Agenda and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun LL15 1YN
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Dogfennau ychwanegol: |
|
DATGAN CYSYLLTIAD Yr Aelodau i
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ddatganwyd
unrhyw gysylltiad. |
|
Ar y pwynt hwn,
talodd y Cadeirydd deyrnged i’r diweddar Gynghorydd Huw Jones, a fu farw’n
ddiweddar. Cafwyd
teyrngedau gan y Cynghorydd Joe Welch ar ran y Grŵp Annibynnol, y
Cynghorydd Joan Butterfield ar ran y Grŵp Llafur a'r Cynghorydd Martyn
Holland ar ran Grŵp y Ceidwadwyr Cymreig. Cydymdeimlwyd â theulu’r Cynghorydd Jones ac, i ddangos parch, fe safodd
pawb a oedd yn bresennol mewn tawelwch yn deyrnged iddo. Cydymdeimlodd y
Cadeirydd hefyd â’r Barnwr Ian Trigger, Cadeirydd y Pwyllgor Safonau, a gollodd
ei wraig, Jennifer Ann Trigger, yn ddiweddar. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys
yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid oedd unrhyw
fater brys. Cwestiwn gan aelod o'r cyhoedd, Sue Lewis, Bodfari - “Bu i Gronfa
Bensiynau Clwyd, a gynhelir gan Sir y Fflint, ymgynghori’n ddiweddar ag
aelodau’r Gronfa, gan gynnwys Sir Ddinbych, ar ddatblygu ei Pholisi Buddsoddi
Cyfrifol. Ymysg pethau eraill, mae hwn
yn edrych ar ddadfuddsoddi mewn tanwyddau ffosil. Wnaeth Sir Ddinbych ymateb i’r ymgynghoriad
hwn, ac os felly, fyddech chi cystal â rhannu eich ymateb â ni? Dyma ymateb y Cynghorydd Julian
Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol: Mae Sir Ddinbych
yn aelod o Gronfa Bensiynau Clwyd, sy’n cael ei weinyddu gan Gyngor Sir y
Fflint. Y diweddar Gynghorydd Huw Jones
oedd yr aelod etholedig ar Bwyllgor Cronfa Bensiynau Clwyd (“y Pwyllgor”), a
gwasanaethodd arno am nifer o flynyddoedd.
Mae’r Pwyllgor hwn yn goruchwylio’r Gronfa Bensiynau. Yn
ogystal, mae swyddogion Cyngor Sir Ddinbych yn rhyngweithio’n rheolaidd gyda
swyddogion Cronfa Bensiynau Clwyd. Mae gan Gronfa Bensiynau Clwyd
strategaeth fuddsoddi, a’i phrif amcan, yn amlwg, yw sicrhau y gellir diwallu’r
rhwymedigaethau pensiwn presennol a rhai’r dyfodol yn llawn.
Mae’r Gronfa’n diweddaru’r polisïau hyn yn rheolaidd ac mae eu
strategaeth fuddsoddi yn nodi y byddant yn gwneud buddsoddiadau dethol mewn
meysydd amgylcheddol fel ynni glân, seilwaith amgylcheddol a phrosiectau coedwigaeth. Ar hyn o bryd,
mae tua 1.2% o asedau’r Gronfa wedi’u buddsoddi mewn meysydd tanwyddau
ffosil. Mynychodd Pennaeth Cyllid ac
Eiddo Cyngor Sir Ddinbych gyfarfodydd y Grŵp Llywio yn yr hydref a dechrau
gaeaf 2019, gan roi adborth i'r Grŵp hwnnw ar y trafodaethau yr oeddem ni
wedi bod yn cael yn fewnol am ddatblygu ein polisïau i ddod yn garbon
niwtral. Cafodd y trafodaethau hynny i
gyd eu bwydo i fersiwn ddrafft Polisi Buddsoddi Cyfrifol Cronfa Bensiynau
Clwyd. Roedd y Polisi drafft yn
adlewyrchu trafodaethau mewnol Sir Ddinbych i raddau helaeth, mewn perthynas â
blaenoriaethu pwysigrwydd newid hinsawdd a rhoi ystyriaeth i hynny yn eu
penderfyniadau wrth symud ymlaen. Felly rydym yn
cefnogi mabwysiadu’r Polisi drafft fel yr oedd yn unol â thrafodaethau mewnol
Sir Ddinbych. Tynnwyd sylw’r
aelodau at y darn canlynol o’r Polisi: Nid dyletswydd ar y Gronfa yn unig yw ystyried newid hinsawdd, mae hefyd yn
gyson â natur hirdymor y Gronfa. Mae
angen i fuddsoddiadau’r Gronfa fod yn gynaliadwy er mwyn bod o’r budd gorau i’w
holl fudd-ddeiliaid. Ymgysylltiad yw’r
dull gorau o alluogi’r newid y mae ei angen i fynd i'r afael â'r argyfwng
gyda'r hinsawdd. Fodd bynnag, mae
dadfuddsoddi ar sail risg dethol yn briodol i hwyluso’r newid i economi
rhad-ar-garbon. Mae gan y Gronfa dri phrif faes
blaenoriaeth, ac mae un o’r rheiny yn y blaenoriaethau buddsoddwr cyfrifol yn
nodi eu bod yn bwriadu mesur a deall yr agwedd garbon o fewn y portffolio
buddsoddi, ac ar ôl ei asesu, byddant yn cytuno ar darged lleihau carbon o fewn
deuddeng mis, a fydd yn cael ei roi ar waith dros y pum mlynedd nesaf. Cwestiwn atodol gan Sue Lewis - Fyddai Cyngor Sir
Ddinbych yn dilyn Llywodraeth Cymru a chynghorau eraill fel Cyngor Caerdydd a
Sir Caerfyrddin, ac yn pasio cynnig yn nodi eu bod yn dymuno i’w Cronfa
Bensiynau ddadfuddsoddi’n llwyr o danwyddau ffosil o fewn cyfnod penodol. Deallir na all y
cyngor ond cynghori rheolwyr y Gronfa, ond serch hynny, byddai’n cyfleu neges
rymus iawn i'r cyhoedd, i'w buddiolwyr, eich bod o ddifrif, a byddai'n cyd-fynd
â’ch polisi lleihau carbon. Dyma ymateb pellach y Cynghorydd Julian
Thompson-Hill - Mae’n bosib y gallai Cyngor Sir Ddinbych wneud cynnig o’r fath. O ran y strwythur llywodraethu, un bleidlais ydym ni ymysg pump ar y Pwyllgor, felly byddai’n dibynnu ar safbwynt tebyg gan yr awdurdodau lleol eraill. Nid ... view the full Cofnodion text for item 3. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Cyngor Sir a gynhaliwyd 19 Tachwedd 2019 a 28 Ionawr 2020 (copi yn
amgaeedig). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod y Cyngor Arbennig a gynhaliwyd ar 19 Tachwedd 2019. PENDERFYNWYD y
byddai cofnodion cyfarfod y Cyngor Arbennig a gynhaliwyd ar 19 Tachwedd 2019 yn
cael eu cadarnhau fel cofnod cywir, a’u llofnodi gan y Cadeirydd. Cyflwynwyd
cofnodion y Cyngor Llawn a gynhaliwyd ar 28 Ionawr 2020. Materion yn Codi -
Tudalen 6 –
gofynnodd y Cynghorydd Rhys Thomas, yn dilyn datblygiadau yn Ysgol Annibynnol
Rhuthun ers cyfarfod diwethaf y Cyngor Llawn, oedd y Cyngor yn fodlon bod y
mater diogelu wedi cael ei ddatrys? Ymatebodd y
Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, Aelod Arweiniol Addysg, Gwasanaethau Plant ac
Ymgysylltu â’r Cyhoedd, gan ddweud, yn dilyn datblygiadau diweddar, y gallai
sicrhau’r aelodau bod swyddogion yr awdurdod lleol yn cydweithio ag Estyn a CIW
ar bob argymhelliad, a bod diogelu’r myfyrwyr yn hollbwysig. Tudalen 7 - District Enforcement Limited Cadarnhaodd y
Cynghorydd Rhys Thomas bod Aelod Arweiniol Cynllunio, Diogelu'r Cyhoedd a
Chymunedau Mwy Diogel wedi dosbarthu’r ystadegau gweithgarwch i bob aelod. Mynegodd bryder gan mai dim ond 22 o’r 147 o
droseddau oedd yn ymwneud â baw cŵn neu gŵn yn rhedeg yn rhydd ar
gaeau. Gofynnwyd i’r Aelod Arweiniol
gysylltu â District Enforcement i
ganfod a oedd troseddau taflu bonion sigaréts yn ddewis haws ar gyfer rhoi
rhybuddion cosb benodedig. PENDERFYNWYD yn
amodol ar yr uchod, y byddai cofnodion cyfarfod y Cyngor Llawn a gynhaliwyd ar
28 Ionawr 2020 yn cael eu cadarnhau fel
cofnod cywir a’u llofnodi gan y Cadeirydd. |
|
TRETH Y CYNGOR 2020/2021 A MATERION CYSYLLTIEDIG PDF 207 KB Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Cyllid ac Eiddo (copi'n amgaeedig) i bennu lefelau
Treth y Cyngor ar gyfer 2020/2021 Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr
Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol, y Cynghorydd Julian
Thompson-Hill, yr adroddiad (a gylchredwyd ymlaen llaw) i osod lefelau Treth y
Cyngor ar gyfer 2020/2021. Cyfeiriodd y
Cynghorydd Thompson-Hill at y canlynol yn benodol: ·
Prif
nodweddion y gyllideb a gymeradwywyd ar 28 Ionawr 2020 ·
Sylwadau’r
Pennaeth Cyllid ac Eiddo ar gryfder yr amcangyfrifon cyllidebol a digonolrwydd
y cronfeydd wrth gefn ·
Dadansoddiad
o'r praeseptau gan Gynghorau Dinas, Tref a Chymuned a Chomisiynydd Heddlu a
Throsedd Gogledd Cymru ·
Argymhellion
ar gyfer lefelau Treth y Cyngor 2020/2021 ·
Setliad cadarnhaol
o +4.3% yn refeniw Llywodraeth Leol y Cyngor gan Lywodraeth Cymru. Gofynnwyd am
ddata hanesyddol, gan gynnwys praeseptau Cynghorau Cymuned, Gwasanaethau Tân
a’r Heddlu, er mwyn gallu cymharu.
Cytunwyd y byddai’r wybodaeth hon yn cael ei dosbarthu i'r holl aelodau. Cododd y
Cynghorydd Mark Young y mater o lifogydd.
Adroddwyd y bydd cartrefi y mae llifogydd wedi effeithio arnynt yn
Lloegr yn cael 100% o ostyngiad Treth y Cyngor.
Gofynnodd a fyddai hyn yn digwydd yng Nghymru. Hefyd, bydd deiliaid tai yr oedd llifogydd
wedi effeithio arnynt yn Lloegr yn cael £5,000, ond yng Nghymru, £500 fydd y
ffigwr hwnnw. Mynegodd y Cynghorydd
Young ei anfodlonrwydd â’r gwahaniaeth yn y symiau. Cadarnhaodd y
Pennaeth Cyllid ac Eiddo fod hwn yn fater sydd wedi’i ddatganoli i Gymru. Mae Sir Ddinbych yn cydweithio’n agos â’r
Ganolfan Cyngor Ar Bopeth i helpu trigolion hawlio unrhyw gyllid sydd ar
gael. Bydd datganiad sy’n cynnwys yr holl
rifau cyswllt perthnasol a dolen i’r we yn cael ei ddosbarthu i bob aelod er
gwybodaeth. O ran Gostyngiad
i Dreth y Cyngor, byddai’n rhaid i awdurdodau lleol ystyried hyn, gan mai o’u
cyllideb nhw y byddai’r arian yn cael ei dynnu. Yn ystod y
drafodaeth, cyfeiriwyd ar Fformiwla Barnett, ac eglurwyd ei bod yn fformiwla
gymhleth iawn; roedd un bloc yn llunio rhan o’r hyn y mae’r cyngor yn ei
dderbyn fel grant cynnal refeniw. Pe
byddai arian ychwanegol yn cael ei gyhoeddi yn ystod y flwyddyn, byddai hynny'n
cael effaith gynyddol ar gyllideb y flwyddyn ddilynol. Yn dilyn y drafodaeth:
PENDERFYNWYD y
byddai’r Cyngor yn: (i)
Nodi bod rhaid i'r Cyngor Sir, fel yr
Awdurdod Bilio, ystyried y praeseptau a dderbyniwyd gan Gomisiynydd Heddlu a
Throsedd Gogledd Cymru a'r Cynghorau Tref/Cymuned, a chyhoeddi lefelau Treth y Cyngor
ar gyfer blwyddyn ariannol 2020/2021. (ii)
Cymeradwyo'r argymhelliad bod y symiau a
gyfrifwyd gan y Cyngor ar gyfer blwyddyn ariannol 2020/2021, yn unol ag
Adrannau 32 i 34 (1) Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (y Ddeddf) a Rheoliadau
Addasu Cyfrifiadau Angenrheidiol (Cymru) 2008 fel adran 3 Atodiad A. (iii)
Cymeradwyo’r argymhelliad bod y symiau a
gyfrifwyd gan y Cyngor ar gyfer blwyddyn ariannol 2020/2021, yn unol ag
Adrannau 34 (2) i 36 (1) Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (y Ddeddf) fel
Atodiad A adran 4. (iv)
Sicrhau bod symiau Treth y Cyngor ar gyfer
blwyddyn ariannol 2020/2021 ar gyfer pob un o'r categorïau o anheddau fel y’u
cyflwynir yn Atodiad C. (v)
Cymeradwyo bod lefel y gostyngiad ar gyfer
Dosbarth A, B ac C fel y nodir yn Rheoliadau Treth y Cyngor (Dosbarthau
Rhagnodedig ar Anheddau) (Cymru) 2004 yn cael ei gosod ar sero ar gyfer
blwyddyn ariannol 2020/2021, gyda'r cafeat bod hyn yn ddibynnol ar ddim
newidiadau i ddeddfwriaeth nac amodau lleol. |
|
CYNLLUN CYFALAF 2019/2020 - 2022/23 AC ARGYMHELLION Y GRŴP BUDDSODDI STRATEGOL PDF 240 KB Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Cyllid ac Eiddo (copi’n amgaeedig) i ddarparu Cynllun
Cyfalaf diwygiedig i’r Aelodau gan gynnwys diweddariad ar brosiectau mawr a'r
Cynllun Corfforaethol Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol, y Cynghorydd Julian
Thompson-Hill, yr adroddiad (a gylchredwyd ymlaen llaw) i ddarparu’r Cynllun
Cyfalaf diweddaraf i’r Aelodau, ynghyd â’r wybodaeth ddiweddaraf am brosiectau
mawr a'r Cynllun Corfforaethol. Rhoddwyd yr
adroddiad diwethaf i’r Cyngor ar y Cynllun Cyfalaf llawn ym mis Chwefror
2019. Mae’r Cabinet wedi cael
diweddariadau misol. Roedd y Cynllun
Cyfalaf Amcangyfrifedig bellach yn £33.86 miliwn. Mae'r Cynllun wedi cael ei ddiweddaru ers
adrodd arno i'r Cabinet ar 18 Chwefror 2020. Arweiniodd y
Cynghorydd Thompson-Hill yr Aelodau drwy'r adroddiad. Ymatebodd y Cynghorydd Thompson-Hill
a’r Pennaeth Cyllid ac Eiddo i gwestiynau ynglŷn ag amrywiol agweddau ar y
Cynllun Cyfalaf. Roedd y
prif feysydd trafod yn canolbwyntio ar y canlynol: ·
Cais
Cyfalaf Atal Traffig 2020-21 – arwyddion brown i ddangos y Gymraeg uwch ben y
Saesneg. Byddai cynllun arwyddion brown Dyffryn Clwyd yn cynnwys arwyddion ar gyfer
Castell Rhuthun, Castell Dinbych ac Eglwys Gadeiriol Llanelwy. Byddai hefyd yn cynnwys teitl Dyffryn Clwyd
ac felly’n codi ymwybyddiaeth o’r Dyffryn.
Holodd yr Aelodau am amserlen ar gyfer yr arwyddion a chadarnhawyd y
bydd “Strategaeth Arwyddion Twristiaeth Sir Ddinbych” yn cael ei chyflwyno ger
bron y Pwyllgor Craffu Cymunedau ar 12 Mawrth 2020. ·
Holwyd
a fyddai ysgolion nad oeddent yn yr adroddiad yn cael eu moderneiddio yn y
dyfodol. Eglurwyd bod
band A Ysgolion yr 21ain Ganrif wedi cael ei gwblhau a bod y Cyngor bellach yn
cychwyn ar fand B. Roedd oedi gydag
ysgolion nad oeddent ym Mand A na B oherwydd cyfyngiadau ariannol.
Cadarnhaodd Aelod Arweiniol Addysg, Gwasanaethau Plant ac Ymgysylltu â’r
Cyhoedd y byddai’n edrych ar yr amserlenni. ·
Nododd
y Cynghorydd Gwyneth Kensler ei bod wedi cael adborth negyddol mewn perthynas
ag adeilad newydd Ysgol Crist y Gair yn y Rhyl, gan fod yna nifer o fân
broblemau i'w datrys. Cadarnhaodd nifer o aelodau bod mân broblemau’n codi gyda phob adeilad
newydd. Bu iddynt sicrhau’r Cyngor bod
yr adeilad o safon dda, gan annog yr aelodau i ymweld â’r ysgol i weld yr
adeilad. ·
Croesawyd
cyllid a ddyrannwyd ar gyfer pontydd, ond roedd gwerth £11m o waith yn aros i'w
wneud. Gofynnodd y Cynghorydd Martyn Holland a fyddai yna gyllid pellach ar gyfer
atgyweirio pontydd, yn enwedig yn dilyn y tywydd garw a gafwyd dros y misoedd
diwethaf. Cadarnhawyd y byddai rhywun yn cysylltu â Llywodraeth Cymru mewn
perthynas â chyllid ychwanegol. ·
Codwyd
pryderon mewn perthynas â thyllau yn y ffyrdd.
Mewn
ymateb, dywedodd y Cynghorydd Brian Jones bod gwaith ar y gweill i ganfod ateb
mwy parhaol, ac yn ogystal â’r ymweliadau blynyddol sydd ar ddod i Grwpiau
Ardal yr Aelodau i drafod cynnal a chadw ffyrdd, bydd gweithdy aelodau hefyd yn
cael ei drefnu ar faterion priffyrdd.
Cadarnhaodd y Cynghorydd Jones bod swyddogion yn edrych ar dechnoleg
newydd ac atebion mwy cost effeithiol. Cyfeiriodd y
Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts at y tywydd garw diweddar, gan ddiolch i’r
staff am eu gwaith caled gyda hynny. Ar y pwynt hwn,
cynigiodd y Cynghorydd Graham Timms y dylid dod â’r drafodaeth i ben a symud
i’r bleidlais. Eiliwyd y cynnig hwn. Felly cynhaliwyd
pleidlais ar p’un ai y dylid symud i’r bleidlais ai peidio drwy godi
dwylo. Roedd yr holl aelodau o blaid dod
â’r drafodaeth i ben a symud i’r bleidlais. PENDERFYNWYD y
byddai’r Aelodau yn: (i)
Nodi’r sefyllfa ddiweddaraf ar elfen
2019/2020 y Cynllun Cyfalaf a’r diweddariad ar brosiectau mawr. (ii)
Cefnogi argymhelliad y Grŵp Buddsoddi
Strategol fel y manylir yn Atodiad 5 ac y crynhoir yn Atodiad 6. (iii)
Cymeradwyo Cynllun Cyfalaf 2020/2021. (iv)
Cymeradwyo’r Adroddiad Strategaeth Cyfalaf
ar gyfer 2020/2021 fel y manylir yn Atodiad 7. (v) Gofyn i ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Cyllid ac Eiddo (copi yn amgaeedig) i geisio
cymeradwyaeth y Cyngor ar gyfer Datganiad Strategol Rheoli Trysorlys 2020/2021
a Dangosyddion Darbodus 2020/2021 – 2022/2023 Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr
Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol, y Cynghorydd Julian
Thompson-Hill, yr adroddiad (a gylchredwyd ymlaen llaw) i geisio cymeradwyaeth
y Cyngor ar gyfer Datganiad Strategaeth
Rheoli’r Trysorlys (TMSS) 2020/2021 a Dangosyddion Darbodus 2020/2021 i
2022/2023. Mae Cod Ymarfer y
Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth ar Reoli’r Trysorlys yn
gofyn i'r Cyngor gymeradwyo'r TMSS a'r Dangosyddion Darbodus bob blwyddyn. Cadarnhawyd y
buddsoddwyd gyda banciau bob tro. Roedd
buddsoddiadau dros dro yn cael eu gwneud yn y tymor byr ac nid oedd gan y
Cyngor unrhyw fuddsoddiadau eraill. Wrth fuddsoddi,
blaenoriaethau'r Cyngor yw: ·
cadw
arian yn ddiogel (diogelwch); ·
Sicrhau
bod yr arian yn dod yn ôl pan fydd ei angen (hylifedd) ·
Sicrhau
ein bod yn cael cyfradd elw dda (arenillion) Gofynnodd y
Cynghorydd Paul Penlington am restr o’r Banciau y buddsoddwyd ynddynt. PENDERFYNWYD y
byddai’r Cyngor yn: (i)
Cymeradwyo'r TMSS ar gyfer 2020/2021
(Atodiad 1). (ii)
Cymeradwyo’r gwaith o osod Dangosyddion
Darbodus ar gyfer 2020/2021, 2021/2022 a 2022/2023 (Atodiad 1 Ychwanegiad A). (iii)
Cymeradwyo'r Datganiad Darpariaeth Isafswm
Refeniw (Atodiad 1 Adran 6). (iv)
Cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried
yr Asesiad o’r Effaith ar Les (Atodiad 2) fel rhan o’i ystyriaethau. |
|
RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL Y CYNGOR SIR PDF 406 KB Ystyried Rhaglen
Gwaith i’r Dyfodol y Cyngor (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd
Pennaeth y Gyfraith, AD a Gwasanaethau Democrataidd Raglen Gwaith i'r Dyfodol y
Cyngor, ynghyd â Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol Briffio'r Cyngor (a ddosbarthwyd
ymlaen llaw). Gwahoddwyd yr
aelodau i gynnig enwebiadau am Is-gadeirydd y Cyngor ar gyfer blwyddyn y Cyngor
sydd i ddod, yn cychwyn ym mis Mai 2020. PENDERFYNWYD y
byddai Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cyngor a Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol
Briffio'r Cyngor yn cael eu cymeradwyo a’u nodi. |
|
Daeth y cyfarfod i ben am 12:05 p.m. |