Agenda and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: |
|
DATGAN CYSYLLTIAD Yr Aelodau i
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Datganodd y Cyng.
Gwyneth Kensler gysylltiad personol ag eitem 6 ar y rhaglen (Gweithredu Model
Darparu Amgen ar gyfer Amrywiol Weithgareddau / Swyddogaethau Cysylltiedig â
Hamdden: Cyfansoddiad y Bwrdd Cyfarwyddwyr) gan fod Craig Kensler yn aelod o
Ganolfan Hamdden Sir Ddinbych a’i bod yn mynd i Theatr Twm o’r Nant, Dinbych a
Theatr y Pafiliwn, y Rhyl. Datganodd y Cyng.
Emrys Wynne gysylltiad personol ag eitem 7 (Llywodraeth Cymru: Fframwaith
Datblygu Cenedlaethol 2020-2040: Drafft Ymgynghori) gan fod aelod o’i deulu yn
Arolygydd Cynllunio yng Nghymru. Datganodd y
Cadeirydd, y Cyng. Meirick Lloyd Davies, gysylltiad personol ag eitem 10
(Adroddiad Blynyddol Pwyllgorau Craffu’r Cyngor 2018/2019) gan ei fod yn aelod
o Fwrdd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys
yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid oedd unrhyw
fater brys. Ar y pwynt hwn,
dywedwyd wrth yr Aelodau y byddai cwestiwn yn cael ei gyflwyno:- Gofynnodd y Cyng.
Peter Scott y cwestiwn canlynol:- “Ar 9 Hydref 2019
argraffodd y Journal erthygl tudalen flaen yn dweud y bydd penderfyniad
ynghylch y safle sipsiwn yn cael ei wneud y diwrnod hwnnw. Gan hynny, ni fyddai
unrhyw bwynt gwneud unrhyw sylw wedyn. Bydd pobl sy’n darllen hwn yn credu bod
hynny’n gywir hyd nes bydd y Journal yn cyflwyno datganiad diwygiedig ar 16
Hydref 2019. Felly, bydd rhai wedi colli o leiaf wythnos i ymateb. Pam nad oes
modd estyn y cyfnod ymgynghori un wythnos er mwyn darparu’r cyfnod teg byrraf i
bobl ymateb i’r ymgynghoriad?” Ymateb y Cyng.
Mark Young, Aelod Arweiniol y Cyngor ar gyfer Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a
Chymunedau Mwy Diogel – “Nid camgymeriad
Cyngor Sir Ddinbych yw hyn. Os yw hwn yn gais dilys oherwydd y posibilrwydd bod
preswylwyr yn colli cyfle i ddweud eu dweud, yna rwyf yn fodlon siarad efo
swyddogion am estyniad o wythnos.” Y Cyng. Peter
Scott – “Rwyf o ddifrif
ynghylch y cais hwn. Nid wyf yn credu bod unrhyw fai ar Gyngor Sir Ddinbych ac
rwyf yn cydnabod bod yna wybodaeth ar wefan Cyngor Sir Ddinbych. |
|
DYDDIADUR Y CADEIRYDD PDF 107 KB Nodi ymrwymiadau
dinesig a ymgymerwyd gan Gadeirydd y Cyngor (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Mae’r rhestr o
ddigwyddiadau dinesig y mae’r Cadeirydd a’r Is-Gadeirydd wedi’u mynychu rhwng
25 Awst 2019 a 4 Hydref 2019 wedi’i chylchredeg cyn y cyfarfod. PENDERFYNWYD derbyn
y rhestr o ddigwyddiadau dinesig y bu i’r Cadeirydd a'r Is-Gadeirydd eu
mynychu. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Cyngor Sir a gynhaliwyd 10 Medi 2019 (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod y Cyngor Llawn ar 10 Medi 2019. Cywirdeb – Ymddiheurodd y
Cadeirydd nad oedd y munud o dawelwch er cof am y diweddar Elwyn Edwards wedi’i
nodi yn y cofnodion. Dylai tudalen 8,
eitem 3 ddarllen “Hon yw’r sefyllfa gyfreithiol ond yr alwad gyntaf yw mynd i’r
afael â’r ddyletswydd ymddiriedol......” PENDERFYNWYD, yn
amodol ar yr uchod, cadarnhau cofnodion cyfarfod y Cyngor Llawn a gynhaliwyd ar
10 Medi 2019 fel cofnod cywir a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi. |
|
Ystyried
adroddiad ar y cyd gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Economi a Thir y Cyhoedd a
Phennaeth y Gyfraith, Adnoddau Dynol a’r Gwasanaethau Democrataidd (gweler copi
ynghlwm) i gael cymeradwyaeth y Cyngor ar gyfansoddiad y Bwrdd o Gyfarwyddwyr y
Cwmni. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Datganodd y Cyng.
Gwyneth Kensler gysylltiad personol gan fod Craig Kensler yn aelod o Ganolfan
Hamdden Sir Ddinbych a’i bod yn mynd i Theatr Twm o’r Nant, Dinbych a Theatr y
Pafiliwn, y Rhyl. Cyflwynodd Aelod
Arweiniol Lles ac Annibyniaeth yr adroddiad Gweithredu Model Darparu Amgen ar
gyfer Amrywiol Weithgareddau / Swyddogaethau Hamdden: Cyfansoddiad Bwrdd
Cyfarwyddwyr (a gylchredwyd yn barod) i ofyn am gymeradwyaeth y Cyngor ar gyfer
Bwrdd Cyfarwyddwyr y Cwmni, penodi nifer o gyfarwyddwyr, a’r dull o benodi’r
cyfarwyddwyr eraill. Ar 30 Mai 2019
rhoddodd y Cyngor gymeradwyaeth i greu cwmni masnachu nid er elw cyfyngedig
drwy warant fel model darparu amgen i ddarparu gwasanaethau hamdden ar ran y
Cyngor. Nid oedd unrhyw
ofyniad statudol o ran maint y Bwrdd Cyfarwyddwyr. Yr awgrym o fewn yr Achos
Busnes oedd penodi saith cyfarwyddwr. Cynigwyd i ffurfio Bwrdd Cyfarwyddwyr fel
a ganlyn: ·
Cyfarwyddwr
Corfforaethol: Economi a’r Parth Cyhoeddus ·
Rheolwr
Gyfarwyddwr ·
Aelod
Arweiniol Lles ac Annibyniaeth ·
Aelod
Arweiniol Addysg, Gwasanaethau Plant ac Ymgysylltu â’r Cyhoedd ·
Aelod
nad yw’n aelod o’r Cabinet ·
Cyfarwyddwr
Annibynnol x 2 Awgrymwyd y
dylai’r cyfarwyddwr nad yw’n aelod o’r Cabinet fod yn berson â phrofiad ym myd
busnes a/neu ddiddordeb yn y sector hamdden. Gofynnwyd am enwebiadau ac roedd
yn rhaid i’r enwebeion gyflwyno datganiad yn nodi pam eu bod yn bodloni
gofynion y swydd-ddisgrifiad i Bennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, AD a
Democrataidd erbyn 12 p.m. ddydd Gwener 11 Hydref 2019. Mae un enwebiad wedi'i
dderbyn a'i gylchredeg i bob Aelod cyn cyfarfod y Cyngor. Derbyniwyd
enwebiad gan y Cyng. Peter Prendergast sydd wedi cyflwyno CV gyda'i holl
brofiadau busnes perthnasol. Ar y pwynt hwn,
cynigiodd y Cyng. Joan Butterfield y dylai’r Cyng. Peter Prendergast gael ei
benodi i’r Bwrdd Cyfarwyddwyr ac eiliwyd y cynnig. Bydd y ddwy sedd
arall i gyfarwyddwyr yn cael eu llenwi gan unigolion annibynnol wedi’u
recriwtio drwy hysbysebu agored. Awgrymwyd y dylid hysbysebu un o’r rolau hyn
gyda phwyslais ar dderbyn ceisiadau gan unigolion sydd â chefndir mewn hamdden
fasnachol / cyllid, a’r llall gyda phwyslais ar dderbyn ceisiadau gan unigolion
sydd â chefndir mewn datblygu cymunedol / hamdden. Bydd panel
recriwtio gyda thri o aelodau etholedig a enwebir gan y Cyngor, yn ogystal â'r
Rheolwr Gyfarwyddwr, y Cyfarwyddwr Corfforaethol a chymorth gan AD, yn cwrdd i
lunio rhestr fer ac yna i gyfweld ag ymgeiswyr posib. Bydd y panel recriwtio
wedyn yn argymell i’r Cyngor pa unigolyn y dylid ei benodi a bydd gofyn i’r
Cyngor roi cymeradwyaeth i hynny. Ar y pwynt hwn,
cynigiodd y Cyng. Julian Thompson-Hill, y dylai’r Cyng. Hugh Irving fod yn rhan
o’r panel recriwtio ac fe eiliwyd y cynnig. Cynigiodd y Cyng.
Joan Butterfield y dylai’r Cynghr. Graham Timms a Brian Blakeley fod ar y panel
recriwtio, ac eiliwyd y cynnig hwnnw. PENDERFYNWYD: ·
Cymeradwyo cyfansoddiad Bwrdd Cyfarwyddwyr
y Cwmni fel y nodir ym mharagraff 4.4 yr adroddiad a phenodi Cyfarwyddwr
Corfforaethol: Economi a’r Parth Cyhoeddus, Aelod Arweiniol Lles ac
Annibyniaeth, Aelod Arweiniol Addysg, Gwasanaethau Plant ac Ymgysylltu â’r
Cyhoedd a’r Rheolwr Gyfarwyddwr yn gyfarwyddwyr y cwmni. ·
Penodi’r Cyng. Peter Prendergast, nad yw’n
aelod o’r Cabinet, i fod yn un o gyfarwyddwyr y cwmni. ·
Cymeradwyo’r broses recriwtio arfaethedig
ar gyfer penodi’r ddau gyfarwyddwr annibynnol a phenodi’r Cynghr. Brian
Blakeley, Hugh Irving a Graham Timms i eistedd ar y panel recriwtio fel y nodir
ym mharagraff 4.7 yr adroddiad. ·
Bod yr Aelodau yn cadarnhau eu bod wedi
darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o’r Effaith ar Les (Atodiad 1, cyf. 564)
fel rhan o’u hystyriaethau. |
|
LLYWODRAETH CYMRU: FFRAMWAITH DATBLYGU CENEDLAETHOL 2020 - 2040; DRAFFT YMGYNGHORI PDF 250 KB I ystyried adroddiad
gan y Swyddog Cynllunio (copi ynghlwm) i ddarparu gwybodaeth i’r Cyngor ar
Lywodraeth Cymru. Fframwaith Datblygu
Cenedlaethol 2020 – 2040; Drafft Ymgynghori Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Datganodd y Cyng.
Emrys Wynne gysylltiad personol â’r eitem hon gan fod aelod o’i deulu yn
Arolygydd Cynllunio yng Nghymru. Cyflwynodd Aelod
Arweiniol Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Chymunedau Mwy Diogel adroddiad
Llywodraeth Cymru: Fframwaith Datblygu Cenedlaethol 2020-2040: Drafft
Ymgynghori (a gylchredwyd yn barod) i ddarparu gwybodaeth i’r Cyngor am gynnwys
dogfen ymgynghori Llywodraeth Cymru oherwydd yr effaith y bydd yn ei chael ar
luniad Cynllun Datblygu Lleol nesaf y sir yn ogystal â’i bwysigrwydd fel
ffynhonnell bolisi cenedlaethol i wneud penderfyniadau ar geisiadau ac
apeliadau cynllunio. Mae’r swyddogion
wedi gweithio ar draws adrannau’r Cyngor er mwyn llunio'r ymateb i’r
ymgynghoriad (Atodiad 1). Unwaith y bydd
wedi’i gwblhau bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi’r Fframwaith Datblygu
Cenedlaethol (FfDC) ym mis Medi 2020. Bydd y FfDC yn berthnasol i Gymru gyfan a
bydd yn nodi goblygiadau defnydd tir polisïau ac amcanion allweddol
cenedlaethol. Mae’n nodi’r fframwaith ar gyfer datblygu cynlluniau haen isaf
h.y. Cynlluniau Datblygu Strategol a Chynlluniau Datblygu Lleol. Nid oes
Cynlluniau Datblygu Strategol yng Nghymru ar hyn o bryd. Yn ystod
trafodaeth fanwl codwyd y pwyntiau canlynol: ·
Dywedwyd
bod angen ehangu’r ymgynghoriad â’r cyhoedd. Cadarnhaodd Aelod Arweiniol Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Chymunedau Mwy
Diogel fod dros 2000 o ymatebion wedi’u derbyn yn dilyn yr ymgynghoriad.
[Cafwyd sylw ynglŷn ag ymgynghoriad cyn adneuo CDLl Cyngor Sir Ddinbych;
nid y FfDC drafft] ·
Roedd
ansawdd y mapiau a ddarparwyd yn broblem fawr. ·
Roedd
pryder ynghylch y posibilrwydd o or-ddatblygu’r ardal arfordirol. ·
Dylai
tai fod yn ecogyfeillgar o ystyried yr argyfwng newid hinsawdd, ac mae hynny
wedi’i gytuno arno yn dilyn Hysbysiad o Gynnig yn y Cyngor Llawn. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod yr argyfwng newid hinsawdd yn y FfDC. ·
Dywedodd
yr Aelodau fod tai fforddiadwy yn broblem fawr a bod angen mwy o dai dwy
ystafell wely. Mae’r FfDC yn nodi y dylai 51% o’r tai fod yn fforddiadwy ond nid yw’n
ymddangos bod unrhyw waith wedi’i wneud o ran a yw hynny’n hyfyw ac yn
gyraeddadwy. Mae Cyngor Sir Ddinbych ar hyn o bryd yn cynnal astudiaeth
hyfywedd ar gyfer y CDLl newydd, o ran pa ganran o dai fforddiadwy y mae modd
ei chynnwys yn y ddogfen. Os ceisir canran uchel o dai fforddiadwy drwy’r
polisi lleol, ond yn groes i’r asesiad hyfywedd, ni fyddai hynny’n gyraeddadwy.
Bydd y swyddogion yn siŵr o ddarparu gwybodaeth am unrhyw gynnydd mewn
perthynas â’r CDLl i’r Aelodau. ·
Mae
yna amcangyfrif o ffigyrau tai yn y FfDC nad ydynt yn ofyniad polisi ond, yn
hytrach, yn seiliedig ar fodel Albanaidd sydd wedi’i ddefnyddio gan Lywodraeth
Cymru. ·
Mae
cysylltiadau i dde Cymru, yn hytrach na gogledd Lloegr, wedi’u nodi fel
blaenoriaeth. Cadarnhawyd fod y cysylltiad â Glannau Mersi a gogledd orllewin Lloegr
wedi’i wneud oherwydd bod gan yr ardaloedd hyn economi cryfach. Cadarnhawyd
hefyd fod angen cysylltu cludiant cyhoeddus â mwy o gymunedau. ·
Cadarnhawyd
y bydd pob mater a godir yn y cyfarfod yn cael ei fwydo'n ôl i Lywodraeth
Cymru. Cadarnhaodd Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, AD a Democrataidd y bydd Bil
Llywodraeth Leol yn cael ei gyhoeddi cyn diwedd y flwyddyn. Bydd y Bil yn
cynnwys gwybodaeth ynglŷn â Chydbwyllgorau Corfforaethol a chyrff
rhanbarthol ond, hyd nes bydd y Bil wedi'i gyhoeddi, nid oes rhagor o wybodaeth
i'w chyflwyno i Aelodau. Dywedodd yr Arweinydd, y Cyng. Hugh Evans, fod CLlLC wedi ymateb yn gryf
i’r Bil o ran y gofynion gorfodol. Mae’n gwanhau lleoliaeth a mynegodd bryder
ynghylch hynny. Bydd cyfarfod ddydd Gwener 18 Hydref 2019 a bydd yr Arweinydd
yn mynegi’r holl bryderon. Mynegodd y Cyng. Arwel Roberts bryder ynghylch nod Llywodraeth Cymru i gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|
Ar y pwynt hwn (11.20a.m.) cafwyd egwyl o 20
munud. Ailddechreuodd y cyfarfod am 11.40 a.m. |
|
DIWEDDARIADAU I GYFANSODDIAD Y CYNGOR PDF 206 KB Ystyried
adroddiad gan y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol (gweler copi ynghlwm) i roi diweddariad
blynyddol i’r Cyngor ac i gynghori ar newidiadau arfaethedig sydd angen eu
gwneud i Gyfansoddiad y Cyngor. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Swyddog Monitro’r adroddiad Diweddariadau i Gyfansoddiad y Cyngor (a
gylchredwyd yn barod) i ddarparu diweddariad blynyddol i’r Cyngor a chynghori
ar y newidiadau arfaethedig sydd angen eu gwneud i'r Cyfansoddiad. Mae cylch
gorchwyl y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yn nodi bod yn rhaid i’r
Pwyllgor ystyried unrhyw newid a fwriedir i Gyfansoddiad y Cyngor cyn iddo gael
ei fabwysiadu’n ffurfiol gan y Cyngor llawn, ac mae’r Pwyllgor yn derbyn
adroddiad ar y Cyfansoddiad o leiaf unwaith y flwyddyn o ystyried ei
bwysigrwydd i fframwaith llywodraethu cyffredinol y Cyngor. Yn ei gyfarfod ar
11 Medi 2019 ystyriodd y Pwyllgor adroddiad ar y Cyfansoddiad ac argymell bod y
Cyngor yn cymeradwyo’r newidiadau a nodir yn Atodiadau 1 a 2. Mae’r Swyddog
Monitro yn fodlon bod y Cyfansoddiad yn addas i’r diben ac yn cadarnhau bod y
Cyfansoddiad wedi’i newid i gymryd y canlynol i ystyriaeth: ·
Mae
Adran 5.2 yn ymwneud â ffurf a chyfansoddiad y Cabinet wedi'i ddiwygio i
adlewyrchu penderfyniad y Cyngor ar 19 Chwefror 2019 ·
Cylch
Gorchwyl y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol ar ôl ymgynghori â’r Pwyllgor,
sydd wedi’i gymeradwyo gan y Cyngor Llawn ar 19 Chwefror 2019 ·
Cyfrifoldeb
dros Swyddogaethau Gweithrediaeth – Gwnaethpwyd newidiadau i bortffolio Aelod
Cabinet yn dilyn newidiadau a wnaed gan Arweinydd y Cyngor ·
Cyfuno
dau bwyllgor presennol i ffurfio’r Cydbwyllgor Ymgynghorol ar gyfer Iechyd a
Diogelwch a Chysylltiadau Gweithwyr yn unol â phenderfyniad y Cyngor ar 28
Mawrth 2019 ·
Rhestr
Taliad Cydnabyddiaeth Aelodau’r Cyngor yn cael ei ddiweddaru Mae’n rhaid i’r
Cyngor ystyried y newidiadau i’w gwneud i’r Cynllun dirprwyo o ran y newidiadau
a wnaethpwyd yn sgil ailstrwythuro’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth. Ailstrwythurwyd
yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth yn dilyn cymeradwyaeth y Cyngor ar 30 Mai 2019 i
greu Model Darparu Amgen ar gyfer y Gwasanaethau Hamdden: ·
Cynllun
Dirprwyo Swyddog – mae’r cynllun arfaethedig yn Atodiad 1 yn delio gyda
throsglwyddo rhai swyddogaethau sy’n ymwneud â thai; trosglwyddo rhai
swyddogaethau ased ac ystadau a’r cyfrifoldeb o ran swyddogaethau hamdden yn
dawel ac yn derbyn sylw dan gynllun y Cabinet. ·
Cynllun
Dirprwyo’r Cabinet (Atodiad 2) – darpariaeth ddatganedig sy’n nodi bod y
swyddogaethau hyn yn gyfrifoldeb ar yr aelod arweiniol perthnasol. PENDERFYNWYD: ·
Bod y Cyngor yn nodi’r newidiadau i’r
Cyfansoddiad fel yr amlinellir ym mharagraff 4.1 yr adroddiad ·
Bod y Cyngor yn cymeradwyo'r newidiadau
i’r Cynllun Dirprwyo fel yr amlinellir yn Atodiadau 1 a 2 yr adroddiad. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL Y PWYLLGOR LLYWODRAETHU CORFFORAETHOL PDF 244 KB Ystyried
adroddiad gan Bennaeth y Gyfraith, Adnoddau Dynol a’r Gwasanaethau Democrataidd
(copi ynghlwm) i’r Cyngor ystyried gwaith y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol
ar gyfer blwyddyn y cyngor 2018/2019. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y
Cyng. Barry Mellor (Cadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol) yr
adroddiad (a gylchredwyd yn barod) i roi gwybod i bob Aelod am waith y Pwyllgor
yn 2018/19. Dan
ddarpariaethau Mesur Llywodraeth Leol Cymru 2011 mae’n ofyniad statudol i’r
Cyngor gael Pwyllgor Archwilio. Y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol (y
Pwyllgor) oedd pwyllgor dynodedig y Cyngor ar gyfer y diben hwn. Mae Cyfansoddiad
y Cyngor yn gofyn bod aelodaeth y Pwyllgor yn wleidyddol gytbwys ac yn cynnwys
chwe Aelod Etholedig. Nid oes gofyniad statudol i'r Pwyllgor fod yn wleidyddol
gytbwys. Ond mae’n rhaid cael o leiaf un aelod lleyg annibynnol sef, ar hyn o
bryd, Mr Paul Whitham. Mae Swyddog Adran
151 y Cyngor, Swyddog Monitro a Phennaeth Archwilio Mewnol, neu eu
cynrychiolwyr, yn bresennol ymhob cyfarfod. Yn ychwanegol at hynny, mynychir
pob cyfarfod gan swyddogion o Swyddfa Archwilio Cymru. Yn ystod y cyfnod
dan sylw yn yr adroddiad hwn, mae’r Pwyllgor wedi derbyn nifer o adroddiadau
blynyddol mewnol ar faterion yn ymwneud â llywodraethu. Mae’r rhain wedi
cynnwys: ·
Adroddiad
ar y Datganiad Llywodraethu Blynyddol ·
Adroddiad
Blynyddol Iechyd a Diogelwch Corfforaethol ·
Adroddiad
Blynyddol yr Uwch Swyddog Risg Gwybodaeth ·
Adroddiad
Blynyddol Rhannu Pryderon Mae’r Pwyllgor
hefyd wedi derbyn nifer o adroddiadau yn ymwneud â materion ariannol. Mae’r
rhain wedi cynnwys: ·
Datganiad
Cyfrifon – ceir toreth o wybodaeth yn ymwneud â’r cyfrifon ac felly cyflwynir y
drafft i’r Pwyllgor mewn cyfarfod cyn toriad yr haf ac yna fe gyflwynir y
datganiad cyfrifon terfynol i’w cymeradwyo ym mis Medi. ·
Rheoli
Trysorlys – mae’r Pwyllgor yn derbyn dau adroddiad pob blwyddyn. Mae’r Pwyllgor
hefyd yn derbyn adroddiadau rheoleiddio allanol. Mae’r rhain wedi cynnwys: ·
Adroddiad
Gwella Blynyddol Swyddfa Archwilio Cymru – roedd yr adroddiad ar y cyfan yn
gadarnhaol iawn ac ni wnaethpwyd unrhyw argymhelliad sylweddol ar gyfer newid. Cyflwynwyd chwech ‘cynnig ar gyfer gwelliant i’r Cyngor ynghyd â chamau
gweithredu ar gyfer pob un. ·
Llythyr
Archwilio Blynyddol Swyddfa Archwilio Cymru – roedd Swyddfa Archwilio Cymru yn
fodlon bod gan y Cyngor drefniadau priodol ar waith i sicrhau ei fod yn
defnyddio adnoddau yn economaidd, effeithlon ac effeithiol. Hefyd, ni nodwyd unrhyw
fater sylweddol a all effeithio ar gyfrifon 2018-19 na systemau ariannol
allweddol. ·
Trosolwg
a Chraffu – daeth yr adroddiad i’r casgliad bod swyddogaeth drosolwg a
chraffu’r Cyngor yn ymateb yn dda i heriau presennol. Fodd bynnag, gall gallu
cyfyngedig i gefnogi craffu atal cynnydd yn y dyfodol. ·
Defnydd
Data’r Llywodraeth Leol – mae’r adroddiad yn nodi bod gan y Cyngor y sylfeini i
ddefnyddio data yn well, ond bod angen gwella’r ffordd y caiff data ei
ddadansoddi a’i gyflwyno i’r rheiny sy’n gwneud penderfyniadau. Mae’r Pwyllgor
hefyd wedi derbyn adroddiadau rheolaidd gan y Prif Archwilydd Mewnol ar y
cynnydd a wneir yn erbyn y Cynllun Archwilio Mewnol a gymeradwywyd gan y
Pwyllgor. Yn ogystal, mae’r
Pwyllgor wedi cynnal hunanasesiad o’i berfformiad ei hun a’i gymharu â’r arfer
gorau presennol. Gwnaed yr asesiad hwn yn erbyn rhestr wirio o ganllaw’r
Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth (CIPFA) “Pwyllgorau
Archwilio – Canllaw Ymarferol ar gyfer Awdurdodau Lleol a’r Heddlu Rhifyn 2018”. Roedd y Pwyllgor
wedi ystyried ei enw fel rhan o’r asesiad ac wedi dod i’r casgliad y dylai’r
enw gynnwys cyfeiriad at y swyddogaeth bwysig o fod yn bwyllgor archwilio yn
unol â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011. Mae’r Pwyllgor wedi argymell mai Pwyllgor
Llywodraethu Corfforaethol ac Archwilio y dylid ei alw. Cymerodd y Cyng. Barry Mellor y cyfle hwn i ddiolch i gynrychiolwyr Swyddfa Archwilio Cymru a'r holl swyddogion sy’n mynychu’r cyfarfodydd Llywodraethu Corfforaethol. Yn benodol, cydnabu faint o waith a wneir gan y tîm Archwilio Mewnol. Diolchwyd i bob aelod o’r Pwyllgor gan fod ... view the full Cofnodion text for item 9. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL PWYLLGORAU CRAFFU'R CYNGOR 2018/2019 PDF 225 KB Ystyried
adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (gweler copi ynghlwm) i'r Cyngor ystyried yr
Adroddiad Blynyddol ar Bwyllgorau Craffu 2018/2019. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Datganodd y
Cadeirydd, y Cyng. Meirick Lloyd Davies, gysylltiad personol gan ei fod yn
aelod o Fwrdd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru. Cyflwynodd y
Cyng. Graham Timms Adroddiad Blynyddol Pwyllgorau Craffu’r Cyngor (a
gylchredwyd yn barod) ar eu gweithgareddau yn ystod 2018/19. Mae’r Adroddiad
Blynyddol yn un o ofynion Adran 7.4.4 o Gyfansoddiad y Cyngor, sy’n nodi bod yn
rhaid i Bwyllgorau Craffu adrodd yn flynyddol i'r Cyngor Llawn am eu gwaith
gydag argymhellion ar gyfer eu rhaglenni gwaith i’r dyfodol ac ar ddulliau
gweithio diwygiedig os yw hynny’n briodol. Eglurodd y Cyng.
Timms pam bod yr adroddiad yn hwyr yn cael ei gyflwyno oherwydd bod y Swyddog
Craffu wedi bod yn rhan o’r Ymchwiliad i Dân Llantysilio sydd wedi’i gynnwys yn
yr adroddiad. Caiff ffurflenni
testunau craffu eu cyflwyno gan aelodau, swyddogion ac aelodau o’r cyhoedd, a’u
rhoi i’r Grŵp Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion Craffu sy’n defnyddio’r
meini prawf i benderfynu a yw eitem yn deilwng o sylw neu beidio. Mae’r adroddiad
yn amlinellu rôl bwysig y Pwyllgorau Craffu o ran cefnogi gwaith y Cyngor i
ddarparu ei flaenoriaethau corfforaethol a’r Cynllun Corfforaethol, gan gynnwys
monitro darpariaeth y Cynllun yn rheolaidd. Mae’r Pwyllgorau
Craffu wedi parhau i gymryd rhan mewn ymarferion ymgynghori a gwahodd nifer o
sefydliadau allanol a phartneriaid i gyfarfod gyda phwyllgorau i drafod meysydd
o ddiddordeb neu bryderon cyffredin. Mae ymgysylltu
â’r cyhoedd ac annog preswylwyr i ryngweithio â’r broses graffu yn her, ond mae
preswylwyr ac unigolion eraill o’r tu allan wedi ymgysylltu ynghylch dau fater
sylweddol yn ymwneud â phenderfyniadau’r Cabinet a alwyd i mewn. Roedd y
penderfyniadau yn ymwneud â safleoedd sipsiwn a theithwyr yn y sir ac
ymchwiliad craffu i dân mynydd Llantysilio yn ystod haf 2018. Cytunodd Cyngor
Bwrdeistref Sirol Conwy a Chyngor Sir Ddinbych yn ffurfiol i sefydlu
Cydbwyllgor Craffu i graffu ar y Bwrdd Gwasanaethau Lleol, sef y pwyllgor
cyntaf o’r fath yng Nghymru. Cynhaliwyd y cyfarfod cyntaf fis Mai 2019. Hefyd yn yr
adroddiad blynyddol fe geir gwybodaeth am y grwpiau tasg a gorffen/gweithgorau
sy’n gweithredu dan nawdd Pwyllgorau Craffu’r Cyngor. Diolchodd y Cyng.
Timms a’r Aelodau eraill i’r Swyddog Craffu, Rhian Evans, am ei chefnogaeth a’i
gwaith campus drwy gydol y flwyddyn. Diolchwyd hefyd i’r Swyddog Gwasanaethau
Democrataidd, Steve Price, am ei gefnogaeth a’i waith. Mynegodd yr Aelodau eu pryderon
ynghylch y pwysau ar swyddogion craffu oherwydd eu llwyth gwaith. PENDERFYNWYD bod
y Cyngor yn ystyried ac yn nodi Adroddiad Blynyddol y Pwyllgorau Craffu ar
gyfer 2018/19. |
|
ADOLYGU DOSBARTHIADAU ETHOLIADOL A MANNAU PLEIDLEISIO PDF 210 KB Ystyried
adroddiad ar y cyd gan y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd a’r Swyddog
Gwasanaethau Etholiadol (gweler copi ynghlwm) yn gofyn i'r Cyngor gytuno i'r
Dosbarthiadau Etholiadol a’r Mannau Pleidleisio wedi’u cynnwys yn Atodiad 1 o’r
adroddiad. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd
Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd, Steve Price, adroddiad ar yr Adolygiad o
Ddosbarthiadau Etholiadol a Mannau Pleidleisio (a gylchredwyd yn barod) i
dderbyn cytundeb y Cyngor i’r Dosbarthiadau Etholiadol a Mannau Pleidleisio a
nodir yn Atodiad 1 yr adroddiad hwn. Mae’n ddyletswydd
statudol ar y Cyngor i rannu ei ardal yn ddosbarthiadau etholiadol a dynodi man
pleidleisio ar gyfer bob dosbarth. Mae hefyd yn ddyletswydd statudol i
adolygu’r trefniadau hyn. Yn ystod y
drafodaeth eglurodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd a’r Swyddog
Gwasanaethau Etholiadol bod ymgynghoriad cyhoeddus wedi’i gynnal rhwng 1
Gorffennaf 2019 a 6 Medi 2019, a gwahoddwyd etholwyr a phartïon â diddordeb i
gyflwyno sylwadau ar y trefniadau presennol. Ni fu i’r
ymgynghoriad cyhoeddus godi unrhyw newid sylweddol ar wahân i ychwanegu ychydig
o fannau pleidleisio: ·
Defnyddio
Adeilad 3 (ar gampws Ysgol Glan Clwyd / Canolfan Hamdden Llanelwy) fel man
pleidleisio ar gyfer dosbarth etholiadol BLS os yw’r gwaith ail-fodelu yn
gwneud yr adeilad yn addas i’w ddefnyddio fel man pleidleisio. ·
Defnyddio
Clwb Rygbi’r Rhyl ar Ffordd Tynewydd, y Rhyl fel Man Pleidleisio BRB os yw ar
gael i’w ddefnyddio fel man pleidleisio. ·
Defnyddio
Canolfan Gymunedol Cyngor Tref Rhuthun yn yr Hen Lys, Sgwâr Sant Pedr, Rhuthun
fel Man Pleidleisio CAA yn dilyn cau Canolfan Awelon. Roedd pryder
ynghylch defnyddio’r Hen Lys ar Sgwâr Sant Pedr oherwydd nad oes cyfleusterau
parcio i bleidleiswyr. PENDERFYNWYD bod
y Cyngor Sir yn cytuno â’r trefniadau presennol ar gyfer dosbarthiadau
etholiadol a mannau pleidleisio fel y manylir yn Atodiad 1, yn amodol ar
awdurdodi’r canlynol: ·
Defnyddio Adeilad 3 (ar gampws Ysgol Glan
Clwyd / Canolfan Hamdden Llanelwy) fel man pleidleisio ar gyfer dosbarth
etholiadol BLA os yw’r gwaith ail-fodelu yn gwneud yr adeilad yn addas i’w
ddefnyddio fel man pleidleisio; ·
Defnyddio Clwb Rygbi’r Rhyl ar Ffordd
Tynewydd, y Rhyl fel Man Pleidleisio BRB os yw ar gael i’w ddefnyddio fel man
pleidleisio; a ·
Defnyddio Canolfan Gymunedol Cyngor Tref
Rhuthun yn yr Hen Lys, Sgwâr Sant Pedr, Rhuthun fel Man Pleidleisio CAA yn
dilyn cau Canolfan Awelon. |
|
RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL Y CYNGOR SIR PDF 407 KB Ystyried Rhaglen
Gwaith i’r Dyfodol y Cyngor (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd
Pennaeth y Gyfraith, AD a Gwasanaethau Democrataidd Raglen Gwaith i'r Dyfodol y
Cyngor ynghyd â Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol Briffio'r Cyngor (a ddosbarthwyd yn
barod). Cadarnhawyd y
bydd Gweithdy Cyllideb yn cael ei gynnal ar 3 Rhagfyr 2019 am 10.00 a.m. Bydd cyfarfod y
Cyngor Llawn ar 3 Rhagfyr 2019 yn dechrau am 2.00 p.m. Hyd yma, nid oes unrhyw
eitem ar y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol ac os yw’n parhau felly bydd y cyfarfod
yn cael ei ganslo. PENDERFYNWYD, yn
amodol ar yr uchod, y dylid cymeradwyo a nodi Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y
Cyngor a Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol Briffio'r Cyngor. |
|
Daeth y cyfarfod i ben am 12.40 p.m. |