Agenda and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Dogfennau ychwanegol: |
|
DATGANIADAU O FUDDIANT PDF 197 KB Aelodau i ddatgan
unrhyw gysylltiad personol neu sy’n rhagfarnu ag unrhyw fusnes a nodwyd i’w
ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Datganodd y Cynghorwyr Gill German a Rhys Thomas
gysylltiad personol ag eitem rhif 10 ar y rhaglen, (Penodi Cyfarwyddwr i Fwrdd
Hamdden Sir Ddinbych) gan eu bod yn aelodau o’r Bwrdd. |
|
PENODI CADEIRYDD Y CYNGOR SIR PDF 207 KB Penodi Cadeirydd
y Cyngor am weddill y flwyddyn ddinesig 2023/2024. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol:
Llywodraethu a Busnes adroddiad penodi Cadeirydd y Cyngor Sir
(dosbarthwyd ymlaen llaw). Roedd ethol Cadeirydd yn angenrheidiol yn dilyn marwolaeth drist Cadeirydd
y Cyngor, Pete Prendergast. Enwebodd y Cynghorydd Hugh Irving y Cynghorydd Peter Scott i fod yn
Gadeirydd ar gyfer gweddill blwyddyn ddinesig 2023-2024 , ac fe eiliodd y
Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts. Ni chafwyd rhagor o enwebiadau. Cadarnhaodd yr holl aelodau a oedd yn bresennol eu cytundeb i benodi’r
Cynghorydd Peter Scott. Datganodd y Cynghorydd Peter Scott ei fod yn derbyn swydd y Cadeirydd. PENDERFYNWYD penodi’r Cynghorydd
Peter Scott yn Gadeirydd Cyngor Sir Ddinbych ar gyfer gweddill blwyddyn
ddinesig 2023- 2024. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, gael eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys
yn unol ag Adran 100B(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim eitemau brys. Ar y pwynt hwn, talodd Aelodau Grwpiau deyrnged i’r
diweddar Gadeirydd, y Cynghorydd Pete Prendergast fu farw’n ddiweddar. Talodd y Cynghorydd Diane King deyrnged i’r diweddar
Gynghorydd Pete Prendergast hefyd, gan ei bod yn ffrind iddo ers sawl blwyddyn,
a’i gymar yn ystod ei amser fel Cadeirydd i’r Cyngor. Talodd y Cynghorydd Peter Scott deyrnged dwymgalon i’r
diweddar Gynghorydd Prendergast, yn arbennig gan iddo golli ei wraig yn
ddiweddar hefyd, a diolchodd i’r Cynghorydd Prendergast am ei garedigrwydd tuag
ato a’i wraig yn ystod yr amser anodd iawn hwnnw. Cynhaliwyd myfyrdod tawel er cof am y Cynghorydd Pete
Prendergast. |
|
PENODI IS-GADEIRYDD Y CYNGOR SIR Penodi
Is-Gadeirydd y Cyngor am weddill y flwyddyn ddinesig 2023/2024. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gofynnodd y Cynghorydd Peter Scott am enwebiadau ar gyfer
penodi Is-gadeirydd newydd i’r Cyngor ar gyfer gweddill blwyddyn ddinesig 2023
- 2024. Cynigodd y Cynghorydd Gill German y Cynghorydd Diane
King, ac fe eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Delyth Jones, Ni chafwyd rhagor o enwebiadau. Cadarnhaodd yr holl aelodau a oedd yn bresennol eu
cytundeb i benodi’r Cynghorydd Diane King. Datganodd y Cynghorydd Diane King ei bod yn derbyn swydd
yr Is-gadeirydd. PENDERFYNWYD penodi’r Cynghorydd
Diane King yn Is-gadeirydd Cyngor Sir Ddinbych ar gyfer gweddill blwyddyn
ddinesig 2023- 2024. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Cyngor Sir a gynhaliwyd 5 Medi 2023 (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion y Cyngor Llawn a gynhaliwyd ar 5
Medi 2023. Materion yn Codi – Tudalen 23 - Nododd y Cynghorydd Huw Williams, yn dilyn
ei Rhybudd o Gynnig yn y cyfarfod, ei fod wedi siomi nad oedd camau gorfodi
wedi cael eu cymryd, a nad oedd y Rhybuddion o Gynnig sy’n cael eu cyflwyno
mewn cyfarfodydd yn cael eu dilyn. Mae
llawer o waith ymchwilio yn cael ei gynnal ar gyfer Rhybudd o Gynnig, ac os
yw’n cael ei basio yn y Cyngor, mae angen dilyn ar hyn. Materion yn Codi – Tudalen 12 - Gofynnodd y Cynghorydd Terry Mendies a oedd
ymateb ysgrifenedig wedi cael ei ddarparu i’r Cynghorydd Chris Evans yn dilyn
ei gwestiwn a’i gwestiwn ategol a ofynnwyd yn y cyfarfod. Os na anfonwyd ymateb, pryd y dylid ei
ddisgwyl? Ymatebodd yr Arweinydd, y Cynghorydd Jason McLellan, yn
anffodus, roedd wedi cymryd amser i gael y wybodaeth gan y swyddogion priodol
yn Llywodraeth Cymru. Ymddiheurodd y
Cynghorydd McLellan i’r Cynghorydd Evans am yr oedi i’w ymateb. Anfonwyd ymateb i’r Cynghorydd Evans a oedd yn
amlinellu’r safle mewn perthynas â’r arian a gafodd Llywodraeth Cymru gan
Lywodraeth y DU ar gyfer mesurau Covid, a’r arian a ddefnyddiwyd drwy gydol y
pandemig ar gyfer y prosiectau refeniw a chyfalaf. Yn anffodus, hysbysodd Llywodraeth y DU
Lywodraeth Cymru, na fyddai’r swm dan sylw, £155 miliwn yn gallu cael ei
ddefnyddio ar gyfer prosiectau cyfalaf, megis pont Llannerch, a thynnodd yr
arian yn ôl. PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr
uchod, cadarnhau cofnodion cyfarfod y Cyngor Llawn a gynhaliwyd ar 5 Medi 2023
fel cofnod cywir. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL DRAFFT Y PWYLLGOR LLYWODRAETHU AC ARCHWILIO PDF 226 KB Ystyried
adroddiad (copi ynghlwm) gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Llywodraethu a Busnes
(copi ynghlwm) i’w gyflwyno i’r Cyngor Adroddiad Blynyddol Pwyllgor
Llywodraethu ac Archwilio. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Cadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu ac
Archwilio, David Stewart, Adroddiad Blynyddol Drafft y Pwyllgor Llywodraethu ac
Archwilio (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) i’w adrodd i’r Cyngor, mewn perthynas â
gwaith y Pwyllgor ar gyfer blynyddoedd dinesig 2020/21, 2021/22 a 2022/23. Roedd gofyn statudol i'r Cyngor, dan ddarpariaethau Mesur
Llywodraeth Leol Cymru 2011, fel y’i diwygiwyd fod â Phwyllgor Llywodraethu ac
Archwilio. Y Pwyllgor yw pwyllgor
dynodedig y Cyngor at y diben hwn. Y Pwyllgor hefyd oedd y corff a oedd yn gyfrifol am
adolygu’r Cyfansoddiad. Cyn mis Mai 2022, roedd y Pwyllgor yn cynnwys chwe aelod
etholedig ac aelod lleyg. Cadeirydd y
Pwyllgor yn ystod y cyfnod hwnnw oedd Barry Mellor. Diolchodd y Cadeirydd presennol, David
Stewart, i’r Cynghorydd Mellor am ei waith yn ystod ei amser fel Cadeirydd. Fe ddiwygiodd Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau
(Cymru) 2021 y safle, ac mae gofyn cyfreithiol bod traean o aelodau’r Pwyllgor
yn aelodau lleyg erbyn hyn. O ganlyniad,
mae angen chwe aelod etholedig ar y Pwyllgor a thri aelod lleyg. Roedd gofyniad statudol bod Cadeirydd y
Pwyllgor yn aelod lleyg, sef David Stewart. Yn ystod y drafodaeth gryno honno, cadarnhawyd y byddai’r
Strategaeth ar Newid Hinsawdd a Newid Ecolegol ar raglen y Grŵp Panel
Strategaeth ar Newid Hinsawdd a Newid Ecolegol yn y dyfodol. Diolchodd y Cadeirydd David Stewart i aelodau’r Pwyllgor
Llywodraethu ac Archwilio am ei gwaith i gyd. PENDERFYNWYD – (i)
Bod y Cyngor yn parhau i ystyried pwysigrwydd
llywodraethu corfforaethol da, ac yn nodi cynnwys yr adroddiad, yn enwedig - ·
Effeithiolrwydd parhaus y gofrestr risg
gorfforaethol ·
Pryderon y Pwyllgor ynghylch effeithiau posib ar
ddarpariaeth gwasanaeth a swyddogaethau llywodraethu allweddol o ran anawsterau
yn y maes recriwtio a chadw staff. ·
Pwysigrwydd y Strategaeth ar Newid Hinsawdd a Newid
Ecolegol. |
|
DATGANIAD O EGWYDDORION TRWYDDEDU DEDDF GAMBLO 2005 DIWYGIEDIG ARFAETHEDIG PDF 229 KB Ystyried
adroddiad gan y Rheolwr Busnes Gwarchod y Cyhoedd a’r Uwch Swyddog Trwyddedu
(copi ynghlwm), i’r Cyngor fabwysiadu Datganiad o Egwyddorion Trwyddedu Deddf
Gamblo 2005 Diwygiedig Arfaethedig. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Datblygu Lleol a
Chynllunio, y Cynghorydd Win Mullen-James, adroddiad Datganiad o Egwyddorion
Trwyddedu Deddf Gamblo 2005 Diwygiedig Arfaethedig (a ddosbarthwyd ymlaen llaw)
i wneud cais i aelodau fabwysiadu’r Egwyddorion yn ffurfiol. Gall gamblo fod yn gaethiwus ac arwain at unigolion yn
dod yn gamblwyr â phroblem, lle byddai’r gweithgaredd yn amharu neu’n
cyfaddawdu eu bywydau a bywydau eu teuluoedd.
Roedd gamblo problemus yn cael effaith ar deuluoedd, cymunedau a
gwasanaethau iechyd. Yn gyfreithiol, ac yn unol â’r Canllawiau a rannwyd gan y
Comisiwn Gamblo, roedd gofyn i’r Cyngor ymgynghori ar, a rhannu Datganiad o
Egwyddorion Gamblo bob tair blynedd. Ar 7 Rhagfyr, 2022, cymeradwywyd y Datganiad diwygiedig o
Egwyddorion Gamblo gan aelodau’r Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer ymgynghoriad
statudol. O ganlyniad i’r ymgynghoriad,
ni dderbyniwyd sylwadau, ac felly fe’i gyfeiriwyd at y Cyngor Llawn am
gymeradwyaeth. Nid oedd y Cyngor wedi cael unrhyw her gyfreithiol i’r
Egwyddorion presennol, ac nid oedd yr Awdurdod Trwyddedu wedi cael unrhyw
sylwadau negyddol gan y Diwydiant Trwyddedig Gamblo neu Broffesiwn Cyfreithiol
ynglŷn â’r cynnwys. Felly ni
chynigiwyd newidiadau sylweddol i’r Egwyddorion diwygiedig, rhywbeth a
gefnogwyd gan y Pwyllgor Trwyddedu. Yn ystod y trafodaethau codwyd y pwyntiau canlynol – (i)
Cadarnhawyd bod y trwyddedau wedi cael eu
hadnewyddu’n flynyddol, a roddodd gyfle i nodi’r peiriannau gamblo ymhob
safle. (ii)
O fewn yr Adroddiad Asesiad o’r Effaith, marciwyd
Sir Ddinbych Ffyniannus a Sir Ddinbych Iachach yn Gadarnhaol. Gofynnodd y Cynghorydd Mark Young a oedd hyn
yn briodol, yn arbennig o wybod y problemau y mae dibyniaeth gamblo wedi’i
achosi. Ymatebodd y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd, Emlyn Jones, gan
ddweud fod ystyriaeth ofalus wedi cael ei chymryd mewn perthynas â risgiau ac
effeithiau andwyol gweithgareddau gamblo pan nad oeddent yn cael eu rheoli’n dda. Cadarnhawyd y byddai’n nodi pwynt y
Cynghorydd Young ac adolygu’r WBIA. (iii)
O fewn y Polisi, un o’r amcanion oedd lleihau
trosedd neu osgoi gweithgarwch troseddol i warchod pobl ddiamddiffyn. Dan “gwarchod pobl ddiamddiffyn” roedd yn
nodi, “pobl nad ydynt efallai’n gallu gwneud penderfyniadau gwybodus neu
gytbwys am gamblo oherwydd amhariad meddyliol, alcohol neu gyffuriau”. Codwyd cwestiwn ynghylch pam fyddai
peiriannau gamblo yn cael eu lleoli mewn safleoedd sy’n gwerthu alcohol, a pham
ddylai’r math hwn o sefydliad gael caniatâd i ddefnyddio peiriannau o’r fath? Cadarnhawyd bod yr Awdurdod Lleol wedi cael ei
lywio gan y ddeddfwriaeth a chod ymarfer a oedd wedi eu gosod gan Lywodraeth y
DU. Yr eiddo unigol sydd â’r
cyfrifoldeb o reoli’r peiriannau gamblo.
Roedd gofyn iddynt sicrhau bod arwyddion priodol yn cael eu harddangos
ac nad oedd plant dan 18 oed yn cael mynediad at y peiriannau. (iv)
Yr Asiantaeth Adfer Caethiwed oedd yr elusen a
gontractiwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer Cymru gyfan i ddarparu cymorth a
chefnogaeth brys i bobl sy’n dioddef o ddibyniaeth gamblo a’r effeithiau a
allai achosi. Roedd lles preswylwyr yn
hollbwysig ac fe gadarnhaodd swyddogion y byddant yn trafod gydag Asiantaethau
i sicrhau y byddai cymorth ar gael. Yn dilyn cytundeb unfrydol i’r adroddiad - PENDERFYNWYD – (i)
Bod y Cyngor yn
mabwysiadu’r Datganiad o Egwyddorion Gamblo Diwygiedig Drafft yn ffurfiol
(Atodiad 1). (ii)
Bod y Pwyllgor yn
cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad
2) fel rhan o’i ystyriaethau.
|
|
DATGANIAD POLISI TRWYDDEDU DIWYGIEDIG ARFAETHEDIG PDF 312 KB Ystyried
adroddiad gan y Rheolwr Busnes Gwarchod y Cyhoedd a’r Uwch Swyddog Trwyddedu
(copi ynghlwm), i’r Cyngor fabwysiadu Datganiad Polisi Trwyddedu Diwygiedig
Arfaethedig. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Datblygu Lleol a
Chynllunio, y Cynghorydd Win Mullen-James, yr adroddiad o Ddatganiad Polisi
Trwyddedu Diwygiedig Arfaethedig (dosbarthwyd ymlaen llaw) er mwyn i aelodau
fabwysiadu’r Polisi’n ffurfiol. Mae Deddf Trwyddedu 2003 yn rheoleiddio gwerthiant a
chyflenwad alcohol, darparu adloniant wedi'i reoleiddio a gwerthiant a
chyflenwad lluniaeth hwyr y nos. Yr
Awdurdod Trwyddedu, sef y Cyngor, oedd yn gyfrifoldeb am weinyddu a gorfodi trwyddedu’r
gweithgareddau uchod, ac roedd yn cael eu cyflawni trwy’r gwasanaeth Gwarchod y
Cyhoedd. Mae deddfwriaeth, ynghyd â’r Datganiad Polisi Trwyddedu,
yn anelu i ostwng niwed a niwsans wrth sicrhau tegwch i fusnesau. Fel sy’n ofynnol gan y ddeddfwriaeth, ac yn unol â’r
Canllawiau a gyhoeddwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan Adran 182 o’r Ddeddf,
roedd yn ofyniad ar y Cyngor i ymgynghori ar, a pharatoi Datganiad o Bolisi
Trwyddedu bob pum mlynedd. Cadarnhaodd Swyddogion bod gwiriadau ar y safle yn cael
eu cynnal i sicrhau bod y ddeddfwriaeth yn cael ei dilyn. Estynnwyd gwahoddiad i aelodau fynychu
gwiriadau ar y safle yn y dyfodol, a oedd fel arfer yn cael eu cynnal yn ystod
nosweithiau, fel bod modd asesu’r broses. Yn dilyn trafodaeth - PENDERFYNWYD – (i)
Bod y Cyngor yn mabwysiadu’r Datganiad Polisi
Trwyddedu Drafft diwygiedig yn ffurfiol (Atodiad 1). (ii)
Bod y Pwyllgor yn cadarnhau ei fod wedi darllen,
deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 2) fel rhan o’i
ystyriaethau. |
|
HAMDDEN SIR DDINBYCH CYFYNGEDIG - PENODI CYFARWYDDWR PDF 209 KB Ystyried adroddiad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Llywodraethu a
Busnes (copi ynghlwm) yn gofyn i'r Cyngor benodi Cyfarwyddwr newydd i Fwrdd
Cyfarwyddwyr DLL yn dilyn marwolaeth drist y cyn Gynghorydd Peter Prendergast. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ar y pwynt hwn, datganodd y Cynghorwyr Gill German a Rhys
Thomas gysylltiad personol yn yr eitem hon gan eu bod yn aelodau o’r Bwrdd. Cyflwynodd yr Arweinydd, y Cynghorydd Jason McLellan
adroddiad Penodi Cyfarwyddwr - Hamdden Sir Ddinbych Cyfyngedig (dosbarthwyd ymlaen
llaw). Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Llywodraethu a Busnes, Gary Williams, wrth y
Cyngor: yn dilyn marwolaeth drist y Cynghorydd Pete Prendergast, bod angen
llenwi sedd ar Fwrdd Cyfarwyddwyr Hamdden Sir Ddinbych gan aelodau etholedig
nad ydynt yn aelod o’r Cabinet. Enwebodd y Cynghorydd Julie Matthews y Cynghorydd Diane
King, ac fe eiliodd y Cynghorydd Carol Holliday. Enwebodd y Cynghorydd Hilditch-Roberts y Cynghorydd Bobby
Feeley, ac eiliodd y Cynghorydd Hugh Irving. Cafwyd pleidlais fel a ganlyn - Y Cynghorydd Diane King - 24 Y Cynghorydd Bobby Feeley - 19 Felly PENDERFYNWYD bod y Cynghorydd
Diane King yn cael ei phenodi fel Cyfarwyddwr Hamdden Sir Ddinbych (HSDd). |
|
PENODI AELOD I BANEL HEDDLU A THROSEDD GOGLEDD CYMRU PDF 208 KB Ystyried
adroddiad gan y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd (copi ynghlwm) i benodi Aelod
etholedig i Banel Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Polisi, Cydraddoldeb a
Strategaeth Gorfforaethol, y Cynghorydd Julie Matthews, adroddiad Penodi Aelod
i Banel Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru (dosbarthwyd ymlaen llaw). Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Llywodraethu a
Busnes fod penodi cynrychiolydd i fod yn aelod o’r Panel yn swyddogaeth sydd
gan y Cyngor. Penodiad blaenorol y
Cyngor i’r Panel oedd y diweddar Gynghorydd Pete Prendergast. Gall pob un o chwe Awdurdod Lleol Gogledd Cymru enwebu
aelod neu aelodau i eistedd ar y Panel.
Mae nifer y seddi a ddyrennir i bob awdurdod lleol yn seiliedig ar
gydbwysedd gwleidyddol a gwasgariad y boblogaeth ar draws gogledd Cymru gyfan.
Defnyddir methodoleg D’Hondt i bennu sawl sedd a ddyrennir i bob awdurdod lleol
ac i ba grŵp/grwpiau gwleidyddol y maent yn berthnasol. Yn seiliedig ar y boblogaeth, byddai Sir Ddinbych yn
penodi 1 aelod o’r Grŵp Llafur. Enwebodd yr Arweinydd sef y Cynghorydd Jason McLellan y
Cynghorydd Diane King ar ran y Grŵp Llafur, ac eiliodd y Cynghorydd Barry
Mellor. Cytunwyd yn unfrydol bod y Cynghorydd King yn cael eu
phenodi i Banel Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru. PENDERFYNWYD bod y Cyngor yn
penodi’r Cynghorydd Diane King i fod ar Banel Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru
ar gyfer tymor hwn y Cyngor. |
|
RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL Y CYNGOR SIR PDF 411 KB Ystyried y
Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol (copi ynghlwm) y Cyngor a Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol
Gweithdy’r Cyngor (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Llywodraethu a
Busnes, Gary Williams Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cyngor, a Gweithdy Rhaglen
Gwaith i’r Dyfodol y Cyngor. PENDERFYNWYD bod y Cyngor yn
nodi Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cyngor. |
|
DAETH Y CYFARFOD I BEN AM 11.30AM. |