Agenda and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun LL15 1YN
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorwyr I.W. Armstrong, P.C.
Duffy, H.H.
Evans, T.R.
Hughes, E.A. Jones a P.W. Owen. Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorydd D.Simmons yn ei ôl yn
dilyn triniaeth feddygol ddiweddar, a dymunodd y Cadeirydd ac Aelodau'r Cyngor
yn dda i'r Cyn-Gynghorydd Richard Jones oedd yn sâl ar hyn o bryd. Hysbyswyd
yr Aelodau bod y Cynghorydd H.H. Evans yn mynychu seremoni graddio ei
ferch ac na fyddai’n gallu mynychu’r cyfarfod. Cyhoeddodd y Cadeirydd y byddai’n gadael cyn diwedd y
cyfarfod i fynychu Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol yn Llangollen a byddai’r
Is-Gadeirydd, y Cynghorydd B.Blakeley, yn cadeirio gweddill y cyfarfod. Cytunodd
yr Aelodau y dylid anfon llythyr at achubwyr bywyd y Rhyl Joshua Clough a Simon
Casey, i ddiolch iddynt am eu gwroldeb a’u dewrder wrth gynorthwyo i achub
aelod o'r cyhoedd. Llongyfarchodd y
Cadeirydd a’r Aelodau y Cynghorydd M.Ll. Davies ar gael ei benodi’n Gadeirydd
Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru. |
|
DATGAN CYSYLLTIAD Dylai Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy’n rhagfarnu gydag unrhyw
fater a nodwyd y dylid ei hystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Ni ddatganodd
unrhyw Aelod gysylltiad personol neu ragfarnllyd i unrhyw fater sy'n cael ei
ystyried yn y cyfarfod. |
|
MATERION BRYS FEL Y’U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys
o dan Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw
eitem y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel mater brys
dan Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. |
|
DYDDIADUR Y CADEIRYDD PDF 58 KB Nodi ymrwymiadau
dinesig Cadeirydd y Cyngor (copi ynghlwm). Cofnodion: Roedd
rhestr o ddigwyddiadau dinesig a fynychwyd ar ran y Cyngor gan y Cadeirydd a'r
Is-Gadeirydd, ar gyfer cyfnod 30 Mai 2013 nes 24 Mehefin 2013 wedi'u cylchredeg
gyda'r papurau ar gyfer y cyfarfod. Darparodd
y Cadeirydd grynodeb o’r digwyddiadau canlynol:- 31 Mai 2013. Gŵyl Gerddorol Ryngwladol Gogledd Cymru - fel Cefnogwr
Anableddau Dysgu, eglurodd y Cadeirydd y byddai cyngerdd yn cael ei gynnal yng
Nghadeirlan Llanelwy ar gyfer unigolion ag anableddau dysgu. Cadarnhaodd bod
rhodd o £1,000 wedi’i roi tuag at y digwyddiad o gronfa'r Cadeirydd a £1,000
pellach ar gyfer costau cludiant. 14 Mehefin 2013. Aeth y Cadeirydd i Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan, i
ddechrau taith feicio a chyflwynodd siec o £100 tuag at ddarparu robot i gynnal
llawdriniaeth twll clo. 20 Mehefin 2013. Diolchodd y Cadeirydd i bawb oedd yn rhan o Ŵyl
Celfyddydau Perfformio Ysgolion Sir Ddinbych, a gynhaliwyd dros gyfnod o bedair
noson, am ddarparu digwyddiad ardderchog. 26 Mehefin 2013. Fel Llywodraethwyr Ysgol Brondyffryn a Gerddi Glasfryn
Dinbych, roedd y Cadeirydd a'r Cynghorydd R.J. Davies, wedi ymweld â’r ysgol i
longyfarch y staff am yr adroddiad ysgol ardderchog yn dilyn ymweliad annisgwyl
gan arolygwyr ysgolion. PENDERFYNWYD – y
dylid nodi a derbyn y rhestr o ddigwyddiadau dinesig a fynychwyd ar ran y
Cyngor gan y Cadeirydd a’r Is-Gadeirydd, a dylid nodi sylwadau’r Cadeirydd. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Cyngor Sir a gynhaliwyd ar 4 Ebrill 2013 (copi ynghlwm). Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion
cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 4 Mehefin 2013. PENDERFYNWYD – derbyn
cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 4 Mehefin 2013 fel cofnod cywir. |
|
ADRODDIAD YMCHWILWYR Y LLIFOGYDD PDF 91 KB Ystyried
adroddiad yr Uwch Beiriannydd, Rheoli Perygl Llifogydd (copi ynghlwm) ar
ganfyddiadau’r ymchwiliad i’r llifogydd, a'r diweddaraf ynglŷn â’r
ymchwiliad i lifogydd Glasdir. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Roedd copi o adroddiad gan Uwch Beiriannydd: Rheoli Risg Llifogydd, oedd yn darparu manylion
canfyddiadau archwiliad y llifogydd, a diweddariad o gynnydd yr archwiliad i
ddigwyddiad llifogydd Glasdir, wedi’i gylchredeg gyda'r papurau ar gyfer y
cyfarfod. Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd
D.I. Smith a'r Cyfarwyddwr Corfforaethol: Uchelgais Economaidd a Chymunedol
(CDECA). Cadarnhawyd fod yr archwiliad i’r
llifogydd ledled Sir Ddinbych ym mis Tachwedd 2012, wedi'i gwblhau gan eithrio
Glasdir, lle yr oedd cymhlethdod y materion yn ymwneud â'r digwyddiad llifogydd
yn golygu bod yr archwiliad yn parhau. Roedd cryn dipyn
o lifogydd mewn 12 lleoliad gwahanol ledled Sir Ddinbych ar 26 a 27 Tachwedd
2012 gyda thua 500 o adeiladau wedi’u heffeithio. O dan amodau Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 roedd y Cyngor wedi
cynnal archwiliad i achosion y llifogydd ac roedd Cyfoeth Naturiol Cymru wedi
cefnogi’r archwiliad. Tarddiad y llifogydd oedd y prif afonydd, a Chyfoeth Naturiol Cymru oedd yr
Awdurdod rheoli risg ar gyfer y rhain, a chyrsiau dŵr cyffredin, a Sir
Ddinbych oedd yr Awdurdod rheoli risg ar gyfer y rhain. Trefnwyd adrodd am yr ymchwiliad i'r Cyngor ym mis
Mai ond roedd wedi ei ohirio oherwydd cymhlethdod a maint archwiliad dau
ddigwyddiad llifogydd mawr yn Llanelwy a Glasdir. Roedd archwiliad digwyddiad Llanelwy wedi’i gwblhau a’i
grynhoi yn Atodiad 2. Byddai adroddiad llawn Glasdir yn cael ei ohirio nes fis
Medi ac mae cylch gorchwyl yr archwiliad
wedi'i atodi fel Atodiad 1. Diben yr
archwiliad oedd egluro rhesymau’r llifogydd, tebygolrwydd y bydd yn digwydd eto
a beth y gellir ei wneud i reoli risg llifogydd yn briodol yn y dyfodol. Roedd meini
prawf ar gyfer cytuno lleoliad i archwilio'r deg safle yn cynnwys: ·
Un neu fwy o adeiladau gyda llifogydd mewnol ·
Aflonyddu isadeiledd hanfodol e.e. ffyrdd neu
wasanaethau. ·
Yr uchod 'bron' ag ailadrodd. Penderfynwyd peidio â chynnwys llifogydd cyffredinol tir amaethyddol fel
rhan o'r ymchwiliad oni bai bo'r digwyddiad llifogydd yn anarferol neu’n
annisgwyl. Fodd bynnag, byddai effaith llifogydd ar dir amaethyddol yn cael ei
drafod ar lefel genedlaethol. Mae archwiliad llifogydd y rhan fwyaf o leoliadau wedi'u cyflawni ar y cyd
gan Sir Ddinbych a Chyfoeth Naturiol Cymru. Oherwydd cymhlethdod y digwyddiadau
yng Nglasdir, roedd archwilwyr annibynnol wedi'u comisiynu i gynnal yr
archwiliad i lifogydd y lleoliad hwn. Gofynnwyd i’r
Archwilwyr Annibynnol adolygu canfyddiadau archwiliad y Cyngor a Chyfoeth
Naturiol Cymru ar gyfer holl leoliadau llifogydd eraill ac roedd y rhain yn
cynnwys:- ·
Llanelwy, gan gynnwys Ffordd Isaf Dinbych ·
Rhuddlan gan gynnwys Lôn Sarn ·
Y Brwcws, Dinbych ·
Llanynys ·
Gellifor ·
Glasdir, Rhuthun ·
·
Llanbedr Dyffryn Clwyd ·
Loggerheads ·
Corwen ·
Glyndyfrdwy Mae adroddiad yn cynnwys canfyddiadau’r archwiliad wedi’i gynnwys fel
Atodiad 2. Mae’r gwaith archwilio llifogydd wedi’i gydlynu gan Weithgor Archwilio
Llifogydd yn cynnwys swyddogion y Cyngor, Cyfoeth Naturiol Cymru ac Awdurdod
Cefnffyrdd. Hyd yn hyn, mae tri briff budd-ddeiliad wedi’u cyflwyno ac mae’r rhain
wedi’u cynnwys er gwybodaeth yn Atodiad 3. Cynhaliwyd cyfarfodydd hefyd gyda
chynrychiolwyr trigolion yn y ddau leoliad mwyaf y llifogydd yng Nglasdir a
Llanelwy. Roedd Sir Ddinbych wedi ystyried mesurau dros dro i leihau risg llifogydd
wrth aros am ganlyniad yr archwiliad. O ganlyniad, mae’r gwaith canlynol wedi’i gyflawni: •
Gosod falfiau un
ffordd gwrth-llifogydd ar ddraeniau dŵr yr arwyneb yn y Brwcws, Dinbych. •
Yng Nglasdir,
tynnu rhwyllau diogelwch ar geuffos 5 bocs, gosod medrydd
dŵr telemetreg dros dro yn sianel y geuffos ac adeiladu llawr caled uwch
ben y geuffos i alluogi mynediad i dynnu malurion yn ystod llifogydd. Gall cost gweithredu’r argymhellion mewn perthynas â llifogydd cyrsiau dŵr cyffredin fod hyd at £1m, ac ni ellir cynnwys hyn ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
DRAFFT STRATEGAETH UCHELGAIS ECONOMAIDD A CHYMUNEDOL PDF 124 KB Ystyried
adroddiad gan Gyfarwyddwr Corfforaethol: Uchelgais
Economaidd a Chymunedol (copi ynghlwm) ynglŷn â datblygu strategaeth
Uchelgais Economaidd a Chymunedol cyntaf Sir Ddinbych yn unol â blaenoriaeth y
Cynllun Corfforaethol (datblygu’r economi lleol). Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: RRoedd copi o adroddiad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol Uchelgais Economaidd a
Chymunedol (CDECA), ar ddatblygiad Strategaeth Uchelgais Economaidd a
Chymunedol gyntaf Sir Ddinbych, wedi’i gylchredeg gyda’r papurau ar gyfer y
cyfarfod. Cyflwynodd y Cynghorydd H.Ll. Jones adroddiad ar ran yr Arweinydd ac
eglurodd fod Grŵp Tasg a Gorffen wedi datblygu Strategaeth Uchelgais
Economaidd a Chymunedol gyntaf Sir Ddinbych, yn unol â blaenoriaeth y Cynllun
Corfforaethol i ddatblygu'r economi leol. Gofynnir am
gymeradwyaeth ar gyfer drafft y Strategaeth i’w ddarparu ar gyfer ymgynghoriad
cyhoeddus fel y manylir yn yr adroddiad. Mae’r Cynllun Corfforaethol yn nodi Datblygu’r Economi Leol fel un o’r 7
blaenoriaeth gorfforaethol. Mae adfywio’r economi leol wedi'i nodi fel pryder
allweddol gan y trigolion lleol yn ystod datblygu'r Cynllun Corfforaethol ac yn
cael ei ystyried fel modd o greu sylfaen cadarn ar gyfer yr holl ddatblygiadau
eraill. Roedd y Strategaeth yn ceisio egluro sut y byddai’r
Cyngor yn diwallu’r amcan corfforaethol ar gyfer datblygu'r economi, ac mae
manylion y Grŵp Tasg a Gorffen wedi’i gynnwys yn Atodiad 3. Roedd y Strategaeth ddrafft wedi’i
datblygu gan ganolbwyntio ar fuddiannau a chanlyniadau ac mae'r Grŵp Tasg
a Gorffen wedi cytuno y dylai'r trigolion lleol deimlo’r budd cyffredinol i'w
gyflawni o ddatblygu'r economi leol. Mae’r amcan cyffredin
tu cefn i’r strategaeth wedi’i ddiffinio fel:- “Mae Sir Ddinbych
yn Sir gyda lefelau uchel o gyflogaeth a lefelau da o incwm yn ei holl drefi
a'r cymunedau". O hyn, roedd y Grŵp Tasg a Gorffen wedi creu'r
Datganiad Gweledigaeth ganlynol ar gyfer Uchelgais Economaidd a Chymunedol Sir
Ddinbych:- - Datblygu Cyfleoedd,
Creu Hyder - Gweithio gyda’n gilydd i wneud Sir Ddinbych yn
lle y gall:- ·
Busnesau, sefydledig a newydd, dyfu a ffynnu ·
Ein trefi a'n cymunedau fod yn brysur a ffynnu ·
Trigolion fwynhau ansawdd da o fywyd a chyfrannu yn yr
economi leol. Er mwyn cyflawni hyn byddai’n rhaid mynd i'r afael
â'r ffactorau craidd a nodwyd y meysydd blaenoriaeth canlynol i'w gweithredu ac
i ffurfio strwythur creiddiol y Strategaeth:- ·
Yr Isadeiledd cywir ar gyfer twf ·
Busnesau sy’n cael eu Cefnogi a’u Cysylltu ·
Gwneud y gorau o Gryfderau/Cyfleoedd Economaidd ·
Gweithlu Medrus o Ansawdd Da ·
Trefi a Chymunedau Llewyrchus ·
Sir Ddinbych wedi ei hyrwyddo’n dda Mae Cynllun Darparu 4 blynedd ddangosol hefyd wedi
ei ddatblygu sy'n cyfateb ag amserlen cyflawni’r Cynllun Corfforaethol. Fodd
bynnag, roedd gan y Strategaeth ei hunan derfyn amser hirach ac yn cynnwys
cyfnod 2013 i 2023. Roedd y Grŵp Tasg a Gorffen wedi penderfynu bod y
canlyniadau a nodwyd a’r meysydd gweithredu a amlygwyd yn cynnig y dull gorau o
gyflawni'r Strategaeth a'r Cynllun Corfforaethol. Argymhellwyd ein bod yn
profi’r rhain drwy ymgynghori gyda chymunedau a busnesau Sir Ddinbych cyn
cyflwyno’r Strategaeth i'w fabwysiadu'n ffurfiol gan y Cyngor. Eglurodd CDECA y dylid darparu drafft y Strategaeth
a Chynllun Darparu, Atodiad 1, i ymgynghori gyda'r cyhoedd yn ystod mis
Gorffennaf ac Awst drwy amrywiaeth o gyfleoedd fel y manylir yn Atodiad 2. Mae
manylion y broses ymgynghori wedi'i gynnwys yn yr adroddiad. Bydd
digwyddiadau ymgynghori penodol yn archwilio'r Strategaeth yn fanwl mewn
perthynas â Thwristiaeth, Rhannau Blaenoriaeth ar gyfer Twf, a Datblygiad
Economaidd Gwledig. Byddai’r rhain yn cael eu hategu gan ddigwyddiadau
ymgynghori cyffredinol fydd yn cael eu trefnu'n ddaearyddol ledled y Sir. Roedd y tri chwestiwn allweddol y byddai’r
ymgynghoriad yn ceisio derbyn barn arnynt yn cynnwys:- (a)
A yw’r Weledigaeth, y canlyniadau bwriedig a’r egwyddorion
creiddiol yn addas ar gyfer Sir Ddinbych? (b)
A yw’r Strategaeth yn cynnwys y materion pwysig, yr
heriau a’r cyfleoedd sy’n effeithio ar economi leol Sir Ddinbych? (c) A fydd prif gamau gweithredu’r Cynllun Darparu yn cael yr ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|
SEFYLLFA DERFYNOL Y GYLLIDEB A’R ALLDRO REFENIW 2012/13 PDF 113 KB Ystyried
adroddiad gan y Prif Gyfrifydd (copi ynghlwm) sy’n rhoi’r diweddariad
ynglŷn â’r sefyllfa refeniw derfynol a’r argymhellion ar gyfer ymdrin â’r
balansau. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Roedd copi o adroddiad gan y Prif Gyfrifydd, oedd yn darparu diweddariad
sefyllfa derfynol refeniw a thriniaeth arfaethedig balansau, wedi’i gylchredeg
gyda’r papurau ar gyfer y cyfarfod. Roedd yr adroddiad alldro terfynol wedi’i dderbyn gan y Cabinet ar 25
Mehefin 2013. Roedd yr adroddiad yn darparu manylion y sefyllfa derfynol ar
ddiwedd y flwyddyn ariannol er mwyn i’r Cyngor Sir ystyried a chymeradwyo
triniaeth yr arian wrth gefn a’r balansau arfaethedig. Byddai drafft
cyntaf Datganiad Cyfrifon Blynyddol ar gyfer 2012/13 yn cael ei gyflwyno i’r
archwilwyr allanol ar 28 Mehefin, ac yna byddai'r cyfrifon wedi'u harchwilio yn
cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol ym mis Medi i’w
cymeradwyo’n ffurfiol. Y sefyllfa alldro ariannol gyffredinol ar gyfer 2012/13 yw i’r Cyngor dan wario yn erbyn y
gyllideb a gymeradwywyd ac iddo weld cynnydd yn arenillion Treth y Cyngor, ac
mae hynny’n cryfhau sefyllfa ariannol y Cyngor. O ganlyniad roedd modd gwneud
argymhellion i symud yr arian i gronfeydd wrth gefn penodol i gynorthwyo'r
Cyngor i ddelio â phwysau ariannol trwm dros y blynyddoedd nesaf a dechrau
sefydlu adnoddau ariannol i gyflawni'r Cynllun Corfforaethol. Mae’r ffigyrau
Alldro Refeniw terfynol yn Atodiad 1. Sefyllfa derfynol cyllideb y gwasanaethau
a’r gyllideb gorfforaethol yw tanwariant o £1.525 miliwn. Roedd sefyllfa
alldro cyllideb y gwasanaethau a’r gyllideb gorfforaethol £530 mil yn uwch na'r
hyn a gafodd ei adrodd wrth y Cabinet ym mis Mawrth. Roedd
y symudiad mwyaf arwyddocaol o fewn Gwella a Chynhwysiant Ysgolion (£223 mil). Mae
sefyllfa derfynol Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd wedi gwella o £76 mil
ac mae sefyllfa’r cyllidebau corfforaethol wedi gwella o £113 mil ers y rhagolwg
a gafodd ei adrodd ym mis Mawrth.
Mae’r gwasanaethau’n parhau i
fod yn rhagweithiol wrth gynllunio ar gyfer arbedion yn y blynyddoedd sydd i
ddod, a dechreuwyd weld effaith ariannol rhai o’r cynigion hynny ar waith tuag
at ddiwedd 2012/13. Rhoddodd wasanaethau wybod am ymrwymiadau yn erbyn balansau
o £849 mil ym mis Mawrth. Roedd y mwyafrif o’r balansau wedi eu
rhagweld oherwydd materion amseru ac mae balansau ymrwymedig y gwasanaethau
bellach yn £1.139 miliwn ac mae rhagor o fanylion i’w gweld yn yr adroddiad. Roedd gwariant ar ysgolion yn £1.069m yn llai na’r gyllideb a ddyrannwyd
gydag Ysgolion Arbennig wedi gwella o £490mil.
Roedd ffactorau yn ymwneud â symudiad yr
Ysgolion Arbennig wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.
Roedd balansau ysgolion yn £2.870m ac roedd manylion y
balansau wedi'u cynnwys yn Atodiad 4. Cyllidebodd y cyngor ar gyfer gwneud cyfraniad o £300 mil i’r balansau
sydd, yn gyson ag adroddiadau blaenorol, yn dybiaeth o fewn y sefyllfa alldro
terfynol. Cyllidebodd y cyngor ar gyfer gwneud
cyfraniad i ariannu’r Cynllun Corfforaethol a oedd angen oddeutu £25 miliwn o
arian parod a £52 miliwn o fenthyciad er mwyn cyflawni uchelgeisiau’r Cyngor. Yng
nghyllideb 2012/13, roedd tybiaeth y byddai £2.073 yn cael ei gynhyrchu trwy
fod arian blaenoriaeth wedi’i ddyrannu i wasanaethau a thrwy fod darpariaethau
wedi eu cyllidebu o fewn cyllidebau corfforaethol. Roedd
gwybodaeth bellach ynglŷn ag alldro terfynol y gwasanaeth wedi'i fanylu yn
yr adroddiad fel a ganlyn:- Cynllunio
Busnes a Pherfformiad – y sefyllfa derfynol yw tanwariant o £60mil. Cyllid ac
Asedau – tanwariant o
£16mil. Priffyrdd ac
Amgylchedd – sefyllfa o
danwariant o £278mil, gwelliant o £15mil o’r hyn a ragwelwyd ym mis Mawrth. Cynllunio a
Rheoleiddio – cynnig i’w
ddefnyddio i gyllido costau ailstrwythuro fel rhan o gyflawni arbedion ar gyfer
2013/14. Gwasanaeth
Oedolion a Busnes - wedi
cyflawni eu cyllideb. Gwasanaethau
Plant a Theuluoedd – adroddwyd
ei fod yn £148 mil. Tai a Datblygu Cymunedol - oherwydd i adolygiad o ariannu trwy grantiau allanol ar ddiwedd y flwyddyn amlygu ... view the full Cofnodion text for item 8. |
|
FFRAMWAITH ADRODD BLYNYDDOL Y CYNGOR - GWASANAETHAU CYMDEITHASOL PDF 62 KB Ystyried adroddiad
gan Reolwr Gwasanaethau Ymyrraeth Gynnar, Strategaeth a Chefnogi (copi ynghlwm)
sy’n cynnwys hunanasesiad gofal cymdeithasol Sir Ddinbych ac yn nodi
blaenoriaethau gwelliant ar gyfer 2013/2014. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Roedd copi o
adroddiad gan Reolwr Gwasanaethau
Ymyrraeth Gynnar, Strategaeth a Cefnogi, oedd yn darparu hunanasesiad o
ofal cymdeithasol yn Sir Ddinbych a nodi blaenoriaethau gwelliant a nodwyd ar
gyfer 2013/14, wedi’i gylchredeg gyda’r rhaglen. Darparodd y
Cyfarwyddwr Corfforaethol: Moderneiddio a Lles (CCMLl) grynodeb ddwys o'r
adroddiad ac eglurodd fod pob Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol yng
Nghymru yn gorfod cynhyrchu Adroddiad Blynyddol yn crynhoi eu barn am
effeithiolrwydd Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol a Blaenoriaethau Gwelliant yr
Awdurdod. Mae drafft Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2012/2013 wedi’i gynnwys fel
Atodiad 1. Roedd yr adroddiad yn darparu darlun onest o’r gwasanaethau yn Sir
Ddinbych i’r cyhoedd ac yn arddangos dealltwriaeth glir o’r cryfderau a’r
heriau. Cyfeiriodd y CCMLl at y Gwasanaethau Plant a phwysleisio
pwysigrwydd yr adroddiad yn dilyn adroddiadau yn y cyfryngau yn ddiweddar, gan
gyfeirio’n benodol at Adroddiadau Jilings a Waterhouse oedd yn ymwneud â
cham-drin plant mewn cartrefi plant, a darparodd fanylion mewn perthynas
â:- -
Nifer y newidiadau deddfwriaethol a
rheoleiddio sy’n effeithio ar Wasanaethau Plant. -
Argymhellion Waterhouse yn rhan o fframwaith
deddfwriaethol Cymru yn awr, a sefydlu Comisiynydd Plant Cymru. -
Gwelliannau yn ymwneud â darpariaeth
Gwasanaethau Plant. -
Ymyrraeth gynnar i ddelio â phroblemau a
phwysigrwydd gwrando ar blant. -
Gwasanaethau Dwys Cefnogi Teuluoedd -
Ymgynghoriad wedi’i gynnal gyda Gweithwyr
Gofal mewn perthynas â Strategaeth Arwain a Rheoli. -
Hyfforddiant dwys a ddarparwyd i ofalwyr
maeth. -
Pwysigrwydd diogelu plant. -
CCyflawni lleoliadau sefydlog i blant, drwy
ddarparu cartrefi sefydlog a gofalgar. -
Roedd prif flaenoriaethau'r Gwasanaethau
Plant ar gyfer 2013-14 wedi'u cynnwys ar dudalennau 18 ac 19 o'r Adroddiad
Blynyddol. Darparodd y CCMLl fanylion ynglŷn â Gwasanaethau
Oedolion ac amlygwyd y meysydd:- -
Cynnydd mewn perthynas â Bil Gwasanaethau
Cymdeithasol a Lles. Roedd prif oblygiadau’r Bil, oedd yn
berthnasol i Gymru, yn ymwneud â Gwasanaethau Oedolion, ond roeddent hefyd yn
cynnwys Gwasanaethau Plant. -
Roedd angen newid dull darparu Gwasanaethau
Oedolion, yn tarddu o ddisgwyliadau'r cyhoedd gan fod arnynt angen mwy o ddewis
a rheolaeth drwy hyrwyddo annibyniaeth. - Cynnydd yn nifer yr unigolion sydd ag
anableddau dysgu a gofalwyr. -
Adborth bositif a dderbyniwyd ynglŷn â
darpariaeth Gwasanaethau Ymyrryd, ail-alluogi,
gofal ychwanegol a gwaith a wnaed yn y gymuned. -
Cynnydd a wnaed gyda chefnogaeth sy'n
canolbwyntio ar ddinasyddion. -
Cynllunio defnyddio cyllid neilltuol yn y
Gwasanaethau Cymdeithasol. -
Gwelliannau sydd eu hangen o ran absenoldeb
oherwydd salwch yng Ngwasanaethau Plant ac Oedolion. -
Angen datblygu darpariaeth gwasanaethau drwy
gyfrwng y Gymraeg ymhellach yn flaenoriaeth bwysig a chynyddol. -
Problemau’n tarddu o gefndir demograffig a'r
boblogaeth sy’n heneiddio. Darparwyd crynodeb o’r pedair elfen ganlynol yn Fframwaith Adrodd Blynyddol
y Cyngor ar gyfer yr Aelodau:- (i)
Hunanasesiad a dadansoddiad manwl o effeithiolrwydd (ii) Trywydd tystiolaeth (iii)
Integreiddio gyda chynllunio busnes (iv)
Cyhoeddi adroddiad blynyddol Yn unol â chanllawiau llywodraethu proses ACRF roedd yr
Adroddiad Blynyddol wedi'i gynhyrchu ar gyfer y cyhoedd a bydd yn cael ei
gyhoeddi erbyn 31 Gorffennaf 2013. Roedd
yr asesiad cyffredinol yn arddangos fod Gwasanaethau Cymdeithasol Sir Ddinbych
wedi llwyddo i wneud gwelliannau mewn perthynas â'r meysydd canlynol yn nhermau
perfformiad ac ansawdd dros y flwyddyn ddiwethaf:- ·
cefnogi teuluoedd yn llwyddiannus yn gynnar er mwyn atal
problemau rhag gwaethygu ·
darparu cefnogaeth gynnar a rhoi cymorth i bobl adennill
eu hyder a’u gallu i ofalu amdanynt eu hunain e.e. ar ôl syrthio. ·
cefnogi pobl i fyw yn annibynnol yn y gymuned a lleihau
nifer yr unigolion sy’n mynd i Gartrefi Gofal. ·
darparu cartrefi sefydlog a gofalgar i blant sy'n derbyn
gofal. ·
diogelu plant ac oedolion diamddiffyn yn effeithiol ·
gweithio mewn partneriaeth gydag awdurdodau ac
asiantaethau eraill · gweithlu sefydlog sy’n cael ... view the full Cofnodion text for item 9. |
|
PENODI I BANEL HEDDLU A THROSEDD PDF 120 KB Ystyried
adroddiad gan Bennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd (copi ynghlwm)
ar benodi un aelod i Banel yr Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru am o leiaf un
flwyddyn fwrdeistrefol. Cofnodion: Roedd copi o
adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd (PGCD), am
benodi Aelod Etholedig i Banel Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru ar gyfer isafswm
o un flwyddyn y Cyngor, wedi’i gylchredeg gyda’r papurau ar gyfer y cyfarfod. Roedd yr adroddiad yn darparu manylion
aelodaeth y Panel. Roedd Cylch Gorchwyl Panel Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru
yn amodi y byddai pob un o'r chwe Awdurdod Lleol yng Ngogledd Cymru yn enwebu
Aelod neu Aelodau i fod ar y Panel. Roedd y Panel yn cynnwys 10 o Aelodau Etholedig 2 Aelod Cyfetholedig
Annibynnol, ac roedd dyraniad seddi i bob Awdurdod yn seiliedig ar gytbwysedd
gwleidyddol a dosbarthiad poblogaeth ledled Gogledd Cymru fel cyfanrwydd. Roedd
methodoleg d’hondt wedi'i ddefnyddio
i bennu nifer y seddi y bydd pob Awdurdod Lleol yn eu derbyn ac i ba
grŵp(iau) gwleidyddol. Fel Awdurdod cynnal, roedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn darparu
gwasanaethau cefnogi. Eglurodd Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd fod Conwy, Sir y Fflint, Gwynedd
a Wrecsam wedi penodi 2 Aelod yr un yn seiliedig ar boblogaeth tra bo Sir
Ddinbych ac Ynys Môn wedi penodi 1 Aelod yr un. Roedd maint y prif
grwpiau gwleidyddol ym mhob Cyngor yng Ngogledd Cymru yn penderfynu faint o seddi
y byddai pob grŵp neu grwpiau yn eu derbyn. Wrth bennu pa Awdurdod oedd yn
penodi seddi unigol roedd y Panel yn archwilio faint o seddi oedd gan blaid neu
grŵp gwleidyddol ym mhob Awdurdod gyda’i gilydd ac yna’n asesu pa Gyngor
neu Gynghorau oedd a’r hawl gorau i gymryd y seddi. Y llynedd Aelod Grŵp Annibynnol, y Cynghorydd W.E. Cowie oedd
cynrychiolydd Sir Ddinbych ar y Panel. Yn dilyn etholiadau mis
Mai 2013 yn Ynys Môn, byddai Sir Ddinbych yn derbyn 1 sedd Aelod Llafur.
Gallai’r Cyngor benderfynu cyfnod amser y penodiad, er na ddylai fod yn llai na
1 blwyddyn y Cyngor. Gan fod y penodiad arfaethedig yn benodiad
neilltuol roedd Grŵp Llafur Sir Ddinbych wedi eu hysbysu o’r materion a
godwyd. Cytunodd yr aelodau i benodi'r Cynghorydd W.N. Tasker fel cynrychiolydd Sir Ddinbych ar Banel
Heddlu a Throsedd, a bod cyfnod y penodiad yn parhau nes y gwneir penderfyniad
arall gan y Cyngor i benodi i'r Panel. Cymeradwyodd y Cynghorydd Tasker waith
ardderchog y Cynghorydd W.L. Cowie yn ystod ei gyfnod yn y swydd. PENDERFYNWYD
–fod y Cyngor:- (a)
yn penodi’r
Cynghorydd W.N. Tasker, Aelod y Grŵp Llafur, i Banel Heddlu a Throsedd, a (b)
fod cyfnod y
penodiad yn parhau nes y gwneir penderfyniad arall gan y Cyngor i benodi i'r
Panel. |
|
GWEDDARLLEDU CYFARFODYDD PDF 72 KB Ystyried
adroddiad gan Bennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd (copi ynghlwm)
ynglŷn â’r posibilrwydd o weddarlledu cyfarfodydd y Cyngor. Cofnodion: Roedd
copi o adroddiad Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd (PGCD), am botensial
gweddarlledu cyfarfodydd y Cyngor, wedi’i gylchredeg gyda'r papurau ar gyfer y
cyfarfod. Roedd yr
adroddiad yn gofyn am gymeradwyaeth mewn egwyddor i gyflwyno gweddarlledu
cyfarfodydd y Cyngor. Byddai Llywodraeth Cymru yn darparu £1.2 miliwn ar
gael fel cyllid grant i Awdurdodau Lleol i’w cynorthwyo gyda chostau
gweithredu. Byddai pob Awdurdod yn gymwys i dderbyn grant o £20mil tuag at
gostau cyflwyno gweddarlledu. Byddai gweddarlledu cyfarfodydd yn cynnwys darlledu
sain a darluniau cyfarfodydd y Cyngor a gellir eu rhoi ar wefan y Cyngor fel
deunydd yr archif. Gallai aelodau’r cyhoedd nad oedd yn gallu mynychu
cyfarfodydd eu gwylio ar-lein yn fyw neu ar ddyddiad gwahanol drwy’r archif
ar-lein. Byddai gan wylwyr sy’n defnyddio cynnwys yr archif y gallu i
ddefnyddio dolenni amser i weld y cynnwys yn ôl yr eitem neu siaradwr. Roedd Llywodraeth Cymru a CLlLC wedi cynnal
cyfarfodydd gyda swyddogion i drafod gweddarlledu a darparwyd enghraifft o
system ar waith i'r Aelodau. Roedd cyfleuster ar rai o’r systemau er mwyn
galluogi i aelodau o’r cyhoedd gymryd rhan yn fforymau trafod drwy offer
cyfryngau cymdeithasol a lleisio eu barn ar y materion oedd yn cael eu trafod. Ymatebodd y
PGCD i bryderon a fynegwyd gan y Cynghorydd M.Ll. Davies ac eglurodd
weithrediad a darpariaeth cyfleusterau cyfieithu fel y nodwyd yn yr adroddiad. Nid oedd gofyniad statudol ar Gynghorau i ddarlledu
cyfarfodydd ar y we ond mae ei ddefnydd yn tyfu ar hyn o bryd ac roedd pob
Awdurdod Lleol yng Nghymru yn ystyried ei gyflwyno. Yn ôl cyfraith mae’n rhaid
i Gyngor gynnal cyfarfodydd yn gyhoeddus, yn amodol ar eithrio’r cyhoedd ar
gyfer rhai materion cyfrinachol. Mae gan y cyhoedd hawl i fynychu cyfarfodydd y
Cyngor, y Cabinet a Phwyllgorau eraill ond yn gyffredinol nid oes presenoldeb
nifer mewn cyfarfodydd ac mae'r cyfleusterau ar gyfer niferoedd mawr yn
gyfyngedig. Efallai nad oedd aelodau o'r cyhoedd sydd â
diddordeb mewn clywed y trafodaethau yn gallu mynychu oherwydd ymrwymiadau neu
anawsterau cludiant, felly byddai gweddarlledu cyfarfodydd yn rhoi mynediad i
gyfarfodydd. Dim ond am flwyddyn y byddai grant Llywodraeth
Cymru ar gael heb sicrwydd o unrhyw gyllid yn y dyfodol. Yn ogystal â
ffioedd trwyddedau meddalwedd efallai y byddai costau ychwanegol yn ymwneud ag
integreiddio'r system gyda'r camerâu a’r meicroffonau sydd yno eisoes. Cynigiwyd y dylid
cyfyngu gweddarlledu i ddechrau i gyfnod y gellir ei ariannu gydag arian y
grant sydd ar gael, gydag adolygiad i’r dyfodol ar gyfer defnydd pellach. Ymatebodd y
Cynghorydd J. Thompson-Hill i gwestiwn gan y Cynghorydd W.L. Cowie a chytunodd
y byddai'n bwysig sicrhau cynaliadwyedd y system cyn ei gyflwyno. Roedd CET wedi mynegi'r farn y dylid cyflwyno cwestiwn gweddarlledu i’r
cyngor benderfynu a ddylid gweddarlledu cyfarfodydd, ac roedd y Pwyllgor
Llywodraethu Corfforaethol wedi cytuno y dylid cyflwyno adroddiad i’r aelodaeth
ehangach i’w ystyried. Ymatebodd y PGCD i
bryderon a fynegwyd gan y Cynghorydd R.L. Feeley a chadarnhaodd y byddai’n
rhaid sicrhau cydweddoldeb yr offer cyfredol gydag offer newydd, o bosib drwy
ei brofi’n fewnol, cyn cyflwyno gweddarlledu.
PENDERFYNWYD – fod
y Cyngor yn cytuno mewn egwyddor i weddarlledu cyfarfodydd y Cyngor. |
|
RHAGLEN WAITH I’R DYFODOL Y CYNGOR SIR PDF 111 KB Ystyried Rhaglen
Gwaith i’r Dyfodol y Cyngor (copi ynghlwm). Cofnodion: Cyflwynodd
Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y
Cyngor, a gafodd ei gylchredeg yn flaenorol, a chytunodd yr Aelodau i gynnwys
yr eitemau newydd canlynol yn y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol:- PENDERFYNWYD –y
dylid cymeradwyo a nodi Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cyngor, yn amodol ar yr
uchod. Daeth y cyfarfod i ben am 2:05pm. |