Agenda and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Dogfennau ychwanegol: |
|
Yr Aelodau i
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd Cheryl Williams gysylltiad
personol yn Eitem 5 (Hunan-Asesiad y Cyngor o’i Berfformiad 2021-2022) gan ei
bod ar restr aros Un Llwybr Mynediad at Dai. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys
yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Cyngor Sir a gynhaliwyd ar 5 Gorffennaf 2022 (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cyngor Llawn a gynhaliwyd ar 5 Gorffennaf
2022. PENDERFYNWYD cadarnhau bod cofnodion
cyfarfod y Cyngor Llawn a gynhaliwyd ar 5 Gorffennaf 2022 yn gofnod cywir. |
|
HUNANASESIAD Y CYNGOR O’I BERFFORMIAD 2021 I 2022 PDF 299 KB Ystyried
adroddiad gan yr Arweinydd Tîm Cynllunio Strategol a Pherfformiad (copi
ynghlwm) i ddarparu hunanasesiad y Cyngor o’i berfformiad yn erbyn ei
swyddogaethau Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Ar y pwynt hwn, datganodd y Cynghorydd Cheryl Williams
gysylltiad personol yn yr eitem hon gan ei bod ar restr aros Un Llwybr Mynediad
at Dai. Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Cyllid Perfformiad ac
Asedau Strategol, y Cynghorydd Gwyneth Ellis yr adroddiad (a ddosbarthwyd yn
flaenorol). Fe wnaeth Pennaeth Gwella Busnes a Moderneiddio Dros dro, Nicola Kneale a’r
Arweinydd Tîm Cynllunio Strategol a Pherfformiad, Iolo McGregor, grynhoi’r
adroddiad i ddarparu dadansoddiad diwedd y flwyddyn o’r cynnydd a’r heriau
gydag amcanion perfformiad allweddol ac ymhob un o’r saith maes
llywodraethu. Roedd yr adroddiad hefyd
yn rhoi naratif ar weithgarwch y cyngor i gefnogi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth. Yr adroddiad oedd y ddogfen ysgrifenedig statudol gyntaf mewn ymateb i
Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, a oedd yn ei gwneud yn
ofynnol i’r cyngor lunio hunanasesiad o’i berfformiad yn erbyn ei
swyddogaethau. Roedd yr adroddiad hefyd
yn ymateb i ddyletswydd y cyngor o ran monitro cydraddoldeb (o dan y Ddeddf
Cydraddoldeb 2010 a Mesur Cymru 2011, a oedd yn cynnwys y Ddyletswydd
economaidd-gymdeithasol), a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Cyflwynwyd 3 dogfen o fewn yr adroddiad: Atodiad 1 - yn cyflwyno’r Crynodeb Gweithredol, a oedd yn
ceisio llunio penawdau perfformiad y cyngor yn erbyn ei amcanion. Roedd y ddogfen hefyd yn cynnwys y saith maes
llywodraethu ynghyd â’r heriau a wynebwyd a meysydd ar gyfer gwella. Atodiad 2 - Adroddiad Diweddariad Perfformiad Chwarterol, sef
y broses ar gyfer hunanasesu parhaus. Atodiad 3 - adroddiad i grynhoi perfformiad y Cynllun
Corfforaethol 2017 i 2022 ar ôl cyrraedd ei flwyddyn olaf. Amcanion Perfformiad o fewn y Cynllun Corfforaethol
2017-2022 oedd: ·
Tai ·
Clymu Cymunedau ·
Cymunedau Cryf ·
Yr Amgylchedd a ·
Phobl Ifanc. Y Swyddogaethau Llywodraethu a oedd yn ofynion statudol
oedd: ·
Cynllunio Corfforaethol ·
Cynllunio Ariannol ·
Rheoli Perfformiad ·
Rheoli Risg ·
Cynllunio’r Gweithlu ·
Asedau a ·
Chaffael. Yn ystod trafodaethau codwyd y pwyntiau canlynol: ·
Cadarnhaodd y Prif Weithredwr er mwyn cynnal yr her
wrth fynd ymlaen, byddai angen dull tîm.
Roedd yr UDRh, Swyddogion ac Aelodau’n cydweithio i gyflwyno Cynllun
Corfforaethol newydd ym mis Hydref.
Roedd adroddiadau diweddaru rheolaidd yn cael eu cyflwyno mewn
cyfarfodydd Craffu, Cabinet a’r Cyngor Llawn i sicrhau cysondeb o ran
cyfathrebu. ·
Arolygon - cadarnhawyd yn ystod y cyngor blaenorol,
roedd arolygon preswylwyr wedi cael eu cynnal dwywaith y flwyddyn. Pwrpas yr arolwg oedd canfod sut oedd y
cyngor yn perfformio yn erbyn y blaenoriaethau.
Wrth symud ymlaen, byddai arolygon yn cael eu cynnal drwy’r post,
arolygon electroneg a chopïau papur ar gael mewn llyfrgelloedd a mannau
derbynfa. Roedd Deddf Llywodraeth Leol
ac Etholiadau yn rhoi dyletswydd statudol ar y cyngor i gynnal arolwg gyda phreswylwyr
bob blwyddyn ynghyd â budd-ddeiliaid eraill.
Roedd yr arolwg nesaf yn cael ei lunio yn Hydref/Tachwedd a fyddai’n
rhoi cyfle i’r aelodau annog preswylwyr i’w cwblhau. ·
Codwyd y mater o broblemau recriwtio a chadw staff
gofal. Cadarnhawyd nad oedd y mater y
Sir Ddinbych yn unig ond ar draws y wlad.
Roedd Tîm Prosiect wedi cael ei sefydlu yn ddiweddar a chynhaliwyd ffair
swyddi i hyrwyddo iechyd a gofal cymdeithasol fel gyrfa. CYNIGIWYD gan y Cynghorydd Gareth Sandilands, EILIWYD gan
y Cynghorydd Cheryl Williams. PENDERFYNWYD fod y Cyngor yn cymeradwyo Hunanasesiad o Berfformiad
2021 i 2022. |
|
DATGANIAD POLISI TÂL PDF 276 KB Ystyried
adroddiad gan y Rheolwr AD ac Arbenigwr
Tâl a Gwobrwyo (copi ynghlwm) sy’n ceisio cymeradwyaeth i’r Datganiad Polisi
Tâl. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Bennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, AD a
Democrataidd y Datganiad Polisi Tâl 2022/23 (dosbarthwyd yn flaenorol) gan nad
oedd y Rheolwr AD, Louise Dougal yn gallu mynychu’r cyfarfod. Mae Deddf Lleoliaeth 2011
yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol baratoi datganiadau polisi tâl.
Mae’n rhaid i'r datganiadau hyn fynegi polisïau’r awdurdod ei hun ar amrywiaeth
o faterion sy'n ymwneud â chyflog ei weithlu, yn arbennig ei uwch staff (neu
"brif swyddogion"), a’i weithwyr ar y cyflogau isaf. Mae’n rhaid i’r
Cyngor gymeradwyo Datganiadau Polisi Tâl bob blwyddyn, a’u cyhoeddi ar y wefan
berthnasol. Mae’r Polisi Tâl wedi cael ei ddiweddaru gyda Dyfarniad
Tâl 2021/22 gan nad yw 2022/23 wedi ei gytuno eto. Cadarnhawyd bod y pwyntiau tâl yn cael eu gosod yn
genedlaethol a bod gan y cyngor ei strwythur graddio a thâl ei hun gyda
graddfeydd o fewn y golofn gyflog.
Pennwyd y graddfeydd gan werthusiadau swyddi oedd â chyfres o feini
prawf ac yn gwobrwyo pwyntiau i swyddi ar gyfer gofynion gwahanol y swydd. Roedd cyfanswm y pwyntiau yn gyfystyr â
graddfa ar y golofn gyflog genedlaethol.
Y cynllun gwerthuso swyddi oedd y ffordd roedd y cyngor yn sicrhau fod
cyflog yn cael ei roi yn gyfartal o ran cydraddoldeb. Roedd cynrychiolwyr undebau llafur ynghlwm y
Panel ar gyfer gwerthuso swyddi. O ran cynnydd mewn cyflog yn flynyddol, roedd y rhain yn
cael eu negodi’n genedlaethol drwy’r Cydgyngor Trafod Telerau a pholisi’r
Cyngor oedd bod angen cadw at, ac anrhydeddu unrhyw ddyfarniad tâl a gytunwyd
yn genedlaethol. O ran Prif Swyddogion, sefydlodd y cyngor Banel Tâl Uwch
Arweinyddiaeth a oedd yn gorff wleidyddol gytbwys, gan adolygu strwythur tâl
uwch arweinyddiaeth yn 2016. Ar ôl
hynny, roeddent yn adolygu’r strwythur tâl yn flynyddol i weld os oedd yn
parhau i fod yn briodol. Nid oedd y
Panel Tâl Uwch Arweinyddiaeth yn gwneud penderfyniadau, dim ond argymhellion ac
roedd angen i unrhyw newidiadau gael eu cyflwyno i’r Cyngor Llawn. CYNIGIWYD gan y Cynghorydd Brian Blakeley, EILIWYD gan y
Cynghorydd Huw Williams. PENDERFYNWYD bod y
Cyngor yn cytuno ag argymhelliad y Panel Tâl Uwch Arweinyddiaeth o ran newid
Polisi Tâl 2022/23 (copi yn Atodiad A). |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL PWYLLGORAU CRAFFU’R CYNGOR 2021/2022 PDF 230 KB Ystyried
adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (copi ynghlwm) i gyflwyno gweithgareddau’r
Pwyllgorau Craffu yn ystod 2021/2022 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Hugh Irving Adroddiad Blynyddol Pwyllgorau Craffu’r
Cyngor ar gyfer 2021/2022 (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) ar eu gweithgareddau yn
ystod 2021/22. Diben llunio’r Adroddiad Blynyddol oedd er mwyn cydymffurfio ag Adran 7.4.4
Cyfansoddiad y Cyngor oedd yn nodi bod yn rhaid i Bwyllgorau Craffu adrodd yn
flynyddol i'r Cyngor Llawn am eu gwaith, a gwneud argymhellion ar gyfer eu
rhaglenni gwaith at y dyfodol ac ar ddulliau gweithio diwygiedig os yw hynny’n
briodol. Cyflwynwyd ffurflenni ceisiadau craffu gan aelodau, swyddogion ac aelodau
o’r cyhoedd, a’u rhoi i’r Grŵp Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion Craffu sy’n
defnyddio’r meini prawf i benderfynu a yw eitem yn deilwng o sylw pwyllgor
craffu. Roedd yr adroddiad yn amlinellu rôl bwysig y Pwyllgorau Craffu o ran
cefnogi gwaith y Cyngor i gyflawni ei flaenoriaethau corfforaethol a’r Cynllun
Corfforaethol, yn cynnwys monitro darpariaeth y Cynllun yn rheolaidd. Roedd yr adroddiad hefyd yn crynhoi:- ·
Canlyniad yr adolygiad a
gyflawnwyd yn dilyn galw penderfyniad y Cabinet i mewn yn ystod y flwyddyn; ·
Y gwaith a gyflawnwyd gan
nifer o Weithgorau / Tasg a Gorffen Craffu a adroddwyd i Graffu; ·
Y mathau o waith ychwanegol
a gyflawnwyd gan aelodau Craffu. Mae ymgysylltu â’r cyhoedd ac annog preswylwyr i ryngweithio â Chraffu’n
parhau i fod yn her. Un agwedd
gadarnhaol oedd bod disgyblion o Ysgol Dinas Brân wedi cysylltu â Chraffu i
wneud cais i gymryd rhan mewn trafodaeth ar waredu’r defnydd o blastigion untro
o fewn gwasanaeth prydau ysgol. Yna
cyflwynodd craffu bryderon a sylwadau’r Cyngor i’r Cabinet. Fe wnaeth teuluoedd defnyddwyr gwasanaeth hefyd gymryd rhan mewn
trafodaethau ar y dewisiadau posibl ar gyfer ailagor gwasanaeth cyfleoedd
gwaith Meifod ar gyfer pobl gydag anableddau dysgu yn dilyn y pandemig, a
phrofodd hyn i fod yn hynod o gadarnhaol. Diolchodd y Cynghorydd Irving a’r Aelodau eraill i’r Cydlynydd Craffu,
Rhian Evans, am ei chefnogaeth a’i gwaith caled drwy gydol y flwyddyn. CYNIGIWYD gan y Cynghorydd Hugh Irving, EILIWYD gan y Cynghorydd Alan
James. Cynhaliwyd pleidlais a chytunwyd yn unfrydol y dylid cymeradwyo’r
adroddiad. PENDERFYNWYD bod y Cyngor yn ystyried
ac yn cymeradwyo Adroddiad Blynyddol y Pwyllgorau Craffu ar gyfer 2021/22 |
|
AMSERLEN BWYLLGORAU 2023 PDF 208 KB Ystyried
adroddiad gan y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd ac Uwch-weinyddwr Pwyllgorau
(copi ynghlwm) i gymeradwyo Amserlen Pwyllgor ar gyfer 2023. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Rheolwr y Gwasanaethau
Democrataidd, Steven Price, yr adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) i
alluogi’r Aelodau i gymeradwyo’r amserlen Bwyllgorau ddrafft ar gyfer 2023. Roedd yn ofynnol i'r Cyngor gymeradwyo amserlen ar gyfer 2023 er mwyn gallu
cadarnhau trefniadau’r cyfarfodydd a’r adnoddau, cyhoeddi’r amserlen a llenwi
dyddiaduron yr Aelodau. Diolchodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd i’r Uwch Swyddog Pwyllgorau
Kath Jones, am baratoi’r amserlen a
chysylltu â swyddogion gan fod hyn wedi gofyn am drefnu gofalus iawn. Codwyd y mater o amser y cyfarfodydd gan y teimlwyd fod cyfarfodydd a
gynhaliwyd yn ystod y dydd o anfantais i aelodau sy’n gweithio gan fod rhai
cyflogwyr yn gyndyn o ryddhau staff i fynychu cyfarfodydd. Cadarnhaodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd y byddai arolwg yn cael ei
ddosbarth i holl aelodau ar ddiwedd mis Awst.
Byddai ymgynghoriad 3-4 wythnos gydag aelodau a byddai adroddiad yn cael
ei ychwanegu i’r rhaglen gwaith i’r dyfodol mewn cyfarfod yn y dyfodol. CYNIGIWYD gan y Cynghorydd Mark Young, EILIWYD gan y Cynghorydd Alan James. PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod,
fod y Cyngor yn cymeradwyo'r amserlen bwyllgorau ar gyfer 2023, yn unol ag
atodiad 1. |
|
PENODI CADEIRYDD AC AELOD AR Y PWYLLGOR GWASANAETHAU DEMOCRATAIDD PDF 207 KB Ystyried
adroddiad gan y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd (copi ynghlwm) i benodi
Aelodau etholedig ar y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd, Steve Price yr adroddiad (a
ddosbarthwyd yn flaenorol) i alluogi’r Cyngor i benodi aelodau etholedig i’r
Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a phenodi Cadeirydd y Pwyllgor. Ystyriodd y Cyngor ofynion aelodaeth y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd
yn ystod ei Gyfarfod Blynyddol ym Mai. Ar y pryd nid oedd manylion aelodaeth
gwleidyddol yn gyflawn ac felly cytunwyd i ddychwelyd ar y Cyngor yn
ddiweddarach i gadarnhau penodiadau i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd. Roedd Adran 11 Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 yn
gofyn i’r Cyngor penodi Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd. O dan y Mesur ni fydd mwy nag un aelod o'r Cabinet ar y
Pwyllgor (ac ni all fod yr Arweinydd), ond penderfynodd y Cyngor ym mis Mai
2012 y byddai'r aelodaeth yn 11 o gynghorwyr ac ni fyddai'n cynnwys aelod o'r
Cabinet. Gofynnwyd am enwebiadau ar gyfer Cadeirydd y Pwyllgor
Gwasanaethau Democrataidd. Enwebodd y Cynghorydd Jon Harland y Cynghorydd Hugh Evans
fel Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd, ac eiliwyd hyn gan y
Cynghorydd Karen Edwards. Roedd 5 sedd wag ar hyn o bryd. O’r rhain roedd gan y Blaid Lafur hawl i
benodi 4 aelod a Phlaid Cymru hawl i benodi 1 aelod. Ar y pwynt hwn, cadarnhaodd y Cynghorydd Elfed Williams y
byddai’n cymryd y sedd wag ar ran Plaid Cymru. Nodwyd pe na byddai’r seddi gwag Llafur yn cael eu henwebu heddiw, byddai’r
Cyngor yn cymeradwyo’r aelodau a enwebwyd eisoes ym mharagraff 4.4. a
dirprwyo’r awdurdod i Arweinydd y Blaid Lafur i enwebu aelodau tu allan i’r
cyfarfod. PENDERFYNWYD bod y Cyngor yn
cymeradwyo aelodau’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a enwebwyd ac a nodwyd
yn yr adroddiad ac yn dirprwyo awdurdod i arweinydd y Blaid Lafur i ddarparu
enwau ar gyfer y seddi sydd ar gael i’r Blaid ar y Pwyllgor. |
|
PENODI AELOD I BANEL HEDDLU A THROSEDD GOGLEDD CYMRU PDF 206 KB Ystyried
adroddiad gan y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd (copi ynghlwm) i benodi Aelod
etholedig i Banel Trosedd ac Anhrefn Gogledd Cymru. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd, Steve Price, yr adroddiad
(a ddosbarthwyd yn flaenorol) i gadarnhau penodiad aelod etholedig ar y Panel
Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru. Roedd pob un o chwe awdurdod lleol Gogledd
Cymru’n gallu enwebu aelod neu aelodau i eistedd ar y Panel. Roedd dyraniad y
seddi i bob awdurdod yn seiliedig ar gydbwysedd gwleidyddol a dosbarthiad y
boblogaeth ar draws Gogledd Cymru gyfan.
Defnyddiwyd y fethodoleg d’hondt i ganfod nifer y seddi ar gyfer pob
awdurdod lleol ac i ba grŵp gwleidyddol neu grwpiau oedd yn gymwys. Ar sail poblogaeth, penododd Conwy, Sir y
Fflint, Gwynedd a Wrecsam yn 2 aelod yr un a phenododd Sir Ddinbych ac Ynys Môn
1 aelod yr un. Roedd maint prif bleidiau gwleidyddol y cynghorau yng Ngogledd
Cymru’n pennu sawl sedd oedd gan bob grŵp neu grwpiau hawl iddynt. Roedd canlyniadau’r etholiadau llywodraeth leol
ym Mai wedi arwain at sedd Sir Ddinbych yn cael ei ddyrannu i’r Blaid Lafur. Enwebodd y Cynghorydd Diane King y Cynghorydd
Pete Prendergast, ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Brian Blakeley. Ni chafwyd enwebiad arall ac felly: PENDERFYNWYD bod y Cyngor yn penodi’r
Cynghorydd Pete Prendergast i fod ar Banel Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru dros
gyfnod y Cyngor hwn neu hyd y penodir rhywun arall. |
|
HAMDDEN SIR DDINBYCH CYFYNGEDIG - PENODI CYFARWYDDWYR PDF 211 KB Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau
Cyfriethiol, Adrioddau Dynol a Democrataidd (copi ynghlwm) i benodi
Cyfarwyddwyr newydd i Hamdden Sir Ddinbych Cyfyngedig. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Jason McLellan yr adroddiad (a ddosbarthwyd yn
flaenorol) i friffio aelodau ar gyfansoddiad Bwrdd Cyfarwyddwyr Hamdden Sir
Ddinbych Cyf ac i benodi cyfarwyddwyr newydd yn dilyn yr etholiadau llywodraeth
leol. Roedd y ddwy swydd ar y Bwrdd i’w llenwi gan
Aelodau Arweiniol yn wag ar ôl iddynt ddod i ben ar ôl colli eu rolau yn dilyn
yr etholiad. Roedd y rolau Aelod Arweiniol a nodwyd yn yr adroddiad yn
adlewyrchu’r ffaith fod yr Aelodau Arweiniol perthnasol wedi cadw’r portffolio
Hamdden a phortffolio Addysg. Felly
cynigiwyd y Cynghorwyr Rhys Thomas a Gill German fel Aelodau o Fwrdd y
Cyfarwyddwyr. CYNIGIWYD gan y Cynghorydd Mark Young, ac
EILIWYD gan y Cynghorydd Cheryl Williams. Roedd un swydd arall i gael ei llenwi ar y Bwrdd gael aelod etholedig nad
oedd yn aelod o’r Cabinet. Y Cynghorydd Peter Prendergast oedd yn y swydd ar
hyn o bryd. Gofynnwyd i’r Cyngor gadarnhau penodiad yr aelod nad oedd ar y
Cabinet ar gyfer y swydd. Enwebodd y Cynghorydd Jason McLellan y Cynghorydd Peter Prendergast, ac
eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Barry Mellor. Enwebodd y Cynghorydd Mark Young y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, ac
eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Andrea Tomlin. Cafwyd pleidlais ac roedd y canlyniadau fel a ganlyn - Y Cynghorydd Peter Prendergast - 23 Y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts - 16 Felly: PENDERFYNWYD bod - ·
Y Cyngor yn penodi’r
Cynghorydd Gill German, Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd a’r
Cynghorydd Rhys Thomas, Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau i fod yn Gyfarwyddwyr
HSDd. ·
Y Cyngor yn cadarnhau
penodiad Aelod nad yw ar y Cabinet, y Cynghorydd Peter Prendergast, fel
Cyfarwyddwr HSDd. |
|
PENODI CYNRYCHIOLYDD CYNGHORAU TREF, DINAS A CHYMUNED I'R PWYLLGOR SAFONAU PDF 206 KB Ystried adroddiad gan y
Pennaeth Gwasanaethau Cyfriethiol, Adrioddau Dynol a Democrataidd (copi
ynghlwm) penodi cynrychiolydd Cynghorau Tref, Dinas a Chymuned i’r Pwyllgor
Safonau. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Monitro, Gary Williams adroddiad (a ddosbarthwyd yn
flaenorol) er mwyn i’r Cyngor benodi cynrychiolydd Cyngor Tref, Dinas a
Chymuned i’r Pwyllgor Safonau. Ar 24 Mai 2022 cytunodd y Cyngor y dylai swyddogion ymgynghori â Chynghorau
Tref, Dinas a Chymuned i ail-benodi’r Cynghorydd Gordon Hughes i wasanaethu fel
cynrychiolydd Cyngor Tref, Dinas a Chymuned ar Bwyllgor Safonau’r Cyngor am ail
dymor. Cysylltwyd â Chynghorau Tref, Dinas a Chymuned i ofyn am eu barn o ran
ail-benodi’r Cynghorydd Hughes. Roedd yr holl ymatebion a dderbyniwyd yn
gefnogol o ail-benodi’r Cynghorydd Hughes. CYNIGIWYD gan y Cynghorydd Gwyneth Ellis, EILIWYD gan y Cynghorydd Alan
James. PENDERFYNWYD bod y Cyngor yn
penodi’r Cynghorydd Gordon Hughes o Gyngor Tref Corwen i fod yn gynrychiolydd
Cyngor Tref, Dinas a Chymuned ar y Pwyllgor Safonau am yr ail dymor a’r olaf. |
|
RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL Y CYNGOR SIR PDF 385 KB Ystyried Rhaglen
Gwaith i’r Dyfodol y Cyngor (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, AD a Democrataidd Raglen
Gwaith i'r Dyfodol y Cyngor, ynghyd â Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol ar gyfer
Gweithdai'r Cyngor (a ddosbarthwyd ymlaen llaw). Cadarnhawyd y byddai canlyniadau’r Arolwg i Gynghorwyr o ran amser y
cyfarfodydd yn cael eu cyflwyno yn y cyfarfod ym mis Hydref 2022. PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod,
y dylid cymeradwyo a nodi Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cyngor a Gweithdai’r
Cyngor. |
|
DAETH Y CYFARFOD I BEN AM 11.55 A.M. |