Agenda and draft minutes
Lleoliad: via VIDEO CONFERENCE
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Dogfennau ychwanegol: |
|
DATGANIADAU O FUDDIANT PDF 197 KB Yr Aelodau i
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ddatganwyd
unrhyw gysylltiad. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys
yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid oedd unrhyw
faterion brys. CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD
PAUL PENLINGTON - “Yn dilyn tynnu milwyr y DU o Affganistan, a
allwch ddweud wrthym faint o ffoaduriaid unigol dilynol rydym yn bendant yn eu
cymryd yn Sir Ddinbych a phryd fyddant yn cyrraedd?" Ymateb gan y Cynghorydd Bobby Feeley, Aelod
Arweiniol Lles ac Annibyniaeth – “rydym yn meddwl am y sawl a effeithiwyd gan y digwyddiadau trasig
diweddar yn Affganistan, gan gynnwys y sawl sy’n byw yma, cyn filwyr,
cyfieithwyr a ffoaduriaid eraill sy'n pryderu am aelodau o'u teulu gartref. Rydym i gyd wedi gwylio mewn ofn wrth i
ddigwyddiadau ddatblygu yn Affganistan dros y misoedd diwethaf, gan achosi
gymaint o ansicrwydd i’w phobl. Gallaf gadarnhau bod aelodau’r Cabinet wedi trafod
y sefyllfa o ran ffoaduriaid o Affganistan ddoe, ac wedi cytuno y dylai Sir
Ddinbych gynyddu ein hymrwymiadau presennol drwy'r Cynllun Adsefydlu Byd-eang i
ddeg teulu. Bydd hyn yn ein galluogi i gynnig tai a chefnogaeth i bum teulu o
Affganistan ar hyn o bryd, er mae'n bosib iawn y caiff ei ymestyn os yw'r
sefyllfa a'r cynllun yn parhau ar ôl y flwyddyn gyntaf. Mae hyn yn ychwanegol
i’r ymrwymiad presennol i gefnogi pum teulu y flwyddyn dan Raglen Ffoaduriaid o
Syria a Byd-eang y cytunwyd arni rhai blynyddoedd yn ôl. Mae un teulu o Affganistan eisoes wedi ei dderbyn ac wedi ymgartrefu yn Sir
Ddinbych dros y bythefnos ddiwethaf. Mae llety yn cael ei gyflenwi ledled y sir, yn y sector rhentu preifat i
ddechrau, yn unol â’r rhaglen ffoaduriaid gyfredol, ac rydym eisoes wedi cael
nifer o gynigion o ran llety ystafelloedd sengl i dai 5 ystafell wely. Er ein bod yn croesawu cynigion o ran
llety, ni fydd yn bosib o hyd eu defnyddio, oherwydd anghenion teuluoedd unigol. Yn anffodus, nid yw Sir Ddinbych yn gallu derbyn
cynigion o ran celfi, dillad, teganau ac ati, ond rydym yn gweithio ar y cyd
gyda sefydliadau eraill a fydd yn ceisio dod o hyd i ffyrdd effeithiol o
ddefnyddio’r cynigion caredig hyn o gymorth. Mae’r Swyddfa Gartref wedi cyhoeddi rhaglen
ariannu blwyddyn o hyd ar gyfer cynllun Affganistan, er mwyn i Awdurdodau Lleol
ddarparu cefnogaeth o ran addysg a swyddi. Yn ychwanegol at hynny, maent wedi
nodi ymrwymiad parhaus i gefnogi costau tai. Mae’r cyllid yn debyg i beth a
dderbyniwyd gan y Cyngor i'r Cynllun Unigolion Diamddiffyn o Syria, a bydd
aelodau'n ymwybodol ein bod wedi ei ddefnyddio'n llwyddiannus i gefnogi 22
teulu dros y pum mlynedd diwethaf i gael tai ac addysg, gyda thri unigolyn nawr
yn gweithio ac un yn ymgeisio am eu trwydded yrru HGV. Maent wedi cael eu
cefnogi gan Fentor penodol yn Sir Ddinbych yn Gweithio, a ariannwyd gan y
cynllun. Mae aelodau’r Cabinet yn falch o allu cefnogi
teuluoedd o Affganistan yn unol â’r dymuniad yng Nghymru i gael ei gweld fel
noddfa i sicrhau y gall teuluoedd integreiddio o fewn cymunedau Cymraeg o'u
diwrnod cyntaf yma. Fe fyddwn yn gwneud popeth y gallwn i roi tai
priodol a chroeso cynnes fel y bydd ein cymdogion newydd yn dod yn rhan bwysig
o’n cymuned, fel y mae cynifer wedi ei wneud yn y gorffennol. O wybod y sefyllfa o ran tai, bydd hyn yn sicr yn
dasg anodd, ond yn un yr ydym yn llwyr fwriadu ei chyflawni. Mae pob Awdurdod Lleol yng Nghymru yn chwarae ei
ran mewn cefnogi’r Rhaglen Adleoli a Chynorthwyo Affganiaid a, thra bod yr
ymrwymiad hwn mewn perthynas â Sir Ddinbych, rydym yn gweithio’n rhanbarthol ac
ar lefel strategol i rannu gwybodaeth a chymorth fel bo’n briodol.” |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Cyngor Sir a gynhaliwyd 6 Gorffennaf 2021 a/ac 22 Gorffennaf 2021
(copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod y Cyngor Llawn a gynhaliwyd ar 6 Gorffennaf 2021. PENDERFYNWYD cadarnhau
bod cofnodion cyfarfod y Cyngor Llawn a gynhaliwyd ar 6 Gorffennaf 2021 yn
gofnod cywir. Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod y Cyngor Arbennig a gynhaliwyd ar 22 Gorffennaf 2021. PENDERFYNWYD cadarnhau
bod cofnodion y Cyfarfod Arbennig a gynhaliwyd ar 22 Gorffennaf 2021 yn gofnod
cywir. |
|
AMRYWIAETH MEWN DEMOCRATIAETH PDF 229 KB Ystyried
adroddiad gan Bennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, AD a Democrataidd (copi ynghlwm),
i hysbysu Aelodau ynghylch Rhaglen Amrywiaeth mewn Gwasanaethau Democrataidd
CLlLC. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr Arweinydd, y Cynghorydd Hugh Evans,
yr adroddiad Amrywiaeth mewn Democratiaeth (a gylchredwyd yn flaenorol) i dynnu
sylw aelodau at Raglen Amrywiaeth mewn Democratiaeth CLlLC a’r camau gweithredu
a gymeradwywyd gan Gyngor CLlLC, ynghyd â chais i bob Cyngor yng Nghymru
ymrwymo i fod yn ‘Gynghorau Amrywiol’. Roedd gan CLlLC Raglen Amrywiaeth mewn
Democratiaeth uchelgeisiol i geisio sicrhau bod siambrau cynghorau yn fwy
cynrychioliadol o’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu. Roeddent wedi bod yn
ystyried ffyrdd o sicrhau mwy o amrywiaeth ar ôl etholiadau llywodraeth leol
mis Mai 2022. Ym mis Medi 2018, cytunodd Cyngor CLlLC i gymryd
camau i gynyddu cydraddoldeb rhywiol ac amrywiaeth mewn Cynghorau cyn
etholiadau 2022. Roedd hyn er mwyn cydnabod y diffyg amrywiaeth sydd yng
Nghynghorau Cymru. Sefydlwyd gweithgor trawsbleidiol er mwyn edrych ar
dangynrychiolaeth ehangach mewn democratiaeth. Mewn cyfarfod arbennig a
gynhaliwyd ym mis Mawrth eleni, cafodd Cyngor CLlLC adroddiad gan y gweithgor
trawsbleidiol hwnnw gyda chynigion wedi’u cynllunio i gyflawni newid sylweddol
mewn amrywiaeth ar ôl etholiadau 2022. Cytunodd Cyngor CLlLC
yn unfrydol bod angen ymdrech unedig ar y cyd ar draws teulu llywodraeth leol a
phleidiau gwleidyddol. O ganlyniad i’r cyfarfod hwnnw, anfonwyd llythyr at bob
Awdurdod Lleol yng Nghymru, wedi’i lofnodi gan bob un o arweinwyr y grwpiau
gwleidyddol a gaiff eu cynrychioli ar Gyngor CLlLC. Mae copi o’r llythyr hwnnw
wedi ei atodi fel Atodiad 2 i’r adroddiad a gylchredwyd yn flaenorol. Ceisiwyd ymrwymiad i’r datganiad canlynol: Mae’r Cyngor
hwn yn ymrwymo i fod yn Gyngor Amrywiol. Rydym yn cytuno
i: ·
Ddarparu
ymrwymiad cyhoeddus clir i wella amrywiaeth mewn democratiaeth ·
Arddangos
diwylliant agored a chroesawgar i bawb, gan hyrwyddo’r safonau uchaf o
ymddygiad ·
Gosod
Cynllun Gweithredu Cyngor Amrywiol lleol cyn etholiadau lleol 2022. Arddangos
ymrwymiad i ddyletswydd gofal ar gyfer Cynghorwyr. ·
Darparu
hyblygrwydd ym musnes y cyngor drwy adolygu ein trefniadau ymarferol ar gyfer
cynnal cyfarfodydd ·
Sicrhau
fod yr holl aelodau yn ymwybodol o’r lwfansau a’r cyflogau y mae ganddynt hawl
iddynt, yn arbennig unrhyw ad-daliadau am gostau gofal, fel bod yr holl aelodau
yn derbyn ad-daliadau teg am eu gwaith ac nad yw rôl yr aelod yn gyfyngedig i’r
rhai a all ei fforddio. Os yw’r datganiad i’w gymeradwyo, byddai adroddiad
mwy manwl yn cael ei gyflwyno i Bwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd i
ddatblygu Cynllun Gweithredu Cyngor Amrywiol cyn etholiadau llywodraeth leol
2022. Yn ystod trafodaethau codwyd y pwyntiau canlynol: ·
Cododd
y Cynghorydd Tony Thomas y mater ei fod yn y gorffennol o gael ei enwebu i fod
yn Gynghorydd wedi gorfod ymddiswyddo o'i swydd fel athro. Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, AD a Democrataidd fod
CLlLC wedi bod yn edrych ar yr agwedd honno o’r broses enwebu. ·
Cododd
y Cynghorydd Bobby Feeley fater y
cydbwysedd rhwng y rhywiau yng Nghyngor Sir Ddinbych. Roedd 14 o’r Cynghorwyr yn fenywod, roedd
1 aelod o’r Cabinet yn fenyw a dim ond un Cadeirydd o’r amrywiol bwyllgorau
oedd yn fenyw. Roedd hyn yn gofyn am newid diwylliannol gan, yn ei barn hi, nid
oedd llawer o fenywod yn gweld eu hunain mewn gwleidyddiaeth. O ran cynghorwyr
hŷn, roedden nhw yn dod â llawer o brofiad i’r rôl felly byddai cyngor
amrywiol yn fwy priodol. ·
Nodwyd
fod cyfarfodydd wedi bod yn cael eu cynnal o bell o ganlyniad i covid. Byddai cyfarfodydd o bell yn rhoi cyfle i
fwy o bobl sefyll, gan na fyddai'n cymryd amser i deithio i ac o fannau
cyfarfod. Roedd hyn yn hynod o fuddiol os oedd unigolyn sy'n gweithio yn dymuno
sefyll fel cynghorydd yn y dyfodol. ·
Codwyd
mater camdriniaeth i gynghorwyr gan aelodau o’r cyhoedd, yn arbennig cynghorwyr
benywaidd. Ni fyddai hyn yn ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
Rhybudd o Gynnig
gan y Cynghorydd Rachel Flynn ar ran Grŵp y Ceidwadwyr Cymreig i'w
ystyried gan y Cyngor Llawn (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd
y Cynghorydd Tony Thomas y Rhybudd o Gynnig canlynol ar ran Grŵp y
Ceidwadwyr Cymreig i’w ystyried gan y Cyngor Llawn: “Bod Cyngor
Sir Ddinbych yn penodi Cefnogwr Pobl Ifanc ar gyfer pawb o dan ddeunaw oed.” Yn ystod trafodaethau trylwyr gofynnwyd beth
fyddai rôl Cefnogwr Pobl Ifanc. Awgrymwyd cyfeirio rôl y Cefnogwr Pobl Ifanc at
Bwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd i ddiffinio’r rôl ac yna cyflwyno
adroddiad arall i’r Cyngor Llawn yn y dyfodol. Cynigiodd y
Cynghorydd Tony Thomas y gwelliant fod y Rhybudd o Gynnig yn cael ei gyflwyno i
Bwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd i ddiffinio’r rôl a bod adroddiad arall yn
cael ei gyflwyno i’r Cyngor Llawn, ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Martyn
Holland. Cynhaliwyd
pleidlais a phleidleisiodd y mwyafrif o aelodau o blaid, gydag un aelod yn
pleidleisio yn erbyn y gwelliant. PENDERFYNWYD fod adroddiad ar rôl y Cefnogwr Pobl Ifanc
yn cael ei gyflwyno i Bwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd i ddiffinio’r rôl a
bod adroddiad arall yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor Llawn. |
|
RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL Y CYNGOR SIR PDF 419 KB Ystyried Rhaglen
Gwaith i’r Dyfodol y Cyngor (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, AD
a Democrataidd Raglen Gwaith i'r Dyfodol y Cyngor, ynghyd â Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol
ar gyfer Sesiynau Briffio'r Cyngor (a ddosbarthwyd ymlaen llaw). ·
Gweithdy
ar y Cyflog Byw Gwirioneddol i’w gynnal yr wythnos ganlynol ·
Gweithdy
i’w drefnu cyn diwedd Medi 2021 yn ymwneud â’r ymgynghoriad cyfredol gan
Lywodraeth Cymru ar Ganllawiau Statudol ar gyfer Cyd Bwyllgorau
Corfforaethol. Dyddiad y gweithdy i’w gadarnhau. PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, y dylid cymeradwyo
a nodi Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cyngor a Sesiynau Briffio’r Cyngor. |
|
DAETH Y CYFARFOD I BEN AM
11.36 A.M. |