Agenda and draft minutes
Lleoliad: via VIDEO CONFERENCE
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Dogfennau ychwanegol: |
|
DATGANIADAU O FUDDIANT PDF 197 KB Yr Aelodau I ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy’n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|
Derbyn cofnodion cyfarfod y Congor Sir a gynhaliwyd 7 Medi 2021 (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod y Cyngor Llawn a gynhaliwyd ar 7 Medi 2021. PENDERFYNWYD
cadarnhau bod cofnodion cyfarfod y Cyngor Llawn a
gynhaliwyd ar 7 Medi 2021 yn gofnod cywir. |
|
DIGWYDDIAD LLIFOGYDD 9 CHWEFROR 2020 - ADRODDIAD YMCHWILIO I LIFOGYDD ADRAN 19 PDF 229 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd
yr Aelod Arweiniol Gwastraff, Cludiant a'r Amgylchedd, y Cynghorydd Brian Jones
Adroddiad Ymchwilio i Lifogydd Adran 19 ar Ddigwyddiad Llifogydd 9 Chwefror
2020. Ar 9 Chwefror 2020, cafwyd llifogydd helaeth ar
draws Sir Ddinbych o ganlyniad i Storm Ciara. Ers hynny, mae swyddogion y
Cyngor, yn ogystal â swyddogion o Gyfoeth Naturiol Cymru a Dŵr Cymru, wedi
cynnal ymchwiliadau i’r llifogydd er mwyn deall y rhesymau pam y digwyddodd y
llifogydd, y tebygolrwydd y bydd yn digwydd eto ac i asesu p’un a ellir rhoi
mesurau ar waith i leihau llifogydd yn y dyfodol. Dechreuodd Keith Ivens o Gyfoeth Naturiol Cymru gyda’r ymholiadau a godwyd
am Lanelwy. Cadarnhaodd fod yr hyn a ddigwyddodd ym mis Chwefror 2020 wedi bod
yn ddigwyddiad eithafol. Roedd yr amddiffynfeydd newydd wedi cael eu hadeiladu
a’u cynllunio ar safon amddiffyn 1 mewn 100 mlynedd yn cynnwys caniatáu ar
gyfer newid hinsawdd. Yr hyn a welwyd yn y dadansoddiad o’r digwyddiad yn
Atodiad B oedd dadansoddiad hydrolegol o’r digwyddiadau oherwydd Storm Ciara. Amcangyfrifwyd bod Storm Ciara yn ddigwyddiad 1 mewn 250 / 1 mewn 300
mlynedd ar ei gwaethaf. Yn syth ar ôl y digwyddiad, holwyd pam bod gorlifo wedi
digwydd mewn un lleoliad penodol. Cynhaliwyd trafodaethau helaeth gyda’r
cynllunwyr ynghyd â modelu eang ar ôl y digwyddiad i ddeall beth oedd wedi
digwydd yn y lleoliad hwn. Roedd hyn wedi’i ddatrys gyda’r cynllunwyr ac
arweiniodd at y gwaith sy’n cael ei wneud ar hyn o bryd yn Llanelwy. Roedd gan
gymuned Llanelwy amddiffyniad da iawn ac roedd 370 eiddo wedi cael eu
hamddiffyn, a fyddai wedi cael llifogydd fel arall. Methiant recordydd lefel dŵr yn Llanelwy dan yr A55. Y math o offer a
osodwyd yn y lleoliad hwnnw oedd trawsddygiadur pwysedd oedd â therfyn uchaf ac
isaf, ond roedd wedi pasio’r terfyn uchaf. Roedd y trawsddygiadur pwysedd yn
dal yn ei le ond bellach roedd sensor lefel uwchsonig ychwanegol yn wynebu am i
lawr wedi ei osod ar Bont Spring Gardens oedd yn galluogi Cyfoeth Naturiol
Cymru fonitro lefelau’r dŵr ac a oedd yn bwydo i’r model rhagamcanu
llifogydd ar gyfer Afon Elwy. Amddiffyn cymunedau gwledig - Edrychwyd ar ardal Wigfair a Ffordd Dinbych
Isaf fel rhan o gynllun Llanelwy i benderfynu a ellid cynnwys rhai o’r eiddo ar
hyd yr ardal honno yn y cynllun. Ar yr adeg honno, penderfynwyd na ellid
cynnwys yr eiddo gan y byddai’n gwneud y cynllun yn aneconomaidd, ac felly ni
ellid mynd â hyn y ei flaen. Cynigiwyd
a rhoddwyd amddiffyniad ar lefel eiddo i nifer o’r eiddo. Roedd marc cwestiwn ynglŷn ag adolygu amlinellau mapiau llifogydd yn
yr ardaloedd hynny. Dros y 12/18 mis diwethaf, roedd Cyfoeth Naturiol Cymru
wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i adolygu, diweddaru a newid yr hen
fapiau llifogydd oedd ar gael a rhyddhawyd mapiau llifogydd newydd o’r enw
Asesiad Risg Llifogydd Cymru yn gynharach eleni oedd yn edrych ar yr holl
lifogydd o ddŵr wyneb, llifogydd o afonydd, llifogydd heblaw’r prif
afonydd i gyd mewn un lle. Roedd amddiffyniad ar lefel eiddo yn argymhelliad 1-5 mlynedd Cyfoeth
Naturiol Cymru. Roedd peilot amddiffyn ar lefel eiddo wedi cael ei gynnal yn
ardal Llanfair TH. Byddai canlyniadau’r
peilot yn cael eu hasesu ac yna byddai’n edrych ar gymunedau bychan gwledig na
fyddai’n elwa o gynllun mwy a hefyd ar ddewisiadau eraill, amddiffyn ar lefel
eiddo yn un ohonynt. Yn anorfod, roedd hi bob amser yn anodd mewn cymunedau bach mwy gwledig i gyflawni’r manteision o ran costau i gynllunio a delio â chynllun mwy, a dyna pam y cynhaliodd Cyfoeth Naturiol Cymru asesiad o ddewisiadau ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Paul Penlington ar ran y Grŵp Plaid i’w ystyried gan y Cyngor Llawn (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Paul Penlington ar ran
Grŵp Plaid Cymru y Rhybudd o Gynnig canlynol ar gyfer sylw’r Cyngor Llawn: ‘Er mwyn lleihau prinder staff, ac i sicrhau bod
ein dinasyddion mwyaf bregus yn cael gofal priodol, bod y Cyngor hwn yn ysgrifennu
at lywodraeth y DU i ofyn i weithwyr gofal cymdeithasol gael eu dynodi ar frys
fel gweithwyr medrus fel eu bod yn bodloni gofynion mynediad y system mewnfudo
ôl-Brexit sy’n seiliedig ar bwyntiau, a gyflwynwyd yn Ionawr 2021.’ Ymatebodd
yr Aelod Arweiniol Lles ac Annibyniaeth, y Cynghorydd Bobby Feeley. Diolchodd y
Cynghorydd Feeley i Grŵp Plaid Cymru am gyflwyno’r Rhybudd o Gynnig i’r
Cyngor Llawn gan ei fod yn tynnu sylw at y prinder dybryd o weithwyr gofal
cymdeithasol. Roedd y ddeddfwriaeth y cyfeiriwyd ati yn rhwystr arall eto i
ychwanegu at recriwtio a chadw staff gofal cymdeithasol ar yr adeg hon, nid dim
ond yn Sir Ddinbych ond ledled Cymru a’r
DU. Mynegodd
y Cynghorydd Feeley ddicter nad oedd gweithwyr gofal cymdeithasol wedi eu
dynodi fel gweithwyr medrus ac o’r herwydd nad oeddent yn bodloni gofynion
mynediad y system mewnfudo ôl-Brexit sy’n seiliedig ar bwyntiau, a gyflwynwyd
yn Ionawr 2021 ac a gyfeiriwyd ati yn y Rhybudd o Gynnig. Roedd
y Rhybudd o Gynnig wedi rhoi cyfle i’r Cynghorydd Feeley roi gwybod i aelodau
am y gwaith caled oedd wedi digwydd yn y cefndir cyn gynted ag y cyhoeddwyd
bwriadau’r Llywodraeth. Hyd yn oed yn
2019 bu Cabinet a Swyddogion Cyngor Sir
Ddinbych yn cynnal trafodaethau â Llywodraeth Cymru a’r Swyddfa Gartref am hyn.
Drwy
Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau
Cymdeithasol Cymru, cyfrannodd Cyngor Sir Ddinbych at ymateb polisi
Conffederasiwn GIG Cymru i system mewnfudo’n seiliedig ar sgiliau Llywodraeth y
DU, sef y Papur Gwyn, a’i gymeradwyo ym mis Medi 2019. Amlygodd yr adroddiad y byddai’r deddfau
newydd yn cael effaith negyddol ar y gweithlu gofal cymdeithasol, oedd eisoes
wedi profi prinder difrifol ac anawsterau recriwtio staff newydd. Cadarnhaodd y Cynghorydd Feeley y byddai’n
rhannu’r adroddiad â’r holl aelodau yn dilyn cyfarfod y Cyngor Llawn. Hefyd,
roedd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol, Nicola Stubbins, yn ei rôl fel
Llywydd Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru ar y pryd wedi
cyhoeddi datganiad i’r wasg ym mis Medi y llynedd yn galw am i weithwyr gofal
gael eu cynnwys ar y rhestr o alwedigaethau lle’r oedd prinder. Eto,
cadarnhaodd y Cynghorydd Feeley y byddai’n rhannu copi o’r datganiad i’r wasg
â’r holl aelodau yn dilyn cyfarfod y Cyngor Llawn. Er
gwaetha’r holl ymdrechion hyn, cafodd y system mewnfudo newydd ei chyflwyno heb
ddynodi’r gweithlu gofal cymdeithasol fel gweithwyr medrus ac nid wyf yn
obeithiol y bydd y ffaith bod Sir Ddinbych
ar ei phen ei hun yn galw ar Lywodraeth y DU yn cael yr effaith a
ddymunir. Rhoddodd
y Cynghorydd Feeley sicrwydd i’r Cyngor Llawn bod Cyngor Sir Ddinbych, drwy
Swyddogion ac Aelodau yn gweithio gyda
Llywodraeth Cymru a San Steffan ar y mater mwy o sut i gael system gofal
cymdeithasol oedd yn urddasol a chynaliadwy a chydnabu rôl werthfawr pawb oedd
yn gweithio yn y sector. Cynigiodd
y Cynghorydd Paul Penlington y Rhybudd o Gynnig ac eiliwyd gan y Cynghorydd
Meirick Lloyd Davies. Ar
y pwynt hwn, gofynnodd y Cynghorydd Paul Penlington am bleidlais wedi’i
chofnodi. Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a
Democrataidd fod angen i bum aelod oedd yn bresennol gefnogi pleidlais wedi’i
chofnodi. Cododd 6 aelod eu dwylo i gefnogi pleidlais wedi’i chofnodi. Cynhaliwyd
y bleidlais ac roedd y canlyniad fel a ganlyn: O BLAID – Y Cynghorwyr Brian Blakeley, Joan Butterfield, Ellie Chard, Ann Davies, Meirick Lloyd ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL Y CYNGOR SIR PDF 415 KB Ystyried Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cyngor (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, AD a
Democrataidd Raglen Gwaith i'r Dyfodol y Cyngor, ynghyd â Rhaglen Gwaith i'r
Dyfodol ar gyfer Sesiynau Briffio'r Cyngor (a ddosbarthwyd ymlaen llaw). 7
Rhagfyr 2021 - (i)
Asesiad o Anghenion y
Boblogaeth (ii)
Cefnogwr Pobl Ifanc (iii)
Ffyrdd Newydd o Weithio 8
Tachwedd 2021 - Sesiwn Briffio’r Cyngor yn cael ei chynnal Sesiwn
Briffio ychwanegol i’w chynnal ym mis Tachwedd, dyddiad i’w gadarnhau. 25
Ionawr 2022 - Adroddiad gosod y gyllideb 22
Chwefror 2022 - Materion Treth y Cyngor i gyhoeddi biliau treth y cyngor PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr
uchod, y dylid cymeradwyo a nodi Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cyngor a Sesiynau
Briffio’r Cyngor. |