faterion a wnelont â chyflogau ei weithlu, yn enwedig felly ei staff uwch (neu “brif swyddogion”) a’i weithwyr ar y cyflogau isaf. Mae’n rhaid i’r Cyngor gymeradwyo a chyhoeddi Datganiadau Polisi Tâl bob blwyddyn.

 

Tynnodd y Cynghorydd Matthews sylw at bolisi tâl y Cyngor ar gyfer cyfrannu at weithlu brwdfrydig iawn a dywedodd fod y datganiad polisi tâl wedi'i argymell i'w fabwysiadu ym mis Ebrill 2025 gan Banel Tâl Uwch Arweinyddiaeth y Cyngor, yr oedd hi wedi'i gadeirio. Nodau’r Datganiad Polisi Tâl oedd darparu pecyn tâl cystadleuol a oedd yn galluogi’r Cyngor i ddenu, cymell a chadw’r bobl ddawnus briodol sydd eu hangen i gynnal a gwella perfformiad y Cyngor ac ymateb i heriau’r dyfodol. Roedd yn nodi dull cyson o ymdrin â chyflogau, telerau ac amodau ar draws y Cyngor y mae staff a rheolwyr yn eu deall ac yn eu cymhwyso i weithlu amrywiol a oedd yn adlewyrchu'r gymuned yr oedd yn ei gwasanaethu mewn ffordd dryloyw a theg, gan gydymffurfio â’r ddeddfwriaeth.

 

Adroddodd Pennaeth y Gwasanaethau Cymorth Corfforaethol – Pobl (HCSSP) fod y polisi tâl blynyddol yn tueddu i aros yn weddol sefydlog o un flwyddyn i'r llall ac mai ychydig iawn o newidiadau a wnaed i ddogfen eleni. 

 

Tynnodd y HCSSP sylw’r aelodau at baragraff 1.3 yn y polisi tâl, a oedd yn rhoi crynodeb o’r heriau ariannol arwyddocaol a wynebir gan bob cyngor yn y DU yn y tymor canolig. O ganlyniad i gostau cynyddol darparu gwasanaethau a chynnydd yng nghymhlethdod gwasanaethau statudol sy'n cael eu harwain gan y galw, mae cyllideb y Cyngor wedi cynyddu o flwyddyn i flwyddyn.

 

Amlinellodd yr HCSSP y newidiadau:

·       Roedd y datganiad wedi'i ddiweddaru gyda dyfarniad cyflog 2024 – 2025 ar gyfer yr holl staff.

·       Nid oedd y datganiad yn cynnwys y dyfarniad cyflog ar gyfer 2025 – 2026 gan nad oedd hwnnw wedi’i gytuno arno eto. Byddai'r polisi tâl yn cael ei ddiweddaru ar ôl cytuno ar y dyfarniad cyflog a gytunwyd yn genedlaethol.

·       Agwedd bwysig ar y polisi tâl oedd y perthynoledd cyflogau o fewn y Cyngor, lle'r oedd cyflog y Prif Weithredwr 6.4 gwaith cyflog gweithiwr Cyngor ar y cyflog isaf a chyflog cyfartalog prif swyddogion yn 4.4 gwaith cyflog gweithiwr ar y cyflog isaf.

·       Roedd cyflog y Prif Weithredwr 5 gwaith cyflog cyfartalog holl weithwyr y Cyngor ac roedd cyflog cyfartalog prif swyddogion 3.4 gwaith cyflog cyfartalog holl weithwyr y Cyngor.

·       Roedd gofyniad na allai unrhyw reolwr sector cyhoeddus ennill mwy nag 20 gwaith cyflog gweithiwr ar y cyflog isaf yn y sefydliad, felly roedd ffigurau Sir Ddinbych ymhell o fewn y terfyn hwnnw.

·       Roedd copi llawn o'r polisi ac Asesiad o Effaith ar Les wedi'u cynnwys yn y ddogfennaeth ar gyfer adroddiad heddiw.

 

Mewn ymateb i ymholiadau gan y Cynghorydd Martyn Hogg, eglurodd y HCSSP y dylai'r cyfeiriad at 'gyfartaledd canolrifol' ym mharagraff 7.3 o'r datganiad fod yn 'gyflog cyfartalog' ac y byddai'r ddogfen yn cael ei diweddaru. O ran sut roedd y perthnasoledd cyflogau yn cymharu â chynghorau eraill, adroddodd yr Aelod Arweiniol fod data o gynghorau eraill wedi'i ystyried, ac er nad oedd y data ganddi wrth law,  ...  view the full Cofnodion text for item 8.

9.

ADOLYGIAD BLYNYDDOL O'R CYDBWYSEDD GWLEIDYDDOL A PHENODI CADEIRYDDION CRAFFU pdf eicon PDF 214 KB

Ystyried adroddiad gan y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd (copi ynghlwm) ar gydbwysedd gwleidyddol a materion yn ymwneud â phwyllgorau.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd adroddiad ar yr Adolygiad Blynyddol o’r Cydbwysedd Gwleidyddol a Phenodi Cadeiryddion Craffu (dosbarthwyd ymlaen llaw).

 

Adroddodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd y pwyntiau canlynol:

 

·       Roedd yn ofynnol i’r Cyngor ystyried o leiaf yn flynyddol sut y mae aelodaeth ei bwyllgorau yn berthnasol i faint y grwpiau.

·       Roedd yr adroddiad yn cynnwys crynodeb o'r gofynion statudol sy'n cysylltu argaeledd seddi pwyllgor â maint y grwpiau gwleidyddol o fewn y cyngor.

·       Roedd yr adroddiad yn amlinellu sut oedd Cadeiryddion Craffu yn cael eu penodi gan y grwpiau gwleidyddol, a’r Grŵp Ceidwadol oedd i benderfynu pwy fyddai’n cymryd swydd wag Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Perfformiad.

·       Y newidiadau a fyddai'n cael eu gwneud i aelodaeth y pwyllgor o ganlyniad i ethol y Cynghorydd Arwel Roberts yn Gadeirydd y Cyngor oherwydd nad oedd Cadeirydd y Cyngor yn eistedd ar unrhyw un o'r pwyllgorau cyhoeddus.

·       Roedd systemau pwyllgorau a gwefan y Cyngor wedi cael eu diweddaru i adlewyrchu'r newidiadau diweddar i'r Cabinet a byddai fersiynau wedi'u diweddaru o'r atodiadau'n cael eu rhannu gydag arweinwyr y grwpiau gan ymgorffori'r holl newidiadau i aelodaeth y pwyllgorau.

 

PENDERFYNWYD bod y Cyngor yn nodi’r trefniadau cydbwysedd gwleidyddol i ddyrannu seddi pwyllgorau a bod Grŵp y Ceidwadwyr yn penodi i rôl Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Perfformiad.

 

 

10.

PENODI AELODAU LLEYG AR GYFER Y PWYLLGOR SAFONAU pdf eicon PDF 226 KB

Ystyried adroddiad gan Bennaeth Gwasanaethau Cymorth CorfforaetholPobl (copi ynghlwm) i benodi am un tymor yn y swydd, 2 Aelod Lleyg i Bwyllgor Safonau’r Cyngor.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Cymorth Corfforaethol – Pobl (HCSSP) adroddiad (dosbarthwyd ymlaen llaw) ar benodi dau aelod lleyg i'r Pwyllgor Safonau.

 

Adroddodd yr HCSSP bod Panel Penodiadau, a oedd yn cynnwys cyn Gadeirydd y Pwyllgor Safonau, Julia Hughes, Y Cynghorydd Sir Bobby Feeley, Y Cynghorydd Cymuned Gordon Hughes a’r Aelod Lleyg Noela Jones, wedi cyfweld ag ymgeiswyr posib ar gyfer y ddwy swydd aelod lleyg ar Bwyllgor Safonau’r Cyngor. Yn dilyn y broses gyfweld, cytunodd Panel Penodiadau’r Pwyllgor Safonau i gynnig y ddwy swydd aelod lleyg i Kate Robertson a Maggie Griffiths, yn amodol ar gymeradwyaeth y Cyngor Llawn.

 

Dywedwyd wrth y Cyngor, yn amodol ar ei gymeradwyaeth o'r penodiadau, y byddai'r aelodau lleyg newydd yn derbyn sesiwn sefydlu gan y Swyddog Monitro cyn mynychu eu Pwyllgor Safonau cyntaf ym mis Mehefin.

 

Datganodd y Cynghorydd Mark Young gysylltiad personol oherwydd ei fod yn adnabod un o'r ymgeiswyr o wneud gwaith gwirfoddol gyda'i gilydd.

 

PENDERFYNWYD bod y Cyngor yn penodi Kate Robertson a Maggie Griffiths yn aelodau lleyg o Bwyllgor Safonau’r Cyngor.

 

 

11.

RHYBUDD O GYNNIG pdf eicon PDF 265 KB

Ystried Rhybudd o Gynnig a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Hugh Evans.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Hugh Evans gynnig a ddosbarthwyd ymlaen llaw fel a ganlyn:

 

‘Mae Cyngor Sir Ddinbych yn galw ar y Prif Weinidog a Changhellor y Trysorlys i ailystyried a gwrthdroi’r penderfyniad maent wedi’i wneud yn ddiweddar ar drothwy’r Dreth Etifeddiant yn gysylltiedig â’r diwydiant amaeth. Bydd hwn yn cael effaith niweidiol ar nifer o ffermwyr, eu teuluoedd a’r genhedlaeth nesaf o ffermwyr ifainc’.

 

Rhoddodd y Cynghorydd Evans adroddiad am yr effeithiau sylweddol posibl ar y diwydiant amaethyddol a ffermwyr, yn lleol ac yn genedlaethol, a'r economi ehangach o ganlyniad i'r trothwy treth etifeddiant, gan gynnwys:

 

·       Roedd angen i'r dreth fod yn deg a chael ei chysylltu'n well ag elw.

·       Nid oedd gwerth tir yn cyfateb i'r incwm a gynhyrchir ohono trwy ffermio a byddai llawer o ffermwyr yn ei chael yn anodd talu'r dreth o'r incwm a gynhyrchir ganddynt. Dim ond ar ôl gwerthu'r tir y sylweddolir gwerth y tir.

·       Mae’n bosibl y bydd angen i nifer o ffermwyr werthu eu tir a allai eu harwain allan o fusnes yn y pen draw.

·       Dangosodd ffigurau’r llywodraeth fod 1 o bob 25 o ffermydd wedi rhoi’r gorau i ffermio yn ystod y 12 mis diwethaf oherwydd amgylchiadau eraill. Fodd bynnag, ers datganiad y Canghellor, mae astudiaeth a gynhaliwyd gan CBI Economics gyda 4,000 o ffermwyr wedi canfod fod 50% o ffermydd teuluol wedi rhoi'r gorau i fuddsoddi yn eu ffermydd a bod 43% yn bwriadu rhoi'r gorau iddi erbyn 2026 er mwyn osgoi trethi cynyddol o ganlyniad i werth cynyddol y ffermydd.

·       Nid oedd Trysorlys y DU wedi cynnal asesiad o effaith y dreth ar ein hardaloedd gwledig.

·       Credai'r Trysorlys y byddai'r dreth yn effeithio ar tua 500 o ystadau mawr, ond amcangyfrifodd yr undebau amaethyddol a Chymdeithas Tir a Busnesau Gwledig y byddai'n effeithio ar rhwng 50% a 75% o ffermwyr.

·       Y lefel gymharol isel o incwm y byddai'r dreth yn ei gynhyrchu.

·       Ni fyddai'r dreth arfaethedig yn atal sefydliadau ariannol mawr rhag meddiannu tir fferm at ddibenion nad ydynt yn ymwneud â ffermio h.y. nid at ddibenion amgylcheddol na chynhyrchu bwyd.

·       Byddai'r rhwymedigaethau y mae'r genhedlaeth nesaf o ffermwyr yn eu hwynebu ac ymlediad defnyddio tir fferm at ddibenion eraill yn peryglu diogelwch bwyd.

·       Mae’r gymuned ffermio yng Nghymru yn chwarae rhan bwysig iawn yng ngoroesiad y Gymraeg. Gallai niweidio’r gymuned ffermio hefyd niweidio’r Gymraeg.

·       Nid oedd llawer o denantiaethau bellach yn cael eu hadnewyddu oherwydd ofnau tirfeddianwyr ynghylch y goblygiadau treth.

·       Cafodd y cynigion effaith andwyol ar ffermwyr oedrannus a phroblemau iechyd meddwl yn y gymuned ffermio.

·       I lawer o ffermwyr nid oedd unrhyw opsiynau realistig ar gyfer arallgyfeirio incwm fferm na chodi prisiau cynnyrch, gyda chig eidion a defaid yn brif gynhaliaeth i’r gymuned ffermio leol.

 

Yn absenoldeb yr Aelod Arweiniol, y Cynghorydd Emrys Wynne, ymatebodd Arweinydd y Cyngor i'r cynnig. Nododd y Cynghorydd McLellan bod hwn yn fater lle gallai ymateb y Cynghorydd Wynne fod wedi bod yn wahanol i'w ymateb ef ei hun.

 

Roedd ymateb y Cynghorydd McLellan yn cynnwys y materion canlynol:

 

·       Byddai’n ddefnyddiol gwybod faint o ffermydd y byddai hyn yn effeithio arnynt yn Sir Ddinbych.

·       Roedd y dreth newydd yn cynnig trothwy llawer uwch na threth etifeddiant gyffredin ac roedd y taliadau'n llawer is hefyd.

·       Roedd y newidiadau'n cynnwys eithriadau priodasol, rhyddhad lleihau treth dros 7 mlynedd a'r gallu i'r rhai sy'n etifeddu dalu'r dreth dros gyfnod o ddeng mlynedd yn ddi-log.

·       Roedd diwygiadau'r Llywodraeth i ryddhad eiddo amaethyddol a busnes yn golygu y gallai un unigolyn â thir fferm drosglwyddo hyd at £1 miliwn a gallai dau unigolyn a oedd yn berchen ar fferm ar y cyd drosglwyddo hyd at  ...  view the full Cofnodion text for item 11.

12.

RHAGLEN WAITH Y CYNGOR SIR pdf eicon PDF 615 KB

Ystyried Rhaglen Waith y Cyngor a Rhaglen Waith Gweithdy’r Cyngor (copi ynghlwm).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyfeiriodd y Swyddog Monitro at raglenni gwaith y Cyngor a Gweithdai’r Cyngor (dosbarthwyd ymlaen llaw) ac atgoffodd yr aelodau fod gweithdy ychwanegol yn cael ei geisio mewn perthynas â Hamdden Sir Ddinbych Cyfyngedig.