Agenda and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun LL15 1YN a thrwy Gynhadledd Fideo
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Dogfennau ychwanegol: |
|
Ar y pwynt hwn, talodd y Cynghorydd
Diane King deyrnged i'r Cynghorydd Win Mullen-James a fu farw'n ddiweddar yn
anffodus. |
|
DATGANIADAU O FUDDIANT PDF 199 KB Aelodau i ddatgan unrhyw fuddiannau personol neu ragfarnus mewn unrhyw fusnes a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|
PENODI CADEIRYDD Y CYNGOR Penodi Cadeirydd y Cyngor ar gyfer blwyddyn ddinesig 2024-25. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Enwebodd y Cynghorydd Hugh Irving y
Cynghorydd Peter Scott i fod yn Gadeirydd y Cyngor ar gyfer blwyddyn ddinesig 2024-25,
ac eiliwyd gan y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts. Ni chynigiwyd unrhyw enwebiadau
pellach, a dangosodd y cyfarfod ei gadarnhad i'r penodiad. Datganodd y Cynghorydd Scott ei fod yn
derbyn swydd y Cadeirydd a chyhoeddodd mai ei ferch a'i wyres fyddai ei
gymar. Ei Gaplin fyddai Nigel Williams
a'i elusen fyddai St. Kentigerns. PENDERFYNWYD penodi'r Cynghorydd Peter Scott yn Gadeirydd Cyngor Sir Ddinbych ar
gyfer blwyddyn ddinesig 2024-25. Ar y pwynt hwn, talwyd teyrngedau gan
y Cadeirydd a holl Arweinwyr y Grŵp i'r diweddar Gynghorydd Win
Mullen-James a fu farw'n ddiweddar. |
|
PENODI IS-GADEIRYDD Y CYNGOR Penodi Is-Gadeirydd y Cyngor ar gyfer blwyddyn ddinesig 2024-25. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Enwebodd y Cynghorydd Gill German y
Cynghorydd Diane King i fod yn Is-Gadeirydd y Cyngor ar gyfer blwyddyn ddinesig
2024-25, ac eiliwyd gan y Cynghorydd Joan Butterfield. Ni chynigiwyd unrhyw enwebiadau
pellach, a dangosodd y cyfarfod ei gadarnhad i'r penodiad. Datganodd y Cynghorydd King ei bod yn
derbyn swydd yr Is-Gadeirydd a chyhoeddodd mai ei mab Mark fyddai ei chydymaith PENDERFYNWYD penodi'r Cynghorydd Diane King yn Is-Gadeirydd Cyngor Sir Ddinbych ar
gyfer blwyddyn ddinesig 2024-25. |
|
Ar y pwynt hwn, cafwyd munud o fyfyrio
tawel i dalu parch i'r diweddar Gynghorydd Win Mullen-James. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol ag Adran 100B(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol, 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim materion brys. Cwestiwn
a gyflwynwyd i'r Cyngor Blynyddol gan Mr Ataur-Raziq Gonzalez – Yng Nghynllun Corfforaethol Cyngor Sir
Ddinbych 2022 i 2027, a ddiwygiwyd yn 2024, mae adran ar Gydraddoldeb,
Amrywiaeth a Hawliau Dynol sy’n datgan; “Rydym wedi ymrwymo i ddathlu
amrywiaeth a hyrwyddo cydraddoldeb ym mhopeth a wnawn” Ac y byddwch yn “ymgysylltu, lle bo'n
briodol, â grwpiau sy'n cynrychioli pobl â nodweddion gwarchodedig”. Ac, yn yr adran Asesiad Llesiant
rydych yn nodi bod eich Asesiadau o’r Effaith ar Les wedi’u cynllunio i asesu
effaith debygol cynigion ar lesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a
diwylliannol Sir Ddinbych, Cymru a’r byd. A allwch ddweud wrthyf felly beth y
mae Cyngor Sir Ddinbych yn ei wneud yn weithredol i ymgysylltu â grwpiau
lleiafrifol a sicrhau bod eu hanghenion llesiant yn cael sylw yn Sir Ddinbych
gan sicrhau bod eu barn yn cael ei chynrychioli a’u bod yn gallu teimlo eu bod
yn cael eu parchu a’u gwerthfawrogi gan Gyngor Sir Ddinbych? Diolchodd yr Arweinydd, y Cynghorydd
Jason McLellan, i Mr Gonzales am ei gwestiwn.
Eglurodd mai'r protocol yn y mater hwn oedd y byddai'r cwestiwn yn cael
ei ateb gan yr Aelod Arweiniol ar y Cabinet yr oedd ei bortffolio yn cynnwys
testun y cwestiwn ac yn yr achos hwn, yr Aelod Arweiniol oedd y Cynghorydd
Julie Matthews a oedd wedi paratoi ymateb manwl. Ymatebodd
y Cynghorydd Julie Matthews fel a ganlyn - Rydym wedi ymrwymo i ddathlu
amrywiaeth a hyrwyddo cydraddoldeb ym mhopeth a wnawn i wella ansawdd bywyd i
bawb sy’n byw, yn gweithio ac yn ymweld â Sir Ddinbych. Datblygwyd ein gweledigaeth ar gyfer dyfodol
y Cyngor mewn partneriaeth â chymunedau lleol a phartneriaid. Ein nod strategol yw bod yn Gyngor sy'n
perfformio'n dda yn nes at y gymuned. Fel y dywedwch, mae Cynllun
Corfforaethol Cyngor Sir Ddinbych yn gwneud ymrwymiad cryf i gydraddoldeb ac
amrywiaeth. Mae'r Cynllun yn cynnwys ein
hamcanion cydraddoldeb a lles ac adroddir ar y rhain yn ein hadroddiadau
chwarterol. Bydd yr adroddiad nesaf yn
adroddiad blynyddol i'r Cyngor ym mis Gorffennaf. Mae'r Cynllun ar gael ar ein gwefan gyda'n
hamcanion cydraddoldeb wedi'u nodi'n glir.
Mae ymgysylltu a gwrando ar leisiau pobl â nodweddion gwarchodedig, pobl
sy’n profi anfantais economaidd gymdeithasol a grwpiau nas clywir yn aml yn
bwysig i ni bob amser ac yn rhywbeth yr ydym bob amser yn ceisio ei wella. Rydym hefyd yn ystyried yr effaith ar y
grwpiau a grybwyllwyd uchod ac yn ystyried cyfleoedd i sicrhau’r cydraddoldeb
mwyaf drwy ein hasesiadau o’r effaith ar les neu ein hasesiadau effaith
integredig. Rhaid i gyrff rhestredig fel y cyngor
baratoi a chyhoeddi amcanion cydraddoldeb bob pedair blynedd a rhaid iddynt
gynnwys pobl sy'n cynrychioli buddiannau pobl sy'n rhannu un neu fwy o'r
nodweddion gwarchodedig ac sydd â diddordeb yn y ffordd y mae'r awdurdod yn
cyflawni ei swyddogaethau. Mae ein porth ymgysylltu ar-lein yn
cael ei ddefnyddio’n gyson i ymgysylltu ac ymgynghori ar ein cynigion neu’r hyn
a alwn, ein sgyrsiau sirol a byddwn yn ymgysylltu’n fuan i ddarganfod beth yw
barn pobl am ein polisi ymgysylltu wedi’i ddiweddaru a’n strategaeth
cyfranogiad y cyhoedd. Rydym yn casglu
barn pawb yn y gymuned ac rydym yn nodi rhanddeiliaid penodol a allai gael eu
heffeithio gan gynnig sy’n asesiadau o’r effaith ar les, er enghraifft ar gyfer
unrhyw ymgysylltiadau manylach. Mae’r polisi porth hwn a strategaeth cyfranogiad y cyhoedd yn arwain y gwaith ymgysylltu sy’n cael ei ddatblygu ar draws y cyngor boed hynny gyda grwpiau sy’n draddodiadol anodd eu cyrraedd gan addysg a gwasanaethau plant a gofal cymdeithasol oedolion a digartrefedd, o fewn ein gwasanaeth tai a chymuned o ran ymgysylltu ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
Derbyn cofnodion cyfarfod y Cyngor Sir a gynhaliwyd ar 27 Chwefror 2024 (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cyngor
Llawn a gynhaliwyd ar 14 Mai, 2024. PENDERFYNWYD cadarnhau cofnodion cyfarfod y Cyngor Llawn a gynhaliwyd ar 14 Mai
2024 fel cofnod cywir. |
|
DATGANIAD POLISI TÂL 2024/25 PDF 476 KB Derbyn adroddiad gan yr arbenigwr Tâl a Thaliadau (copi ynghlwm), i geisio cymeradwyaeth i'r Datganiad Polisi Tâl am 2024/25 sydd ynghlwm. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol dros
Gyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol, y Cynghorydd Gwyneth Ellis, Ddatganiad
Polisi Tâl 2024/25 (a gylchlythyrwyd yn flaenorol) i geisio cymeradwyaeth y Cyngor
Llawn i’r Datganiad Polisi Tâl a oedd wedi’i ddrafftio yn unol â gofynion 38 (
1) o Ddeddf Lleoliaeth 2011. Roedd y Polisi yn ymgorffori'r holl drefniadau tâl
presennol ar gyfer y grwpiau gweithlu o fewn y Cyngor, gan gynnwys prif
swyddogion a'r gweithwyr ar y cyflogau isaf. Roedd y Polisi Tâl wedi'i ddiweddaru
gyda'r sefyllfa bresennol o ran y dyfarniadau cyflog cenedlaethol y cytunwyd
arnynt ar gyfer 2023/24, ond ni ddaethpwyd i gytundeb ar gyfer 2024/25. Roedd y Polisi Tâl wedi'i ddiweddaru
gyda'r sefyllfa bresennol o ran sefyllfa genedlaethol y codiadau cyflog ar
gyfer Prif Swyddogion a Phrif Weithredwr, nad oedd wedi'u cytuno eto ar gyfer
2024/25. Yn ystod y trafodaethau, codwyd y
cwestiynau a ganlyn – • Dros y flwyddyn ddiwethaf, bu
recriwtio a chadw yn fater difrifol.
Ymatebodd swyddogion eu bod, wrth lunio'r Polisi Tâl, wedi cymharu'r
cyflogau â sefydliadau eraill. Roedd
polisïau eraill yn cael eu defnyddio ac ynghyd â'r Polisi Tâl mae'n cynorthwyo
gyda recriwtio a chadw staff. Nid oedd tâl
bob amser yn cymharu â'r sector allanol ond roedd hynny y tu hwnt i reolaeth
swyddogion o ran cadw at ddyfarniadau cyflog cenedlaethol. Cadarnhaodd swyddogion nad oedd ganddynt
bryderon ynghylch recriwtio a chadw staff.
• Roedd nifer o staff yn gadael yr
awdurdod lleol oherwydd y cynllun ymadael gwirfoddol. Cadarnhawyd pan fyddai aelodau tîm yn gadael,
na fyddai disgwyl i weddill y staff ymgymryd â'r gwaith ychwanegol. Roedd diogelwch a lles gweddill y staff yn
hollbwysig. • Cadarnhawyd bod y Polisi Tâl wedi ei
gynnwys o fewn y broses gyllidebol. Cynigiwyd ac eiliwyd Datganiad Polisi
Tâl 2024/25. Cafwyd pleidlais drwy godi
dwylo a chytunwyd yn unfrydol i gymeradwyo Datganiad Polisi Tâl 2024/25. PENDERFYNWYD – (i)
Y Cyngor Llawn yn derbyn argymhelliad y Panel Cydnabyddiaeth Ariannol Uwch
Arweinyddiaeth a chymeradwyo’r Polisi Tâl ar gyfer 2024/25 (ii)
Mae’r Cyngor yn cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o’r
Effaith ar Les fel rhan o’i ystyriaeth. |
|
ADOLYGIAD BLYNYDDOL O'R CYDBWYSEDD GWLEIDYDDOL A PHENODI CADEIRYDDION CRAFFU PDF 214 KB Ystyried adroddiad gan y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd (copi ynghlwm) ar gydbwysedd gwleidyddol a materion yn ymwneud â phwyllgorau. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau
Democrataidd, Steve Price, yr Adolygiad Blynyddol o Gydbwysedd Gwleidyddol a
Phenodi Cadeiryddion Craffu (a gylchlythyrwyd yn flaenorol). Gan fod y flwyddyn ddinesig newydd
ddechrau ym mis Mai roedd yn briodol i'r Cyngor ystyried newidiadau mewn cydbwysedd
gwleidyddol yn unol â gofynion statudol. Gofynnwyd i'r Cyngor benodi un
cynghorydd sir i'r sedd wag ar y Pwyllgor Safonau ar ôl i'r Cynghorydd Hugh
Irving ymddiswyddo yn gynharach yn y flwyddyn.
Byddai'r Pwyllgor yn cyfarfod o leiaf bedair gwaith y flwyddyn ac nid
oedd y penodiad yn cael ei wneud o dan reolau cydbwysedd gwleidyddol. Enwebodd y Cynghorydd Martyn Hogg y
Cynghorydd Jon Harland, eiliwyd gan y Cynghorydd Gwyneth Ellis. Enwebodd y Cynghorydd Huw
Hilditch-Roberts y Cynghorydd Andrea Tomlin, ac eiliwyd gan y Cynghorydd Karen
Edwards. Cynhaliwyd pleidlais ar y gofrestr
gyda'r canlyniad fel a ganlyn - Cynghorydd Jon Harland – 26 Cynghorydd Andrea Tomlin – 16 Felly, penodwyd y Cynghorydd Jon
Harland ar y Pwyllgor Safonau. PENDERFYNWYD – (i)
Bod y Cyngor yn nodi'r trefniadau cydbwysedd gwleidyddol ar gyfer dyrannu seddi
pwyllgor, a (ii)
Y Cyngor yn penodi'r Cynghorydd Jon Harland i eistedd ar y Pwyllgor Safonau fel
Cynghorydd Sir Ddinbych. |
|
CYLCH GORCHWYL Y PWYLLGOR LLYWODRAETHU AC ARCHWILIO PDF 209 KB Ystyried adroddiad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Llywodraethu a Busnes (copi ynghlwm) i geisio cymeradwyaeth i'r cylch gorchwyl diwygiedig. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cyfarwyddwr
Corfforaethol: Llywodraethu a Busnes, Gary Williams, Gylch Gorchwyl y Pwyllgor
Llywodraethu ac Archwilio (a gylchlythyrwyd yn flaenorol). Roedd cylch gorchwyl y pwyllgor wedi
ei adolygu ar gais y pwyllgor ac er mwyn iddynt gael eu diweddaru yn unol â
chanllawiau CIPFA (Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth). Yn ystod yr adolygiad o'r cylch
gorchwyl, rhoddwyd sylw i gylch gorchwyl a awgrymwyd a gyhoeddwyd gan CIPFA,
cylch gorchwyl awdurdodau lleol cyfagos a chanllawiau statudol a gyhoeddwyd gan
Lywodraeth Cymru. Roedd y cylch gorchwyl arfaethedig
wedi'i ddrafftio mewn ymgynghoriad â'r swyddog a151, y Prif Archwilydd Mewnol a
Chadeirydd ac Is-Gadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. Roedd sylwadau a sylwadau hefyd wedi’u
hystyried gan y Pwyllgor yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Ebrill 2024. Cynigiwyd ac eiliwyd adroddiad Cylch
Gorchwyl y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio.
Cafwyd pleidlais drwy godi dwylo a chytunwyd yn unfrydol i gymeradwyo’r
Cylch Gorchwyl. PENDERFYNWYD bod y Cyngor yn cymeradwyo mabwysiadu Cylch Gorchwyl drafft y Pwyllgor
Llywodraethu ac Archwilio sydd ynghlwm fel Atodiad 1 i'r adroddiad. |
|
RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL Y CYNGOR SIR PDF 618 KB Ystyried rhaglen waith i’r dyfodol y Cyngor (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cyfarwyddwr
Corfforaethol: Llywodraethu a Busnes, Gary Williams, Raglen Gwaith Cychwynnol y
Cyngor a Rhaglen Gwaith Cychwynnol Gweithdy’r Cyngor. PENDERFYNWYD nodi Rhaglen Gwaith Cychwynnol y Cyngor a Rhaglen Gwaith Cychwynnol
Gweithdy'r Cyngor. |
|
Daeth y cyfarfod i ben am 11.30 a.m. |