Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: SIAMBR Y CYNGOR, NEUADD Y SIR, RHUTHUN LL15 1YN DRWY GYNHADLEDD FIDEO

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd Jeanette Chamberlain-Jones.

 

 

2.

DATGANIADAU O GYSYLLTIAD pdf eicon PDF 199 KB

Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu ragfarnus mewn unrhyw fusnes a nodwyd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

 

 

3.

RHYBUDD O GYNNIG pdf eicon PDF 205 KB

Ystyried Rhybudd o Gynnig (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts y Rhybudd o Gynnig - Cynnig i ddiswyddo Arweinydd y Cyngor a’r Cabinet a gyflwynwyd gan y Cynghorwyr Huw Hilditch-Roberts, Pauline Edwards, Geraint Lloyd-Williams, Paul Keddie, Merfyn Parry, Andrea Tomlin, Hugh Evans, Bobby Feeley, Huw Williams, Karen Edwards a Chris Evans.

 

‘Dymunwn ddwyn cynnig gerbron i ddiswyddo’r Arweinydd, y Cynghorydd Jason McLellan a’i Gabinet.  Mae digwyddiadau diweddar yn ymwneud ag arweinyddiaeth y cyngor wedi codi pryderon difrifol am eu heffeithiolrwydd.  Mae gweithrediad trychinebus ac aneffeithlon y system ailgylchu gwastraff newydd, ynghyd â'r diffyg eglurder ac atebolrwydd a amlygwyd mewn papur briffio diweddar, wedi arwain at golled hyder yn llwyr ymhlith trigolion.

 

Yn fwy na hynny, mae sgil-effeithiau'r system newydd hon wedi rhoi straen sylweddol ar adrannau eraill o fewn Cyngor Sir Ddinbych, wrth i adnoddau staff gael eu dargyfeirio i fynd i'r afael â methiannau'r fenter ailgylchu.  Mae'r dargyfeiriad hwn wedi arwain at gynnydd amlwg mewn costau gweithredu, sydd yn ei dro wedi cael effaith negyddol ar wasanaethau rheng flaen sy'n hanfodol i'r gymuned.

 

Mae diffyg strategaeth ac arweiniad effeithiol wedi achosi cryn her i drigolion ledled y sir, ac mae'r goblygiadau ariannol i'r awdurdod wedi bod yn aruthrol.  Nid yw bellach yn gynaliadwy i gynnal y dull hwn, a rhaid rhoi’r flaenoriaeth i les trigolion Sir Ddinbych.  Felly, fel aelodau o’r grŵp annibynnol, galwn yn gryf ar yr Arweinydd a’i Gabinet i ymddiswyddo.’

 

Eglurodd y Cynghorydd Hilditch-Roberts nad oedd y cynnig yn bersonol a’i gyflwyno oedd un o’r penderfyniadau anoddaf yr oedd yr aelodau a enwyd uchod wedi ei wneud. Dywedodd mai’r bwriad oedd codi pryderon trigolion am faterion a oedd yn effeithio ar y Sir gyfan. Dywedodd y Cynghorydd Hilditch-Roberts bod yr holl gynghorwyr wedi derbyn cwynion a bod pobl ddiamddiffyn yn ei chael hi’n anodd. Felly, roedd y cynnig wedi cael ei gyflwyno i drafod perfformiad y Cyngor. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Hilditch-Roberts bod y cysyniad o’r system casglu gwastraff newydd wedi cael ei gyflwyno yn ystod y Cabinet blaenorol ond bod gwahaniaeth rhwng cysyniad a gweithrediad ac nid oedd gweithrediad y casgliadau gwastraff newydd yn gweithio. Mynegodd ei bryderon bod Sir Ddinbych yn dod yn awdurdod dan arweiniad swyddogion ac roedd yn credu bod hyn yn amlwg o’r ymateb i gwestiynau mewn sesiwn friffio ddiweddar i aelodau ar y drefn newydd ar gyfer casglu gwastraff.

 

Amlygodd y Cynghorydd Hilditch-Roberts:

 

·       Adroddwyd lefelau hyder budd-ddeiliaid gostyngedig neu isel i’r Cyngor ym mis Gorffennaf 2024 mewn perthynas ag economi, isadeiledd cludiant a threftadaeth ddiwylliannol Sir Ddinbych.

·       Ymagwedd y Cabinet presennol tuag at fuddsoddi mewn adeiladau ysgol newydd, gostyngiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg yn y sir ac yn y cyngor a’r penderfyniad diweddar i gau swyddfeydd Caledfryn, a disgrifiodd y Cynghorydd Hilditch-Roberts y rhain fel swyddfeydd mwyaf eco-gyfeillgar y Cyngor.

·       Roedd nifer y tai cyngor newydd a adeiladwyd yn ystod y weinyddiaeth hon yn siomedig.

·       Roedd cyllideb y Cyngor wedi cael ei phasio er nad oedd yr arbedion o £3 miliwn a oedd eu hangen i gydbwyso’r gyllideb wedi cael eu cadarnhau ar adeg pasio’r gyllideb. 

·       Problemau yn ymwneud â Marchnad y Frenhines yn Y Rhyl a oedd yn wag ar hyn o bryd a heb unrhyw drefniadau rheoli i redeg yr adeilad. Dywedodd y Cynghorydd Hilditch-Roberts y dylai bod y Cabinet wedi ymgysylltu â darparwr gwasanaethau hamdden y Cyngor, Hamdden Sir Ddinbych Cyf, i reoli Marchnad y Frenhines.

·       Pryderon eang ynglŷn â lleihau oriau agor llyfrgelloedd ac adroddodd gyfathrebu gwael gydag aelodau ar gynigion i gau toiledau cyhoeddus.

·       Oedi o ran caniatâd cynllunio a oedd yn oedi twf economaidd Sir Ddinbych.

·     Cynnydd yn nhreth y cyngor.

·     Costau cynyddol y system casglu gwastraff,  ...  view the full Cofnodion text for item 3.

4.

PENODI IS-GADEIRYDD pdf eicon PDF 210 KB

Penodi Is-Gadeirydd y Cyngor am weddill blwyddyn ddinesig 2024/2025.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gofynnodd y Cynghorydd Peter Scott am enwebiadau ar gyfer penodi Is-gadeirydd newydd i’r Cyngor ar gyfer gweddill blwyddyn ddinesig 2024-2025.

 

Cafodd y Cynghorydd Arwel Roberts ei enwebu gan y Cynghorydd Rhys Thomas, ac fe eiliwyd yr enwebiad gan gyn Is-gadeirydd y Cyngor, y Cynghorydd Diane King.

 

Ni chafwyd rhagor o enwebiadau.

 

Cadarnhaodd yr holl aelodau a oedd yn bresennol eu cytundeb i benodi’r Cynghorydd Arwel Roberts a datganodd ei fod yn derbyn swydd yr Is-gadeirydd.

 

PENDERFYNWYD penodi’r Cynghorydd Arwel Roberts yn Is-gadeirydd Cyngor Sir Ddinbych ar gyfer gweddill blwyddyn ddinesig 2024-2025.

 

 

5.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol ag Adran 100B(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw faterion brys.

 

Cwestiwn a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Terry Mendies – 

 

“Pam nad yw Rhybudd Gorfodi a gyhoeddwyd ar gyfer Eiddo yn Llandegla ar 7 Medi 2020 wedi’i orfodi, er bod pedair blynedd ers hynny dridiau yn ôl.”

 

Ymatebodd y Cynghorydd Alan James, Aelod Arweiniol Datblygu Lleol a Chynllunio fel a ganlyn:

 

“Mae’r achos hwn wedi bod yn sefyllfa gyfreithiol gymhleth.  Cyflwynodd y Swyddogion Rybudd Gorfodi Cynllunio.  Ni chydymffurfiwyd â’r Rhybudd, felly, penderfynodd y cyngor ymgymryd â’r gwaith yn ddiofyn i geisio cydymffurfiaeth â’r Rhybudd.  Cwblhawyd y gwaith, ac mae’r safle wedi dychwelyd i’w gyflwr blaenorol.  Cyflwynodd y Swyddogion gais llwyddiannus am Waharddeb Llys i sicrhau na fydd unrhyw newidiadau diawdurdod yn cael eu gwneud ar y tir eto.   Hefyd, llwyddodd y Swyddogion i erlyn y tirfeddiannwr a sicrhau dirwy.

 

Yn fy marn i, y prif bwynt yma yw bod y safle wedi cael ei adfer, ac felly mae’r effaith niweidiol ar amwynder y cyhoedd ei unioni.”

 

Dywedodd y Cynghorydd Terry Mendies ei fod yn fodlon gyda’r ymateb i’w gwestiwn.

 

 

6.

COFNODION pdf eicon PDF 411 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Cyngor Sir a gynhaliwyd ar 9 Gorffennaf 2024 (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cyngor Llawn a gynhaliwyd ar 9 Gorffennaf 2024.

 

Materion yn Codi

 

Tudalen 19 - Penodi Cyfarwyddwr Hamdden Sir Ddinbych Cyf - Mynegodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts ei bryderon ynglŷn â’r pwysau gwaith trwm ar y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Yr Amgylchedd a’r Economi a gofynnodd bod y sylw hwn yn cael ei gynnwys yn y cofnodion.

 

Tudalen 14 - Eitem 4 yn y Cofnodion - Dywedodd y Cynghorydd Julie Matthews nad oedd wedi dosbarthu’r ymateb a anfonwyd i Mr Gonzalez i’r cynghorwyr ond byddai’n gwneud hynny ar ôl y cyfarfod.

 

PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, cadarnhau cofnodion cyfarfod y Cyngor Llawn a gynhaliwyd ar 9 Gorffennaf 2024 fel cofnod cywir.

 

 

7.

PENODI CYFARWYDDWR HAMDDEN SIR DDINBYCH CYFYNGEDIG pdf eicon PDF 215 KB

Ystyried adroddiad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Llywodraethu a Busnes (copi ynghlwm) ar benodi Cyfarwyddwr i Fwrdd Cyfarwyddwyr Hamdden Sir Dinbych Cyf.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Llywodraethu a Busnes adroddiad Penodi Cyfarwyddwr Hamdden Sir Ddinbych Cyfyngedig (wedi’i ddosbarthu ymlaen llaw). Cadarnhaodd fod cyfarwyddwr y bwrdd wedi cael ei benodi yng nghyfarfod diwethaf y bwrdd ar gyfer swydd wag aelod o’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol fod swydd wag arall ar Fwrdd Hamdden Sir Ddinbych Cyf., ond y tro hwn ar gyfer cynghorydd mainc gefn oherwydd bod y deiliad blaenorol, y Cynghorydd Diane King, wedi cael ei phenodi i’r Cabinet ac wedi cymryd sedd Aelod Cabinet ar y bwrdd.

 

Enwebodd y Cynghorydd Merfyn Parry y Cynghorydd Paul Keddie, ac fe eiliodd y Cynghorydd Karen Edwards.

 

Enwebodd y Cynghorydd Diane King y Cynghorydd James May, ac fe eiliodd y Cynghorydd Gareth Sandilands.

 

Cafwyd pleidlais drwy godi dwylo ac roedd y canlyniad fel a ganlyn - 

 

O blaid y Cynghorydd Paul Keddie – 19

O blaid y Cynghorydd James May - 17

 

PENDERFYNWYD bod y Cyngor yn penodi’r Cynghorydd Paul Keddie i fod yn aelod etholedig nad yw’n aelod o’r Cabinet Cyfarwyddwr Hamdden Sir Ddinbych Cyfyngedig.

 

 

8.

RHAGLEN WAITH Y CYNGOR SIR pdf eicon PDF 232 KB

Ystyried Rhaglen Waith y Cyngor a Rhaglen Waith Gweithdy’r Cyngor (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd yr adroddiad Polisi’r Cyngor ar Hyfforddiant Aelodau (dosbarthwyd ymlaen llaw) ac fe arweiniodd yr aelodau drwy’r adroddiad.

 

Dechreuodd rhaglen o ymsefydlu, hyfforddiant a datblygu i aelodau yn syth ar ôl etholiadau’r Cyngor ym mis Mai 2022.  Roedd y sesiynau a gyflwynwyd i ddechrau wedi canolbwyntio ar sefydlu aelodau newydd a’r rhai oedd yn dychwelyd, yn cynnwys hyfforddiant ar God Ymddygiad y Cyngor, darpariaeth TGCh Aelodau, ymgyfarwyddo â gwasanaethau, cydraddoldeb ac amrywiaeth, diogelu a chyflwyniad i Graffu. Roedd y Cyngor yn parhau i ddarparu cyfleoedd hyfforddiant a datblygu i aelodau ar sail barhaus.

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd fod arolwg wedi cael ei gynnal rhwng mis Chwefror a mis Mawrth 2024, a oedd yn agored i gynghorwyr, uwch swyddogion ac aelodau lleyg ac roedd y canlyniadau i’w gweld yn Atodiad 2 i’r adroddiad. Hysbysodd yr aelodau ynglŷn â chynnwys fersiwn arfaethedig polisi’r cyngor ar hyfforddiant aelodau a oedd yn atodiad 1 i’r adroddiad.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Bobby Feeley, cadarnhawyd bod swyddogion yn rhoi o’u hamser i gyflwyno hyfforddiant i aelodau, oherwydd swyddogion a oedd fel arfer yn darparu hyfforddiant ar eu meysydd gwasanaeth i aelodau. Lle’r oedd hwyluso’n allanol yn cael ei ffafrio neu’n angenrheidiol, roedd yn aml yn cael ei ddarparu’n rhad ac am ddim i’r Cyngor, yn enwedig gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Yn achlysurol, roedd yn rhaid i’r Cyngor brynu darpariaeth hyfforddiant allanol i mewn yn defnyddio cyllideb hyfforddiant aelodau fach a oedd yn cael ei hariannu’n gorfforaethol. Roedd yn cael ei rheoli’n ofalus ac fel arfer yn tanwario. Pleidleisiodd yr Aelodau’n unfrydol i fabwysiadu’r polisi.

 

PENDERFYNWYD bod y Cyngor yn mabwysiadu fersiwn ddrafft Polisi’r Cyngor ar Hyfforddiant Aelodau, sydd wedi ei hatodi yn atodiad 1 yr adroddiad.

 

 

9.

RHYBUDD O GYNNIG pdf eicon PDF 389 KB

Ystyried Hysbysiad o Gynnig gan Grŵp Plaid Cymru (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Delyth Jones y Rhybudd o Gynnig canlynol:

 

‘Gyda’r galw am wasanaethau’r gwasanaeth cymdeithasol plant a phobl ifanc yn cynyddu ar raddfa nas gwelid yn flaenorol yn ein Sir, a’r pwysau aruthrol mae hyn yn ei osod ar ein cyllideb fel Cyngor.   Cynigiwn fel aelodau Grŵp Plaid Cymru ein bod yn ysgrifennu at yr holl aelodau seneddol sy’n cynrychioli ein sir yn San Steffan ar y mater.  Cynigiwn ein bod yn gofyn i’r aelodau perthnasol hynny i ail edrych ar eu safbwynt ar fater uchafswm budd-daliadau dau blentyn, a chefnogi’r angen i’w ddiddymu.  Trwy hyn i ddangos eu cefnogaeth i deuluoedd mwyaf bregus Sir Ddinbych yn ogystal â chynorthwyo i ostwng y galw ar ein gwasanaethau cymdeithasol yn lleol.’

 

Siaradodd y Cynghorydd Jones o blaid y cynnig, ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Julie Matthews. Cefnogwyd y cynnig gyda datganiadau gan y Cynghorydd Matthews a’r Cynghorydd Rhys Thomas, yn cynnwys cyfeiriadau at gyfraniad yr uchafswm budd-daliadau dau blentyn at dlodi plant a theuluoedd, a oedd yn bryder penodol yn y sir oherwydd bod rhai ardaloedd yn Sir Ddinbych ymysg y rhai â’r lefelau uchaf o amddifadedd yng Nghymru, y galw yr oedd tlodi teuluoedd yn ei roi ar wasanaethau cymdeithasol y Cyngor a’r effeithiau negyddol y gallai’r uchafswm budd-daliadau eu cael o ran ceisio neu symud i gyflogaeth tâl uwch. Pleidleisiodd yr Aelodau’n unfrydol o blaid y cynnig.

 

PENDERFYNWYD bod y Cyngor yn cymeradwyo’r cynnig a bod llythyr yn cael ei anfon at aelodau Senedd y DU sy’n cynrychioli etholwyr Sir Ddinbych yn eu hannog i gefnogi diddymu’r uchafswm budd-daliadau dau blentyn.

 

 

10.

RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL Y CYNGOR SIR pdf eicon PDF 640 KB

Ystried rhaglen waith i’r dyfodol y Cyngor (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Llywodraethu a Busnes, gyflwyniad a chrynodeb o sefyllfa ddiweddaraf Rhaglen Waith y Cyngor a Rhaglen Waith Gweithdai’r Cyngor.

 

PENDERFYNWYD nodi Rhaglen Waith y Cyngor a Rhaglen Waith Gweithdai’r Cyngor.

 

 

DAETH Y CYFARFOD I BEN AM 1.35 P.M.