Agenda and draft minutes
Lleoliad: Gynhadledd Fideo
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnodion: Cyflwynwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr Mabon ap Gwynfor, Joan Butterfield, Gareth Davies, Alan Hughes ac Anton Sampson. |
|
DATGAN CYSYLLTIAD Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy’n rhagfarnu ag unrhyw fater a nodwyd yn un i’w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Ni chafodd unrhyw gysylltiad ei ddatgan. |
|
GWAHARDD Y WASG A'R CYHOEDD PENDERFYNWYD - Yn unol
ag Adran 100A(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, bod y Wasg a'r Cyhoedd yn
cael eu gwahardd
o'r cyfarfod tra bod yr eitem
ganlynol o fusnes yn cael ei
hystyried, oherwydd ei bod yn debygol
y bydd gwybodaeth eithriedig yn cael
ei datgelu (fel y'i diffinnir
ym mharagraff 12 ac 14 o
Ran 4, Atodlen 12A y Ddeddf). |
|
PENODI PRIF WEITHREDWR PDF 583 KB Cyfweld ymgeiswyr ac ystyried penodi i swydd Prif Weithredwr. Bydd Panel Penodi Arbennig yn penderfynu ar nifer yr ymgeiswyr i gael eu cyfweld. Cofnodion: Bu i Arweinydd y Cyngor a swyddogion AD adrodd ar y broses recriwtio a gynhaliwyd a rhoddwyd manylion y broses asesu a'r meini prawf a ddefnyddir gan y Panel Penodiadau Arbennig i sicrhau mai dim ond ymgeiswyr a allai fod yn addas i'w penodi a fyddai'n cael gwahoddiad i fynychu cyfarfod y Cyngor heddiw. Rhoddodd yr ymgeisydd gyflwyniad i'r Cyngor ac ymatebodd i gwestiynau gan yr aelodau. Wedi i’r ymgeisydd adael y cyfarfod, trafododd yr aelodau’r cyflwyniad a'r ymatebion i gwestiynau. PENDERFYNWYD - penodi Graham Boase i swydd Prif Weithredwr Cyngor Sir Ddinbych. |