Agenda and draft minutes
Lleoliad: SIAMBR Y CYNGOR, NEUADD Y SIR, RHUTHUN LL15 1YN
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafwyd
ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr Mabon ap Gwynfor, Hugh Irving,
Huw Jones, Geraint Lloyd-Williams a Peter Scott. |
|
DATGAN CYSYLLTIAD Aelodau i ddatgan
unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad
sy’n rhagfarnu yn y busnes a nodwyd
i’w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Datganodd yr
aelodau canlynol gysylltiad personol ag eitem rhif 4 ar y rhaglen : Gweithredu
Model Darparu Amgen (MDA) ar gyfer Amrywiol Weithgareddau / Swyddogaethau Cysylltiedig â Hamdden: Y Cynghorydd
Gwyneth Kensler – gan ei bod yn ysgrifenyddes i Theatr Twm o’r Nant. Roedd y
theatr wedi derbyn cefnogaeth gan hamdden ar gyfer y cynllun ‘Night Out – Noson
Allan’ a chymorth gan dîm
technegol Theatr y Pafiliwn. Yn ogystal, roedd ei gŵr yn aelod o un o ganolfannau hamdden y
Cyngor. Y Cynghorydd
Joseph Welch – gan fod ei blant yn defnyddio’r gwasanaethau hamdden a ddarperir
gan y Cyngor. Y Cynghorydd Emrys Wynne – gan ei fod yn aelod o Gorff
Llywodraethu Ysgol Brynhyfryd. Roedd y cysylltiad personol yn ymwneud â defnydd yr ysgol o gyfleusterau Canolfan
Hamdden Rhuthun yn ystod oriau ysgol. Datganwyd
cysylltiadau personol gan y Cynghorwyr Gareth Davies, Rachel Flynn a Paul
Penlington oherwydd eu haelodaeth i Hamdden Sir Ddinbych. Gofynnodd y
Cynghorydd Tony Flynn a oedd ei rôl flaenorol fel Cyfarwyddwr Hamdden Clwyd yn
cyfrif fel cysylltiad personol? Dywedodd y Swyddog Monitro, gan nad oedd
Hamdden Clwyd bellach yn bodoli nid oedd y rôl yn cyfrif fel cysylltiad
personol o dan y Cod Ymddygiad. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn
y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid oedd unrhyw
fater brys. |
|
Ystyried adroddiad gan y Cyfarwyddwr
Corfforaethol: Economi a Pharth Cyhoeddus yn ceisio barn y Cyngor mewn
perthynas â’r Achos Busnes drafft (copi yn yr atodiad) ar gyfer sefydlu Cwmni
Masnachu’r Awdurdod Lleol, ar gyfer ystod o weithgareddau/ swyddogaethau
"mewn cwmpas" a gytunwyd arnynt yn flaenorol yn ymwneud â hamdden. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyn parhau â’r eitem hon, talodd y Cynghorydd Bobby
Feeley deyrnged i’r tîm
etholiad a oedd yn gyfrifol am redeg yr etholiadau diweddar i Senedd Ewrop yn
effeithlon. Cefnogodd y Cynghorydd Arwel Roberts y sylwadau gan y Cynghorydd
Feeley. Cyflwynodd y
Cynghorwyr Bobby Feeley a Julian Thompson-Holl yr adroddiad ar y cyd yn ceisio
barn y Cyngor mewn perthynas â’r Achos Busnes drafft (Atodiad A) ar gyfer
sefydlu Cwmni Masnachu Awdurdod Lleol (LATC), ar gyfer ystod o weithgareddau/
swyddogaethau "mewn cwmpas" a gytunwyd arnynt yn flaenorol yn ymwneud
â hamdden. Adroddodd y Cynghorydd
Feeley ar y gwasanaethau a oedd wedi ‘gwella’n aruthrol’ a’r gwelliannau a
gyflawnwyd mewn perthynas â chyfleusterau a gweithgareddau hamdden Sir Ddinbych dros y 10 mlynedd
diwethaf. Amlinellodd rai o’r cyfleusterau newydd a gwell a dywedodd bod cyfanswm
y cymhorthdal i gefnogi gwasanaethau hamdden oddeutu yr un fath ag yr oedd yn
2012. Nododd fod llawer o’r gwelliannau wedi’u sicrhau’n defnyddio adnoddau
presennol neu fenthyca a hunan ariannwyd i fuddsoddi mewn cyfleusterau newydd
neu well. Darparwyd yr
Aelodau â manylion am y Bwrdd a
fyddai’n goruchwylio Cwmni Masnachu Awdurdod Lleol ynghyd ag aelodaeth
ddangosol o’r Bwrdd hwnnw. Tynnodd y Cynghorydd Feeley sylw at y trefniadau
arfaethedig a fyddai’n caniatáu i’r Cwmni Masnachu Awdurdod Lleol fod yn
llwyddiannus a pharhau i ffynnu mewn amgylchedd masnachol wrth ddiogelu a chadw
buddion y Cyngor a rheolaeth o Hamdden Sir Ddinbych. Adroddodd y
Cynghorydd Thompson-Hill ar y rhesymau ariannol dros sefydlu Model Darparu
Amgen, rhagwelwyd y byddai’r model hwn yn darparu arbedion sylweddol ar gyfer y
Cyngor wrth alluogi'r gwasanaeth i fasnachu’n fwy masnachol er mwyn helpu i
gynnal cyfleusterau ar gyfer y dyfodol. Yn gryno, amcangyfrifwyd bod yr
arbedion oddeutu £1,107k gydag arbedion mawr mewn perthynas â Threthi Annomestig Cenedlaethol a
thaliadau TAW. Ar ôl amlinellu’r costau hysbys ac arian at raid, amcangyfrifwyd
y byddai’r arbedion blynyddol net yn ystod y flwyddyn gyntaf yn £800k. Ar hyn o
bryd, mae’r cyfleusterau a'r gwasanaethau “mewn cwmpas”, hynny yw, y rhai y
cynigir eu trosglwyddo i’r Cwmni Masnachu Awdurdod Lleol, yn derbyn cymhorthdal
y Cyngor o oddeutu £3 miliwn y flwyddyn ond y byddai’r cymhorthdal yn cael ei
leihau drwy’r arbedion a gyflawnir gan y model Cwmni Masnachu Awdurdod Lleol. Trafodwyd y
pwyntiau canlynol gan yr Aelodau: ·
Bydd
yr adeiladau / tiroedd a ddefnyddir ar hyn o bryd ar gyfer darparu'r
gwasanaethau hamdden “mewn cwmpas” yn cael eu prydlesu i’r Cwmni Masnachu
Awdurdod Lleol ar rent pitw am gyfnod o 10 mlynedd. Bydd darpariaeth yn cael ei gwneud o fewn y
prydlesi i ddiogelu'r cytundebau lefel gwasanaeth presennol gydag ysgolion, a
chynnal y fynedfa bresennol i’r adeiladau ar gyfer etholiadau, gofynion
argyfwng ac ati. ·
Y
gwersi a ddysgwyd o brofiad Sir Ddinbych o ddefnyddio Hamdden Clwyd i reoli
cyfleusterau a’r rhai o brofiadau awdurdodau lleol eraill o Fodelau Darparu
Amgen. ·
Y
lefel o sicrwydd a'r risg mewn perthynas â chyflawni arbedion drwy ostyngiadau i Drethi Annomestig Cenedlaethol a
thaliadau TAW a’r risg i’r model pe bai deddfwriaeth yn newid yn y dyfodol ac
yn atal yr arbedion a ragolygwyd rhag cael eu gwireddu. Dywedwyd wrth yr
Aelodau bod y risgiau hyn yn bodoli ac eu bod wedi cael eu archwilio o fewn yr
achos busnes. O ganlyniad i’r Cyngor yn cadw perchnogaeth, byddai’r cytundeb
prydles yn darparu ar gyfer adennill asedau Cwmni Masnachu Awdurdod Lleol
drwy’r Cyngor dan amodau penodol. · Cadarnhawyd y byddai staff sy’n cael eu heffeithio yn cael eu trosglwyddo i’r Cwmni Masnachu Awdurdod Lleol dan reoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau Diogelu Cyflogaeth ac yn destun yr un telerau ac amodau â staff eraill yn Sir Ddinbych. Esboniodd Pennaeth ... view the full Cofnodion text for item 4. |
|
Cymerodd Aelod
Arweiniol Cyllid, y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, y cyfle i nodi bod y Pennaeth
Cyllid / Swyddog Adran 151, Richard Weigh, yn gadael Cyngor Sir Ddinbych ac mai
hwn oedd ei gyfarfod olaf gyda'r Cyngor Llawn. Cymeradwyodd gyfraniad a
llwyddiannau Mr Weigh, wedi iddo ymgymryd â rôl anodd mewn hinsawdd ariannol heriol.
Cefnogodd yr Aelodau’r deyrnged gan y Cynghorydd Thompson-Hill. |
|
RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL Y CYNGOR SIR PDF 497 KB Ystyried Rhaglen
Gwaith i’r Dyfodol y Cyngor (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd
Pennaeth y Gyfraith, AD a Gwasanaethau Democrataidd raglen gwaith i'r dyfodol y
Cyngor (dosbarthwyd eisoes). Cytunodd yr Aelodau i ohirio Adroddiad Blynyddol y
Pwyllgorau Craffu o gyfarfod y Cyngor ym mis Gorffennaf i'r cyfarfod ym mis
Hydref. PENDERFYNWYD - Yn
amodol ar yr uchod, bod y Cyngor yn cymeradwyo’r rhaglen gwaith i'r dyfodol. |