Agenda and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Chris Evans, Raj
Metri, Huw Williams a Brian Jones. |
|
Aelodau i ddatgan
unrhyw gysylltiad personol neu sy’n rhagfarnu mewn unrhyw fusnes a nodwyd i’w
ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, gael eu hystyried yn y cyfarfod fel materion
brys yn unol ag Adran 100B(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw fater brys. Cyflwynodd y Cynghorydd Mark Young y cwestiwn canlynol - Bydd pawb wedi gweld y stori newyddion sydd wedi codi
gwrychyn: Y Rhyl - Cyrchfan gwyliau yng
Nghymru wedi cael ei enwi ymysg un o’r ardaloedd gwaethaf o ran llygredd
carthion arfordirol yn y DU. Mae data newydd wedi datgelu i ba raddau y mae afonydd,
camlesi a’r môr a chyrff eraill wedi cael eu llygru gan gwmnïau dŵr. Yn anffodus mae’r Rhyl yn Sir Ddinbych, Gogledd Cymru
wedi’i gynnwys yn y rhestr ar gyfer y 10 gwaethaf yn y DU. Pa waith sy’n cael ei wneud gan ein hawdurdod lleol
i weithio gyda Chyfoeth Naturiol Cymru i sicrhau fod gennym gynllun wedi’i
gytuno arno gyda Dŵr Cymru sy’n newid y sefyllfa dorcalonnus hon? Diolchodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod
Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant i’r Cynghorydd Young am ei gwestiwn gan
ymateb er bod ansawdd dŵr a llygredd yn bryder go iawn gall y penawdau hyn
fod yn gamarweiniol. Dywedodd y Cynghorydd Mellor fod asesiad o’r adroddiad
newyddion hwn yn cynnwys yr holl ollyngiadau carthion yn sgil stormydd yn
nalgylch yr Afon Clwyd a fyddai yn y pendraw yn llifo i’r môr yn Y Rhyl. Fodd bynnag, roedd gollyngiadau ymhellach i
fyny yn y dalgylch yn cael llai o effaith ar y Rhyl oherwydd oedi
bacteriol. Cynghorodd fod y rhan fwyaf
o ollyngiadau yn yr asesiad yn uwch i fyny yn y dalgylch lle'r oedd yr effaith
ar draeth y Rhyl yn fechan iawn, ac er gwaetha’r penawdau, roedd statws ansawdd
nofio yn y Rhyl yn ddigonol yn hytrach na gwael. Amlinellodd y Cynghorydd Mellor fod y trefniadau carthion
gorlif storm hefyd yn gweithio i amddiffyn eiddo mewn tywydd gwlyb iawn a
mesurau i leihau llygredd. Adroddodd fod
y Cyngor yn gweithio’n agos gyda Chyfoeth Naturiol Cymru a Dŵr Cymru a
budd-ddeiliaid eraill i fynd i’r afael â phroblemau yn ymwneud â safon
dŵr. Cynghorodd y Cynghorydd Mellor
fod ymdrechion yn parhau gyda’r nod o wella statws ansawdd dŵr y Rhyl o
ddigonol i dda; ac yn bwysicach na hynny i sicrhau fod y statws ddim yn gostwng
o ddigonol i wael. Ymatebodd y Cynghorydd Mark Young gan dynnu sylw at
statws Baner Las Prestatyn ac mai dyma ddylai fod y nod ar gyfer y Rhyl. Ar y pwynt hwn tynnodd yr Arweinydd, y Cynghorydd Jason
McLellan sylw at gyhoeddiad yn ymwneud â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi
Cadwaladr. Adroddodd ei fod ef, Prif Weithredwr y Cyngor ac
arweinydd a phrif weithredwyr cynghorau eraill, wedi cael cyfarfod brys gydag
Eluned Morgan, Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru ynglŷn â
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC).
Cynhaliwyd y cyfarfod ar ôl cyhoeddi’r adroddiad yr wythnos ddiwethaf
gan Archwilio Cymru i Fwrdd Gweithredol BIPBC a’r pryderon ynglŷn â’r
pryder am gamweithrediadau’r Bwrdd ac Uwch Arweinwyr BIPBC a chadarnhawyd bod
BIPBC wedi dychwelyd i fesurau arbennig.
Adroddodd yr Arweinydd mai Cadeirydd newydd y Bwrdd oedd Dyfed Edwards,
cyn Arweinydd Cyngor Gwynedd. Adroddodd
yr Arweinydd mai’r flaenoriaeth wrth symud ymlaen oedd cyflogi Prif Weithredwr
parhaol ac fe ychwanegodd fod cynnwys adroddiad Archwilio Cymru yn frawychus a
bod preswylwyr yn haeddu gwell. Gorffennodd yr Arweinydd ei ddatganiad drwy gadarnhau y
byddai’r Cyngor Sir yn gweithio i gefnogi BIPBC ac y byddai aelodau’r Cyngor yn
cael eu hysbysu o unrhyw ddatblygiadau. |
|
DYDDIADUR Y CADEIRYDD PDF 182 KB Nodi ymrwymiadau
dinesig a ymgymerwyd gan Gadeirydd y Cyngor (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cadeirydd, y Cynghorydd Arwel Roberts ei
ddyddiadur o ddigwyddiadau. Ar y pwynt hwn fe gyflwynodd y Cynghorydd Barry
Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, gardiau post o ganlyniadau’r
gystadleuaeth Y Dyfodol. Cafodd
cyflwyniad ei ddangos i’r holl Aelodau.
Bu 350 o enwebiadau allan o 16 o ysgolion. Darllenwyd y rhestr o’r buddugwyr i’r
aelodau. Dyma bawb oedd yn bresennol yn
diolch i’r plant ysgol a gymerodd rhan a’u llongyfarch am eu ceisiadau
buddugol. Cyflwynodd y Cydlynydd Cyfoethogi Cwricwlwm yr
ymgeisydd buddugol yn y gystadleuaeth “yr hyn sy’n eich gwneud yn hapus” a
gafodd ei gynnal yn ddiweddar. Yr
unigolyn buddugol oedd disgybl yn Ysgol Y Parc. Unwaith eto, dyma bawb yn llongyfarch yr
unigolyn buddugol. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Cyngor Sir a gynhaliwyd 31 Ionawr 2023 (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion y Cyngor Llawn a gynhaliwyd ar 31
Ionawr 2023. Eitem 5 - Cyllideb 2023/24 – Cynigion Terfynol Gofynnodd
y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts pam nad oedd ei gwestiwn i’r Aelod Arweiniol
Cyllid, y Cynghorydd Gwyneth Ellis, heb gael ei gynnwys yn y cofnodion. Roedd ei gwestiwn yn berthnasol i gyfarfod y
Cyngor yn Ionawr 2022 lle adroddwyd fod y Cynghorydd Ellis wedi pleidleisio o
blaid diwygiad a gynigwyd gan gyn-aelod o’i grŵp gwleidyddol am godiad o
0% mewn Treth y Cyngor. Ymatebodd y Swyddog Monitro, Gary Williams, fod y
cofnodion ddim yn adroddiad gair-am-air o’r cyfarfod, Cynigodd y Cynghorydd Emrys Wynne, ac eiliwyd gan y
Cynghorydd Julie Matthews, fod y cofnodion ar gyfer y cyfarfod a gynhaliwyd ar
31 Ionawr 2023 yn cael eu cymeradwyo. PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y
cyfarfod a gynhaliwyd ar 31 Ionawr 2023 a chadarnhau eu bod yn gywir. |
|
TRETH Y CYNGOR 23/24 A MATERION CYSYLLTIEDIG PDF 206 KB Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Cyllid ac Eiddo (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau
Strategol, y Cynghorydd Gwyneth Ellis, adroddiad Treth y Cyngor 2023/2024 a
Materion Cysylltiedig (a ddosbarthwyd yn flaenorol). Wrth fabwysiadu penderfyniadau cyfarfod cyllideb y Cyngor
ar 31 Ionawr 2023, mae angen i'r Cyngor wneud penderfyniadau ychwanegol mewn
ffurf benodol i sicrhau bod Treth y Cyngor a’i materion cysylltiedig yn
gyfreithiol ddilys. Ychwanegodd y Pennaeth Cyllid ac Archwilio ei grynodeb
yntau ar faterion a godwyd yn yr adroddiad. Tynnodd y Cynghorydd Hugh Irving sylw at y cynnydd ym
mhraesept Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, ond roedd yn bryderus fod
Prestatyn, sef y dref fwyaf yn Sir Ddinbych, heb Orsaf Heddlu. Ar y pwynt hwn, dyma’r Swyddog Monitro yn
argymell bod Rhybudd o Gynnig yn cael ei gyflwyno i drafod y mater mewn
cyfarfod yn y dyfodol am nad oedd yn gwbl berthnasol i osod lefelau Treth y
Cyngor. Cytunodd y Cynghorydd Irving gyda’r awgrym hwn gan annog
aelodau arweiniol a swyddogion yn bresennol yn y cyfarfod hwn i gefnogi
ymdrechion i sicrhau presenoldeb parhaol gan yr Heddlu ym Mhrestatyn. CYNIGODD y Cynghorydd Gwyneth Ellis yr argymhellion ar
gyfer Treth y Cyngor 23/24 a’r adroddiad Materion Cysylltiedig, ac EILIWYD
hynny gan y Cynghorydd Mark Young. PENDERFYNWYD – (i)
bod
y Cyngor Sir, fel yr Awdurdod Bilio, wedi ystyried y praeseptau a dderbyniwyd
gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru a'r Cynghorau Tref/Cymuned a
chyhoeddi lefelau Treth y Cyngor ar gyfer blwyddyn ariannol 2023/24; (ii)
bod
y symiau a gyfrifwyd gan y Cyngor ar gyfer blwyddyn ariannol 2023/24, yn unol
ag Adrannau 32 i 34 (1) Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (y Ddeddf) a'r
Rheoliadau Addasu Cyfrifiadau Angenrheidiol (Cymru) 2008 fel ag y maent yn
adran 3 Atodiad A; (iii)
bod
y symiau a gyfrifwyd gan y Cyngor ar gyfer blwyddyn ariannol 2023/24, yn unol
ag Adrannau 34 (2) i 36 (1) Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (y Ddeddf) fel
ag y maent yn adran 4 Atodiad A; (iv)
bod
symiau Treth y Cyngor ar gyfer blwyddyn ariannol 2023/24 ar gyfer pob un o'r
categorïau o anheddau fel a’u cyflwynir yn Atodiad C; a (v)
bod
lefel y gostyngiad ar gyfer Dosbarth A, B a C fel y nodir yn Rheoliadau Treth y
Cyngor (Dosbarthau Rhagnodedig ar Anheddau) (Cymru) 2004 yn cael ei osod ar
sero ar gyfer blwyddyn ariannol 2023/24 gyda'r cafeat bod hyn yn ddibynnol ar
ddim newidiadau i ddeddfwriaeth nac amodau lleol. |
|
CYNLLUN CYFALAF 2022/23 – 2025/26 AC ARGYMHELLION BWRDD Y GYLLIDEB – CYFALAF PDF 313 KB Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Cyllid ac Eiddo (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Cyllid Perfformiad ac
Asedau Strategol, y Cynghorydd Gwyneth Ellis y Cynllun Cyfalaf 2022/23 -
2025/26 ac adroddiad Argymhellion y Bwrdd Cyllideb - Cyfalaf (a ddosbarthwyd yn
flaenorol). Darparwyd Cynllun Cyfalaf diwygiedig i’r aelodau gan
gynnwys diweddariad ar brosiectau mawr a'r cynllun corfforaethol. Mae’r adroddiad hwn hefyd yn cynnwys
Adroddiad Strategaeth Gyfalaf ar gyfer 2023/24.
Mae’n darparu trosolwg lefel uchel, byr a chynhwysfawr i’r holl aelodau
o sut mae gwariant cyfalaf, ariannu cyfalaf a gweithgaredd rheoli trysorlys yn
cyfrannu at ddarpariaeth gwasanaethau’r Cyngor. Cafwyd crynodeb o’r adroddiad gan y Pennaeth Cyllid ac
Eiddo gan dynnu sylw at y prif bwyntiau. Yn ystod trafodaeth codwyd y pwyntiau canlynol: ·
Tudalen
41, Rhaglen Gyfalaf - Llety Safle Sipsiwn a Theithwyr. Gofynnodd y Cynghorydd Peter Scott beth oedd
bwriad cynnwys y cyllid dichonoldeb yn y cynllun cyfalaf. Cadarnhaodd y
Pennaeth Cyllid ac Archwilio fod y dyraniad yn syml yn gwneud cyllid ar gael pe
bai prosesau a phenderfyniadau’r Cyngor ar lety safle sipsiwn a theithwyr ei
angen. ·
Holodd y
Cynghorydd Terry Mendies pam fod Hamdden Sir Ddinbych Cyf ddim yn ymddangos yn
y Cynllun Cyfalaf, ac fe adroddodd ar ei ymdrechion i sicrhau mwy o wybodaeth
ar y rôl, gweithgareddau a’r buddsoddi yn Hamdden Sir Ddinbych Cyf. Cadarnhaodd
y Swyddog Monitro fod sesiwn briffio ar Hamdden Sir Ddinbych yn cael ei drefnu
ar gyfer aelodau. Cafwyd crynodeb gan Bennaeth Cyllid ac Archwilio ar gyllideb a threfniadau
cyfrifyddu Hamdden Sir Ddinbych, er enghraifft yn y cyllidebau a gynhaliwyd gan
y Cyngor ar gyfer atgyweirio a chynnal a chadw.
Tynnodd sylw fod y cyllid rheoli craidd a Chytundeb Lefel Gwasanaeth a
dalwyd i Hamdden Sir Ddinbych wedi dod i gyfanswm o £2 miliwn a heb gynyddu ers
sefydlu’r cwmni. Mae’r cwmni yn eiddo llawn y Cyngor. Mae hynny’n golygu bod y cwmni wedi amsugno’r
pwysau ariannol dros y tair blynedd ddiwethaf.
·
Wrth
ymateb i ymholiad y Cynghorydd Butterfield, cadarnhawyd fod y cyllid ar gyfer y
cribyn traeth a’r peiriant cael gwared ar gwm cnoi wedi dod bron iawn yn gyfan
gwbl o ffynonellau allanol a bod cyllid llety Dechrau’n Deg wedi dod gan
Lywodraeth Cymru ar gyfer y gwaith adeiladu i alluogi mwy o lefydd Dechrau’n
Deg. ·
Wrth
ymateb i ymholiad ynglŷn â pham fod y ffigurau yn Atodiad 3 yn ymddangos
mor uchel fe gynghorwyd yr aelodau fod Atodiad 3 yn cynnwys dim ond y costau
gros a gafwyd ond nid oedd yn dangos incwm o gyllid grant, felly roedd y
ffrydiau incwm a gwariant yn yr adroddiad hwn yn cael eu dangos ar wahân.
Cynghorwyd Aelodau fod Atodiad 1 o’r adroddiad yn rhoi crynodeb lefel uchel o’r
cynllun cyfalaf. ·
Cadarnhaodd
y Cynghorydd Gill German wrth y Cynghorydd Mark Young fod y gyllideb a
ddyrannwyd ar gyfer ysgol (Ysgol Plas Brondyffryn) yn sicrhau fod cyllid ar
gael beth bynnag y byddai’r Cyngor yn bwriadu ei wneud, ac y byddai modd
cario’r swm ymlaen i flynyddoedd ariannol yn y dyfodol pe bai angen gwneud
hynny. Cadarnhaodd y Pennaeth Cyllid ac
Archwilio mai dyma’r achos hefyd ar gyfer dyraniad tuag at Ddatblygiad Pafiliwn
Corwen. O ran Ysgol Plas Brondyffryn,
anogodd y Cynghorydd Rhys Thomas i’r Cyngor fod yn ofalus yn ei ddefnydd o
derminoleg wrth ddisgrifio cynnydd, gan fod defnyddio ‘gweithredu’ wedi cael ei
gamddehongli gan rai i olygu cynnydd gyda dechrau ar y gwaith adeiladu.
Ychwanegodd yr Aelod Arweiniol, y Cynghorydd German fod datganiadau cyhoeddus
am Ysgol Plas Brondyffryn wedi eu cymeradwyo i gynrychioli’r sefyllfa go iawn. CYNIGODD y Cynghorydd Gwyneth Ellis argymhellion y Cynllun Cyfalaf 2022/23 - 2025/26 ac Argymhellion y Bwrdd Cyllideb - adroddiad Cyfalaf, EILIWYD gan y Cynghorydd Peter ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|
AR Y PWYNT HWN (11.55AM) CAFWYD EGWYL AM 15 MUNUD. AILDDECHREUODD Y CYFARFOD AM 12.10 PM. |
|
Yn y fan hon, cytunodd y Cadeirydd i amrywio trefn
y ddwy eitem nesaf o fusnes. |
|
CYNLLUN LLES BGC CONWY A SIR DDINBYCH 2023 I 2028 PDF 236 KB Ystyried
adroddiad gan Arweinydd Tîm Cynllunio Strategol a Pherfformiad (copi
ynghlwm) Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr Arweinydd, y Cynghorydd Jason McLellan
Gynllun Lles 2023 i 2028 Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a Sir Ddinbych (wedi’i ddosbarthu’n flaenorol) i gael penderfyniad
gan y Cyngor i gefnogi’r Cynllun Lles statudol hwn fel partner o Fwrdd
Gwasanaeth Cyhoeddus Conwy a Sir Ddinbych. Cafwyd trosolwg o’r adroddiad gan Nicola Kneale, Pennaeth
Dros Dro Gwella Busnes a Moderneiddio ac Arweinydd Tîm Cynllunio a Pherfformiad
Strategol, Iolo McGregor. Yn 2015 sefydlwyd Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) ar
gyfer pob ardal awdurdod lleol yng Nghymru fel rhan o Ddeddf Llesiant
Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru). Mae’r
Ddeddf yn gosod gofyniad statudol ar bob BGC i gynhyrchu Cynllun Lles lleol ar
gyfer eu hardal sy’n cynnwys sut y maen nhw’n bwriadu gwella lles economaidd,
cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol eu hardal. Mae’r Cynllun Lles BGC wedi cael ei ddatblygu ar y cyd â
chynllun Corfforaethol y Cyngor. Yn dilyn trafodaeth fer, fe GYNIGODD yr Arweinydd,
y Cynghorydd Jason McLellan i dderbyn Cynllun Lles 2023 i 2028 Bwrdd
Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a Sir Ddinbych gyda’r Cynghorydd Gareth Sandilands
yn EILIO. PENDERFYNWYD bod y Cyngor yn - (i)
Nodi
Cynllun Lles y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus wedi’i gynnwys yn atodiad 1 (yn
arbennig cyd-destun Cynllun Corfforaethol y Cyngor ei hun) a rhoi ei
gymeradwyaeth a’i gefnogaeth ar gyfer y cynllun; a (ii)
chadarnhau
ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o’r Effaith ar Les (Atodiad
2) fel rhan o’i ystyriaethau. |
|
Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Cyllid ac Eiddo (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac
Asedau Strategol, y Cynghorydd Gwyneth Ellis, y Datganiad Strategaeth Rheoli’r
Trysorlys (DSRhT) 2023/2024 ac adroddiad Dangosyddion Darbodus 2023/2024 i
2025/2026 (atodiad 1) (wedi’i ddosbarthu’n flaenorol). Cynghorodd y Pennaeth Cyllid ac Archwilio ei fod yn
adroddiad blynyddol ac un sydd hefyd yn cael ei gyflwyno i Bwyllgor
Llywodraethu ac Archwilio. Mae'r DSRhT
(Atodiad 1) yn dangos sut byddai’r Cyngor yn rheoli ei fuddsoddiadau a'i
fenthyciadau ar gyfer y flwyddyn i ddod ac yn gosod polisïau ar gyfer
gweithredu swyddogaeth rheoli’r trysorlys.
Adroddodd hefyd fod y sesiwn hyfforddiant a gynhaliwyd ar gyfer aelodau
ar y pwnc hwn wedi derbyn ymateb da. CYNIGODD y Cynghorydd Gwyneth Ellis i dderbyn y Datganiad
Strategaeth Rheoli’r Trysorlys 2023/24 a’r adroddiad Dangosyddion Darbodus
2023/24 i 2025/26 (Atodiad 1), EILIWYD gan y Cynghorydd Carol Holliday. PENDERFYNWYD bod y Cyngor yn - (i)
Cymeradwyo
Datganiad Strategaeth Rheoli Trysorlys 2023/24 (atodiad 1); (ii)
Cymeradwyo’r
gwaith o osod Dangosyddion Darbodus ar gyfer 2023/2024, 2024/2025 a 2025/2026
(Atodiad 1 Ychwanegiad A); (iii)
Cymeradwyo'r
Datganiad Darpariaeth Isafswm Refeniw (Atodiad 1 Adran 6); a (iv)
Chadarnhau
ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o’r Effaith ar Les (Atodiad
2) fel rhan o’i ystyriaethau. |
|
RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL Y CYNGOR SIR PDF 401 KB Ystyried Rhaglen
Gwaith i’r Dyfodol y Cyngor (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Llywodraethu a
Busnes, Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cyngor ynghyd â Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol
Gweithdy’r Cyngor (a ddosbarthwyd ymlaen llaw). Cynghorodd y Cyfarwyddwr mai’r cyfarfod Cyngor nesaf fydd
y Cyfarfod Blynyddol o’r Cyngor sydd wedi’i drefnu ar gyfer 9 Mai 2023. Gofynnwyd i Arweinwyr Grŵp ddarparu
enwebiadau ar gyfer rôl Is-gadeirydd y Cyngor gogyfer y flwyddyn ddinesig
2023/24. Wrth ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Huw
Hilditch-Roberts, y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Yr Amgylchedd a’r Economi fod yr
eitemau Gwastraff a Phriffyrdd ar Raglen Gwaith i’r Dyfodol yn cael eu cyfnewid
fel bod y diweddariad ar Gynnal a Chadw Priffyrdd yn cael ei gyflwyno yng
nghyfarfod 16 Mai 2023 ac y byddai’r eitem Model Gwastraff yn cael ei gyflwyno
yng nghyfarfod 5 Rhagfyr 2023. Cynghorodd y Prif Weithredwr yr aelodau fod yr eitemau
wedi’u rhestru ar Weithdy rhaglen gwaith i’r dyfodol y Cyngor wedi derbyn sylw
yn rheolaidd er mwyn eu dyrannu nhw i sesiynau gweithdy priodol. PENDERFYNWYD y dylid cymeradwyo a
nodi’r Cyngor a’r Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cyngor. |
|
DAETH Y CYFARFOD I BEN AM 12.52 PM. |