Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: Council Chamber, County Hall, Ruthin LL15 1YN

Eitemau
Rhif Eitem

PWYNTIAU SYLW

Bu i’r Cadeirydd -

 

  • longyfarch Adran Addysg y Cyngor ar dderbyn Gwobr Ddyngarwch gan yr Uchel Siryf i gydnabod y gwaith aruthrol a wnaed wrth sefydlu Cronfa Waddol Cymuned Sir Ddinbych
  • longyfarch y Cynghorydd Huw Williams ar dderbyn Gwobr y Grwpiau Cymunedol a Gefnogir gan Fusnes gan yr Uchel Siryf i gydnabod ei gyfraniad i Grŵp Cymunedol y Rhyl.
  • ddangos anrheg a gyflwynwyd i’r awdurdod gan Ddirprwyaeth o Tsiena yn ystod eu hymweliad canfod ffeithiau diweddar â Chanolfan Optic Llanelwy.

 

 

TEYRNGED DAWEL

Cyfeiriodd Y Cynghorydd Julian Thompson-Hill at farwolaeth y cyn Brif Weinidog, y Farwnes Thatcher, a gofyn i’r Cyngor sefyll mewn munud o dawelwch fel arwydd o barch at y swydd y bu’n ei dal.  Safodd y rhai oedd yn dymuno cymryd rhan a rhoi teyrnged dawel.

 

 

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnodion:

Y Cynghorwyr Stuart Davies, Peter Evans, Geraint Lloyd-Williams a Cheryl Williams

 

 

2.

DATGAN CYSYLLTIAD

Yr Aelodau i ddatgan unrhyw fuddiannau personol neu ragfarnus mewn unrhyw fusnes i’w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Cofnodion:

Bu i’r Cynghorwyr Meirick Davies, Hugh Evans, Carys Guy, Huw Hilditch-Roberts, Barry Mellor, David Simmons a Bill Tasker gyhoeddi cysylltiad personol â'r eitem ynglŷn â "Thoriadau Effeithlonrwydd yn y Gweithlu” (Eitem rhif 6 ar y Rhaglen).

 

 

3.

MATERION BRYS FEL Y’U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys dan Adran 10(B) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Cofnodion:

Diweddariad Tywydd Garw/Eira – Cafwyd diweddariad gan y Cynghorydd David Smith ynglŷn â’r gwaith a wnaed yn ystod y tywydd garw a’r eira diweddar a fu’n effeithio ar rannau o’r sir.  Talodd deyrnged i’r gwaith caled a wnaed gan swyddogion a gwasanaethau rheng flaen, a weithiodd yn ddiflino mewn amgylchiadau eithafol ynghyd â chontractwyr lleol a gwirfoddolwyr.  Gwnaed sylw arbennig ynglŷn â Mike Hitchings, Pennaeth Gweithrediadau a Tim Towers, Rheolwr Adain am eu hymdrechion yn cydlynu gwaith ar y priffyrdd.  Cymeradwyodd yr Aelodau’r ffordd yr oedd y Cyngor wedi ymateb i’r tywydd eithafol gan gyfeirio at eu profiadau personol o’r gwaith da a wnaed o fewn eu cymunedau eu hunain.  Mynegodd yr Aelodau eu diolch i bawb a fu ynghlwm â'r gwaith ac yn dilyn cynnig gan y Cynghorydd Smith -

 

PENDERFYNWYD bod y Cyngor yn cofnodi’n swyddogol eu diolchgarwch i swyddogion am eu gwaith caled yn ymateb i’r tywydd gwael yn ddiweddar.

 

 

4.

DYDDIADUR Y CADEIRYDD pdf eicon PDF 52 KB

Cydnabod y digwyddiadau dinesig a fynychwyd gan Gadeirydd y Cyngor (copi ynghlwm).

 

Cofnodion:

Cyfeiriodd y Cadeirydd ar yr ymrwymiadau dinesig yr ymgymerodd â nhw ar ran y Cyngor dros gyfnod 16 Chwefror – 25 Mawrth 2013 (cafodd manylion am y rhain eu cylchredeg yn flaenorol).   Diolchodd i’r Cynghorydd Bill Cowie am fod yn gydymaith iddi'r wythnos flaenorol yng Nghyngerdd Pasg y Gwasanaeth Cerddoriaeth yn Llanelwy.   Cyfeiriodd yr Is-Gadeirydd, y Cynghorydd Ray Bartley, at ei ymweliad â digwyddiad Ensembles Sir Ddinbych ym mis Mai a chafwyd gwybod ganddo fod Band Pres Ysgolion Sir Ddinbych yn cystadlu ym Mhencampwriaeth Agored Bandiau Pres y DU ym Manceinion a dymunodd yn dda iddynt.

 

PENDERFYNWYD nodi’r digwyddiadau a fynychwyd gan y Cadeirydd a’r Is-Gadeirydd.

 

 

5.

COFNODION pdf eicon PDF 161 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Cyngor Sir a gynhaliwyd ar 26 Chwefror 2013 (copi’n amgaeëdig).

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 26 Chwefror 2013.

 

Cywirdeb -

 

Tudalen 10 Eitem Rhif 6 Adborth o Gyfarfod gyda BIPBC – Gofynnodd y Cynghorydd Gwyneth Kensler i ychwanegu'r canlynol at y cofnodion “...cytunwyd diwygio’r penderfyniad i’r hyn a gynigiwyd gan y Cynghorydd Gwyneth Kensler fel a ganlyn...”

 

Nododd y Cynghorydd Alice Jones fod cyfeiriad at y cwestiwn sydd heb ei ateb ynglŷn â Gwasanaethau Brys yn Ysbyty Glan Clwyd wedi cael ei adael allan.  Cytunodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Moderneiddio a Lles i fynd ar drywydd y mater gyda BIPBC.

 

Tudalen 12 Eitem Rhif 8 Gosodiadau Treth y Cyngor a Materion Cysylltiedig - Gofynnodd y Cynghorydd Gwyneth Kensler am gael gwared â’r geiriau “yn unfrydol” fel bod y cofnod yn ymddangos fel a ganlyn “PENDERFYNWYD bod y Cyngor yn cymeradwyo’r argymhellion canlynol...”

 

Materion yn codi -

 

Tudalen 8 Eitem Rhif 6 Adborth o’r Cyfarfod gyda BIPBC – Cafwyd diweddariad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol Moderneiddio a Lles (CCMLl) ynglŷn â’r cynnydd sydd wedi ei wneud hyd yma.  Yn seiliedig ar ddatblygiadau diweddar roedd yn ymddangos fod bwriadau’r Cyngor wedi cael eu gweithredu gan y Cyngor Iechyd Cymuned.  Ychwanegodd y Prif Weithredwr fod y cyfalaf o £27m a glustnodwyd ar gyfer Sir Ddinbych ers hynny wedi cael ei gynnwys o fewn y Cynllun Cyfalaf ac o’r herwydd fod rhagor o sicrwydd wedi cael ei roi.  Adroddodd y CCMLl hefyd ynglŷn â’r mecanwaith ar gyfer adeiladu ymhellach ar y ddeialog ynglŷn â drafft y cylch gorchwyl ac ynglŷn â sefydlu Fforwm Strategol Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar sail sirol fel y cytunwyd yn flaenorol gan y Cyngor.  Roedd aelodaeth o’r fforwm honno eto i’w phenderfynu’n derfynol ac roedd yr aelodau etholedig yn awyddus i fod yn rhan o’r broses honno ac i gael eu cynnwys.  O ganlyniad i'r diddordeb ymhlith yr aelodau, cytunodd y CCMLl i baratoi adroddiad ynglŷn â sefydlu’r fforwm ac ynglŷn â'i haelodaeth ac awgrymodd y Cynghorydd Gwyneth Kensler y dylid trafod y mater yng nghyfarfod yr Arweinyddion Grwpiau cyn ei gyflwyno’r ffurfiol i’r Cyngor Sir.

 

 PENDERFYNWYD -

 

(a)       yn ddibynnol ar yr hyn y sonnir amdano uchod, gadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 26 Chwefror 2013 fel cofnod cywir a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi;

 

(b)       cyflwyno adroddiad ynglŷn â sefydlu'r Fforwm Strategol Iechyd a Gofal Cymdeithasol ger bron cyfarfod yr Arweinyddion Grwpiau i’w ystyried cyn ei gyflwyno’n ffurfiol i’r Cyngor Sir.

 

 

6.

EFFEITHLONRWYDD Y GWEITHLU pdf eicon PDF 354 KB

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Adnoddau Dynol (copi’n amgaeëdig) yn manylu’r arbedion sydd eu hangen i gyflawni’r Effeithlonrwydd Gweithlu a nodwyd yn y Gyllideb a’r broses a gynigir ar gyfer cyflawni’r arbedion hynny.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Barbara Smith, yr Aelod Arweiniol dros Foderneiddio a Pherfformiad yr adroddiad (a gafodd ei gylchredeg yn flaenorol) oedd yn manylu ar yr arbedion sydd angen eu gwneud er mwyn cyflawni’r toriadau effeithlonrwydd yn y gweithlu a ddynodwyd yn y Gyllideb ac ar y broses a gynigiwyd ar gyfer gweithredu’r arbedion hynny tra bo’r Cyngor yn methu â dod i gytundeb gwirfoddol gyda’r undebau llafur.  Nododd ei bod hi wedi cael gwybod ei bod yn fwriad gan yr undebau llafur i nodi fod anghydfod ynglŷn â’r broses.

 

Cydnabu’r Cynghorydd Hugh Evans fod gan yr aelodau benderfyniad anodd i’w gwneud mewn perthynas â’r effaith ar staff ac eglurodd y rhesymeg sydd wrth wraidd yr argymhellion a’r mesurau er mwyn sicrhau y byddai’r isaf eu cyflog yn cael eu hamddiffyn yn briodol.  Tynnodd sylw at y ffaith fod cynigion i gael gwared ar y lwfans defnyddwyr car hanfodol yn gyson â sefyllfa awdurdodau eraill yng Nghymru a bod 16 ohonynt eisoes wedi cael gwared ar y lwfans.  Pe gelwir proses o anghydfod cenedlaethol, teimlai y dylai’r Cyngor gymryd rhan lawn ynddi ac nid oedd unrhyw fwriad i roi’r gorau i drafod gyda’r undebau llafur yng ngoleuni'r argymhellion.  Fel y gallai'r aelodau wneud penderfyniad gwybodus gofynnodd am eglurder ynglŷn â'r broses i sicrhau ei bod yn glir, yn dryloyw ac yn deg â staff.

 

Bu i’r Prif Weithredwr dywys yr aelodau trwy’r adroddiad mewn manylder a sôn ymhellach am yr hinsawdd ariannol sydd ohoni, am yr angen i wneud arbedion yn y gweithlu, am yr ymgynghori a’r trafod estynedig oedd wedi digwydd ac am y rhesymau y tu ôl i’r ffordd fwriedig o weithredu.  Cyflwynodd fanylion ynglŷn â’r pecyn terfynol sydd wedi ei gynnig ar gyfer toriadau effeithlonrwydd yn y gweithlu sy’n cynnwys y canlynol -

 

· cael gwared â statws/cydnabyddiaeth defnyddiwr car hanfodol

· newid cyfraddau milltiroedd i fod yn unol â chyfraddau Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi sydd yn 45c y filltir.

· lleihau'r cyfnod o dalu am filltiroedd aflonyddu o 4 blynedd i flwyddyn.

· lleihau’r cyfnod o amddiffyn cyflog o 3 blynedd i flwyddyn

 

Wrth fanylu ar y camau nesaf roedd y Prif Weithredwr yn awyddus i bwysleisio fod y cynigion yn rhesymol yn yr hinsawdd ariannol sydd ohoni a chefnogodd yr argymhellion y manylir arnynt o fewn yr adroddiad.  Gofynnodd i’r Cyngor wneud penderfyniad gan dynnu sylw at y goblygiadau o ran cost fyddai’n deillio o unrhyw oedi.

 

Tra’i bod yn derbyn bod angen gwneud arbedion, nododd y Cynghorydd Joan Butterfield mai ased fwyaf gwerthfawr y Cyngor oedd ei staff a’u bod hwythau hefyd yn wynebu cyfnod anodd yn ariannol a’u bod wedi eu digalonni a bod eu gwerth wedi cael ei ddibrisio.  Nid oedd yn cytuno gyda’r dull gweithredu arfaethedig i roi’r arbedion effeithlonrwydd gweithlu sydd wedi eu dynodi ar waith ac roedd yn teimlo y dylid gwneud mwy i ennyn derbyniad ar y cyd trwy gytundeb cyfeillgar.  Nododd ei bod yn aelod o’r Cydbwyllgor Ymgynghorol Lleol (CBYLl) gan nodi mai’r fforwm hwn yw'r lle mwyaf priodol i gael trafodaeth ystyrlon ynglŷn â’r pwnc.  O ganlyniad fe gynigiodd, ac eiliwyd ei chynnig gan y Cynghorydd Barry Mellor, y dylid cyfeirio’r mater at y CBYLl i’w drafod ymhellach ac ymgynghori yn ei gylch yn y cyfarfod a gynhelir ar 24 Ebrill a bod adroddiad pellach yn mynd ger bron y Cyngor ar 7 Mai er mwyn gallu gwneud penderfyniad.

 

Cafwyd llawer o gefnogaeth i gynnig y Cynghorydd Butterfield a manteisiodd yr aelodau ar y cyfle i leisio eu pryderon ynglŷn â’r effaith ar staff a nodi mai cytundeb ar y cyd ynglŷn â’r newidiadau  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

POLISI A GWEITHDREFNAU ADNODDAU DYNOL (AD) pdf eicon PDF 88 KB

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Adoddau Dynol (copi’n amgaeëdig) yn argymell mabwysiadu polisïau a gweithdrefnau AD newydd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Barbara Smith, Aelod Arweiniol dros Foderneiddio a Pherfformiad adroddiad (a gafodd ei gylchredeg yn flaenorol) yn argymell mabwysiadu polisïau a gweithdrefnau newydd a diwygiedig er mwyn cydymffurfio gyda newidiadau deddfwriaethol a’r arfer orau mewn perthynas â -

 

· Recriwtio a Dethol

· Darparu Geirda Cyflogaeth

· Secondiadau

· Gweithdrefn Gweithwyr Asiantaethol

 

Amlygodd y Rheolwr Gwasanaethau Adnoddau Dynol (RhGAD) y prif newidiadau i bolisïau a gweithdrefnau yn dilyn ymgynghori gyda rheolwyr ac undebau llafur.  Trafododd yr Aelodau nifer o faterion gyda’r RhGAD yn ymwneud â pholisïau unigol a chwestiynu hefyd beth yw swyddogaeth y Cydbwyllgor Ymgynghorol Lleol (CBYLl) yn y broses.  Ymatebodd y RhGAD fel a ganlyn -

 

· pe na bai gan yr undebau llafur wrthwynebiad i'r newidiadau polisi/gweithdrefnol, roedd cytundeb eisoes yn ei le i hepgor mynd â’r mater ger bron y CBYLl a chyflwyno diwygiadau’n uniongyrchol i’r Cyngor.

· cydnabu y gallai peidio ag ymateb i ymgeiswyr aflwyddiannus am swyddi ddenu peth beirniadaeth ond roedd y broses yn golygu costau sylweddol ac yn cymryd llawer o amser swyddogion.  Mewn perthynas â recriwtio ar y we cytunodd i ystyried y posibilrwydd o ymateb i ymgeiswyr yn electronig.

· o ran y prosesau i adnabod dogfennaeth ffug cytunodd i roi ystyriaeth bellach i’r mater er mwyn gallu rhoi rhagor o sicrwydd.

· cadarnhaodd fod archwiliadau'n cael eu cynnal i sicrhau fod y gwiriadau angenrheidiol wedi cael eu cynnal fel rhan o'r broses recriwtio mewn ysgolion

· nododd yr awgrym i newid y polisi fel y byddai angen i bob aelod o’r panel recriwtio ddilyn hyfforddiant cydraddoldeb.  Mae hyfforddiant recriwtio yn cael ei drefnu gogyfer â rheolwyr canol a gellid newid y polisi yn y dyfodol pe bai’r Cyngor yn fodlon y gallai ddiwallu’r meini prawf.

 

            PENDERFYNWYD bod y Cyngor yn derbyn ac yn mabwysiadu'r polisïau a’r gweithdrefnau newydd a diwygiedig mewn perthynas â Recriwtio a Dethol, Darparu Geirda Cyflogaeth, Secondiadau a Gweithwyr Asiantaethol.  

 

 

8.

TREFNIADAU I ETHOL CADEIRYDD AC IS-GADEIRYDD YN Y CYNGOR BLYNYDDOL pdf eicon PDF 65 KB

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd (copi’n amgaeëdig) yn argymell bod y Cyngor yn cytuno gyda’r cynnig bod y Cadeirydd a’r Is-gadeirydd ar gyfer blwyddyn ddinesig 2013 yn cael eu hethol yn ffurfiol yng Nghyfarfod Blynyddol y Cyngor ar 7 Mai 2013.

 

Cofnodion:

[Dygwyd yr eitem hon yn ei blaen o fewn trefn y rhaglen gyda chydsyniad y Cadeirydd]

 

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd yr adroddiad (a gafodd ei gylchredeg yn flaenorol) yn ceisio cytundeb i ethol y Cadeirydd a’r Is-Gadeirydd sydd wedi eu cynnig gogyfer â blwyddyn cyngor 2013/14 yn ffurfiol yng nghyfarfod blynyddol y Cyngor ar 7 Mai 2013.  Roedd yn gofyn am enwebiadau i’r ddwy swydd.

 

Ethol Cadeirydd – Cynigiodd y Cynghorydd Hugh Evans, ac eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd David Smith, i enwebu’r Cynghorydd Ray Bartley yn gadeirydd gogyfer â blwyddyn cyngor 2013/14.  Ni wnaed unrhyw enwebiad arall.  Diolchodd y Cynghorydd Bartley i’r aelodau am eu cefnogaeth a chafodd ei longyfarch ar ei enwebiad.

 

Ethol Is-Gadeirydd – Cynigiodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, ac eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd David Smith, i enwebu’r Cynghorydd Dewi Owens yn Is-Gadeirydd ar gyfer blwyddyn cyngor 2013/14.  Cynigiodd y Cynghorydd Joan Butterfield, ac eiliwyd ei chynnig gan y Cynghorydd Bob Murray, i enwebu'r Cynghorydd Brian Blakeley yn Is-Gadeirydd.  Cynigiodd y Cynghorydd Gwyneth Kensler, ac eiliwyd ei chynnig gan y Cynghorydd Huw Jones, i enwebu’r Cynghorydd Arwel Roberts yn Is-Gadeirydd.

 

Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor cynhaliwyd pleidlais gudd ar gyfer ethol yr Is-Gadeirydd arfaethedig a chafwyd gwared ag enw’r Cynghorydd Arwel Roberts.  Cynhaliwyd pleidlais gudd arall a chafodd y Cynghorydd Brian Blakeley ei enwebu yn Is-Gadeirydd arfaethedig ar gyfer blwyddyn cyngor 2013/14.  Diolchodd y Cynghorydd Blakeley i’r aelodau am eu cefnogaeth a bu i’r Cynghorwyr Dewi Owens ac Arwel Roberts ei longyfarch ar ei enwebiad.

 

PENDERFYNWYD cynnig y Cynghorydd Ray Bartley yn Gadeirydd a’r Cynghorydd Brian Blakeley yn Is-Gadeirydd ar y Cyngor Sir ar gyfer blwyddyn gyngor 2013/14 a’u hethol yn ffurfiol yng nghyfarfod blynyddol y Cyngor ar 7 Mai 2013.

 

 

9.

DIWEDDARIAD AR GYNIGION AR GYFER CARCHAR NEWYDD pdf eicon PDF 114 KB

Ystyried adroddiad gan y Rheolwr Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi’n amgaeëdig) yn gofyn am gytundeb y Cyngor i gefnogi Bwrdd Arwain Rhanbarthol Gogledd Cymru  yn ei ymrwymiad i geisio cael carchar yng Ngogledd Cymru a chymeradwyo’r cynigion a fanylir yn yr adroddiad.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Hugh Evans, yr Arweinydd a’r Aelod Arweiniol dros Ddatblygu Economaidd yr adroddiad (a gafodd ei gylchredeg yn flaenorol) yn ceisio cytundeb y Cyngor i gefnogi Bwrdd Arweinyddiaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru yn ei ymrwymiad i geisio carchar yng Ngogledd Cymru.  Roedd yr adroddiad yn rhoi crynodeb o’r datganiad diweddar a wnaed gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder mewn perthynas â pholisi carchardai a chafodd yr aelodau wybod am y camau gweithredu a gytunwyd gan Fwrdd Arweinyddiaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru ac am y cynigion gogyfer â’r camau nesaf y dylid eu cymryd.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Evans beth gwybodaeth gefndirol yn ymwneud â’r cynigion i adeiladu carchar newydd gydag oddeutu 2000 o lefydd yng Ngogledd Orllewin Lloegr, yn Llundain neu yng Ngogledd Cymru ynghyd â gwybodaeth am y gwaith y mae Bwrdd Arweinyddiaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru yn ei wneud i hyrwyddo lleoli’r carchar yng Ngogledd Cymru.

 

Tra’u bod yn gefnogol i’r egwyddor o fod â charchar yng Ngogledd Cymru, mynegodd y Cynghorwyr Cefyn Williams, Gwyneth Kensler, Alice Jones, Bill Tasker a Colin Hughes amheuaeth ynglŷn â maint y carchar newydd arfaethedig gan nodi y byddent yn ffafrio carchar llai o faint yn yr ardal.  Mynegwyd pryderon ynglŷn ag ymarferoldeb carchar mawr; anawsterau rheoli amgylchedd mor fawr; methiannau sydd wedi eu cofnodi mewn carchardai mwy o faint a arweiniodd at feithrin diwylliant ac awyrgylch afiach i garcharorion, a'r amser teithio i ymwelwyr.  Dywedodd y Prif Weithredwr fod maint a graddfa’r carchar newydd y tu hwnt i reolaeth y Cyngor ac mai’r unig gynnig sydd wedi ei wneud yw cynnig ar gyfer carchar newydd gyda lle ynddo i 2000 o garcharorion.  Rhoddodd yr aelodau ystyriaeth i’r buddion helaeth i’r ardal a ddeuai’n sgil carchar newydd, yn enwedig o ran yr economi, o ran buddsoddiad sylweddol yn y rhanbarth a chreu swyddi.  Ar y cyfan, roedd yr aelodau'n ystyried bod datganiad y Gweinidog yn cynnig cyfle a rhoesant eu cefnogaeth i'r Bwrdd Rhanbarthol wrth iddynt geisio sicrhau carchar yn yr ardal.

 

PENDERFYNWYD bod y Cyngor yn cytuno i gefnogi Bwrdd Arweinyddiaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru yn ei ymrwymiad i geisio carchar yng Ngogledd Cymru ac i roi sêl eu bendith i'r cynigion a amlinellir ym mharagraff 4.12 yr adroddiad. 

 

 

10.

PENODI HYRWYDDWR DIGARTREFEDD pdf eicon PDF 81 KB

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd (copi’n amgaeëdig) yn argymell penodi Hyrwyddwr Digartrefedd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd (a gafodd ei gylchredeg yn flaenorol) yn ymwneud â phenodi Hyrwyddwr Digartrefedd.  Roedd cais wedi cael ei wneud ar i’r Cynghorwyr nodi a oeddent yn dymuno cael eu hystyried ar gyfer y swyddogaeth honno a derbyniwyd un CV oddi wrth y Cynghorydd Bill Tasker

 

PENDERFYNWYD penodi’r Cynghorydd Bill Tasker i swydd Hyrwyddwr Digartrefedd. 

 

Ar y pwynt hwn (1.10 pm) cymerodd y Cyngor egwyl dros ginio gan ailddechrau am 1.34 pm.

 

 

11.

AMSERLEN PWYLLGOR 2013/13, ADOLYGIAD BLYNYDDOL CYDBWYSEDD GWLEIDYDDOL, PENODI CADEIRYDDION CRAFFU A LWFANSAU I AELODAU CYFETHOLEDIG GYDA PHLEIDLAIS pdf eicon PDF 83 KB

Ystyried adroddiad gan y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd (copi’n amgaeëdig) yn gofyn am benderfyniadau ar faterion sy’n gysylltiedig â phwyllgorau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd adroddiad (a gafodd ei gylchredeg yn flaenorol) yn gofyn i'r Cyngor wneud penderfyniad ynglŷn â nifer o faterion yn ymwneud â threfniadaeth cyfarfodydd y Cyngor Sir. Roedd yr adroddiad yn cynnwys pedair rhan yn ymwneud â:

 

·         amserlen cyfarfodydd 2012/13

·         cydbwysedd gwleidyddol pwyllgorau

·         penodi cadeiryddion y pwyllgorau archwilio

·         gosod cap posibl ar gyfanswm nifer y cyfarfodydd y gall aelodau cyfetholedig sydd â phleidlais hawlio taliad ar eu cyfer

 

Eglurwyd fod amserlen arfaethedig cyfarfodydd y Cyngor gogyfer â 2012/13 wedi cael ei llunio yn unol â’r hyn yr oedd yr aelodau wedi nodi eu bod yn ei ffafrio mewn arolwg o farn aelodau ac aelodau cyfetholedig ynglŷn ag amseroedd a lleoliadau cyfleus i gynnal cyfarfodydd.

 

Nododd y Cynghorydd Joe Welch nad oedd cytuno ar ddyddiadau yn ystod mis Ebrill ond yn rhoi mis o rybudd ynglŷn â dyddiadau cyfarfodydd ym mis Mai, a oedd yn anodd iawn i aelodau gydag ymrwymiadau proffesiynol y mae’n rhaid addasu ar eu cyfer, a gwnaeth gais ar i ddyddiadau cyfarfodydd gael eu trefnu gogyfer ag oes y Cyngor er mwyn caniatáu i aelodau gynllunio'u dyddiaduron. Roedd y Cynghorydd Paul Penlington yn anfodlon fod cyfarfodydd wedi cael eu hamserlennu yn ystod y dydd, gan nodi oherwydd yr oedi a fu wrth ei benodi i’r Cyngor na fedrodd gofnodi ei fod yn ffafrio cyfarfodydd mis nos. Awgrymodd y Cadeirydd fod y drafodaeth ynglŷn ag amserlennu cyfarfodydd wedi bod yn rhygnu ymlaen ers nifer o flynyddoedd, ond ei bod yn eglur bob tro yr ymgynghorir ag aelodau mai cyfarfodydd yn ystod y dydd sy’n cael eu ffafrio.

 

Cydnabu’r aelodau fod y gofyn sydd ar y Cyngor i adolygu cydbwysedd gwleidyddol pwyllgorau yn flynyddol, ac i benodi cadeiryddion pwyllgorau archwilio, yn rhywbeth y gallai’r grwpiau gwleidyddol benderfynu yn ei gylch yn unol â’r model ar gyfer cydbwysedd gwleidyddol a amlinellir yn Atodiad 3 yr adroddiad.

 

Gofynnwyd i’r Cyngor am eu barn ynglŷn â gosod cap posibl ar y nifer o ddyddiau y gellid talu treuliau ar eu cyfer i aelodau cyfetholedig â phleidlais, ac, yn dilyn trafodaeth, cytunodd yr aelodau nad oes angen gosod cap ar daliadau o fewn y cyd-destun presennol, er y byddai hynny i'w adolygu yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD -

 

(a)       bod y Cyngor yn cymeradwyo amserlen cyfarfodydd 2013/14;

 

(b)       bod y Cyngor yn nodi’r gofynion o ran cydbwysedd gwleidyddol ac yn cyfeirio penodi aelodau i bwyllgorau priodol at y grwpiau gwleidyddol;

 

(c)       bod y Cyngor yn cyfeirio penodi cadeiryddion y pwyllgorau archwilio at y grwpiau gwleidyddol, ac

 

(d)       nad yw’r Cyngor yn gosod terfyn ar y nifer o ddyddiau y gellir talu treuliau ar eu cyfer i aelodau cyfetholedig, yn ddibynnol ar adolygiad yn y dyfodol.

 

 

12.

CYNLLUN CORFFORAETHOL 2012-2017, DOGFEN GYFLAWNI BLWYDDYN 2 pdf eicon PDF 73 KB

Ystyried adroddiad gan y Rheolwr Gwelliannau Corfforaethol (copi’n amgaeëdig) yn gofyn am gymeradwyo fersiwn drafft terfynol Dogfen Gyflawni Blwyddyn 2 y Cynllun Corfforaethol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Barbara Smith, Aelod Arweiniol dros Foderneiddio a Pherfformiad, adroddiad (a gafodd ei gylchredeg yn flaenorol) yn cyflwyno Dogfen Gyflawni Blwyddyn 2 gogyfer â Chynllun Corfforaethol 2012-17, oedd yn rhoi crynodeb o’r prif brosiectau sydd i’w gweithredu wrth ddatblygu Blaenoriaethau Corfforaethol y Cyngor.

 

Mynegodd y Cynghorydd Gwyneth Kensler bryder mewn perthynas â sut bo’r ailstrwythuro diweddar a wnaed i’r gwasanaeth Adfywio, Cefnogi Busnes a Thwristiaeth yn cefnogi’r Flaenoriaeth Gorfforaethol o ‘ddatblygu’r economi leol' a chynigiodd y dylai hyn fod yn destun i’w archwilio.  Awgrymodd y Cynghorydd Joan Butterfield, mewn perthynas â hyn, mai ychydig iawn o gynnydd oedd wedi ei wneud o ganlyniad i’r newidiadau a wnaed i brosiect Y Rhyl yn Symud Ymlaen.

 

Roedd y Cynghorydd Hugh Evans, Arweinydd y Cyngor, yn derbyn fod cynnydd wedi bod yn araf ond roedd yn ffyddiog fod y prosiect yn symud i’r cyfeiriad cywir. Nododd y Prif Weithredwr mai cyfrifoldeb y Penaethiaid Gwasanaeth oedd ailstrwythuro gwasanaethau ond roedd yn derbyn y deuai budd o gael pwyllgor archwilio i edrych ar effaith y newidiadau sefydliadol ar ddarpariaeth gwasanaeth. Gwnaed trefniadau eisoes i'r Pwyllgor Archwilio Partneriaethau dderbyn adroddiadau’n rheolaidd gan brosiect Y Rhyl yn Symud Ymlaen, ond cytunwyd y dylid cyfeirio eitem ynglŷn ag ailstrwythuro’r gwasanaeth Adfywio, Cefnogi Busnes a Thwristiaeth at y Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Archwilio i’w ddyrannu. Estynnodd y Prif Weithredwr hefyd wahoddiad i’r aelodau ddod i gyfarfod ag ef i drafod unrhyw amheuon sydd ganddynt ynglŷn ag ailstrwythuro gwasanaethau.

 

Nododd y Cynghorydd Alice Jones ei bod hi’n anhapus fod yr ardaloedd arfordirol yn derbyn symiau mawr mewn buddsoddiad pan fo’r cymunedau gwledig yn derbyn cymharol ychydig gefnogaeth ar gyfer adfywio, ac eglurodd y Cynghorydd Hugh Evans y dylai ymestyn y Cynlluniau Tref yn ‘Gynlluniau Ardal’ fynd beth o’r ffordd tuag at gyfarch hyn.  Roedd y Cynghorydd Arwel Roberts yn amheus o effeithlonrwydd cynhwysedd y Cynlluniau Ardal i gyfarch materion penodol gan nodi llain flêr o dir yn Rhuddlan fel enghraifft. Nododd y Cynghorydd Evans y gallai pob rhan o Sir Ddinbych gael budd o ddatblygu economaidd, a bod y Cynlluniau Ardal yn ffurfio un o’r camau cyntaf wrth ‘ddatblygu economi leol’. Pe na bai’r Cynlluniau Ardal yn effeithiol wrth weithio tuag at Flaenoriaethau Corfforaethol y Cyngor, dywedodd y Cynghorydd Evans y byddai angen ailymweld â nhw.

 

PENDERFYNWYD -

 

(a)       bod y Cyngor yn cymeradwyo drafft terfynol Dogfen Gyflawni Blwyddyn 2 Cynllun Corfforaethol 2012 – 17, a

 

(b)       bod y Cyngor yn argymell i Grŵp Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion Archwilio eu bod yn amserlennu eitem ynglŷn ag ailstrwythuro’r Gwasanaeth Adfywio, Cefnogi Busnes a Thwristiaeth i’w harchwilio.

 

 

13.

RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL Y CYNGOR pdf eicon PDF 140 KB

Ystyried blaenraglen waith y Cyngor (copi’n amgaeëdig).

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd (PGCD) Raglen Gwaith i'r Dyfodol y Cyngor.

 

Nododd y Cynghorydd Barbara Smith fod Gweithdy Hyfforddi Aelodau wedi ei drefnu ar yr un diwrnod â chyfarfod Briffio’r Cyngor ar 22 Ebrill, ond bod hwn yn ddigwyddiad ar wahân a fyddai’n cael ei gynnal yn y bore cyn cyfarfod Briffio’r Cyngor yn y prynhawn.

 

Nododd y PGCD, fel y cytunwyd yn gynharach yn y cyfarfod, y byddai’r eitem ynglŷn â’r Toriadau Effeithlonrwydd Gweithlu yn cael ei chyfeirio at y Cydbwyllgor Ymgynghorol Lleol cyn dod yn ôl ger bron Cyfarfod Blynyddol y Cyngor Sir ar 7 Mai.

 

PENDERFYNWYD yn ddibynnol ar yr uchod, i nodi cynnwys Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cyngor.

 

 

Gwahardd y wasg a'r cyhoedd

PENDERFYNWYD dan ddarpariaethau Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol 1972, gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes canlynol ar y sail y byddai gwybodaeth eithriedig yn debygol o gael ei datgelu fel y’i diffinnir ym Mharagraffau 14 Rhan 4 Atodlen 12A y Ddeddf.

14.

CYNLLUN CYFALAF 2012/13 - 2015/16 AC ARGYMHELLION Y GRŴP BUDDSODDI STRATEGOL

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cyllid ac Asedau (copi’n amgaeëdig) yn diweddaru’r aelodau ar elfen 2012/13 y Cynllun Cyfalaf ac yn gofyn i’r aelodau gefnogi argymhellion y Grŵp Buddsoddi Strategol fel y manylir yn yr adroddiad.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid ac Asedau, adroddiad cyfrinachol a oedd yn rhoi diweddariad ynglŷn â datblygiadau o dan Gynllun Cyfalaf 2012/13 – 2015-16, ac yn manylu ar y bidiau cyfalaf sydd wedi eu hargymell gan y Grŵp Buddsoddi Strategol i’w cynnwys yn y Cynllun Cyfalaf.

 

Tynnodd y Cynghorydd Thompson-Hill sylw’r Aelodau at y sefyllfa ddiweddaraf yn ymwneud â dymchwel yr Honey Club yn y Rhyl, yr oedd y Cyngor wedi cytuno’i warantu, ac wedi disgwyl i’r gwaith fod yn dechrau ar y safle erbyn canol Ebrill. Roedd pob prif brosiect arall yn driw i’w hamserlen. Yna cyfeiriwyd yr Aelodau at Atodiad 4, a oedd yn rhoi manylion ynglŷn â’r prosiectau a argymhellwyd gan y Grŵp Buddsoddi Strategol er mwyn rhyddhau’r £11.76m o arian cyfalaf sydd ar gael ar gyfer 2013/14, ac eithrio derbyniadau cyfalaf sydd yn yr arfaeth.

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan yr aelodau, cadarnhaodd y Cynghorydd Thompson-Hill -

 

·         bod y targed i godi £8m o dderbyniadau cyfalaf dros 4 blynedd ar y trywydd iawn

·         bod y Cyngor yn parhau i weithio gyda’r prif ddatblygwr ar safle’r Honey Club, ac na fu unrhyw arwydd i awgrymu’n wahanol

·         nad yw’r arian sydd wedi ei ddyrannu i’r rhaglen gyfalaf Priffyrdd wedi ei ddosbarthu ar sail gyfartal, ond wedi ei bennu gydag ystyriaeth i wybodaeth dechnegol ynglŷn â’r brys i atgyweirio ffyrdd unigol, a drefnwyd trwy gyfrwng Grwpiau Ardal yr Aelodau.

·         bod y Cyngor yn gweithio’n agos gydag Alliance Leisure wrth ddatblygu Canolfan Hamdden Rhuthun, ac yn cydnabod bod eu cynllun busnes sydd wedi ei seilio ar gynyddu’r aelodaeth yn ddichonadwy.

·         mai cyfanswm cost yr ymateb brys i’r tywydd gaeafol diweddar oedd £170k, gan nodi fod cais am gymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru wedi ei wneud mewn perthynas â gwariant yr aed iddo wrth ymateb i’r eira ac i’r llifogydd ym mis Tachwedd.

·         fod cofrestr o adeiladau yn Sir Ddinbych sy’n cynnwys asbestos ar gael

·         fod safle Costigan yn y Rhyl wedi cael ei brynu, ei adnewyddu a’i roi yn ôl ar y farchnad

 

Holodd y Cynghorydd Dewi Owens pam fod y bwriad i adeiladu rhwystr gwrthdrawiad ar hyd canol y ffordd ar yr A525 rhwng Rhuddlan a Llanelwy wedi ei restru yn y Cynllun Cyfalaf, ag yntau’n meddwl fod y mater wedi cael ei ddatrys. Cafwyd eglurhad gan y Cynghorydd David Smith, Aelod Arweiniol y Parth Cyhoeddus fod arian wedi ei ddyrannu i’r prosiect hwn ar argymhelliad adroddiad y crwner i wrthdrawiad angheuol ar y ffordd hon ddeng mlynedd yn ôl, ond nad oedd yr arian hwn wedi ei wario, a gall fod ar gael i’w ailddyrannu pe gweithredir ar y cynnig i ostwng y cyfyngiad cyflymder ar hyd y darn hwn o’r ffordd.

 

PENDERFYNWYD fod y Cyngor yn nodi’r sefyllfa ddiweddaraf ynglŷn ag elfen 2012/13 y Cynllun Cyfalaf, ac yn cymeradwyo argymhellion y Grŵp Buddsoddi Strategol i ddyrannu arian cyfalaf fel y nodir yn Atodiad 4a yr adroddiad.

 

 

Bu i’r Cynghorydd Jason McLellan longyfarch Clwb Pêl-Droed Tref Prestatyn ar gyrraedd Rownd Derfynol Cwpan Cymdeithas Bêl-Droed Cymru, ble byddant yn chwarae yn erbyn Dinas Bangor.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 3:20pm.