Agenda and draft minutes
Lleoliad: Council Chamber, County Hall, Ruthin LL15 1YN via Video Conference
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriadau
am absenoldeb gan y Cynghorwyr Joan Butterfield, Delyth Jones a Raj Metri. |
|
DATGANIADAU O FUDDIANT PDF 199 KB Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu ragfarnus mewn unrhyw fusnes a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol ag Adran 100B(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol, 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim materion
brys. |
|
Yn y fan hon, bu
i’r Arweinydd, y Cynghorydd Jason McLellan, longyfarch y Cynghorydd Gill German
ar gael ei hethol yn AS yn yr etholiad cyffredinol diweddar. Fe wnaeth y
Cynghorydd McLellan hefyd longyfarch y Cynghorydd Martyn Hogg ar ei ymgyrch yn
yr etholiad cyffredinol. Bu iddo hefyd
longyfarch y pedwar AS a fu’n llwyddiannus yn yr etholiad cyffredinol ar gyfer
Gogledd Clwyd, Dwyrain Clwyd, Bangor Aberconwy a Dwyfor Meirionnydd. Fe wnaeth y Cynghorydd
Kelly Clewett longyfarch y Cynghorydd Gill German a dymuno’n dda iddi yn ei
swydd fel AS Gogledd Clwyd. |
|
Derbyn cofnodion cyfarfod y Cyngor Sir a gynhaliwyd ar 14 Mai 2024 (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion y Cyngor Llawn a gynhaliwyd ar 14 Mai. Tudalen 11 – Gofynnodd y Cynghorydd Jon Harland a oedd ymateb ysgrifenedig wedi’i anfon at Mr Gonzalez, a oedd wedi cyflwyno cwestiwn yn y cyfarfod. Cadarnhaodd y Cynghorydd Julie Matthews ei bod wedi anfon ymateb
ysgrifenedig ac y byddai’n rhannu’r llythyr gyda’r Cynghorwyr. Cadarnhaodd y Swyddog Monitro fod polisi ynglŷn â pha faneri oedd
yn chwifio ac ar ba ddiwrnodau roedd gwahanol faneri’n chwifio. Roedd darpariaeth yn y Cyfansoddiad i’r
Cyngor wyro oddi wrth y polisi wrth ymgynghori â’r Prif Weithredwr a’r
Arweinydd, ond y cyngor fel arfer oedd peidio â gwyro oddi wrth y polisi. PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, cadarnhau
cofnodion cyfarfod y Cyngor Llawn a gynhaliwyd ar 14 Mai 2024 fel cofnod cywir. |
|
Ystyried adroddiad gan y Rheolwr Rhaglen Newid Hinsawdd Dros Dro (copi ynghlwm) i'w fabwysiadu gan y Cyngor. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, y Cynghorydd Barry Mellor, adroddiad
Strategaeth Hinsawdd a Natur Cyngor Sir Ddinbych (2021/22–2029/30) – Adolygiad
ac Adnewyddiad Blwyddyn 3 (wedi’i ddosbarthu ymlaen llaw). Diolchodd y
Cynghorydd Mellor i'r Cabinet am gefnogaeth unfrydol yr holl ffordd drwy waith
caled yr adolygiad o'r Strategaeth yr oedd angen ei wneud bob tair
blynedd. Roedd grŵp trawsbleidiol
wedi'i ffurfio a diolchodd y Cynghorydd Mellor i holl aelodau'r grŵp am eu
cyfraniad. Diolchodd yn arbennig i ddau
aelod y Blaid Werdd am eu mewnbwn. Manteisiodd y
Cynghorydd Mellor ar y cyfle hefyd i groesawu Jane Hodgson, y Rheolwr Newid
Hinsawdd, yn ôl i Gyngor Sir Ddinbych. Roedd y Cyngor
wedi datgan Argyfwng Newid Hinsawdd a Newid Ecolegol ym mis Gorffennaf 2019,
gan ymrwymo i fod yn Gyngor Sero Net erbyn 2030 fan bellaf a gwella
bioamrywiaeth ar draws y Sir. Mabwysiadwyd y
Strategaeth ar Newid Hinsawdd a Newid Ecolegol (2021/22–2029/30) ym mis
Chwefror 2021. Yn ogystal â bod yn Sero
Net erbyn 2030, roedd y Cyngor i leihau’r allyriadau carbon o’r nwyddau a’r
gwasanaethau oedd yn cael eu prynu (cadwyn gyflenwi’r Cyngor) o 35% erbyn
2030. Fe wnaeth y Cyngor hefyd newid y
Cyfansoddiad ym mis Hydref 2020 fel bod rhaid i bob penderfyniad gan y Cyngor
roi ystyriaeth i fynd i’r afael â newid hinsawdd a newid ecolegol. Roedd y
Strategaeth i gael ei hadolygu a’i hadnewyddu bob tair blynedd. Adolygiad ac
adnewyddiad swyddogol cyntaf y Strategaeth oedd yr un yn 2023/24 ac roedd
proses drylwyr wedi’i chwblhau yn rhan o’r adolygiad a’r adnewyddiad hwnnw. Fe wnaeth y
Cyfarwyddwr Corfforaethol – Llywodraethu a Busnes ac Uwch Berchennog Cyfrifol y
Rhaglen Newid Hinsawdd a Newid Ecolegol, Gary Williams, hefyd ddiolch i Reolwr
Dros Dro’r Rhaglen Newid Hinsawdd, Liz Willcox-Jones,
yr holl swyddogion a’r Grŵp Trawsbleidiol am eu gwaith ar yr adolygiad a’r
adnewyddiad. Roedd y
gweithgarwch a oedd wedi’i wneud yn rhan o’r adolygiad a’r adnewyddiad i’w weld
yn Atodiad 3 i’r adroddiad. Roedd y prif
feysydd yn y Strategaeth a adolygwyd ac a ddiweddarwyd yn cynnwys –
Ø Lleihau allyriadau a chynyddu amsugniad ar
draws Sir Ddinbych Ø Datblygu ein gwytnwch ar draws y sir, ac Ø Adfer natur ar draws Sir Ddinbych.
Roedd
ymgynghoriad cyhoeddus ar-lein wedi’i gynnal rhwng 25 Mawrth a 20 Mai. Cafwyd 336 o ymatebion ac roedd 88% o’r
preswylwyr a oedd wedi ymateb yn cytuno y dylai’r Cyngor fabwysiadu’r ddogfen
oedd wedi’i hadolygu fel ei Strategaeth. Er mwyn galluogi
i’r ddogfen sylweddol gael ei deall yn haws, roedd crynodeb gweithredol o’r
Strategaeth wedi’i lunio ynghyd â fersiwn i bobl ifanc. Dywedodd y
Cynghorydd Martyn Hogg fod y broses a’r lefel o ymgysylltu wedi bod yn
dda. Byddai cyrraedd statws sero net yn
anodd a byddai angen i bawb wneud mwy. Dywedodd yr Aelodau y byddai cyrraedd statws sero net erbyn 2030 yn her ac yn anfforddiadwy. Codwyd y cwestiwn pam nad 2050 oedd y dyddiad, a fyddai’n ymarferol, a dyna oedd y dyddiad roedd Llywodraeth Cymru’n gweithio tuag ato. Fe wnaeth Pennaeth y Gwasanaeth Cymorth Corfforaethol: Perfformiad, Digidol ac Asedau gadarnhau nad oedd uchelgais LlC wedi newid ac mai Cymru sero net erbyn 2050 oedd y targed wedi bod erioed, ond roedd targedau wedi bod ar gyfer y sector cyhoeddus erbyn 2040. Cadarnhawyd y byddai’r uchelgais o 2030 ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
HUNANASESIAD PERFFORMIAD Y CYNGOR 2023/24 PDF 393 KB Ystyried adroddiad gan y Swyddog Cynllunio Strategol a Pherfformiad (copi ynghlwm) i ddarparu dadansoddiad diwedd blwyddyn o gynnydd a heriau gyda'n hamcanion perfformiad allweddol. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod Arweiniol
Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol, y Cynghorydd Gwyneth Ellis, adroddiad
ar Hunanasesiad y Cyngor o’i Berfformiad 2023/24 (wedi’i ddosbarthu ymlaen
llaw). Yn y fan hon,
diolchodd y Cynghorydd Ellis i Bennaeth y Gwasanaeth Cymorth Corfforaethol:
Perfformiad, Digidol ac Asedau, Helen Vaughan-Evans, Iolo McGregor
a oedd wedi gadael yr awdurdod lleol yn ddiweddar, a’r tîm am eu holl waith
caled. Roedd yr
adroddiad yn cynnwys Hunanasesiad y Cyngor o’i Berfformiad ar gyfer 2023/24,
gan ddarparu’r dadansoddiad diwedd blwyddyn o gynnydd a heriau gyda’r amcanion
perfformiad allweddol, h.y. themâu ein Cynllun Corfforaethol. Roedd perfformiad
yn cael ei fonitro’n rheolaidd, ac adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor
Craffu a’r Cabinet bob chwe mis. Roedd Atodiad 1
yn cyflwyno’r Crynodeb Gweithredol oedd yn ceisio nodi uchafbwyntiau
perfformiad y Cyngor o gymharu â’r amcanion (h.y. themâu’r Cynllun
Corfforaethol, sef yr amcanion Lles a Chydraddoldeb hefyd) a’r saith maes
llywodraethu oedd wedi’u cynnwys yn Neddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau
(Cymru) 2021. Atodiad 2 oedd yr
adroddiad Diweddariad ar Berfformiad chwarterol, sef y broses i hunanasesu’n
barhaus, ac roedd yn cynnwys yr holl dystiolaeth a dadansoddiadau. Roedd yr atodiad hwn yn cyflwyno’r wybodaeth
ddiweddaraf ar gyfer y cyfnod o fis Hydref 2023 tan fis Mawrth 2024 a hwn oedd
yr adroddiad perfformiad cyntaf o’r Cynllun Corfforaethol ar ôl ei
adolygu. Yr adroddiad
Diweddariad ar Berfformiad ynghyd â´r Crynodeb Gweithredol a’r ddau adroddiad
Diweddariad cyn hynny oedd yn ffurfio’r hunanasesiad ar gyfer 2023/24. Roedd Atodiad 3
yn crynhoi’r camau gweithredu oedd yn deillio o’r holl Heriau Perfformiad
Gwasanaethau a fu yn ystod y flwyddyn. Roedd Atodiad 4 –
Cwmpas: Asesiad Perfformiad Panel 2024, yn amlinellu’r mesuryddion y cytunwyd
arnynt ar gyfer Asesiad Perfformiad Panel CSDd, i’w
gynnal rhwng 9 Medi a 12 Medi 2024 (i’w gadarnhau ar ôl penodi’r Panel). Wedi’i hwyluso gan Gymdeithas Llywodraeth
Leol Cymru, roedd y trefniadau hyn yn cydymffurfio â dyletswydd y Cyngor i
drefnu asesiad perfformiad panel o dan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau
(Cymru) 2021. Roedd chwe
gwelliant wedi’u nodi yn Hunanasesiad Perfformiad 2023/24 – (i)
Rhoi
diweddariad ar y rhesymau dros y perfformiad gwael mewn perthynas â chanran y
ffyrdd a phalmentydd wedi’u difrodi a wnaed yn ddiogel o fewn y cyfnod targed. (ii)
Y
Strategaeth Economaidd newydd i ystyried arlwy ddiwylliannol y sir a sut roedd
yn cyfrannu at ganlyniadau economaidd a lles ehangach. (iii)
Ar ôl
cytuno ac er mwyn i’r Cyngor allu canolbwyntio ar ddatblygu’r Cynllun Cludiant
Rhanbarthol, dwyn prosiect y Cynllun Cludiant Cynaliadwy i ben a diwygio’r
ymrwymiad yn y Cynllun Corfforaethol. (iv)
Ystyried
yr ymatebion i Arolwg Budd-ddeiliaid 2023–2024. (v)
Ystyried
canfyddiadau ac argymhellion Gwiriwr Taith Ffyrdd Newydd o Weithio Comisiynydd
Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. (vi)
Yng
nghyd-destun y sefyllfa ariannol anodd oedd ohoni, adolygu ymrwymiadau a
disgwyliadau perfformiad y Cynllun Corfforaethol yn barhaus. PENDERFYNWYD – (i)
Bod y Cyngor Sir yn cymeradwyo Hunanasesiad Perfformiad 2023–24; (ii)
Bod y Cyngor Sir yn cymeradwyo’r Cwmpas drafft ar gyfer yr Asesiad
Perfformiad Panel (Atodiad 4). |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL PWYLLGOR CRAFFU Y CYNGOR PDF 233 KB Ystyried adroddiad gan y Cydlynwyr Sgriwtini (copi ynghlwm) i'r Cyngor ystyried Adroddiad Blynyddol y Pwyllgorau Sgriwtini 2023/24. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd Hugh Irving Adroddiad Blynyddol Pwyllgorau Craffu’r Cyngor ar gyfer
2023/24 (wedi’i ddosbarthu ymlaen llaw). Cyflwynwyd yr
adroddiad i’r Cyngor Sir er mwyn cydymffurfio ag Adran 7.4.4 yng Nghyfansoddiad
y Cyngor, a nodai fod rhaid i Bwyllgorau Craffu’r Awdurdod adrodd am eu gwaith
yn flynyddol i’r Cyngor Llawn a gwneud argymhellion ar gyfer eu rhaglenni
gwaith at y dyfodol ac ar gyfer newidiadau i ddulliau gweithio os oedd angen. Roedd yr
adroddiad yn nodi’r gwaith craffu a wnaed cyn ac ar ôl penderfyniadau, ynghyd â
gwaith monitro perfformiad, rheoli risg ac archwilio trefniadau gweithio mewn
partneriaeth. Bwriad hyn oll oedd darparu gwasanaethau o safon mewn
ffordd effeithlon er budd trigolion lleol, busnesau a chymunedau’r sir. Roedd nifer o
geisiadau craffu wedi dod i law yn ystod y flwyddyn o wahanol
ffynonellau. Bu gostyngiad yn nifer y ceisiadau gan aelodau etholedig y
llynedd, ond roedd y niferoedd wedi cynyddu ers dechrau blwyddyn newydd y
Cyngor, a oedd yn galonogol. Gofynnwyd i’r
aelodau annog preswylwyr i gyflwyno ceisiadau ar gyfer eitemau oedd yn peri
pryder iddynt er mwyn gallu craffu ar y materion hynny. Roedd modd gwneud cynigion am feysydd oedd yn
peri pryder i Gynghorwyr fel eu cynrychiolwyr, neu’n uniongyrchol i swyddogion
ar y ffurflen gynigion ‘bapur’ oedd yn yr adroddiad, neu’n electronig drwy’r
wefan. Roedd wedi bod yn
gyfnod heriol ac roedd ymwybyddiaeth fod gwasanaethau cyhoeddus yn wynebu
penderfyniadau anodd wrth geisio ariannu sut roedd gwasanaethau hanfodol yn
cael eu darparu. Gyda’r bwriad o gefnogi’r Cyngor i ymgymryd â’r gwaith
hwn, byddai’r Pwyllgorau Craffu, hyd y gellir rhagweld, yn canolbwyntio cyfran
eithaf sylweddol o’u hamser i waith ar osod a monitro’r gyllideb, yn ogystal ag
archwilio’r cynigion a fyddai’n ffurfio rhan o Raglen Drawsnewid y Cyngor. Roedd yr
adroddiad ar ffurf drafft ar hyn o bryd, ond ar ôl ei gymeradwyo, byddai wedyn
yn cael ei gyfieithu ac yn cael ei gyhoeddi ar wefan y Cyngor. Yn y fan hon,
diolchodd yr aelodau i’r Cydlynwyr Craffu, Rhian Evans a Karen Evans, am eu
holl gefnogaeth a’u gwaith caled. Yn dilyn
pleidlais trwy godi dwylo, cytunwyd yn unfrydol i gymeradwyo’r adroddiad. PENDERFYNWYD bod y Cyngor, ar ôl ystyried Adroddiad Blynyddol y
Pwyllgorau Craffu ar gyfer 2023/24, yn cymeradwyo ei gyhoeddi. |
|
AMSERLEN PWYLLGOR 2025 PDF 210 KB Ystyried adroddiad gan y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd ac Uwch Weinyddwr y Pwyllgor (copi ynghlwm) i gymeradwyo amserlen Pwyllgor ar gyfer 2025. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd
Pennaeth y Gwasanaeth Cymorth Corfforaethol:
Pobl, Catrin Roberts, adroddiad Amserlen Pwyllgorau 2025 (wedi’i
dosbarthu ymlaen llaw). Roedd angen i'r
Cyngor gymeradwyo amserlen ar gyfer 2025 er mwyn gallu cadarnhau trefniadau ac
adnoddau cyfarfodydd, cyhoeddi’r amserlen a llenwi dyddiaduron yr aelodau. Manteisiodd
Pennaeth y Gwasanaeth Cymorth Corfforaethol: Pobl ar y cyfle i ddiolch i Kath
Jones, yr Uwch Weinyddwr Pwyllgorau, am baratoi’r Amserlen a thrafod gyda
swyddogion, gan fod angen trefnu’n ofalus iawn. PENDERFYNWYD
bod y Cyngor yn
cymeradwyo'r Amserlen Bwyllgorau ddrafft ar gyfer 2025 yn unfrydol. |
|
PENODI CYFARWYDDWR HAMDDEN SIR DDINBYCH CYFYNGEDIG PDF 214 KB Ystyried adroddiad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Llywodraethu a Busnes (copi ynghlwm) i benodi Cyfarwyddwr i Fwrdd Cyfarwyddwyr Hamdden Sir Ddinbych Cyfyngedig. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y
Cyfarwyddwr Corfforaethol: Llywodraethu a Busnes adroddiad Penodi Cyfarwyddwr
Hamdden Sir Ddinbych Cyfyngedig (wedi’i ddosbarthu ymlaen llaw). Cadarnhawyd bod
Nicola Stubbins, Cyfarwyddwr Corfforaethol: Gwasanaethau Cymdeithasol ac
Addysg, wedi rhoi’r gorau i fod ar y Bwrdd, felly roedd angen i’r Cyngor benodi
Cyfarwyddwr newydd i lenwi’r swydd wag. Holwyd aelodau’r
Tîm Arwain Strategol a fyddai ganddynt ddiddordeb mewn derbyn y rôl ac fe
wnaethant gytuno ar enwebu Tony Ward, Cyfarwyddwr Corfforaethol: yr Amgylchedd
a’r Economi, ar gyfer y swydd. Holwyd a fyddai
gan Tony Ward amser a nerth i ysgwyddo’r rôl ychwanegol o ystyried ei lwyth
gwaith. Cadarnhawyd bod Tony Ward wedi
cytuno i dderbyn y swydd pe bai’r Cyngor yn cymeradwyo hynny. Byddai’n cael hyfforddiant ac ni fyddai’n
cychwyn yn y swydd tan fis Medi 2024. Pleidleisiodd
mwyafrif o’r aelodau oedd yn bresennol i gymeradwyo’r penodiad, felly – PENDERFYNWYD
bod y Cyngor yn
penodi Tony Ward, Cyfarwyddwr Corfforaethol: yr Amgylchedd a’r Economi, i fod
yn Gyfarwyddwr i Hamdden Sir Ddinbych Cyfyngedig (‘DLL’). |
|
RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL Y CYNGOR SIR PDF 538 KB Ystyried rhaglen waith i’r dyfodol y Cyngor (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol:
Llywodraethu a Busnes, Gary Williams, Raglen Waith y Cyngor a Rhaglen Waith
Gweithdai’r Cyngor. PENDERFYNWYD
nodi Rhaglen Waith
y Cyngor a Rhaglen Waith Gweithdai’r Cyngor. |
|
DAETH Y
CYFARFOD I BEN AM 11.20 A.M. |