Agenda and draft minutes
Lleoliad: VIA VIDEO CONFERENCE
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Dogfennau ychwanegol: |
|
DATGANIADAU O FUDDIANT PDF 197 KB Yr Aelodau i
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ar y pwynt hwn, gadawodd Pennaeth y Gwasanaethau
Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd y cyfarfod. Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad. |
|
ADOLYGU STRWYTHUR YR UWCH ARWEINYDDIAETH PDF 217 KB Ystyried adroddiad gan y Prif Weithredwr ar gyfeiriad strategol y Cyngor yn y dyfodol, yn cynnwys cynnig i ailstrwythuro Uwch Dîm Arweinyddiaeth y Cyngor (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Weithredwr, Graham Boase adroddiad Adolygu’r Strwythur
Uwch Arweinyddiaeth. Roedd ailstrwythuro’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth yn cynnwys creu swydd
Cyfarwyddwr Corfforaethol ychwanegol (sef Cyfarwyddwr Corfforaethol
Gwasanaethau Cefnogi). Eglurwyd bod angen penderfyniad ffurfiol gan y Cyngor i
greu swydd uwch reolwr newydd ar y lefel hon. Amlygodd yr adroddiad ailstrwythuro ddull dau gam gan bwysleisio’r diffyg
difrifol o gapasiti uwch reoli ac arweinyddiaeth sydd ei angen er mwyn ymdrin
â’r heriau y byddai’r Awdurdod Lleol yn eu hwynebu yn y dyfodol. Roedd cyfarfod o Banel Tâl Uwch Dîm Arweinyddiaeth Aelodau, dan
gadeiryddiaeth y Cynghorydd Julian Thompson-Hill wedi cael ei gynnal ar 14
Chwefror 2022. Roedd y Rheolwr AD wedi rhoi gwybod i’r Panel am yr asesiad
annibynnol a gynhaliwyd gan Kornferry Hay, ar radd swydd arfaethedig newydd y
Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cefnogi. Roedd gradd y swydd newydd wedi’i werthuso
yn seiliedig ar Uwch Dîm Arweinyddiaeth 3 (£107,374 - £110,670) ac ni fyddai
unrhyw newid i werthusiadau’r ddau Gyfarwyddwr Corfforaethol presennol. Roedd y
Panel Cydnabyddiaeth wedi cefnogi’r ailstrwythuro a gynigiwyd. Cadarnhaodd yr Arweinydd, y Cynghorydd Hugh Evans, y gofynnwyd iddo, pan
benodwyd Graham Boase fel Prif Weithredwr ym mis Awst 2021, i fyfyrio ar
anghenion y Cyngor, uchelgais y Cyngor a’r strwythur i gyflawni’r uchelgais
honno. Oherwydd y pwysau a welwyd dros
y 12 mis diwethaf, roedd pwysau wedi bod ar gapasiti a phwrpas yr ailstrwythuro
oedd lleddfu rhai ohonynt. CYNIGIODD y Cynghorydd Julian Thompson-Hill gymeradwyo adroddiad
Ailstrwythuro’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth, ac EILIODD y Cynghorydd Hugh Evans. Ar y pwynt hwn, gofynnodd y Cynghorydd Gwyneth Ellis i aelodau bleidleisio
yn erbyn y cynnig. Yn ei barn ni, nid oedd yr ailstrwythuro arfaethedig yn
cynnig y gwerth gorau am arian, yn enwedig yn yr argyfwng ariannol presennol
oedd y preswylwyr yn ei wynebu. Roedd yr adroddiad yn disgrifio’r strwythur presennol ond nid oedd
dadansoddiad o berfformiad presennol y Cyngor a sut oedd disgwyl iddo wella yn
y dyfodol. Byddai dadansoddiad o’r
fath yn caniatáu i Gynghorwyr nodi anfanteision y strwythur presennol a sut fyddai’r
strwythur newydd o fantais. Dywedodd y Cynghorydd Ellis hefyd nad oedd yr
adroddiad yn rhoi dadansoddiad manwl o gost yr ailstrwythuro. Dywedodd hefyd na
allai Cynghorwyr farnu a fyddai’r cynllun yn llwyddiant ai peidio pe bai’n cael
ei roi ar waith gan nad oedd targedau i farnu yn eu herbyn. Cytunodd y
Cynghorydd Ellis y byddai’n anodd iawn diffinio manteision ailstrwythuro ond
nid yn amhosibl. Cadarnhaodd y Cynghorydd Ellis nad oedd yn erbyn yr
ailstrwythuro fel y cyfryw, ond byddai’n well ganddi weld dadansoddiad llawn
o’r costau a manteision y disgwylir. CYNIGIODD y Cynghorydd Gwyneth Ellis bleidleisio yn erbyn yr adroddiad
Ailstrwythuro Uwch Arweinyddiaeth, ac EILIODD y Cynghorydd Glenn Swingler. Cafwyd trafodaeth fanwl, a chodwyd y pwyntiau canlynol: ·
Eglurwyd bod angen yr
ailstrwythuro ac os na fyddai’n gwella dyfodol yr Awdurdod Lleol, yn sicr
byddai’r Prif Weithredwr yn cael ei ddwyn i gyfrif. ·
Cadarnhawyd bod pob aelod
o’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth yn cytuno â’r ailstrwythuro ac mai’r Prif
Weithredwr fyddai’n cael ei ddwyn i gyfrif. ·
Nid oedd y strwythur
presennol yn galluogi’r Tîm Gweithredol Corfforaethol ddarparu’r arweinyddiaeth
strategol briodol. Roedd angen y capasiti ychwanegol i’r Awdurdod allu cyflawni
pob agenda heriol a drafodwyd yn ystod y cyfarfod. ·
Cadarnhaodd y Cynghorwyr
Glenn Swingler a Paul Penlington eu bod yn cytuno â’r Cynghorydd Gwyneth Ellis
gan annog aelodau i bleidleisio yn erbyn yr ailstrwythuro arfaethedig. Cafwyd pleidlais ac roedd y canlyniad fel a ganlyn: O blaid yr Ailstrwythuro - 27 Yn erbyn – 6 Ymatal – 1 Felly, PENDERFYNWYD: ·
Bod y Cyngor yn cymeradwyo
creu swydd Cyfarwyddwr Corfforaethol newydd, sef Cyfarwyddwr Corfforaethol
Gwasanaethau Cefnogi; · Bod y Cyngor yn derbyn ... view the full Cofnodion text for item 3. |
|
Daeth y cyfarfod i ben am 3.15 p.m. |