Agenda and draft minutes
Lleoliad: the Council Chamber, County Hall, Ruthin and via Video Conference
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
Ar ran yr aelodau, rhoddodd yr Aelod Arweiniol Addysg,
Plant a Theuluoedd ei llongyfarchiadau i’r Cynghorydd Kelly Clewett a oedd wedi
ennill gwobr fawreddog ac wedi’i henwi yn Hyrwyddwr Menywod mewn Iechyd a Gofal Gwobrau Womenspire Chwarae Teg.
Diolchodd i’r Cynghorydd Clewett am ei hymroddiad a’i gwaith caled yn sector
Gofal Cymdeithasol yn enwedig yn ystod pandemig Covid. Fe wnaeth yr holl
aelodau ei llongyfarch drwy roi cymeradwyaeth iddi. |
|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr
David Williams a Huw Williams. |
|
DATGANIADAU O GYSYLLTIAD PDF 197 KB Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu ragfarnus mewn unrhyw fusnes a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafodd unrhyw gysylltiad ei ddatgan. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol ag Adran 100B(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol, 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Darparodd y Cadeirydd fanylion i’r aelodau am y
digwyddiadau yr oedd o neu’r Is-Gadeirydd wedi’u mynychu ers mis Mai 2022. Cyfeiriwyd at y canlynol: ·
Y digwyddiad cyntaf a fynychwyd gan y Cadeirydd
oedd Eisteddfod yr Urdd. ·
Nodwyd presenoldeb mewn digwyddiad Eiriolaeth ar
ddiwedd mis Mehefin. ·
Cynhaliwyd ymweliadau ag ysgolion yn ystod mis
Gorffennaf. ·
Cynhaliwyd seremoni ragorol i ailenwi’r bad achub
yn y Rhyl. ·
Mynychwyd pum digwyddiad cofio er cof am y diweddar
Frenhines Elizabeth II (cafwyd 30 eiliad o dawelwch er cof amdani). Diolchodd y Cadeirydd i’r Is-Gadeirydd am fynychu’r
digwyddiadau hyn pan nad oedd ar gael. |
|
Derbyn cofnodion cyfarfod y Cyngor Sir a gynhaliwyd ar 19 Gorffennaf 2022 (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod
y Cyngor Llawn a gynhaliwyd ar 19 Gorffennaf 2022. Cywirdeb - Ni chodwyd unrhyw
fater. Materion yn codi – Tudalen 11 (eitem 8 - Amserlen
y Pwyllgor) - gofynnodd y Cynghorydd Gareth Sandilands am y wybodaeth
ddiweddaraf ynglŷn ag amser cyfarfodydd. Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr
Corfforaethol - Llywodraethu a Busnes bod adroddiad wedi cael ei gyflwyno i’r
pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ar ddiwedd mis Medi a oedd yn darparu manylion
arolwg a oedd yn pennu dewis yr aelodau o ran amseroedd cyfarfodydd. PENDERFYNWYD cadarnhau bod cofnodion cyfarfod y Cyngor Llawn a gynhaliwyd ar 19
Gorffennaf 2022 yn gofnod cywir. |
|
CYNLLUN CORFFORAETHOL CYNGOR SIR DDINBYCH 2022 - 2027 PDF 311 KB Derbyn adroddiad gan y Cyd-Bennaeth Gwella Busnes a Moderneiddio Dros Dro (copi ynghlwm) i gymeradwyo drafft terfynol Cynllun Corfforaethol 2022 – 2027. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd
yr Aelod Arweiniol Polisi, Cydraddoldeb a Strategaeth Gorfforaethol yr
adroddiad Cynllun Corfforaethol 2022-2027 (a ddosbarthwyd ymlaen llaw). Diolchwyd
i bawb a oedd wedi bod yn rhan o lunio’r Cynllun Corfforaethol newydd
arfaethedig. Roedd ymgynghoriadau eang ac amrywiol wedi cael eu cynnal.
Diolchwyd hefyd i’r holl bleidiau gwleidyddol am eu sylwadau cadarnhaol ac
adeiladol i helpu i fireinio’r cynllun. Roedd yn ofyniad statudol bod Awdurdodau Lleol yn
cyhoeddi Amcanion Lles, Amcanion Cydraddoldeb, ac yn nodi meysydd ar gyfer
Gwelliant Sefydliadol. Roedd Cynllun Corfforaethol Sir Ddinbych2022-27 yn cyflawni hyn
i gyd. Roedd
y cynllun drafft yn amlinellu’r blaenoriaethau a’r weledigaeth o’r hyn yr oedd
y Cabinet, gyda chefnogaeth y Cyngor, yn anelu i’w gyflawni dros y 5 mlynedd
nesaf. Roedd
yr addewidion allweddol yr oedd yr Awdurdod Lleol wedi ymrwymo i’w cyflawni yn
y Cynllun wedi’u trefnu mewn themâu. Roeddent yn bwysig am eu bod naill ai: ·
Angen cyllid cyfalaf /
refeniw sylweddol e.e. ffyrdd ac ysgolion newydd (ond nid oes angen cyllid
ychwanegol ar bopeth); ·
Angen newid diwylliannol
/ sefydliadol sylweddol e.e. i fod yn Sir Ddinbych lle mae’r Iaith Gymraeg a
Diwylliant Cymru yn ffynnu, a / neu ·
Yn effeithio ar y sir
gyfan e.e. sefydlu isadeiledd gwefru cerbydau trydan. Roedd
y Cynllun Corfforaethol yn ddogfen bwysig i ddangos gweledigaeth ar y cyd y
byddwn i gyd yn gweithio tuag ati gyda’n gilydd. Roedd y cynllun yn
canolbwyntio ar wella lles cymunedau a thrigolion Sir Ddinbych drwy greu amodau
da yn y gymuned. Roedd hefyd yn canolbwyntio ar ansawdd y gwasanaethau a oedd
yn cael eu cynnig i’r rhai hynny a oedd angen cymorth. Roedd
y cynllun wedi cael ei rannu i naw thema allweddol a byddai pob un ohonynt yn
cael eu dyrannu i Aelodau Cabinet er mwyn eu goruchwylio. Roedd pob thema yn
disgrifio’r amcanion rydym yn gobeithio eu cyflawni dros y 5 mlynedd nesaf.
Roedd y blaenoriaethau a amlinellwyd yn y Cynllun Corfforaethol wedi cael eu
llunio drwy broses fanwl a chlir o gasglu a dadansoddi tystiolaeth ac ymgynghoriad
manwl gyda chymunedau. Nid
oedd y Cynllun Corfforaethol yn cynrychioli holl fusnes y Cyngor ac ni
fwriadwyd iddo wneud hynny. Roedd llawer iawn o waith pwysig yn cael ei wneud y
tu allan i gwmpas y cynllun. Nod
y cynllun yw bod yn hyblyg gydag unrhyw newidiadau angenrheidiol yn cael eu
hadrodd i’r Cyngor. Wrth
drafod, codwyd y materion canlynol: ·
Pe bai’r cynllun yn cael ei gymeradwyo, byddai gwaith ymchwil yn cael ei
gynnal i nodi’r gwaith a fyddai angen ei wneud i gyflawni pob un o’r addewidion.
Ar y cam hwnnw byddai swyddogion a’r Aelod Arweiniol yn gallu nodi beth oedd
modd ei gyflawni a phryd o ystyried yr adnoddau, amser a chyllid sydd ar gael. ·
Yn ystod yr amser a gymerwyd i ddatblygu’r Cynllun Corfforaethol drafft,
roedd y sefyllfa ariannol wedi dirywio. Roedd y rhagolwg ariannol ar gyfer y
ddwy flynedd nesaf wedi newid ers dechrau’r flwyddyn. Roedd diweddariad Cyllid
i gael ei gyflwyno yng Ngweithdy nesaf y Cyngor a fyddai’n rhoi manylion am y
newidiadau. Byddai trafodaethau ag aelodau am newidiadau a chynlluniau arbed
mewn perthynas â’r gyllideb yn cael eu cynnal unwaith i ffigyrau’r gyllideb
gael eu cyhoeddi. ·
Roedd nifer o’r prosiectau a oedd wedi’u cynnwys yn y cynllun eisoes wedi
cael eu cymeradwyo neu wrthi’n cael eu cymeradwyo ac wedi’u cynnwys yn y
gyllideb. ·
Fel awdurdod, nid oedd benthyca at ddibenion buddsoddi yn cael ei
awdurdodi. ·
Roedd teithio llesol a defnyddio llwybrau cerdded a llwybrau beicio yn cael
eu hannog o dan thema rhif 5 y cynllun. · Bu i oddeutu 1300 ymateb yn ystod y cyfnodau ymgynghori. Roedd gwaith i annog ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
Ar y pwynt hwn (11.32am) cafwyd egwyl o 15 munud. Ailddechreuodd y cyfarfod am 11.48am. |
|
PENODI CADEIRYDD Y PWYLLGOR GWASANAETHAU DEMOCRATAIDD PDF 205 KB Derbyn adroddiad gan y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd (copi ynghlwm) i benodi Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ceisiwyd enwebiadau i benodi aelod yn Gadeirydd y
Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd. Cadarnhaodd y Swyddog Monitro nad oedd Cadeirydd y
Pwyllgor yn cael bod yn aelod o blaid gwleidyddol a oedd yn cael ei
chynrychioli ar y Cabinet. Bu i’r Cynghorydd Peter Scott enwebu’r Cynghorydd Martyn
Hogg yn Gadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ar gyfer blwyddyn
2022/23 y Cyngor, ac fe eiliwyd y cynnig hwn gan y Cynghorydd Julie Matthews. Ni chafwyd unrhyw enwebiadau eraill. Felly, PENDERFYNWYD penodi’r Cynghorydd
Martyn Hogg yn Gadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ar gyfer blwyddyn
2022/23 y Cyngor.
|
|
PENODI AELOD LLEYG I'R PWYLLGOR SAFONAU PDF 202 KB Derbyn adroddiad gan y
Dirprwy Swyddog Monitro (copi ynghlwm) i benodi Aelod Lleyg i Bwyllgor
Safonau’r Cyngor am gyfnod o flwyddyn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Monitro’r adroddiad (a ddosbarthwyd
ymlaen llawn), yn atgoffa’r aelodau bod proses recriwtio agored wedi cael ei
chynnal i recriwtio aelodau lleyg i’r Pwyllgor Safonau. Roedd y
Cyngor eisoes wedi enwebu panel penodiadau arbennig y Pwyllgor Safonau. Roedd y
panel yn cynnwys y Cynghorwyr Sir Bobby Feeley, Peter Scott ac Arwel Roberts,
ynghyd â’r Cynghorydd Cymuned Gordon Hughes a chynrychiolydd annibynnol Noela Jones, i
gyfweld darpar aelodau lleyg ar gyfer y sedd wag ar Bwyllgor Safonau’r Cyngor. Bu i’r panel
argymell i’r Cyngor Llawn y dylid penodi Mr Samuel Jones yn aelod o Bwyllgor
Safonau’r Cyngor. Cynigodd y
Cynghorydd Arwel Roberts y dylid penodi Mr Samuel Jones fel aelod lleyg i’r
Pwyllgor Safonau, ac eiliwyd y cynnig hwn gan y Cynghorydd Peter Scott. Roedd yr
holl aelodau yn gytûn. Felly, PENDERFYNWYD
y dylid penodi Mr Samuel Jones fel Aelod Lleyg i Bwyllgor
Safonau Sir Ddinbych. |
|
Ar y pwynt hwn cytunwyd i amrywio trefn y rhaglen. |
|
ADRODDIAD AR SEFYDLOGRWYDD Y FARCHNAD YNG NGOGLEDD CYMRU - ADRODDIAD DRAFFT 2022 PDF 235 KB Derbyn adroddiad gan Ann Lloyd / Rhiain Morrlle (copi ynghlwm) i geisio
cefnogaeth y Cyngor i gymeradwyo Adroddiad Sefydlogrwydd Marchnad Gogledd Cymru Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol
yr adroddiad ar Sefydlogrwydd y Farchnad Gogledd Cymru (a ddosbarthwyd ymlaen
llaw) ynghyd â’r Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd. Roedd Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru)
2014 yn rhoi dyletswydd newydd ar awdurdodau lleol a byrddau iechyd i lunio
asesiad ar y cyd o ddigonolrwydd a chynaladwyedd y farchnad gofal cymdeithasol.
Roedd yr adroddiad wedi cael ei gynhyrchu gan Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd
Cymru ac roedd yn ystyried y canfyddiadau o Asesiad o Anghenion Poblogaeth
Gogledd Cymru 2022. Roedd yr adroddiad yn asesu digonolrwydd gofal a chymorth
o ran bodloni’r anghenion a’r galw am ofal cymdeithasol, fel y nodir yn yr
asesiad o anghenion y boblogaeth a sefydlogrwydd y farchnad ar gyfer
gwasanaethau a reoleiddir. Nod yr adroddiad oedd cynorthwyo’r rhanbarth i gomisiynu
a chefnogi darparwyr gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn effeithiol i
ateb y galw gan y boblogaeth. Byddai’r adroddiad yn sail i gynlluniau a
phenderfyniadau yn y dyfodol. Cymeradwywyd yr adroddiad gan y Pwyllgor Craffu
Perfformiad ar 14 Gorffennaf 2022. Dangoswyd yn yr adroddiad yr heriau a wynebwyd gan ofal
cymdeithasol nid yn unig yn Sir Ddinbych ond ar draws Cymru Gyfan. Byddai
gwasanaethau Sir Ddinbych yn parhau i weithio’n galed i gynnig cefnogaeth i
unigolion, teuluoedd a phlant lle bo angen. Cadarnhaodd y Pennaeth
Gwasanaethau Cymorth Cymunedol dros dro fod gan Gyngor Sir Ddinbych fewnbwn sylweddol
fel awdurdod lleol wrth greu’r adroddiad. Wrth drafod, codwyd y materion
canlynol: ·
Roedd Bwthyn y Ddôl yn dîm amlddisgyblaethol yn gweithio gyda phlant ar
draws Sir Ddinbych a Chonwy. Nod y tîm yw darparu ymyrraeth ddwys i blant ar
ffiniau gofal gyda’r bwriad o gefnogi’r teulu cyfan. Roedd canolfan asesu hefyd
yn cael ei hadeiladu i gynnig cefnogaeth a seibiant i deuluoedd a phobl
ifanc Bydd yn caniatáu i’r plant aros yn
lleol yn ystod y gefnogaeth i’r teulu. ·
Caiff unigolion eu hasesu mewn ysbytai ar adegau gwahanol, gwneir hyn
weithiau cyn i unigolyn gael ei ryddhau o’r ysbyty. Roedd cydweithio agos gyda
chydweithwyr iechyd i alluogi unigolion i fynd adref cyn gynted â phosibl yn
parhau. Roedd angen sefydlu’r pecyn gofal neu sefydliad cywir ar gyfer yr
unigolyn cyn iddynt gael eu rhyddhau o’r ysbyty. ·
Mae nyrsys ardal yn cael hyfforddiant i roi I.V. yn y gymuned, ond
pwysleisiwyd mai dim ond math penodol o wrthfiotig oedd nyrsys ardal yn cael ei
ddarparu. ·
Roedd pryderon ynglŷn â recriwtio a chadw staff yn fater parhaus.
Pwysleisiwyd bod hwn yn bryder cenedlaethol ac nid yn Sir Ddinbych yn unig.
Sawl ffordd arloesol i annog unigolion i ymuno â’r tîm gofal cymdeithasol. ·
Roedd cydweithio agos
gyda’r bwrdd iechyd i sefydlu unrhyw anghenion gofal yn parhau pan roedd
unigolion yn gadael yr ysbyty. Cafwyd cynnig gan y Cynghorydd Bobby Feeley, wedi’i eilio
gan y Cynghorydd Brian Blakely. PENDERFYNWYD: ·
Bod yr Aelodau’n
cymeradwyo Adroddiad ar Sefydlogrwydd y Farchnad Gogledd Cymru 2022; a ·
Bod yr Aelodau’n
cadarnhau eu bod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Gydraddoldeb
fel rhan o’u hystyriaethau. |
|
RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL Y CYNGOR SIR PDF 234 KB Ystyried rhaglen waith i’r dyfodol y Cyngor (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y
Cyfarwyddwr Corfforaethol - Llywodraethu a Busnes, Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cyngor ynghyd â Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol
Gweithdy’r Cyngor (a ddosbarthwyd ymlaen llaw). Cadarnhawyd y byddai cynlluniau amddiffyn arfordir Canol
y Rhyl a Phrestatyn, canlyniadau o’r arolwg Aelodau ynglŷn ag amser
cyfarfodydd a chymeradwyaeth y cynllun deiseb yn cael eu cyflwyno yn y cyfarfod
ym mis Rhagfyr 2022. Atgoffwyd yr Aelodau y byddai Gweithdy’r Cyngor yn cael
ei gynnal ar 24 Hydref i drafod adolygiad y Tîm Arwain Strategol. Trefnwyd bod hyfforddiant Cod Ymddygiad yn cael ei gynnal
ar ôl y cyfarfod yn Siambr y Cyngor, Rhuthun i’r Aelodau nad oeddent wedi cael
yr hyfforddiant o’r blaen. Nodwyd bod Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol Gweithdy’r Cyngor
wedi cael ei chynnwys yn y pecyn. Roedd yn rhestru’r adroddiadau a awgrymir i’r
aelodau eu trafod. Anogwyd yr Aelodau i adrodd unrhyw argymhellion a awgrymir
yn ôl i swyddogion. Atgoffwyd yr Aelodau bod cyfarfodydd Cyngor Sir yn gorff
sy’n gwneud penderfyniadau, ac felly dylai eitemau sy’n gofyn am benderfyniad
gael eu cyflwyno gerbron yr aelodau i’w trafod a’u penderfynu. Trefnwyd Gweithdai’r Cyngor i roi cyfle i’r aelodau gael
cyd-destun a thrafodaeth fanwl ar y pwnc perthnasol. PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, y dylid cymeradwyo a nodi Rhaglen Gwaith i'r
Dyfodol y Cyngor a Gweithdy’r Cyngor. |
|
Daeth y cyfarfod i ben am 12.25 p.m. Dogfennau ychwanegol: |