Agenda and draft minutes
Lleoliad: via Video Conference
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Dogfennau ychwanegol: |
|
Ar y pwynt hwn
talodd y Cadeirydd, y Cynghorydd Alan James, deyrnged i’r cyn Gynghorydd, Lloyd
Williams a fu farw’n ddiweddar. Soniodd y Cynghorydd James am ymroddiad y
Cynghorydd Williams i’r cyngor a’i waith caled. Cynhaliwyd myfyrdod tawel er
parch. Fe dalodd y Cynghorydd Gwyneth Kensler deyrnged
hefyd i Nancy Fletcher Williams a fu farw ar 3 Ionawr 2022 a oedd yn gyn
Gynghorydd a fu'n cynrychioli'r Rhyl. |
|
DATGANIADAU O FUDDIANT PDF 197 KB Yr Aelodau i
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion
brys yn unol ag Adran 100B(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid oedd unrhyw
faterion brys. Cwestiwn i’r Cyngor Llawn gan y Cynghorydd Rhys
Thomas “Cyhoeddodd Llywodraeth y DU ym mis Rhagfyr eu bod
am lacio rheolau mewnfudo ar gyfer gweithwyr gofal tramor. Yna cyhoeddodd yr
Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol y byddai’r mesurau hyn yn dod i rym yn gynnar
y flwyddyn nesaf ac yn gweithredu am 12 mis. Rydym ni oll yn ymwybodol
o’r diffyg sylweddol o weithwyr gofal yn Sir Ddinbych, felly a yw’r Aelod
Arweiniol yn ymwybodol o’r newidiadau hyn ac a ydynt wedi dod i rym yn lleol”? Ymateb gan yr Aelod Arweiniol, y Cynghorydd Bobby
Feeley: Rydym yn ymwybodol o’r newidiadau hyn sydd i’w
croesawu. Yn lleol yma yn Sir Ddinbych, rydym hefyd yn ymwybodol o’r dyfarniad
newydd ac yn cefnogi darparwyr sy’n awyddus i wneud y mwyaf o gyfleoedd i
recriwtio gweithwyr gofal yn unol â llacio rheolau mewnfudo gan Lywodraeth y DU.
Yn wir, cyhoeddwyd ym mis Rhagfyr y bydd gweithwyr gofal, cymorthyddion gofal a
gweithwyr gofal cartref yn gymwys ar gyfer fisa iechyd a gofal am gyfnod o 12
mis. Golyga hyn y byddwn yn gallu recriwtio gweithwyr gofal ychwanegol er mwyn
hybu gweithlu gofal cymdeithasol i oedolion a ddylai ei gwneud yn haws ac yn
fwy sydyn i gyflogwyr gofal cymdeithasol recriwtio gweithwyr cymwys er mwyn
llenwi’r bylchau. Mae pandemig y coronafeirws wedi amlygu ystod o
brinder staff yn y sector gofal cymdeithasol, gan roi pwysau ar y gweithlu
presennol er gwaethaf ymdrechion anhygoel a diflino staff gofal cymdeithasol.
Er fy mod yn siŵr bod fy llythyr i’r Prif Weinidog a anfonwyd ar eich rhan
wedi helpu rhywfaint, mae’n rhaid dweud fod y newidiadau i’r ddeddfwriaeth hefyd
yn dilyn argymhelliad gan y Pwyllgor Cynghori ar Ymfudo i wneud gweithwyr gofal
a gofalwyr cartref yn gymwys ar gyfer fisa Iechyd a Gofal ac i ychwanegu’r
alwedigaeth i’r rhestr galwedigaethau gweithwyr medrus. Ar y pryd, roedd yr
ymateb gan Lywodraeth y DU a rannais gyda chwi oll yn eithaf siomedig, ond yn
fuan wedyn mae’n ymddangos ein bod wedi derbyn y canlyniad roeddem ei
eisiau. Yn amlwg, ni fydd hyn yn datrys
y broblem dros nos, ond mi fydd o gymorth, ac rwy’n ddiolchgar iawn am
hynny. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Cyngor Sir a gynhaliwyd ar 7 Rhagfyr 2021 (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cyngor Llawn ar 7 Rhagfyr 2021. Cywirdeb Eitem 9 – Rhybudd o Gynnig – nododd y Cynghorydd Gwyneth Kensler y dylai
ddweud “Cynigiodd y Cynghorydd Graham Timms fod y cwestiwn yn cael ei roi”. Materion yn Codi Y Cynghorydd Arwel Roberts – Deiseb ynglŷn â: Ffordd Abergele,
Rhuddlan. Roedd ymateb wedi ei dderbyn
ond nid yr un yr oeddwn ei eisiau.
Gobeithio y byddant yn ail ystyried y sefyllfa gan fod pobl ag
anableddau yn byw ar hyd y ffordd honno ac mae’n rhaid iddynt deithio’n bell
dim ond i groesi’r ffordd honno. Mae’n
rhaid i ni gofio am bobl sy’n llai ffodus na ni ein hunain sydd mewn cadeiriau
olwyn ac felly, gobeithio, fe fydd y Cyngor Sir a Swyddogion yn edrych ar y
mater eto. PENDERFYNWYD yn amodol ar yr uchod,
cadarnhau cofnodion cyfarfod y Cyngor Llawn a gynhaliwyd ar 7 Rhagfyr 2021 fel
cofnod cywir. |
|
CYLLIDEB 2022/23 - CYNIGION TERFYNOL<0} PDF 267 KB Ystried adroddiad gan y Pennaeth Cyllid ac Eiddo (copi ynghlwm) Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol, y
Cynghorydd Julian Thompson-Hill, adroddiad y Gyllideb 2022/23 – Cynigion
Terfynol (a ddosbarthwyd eisoes). Roedd yn ofynnol yn ôl y gyfraith i'r Cyngor bennu cyllideb gytbwys y
gellir ei chyflawni cyn dechrau pob blwyddyn ariannol a gosod lefel Treth y
Cyngor i ganiatáu i filiau gael eu hanfon at breswylwyr. Derbyniodd y cyngor y Setliad Llywodraeth Leol Drafft ar gyfer 2022/23 ar
21 Rhagfyr ac arweiniodd at setliad cadarnhaol o 9.2% a oedd yn cymharu â'r
cyfartaledd o 9.4% i Gymru. Disgwyliwyd y Setliad Terfynol ar 1 Mawrth ond mae
Llywodraeth Cymru (LlC) wedi nodi na fydd yna lawer o newidiadau. O fewn y ffigwr a gyhoeddwyd nododd Llywodraeth Cymru bod nifer o
gyfrifoldebau newydd, nad oes gan bob un ohonynt symiau canlyniadol clir yn y
data. Mae’r disgwyliadau sydd angen eu
hariannu yn cynnwys y canlynol: ·
Yr holl godiadau cyflog ar
gyfer swyddi addysgu a swyddi nad ydynt yn rhai addysgu, sydd wedi'u cynnwys yn
y Grant Cynnal Refeniw; ·
Y cyfrifoldeb i dalu’r Cyflog
Byw Gwirioneddol i’n Gofal Cymdeithasol ein hunain a Gofal Cymdeithasol y sector
preifat. ·
Y costau gweithredol craidd
mewn cysylltiad â'r Cydbwyllgor Corfforedig newydd; a ·
Lliniaru ar gyfer y ffaith y
bydd y Gronfa Caledi Covid yn dod i ben o ddiwedd y flwyddyn ariannol
bresennol. Mae setliad drafft LlC yn cynnwys codiadau setliad cyfartalog dangosol o
3.5% ar gyfer 2023/24 a 2.4% ar gyfer 2024/25 (ffigyrau amcangyfrifedig CSDd
fyddai 3.3% a 2.2%). Er y caiff hyn ei
groesawu o safbwynt cynllunio, mae'n dangos y bydd angen gwneud penderfyniadau
anodd dros y blynyddoedd nesaf. Fel rhan o’r setliad roedd yna “drosglwyddiadau i mewn” o £0.275m sydd wedi
eu trosglwyddo i’r meysydd gwasanaeth perthnasol fel yn y blynyddoedd
blaenorol: ·
Ffioedd Clwyd ar gyfer
Ailgylchu Gwastraff Rhanbarthol £0.109m ·
Grant Gweithlu Gofal Cymdeithasol:
£0.166m. Roedd y cynigion terfynol i fantoli cyllideb 2022/23 yn cael eu dangos yn y
Cynllun Ariannol Tymor Canolig yn Atodiad 1. Roedd y pwysau a nodwyd yn creu cyfanswm o £17.628m. Byddai angen setliad drafft o tua 11% er mwyn
ariannu’r pwysau hyn i gyd. Roedd y
setliad net +9.2% yn cynhyrchu refeniw ychwanegol o £15.005m gan adael bwlch
cyllido o £2.623m. Roedd yr eitemau
canlynol wedi eu cynnwys yn y cynigion er mwyn pontio’r bwlch: ·
Roedd Cyllidebau Incwm Ffioedd
a Thaliadau wedi bod yn destun chwyddiant yn unol â’r polisi Ffioedd a
Thaliadau a gytunwyd a oedd yn cynyddu incwm allanol o £0.120m; ·
Roedd arbedion effeithlonrwydd
gweithredol o £0.634m wedi'u nodi a oedd o fewn cyfrifoldeb dirprwyedig y
Pennaeth Gwasanaeth mewn ymgynghoriad ag Aelodau Arweiniol (gweler Atodiad 2 yr
adroddiad am grynodeb fesul categori); ·
Ni ofynnwyd am unrhyw arbedion
gan y Gwasanaethau Cymorth Cymunedol nac Ysgolion. ·
Argymhellwyd bod Treth y
Cyngor yn cynyddu o 2.95% a fydd, ynghyd â mân newidiadau i Sylfaen Treth y Cyngor, yn creu refeniw ychwanegol o
£1.869m. Roedd hyn yn cymharu â chynnydd y flwyddyn flaenorol o 43.8% a 4.3% y
flwyddyn cyn hynny. Cadarnhaodd Swyddog Adran 151 fod gwaith wedi ei wneud gydag Awdurdodau
Lleol eraill yng Nghymru ar gyfer ymagwedd ar y cyd a CLlLC mewn perthynas â
dyraniad ar gyfer cyflog a’r Cyflog Byw Gwirioneddol mewn lleoliadau Gofal
Cymdeithasol. Nododd y Swyddog Adran 151
hyn i sicrhau aelodau mewn perthynas â’r ffigyrau o fewn yr adroddiad. Mynegodd y Cynghorydd Paul Penlington bryder pe byddai treth y cyngor yn cael ei godi o 2.95% a chododd y pwynt fod tua £14m y flwyddyn ar gyfer gwasanaethu benthyciadau ar gyfer prosiectau’r cyngor. Hefyd cyfeiriodd y Cynghorydd Penlington at ymarfer sganio'r gorwel ar gyfer gwaith cyfalaf a holodd ynglŷn ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
CYNLLUN GOSTYNGIADAU TRETH Y CYNGOR 2022/23 PDF 235 KB Ystried adroddiad
gan y Pennaeth Cyllid ac Eiddo (copi ynghlwm) Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol
Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol, y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, yr
adroddiad ar Gynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor 2022/2023 (a ddosbarthwyd
eisoes). CYNIGIODD y Cynghorydd Julian
Thompson-Hill i dderbyn Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor 2022/2023, EILIWYD
hyn gan y Cynghorydd Peter Scott. Cynhaliwyd pleidlais dros zoom
a chytunwyd yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad. PENDERFYNWYD bod, ·
Aelodau yn mabwysiadu'r Cynlluniau Gostyngiadau Treth y Cyngor a’r
Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013, a’r Rheoliadau Cynlluniau
Gostyngiadau Treth y Cyngor (Gofynion Rhagnodedig a Chynllun Diofyn) (Cymru)
(Diwygiad) 2022 o ran blwyddyn ariannol 2022/23. ·
Aelodau yn cymeradwyo’r elfennau dewisol o’r cynllun, a ddangosir yn adran
4.4, ar gyfer blwyddyn ariannol 2022/23. |
|
AR Y PWYNT HWN (11.55 A.M.) CAFWYD EGWYL O 20 MUNUD AILDDECHREUODD Y CYFARFOD AM 12.15 P.M. |
|
Rhybudd o Gynnig a gyflwynodd y Cynghorydd Brian Jones i’w ystyried gan y Cyngor Llawn (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Tynnodd y Cynghorydd Brian Jones
y Rhybudd o Gynnig yn ôl. |
|
Rhybudd o Gynnig
a gyflwynodd y Cynghorydd
Paul Penlington i’w ystyried
gan y Cyngor Llawn (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Paul Penlington y Rhybudd o Gynnig i'w ystyried gan
y Cyngor Llawn:- “Fod y cyngor hwn yn rhoi’r dasg i swyddogion i geisio cyllid ychwanegol
gan Lywodraeth Cymru er mwyn ariannu ailadeiladu Ysgol Uwchradd Prestatyn yn
llawn". Ar y pwynt hwn fe hysbysodd y Cynghorydd Penlington aelodau ei fod yn
dymuno diwygio ychydig ar eiriad y Rhybudd o Gynnig. Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, AD a Democrataidd y byddai
hyn yn dderbyniol. Darllenodd y Cynghorydd Penlington y gwelliant fel a ganlyn- “Mae’r Cyngor hwn yn rhoi’r dasg i swyddogion i geisio cyllid ychwanegol
gan Lywodraeth Cymru er mwyn ariannu ailadeiladu Ysgol Uwchradd Prestatyn yn
llwyr, wedi ei seilio ar ddyluniadau cynharach a luniwyd ar gyfer rhaglen
Ysgolion yr 21ain ganrif a oedd yn moderneiddio i ddiwallu anghenion presennol
disgyblion uwchradd Prestatyn a'n datganiad argyfwng newid hinsawdd a newid
ecolegol". CYNIGIODD y Cynghorydd Penlington y Rhybudd o Gynnig, EILIWYD hyn gan y
Cynghorydd Glenn Swingler. Eglurodd yr Aelod Arweiniol Addysg, Gwasanaethau Plant ac Ymgysylltu â’r
Cyhoedd, y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts mai’r weithdrefn sydd mewn grym oedd
bod y Bwrdd Moderneiddio Addysg yn asesu cyflwr yr holl ysgolion yn Sir
Ddinbych ac mai dyma'r broses oedd wedi bod mewn grym ers y 14 mlynedd
diwethaf. Roedd dros £2m wedi ei wario ar Ysgol Uwchradd Prestatyn i fynd i’r
afael ag ardaloedd brys ac roedd hyn wedi cynnwys adnewyddu labordai,
uwchraddio’r system wresogi, ffenestri newydd, toiledau newydd ayb. Byddai’r
costau adeiladu safonol ar gyfer ysgol gyfan gwbl newydd ynghyd â chostau
carbon net oddeutu £55m. Felly byddai cost yr astudiaeth ddichonoldeb ei hun yn £850,000. Cadarnhaodd yr Aelod
Arweiniol nad oedd yn ymwybodol o gynlluniau a oedd wedi eu llunio ar gyfer
adeilad newydd i Ysgol Uwchradd Prestatyn nac astudiaeth ddichonoldeb yn 2017.
Byddai’n cadarnhau gyda swyddogion. Nododd y Cynghorydd Hilditch-Roberts o ran y ffordd ymlaen, gan ystyried y
symiau yr oedd hyn yn ei olygu, ei bod yn bwysig fod gan y cyngor broses i
bennu’r drefn flaenoriaeth o ran buddsoddi mewn adeiladau ysgolion. Mae’r broses yn seiliedig ar dystiolaeth, gan
ystyried anghenion priodol yr holl ysgolion i sicrhau yr ymdrinnir â’r rhai
sy’n wynebu’r angen mwyaf yn gyntaf. Cynhaliwyd arolwg cyflwr cynhwysfawr o’r
holl ysgolion er mwyn nodi’r ysgolion oedd angen gwelliannau. Cynhaliwyd yr
arolwg cyn cyflwyno cynigion Ysgolion yr 21ain Ganrif Band B i Lywodraeth Cymru
a oedd wedi eu cyflwyno i’r Cabinet a’r Pwyllgor Craffu ar sawl achlysur. Cafodd yr arolwg hwn ei ystyried gan y Bwrdd
Moderneiddio Addysg a darparwyd gwybodaeth seiliedig ar dystiolaeth y gallent
ei defnyddio i argymell trefn flaenoriaeth ysgolion a oedd angen gwaith. CYNIGIODD y Cynghorydd Hilditch-Roberts welliant yng ngoleuni’r Rhybudd o
Gynnig fod y Bwrdd Moderneiddio Addysg yn cael cais i adolygu arolygon cyflwr
yr holl ysgolion i weld a oeddent wedi eu newid yn sylweddol i gyflwr yr ystâd
ysgol a fyddai’n codi'r cwestiwn a yw trefn flaenoriaeth gyfredol yr ysgolion
yn parhau yn gyfredol a chywir. Fe allai
canlyniad yr adolygiad hwn gael ei adrodd i’r Cabinet yn ogystal ag unrhyw
argymhellion allai fod gan y Bwrdd Moderneiddio Addysg o ganlyniad. EILIODD y Cynghorydd Jeanette Chamberlain-Jones y gwelliant a gyflwynwyd
gan y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts. Eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, AD a Democrataidd y dylai
trafodaeth ddigwydd ar y gwelliant a phe byddai’r gwelliant yn cael ei dderbyn
yna byddai hynny’n dod yn Rhybudd o Gynnig a byddai pleidlais ar hynny fel y
Rhybudd o Gynnig gwreiddiol. Os na
chytunir ar y gwelliant byddai aelodau’n cyfeirio'n ôl at y Rhybudd o Gynnig
fel y cafodd ei gyflwyno gan y Cynghorydd Penlington. Cefnogodd y Cynghorydd Paul Penlington ... view the full Cofnodion text for item 8. |
|
Rhybudd o Gynnig a gyflwynodd y Cynghorydd Tony Flynn i’w
ystyried gan y Cyngor Llawn (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Tynnodd y Cynghorydd Tony
Flynn ei Rybudd o Gynnig yn ôl. |
|
Rhybudd o Gynnig a gyflwynodd y Cynghorydd Rachel Flynn i’w
ystyried gan y Cyngor Llawn (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Rachel Flynn y Rhybudd o Gynnig i'w ystyried gan y
Cyngor Llawn:- Nododd y Cynghorydd Flynn fod y Rhybudd o Gynnig wedi ei gyflwyno ar ran
Grŵp Trawsbleidiol y Merched o’r Grŵp Merched mewn Gwleidyddiaeth. “Rydym ni’n gofyn am i Gyngor Sir
Ddinbych gymryd safbwynt mwy pendant gyda'i bolisi a’i weithdrefnau achwyniad.
Yng ngoleuni'r ddeddf amrywiaeth a chydraddoldeb a ddiweddarwyd, rydym ni’n
gofyn i’r cyngor ffurfio gweithdrefn fewnol newydd i sicrhau y gellir dwyn
ymddygiad cynghorwyr i gyfrif. Rydym hefyd yn gofyn i’r cyngor adolygu ei bolisïau a’i weithdrefnau ar
gyfer adolygu cwynion yn ymwneud â bwlio ac aflonyddu, yn ymwneud â
Chynghorwyr, Swyddogion ac eraill boed yn rhithiol, corfforol neu ar y
cyfryngau cymdeithasol. Argymhelliad 1. Fod y Pwyllgor
Gwasanaethau Democrataidd yn edrych ar y broses gwyno gyfredol i sicrhau ei fod
yn addas i'r diben. 2. Fod y cyngor yn creu
gweithgor amrywiaeth a moeseg i archwilio sut mae’r cyngor yn diogelu a
hyrwyddo amrywiaeth a moeseg dda yng Nghymru, gan gynnwys ymwybyddiaeth o sut
mae merched yn dal i gael eu trin yn anghyfartal ac effeithiau casineb at
ferched a gwahaniaethu rhywiol ar ferched. 3. Ein bod yn fwy pendant
fel cyngor o ran mynd i’r afael ag ymddygiad annerbyniol mewn unrhyw fforwm
cyngor Cymuned, Tref neu Sir.” CYNIGIODD y Cynghorydd Rachel Flynn y Rhybudd o Gynnig, EILIWYD hynny gan y
Cynghorydd Barry Mellor. Ymatebodd yr Arweinydd, y Cynghorydd Hugh Evans, drwy ddiolch i'r
Cynghorydd Flynn am ddod â'r Rhybudd o Gynnig ymlaen. Fel Aelod Arweiniol
Cydraddoldeb ac Arweinydd y Cyngor roedd yn ymrwymedig i sicrhau fod y Cyngor
yn ymdrechu yn barhaus i osod Cydraddoldeb yn greiddiol i’r holl waith a gaiff
ei wneud. Roedd y Cyngor yn ymrwymedig i amrywiaeth ac roedd wedi gwneud datganiad
ym Medi 2021 i ymrwymo i ddod yn gyngor amrywiol a byddai’r Pwyllgor
Gwasanaethau Democrataidd, yn ddiweddarach yr wythnos hon, yn ystyried cynllun
gweithredu drafft yn ymwneud â rhai o’r rhwystrau i gymryd rhan mewn
democratiaeth leol. Yn nhermau anghydfod rhwng aelodau, byddai dyletswydd
gyfreithiol newydd ar Arweinwyr Grŵp yn dod i rym yn dilyn yr etholiadau
ym mis Mai i hyrwyddo a chynnal safonau uchel o ran ymddygiad ymhlith eu
Grwpiau. Hefyd, roedd Adolygiad annibynnol Penn yn ddiweddar o’r fframwaith moesegol
yng Nghymru wedi adrodd i Lywodraeth Cymru ac wedi gwneud argymhellion yn
ymwneud â’r defnydd o gwmpasiad o brosesau datrysiad lleol. Roedd disgwyl ymateb y Llywodraeth i’r
Adolygiad, a manylion unrhyw gynigion i newid canllawiau a/neu ddeddfwriaeth o
ganlyniad. Ymatebodd y Cynghorydd Hugh Evans i’r argymhellion a gâi eu cynnwys o fewn
y Rhybudd o Gynnig fel a ganlyn - 1. Mae’r argymhelliad hwn yn cyfeirio at y broses datrysiad lleol a ddefnyddir
i geisio datrys materion rhwng aelodau o’r Cyngor Sir ar sail anffurfiol heb yr
angen i gynnwys yr Ombwdsmon. Cytunodd y Cynghorydd Evans y dylai fod yna adolygiad o’r broses. CYNIGIODD y Cynghorydd Evans fod Gweithgor o
aelodau'n cael ei sefydlu i ymgymryd ag adolygiad o waith gyda'r Pwyllgor
Safonau a'r Swyddog Monitro i ddatblygu proses addas yng nghyd-destun y
ddyletswydd newydd y cyfeiriodd ato, ac unrhyw newidiadau a gyflwynwyd o
ganlyniad i Adolygiad Penn. 2. Roedd gan y Cyngor, ar un adeg, Grŵp Cydraddoldeb a ddiddymwyd fel
rhan o raglen i brif ffrydio materion cydraddoldeb. Fodd bynnag, mae yna waith parhaus yn cael ei wneud gan y tîm Gwella
Busnes a Moderneiddio i ystyried sefydlu Grŵp Cydraddoldeb a chynigiodd y
Cynghorydd Evans y dylai'r gwaith barhau ac y dylid ystyried unrhyw orgyffwrdd
rhwng materion cydraddoldeb a'r fframwaith moesegol. 3. Byddai’r Cyngor yn darparu cefnogaeth, hyfforddiant ac ... view the full Cofnodion text for item 10. |
|
CEFNOGWR POBL IFANC PDF 205 KB Ystyried adroddiad
gan y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd (copi ynghlwm) i geisio penodi Cefnogwr Pobl Ifanc. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Pennaeth y
Gwasanaethau Cyfreithiol, AD a Democrataidd adroddiad Penodi Cefnogwr Pobl
Ifanc (a ddosbarthwyd eisoes). Ar 7 Rhagfyr 2021 penderfynodd
y Cyngor greu rôl Cefnogwr Pobl Ifanc yn unol â'r disgrifiad o’r rôl sydd wedi
ei atodi fel Atodiad 1. Ceisiwyd enwebiadau gan y
grwpiau gwleidyddol fel y gallai’r Cyngor ethol aelod i’w benodi fel Cefnogwr
Pobl Ifanc. Enwebodd y Cynghorydd Joan
Butterfield y Cynghorydd Cheryl Williams, ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd
Brian Blakeley. Enwebodd y Cynghorydd Julian
Thompson-Hill y Cynghorydd Rachel Flynn, ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd
Peter Scott. Cynhaliwyd pleidlais dros zoom
ac roedd y canlyniadau fel a ganlyn - Y Cynghorydd Cheryl Williams -
19 Y Cynghorydd Rachel Flynn - 15 Felly, PENDERFYNWYD penodi’r Cynghorydd Cheryl
Williams fel Cefnogwr Pobl Ifanc. |
|
RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL Y CYNGOR SIR PDF 410 KB Ystyried Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cyngor (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Pennaeth y
Gwasanaethau Cyfreithiol, AD a Democrataidd Raglen Gwaith i'r Dyfodol y Cyngor,
ynghyd â Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol ar gyfer Sesiynau Briffio'r Cyngor (a
ddosbarthwyd eisoes). Nodwyd ei bod yn arfer arferol
i beidio â chynnal Cyngor Llawn yn ystod y cyfnod cyn yr etholiad a oedd i ddechrau
ar 18 Mawrth ac, felly, byddai cyfarfod y Cyngor a oedd i gael ei gynnal ar 5
Ebrill yn cael ei ganslo. 14 Mawrth 2022 – roedd Cyngor
Arbennig a sesiwn Briffio’r Cyngor i’w cynnal. PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod,
y dylid cymeradwyo a nodi Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cyngor a Sesiynau
Briffio’r Cyngor. |
|
DAETH Y CYFARFOD I BEN AM 1.15 P.M. |